Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

3. Cyngor ar ddyledion

Cyn gwneud cais o dan y cynllun, mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch benthyciwr morgeisi presennol i drafod eich sefyllfa ariannol ac i weld a all eich helpu.

Os na all eich benthyciwr morgeisi presennol helpu, yna dylech ofyn am gyngor am ddim gan asiantaeth cyngor ar ddyledion a fydd yn adolygu eich sefyllfa ariannol ac yn llunio cynllun datrys dyledion.  Bydd y cynllun hwn yn cynnwys: 

  • gwybodaeth am unrhyw ddatrysiadau y maen nhw'n meddwl sy'n iawn i chi a sut y gallwch chi eu rhoi ar waith
  • cynllun cyllideb misol fel eich bod yn gwybod beth sydd gennych i'w wario
  • cyngor ar sut i ddelio â'r bobl y mae arnoch arian iddynt
  • ffyrdd y gallwch gynyddu eich incwm neu leihau eich gwariant
  • gwybodaeth am yr hyn fyddai'n digwydd pe na baech yn talu'ch dyledion

Pan fyddwch yn gwneud cais i'r cynllun mae'n rhaid i chi gynnwys eich cynllun datrys dyledion gyda'ch cais. 

Mae Cymorth i Aros – Cymru yn gweithio'n agos gyda'r asiantaeth cyngor ar ddyledion PayPlan, ond gallwch ddefnyddio unrhyw asiantaeth cyngor ar ddyledion am ddim.

Mae gwefan Money Helper yn darparu opsiynau eraill i ddod o hyd i wasanaeth cyngor ar ddyledion am ddim.

Ni fyddwch yn gallu bwrw ymlaen â'ch cais heb gynllun datrys dyledion ac asesiad cyllidebol. gymhelliad dyled a'ch asesiad cyllideb. Ni fyddwch yn gallu bwrw ymlaen heb y wybodaeth hon.