Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiadau cau hawlio taliadau cymhelliant Iaith Athrawon Yfory ar gyfer addysg gychwynnol athrawon cyfrwng Cymraeg

Trosolwg

Mae cynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn darparu grant o £5000 i fyfyrwyr cymwys.

Rhaid i fyfyrwyr fod yn dilyn rhaglen addysg gychwynnol athrawon ôl-raddedig. Rhaid iddynt un ai astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu addysgu’r Gymraeg fel pwnc. 

Mae’r grant yn cael ei dalu mewn 2 randaliad:

  • £2500 ar ôl i’r myfyriwr ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC)
  • £2500 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus 

Rhaid hawlio’r taliadau o fewn blwyddyn i:

  • Ennill SAC
  • Gwblhau cyfnod sefydlu

Dyddiadau cau ar gyfer hawlio pob un o’r rhandaliadau ar gyfer myfyrwyr llawnamser

Dyddiadau cau ar gyfer hawlio (myfyrwyr llawnamser)
Blwyddyn y cynllun (dechrau'r rhaglen)Statws Athro Cymwysedig (SAC) wedi'i ddyfarnu oDyddiad cau ar gyfer hawlio taliadau SACWedi cwblhau’r cyfnod sefydlu oDyddiad cau ar gyfer hawlio taliadau sefydlu
2018 i 201901/08/202031/08/202001/08/202031/12/2023
2019 i 202001/08/202131/08/202101/08/202131/12/2024
2020 i 202101/08/202231/08/202201/08/202231/12/2025
2021 i 202201/08/202331/08/202301/08/202331/12/2026
2022 i 202301/08/202431/08/202401/08/202431/12/2027
2023 i 202401/08/202531/08/202501/08/202531/12/2028
2024 i 202401/08/202631/08/202601/08/202631/12/2029

Bydd y dyddiadau cau ar gyfer hawlio flwyddyn yn ddiweddarach i fyfyrwyr rhan-amser.

Myfyrwyr a gychwynnodd raglen AGA rhwng 2018 a mis Awst 2023

Bydd angen ichi hawlio’r ddau randaliad oddi wrth Lywodraeth Cymru. Darllenwch y canllawiau ar y broses dalu. 

Myfyrwyr a gychwynnodd raglen AGA ar ôl mis Medi 2023

Bydd rhandaliadau’n cael eu talu gan bartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru. Darllenwch y canllawiau ar gyfer y broses dalu sy'n berthnasol i'ch blwyddyn astudio.