Neidio i'r prif gynnwy

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl Cynllun y Cymhorthdal

Cynllun Cymorth ar gyfer Sector Diwylliannol a Chreadigol Cymru

3. Sail gyfreithiol yn y DU

Daw’r pwerau sydd gan Weinidogion Cymru i ganiatáu i Lywodraeth Cymru gefnogi mentrau o dan y Cynllun o’r ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (adran 1) (fel y’i diwygiwyd)
  • Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (adran 126)
  • Deddf Datblygu Diwydiannol 1982 (adran 7), a
  • Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (adrannau 58A, 60 70 a 71(1))

Rhaid i'r holl gymorthdaliadau a ddarperir o dan y Cynllun hwn gydymffurfio â threfn rheoli cymorthdaliadau'r DU ac mae'r terfynau a nodir yn yr atodlenni rydym wedi’u hatodi isod yn cyd-fynd â throthwyon presennol yr UE i sicrhau cydymffurfiaeth â'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA). Rhaid cael cymeradwyaeth ar gyfer unrhyw gymhorthdal sy'n uwch na'r terfynau a nodir.

Rhaid i bob cymorth o dan y 'Fframwaith Dros Dro ar gyfer Mesurau Cymorth Gwladwriaethol i Gefnogi'r Economi o dan y COVID-19 presennol' gydymffurfio â'r rheolau a nodir yn y Fframwaith Dros Dro.

Fersiwn llawn o'r fframwaith dros dro ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

4. Diffiniadau

ystyr "dyddiad rhoi'r cymorth" yw'r dyddiad y rhoddir yr hawl gyfreithiol i’r buddiolwr gael y cymorth o dan y drefn gyfreithiol genedlaethol berthnasol.

“Gwaith clyweledol anodd” Yn golygu’r gwaith a bennwyd fel gwaith o’r fath gan y DU ar sail y meini a ddiffiniwyd ymlaen llaw wrth sefydlu cynlluniau neu ddyfarnu’r cymorth a gallai gynnwys ffilmiau y mae eu hunig fersiwn wreiddiol yn y Gymraeg, ffilmiau byr, ffilmiau gan gyfarwyddwyr newydd a chyfarwyddwyr am yr eildro, rhaglenni dogfen neu waith â chyllideb isel neu waith sy’n anodd fel arfer yn fasnachol.

ystyr “gwaith clyweledol anodd” yw gwaith y nodir gan y DU ei fod yn waith o’r fath ar sail meini prawf a ddiffiniwyd ymlaen llaw wrth sefydlu cynlluniau neu roi'r cymorth, a gall gynnwys ffilmiau y mae eu hunig fersiwn wreiddiol yn Gymraeg, ffilmiau byrion, ffilmiau gan bobl sy’n cyfarwyddo am y tro cyntaf neu’r eilwaith, rhaglenni dogfen, neu waith cyllideb isel neu waith arall sy’n fasnachol anodd.

ystyr "menter fawr" yw unrhyw fenter nad yw'n fusnes bach a chanolig (BBaCh) (fel y'i diffinnir isod).

ystyr "elw gweithredol" yw'r gwahaniaeth rhwng y refeniw wedi’i ddisgowntio a'r costau gweithredu wedi’u disgowntio dros oes economaidd y buddsoddiad, lle mae'r gwahaniaeth hwn yn un cadarnhaol. Mae'r costau gweithredu yn cynnwys costau fel costau personél, deunyddiau, gwasanaethau dan gontract, cyfathrebu, ynni, cynnal a chadw, rhent, gweinyddu, ond nid costau dibrisiant a chostau ariannu os ydynt yn elfennau o’r cymorth buddsoddi. Mae disgowntio refeniw a chostau gweithredu gan ddefnyddio cyfradd ddisgowntio briodol yn ei gwneud yn bosibl gwneud elw rhesymol;

pennir "elw rhesymol" yn ôl yr elw sy’n nodweddiadol i'r sector dan sylw. P’run bynnag, mae cyfradd enillion ar gyfalaf nad yw’n fwy na'r gyfradd trwco/ffeirio berthnasol ynghyd â phremiwm o 100 pwynt sylfaen yn cael ei ystyried yn elw rhesymol.

ystyr "blaenswm ad-daladwy" yw benthyciad ar gyfer prosiect sy’n cael ei dalu mewn un rhandaliad neu fwy a bydd yr amodau ar gyfer ei ad-dalu yn dibynnu ar ganlyniad y prosiect.

Ystyr "BBaCh" yw menter sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:

Ystyr "BBaCh" yw menter sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:

Ystyr "dechrau gwaith" yw'r cynharaf o naill ai ddechrau'r gwaith adeiladu sy'n ymwneud â'r buddsoddiad, neu'r ymrwymiad cyfreithiol rhwymol cyntaf i archebu offer neu unrhyw ymrwymiad arall sy'n gwneud y buddsoddiad yn ddi-droi'n-ôl. Nid ystyrir bod prynu tir a gwaith paratoi megis cael trwyddedau a chynnal astudiaethau dichonoldeb yn ddechrau gwaith. O ran cymryd awenau sefydliad, ystyr 'dechrau gwaith' yw'r foment pan y caffaelir yr asedau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r sefydliad sy’n cael ei gaffael.

