Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r cynllun hwn wedi bod ar gael ers 2018, ac mae'n cefnogi strategaeth Cymraeg 2050. Cymraeg 2050 yw uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyrraedd targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae’r cynllun hwn yn darparu grant o £5,000 i fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglen AGA ôl-raddedig uwchradd:

  • drwy gyfrwng y Gymraeg neu
  • i addysgu'r Gymraeg fel pwnc 

Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw gynllun hyfforddi i athrawon ar sail cyflogaeth yn gymwys i gael y grant hwn. Mae hyn yn cynnwys y cynllun TAR Cyflogedig.

Nid yw myfyrwyr sy'n astudio rhaglenni hyfforddi a fydd yn eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR AHO) wedi’u cynnwys o dan y cynllun hwn.

Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2023 i 2024.

Bydd Cynllun 2023 (LlC23-18) yn dod i rym ar 1 Medi 2023. Gall myfyrwyr sy'n dechrau rhaglenni AGA sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) rhwng 1 Medi 2023 a 31 Awst 2024 wneud cais. Rhaid i fyfyrwyr TAR uwchradd fod yn astudio i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu i addysgu Cymraeg fel pwnc i fod yn gymwys. Cafodd cynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory 2023 ("y Cynllun") ei sefydlu gan Weinidogion Cymru ym mis Mai 2023.

Dylech ddarllen y canllawiau hyn ar y cyd â'r cynllun cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r flwyddyn astudio. Mae hwnnw'n nodi gofynion statudol y cynllun.

Meini prawf cymhwystra ar gyfer Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory

Gall myfyrwyr sy'n cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig uwchradd achrededig gymwys yng Nghymru sy'n eu galluogi i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu addysgu'r Gymraeg fel pwnc wneud cais am y cynllun hwn. Mae hyn yn berthnasol i raglenni amser llawn a rhan-amser.

Mae gan Weinidogion Cymru ddisgresiwn i beidio â thalu grant cymhelliant i fyfyrwyr ar raglen gymwys ar ôl i'r targed derbyn ar gyfer y rhaglen honno gael ei gyrraedd. Dylech ofyn am gadarnhad gan eich darparwr nad yw hyn yn effeithio arnoch.

Rhaglenni cymwys

Er mwyn i raglen AGA fod yn gymwys, mae’n rhaid iddi:

  • fod wedi’i hachredu gan Fwrdd Achredu Addysg Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg
  • arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) yng Nghymru
  • galluogi'r myfyriwr i addysgu mewn lleoliad uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg neu addysgu Cymraeg fel pwnc

Myfyrwyr cymwys

  • fod wedi ymgymryd â rhaglen gymwys, a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi, ond cyn 31 Awst fel y nodir yn y cynllun cyfreithiol
  • bod yn gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau a wnaed o dan adran 22 (legislation.gov.uk) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (legislation.gov.uk) sydd mewn grym ar hyn o bryd
  • peidio â bod eisoes yn athro cymwysedig wrth ddechrau astudio tuag at SAC
  • peidio â bod wedi'i gyflogi i addysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro neu athrawes
  • peidio â bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant a drefnwyd o dan unrhyw gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, yn cynnwys TAR cyflogedig
  • i gael y rhandaliad cyntaf, fod wedi cwblhau rhaglen gymwys yn llwyddiannus a bod wedi cael SAC yn unol â Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012 sydd mewn grym
  • i gael yr ail randaliad, fod wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus o fewn tair blynedd ar ôl ennill SAC mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog a gynhelir, neu fod wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu’n llwyddiannus fel athro neu athrawes Gymraeg mewn unrhyw ysgol uwchradd a gynhelir yng Nghymru, fel sy'n ofynnol o dan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 a bod wedi derbyn y rhandaliad cyntaf

Pa grant sydd ar gael a phryd caiff taliadau eu gwneud

O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o £5,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra.

Bydd y taliadau cymhelliant gwerth £5,000 yn cael eu gwneud mewn dau randaliad. Byddant yn cael eu talu ar yr adegau canlynol:

  • £2,500 ym mis Gorffennaf/Awst ar ôl cwblhau TAR yn llwyddiannus ac ennill SAC. Os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr
  • £2,500 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru.

Sut i wneud cais a sut mae taliadau'n cael eu gwneud

Gweinyddir y Cynllun hwn gan Llywodraeth Cymru ac ar ran Llywodraeth Cymru gan bartneriaethau AGA. Cysylltwch â’ch partneriaeth AGA i wirio a ydych yn gymwys, gwneud cais am y grant cymhelliant, neu os bydd gennych unrhyw ymholiadau.

Bydd myfyrwyr cymwys yn cael eu taliad SAC gan eu Partneriaeth AGA. Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y cymelldaliad olaf ar ôl cwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus a chael tystysgrif sefydlu.   

Bydd partneriaethau AGA yn hysbysu myfyrwyr cymwys i hawlio'r cymhelliant hwn. Byddant yn eu cyfeirio at ganllawiau ar y broses ac at ddogfennau cofrestru. Mae'r dogfennau cofrestru yn gofyn i fyfyrwyr gadarnhau eu bod wedi darllen a deall y tudalennau gwe perthnasol. Os na dderbynnir y cadarnhad hwnnw, ni ellir gwneud taliadau grant.

