Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r Cynllun hwn ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ôl-raddedig uwchradd achrededig sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Rhaid i'r rhaglen eu galluogi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu addysgu’r Gymraeg fel pwnc.

Mae Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn darparu grant o £5,000 i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â rhaglen AGA ôl-raddedig uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg neu er mwyn addysgu'r Gymraeg fel pwnc.

Mae’r cynllun hwn ar gael ar gyfer rhaglenni amser llawn a rhan-amser. 

Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw gynllun hyfforddi athrawon sy'n seiliedig ar gyflogaeth yn gymwys i gael y grant hwn. Mae hyn yn cynnwys y 'cynllun TAR cyflogedig'.

Nid yw myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR AHO) wedi'u cynnwys o dan y cynllun hwn.

Nid yw myfyrwyr a oedd yn dilyn rhaglenni AGA cymwys cyn 2018 wedi'u cynnwys o dan y cynllun hwn.

Dogfennau'r cynllun

Mae dogfennaeth cynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn cael ei diweddaru'n flynyddol. 

Rhoddir llythyr dyfarnu grant a chontract i Bartneriaethau AGA i gefnogi'r cynllun hwn.

Mae'r dogfennau canlynol ar gael i'r cyhoedd eu gweld mewn perthynas â'r cynllun: 

  • cynllun cyfreithiol
  • hysbysiad preifatrwydd
  • canllawiau'r cynllun i weinyddwyr a myfyrwyr

Mynediad at gynlluniau cyfreithiol, canllawiau i fyfyrwyr a hysbysiadau preifatrwydd 

Rhoddir y dogfennau canlynol i Bartneriaethau AGA mewn perthynas â'r cynllun: 

  • llythyr dyfarnu grant
  • contract ar gyfer gweinyddu'r grant

Mae'r dogfennau hyn yn nodi gofynion y cynllun a byddant yn help wrth wirio cymhwysedd myfyrwyr. Gwnewch yn siŵr bod y flwyddyn astudio gywir wedi'i nodi ar y dogfennau yr ydych yn eu darllen. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r cynllun hwn neu gynlluniau o flynyddoedd blaenorol, cysylltwch â CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.

Manylion y grant a'r amserlen daliadau

O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o £5,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd.

Bydd union ddyddiadau'r taliadau i Bartneriaethau AGA yn cael eu nodi yn y llythyr dyfarnu grant. 

Bydd y cymelldaliadau gwerth £5,000 yn cael eu gwneud mewn dau randaliad. Cânt eu talu ar yr adegau canlynol: 

  • £2,500 ym mis Gorffennaf/Awst ar ôl cwblhau TAR yn llwyddiannus a dyfarnu SAC. Os caiff myfyriwr ei asesu gan fwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am wneud y taliad hwn.
  • £2,500 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wneud y taliad hwn. 

Myfyrwyr a aseswyd gan fwrdd arholi ailgyflwyno

Dylai Partneriaethau AGA gyflwyno ffurflen hawlio ychwanegol ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cael eu hasesu gan fwrdd arholi ailgyflwyno ac sydd wedi derbyn SAC. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl gwneud taliadau cyn 31 Rhagfyr.

Sut mae hawliadau yn cael eu gweinyddu

Os yw myfyriwr wedi dechrau rhaglen AGA rhwng Medi 2018 ac Awst 2023, dylai wneud cais i Lywodraeth Cymru. Cyfeiriwch fyfyrwyr at y canllawiau sy'n ymwneud â'r flwyddyn astudio berthnasol.

Os yw myfyriwr wedi dechrau rhaglen AGA ers Medi 2023, dylai gofrestru'n uniongyrchol gyda'i Bartneriaeth AGA. Mae Partneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am weinyddu'r cymhelliant hwn ac am asesu cymhwysedd myfyrwyr ar ei gyfer. Mae Partneriaethau AGA yn gwneud hyn ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae system ymgeisio ar-lein newydd ar waith ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026. 