"Cymhorthdal"; mae gan fesur cymorth bedair (4) nodwedd allweddol sy'n debygol o ddangos y byddai'n cael ei ystyried yn gymhorthdal:

  • Yn gyntaf, rhaid i gymhorthdal fod yn gyfraniad ariannol (neu mewn nwyddau) fel grant, benthyciad neu warant.
  • Hefyd, rhaid i'r cyfraniad ariannol gael ei ddarparu gan 'awdurdod cyhoeddus', gan gynnwys llywodraeth ganolog, ddatganoledig, ranbarthol neu leol, ymhlith eraill.
  • Yn drydydd, rhaid i’r cymhorthdal hefyd roi budd dethol i'r derbynnydd, sef mantais economaidd na all ei chael ar delerau'r farchnad.
  • Yn olaf, rhaid i'r cymhorthdal ystumio neu niweidio cystadleuaeth, masnach neu fuddsoddiad.

Ystyr "dwysedd y cymhorthdal" yw swm gros y cymorth wedi’i fynegi fel canran o'r costau cymwys, cyn tynnu treth neu dâl arall.

Ystyr “adrodd storïau trawsgyfryngol” (a elwir hefyd yn adrodd storïau ar sawl llwyfan neu ar draws cyfryngau) yw’r dechneg o ddweud storïau sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd ar draws sawl llwyfan a fformat gan ddefnyddio technolegau digidol, gan gynnwys ffilmiau a gemau. Yn aml, mae prosiectau trawsgyfryngol yn gysylltiedig â chynhyrchu ffilm.

Ystyr "ymgymeriad mewn anhawster" yw ymgymeriad o dan o leiaf un o'r amgylchiadau canlynol:

  1. Yn achos cwmni atebolrwydd cyfyngedig (ac eithrio BBaCh sy’n llai na thair oed neu at ddiben bod yn gymwys am gymorth cyllid risg, BBaCh y mae llai na 7 mlynedd ers ei werthiant masnachol cyntaf ac sy'n gymwys am fuddsoddiad cyllid risg yn dilyn archwiliad diwydrwydd dyladwy gan y cyfryngwr ariannol a ddewiswyd), lle mae mwy na hanner ei gyfalaf cyfranddaliadau wedi diflannu o ganlyniad i golledion cronedig. Hynny pan dynnir y colledion cronedig o gronfeydd wrth gefn (a'r holl elfennau eraill a ystyrir yn gyffredinol fel rhan o gronfeydd y cwmni), esgorir ar swm cronnol negyddol sy'n fwy na hanner y cyfalaf cyfranddaliadau sydd wedi’i danysgrifio.
  2. Yn achos cwmni lle mae gan o leiaf rai aelodau atebolrwydd diderfyn am ddyled y cwmni (ac eithrio BBaCh sy’n llai na thair oed neu, at ddiben bod yn gymwys am gymorth cyllid risg, BBaCh y mae llai na 7 mlynedd ers ei werthiant masnachol cyntaf ac sy'n gymwys am fuddsoddiad cyllid risg yn dilyn archwiliad diwydrwydd dyladwy gan y cyfryngwr ariannol a ddewiswyd), lle mae mwy na hanner ei gyfalaf fel y’i dangosir yng nghyfrifon y cwmni wedi diflannu o ganlyniad i golledion cronedig. At ddibenion y ddarpariaeth hon, mae "cwmni lle mae gan o leiaf rai aelodau atebolrwydd diderfyn am ddyled y cwmni" yn cyfeirio'n benodol at y mathau canlynol o gwmni:
    • partneriaethau
    • partneriaethau cyfyngedig, a
    • chwmnïau anghyfyngedig.
  3. Bod yr ymgymeriad yn destun achos o ansolfedd ar y cyd neu'n bodloni'r meini prawf o dan ei gyfraith ddomestig ar gyfer achos o ansolfedd ar y cyd ar gais ei gredydwyr.
  4. Lle mae'r ymgymeriad wedi cael cymorth achub ac nad yw eto wedi ad-dalu'r benthyciad neu wedi terfynu'r warant, neu sydd wedi cael cymorth ailstrwythuro ac yn dal i fod yn destun cynllun ailstrwythuro.
  5. Yn achos ymgymeriad nad yw'n BBaCh, lle, am y ddwy flynedd ddiwethaf:
    1. mae’r gymhareb rhwng dyled yr ymgymeriad ar ei lyfrau a’i ecwiti wedi bod yn fwy na 7,5 a lle
    2. mae cymhareb llog EBITDA yr ymgymeriad wedi bod yn is na 1,0.

5. Amcanion y cynllun

Helpu i ddiogelu sefydliadau cynaliadwy a swyddi yn y sector diwylliant er mwyn sicrhau ei fod yn goroesi argyfwng Covid-19. Ei alluogi i barhau'n fywiog, yn hyfyw ac yn gynaliadwy yn 2022.

Darparu cymorth ar gyfer sgriptio, datblygu, cynhyrchu, dosbarthu a hyrwyddo gwaith clyweledol, gemau a gwaith trawsgyfryngol. Bydd y Cynllun yn datblygu ac yn cynnal seilwaith clyweledol o ansawdd uchel yng Nghymru ymhellach, a hynny drwy gefnogi a hyrwyddo cynyrchiadau o Gymru a denu cynyrchiadau tramor mawr i Gymru. Bydd hynny’n gyfrwng i hyrwyddo cyfleusterau, dawn a diwylliant Cymru a chyfrannu at dwf economaidd cyffredinol y Sector.