Bydd yr holl ddogfennau cofrestru a gyflwynir i bartneriaethau AGA yn cael eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn caniatáu i daliadau gael eu gwneud.

Os ydych wedi ennill SAC cyn Medi 2023, bydd angen ichi wneud cais yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru am y grant cymhelliant hwn. Cyfeiriwch at y canllawiau ar gyfer y flwyddyn astudio i wirio a ydych yn gymwys. 

Cofrestru myfyrwyr ar gyfer cynllun cymhelliant AGA ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth

Bydd partneriaethau AGA yn nodi myfyrwyr sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra. Byddant yn rhoi Ffurflen Gofrestru ar gyfer y cynllun cymhelliant i fyfyrwyr cymwys lofnodi ar ddechrau'r rhaglen AGA. Bydd honno’n cadarnhau eu bod yn gymwys ac yn ei gwneud yn bosibl i’r taliadau gael eu gwneud o dan y cynllun.

Caiff y Ffurflenni Cofrestru ar gyfer cynlluniau cymhelliant eu rhannu â phartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru. 

Taliad SAC

Gwneir y taliad SAC i bob myfyriwr cymwys ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy’n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu’r SAC).

Partneriaeth AGA myfyrwyr sy'n gyfrifol am wneud y taliadau SAC. Byddant yn pennu'r union ddyddiad talu. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at y bartneriaeth.

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n methu ag ennill SAC hawl i gael y cymhelliant hwn. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw gwirio gyda’i bartneriaeth AGA a yw’n gymwys i hawlio’r grant hwn.

Y cymelldaliad olaf

Bydd y cymelldaliad olaf yn cael ei wneud i athrawon newydd gymhwyso ar raglenni cymwys ar ôl cwblhau'r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus ac ennill tystysgrif sefydlu. Rhaid ymgymryd â chyfnod sefydlu mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg neu mewn unrhyw ysgol uwchradd a gynhelir os yw'n addysgu'r Gymraeg fel pwnc. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud y taliad hwn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu â myfyrwyr yn ystod eu cyfnod sefydlu. Mae hyn er mwyn sicrhau bod ganddynt yr holl fanylion perthnasol i brosesu taliad y grant hwn. 

Ni ellir hawlio’r cymelldaliad olaf oni bai bod y myfyriwr cymwys wedi hawlio’n llwyddiannus ac wedi cael y taliad SAC o dan y cynllun cymhelliant hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud y cymelldaliad olaf, a nhw fydd yn penderfynu ar yr union ddyddiad. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at  ITEIncentives@llyw.cymru.

Rhaid i chi hawlio'r cymelldaliad olaf o fewn blwyddyn i gwblhau eich cyfnod sefydlu, neu ni fydd modd gwneud y taliad. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod wedi hawlio’r taliad.

Gohirio, tynnu'n ôl ac ailgydio

Os byddwch yn gadael rhaglen AGA ôl-raddedig uwchradd cyn iddi gwblhau a chyn ennill SAC, ni fydd gennych hawl i'r cymhelliant hwn.

Os ydych chi’n fyfyriwr:

  • sy’n ailgydio mewn rhaglen gymwys
  • sy’n dechrau rhaglen gymwys, ac mae’r rhaglen wedi’i gohirio (wedi'i hatal)

yna, dim ond os na ohiriwyd eich rhaglen am fwy na blwyddyn academaidd y byddwch chi’n parhau i fod yn gymwys am y grant cymhelliant.

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n methu ag ennill SAC hawl i gael y taliad SAC.

Os ydych wedi ennill SAC cyn Medi 2023 bydd angen ichi wneud cais yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru am y cymhelliant hwn. Cyfeiriwch at y canllawiau ar gyfer y flwyddyn astudio i wirio a ydych yn gymwys. 

Adennill grantiau cymhelliant a dalwyd

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i adennill grantiau a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Yn ôl eu disgresiwn, gallant arfer y pwerau hynny, a byddant yn ystyried pob achos ar sail ei deilyngdod unigol.

Efallai y bydd Gweinidogion Cymru yn arfer y pwerau hyn:

  1. os yw’r derbynnydd, yn ei gais am grant neu mewn cysylltiad â’r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth ffug neu wybodaeth sy’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol
  2. os oes tystiolaeth nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen neu nad oedd yn fwriad ganddo, ar ôl ei chwblhau, fynd i addysgu

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

Mae gwybodaeth y mae myfyriwr yn ei chyflwyno fel rhan o'i hawliad o dan Gynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y "Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR") Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y “GDPR”) a Deddf Diogelu Data 2018 (y "Ddeddf Diogelu Data").

Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:

  1. a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi'i chael o dan neu mewn cysylltiad â'r Cyllid i'r graddau y mae'n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth o'r fath i berson sy'n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR a/neu
  2. a yw unrhyw wybodaeth wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR
  3. a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael eu rheoli yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd a’n tudalen ar y we 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.

