Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Y Rhaglen Sgiliau Hyblyg

3. Y sail gyfreithiol

Deddf Llywodraeth Cymru 2006, Adran 60 (1)

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Mae prinder sgiliau yn her barhaus ar draws diwydiannau yng Nghymru, gan effeithio ar gynhyrchiant, arloesi a thwf busnesau. Bydd Cynllun Cymhorthdal y Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn darparu cyllid tuag at gostau hyfforddi staff cyflogwr gyda ffocws cryf ar leihau bylchau sgiliau mewn sectorau blaenoriaeth a meysydd yn ymwneud â busnes.

5. Diben y cynllun

Drwy weinyddu grant hyfforddiant hyblyg, bydd cyflogwyr yng Nghymru yn gallu cael gafael ar gyllid a fydd yn eu grymuso i uwchsgilio eu gweithluoedd, gan ysgogi gwell cynhyrchiant, effeithlonrwydd a phroffidioldeb tra'n darparu budd economaidd parhaol i'r genedl.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys

Mae mentrau preifat a'r trydydd sector o unrhyw faint, ac sydd wedi'u lleoli mewn unrhyw ardal o Gymru, yn gymwys i wneud cais am gymorth o dan y Cynllun. Gall cwmnïau weithredu mewn unrhyw sector diwydiant, cyn belled â'i fod yn gyfreithlon ac yn unol â blaenoriaethau Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar adeg gwneud cais am gymorth.

8. Sectorau i’w cefnogi

  • Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
  • Gweithgynhyrchu
  • Cyflenwi trydan, nwy, ager ac aerdymheru
  • Adeiladu
  • Cyflenwad dŵr, carthffosiaeth, rheoli gwastraff a gweithgareddau adfer
  • Gweithgareddau llety a gwasanaethau bwyd
  • Gwybodaeth a chyfathrebu
  • Gweithgareddau ariannol ac yswiriant
  • Gweithgarwch proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
  • Gweithgareddau gweinyddol a gwasanaethau cymorth
  • Addysg
  • Gweithgarwch iechyd pobl a gwaith cymdeithasol
  • Y celfyddydau, adloniant a hamdden
  • Gweithgarwch gan wasanaethau eraill

9. Hyd y cynllun

Rhwng 1 Rhagfyr 2025 a 31 Mawrth 2031.

10. Y gyllideb cymorth o dan y ynllun

£37,500,000

11. Ffurf y cymorth

Grant Uniongyrchol

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Bydd cyllid ar gael i gyflogwyr yn y mwyafrif llethol o ddiwydiannau ledled Cymru. Mae'n rhaid i'r gweithrediadau a wneir gan y busnes fod yn gyfreithlon ac yn dderbyniol i Weinidogion Cymru.

Mae'n rhaid i unrhyw fenter sy'n gwneud cais am gymorth fod wedi'i lleoli yng Nghymru, yn ddiddyled ac mae'n rhaid iddi ymrwymo i ryddhau staff i ymgymryd â'r hyfforddiant y gofynnwyd amdano.

Nid yw'n ofynnol i ddefnyddio cwmni hyfforddi penodol – gall yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant ardystiedig – ond rhaid i unrhyw hyfforddiant â chymorth o dan y cynllun hwn fod naill ai wedi'i achredu neu fod o safon diwydiant cydnabyddedig.

Mae'r cyllid yn ddewisol a Llywodraeth Cymru sydd â’r gair olaf ar gymhwysedd.

Mae mentrau preifat a'r trydydd sector o unrhyw faint, ac sydd wedi'u lleoli mewn unrhyw ardal o Gymru, yn gymwys i wneud cais am gymorth o dan y Cynllun. Gall cwmnïau weithredu mewn unrhyw sector diwydiant, cyn belled â'i fod yn gyfreithlon ac yn unol â blaenoriaethau Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar adeg gwneud cais am gymorth.

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Bydd cyfradd ymyrraeth safonol o 50% yn berthnasol i bob cyflogwr / menter, waeth beth fo'u maint, ni ddyfernir mwy na £500,000 i unrhyw ymgeisydd mewn blwyddyn ariannol. Bydd pob cais am gymorth o dan y cynllun hwn yn cael ei ystyried yn ôl ei deilyngdod ei hun, ond bydd yn ystyried cost ac ansawdd cyffredinol yr hyfforddiant i'w gefnogi.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£500,000

15. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, ewch i: Recriwtio a Hyfforddi: Ffurflen mynegi diddordeb y Rhaglen Sgiliau Hyblyg

neu e-bostiwch DFESRM@gov.wales

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch â:

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn:

+ 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image