Nod y cynllun yw cefnogi trawsnewid y sector. Bydd y cynllun hefyd yn cefnogi pecyn achub ac adfer sy'n cyd-fynd o ran polisi â thelerau ac amodau Fframwaith Dros Dro'r UE i gefnogi'r economi yng nghyd-destun COVID-19 mewn atodlen ar wahân.

6. Y corff llywodraethu sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

7. Cwmpas y cynllun

Bydd y canlynol yn cael elwa ar y cynllun:

  • Cwmnïau cynhyrchu teledu, ffilmiau, gemau a thrawsgyfryngol
  • mannau cynnal cerddoriaeth
  • mudiadau a safleoedd treftadaeth
  • amgueddfeydd
  • archifau
  • llyfrgelloedd
  • sinemâu annibynnol, a
  • digwyddiadau diwylliannol neu dreftadol.

Ni roddir cymorth os yw'r derbynnydd arfaethedig:

  • wedi cael gorchymyn i ad-dalu cymhorthdal a roddwyd yn y DU sydd wedi’i ddatgan yn gymhorthdal anghyfreithlon, Neu
  • Yn achos cymhorthdal a ddarperir o dan atodlen 1; lle rhoddir cymorth i ymgymeriad a oedd mewn anhawster (gweler y diffiniad) cyn 31 Rhagfyr 2019 oni bai ei fod yn fenter fach neu'n ficro-fenter nad yw wedi derbyn cymorth achub ac ailstrwythuro
  • Yn achos cymhorthdal a ddarperir o dan atodlen 2; lle rhoddir cymorth i ymgymeriad mewn anhawster (gweler y diffiniad).

8. Hyd y cynllun

Bydd modd rhoi cymorth o dan y Cynllun hwn rhwng 1 Ionawr 2021 a 31 Rhagfyr 2025.

9. Y gyllideb cymorth o dan y Cynllun hwn

Er nad oes cyllideb diffiniedig ar gyfer cymorth o dan y cynllun hwn, amcangyfrifwyd y bydd cyfanswm y gwariant oddeutu £20 miliwn.

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a roddir o dan y Cynllun yn dryloyw. Bydd modd rhoi cymorth ar ffurf grantiau.

11. Gweithgareddau cymwys y gall y Cynllun eu cefnogi

Mae'r Cynllun yn cefnogi gweithgareddau sy’n diogelu Diwylliant a Threftadaeth lle bernir bod y cyllid yn gymhorthdal.

Disgrifir yn fanwl yn Atodlen 1 y gweithgareddau cymwys y bwriedir iddynt gywiro’r aflonyddu difrifol a fu ar yr economi.

Disgrifir yn fanwl yn Atodlen 2 y gweithgareddau cymwys y bwriedir iddynt helpu i ddiogelu diwylliant a threftadaeth drwy newid trawsnewidiol.

Disgrifir yn fanwl yn Atodlen 3 y gweithgareddau cymwys y bwriedir iddynt helpu i ddatblygu gwaith clyweledol, gan gynnwys gemau a gwaith trawsgyfryngol.

Os nad oes modd cynorthwyo derbynwyr cymwys yn unol â hynny, gellir dyfarnu symiau bach o gymorth ariannol iddynt yn unol ag Erthygl 3.2 paragraff 4 o Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE.

12. Effaith y cymhelliad

Bwriad y cymhorthdal yw newid ymddygiad economaidd y buddiolwr. Bernir bod yr egwyddor hon wedi’i bodloni lle bydd y cymorth yn bodloni'r holl amodau a nodir naill ai yn Fframwaith Dros Dro’r UE i gefnogi’r economi yng nghyd-destun COVID-19 o ran atodlen 1, neu drefn rheoli cymhorthdal y DU o ran atodlenni 2 a 3.

Rhaid i’r rhai sy’n cael cymorth gyflwyno cais ysgrifenedig am gymorth drwy’r cynllun hwn cyn i waith ar weithgaredd y prosiect ddechrau. Bydd y cais yn cynnwys yr wybodaeth a ganlyn o leiaf:

  1. Enw a maint
  2. Disgrifiad o’r prosiect, gan gynnwys ei ddyddiadau cychwyn a gorffen
  3. Lleoliad y prosiect
  4. Rhestr o gostau’r prosiect
  5. Ffurf a swm y cyllid cyhoeddus sydd ei angen ar y prosiect.

13. Cronni

Wrth benderfynu a lwyddwyd i gadw o fewn y trothwyon dwysedd unigol a therfyn dwysedd y cymhorthdal, rhaid ystyried yr holl gefnogaeth gyhoeddus sydd wedi’i rhoi i'r gweithgaredd neu’r prosiect a gynorthwyir, ni waeth pwy sydd wedi ariannu’r cymorth hwnnw, boed ffynhonnell leol, rhanbarthol, cenedlaethol neu'r Undeb Ewropeaidd.

Ni fydd modd cyfuno’r cymhorthdal a ddarperir o dan y Cynllun hwn â mathau eraill o gymorth na chyda chymorth sy’n cael ei ystyried yn 'symiau bach o gymorth' ar gyfer yr un costau cymwys os bydd swm hynny’n uwch na’r terfynau cymorth perthnasol.

Mae mecanwaith wedi'i sefydlu fel rhan o'r broses ymgeisio i sicrhau nad yw'r cymorth o’i gronni yn fwy na’r dwysedd mwyaf a ganiateir o dan y Cynllun. Caiff archwiliadau diwydrwydd dyladwy eu cynnal yn ystod y broses ddyfarnu.