Gall myfyrwyr ddefnyddio'r broses ar-lein i wneud cais am un neu sawl cymhelliant. 

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am:

  • asesu cymhwysedd myfyrwyr ar gyfer y cymhelliant hwn, gan gynnwys ar gyfer y rhaglen
  • dilysu ceisiadau myfyrwyr
  • gwneud y taliadau i fyfyrwyr yn ystod y rhaglen a thaliadau SAC 

Maent yn gwneud hyn ar ran Llywodraeth Cymru.

Dim ond os yw’r canlynol yn wir y gall myfyrwyr gael grant cymhelliant:

  • maent yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd, gan gynnwys cymhwysedd ar gyfer y rhaglen
  • maent wedi gwneud cais drwy lenwi’r ffurflen gais ar-lein 

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu gwe-ddolen i Bartneriaethau AGA i'r ffurflen gais ar-lein ar gyfer y cynllun cymhelliant hwn. Rhaid i Bartneriaethau AGA rannu hon â myfyrwyr y maent yn eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cymhelliant hwn. 

Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau, dylent gysylltu â'u Partneriaeth AGA.

Taliad SAC 

Dim ond i’r myfyrwyr cymwys hynny sydd wedi cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC y dylid gwneud y taliad SAC (ar ôl dyfarnu SAC). Os bydd myfyriwr yn methu ag ennill SAC, ni ddylid gwneud y taliad.

Os bydd myfyriwr wedi tynnu'n ôl o raglen neu wedi ei gohirio cyn i SAC gael ei ddyfarnu, ni ddylid gwneud y taliad.

Taliad sefydlu

Llywodraeth Cymru sy'n gwneud y taliad sefydlu. Rhaid i athrawon sydd newydd gymhwyso ddefnyddio'r broses gais ar-lein i ymgeisio am un neu sawl taliad sefydlu o dan un neu fwy o'r cynlluniau cymhelliant. Mae angen i'r ysgol gadarnhau manylion yr unigolyn. 

Gweler yr adran yn y canllawiau hyn ar y 'broses taliadau sefydlu' am fanylion rôl Partneriaeth AGA. 

Swyddogaethau a chyfrifoldebau

Caiff y cynllun cymhelliant hwn ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru ac ar ran Llywodraeth Cymru gan Bartneriaethau AGA. 

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am daliadau a wneir pan ddyfernir Statws Athro Cymwysedig.

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wneud y cymelldaliad olaf. Telir hwn i fyfyrwyr cymwys sy'n hyfforddi mewn ysgol cyfrwng Cymraeg neu'n hyfforddi i addysgu'r Gymraeg mewn ysgol a gynhelir. Caiff hwn ei dalu ar ôl cwblhau'r broses sefydlu yn llwyddiannus a dyfarnu tystysgrif sefydlu. 

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am delerau ac amodau'r cynllun, ynghyd ag am gasglu data i'w gwneud yn bosibl gwneud taliadau i Bartneriaethau AGA.

Cyfrifoldebau Partneriaeth AGA o ran gweinyddu’r grant

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am:

  • ddefnyddio'r cynllun cymhelliant i helpu’r broses o recriwtio i raglenni AGA cymwys lle bo hynny'n briodol
  • nodi'r myfyrwyr sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd
  • sicrhau mynediad i fyfyrwyr cymwys at y broses gais ar-lein ar ddechrau'r rhaglen AGA. Mae'r broses gais ar-lein yn cwmpasu pob un o'r tri chynllun cymhelliant AGA
  • sicrhau bod myfyrwyr yn deall telerau'r grant
  • dilysu ceisiadau myfyrwyr
  • rhannu'r wybodaeth am fyfyrwyr, sy'n angenrheidiol ar gyfer y cynllun, â Llywodraeth Cymru (er enghraifft, adroddiad dilysu, ffurflenni hawlio), mewn modd diogel, sy'n cydymffurfio â gofynion diogelu data a thelerau'r llythyr dyfarnu grant
  • llenwi ffurflenni hawlio yn unol â dyddiadau dyfarnu SAC, a nodir yn y llythyr cynnig grant
  • cefnogi myfyrwyr i lenwi ffurflen gohirio ac ailgydio, yn ôl yr angen
  • gweinyddu taliadau grant SAC i fyfyrwyr
  • delio â chwestiynau gan fyfyrwyr ynghylch y cynllun cymhelliant
  • cynghori myfyrwyr ar y broses hawliadau sefydlu. Bydd hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth a gwe-ddolen i'r ffurflen gais ar-lein â nhw, fel y nodir yn y llythyr dyfarnu a'r adran yn y canllawiau hyn ar y broses taliadau sefydlu
  • rhoi anfoneb i Lywodraeth Cymru am gost gweinyddu'r cynllun, fel y nodir yn y contract

