Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Cynllun Cymorth Blaenoriaethau Allweddol - Tai, Ôl-osod ac Adeiladu.

3. Y sail gyfreithiol

Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Nod y cynllun hwn yw mynd i'r afael â'r bylchau mewn cymorth sgiliau yn y sectorau tai, ôl-osod ac adeiladu. Yn aml fe welir cynlluniau hyfforddi yn dioddef o ganlyniad i fethiant yn y farchnad, gan fod cyflogwyr yn teimlo nad oes fawr o fantais buddsoddi mewn sgiliau i weithwyr a allai wedyn adael y cwmni, gan arwain at golled i'r cyflogwr. Diben y cynllun hwn yw annog cyflogwyr trwy ddarparu cymorthdaliadau uwchsgilio, fel bod gweithwyr yn ennill y sgiliau angenrheidiol i barhau i fod yn gystadleuol yn y diwydiant.

5. Diben y cynllun

Diben y cynllun yw darparu cymorth ariannol i fusnesau sy'n dymuno cynnal rhaglenni ar gyfer uwchsgilio eu gweithwyr presennol a'u gweithwyr yn y dyfodol. Mae hyn yn helpu i gyflawni ein hamcan polisi drwy gyfrannu at greu seilwaith hyfforddi hirdymor a all gefnogi twf gweithlu iach a chystadleuol yng Nghymru yn y sectorau tai, ôl-osod ac adeiladu.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categorïau o fentrau cymwys

Rhaid i fusnesau sy'n gwneud cais i'r cynllun hwn weithredu yn y sectorau tai, ôl-osod neu adeiladu, a rhaid bod ganddynt gynllun penodol a manwl ar gyfer creu a darparu hyfforddiant pwrpasol i uwchsgilio gweithwyr.

8. Sectorau i’w cefnogi

  • Adeiladu
  • Addysg
  • Cyflenwi trydan, nwy, ager ac aerdymheru
  • Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
  • Gweithgareddau eiddo tirol

9. Hyd cyfnod y cynllun

20 Mai 2026 tan 5 Ebrill 2027

10. Y gyllideb cymorth o dan y cynllun

£1,000,000

11. Ffurf y cymorth

Grant uniongyrchol.

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Rhaid i fusnesau sy'n dymuno cael y cyllid hwn fod wedi'u lleoli yng Nghymru, a rhaid i unigolion fod yn gweithio yng Nghymru am 51% neu fwy mewn unrhyw 12 mis o waith penodol cyn y caiff busnes ddefnyddio'r cyllid i ddarparu hyfforddiant ar eu cyfer. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ynglŷn â maint y fenter a all gyflwyno cais, ond rhaid iddi weithredu mewn sector perthnasol.

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Darperir cyllid ar gyfradd sydd hyd at 100% o'r gost o weithredu a sefydlu'r cyrsiau hyfforddi. Mae'r cyllid yn deillio o gydweithredu â'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg a rhaid i unrhyw gwmni sy'n derbyn cymorth o dan y cynllun hwn hefyd fod yn gymwys i dderbyn cymorth o dan y rhaglen honno.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£500,000

15. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â: NetZeroSkills@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch â'r:

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
DU

Rhif ffôn:

+ 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image