Os dyfernir y cymhorthdal drwy atodlen 1 yn unol â Fframwaith Dros Dro'r UE i gefnogi'r economi yng nghyd-destun y brigiad COVID-19, gellir dyfarnu hyd at £1,600,000, gan ystyried unrhyw gymhorthdal arall sy'n deillio o Fframwaith Dros Dro'r UE sydd eisoes wedi'i dderbyn gan yr ymgeisydd.

14. Gofynion monitro ac adrodd

Bydd pawb sy'n derbyn cymhorthdal o dan y Cynllun yn cael gwybod bod y cymorth wedi'i ddarparu o dan y Cynllun, a fydd wedi’i gofrestru o dan SC10468, ‘Cynllun Cymorth ar gyfer Sector Diwylliannol a Chreadigol Cymru' neu Fframwaith Dros Dro'r UE i gefnogi'r economi yng nghyd-destun COVID-19.

Cedwir cofnodion am 10 mlynedd o ddyddiad dyfarnu'r cymhorthdal diwethaf o dan y Cynllun. Bydd y cofnodion yn ddigon manwl i allu cadarnhau a yw amodau'r Cynllun yn cael eu bodloni.

Bydd manylion unrhyw ddyfarniad sy'n fwy na £500,000 a roddir o dan y cynllun hwn ar gael i'r cyhoedd eu gweld ar wefan Cronfa Ddata Tryloywder Cymhorthdal y DU o fewn 6 mis ar ôl ei roi.

Cyhoeddir adroddiadau blynyddol neu bob dwy flynedd ar wariant o dan y Cynllun hwn er mwyn cydymffurfio ag ymrwymiadau rhyngwladol y DU o ran cymhorthdal.

Yn unol ag ymrwymiadau'r DU o dan Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r holl wybodaeth a dogfennau yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i bartïon â diddordeb i ddangos eu bod yn cydymffurfio â threfn rheoli cymhorthdal y DU o fewn mis ar ôl iddi derbyn cais i’w gweld.

Gwybodaeth gysylltu:

Uned Polisi Cymorth Gwladol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Cymru

Ffôn: + 44 (0)3000 253568
E-bost: State.Aid@gov.wales

Atodlen 1: Cymorthdaliadau Adfer Diwylliannol y bwriedir iddynt gywiro’r aflonyddu difrifol a fu yn yr economi

Bydd y Gronfa Adferiad Diwylliannol yn helpu i gefnogi a chynnal y sector oherwydd yr heriau sy’n parhau i ddeillio o bandemig Covid-19. Bwriad y gronfa yw darparu cymorth hanfodol i sefydliadau yn y sector, gan gynnwys lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd, digwyddiadau a'u gwasanaethau cymorth technegol (fel y'u diffinnir isod), a sinemâu annibynnol sydd i gyd wedi gweld colledion ariannol mawr oherwydd y pandemig. Bydd y gronfa'n helpu sefydliadau i oresgyn yr argyfwng. Er mai pecyn achub ac adfer yw hwn yn bennaf, mae'n gyfle unigryw i sicrhau trawsnewidiad o fewn y sector.

Prif waith (mwy na 60%) Gwasanaethau Technegol a Chymorth Creadigol yw darparu gwasanaethau craidd i'r sectorau canlynol:

  • Digwyddiadau (digwyddiadau diwylliannol, chwaraeon neu fusnes sy'n cyd-fynd â'n strategaeth Digwyddiadau Cymru)
  • Sinemâu Annibynnol
  • Sector y Celfyddydau (cerddoriaeth, dawns, theatr, llenyddiaeth, celfyddydau gweledol a chymhwysol, celfyddydau cyfunol, Celf Ddigidol)
  • Lleoliadau Cerddoriaeth ar Lawr Gwlad

Bydd busnesau’n gweithredu neu'n cyflogi yng Nghymru a byddant wedi gweld gostyngiad sylweddol yn eu trosiant yn y 12 mis diwethaf. Dylai busnesau allu dangos iddynt weithredu er budd y sectorau hyn o fewn y 3 blynedd diwethaf.

Mae busnesau o dan y penawdau canlynol yn cael gwneud cais:

  • Sain
  • Goleuadau
  • AV, ffilm neu ffotograffiaeth
  • Gwasanaethau Llwyfannu neu Gynhyrchu
  • Llogi a gosod offer llwyfannu
  • Atebion achredu/tocynnau (e.e. bandiau arddwrn)
  • Cyfleustodau dros dro e.e. generaduron trydan/pŵer
  • Gwasanaethau TG arbenigol (e.e. apiau, gwasanaethau amseru ar gyfer chwaraeon neu gapsiynau ar gyfer pobl fyddar)
  • Dylunwyr a gosodwyr arddangosfeydd/stondinau (ar gyfer digwyddiadau busnes yn unig)
  • Asiantwyr/asiantaethau adloniant sy'n darparu artistiaid (i ddigwyddiadau cymwys, lleoliadau cerddoriaeth neu ddisgyblaethau proffesiynol CCC)
  • Cwmnïau cynhyrchu teledu a ffilmiau, gemau a thrawsgyfryngol.