Caiff holl gyfrifoldebau'r Partneriaethau AGA a'r dyddiadau pwysig eu cyhoeddi bob blwyddyn mewn llythyrau cynnig grant a llythyrau contract unigol. Dylai Partneriaethau AGA gysylltu â CymelldaliadauAGA@llyw.cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiynau.

Ceisiadau gan fyfyrwyr

Gall myfyrwyr wneud cais ar-lein am y cynllun cymhelliant hwn rhwng 1 Medi a 15 Tachwedd. Rhaid iddynt lenwi ffurflen gais ar-lein. Bydd hyn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar Lywodraeth Cymru a Phartneriaethau AGA i weinyddu a gwerthuso'r cynllun. 

Cyn dechrau'r flwyddyn academaidd, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r canlynol i Bartneriaethau AGA: 

  • gwe-ddolen i'r ffurflen gais ar-lein
  • cod ymgeisio'r Bartneriaeth AGA

Dylai Partneriaethau AGA rannu'r wybodaeth hon â myfyrwyr cymwys i'w galluogi i wneud cais o fewn yr amserlen berthnasol. 

Bydd y cyfnod ymgeisio ar-lein ar agor rhwng 1 Medi a 15 Tachwedd. Os bydd angen i fyfyriwr wneud cais y tu allan i'r amserlen hon, dylai Partneriaethau AGA gysylltu â Llywodraeth Cymru yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru

Mae'r ddolen i'r ffurflen gais ar-lein yn ddilys ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026 yn unig. 

Bydd cod ymgeisio yn cael ei roi i'r Bartneriaeth AGA bob blwyddyn. Pwrpas y cod hwn yw dilysu'r cais a wneir, gan gysylltu myfyrwyr â Phartneriaethau AGA penodol. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu adroddiad dilysu ceisiadau â Phartneriaethau AGA cyn 30 Tachwedd. Mae'n ofynnol i Bartneriaethau AGA ddilysu'r wybodaeth o fewn yr adroddiad hwn a darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen. Rhaid dychwelyd yr adroddiad dilysu at Lywodraeth Cymru erbyn 15 Rhagfyr. Mae'r amserlen hon yn gydnaws â'r broses hawlio. 

Mae'r llythyr dyfarnu grant yn darparu manylion am y broses hon. Bydd yr adroddiad dilysu hefyd yn darparu canllawiau ar gyfer ei chwblhau.

Sut caiff y taliad ei wneud i Bartneriaethau AGA

Rhaid i Bartneriaethau AGA lenwi a chyflwyno ffurflen hawlio i Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod arian priodol yn cael ei ryddhau ar gyfer rhandaliad SAC. 

Cyfnod cyflwyno hawliadau ar gyfer taliadau SAC yw: 

  • 1 Gorffennaf i 17 Awst 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y llythyr dyfarnu grant. 

Dylai Partneriaethau AGA roi anfoneb i Lywodraeth Cymru unwaith y cytunir ar bob hawliad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghontract gweinyddu'r cynllun. 

Dylai Partneriaethau AGA gyfeirio unrhyw gwestiynau sydd ganddynt ynghylch y broses dalu at CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.

