Meini prawf cymhwystra a sut i ymgeisio ar gyfer grant i fyfyrwyr addysg gychwynnol athrawon ôl-raddedig sy'n astudio pynciau penodol.
Cynnwys
Trosolwg
Mae'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yn darparu grant o £15,000 i fyfyrwyr sydd:
- yn astudio pynciau penodol (pynciau â blaenoriaeth) ar raglen AGA ôl-raddedig
- yn bodloni’r meini prawf cymhwystra
Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2026 i 2027. Gallwch wneud cais am y grant hwn os ydych ar raglen AGA sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) rhwng 1 Medi 2026 a 31 Awst 2027.
Dylech ddarllen y canllawiau hyn ar y cyd â thelerau ac amodau’r cynllun.
Mae’r grant cymhelliant AGA hwn yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio cyfredol o fewn y gweithlu addysgu yng Nghymru.
Meini prawf cymhwystra ar gyfer y cynllun cymhelliant
Rhaid ichi:
- feddu ar gymhwyster gradd o 2.2 neu uwch
- bod ar raglen AGA ôl-raddedig yng Nghymru sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC)
- bodloni'r meini prawf cymhwystra ar gyfer y rhandaliadau
Rhaid i chi hefyd astudio un o'r pynciau a blaenoriaeth hyn fel eich prif pwnc.
- Bioleg
- Cemeg
- Dylunio a Thechnoleg
- Technoleg Ddigidol a/neu Gyfrifiadureg
- Mathemateg
- Ieithoedd Rhyngwladol
- Ffiseg
- Cymraeg
Mae'r grant ar gael i fyfyrwyr amser llawn a rhai rhan-amser. Nid oes angen i'ch gradd gyntaf fod yn yr un pwnc â’r pwnc sy’n cael ei astudio ar y rhaglen AGA ôl-raddedig.
Myfyrwyr nad ydynt yn gymwys ar gyfer y grant hwn
- Myfyrwyr â Graddau er Anrhydedd. Nid yw graddau er anrhydedd yn cael eu cydnabod fel cymwysterau academaidd at ddibenion y grant hwn.
- Myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys y 'cynllun TAR Cyflogedig'.
- Myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR AHO).
Meini prawf cymhwystra ar gyfer rhandaliadau
Rhandaliadau yn ystod y rhaglen
I gael y rhandaliad yn ystod y rhaglen, rhaid ichi fodloni'r holl feini prawf canlynol. Rhaid ichi:
- dilyn rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru. Rhaid i'r rhaglen honno ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi un flwyddyn academaidd a chyn 1 Medi y flwyddyn academaidd ganlynol
- bod yn fyfyriwr cymwys â hawl ganddo i gael cymorth ariannol o dan reoliadau sydd mewn grym ar y pryd o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, fel y mae’r rheoliadau hynny yn gymwys i’r cwrs hwnnw
- peidio â bod wedi cymhwyso fel athro neu athrawes eisoes
- peidio â bod wedi’i gyflogi i addysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro neu athrawes wrth ddechrau ar raglen AGA ôl-raddedig gymwys
- peidio â bod yn dilyn hyfforddiant a drefnwyd o dan gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, gan gynnwys y TAR cyflogedig
- peidio ag ymgymryd â chwrs addysg bellach o unrhyw fath
- bwriadu parhau a chwblhau eich rhaglen gymwys
Rhandaliad SAC
I gael y rhandaliad SAC, rhaid ichi fodloni'r holl feini prawf canlynol. Rhaid eich bod:
- wedi cwblhau rhaglen AGA gymwys
- wedi cael Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn unol â Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012
- wedi cael y taliad yn ystod y rhaglen, neu ddau rhandaliad os ydych yn rhan-amser
Y rhandaliad sefydlu
I gael y rhandaliad sefydlu, rhaid ichi fodloni'r holl feini prawf canlynol. Rhaid eich bod:
- wedi cael yr holl rhandaliadau yn ystod y rhaglen
- wedi cael y rhandaliad SAC
- wedi cwblhau'r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus o fewn tair blynedd ar ôl ennill SAC mewn lleoliad uwchradd a gynhelir yng Nghymru
- wedi cael tystysgrif sefydlu
- rhaid i chi wneud eich hawliad o fewn 1 blwyddyn i gwblhau eich cyfnod sefydlu
Mae'n bosibl na fydd cyllid ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cael eu derbyn ar raglen AGA ar ôl i'r nifer targed ar gyfer y rhaglen gael ei gyrraedd. Cysylltwch â'ch Partneriaeth AGA i gael gwybod a yw hyn yn effeithio arnoch chi.
Sut mae gwneud cais
Bydd eich partneriaeth AGA yn rhoi gwybod ichi a ydych yn gymwys i gael y cymhelliant hwn.
Gallwch wneud cais rhwng 1 Medi a 15 Tachwedd 2026.
Bydd eich partneriaeth AGA yn rhoi arweiniad ichi ar y broses ymgeisio.
Sut y byddwch yn cael eich talu
Byddwch yn cael eich rhanaliadau yn ystod y rhaglen a rhanhaliad SAC gan eich Partneriaeth AGA.
Byddwch yn cael y rhandaliad sefydlu olaf gan Lywodraeth Cymru. Rhaid i chi wneud cais yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru am y rhandaliad hwn. Cyn gwneud cais rhaid i chi fod wedi cwblhau'r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus ac wedi cael eich tystysgrif sefydlu.
Myfyrwyr amser llawn
Bydd y cymelldaliadau gwerth cyfanswm o £15,000 yn cael eu gwneud mewn tri rhandaliad. Byddant yn cael eu talu ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA a dechrau gyrfa myfyriwr:
- £6,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR. Rhaid i chi fod yn parhau â'ch rhaglen AGA i fod yn gymwys ar gyfer y rhandaliad hwn.
- £6,000 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo. Os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr
- £3,000 ar ôl cwblhau'r cyfnod sefydlu yng Nghymru yn llwyddiannus.
Myfyrwyr rhan-amser
Bydd y cymelldaliadau gwerth £15,000 yn cael eu gwneud mewn pedwar rhandaliad. Byddant yn cael eu talu ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA ran-amser a dechrau gyrfa myfyriwr:
- £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR. Rhaid i chi fod yn parhau â'ch rhaglen AGA i fod yn gymwys ar gyfer y rhandaliad hwn.
- £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf a thymor cyntaf ail flwyddyn ei gwrs TAR. Rhaid i chi fod yn parhau â'ch rhaglen AGA i fod yn gymwys ar gyfer y rhandaliad hwn.
- £6,000 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo. Os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr.
- £3,000 ar ôl cwblhau'r cyfnod sefydlu yng Nghymru yn llwyddiannus.
Taliadau yn ystod y rhaglen
Bydd myfyriwr cymwys amser llawn yn cael un rhandaliad yn ystod y rhaglen. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cael dau rhandaliad. Partneriaethau AGA sy’n gyfrifol am wneud y taliadau yn ystod y rhaglen i fyfyrwyr. Byddant yn pennu'r union ddyddiad talu. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau atynt.
Rhaid i chi fod yn parhau â'ch rhaglen AGA i fod yn gymwys ar gyfer y rhandaliad hwn.
Taliad SAC
Eich Partneriaeth AGA sy'n gyfrifol am wneud y taliad SAC. Byddant yn pennu'r union ddyddiad talu. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau atynt.
Os na fyddwch yn llwyddo i gael SAC, ni fydd gennych hawl i gael yr rhandaliad SAC. Eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu â'ch Partneriaeth AGA i gadarnhau a ydych yn gymwys i hawlio’r taliad grant hwn.
Y rhandaliad sefydlu
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wneud y rhanldaliad sefydlu. Byddant yn pennu'r union ddyddiad talu. Bydd eich Partneriaeth AGA yn darparu gwybodaeth i chi ar sut i wneud cais i Lywodraeth Cymru am y rhandaliad sefydlu. Byddant yn gwneud hyn ar ôl i chi gwblhau eich SAC. Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau i CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.
Rhaid ichi hawlio'r rhanldaliad olaf o fewn blwyddyn ar ôl cwblhau eich cyfnod sefydlu neu ni ellir gwneud taliad. A’ch cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod wedi gwneud yr hawliad hwnnw erbyn y dyddiad cau sydd wedi’i bennu ar gyfer hawlio.
Gohirio, tynnu'n ôl ac ailgydio
Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA, bydd angen iddo lenwi Ffurflen Ohirio ac Ailgydio. Darperir y ffurflenni hyn gan Bartneriaethau AGA, a chaiff y ffurflenni a ddaw i law eu rhannu â Llywodraeth Cymru. Bydd unrhyw daliadau a wneir i fyfyrwyr sy’n ailgydio mewn rhaglen AGA yn ystyried unrhyw daliadau a dderbyniwyd yn flaenorol.
Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol, gwneir taliadau ar yr un gyfradd (os oes rhai) a oedd yn weithredol y flwyddyn academaidd pan ddechreuwyd astudiaethau’r myfyriwr neu pan gawsant eu gohirio. Mae hyn yn berthnasol oni bai bod Llywodraeth Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig.
Dychwelyd i ailgydio mewn Rhaglen AGA
Bydd myfyrwyr a ddechreuodd raglen AGA cyn mis Medi 2022 ac a ohiriodd eu hastudiaethau tan ar ôl mis Medi 2026, yn mynd yn ôl at y strwythur taliadau a nodir yn y canllawiau hyn. Yn yr achos hwnnw, ni fydd taliadau tymhorol yn cael eu gwneud mwyach. Bydd cyfanswm y cymelldaliadau yn parhau yn unol â'r symiau a nodir o dan Gynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2021 a blynyddoedd blaenorol a thynnu unrhyw daliadau o'r cyfanswm a dalwyd eisoes.
Sut mae gohirio yn effeithio ar daliadau rhaglenni
Os yw myfyriwr amser llawn yn gohirio ei astudiaethau cyn y bydd y rhandaliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus, ni fydd yn gymwys i dderbyn y rhandaliad. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y rhandaliad a gollwyd pan ddyfernir SAC iddo. Gwneir y rhandaliad ar ôl dyfarnu’r SAC ac yn ychwanegol at y rhandaliad SAC.
Os yw myfyriwr rhan-amser yn gohirio ei astudiaethau cyn y bydd y rhanaliad cyntaf yn ystod y rhaglen yn ddyledus, ni fydd yn gymwys i dderbyn y rhandaliad. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y rhandaliad a gollwyd yn dilyn tymor cyntaf ei ail flwyddyn. Gwneir y rhandaliad ar ôl i’r myfyriwr gwblhau ei flwyddyn gyntaf ac yn ychwanegol at yr ail rhandaliad a wneir yn ystod y rhaglen.
Os bydd myfyriwr rhan-amser yn gohirio ei astudiaethau ar ôl derbyn y rhandaliad cyntaf yn ystod y rhaglen (ym mis Ionawr ei flwyddyn gyntaf) a chyn y bydd yr ail rhandaliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus (ym mis Ionawr ei ail flwyddyn), ni fydd yn gymwys i dderbyn yr ail rhandaliad a oedd i'w dalu yn ystod y rhaglen. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn ail flwyddyn academaidd ei gwrs, caiff dderbyn y rhandaliad a gollwyd pan ddyfernir SAC iddo. Gwneir y taliad ar ôl dyfarnu’r SAC ac yn ychwanegol at y rhandaliad SAC.
Ni chaiff myfyrwyr amser llawn sy'n tynnu'n ôl o raglen cyn y bydd y rhandaliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus unrhyw rhandaliad.
Ni chaiff myfyrwyr rhan-amser sy'n tynnu'n ôl o raglen cyn y bydd y rhandaliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus, yn eu blwyddyn gyntaf, unrhyw rhandaliad. Ni chaiff myfyrwyr rhan-amser a dderbyniodd y rhandaliad cyntaf yn ystod y rhaglen (ym mis Ionawr eu blwyddyn gyntaf), ond sy'n tynnu'n ôl cyn y bydd yr ail daliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus (ym mis Ionawr eu hail flwyddyn), unrhyw rhandaliad pellach.
Sut mae gohirio yn effeithio ar y taliad SAC
Os bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau ar ôl derbyn rhandaliadau a wneir yn ystod y rhaglen a chyn ennill SAC, ni fydd yn gymwys i dderbyn y rhandaliad SAC. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd ganddo hawl i dderbyn y rhandaliad SAC pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y rhandaliad ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu’r SAC) ac yn unol â'r amodau hyn.
Bydd angen cwblhau Ffurflen sy'n Ddychwelyd.
Os bydd myfyriwr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant yn tynnu'n ôl o raglen ar ôl derbyn y rhandaliad yn ystod yr rhaglen, ond cyn ennill SAC, dim ond i’r rhandaliad a dderbyniwyd eisoes y bydd ganddo hawl.
Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant, nad ydynt yn ennill SAC ar ddiwedd eu rhaglen AGA, hawl i gael y rhandaliad SAC.
Cyfnod sefydlu a'r cymelldaliad olaf
Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n gymwys i gael grant cymelliant ac sy'n ennill SAC, ond nad ydynt yn cwblhau eu cyfnod sefydlu o fewn y cyfnod penodedig mewn ysgol uwchradd a gynhelir yng Nghymru, hawl i gael y rhandaliad olaf.
Rhaid cwblhau'r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus o fewn tair blynedd ar ôl ennill SAC mewn lleoliad uwchradd a gynhelir yng Nghymru er mwyn parhau i fod yn gymwys i dderbyn y rhandaliad sefydlu.
Adennill grantiau cymhelliant
Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddynt ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a byddant yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.
Gall Llywodraeth Cymru arfer y pwerau hyn o dan yr amgylchiadau canlynol:
- os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â chwrdd ag unrhyw feini prawf cymhwystra a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn yr atodlen neu'r canllaw gwybodaeth mewn perthynas â rhandaliad dilynol
- os yw'r derbynnydd, yn ei gais am grant cymhelliant, neu mewn cysylltiad â'r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth anwir neu wybodaeth sy'n gamarweiniol, neu os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen AGA neu nad oedd yn fwriad ganddo, ar ôl ei gwblhau, fynd i addysgu.
Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth
Mae’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno, fel rhan o'u hawliad o dan gynllun cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (“y Ddeddf Diogelu Data").
Wrth gyflwyno’r wybodaeth hon, mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:
- a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi'i chael o dan y Cyllid, neu mewn cysylltiad ag ef, i’r graddau y mae’n ofynnol inni ddatgelu’r cyfryw wybodaeth i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR; a/neu
- a yw unrhyw wybodaeth wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR
- a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gesglir gennym yn cael eu rheoli yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd.
Grantiau cymhelliant AGA eraill sydd ar gael
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu yn darparu tri chynllun cymhelliant sydd ar gael i fyfyrwyr AGA.
Bydd Partneriaethau AGA yn gweithio gyda’u myfyrwyr i helpu i nodi’r myfyrwyr hynny sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer pob cynllun. Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys ar gyfer mwy nag un cynllun. Nid yw bod yn gymwys ar gyfer un cynllun yn effeithio ar fod yn gymwys ar gyfer cynllun cymhelliant AGA arall. Mae'n bosibl derbyn cyllid grant o dan bob un o'r tri chynllun cymhelliant ar yr amod eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwystra ar gyfer pob cynllun unigol.
Gall eich Partneriaeth AGA eich helpu i weld os ydych yn gymwys ar gyfer cynllun cymhelliant. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau atynt hwy.
Yr effaith ar gymorth ariannol arall
Treth
Fel rheol, ni chaiff grantiau cymhelliant ar gyfer myfyrwyr amser llawn eu trethu.
Efallai y trethir y rhandaliad sefydlu yn achos yr unigolion hynny sydd mewn cyflogaeth
Dylech ofyn am gyngor gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC) ynghylch eich amgylchiadau unigol eich hun.
Cymorth ariannol i fyfyrwyr
Ni chaiff grant cymhelliant ei ystyried yn rhan o incwm aelwyd at ddibenion darpariaethau cyllid myfyrwyr. Ni ddylid cynnwys grantiau wrth gyfrifo incwm trethadwy nas enillir. Dylech ofyn am gyngor gan eich darparwr cyllid myfyrwyr ynghylch eich union amgylchiadau chi.
Ad-daliadau benthyciadau i fyfyrwyr
Yn achos myfyrwyr amser llawn, ni fydd y grant yn arwain at orfod ad-dalu benthyciad myfyriwr.
Yn achos myfyrwyr rhan-amser sy'n gweithio, bydd yn dibynnu a yw eu cyflog gwaith yn ddigon uchel iddynt fod angen ad-dalu benthyciad myfyriwr.
Mae’n bosibl y bydd y rhandaliad sefydlu yn arwain at orfod ad-dalu benthyciad myfyriwr. Bydd yn dibynnu a yw cyflog gwaith y myfyriwr yn ddigon uchel iddo fod angen ad-dalu benthyciad myfyriwr.
Yr effaith ar fudd-daliadau
Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Dylech ofyn am gyngor gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Yr effaith ar bensiynau
Nid yw'r grant cymhelliant yn bensiynadwy.
Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â'ch partneriaeth AGA.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â'r taliad sefydlu, cysylltwch â ITEIncentives@gov.wales.