Ni fydd y busnesau canlynol yn gymwys:

  • Asiantaethau marchnata/PR
  • Argraffu, dylunio neu frandio/gwisgo digwyddiadau
  • Cynhyrchu/gosod arwyddion
  • Gwneuthurwyr medalau/tlysau
  • Artistiaid, diddanwyr, bandiau unigol (Dylent ymgeisio trwy’r Gronfa i Artistiaid Llawrydd)
  • Gwneuthurwyr/manwerthwyr nwyddau
  • Cyflenwyr/manwerthwyr bwyd a diod a chwmnïau arlwyo
  • Trafnidiaeth (e.e. gwasanaethau parcio a theithio)/parcio.

A. Lwfans y Grant Busnes Adferiad Diwylliannol

Gellir talu cymorth sy'n cyd-fynd â’r 'Fframwaith Dros Dro ar gyfer Mesurau Cymorth Gwladwriaethol i Gefnogi'r Economi yng nghyd-destun COVID-19' yn unol â'r Egwyddorion a nodir yn Erthygl 3.4 o'r TCA ac yn unol ag Erthygl 3.2(3) o'r TCA o dan Lwfans Grant Busnes COVID-19 (cymorthdaliadau a roddir am gyfnod dros dro i ymateb i argyfwng economaidd cenedlaethol neu fyd-eang).

Uchafswm y cymorth a ganiateir yw £1,600,000 fesul ymgymeriad. Mae'r lwfans hwn yn cynnwys unrhyw grantiau busnes COVID-19 y DU sydd eisoes wedi’u derbyn ac unrhyw gymorth gwladwriaethol o dan Adran 3.1 o Fframwaith Dros Dro'r Comisiwn Ewropeaidd sydd eisoes wedi’i dderbyn ar draws unrhyw gynllun arall yn y DU.

B. Lwfans Arbennig y Grant Busnes Adferiad Diwylliannol

Pan fydd ymgeisydd wedi cyrraedd ei derfyn o dan Lwfans Grant Busnes Adferiad Diwylliannol Atodlen 1A, mae’n bosibl y bydd lwfans pellach ar gael iddo o dan reolau'r cynllun hwn o hyd at £9,000,000 fesul actor economaidd unigol, cyn belled â bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  1. Mae'r Lwfans Arbennig yn cwmpasu yn unig gostau sefydlog yr ymgeisydd (heb ffynhonnell incwm) dros y cyfnod rhwng 1 Mawrth 2020 a 31 Mawrth 2022, gan gynnwys costau o'r fath a ysgwyddir mewn unrhyw ran o'r cyfnod hwnnw ('cyfnod cymwys')
  2. Rhaid i ymgeisydd ddangos iddo weld gostyngiad sylweddol yn ei drosiant dros y cyfnod cymwys o’i gymharu â'r un cyfnod yn 2019. Cyfrifir ei golledion ar sail ei gyfrifon archwiliedig neu ei gyfrifon statudol swyddogol a gafodd eu ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau, neu ei gyfrifon cymeradwy a gyflwynwyd i CThEM sy'n cynnwys gwybodaeth am elw a cholled yr ymgeisydd
  3. Ystyr 'costau sefydlog heb ffynhonnell incwm’ yw costau sefydlog nad oes elw, yswiriant na chymhorthdal arall i dalu amdanynt
  4. Ni chaiff y taliad grant fod yn fwy na 70% o gostau sefydlog (heb ffynhonnell incwm) yr ymgeisydd, ac eithrio mentrau micro a bach (at ddibenion y cynllun hwn a ddiffinnir fel rhai â llai na 50 o weithwyr ac â throsiant blynyddol a/neu mantolen flynyddol o lai na £9,000,000), lle na ddylai'r taliad grant fod yn fwy na 90% o'r costau sefydlog heb ffynhonnell incwm
  5. Ni chaiff taliadau grant o dan y lwfans hwn fod yn fwy na £9,000,000 fesul un actor economaidd. Mae'r lwfans hwn yn cynnwys unrhyw grantiau sydd eisoes wedi’u derbyn yn unol ag Adran 3.12 o Fframwaith Dros Dro'r Comisiwn Ewropeaidd; rhaid i'r holl ffigurau a ddefnyddir fod yn rhai gros, hynny yw, cyn tynnu treth neu dâl arall
  6. Ni fydd modd cyfuno’r grantiau a ddarperir o dan y lwfans hwn â chymorthdaliadau eraill ar gyfer yr un costau.

Atodlen 2: Cymorthdaliadau Ailadeiladu Diwylliannol y bwriedir iddynt helpu i ddiogelu diwylliant a threftadaeth trwy newid trawsnewidio

Gellir darparu cymorth at y dibenion a’r gweithgareddau diwylliannol canlynol:

  1. Amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd, canolfannau neu ofodau celfyddydol a diwylliannol, theatrau, sinemâu, tai opera, neuaddau cyngerdd, sefydliadau perfformiad byw eraill, sefydliadau treftadaeth ffilm a sefydliadau, seilwaith a mudiadau celfyddydol a diwylliannol tebyg eraill, a chwmnïau cynhyrchu teledu a ffilmiau, gemau a thrawsgyfryngol
  2. Treftadaeth ddiriaethol gan gynnwys pob math o safleoedd treftadaeth ddiwylliannol ac archeolegol symudol neu sefydlog, henebion, safleoedd ac adeiladau hanesyddol; treftadaeth naturiol sy'n gysylltiedig â threftadaeth ddiwylliannol neu os yw wedi’i chydnabod yn ffurfiol fel treftadaeth ddiwylliannol neu naturiol gan awdurdod cyhoeddus cymwys Aelod-wladwriaeth
  3. Treftadaeth anniriaethol o unrhyw ffurf, gan gynnwys arferion a chrefftau gwerin
  4. Digwyddiadau a pherfformiadau celf neu ddiwylliannol, gwyliau, arddangosfeydd a gweithgareddau diwylliannol tebyg eraill
  5. Gweithgareddau addysg ddiwylliannol a chelfyddydol yn ogystal â hyrwyddo'r ddealltwriaeth o bwysigrwydd diogelu a hyrwyddo amrywiaeth o ran mynegiant diwylliannol drwy raglenni addysgol a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, gan gynnwys defnyddio technolegau newydd
  6. Ysgrifennu, golygu, cynhyrchu, dosbarthu, digideiddio a chyhoeddi cerddoriaeth a llenyddiaeth, gan gynnwys cyfieithiadau.