Grantiau cymhelliant AGA eraill sydd ar gael

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu tri chynllun cymhelliant sydd ar gael i fyfyrwyr:

  • Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth 
  • Cynlluniau cymhelliant Iaith Athrawon Yfory 
  • Cynllun cymhelliant AGA i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol

Bydd Partneriaethau AGA yn gweithio gyda’u myfyrwyr i helpu i nodi’r unigolion hynny sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer pob cynllun. Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer mwy nag un cynllun. Nid yw bod yn gymwys o dan un cynllun yn effeithio ar fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau cymhelliant AGA eraill. Mae'n bosibl cael arian grant o dan bob un o’r tri chynllun cymhelliant. Rhaid bodloni'r meini prawf cymhwystra ar gyfer pob cynllun unigol.

Bydd angen ichi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer pob cynllun cymhelliant yr hoffech wneud cais amdano. Bydd y ffurflen yn cadarnhau bod yr unigolion yn gymwys ac yn ei gwneud yn bosibl i’r taliadau gael eu gwneud o dan y cynllun perthnasol.

Y Fwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addys

Yn 2023 lansiodd Llywodraeth Cymru fwrsariaeth beilot i gefnogi cadw athrawon sy’n addysgu drwy gyfrwng Cymraeg. Bydd y fwrsariaeth ar gael tan 2028, sef diwedd y cyfnod peilot. Bydd y bwrsariaethau olaf yn cael eu talu yn hydref 2028.

O dan y cynllun hwn, mae Bwrsariaeth o £5,000 ar gael i athrawon sydd:

  • wedi ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) o fis Awst 2020 ymlaen
  • wedi cwblhau 3 blynedd o:
    • addysgu mewn ysgol uwchradd neu ganol cyfrwng Cymraeg neu
    • addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd neu ysgol ganol ddwyieithog neu
    • addysgu'r Gymraeg fel pwnc mewn unrhyw ysgol uwchradd neu ganol a gynhelir yng Nghymru

Mae mwy o wybodaeth am ganllawiau a meini prawf Bwrsariaeth Cadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg ar gael.

Hanes Cynllun Iaith Athrawon Yfory

Cafodd cynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory ei gyflwyno yn 2018. Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2018 i 2019 roedd hyd at £3,000 ar gael. Roedd grant hyfforddi o £2,000 ar gael ar gyfer y cynllun i wella addysg cyfrwng Cymraeg hefyd. Roedd hwn ar gael i fyfyrwyr cymwys ar raglenni AGA cymwys a ddechreuodd rhwng 1 Medi 2018 a 31 Awst 2019. Talwyd y grant hwn mewn dau randaliad, sef £500 a £2,500.

Ers mis Medi 2019 dan gynllun Iaith Athrawon Yfory mae grant cymhelliant o hyd at £5,000 wedi bod ar gael. Mae dau randaliad o £2,500 ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig uwchradd sy’n gymwys.

Blwyddyn academaidd 2022 i 2023 yw’r flwyddyn olaf i’r cynllun hwn gael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru. Gweler y canllawiau perthnasol i wirio a ydych yn dal yn gallu cofrestru.

O fis Medi 2023 mae Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory (IAY) yn cael ei weinyddu gan Bartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru (CGA). Bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i'ch partneriaeth AGA.

Ni thelir grant i unigolyn oni bai ei fod wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru, dan ofal Llywodraeth Cymru.

Yr effaith ar gymorth ariannol arall

Treth

Nid yw grantiau cymhelliant fel arfer yn drethadwy i fyfyrwyr amser llawn.

Efallai y bydd y cymelldaliad olaf yn drethadwy i’r unigolion hynny sydd mewn cyflogaeth. 

Gallwch ofyn am gyngor ar eich amgylchiadau eich hun gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi.

Cymorth ariannol i fyfyrwyr

Nid yw grant cymhelliant yn cael ei ystyried yn rhan o incwm y cartref at ddibenion darpariaethau cyllid myfyrwyr. Felly, ni ddylid cynnwys grantiau wrth gyfrifo incwm trethadwy heb ei ennill.

Dylech ofyn am gyngor gan eich darparwr cyllid myfyrwyr ar eich amgylchiadau unigol.

Ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr

Ar gyfer myfyrwyr amser llawn, ni fydd y grant yn sbarduno ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr.

Ar gyfer myfyrwyr rhan-amser mewn cyflogaeth, bydd eich rhwymedigaeth yn dibynnu ar a yw eich cyflog gwaith yn ddigon uchel i sbarduno ad-dalu eich benthyciad.

Gall ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr gael eu sbarduno gan y cymelldaliad olaf. Bydd eich rhwymedigaeth yn dibynnu ar a yw eich cyflog gwaith yn ddigon uchel i sbarduno ad-dalu eich benthyciad.

Yr effaith ar fudd-daliadau

Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Dylech geisio cyngor gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Yr effaith ar bensiynau

Nid yw'r grant cymhelliant yn bensiynadwy.

Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â’ch partneriaeth AGA.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y taliad sefydlu, cysylltwch â ITEIncentives@llyw.cymru.