Gohirio ac ailgydio a thaliadau SAC

Os bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau cyn ennill SAC, ni fydd yn gymwys i gael y taliad SAC. Fodd bynnag, os bydd yn ailgydio yn ei astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd ganddo hawl i dderbyn y taliad pan ddyfernir SAC iddo. Gwneir y taliad ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy’n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu’r SAC). Bydd y taliad yn cael ei wneud yn unol â'r amodau hyn. 

Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol, bydd angen llenwi ffurflen gohirio ac ailgydio. Gall Partneriaethau AGA gael ffurflenni gan Lywodraeth Cymru. Bydd angen cyflwyno ffurflenni sydd wedi'u cwblhau i Lywodraeth Cymru ynghyd â'r ffurflen hawlio berthnasol. Caiff yr wybodaeth ar y ffurflen a ddaw i law ei rhannu â Phartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru.

Ni fydd gan fyfyrwyr nad ydynt yn ennill SAC ar ddiwedd eu rhaglen AGA hawl i gael y taliad SAC.

Cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru o ran gweinyddu’r grant

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wneud y cymelldaliad olaf. Caiff hwn ei dalu ar ôl cwblhau'r broses sefydlu yn llwyddiannus a dyfarnu tystysgrif sefydlu gan Gyngor y Gweithlu Addysg. 

Y broses taliadau sefydlu

Rhaid i unigolion ddefnyddio'r broses gais ar-lein i ymgeisio am un neu sawl taliad sefydlu o dan un neu fwy o'r cynlluniau cymhelliant. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu gwe-ddolen i'r ffurflen gais i Bartneriaethau AGA. Rhaid i Bartneriaethau AGA rannu hon â'r myfyrwyr cymwys hynny ar ôl dyfarnu SAC iddynt. 

Rhaid i fyfyrwyr fod wedi cwblhau eu proses sefydlu a derbyn eu tystysgrif sefydlu gan Gyngor y Gweithlu Addysg cyn y gallant wneud cais am daliad.

Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau am y broses sefydlu, dylent gysylltu â Llywodraeth Cymru drwy e-bostio CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.

Y broses hawliadau sefydlu 

Mae 3 rhan i broses hawliadau sefydlu AGA: 

  1. ffurflen gais am randaliad sefydlu (rhaid i'r ymgeisydd gwblhau hon ar-lein)
  2. cadarnhad gan yr ysgol sefydlu (rhaid i'r ysgol sefydlu wneud hyn ar-lein)
  3. tystysgrif sefydlu (rhaid i'r ysgol sefydlu gyflwyno copi ohoni i Lywodraeth Cymru drwy e-bost)

Dim ond ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn 3 rhan y broses y bydd cais sefydlu yn cael ei ystyried yn gyflawn. 

Gall athrawon sydd newydd gymhwyso neu ysgolion gysylltu â Llywodraeth Cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y broses hon yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru

Hawliad sefydlu rhan 1 

Rhaid i unigolion cymwys wneud cais i Lywodraeth Cymru i hawlio eu rhandaliad sefydlu drwy lenwi cais cymhelliant ar-lein. 

Gall unigolion gysylltu â Llywodraeth Cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y broses hon yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru

Hawliad sefydlu rhannau 2 a 3 

Rhaid i'r ysgol lle cwblhawyd cyfnod sefydlu athro sydd newydd gymhwyso gadarnhau cais sefydlu o dan gynllun cymhelliant AGA. I wneud hyn, gofynnir iddynt lenwi ffurflen gadarnhau ar-lein a chyflwyno copi o dystysgrif sefydlu'r ymgeisydd i Lywodraeth Cymru. 

Dylai Pennaeth, Dirprwy Bennaeth, Pennaeth Cynorthwyol neu Bennaeth Adran ysgol lenwi rhannau 2 a 3 o'r ffurflen hawlio hon. Bydd methu â darparu cadarnhad neu gyflwyno'r dystysgrif sefydlu yn golygu bod cais yr ymgeisydd am randaliad sefydlu AGA yn cael ei wrthod. 