Ffurfiau cymwys o gymorth

Rhoddir y ffurfiau canlynol o gymorth:

  • Cymorth buddsoddi, gan gynnwys cymorth ar gyfer adeiladu neu i wella seilwaith diwylliannol
  • Cymorth gweithredu.

Costau cymwys

Bydd costau cymwys ar gyfer cymorth buddsoddi’n cynnwys:

  • costau ar gyfer adeiladu, caffael, diogelu neu wella seilwaith, os defnyddir o leiaf 80% o naill ai ei amser neu gapasiti'r gofod y flwyddyn at ddibenion diwylliannol
  • costau, gan gynnwys prydlesu, trosglwyddo meddiant neu adleoli ffisegol y dreftadaeth ddiwylliannol
  • costau ar gyfer gwarchod, diogelu, adfer ac adsefydlu treftadaeth ddiwylliannol ddiriaethol ac anniriaethol, gan gynnwys costau ychwanegol ar gyfer ei storio o dan amodau priodol, offer arbennig, deunyddiau a chostau dogfennu, ymchwil, digideiddio a chyhoeddi
  • costau ar gyfer gwella hygyrchedd treftadaeth ddiwylliannol i'r cyhoedd, gan gynnwys costau digideiddio a thechnolegau newydd eraill, costau i wella hygyrchedd i bobl ag anghenion arbennig (yn arbennig, rampiau a lifftiau ar gyfer pobl anabl, arwyddion braille ac arddangosion cyffwrdd mewn amgueddfeydd) ac ar gyfer hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol mewn perthynas â chyflwyniadau, rhaglenni ac ymwelwyr
  • costau ar gyfer prosiectau a gweithgareddau diwylliannol, rhaglenni cydweithredu a chyfnewid a grantiau gan gynnwys costau ar gyfer gweithdrefnau dethol, costau hyrwyddo a chostau a ysgwyddir yn uniongyrchol o ganlyniad i'r prosiect.

Y costau cymwys ar gyfer cymorth gweithredu yw:

  • costau'r sefydliad diwylliannol neu'r safle treftadaeth sy'n gysylltiedig â gweithgareddau di-dor neu gyfnodol gan gynnwys arddangosfeydd, perfformiadau a digwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol tebyg sy'n digwydd yng nghwrs arferol busnes
  • costau gweithgareddau addysg ddiwylliannol a chelfyddydol yn ogystal â hyrwyddo'r ddealltwriaeth o bwysigrwydd diogelu a hyrwyddo amrywiaeth o ran mynegiant diwylliannol drwy raglenni addysgol a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, gan gynnwys defnyddio technolegau newydd
  • costau ar gyfer gwella hygyrchedd i’r cyhoedd i’r sefydliad diwylliannol neu'r safle neu weithgaredd treftadaeth, gan gynnwys costau digideiddio a thechnolegau newydd eraill ynghyd â chostau i wella hygyrchedd i bobl ag anableddau
  • costau gweithredu sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r prosiect neu’r gweithgaredd diwylliannol, megis rhentu neu brydlesu eiddo tiriog a lleoliadau diwylliannol, treuliau teithio, deunyddiau a chyflenwadau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r prosiect neu’r gweithgaredd diwylliannol, strwythurau pensaernïol ar gyfer arddangosfeydd a setiau llwyfan, benthyca a phrydlesu offer, meddalwedd a chyfarpar a’u dibrisiant, costau ar gyfer hawliau i waith hawlfraint a deunyddiau eraill sydd wedi’u diogelu gan hawliau eiddo deallusol cysylltiedig, costau hyrwyddo a chostau a ysgwyddir yn uniongyrchol o ganlyniad i'r prosiect neu’r gweithgaredd: ni fydd costau dibrisiant a chyllido’n gymwys oni bai nad oedd cymorth buddsoddi ar eu cyfer.
  • costau personél sy'n gweithio i'r sefydliad diwylliannol neu’r safle treftadaeth neu ar gyfer prosiect:
    • cost cyhoeddi cerddoriaeth a llenyddiaeth yw cost cyhoeddi cerddoriaeth a llenyddiaeth, gan gynnwys ffioedd yr awduron (costau hawlfraint), ffioedd cyfieithwyr, ffioedd golygyddion, costau golygyddol eraill (prawfddarllen, cywiro, adolygu), costau diwyg a chyn argraffu a chostau argraffu neu e-gyhoeddi.
  • costau gwasanaethau cynghori a chymorth a ddarperir gan ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaethau allanol, a ysgwyddir yn uniongyrchol o ganlyniad i'r prosiect.

Dwysedd y cymorth sy’n gymwys

  1. Cymorth buddsoddi – ni fydd swm y cymorth yn fwy na'r gwahaniaeth rhwng y costau cymwys ac elw gweithredol y buddsoddiad Bydd yr elw gweithredol yn cael ei dynnu o'r costau cymwys ex-ante, ar sail amcanestyniadau rhesymol, neu drwy fecanwaith adfer arian. Caniateir i weithredwr y seilwaith gadw elw rhesymol dros y cyfnod perthnasol.
  2. Cymorth gweithredu – ni fydd swm y cymorth yn fwy na'r hyn sy'n angenrheidiol i dalu am golledion gweithredu a rhoi elw rhesymol dros y cyfnod perthnasol. Sicrheir hyn ex-ante, ar sail amcanestyniadau rhesymol, neu drwy fecanwaith adfer arian.
  3. Os nad yw cyfanswm y cymorth yn fwy nag £1.75m ar gyfer cymorth buddsoddi a chymorth gweithredu, gellir cefnogi hyd at 80% o gyfanswm y costau cymwys heb ystyried y gwahaniaeth rhwng costau cymwys a’r elw gweithredol neu’r colledion gweithredol.
  4. Ar gyfer ysgrifennu, golygu, cynhyrchu, dosbarthu, digideiddio a chyhoeddi cerddoriaeth a llenyddiaeth, gan gynnwys cyfieithiadau, ni fydd uchafswm y cymorth yn fwy na naill ai:
    1. y gwahaniaeth rhwng y costau cymwys a refeniw wedi’i ddisgowntio’r prosiect: neu
    2. 70% o'r costau cymwys.

    Bydd y refeniw'n cael ei dynnu o'r costau cymwys ex ante neu drwy fecanwaith adfer arian.

  5. Ni fydd cymorth ar gyfer papurau newydd neu gylchgronau, a gyhoeddir mewn print neu yn electronig, yn gymwys i gael cymorth o dan y cynllun hwn.

Trothwyon Hysbysu i Unigolion

Nodir y cymorth mwyaf y gall y cynllun hwn ei ddarparu yn y tabl isod.  Bydd grant sy'n uwch na'r lefelau hyn yn cael ei gynnig ar sail ad hoc a bydd yn parchu gofynion Tryloywder grantiau ad hoc yn unol â threfn rheoli cymhorthdal y DU.

Math o gymorth Trothwy hysbysu (£)
Cymorth Buddsoddi £130 miliwn y prosiect
Cymorth Gweithredu £65 miliwn yr ymgymeriad, y flwyddyn

Atodlen 3: Cymorth ar gyfer gwaith clyweledol, gemau a gwaith trawsgyfryngol

Gellir darparu cymorth ar gyfer:

  • costau cynhyrchu gwaith clyweledol, gemau a gwaith trawsgyfryngol
  • costau cyn cynhyrchu
  • costau dosbarthu

Prawf diwylliannol

I wneud cais llwyddiannus, rhaid i brosiect basio prawf diwylliannol y DU h.y. rhaid iddo fod yn gynhyrchiad diwylliannol Prydeinig fel y'i diffinnir gan Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y DU ("Prawf Diwylliannol y DU").

Yn ogystal, rhaid i'r cynhyrchiad wneud cyfraniad sylweddol at un neu fwy o'r meini prawf isod sy’n benodol i Gymru:

  • Dangos ystod mor eang â phosibl o ddelweddau o Gymru.
  • Dangos gwaith talent greadigol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i awduron, cyfarwyddwyr ac actorion sydd â’u lleoliad yn y rhanbarth neu y mae eu gwaith yn seiliedig ar y rhanbarth.
  • Adrodd straeon brodorol ar yr un pryd yn Gymraeg a Saesneg
  • Dangos delwedd Cymru i gynulleidfa ryngwladol eang.
  • Datblygu'r sylfaen sgiliau sydd ei hangen i gynnal cynyrchiadau ffilm, teledu neu gemau yng Nghymru.

Bydd y cynllun yn darparu cymorth ar gyfer gwaith clyweledol anodd.

Bydd gwaith clyweledol anodd yn un sy'n bodloni'r diffiniad o "ffilm anodd", a ddiffinnir gan awdurdodau'r DU fel un na fyddai ganddi fawr o obaith o lwyddo’n fasnachol oherwydd ei natur arbrofol neu oherwydd bod lefel uchel o risg greadigol yn gysylltiedig â hi.

Byddai angen i "waith clyweledol anodd" hefyd gyfrannu at gyflawni un neu fwy o'r amcanion a ganlyn:

  1. Bod ganddo ethos diwylliannol a gwasanaeth cyhoeddus cryf; neu
  2. Cyfrannu at wella technolegau newydd drwy, ymhlith pethau eraill, archwilio fformatau cyflwyno digidol newydd mewn ffordd ddyfeisgar a chreadigol, gan hyrwyddo celfyddyd sinema ac adrodd straeon; neu
  3. Hyrwyddo heriau newydd ac arloesol o ran ffurf a chynnwys y ffilmiau a     gyllidir; neu
  4. Cynnig dewis amgen clir yn lle sinema masnachol a rhoi cyfleoedd i wneuthurwyr ffilmiau sydd wedi cael eu gwrthod gan y diwydiannau ffilm masnachol yn Ewrop, neu sydd wedi gwrthod y diwydiannau hynny eu hunain; neu
  5. Annog gwneuthurwyr ffilmiau a chynulleidfaoedd i ymgysylltu ag ieithoedd lleiafrifol; neu
  6. Helpu i ddatblygu, a rhoi cyfleoedd creadigol i fusnesau ac unigolion mewn ardaloedd lle nad oes fawr o ddatblygiad economaidd neu ddatblygiad cymdeithasol; neu
  7. Rhoi cyfleoedd i sefydliadau ac unigolion sydd wedi cael eu heithrio o'r diwydiant ffilm oherwydd, er enghraifft, eu hil, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, tlodi, anabledd, ynysu daearyddol, cred grefyddol neu farn wleidyddol; neu
  8. Helpu i ddatblygu cymunedau creu ffilmiau creadigol ac effeithiol ar draws o leiaf ddwy o wledydd yr Undeb Ewropeaidd neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; neu
  9. Bod yn waith gan rywun sy’n mynd ati am y tro cyntaf i wneud ffilmiau, ysgrifennu, cyfarwyddo neu gynhyrchu talent, neu’n waith gan rywun sy’n  amhrofiadol yn y meysydd hynny.

Mae'r meini prawf cymhwysedd isod hefyd yn gymwys:

  1. Dim ond pan fyddant yn gallu dangos bod ganddynt y potensial i gyrraedd cynulleidfa yng Nghymru ac mewn mannau eraill y bydd prosiectau'n gymwys i gael cyllid. Bydd tystiolaeth am y potensial hwnnw’n benodol i'r prosiect ond mae'n debygol o gynnwys, er enghraifft, bod asiant gwerthu profiadol yn gysylltiedig â cheisiadau ar gyfer ffilm neu fod darlledwr yn gysylltiedig â phrosiectau ar gyfer y teledu, neu lwybr a gadarnhawyd i’r farchnad ar gyfer gemau a gwaith trawsgyfryngol;
  2. Rhaid i'r gyllideb fod yn briodol i faint y prosiect, rhaid darparu tystiolaeth glir o arian cyfatebol a chymorth cyffredinol, gan gynnwys Cronfa Sgrin Cymru yn unol â pharamedrau cymorth
  3. Ni fydd y cynllun yn cystadlu â chyllidwyr eraill sydd wedi cynnig cymorth i ddarpar ymgeisydd. Yn ymarferol, mae hynny’n golygu na fydd y cynllun yn rhan o broses ymgeisio gystadleuol gydag unrhyw gyllidwr arall.

Er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw ceisiadau am gyllid ôl-weithredol yn gymwys.

Costau cymwys

Bernir bod y costau a ganlyn yn gymwys:

  1. Ar gyfer cymorth cynhyrchu: y costau cyffredinol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu gwaith clyweledol, gemau a gwaith thrawsgyfryngol, gan gynnwys costau i wneud yn gwaith hwnnw’n fwy hygyrch i bobl ag anableddau.
  2. Ar gyfer cymorth cyn cynhyrchu: costau ysgrifennu sgriptiau a datblygu gwaith clyweledol, gemau a gwaith thrawsgyfryngol.
  3. Ar gyfer cymorth dosbarthu: costau dosbarthu a hyrwyddo gwaith clyweledol, gemau a gwaith thrawsgyfryngol.

Dwysedd y cymorth

Fel arfer, dwysedd uchaf y cymorth a ganiateir o dan y gronfa fydd 50% o gyllideb gyffredinol cynhyrchiad. Gellir cynyddu’r dwysedd hwnnw  i 60% o'r costau cymwys ar gyfer cynyrchiadau trawsffiniol a ariennir gan fwy nag un Aelod-wladwriaeth ac y mae cynhyrchwyr o fwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gysylltiedig â nhw.

Bydd y cynllun yn dyfarnu hyd at 100% o'r costau cymwys i waith clyweledol os yw'n waith "cyllideb isel" ac os yw’n bodloni meini prawf "gwaith clyweledol anodd". Yr hyn a olygir wrth "ffilm cyllideb isel" yw ffilm sydd â chyllideb o lai na £200,000.

Ni fydd dwysedd y cymorth ar gyfer gwaith cyn-gynhyrchu yn fwy na 100% o'r costau cymwys. Os bydd y sgript neu'r prosiect sy’n deillio o’r gwaith hwnnw yn cael ei droi’n waith clyweledol fel ffilm, gêm neu ddarn o waith trawsgyfryngol, bydd y costau cyn-gynhyrchu yn cael eu hymgorffori yn y gyllideb gyffredinol ac yn cael eu hystyried wrth gyfrifo dwysedd y cymorth. Bydd dwysedd y cymorth ar gyfer dosbarthu yr un fath â dwysedd y cymorth ar gyfer cynhyrchu.

Amodau gwariant tiriogaethol

Dyfernir cymorth fel canran o'r gwariant ar weithgarwch cynhyrchu yng Nghymru. Gall y ganran amrywio gan ddibynnu ar asesiad o'r cynhyrchiad a'i effaith gyffredinol ar Gymru.

Ni fydd yn ofynnol i fuddiolwyr wario yng Nghymru fwy na 160% o'r cymorth a roddir ar gyfer cynhyrchu gwaith clyweledol, gêm neu waith trawsgyfryngol a gefnogir.

Ni fydd uchafswm y gwariant sy'n ddarostyngedig i rwymedigaethau gwariant tiriogaethol yn fwy nag 80% o'r gyllideb gynhyrchu gyffredinol.