Bydd yr holl gyfarwyddiadau i gwblhau rhannau 2 a 3 yn cael eu rhoi'n uniongyrchol i'r Pennaeth, y Dirprwy Bennaeth, y Pennaeth Cynorthwyol neu'r Pennaeth Adran. Os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y broses hon, gallant gysylltu â Llywodraeth Cymru yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.

Amserlen hawlio taliad sefydlu

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n ennill SAC, ond nad ydynt yn cwblhau eu cyfnod sefydlu o fewn y cyfnod penodedig mewn ysgol uwchradd a gynhelir yng Nghymru, hawl i gael y taliad sefydlu.

I barhau i fod yn gymwys i dderbyn y taliad sefydlu: 

  • rhaid cwblhau'r cyfnod sefydlu o fewn 3 blynedd i ennill SAC mewn lleoliad a gynhelir yng Nghymru
  • rhaid gwneud cais ar-lein i Lywodraeth Cymru o fewn blwyddyn ar ôl i'r athro newydd gymhwyso gwblhau ei gyfnod sefydlu

Adennill grantiau cymhelliant

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddi ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a bydd yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.

Gall Llywodraeth Cymru arfer y pwerau hyn o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os yw’r derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â bodloni unrhyw feini prawf cymhwysedd a nodir yn y cynllun cyfreithiol mewn perthynas â rhandaliad dilynol
  • os yw'r derbynnydd wedi darparu gwybodaeth sy'n ffug neu'n sylweddol gamarweiniol yn ei gais am grant cymhelliant, neu mewn cysylltiad â'r cais
  • neu os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen, neu nad oedd yn fwriad ganddo fynd i addysgu ar ôl ei chwblhau

Diogelu data a rhyddid gwybodaeth

Mae gwybodaeth y mae myfyriwr yn ei chyflwyno fel rhan o'i hawliad o dan Gynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y "Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR") Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y “GDPR”) a Deddf Diogelu Data 2018 (y "Ddeddf Diogelu Data").

Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:

a. a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth y byddwn wedi’i chael o dan y Cyllid neu mewn cysylltiad ag ef, i’r graddau y mae’n ofynnol inni ddatgelu gwybodaeth o’r fath i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR, a (neu)

b. a oes unrhyw wybodaeth yn cael ei hesemptio o’r gofynion datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR

c. a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gesglir gennym yn cael eu rheoli yn unol â’n hysbysiad preifatrwyddhysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.

Cefndir cyfreithiol

Mae’r grantiau cymhelliant AGA sydd ar gael yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio cyfredol o fewn y gweithlu addysgu yng Nghymru. Maent ar gael i fyfyrwyr cymwys ar raglenni AGA ôl-raddedig cymwys yng Nghymru. 

Mae'r Cynllun yn cefnogi strategaeth Cymraeg 2050. Cymraeg 2050 yw uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg. Mae Cymraeg 2050 yn gosod targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 i ddarparu cymorth ariannol i hyrwyddo'r ymgais i recriwtio neu gadw athrawon neu staff nad ydynt yn addysgu. Mae'r grant hwn ar waith i annog unigolion i hyfforddi ar gyfer y proffesiwn addysgu, mynd i mewn i'r proffesiwn addysgu, ac aros yno. Ni ddylai fod yn rhan o becyn cyllid myfyrwyr.

Mae Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory ("y Cynllun") yn gynllun cyfreithiol, a wnaed gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd eu pwerau. Mae'r Cynllun yn cael ei adolygu'n flynyddol. Mae pob cynllun yn gwneud darpariaeth i fyfyrwyr AGA ôl-raddedig uwchradd, sy'n astudio eu rhaglen AGA achrededig drwy gyfrwng y Gymraeg neu sy'n hyfforddi i addysgu'r Gymraeg fel pwnc, gael mynediad i'r cymhellion hyn.

Y Fwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg