Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o'r cynllun

Mae'r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid wedi'i gynllunio i'ch helpu os ydych chi'n dioddef neu'n wynebu

caledi ariannol sylweddol o ganlyniad uniongyrchol i broblemau sy'n gysylltiedig â diogelu'ch eiddo rhag tân.

Mae’r cynllun yn para am dair blynedd, o fis Mehefin 2022 i fis Mehefin 2025. Mae ar gael ym mhob rhan o Gymru.

Mae'n gynllun di-dâl yn cynnig cyngor ac atebion i lesddeiliaid ar eu pryderon ariannol ac ambell waith ar sut i brynu eu heiddo ar les.

Mae pryderon ariannol pob aelwyd yn wahanol a bydd y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid yn helpu ymgeiswyr ac yn eu cynghori ar yr opsiynau sydd ar gael. 

Os ydych chi'n dioddef neu'n wynebu caledi ariannol, bydd hyn yn golygu edrych ar eich sefyllfa ariannol i benderfynu ar yr opsiynau sydd ar gael i helpu'r aelwyd. Gall hyn arwain, os yn briodol, at brynu’r eiddo, ond rhaid i hyn fod yr opsiwn gorau er lles y lesddeiliad.

Os nad ydych chi’n dioddef neu’n wynebu caledi ariannol, mae’n bosibl y bydd y cynllun yn gallu eich helpu o hyd drwy gynnig cymorth arall.

Sut mae'r cynllun yn gweithio

Mae'r canllaw hwn yn esbonio'n fyr sut mae'r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid yn gweithio a'r prosesau y mae'n rhaid eu dilyn.

Rhoddir gwybodaeth am bob un o gamau'r broses yn yr adran berthnasol.

I weld gwybodaeth ac arweiniad ar sut i wneud cais, darllenwch yr adran 'Cyflwyno'ch Cais' yn y canllaw hwn

Pan fydd eich cais wedi'i gyflwyno, bydd swyddog achos yn cael ei ddewis i chi i'ch helpu â'r camau nesaf. 

Os ydych chi’n dioddef caledi ariannol, bydd y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid yn cynnig gwasanaeth Cynghorydd Ariannol Annibynnol am ddim i chi. Bydd yn eich helpu i edrych ar eich sefyllfa ariannol ac yn eich cynghori ar sut orau i ddelio â'ch amgylchiadau penodol. 

Ni fydd eich manylion ariannol yn cael eu rhannu â'r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid mewn unrhyw ffordd, ond bydd y cynghorydd yn cadarnhau'r trywydd gorau i'w ddilyn os ydych yn ystyried mai’r dewis gorau i chi yw prynu'r eiddo oddi wrthych. Mae hwn yn wasanaeth di-dâl - bydd y Cynghorydd Ariannol Annibynnol yn anfonebu'r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid yn uniongyrchol a fydd neb yn gofyn i chi dalu unrhyw beth.

Os bydd y Cynghorydd Ariannol Annibynnol yn penderfynu mai prynu'ch eiddo fyddai'r opsiwn ariannol mwyaf hyfyw i chi, bydd eich swyddog achos yn egluro beth fydd yn digwydd nesaf os byddwch am werthu. 

Os caiff eich cartref ei brynu, gallwch ei werthu a symud i le arall. Neu efallai y cewch rentu'ch cartref yn ôl, gan ddibynnu ar eich sefyllfa. Bydd y cynllun yn eich helpu drwy'r broses hon hefyd a bydd swyddog yr achos yn gallu dweud pa mor hir y bydd y broses yn debygol o'i chymryd.

Os nad ydych yn dioddef caledi ariannol, efallai y bydd y cynllun yn gallu eich helpu o hyd.  Ni fyddech yn cael cyngor am ddim gan Gynghorydd Ariannol Annibynnol, ond efallai y bydd eich swyddog achos yn gallu cynnig cymorth arall ac yn trafod hyn gyda chi.

Pwy sy'n gymwys am y cynllun

I fod yn gymwys i gael cymorth y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid, rhaid i chi fod yn berchen ar eiddo mewn adeilad cymwys ac yn dioddef neu'n wynebu caledi ariannol sylweddol.

Os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys i gael cymorth, y cam nesaf yw gwneud cais.  I ddysgu sut mae gwneud, darllenwch yr adran 'Cyflwyno'ch Cais' yn y canllaw hwn.

Os ydych yn lesddeiliad ond nad ydych yn berchen ar eiddo mewn adeilad cymwys ac nad ydych yn dioddef neu’n wynebu caledi sylweddol, efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael rhywfaint o gymorth gan y cynllun. I gael gafael ar y cymorth hwn, dylech lenwi ffurflen gais gan anwybyddu'r meini prawf cymhwysedd hwn. 

Rydym yn disgrifio isod y math o wybodaeth y bydd disgwyl i chi ei darparu ar gyfer y cais. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch i'n helpu i brosesu'ch cais.

Ydy'r adeilad yn gymwys

Rhaid bod eich adeilad yn 11 metr neu'n uwch a bydd ganddo broblemau cydnabyddedig neu bosibl o ran diogelwch tân sy'n golygu na fydd modd rhoi prisiad cywir at ddibenion cael morgais. Bydd y problemau diogelwch tân hyn wedi cynyddu'r taliadau gwasanaeth sydd wedi'u trosglwyddo i chi, y lesddeiliad. Peidiwch â phoeni am union uchder yr adeilad gan y bydd y gwiriwr cymhwysedd yn gallu dweud pa adeiladau sy'n gymwys yn ôl faint o loriau sydd ynddyn nhw.

Pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais, byddwn yn edrych a yw'r adeilad yn gymwys. Mae'n rhaid i chi roi tystiolaeth er mwyn i ni allu gwneud hyn.

Tystiolaeth y mae'n rhaid i chi ei rhoi i ni

  • Enw a chyfeiriad yr adeilad
  • Manylion cyswllt asiant rheoli'r adeilad
  • Datganiadau tâl gwasanaeth y flwyddyn ddiwethaf sy'n dangos bod costau ychwanegol yn gysylltiedig â materion diogelwch tân

Tystiolaeth opsiynol ychwanegol

Os gallwch roi'r dystiolaeth opsiynol ychwanegol isod, gallai hyn gyflymu'ch cais:

  • Sgôr B2/A3 ar ôl llenwi'ch ffurflen EWS1 (holwch eich asiant rheoli amdani)
  • Tystiolaeth ddogfennol o ddiffygion diogelwch tân o dan Orchymyn Diogelwch Tân 2005 neu Ddeddf Tai 2014
  • Datganiadau tâl gwasanaeth y 3 blynedd diwethaf
  • Tystiolaeth nad ydych yn gallu ailforgeisio oherwydd problemau diogelwch tân

A yw'r ymgeisydd yn gymwys

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid i chi allu dangos mai chi yw perchennog/perchenogion yr eiddo ac nad ydych yn berchen ar fwy na 2 eiddo i gyd (gan gynnwys yr eiddo cymwys).

Bydd y cais yn seiliedig ar aelwyd yn hytrach nag unigolyn, felly croesewir ceisiadau ar y cyd.

Pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais, i ddangos eich bod yn gymwys, gallwch ddangos y dystiolaeth ganlynol:

Tystiolaeth y mae'n rhaid i chi ei rhoi i ni:

  • Tystiolaeth mai chi sy'n berchen ar yr eiddo sy'n gymwys ar gyfer y cynllun e.e. datganiad morgais

Bydd gofyn ichi ddangos hefyd sut ydych, oherwydd eich diffyg incwm gwario, yn agos at neu o dan y llinell dlodi. Rydym yn defnyddio diffiniad y Comisiwn Metrigau Cymdeithasol o galedi ariannol sylweddol ar gyfer hyn. Rydym yn defnyddio'r ffigurau a ddarperir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol - 'Aelwydydd o dan yr Incwm Cyfartalog (HBAI)' i fesur eich incwm gwario yn ôl diffiniad y Comisiwn Metrigau Cymdeithasol o galedi ariannol sylweddol. Bydd hyn yn amrywio gan ddibynnu ar nifer yr oedolion a'r dibynyddion sy'n byw yn eich eiddo.

Er mwyn helpu gyda'r cyfrif hwn bydd angen i chi nodi'ch incwm ar ôl treth (y tâl rydych yn dod adref ag e) a'r costau sy'n gysylltiedig â'r eiddo.

Mae'ch incwm yn cynnwys:

  • eich enillion net arferol o waith cyflog
  • unrhyw elw neu golled o fod yn hunangyflogedig (caiff colledion eu trin fel incwm negyddol)
  • unrhyw gymorth gwladol - yr holl fudd-daliadau a chredydau treth rydych chi'n eu derbyn
  • unrhyw incwm o bensiynau galwedigaethol a phreifat
  • unrhyw incwm buddsoddi
  • unrhyw daliadau cynhaliaeth rydych yn eu derbyn
  • unrhyw incwm o grantiau ac ysgoloriaethau addysgol (gan gynnwys, i fyfyrwyr, benthyciadau myfyrwyr a chyfraniadau rhieni)
  • gwerth arian parod rhai mathau o incwm mewn nwyddau (er enghraifft, prydau ysgol am ddim, brecwast ysgol am ddim, llaeth ysgol am ddim, ffrwythau a llysiau ysgol am ddim, talebau Cychwyn Iach a thrwydded deledu am ddim i'r rhai sy'n 75 oed a throsodd)

I'ch helpu i gyfrifo'ch incwm a'ch costau os nad ydynt yn cael eu talu i chi bob mis, dilynwch y tabl isod i drosi'r taliadau yn ffigur misol:

TaliadauFformiwla i’w troi’n daliadau misol
Bob wythnosLluosi â 4.35
Bob 2 wythnosLluosi â 2.175
Bob chwarterRhannwch â 3
Bob blwyddynRhannwch â 12

Tystiolaeth y mae'n rhaid i chi ei rhoi i ni

Os ydych nawr am wneud cais ffurfiol, rhaid i chi roi tystiolaeth sy'n dangos eich cymhwysedd ariannol. Bydd hynny'n cynnwys:

  • Cyfriflenni banc y 3 mis diwethaf, yn dangos incwm a gwariant
  • Slipiau cyflog y 3 mis diwethaf
  • Unrhyw ddogfennau eraill sydd eu hangen i brofi'n glir yr incwm a'r costau sydd wedi'u datgan yn eich cais

Cyflwyno'ch cais

I wneud cais, rhaid i chi lenwi ffurflen gais y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid. 

Cyflwynwch eich cais i Fanc Datblygu Cymru, sy'n gweinyddu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru. 

Mae'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y ffurflen gais i'w gweld yn adran Pwy sy'n Gymwys y canllaw hwn. Rhaid i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei rhoi yn y cais mor gywir â phosibl. Byddwn yn gofyn ichi hefyd ddarparu dogfennau penodol i gefnogi'ch cais. Gallwch weld y manylion hefyd yn adran Pwy sy'n Gymwys y canllaw hwn

Gallwn gymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un sy'n rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn fwriadol, gan gynnwys costau sy'n cael eu had-dalu.

Ni fydd cwblhau unrhyw ran o'r cais hwn yn effeithio ar eich sgôr credyd mewn unrhyw ffordd. 

Gallwch gyflwyno'ch cais i Fanc Datblygu Cymru naill ai drwy e-bost neu drwy ei bostio (dangosir y manylion cyswllt yn adran y ffurflen gais).  

Pan fydd eich cais yn ein cyrraedd ni, bydd swyddog achos yn cael ei ddewis i chi i fod yn bwynt cyswllt personol i chi.  Bydd yn cysylltu â chi, yn dweud wrthych beth yw canlyniad eich cais, ac yn eich helpu drwy'r camau nesaf.

Adolygu'ch sefyllfa ariannol gyda Chynghorydd Ariannol Annibynnol

Os caiff eich cais ei asesu a'ch bod yn gymwys i gael cymorth y cynllun, y cam nesaf yn y broses yw cael help Cynghorydd Ariannol Annibynnol i adolygu'ch sefyllfa ariannol.  Bydd Cynghorydd Ariannol Annibynnol yn eich cynghori ar beth sydd orau i'w wneud o dan eich amgylchiadau personol chi. Efallai bod eich pryderon ariannol yn rhai dros dro. Gall felly awgrymu ateb sy'n benodol i chi. Ni fyddwn yn codi tâl am y cyngor a chi sy i benderfynu a ydych am fynd ymhellach yn y broses.

Ni fydd Cynghorydd Ariannol Annibynnol penodol yn cael ei ddewis i chi. Yn lle hynny, byddwn yn rhoi rhestr i chi o Gynghorwyr Ariannol Annibynnol sy'n gymwys i roi cyngor ariannol, ac sydd wedi'u cofrestru ar gyfer y Cynllun, a gallwch ddewis o'r rhestr hon.

Bydd y rhestr yn cynnwys manylion Cynghorwyr Ariannol Annibynnol cymwys sy'n deall amcanion y cynllun ac sy'n gallu rhoi'r cyngor priodol. Mae croeso i chi gael hyd i Gynghorydd Ariannol Annibynnol eich hun, ond cyn cael gwneud unrhyw waith, bydd angen iddo gofrestru ar gyfer y cynllun a bodloni'r amodau. Gall y gronfa ddata ar-lein hon ar fca.org.uk helpu.

Bydd eich swyddog achos ym Manc Datblygu Cymru yno i'ch helpu bob cam o'r ffordd a phan fyddwch wedi dewis Cynghorydd Ariannol Annibynnol, bydd yn trefnu ei fod yn cysylltu â chi. Pan fydd y Cynghorydd Ariannol wedi asesu'ch amgylchiadau personol, bydd yn gallu dweud ai'r dewis ariannol mwyaf priodol i chi yw gwerthu'ch cartref drwy'r Cynllun.

Os felly, a'ch bod am fwrw ymlaen i werthu'ch eiddo, bydd eich swyddog achos yn trefnu bod eich eiddo'n cael ei brisio. 

Os caiff eich cais ei adolygu ac nad ydych yn berchennog eiddo mewn adeilad cymwys neu os nad ydych yn dioddef neu’n wynebu caledi ariannol, ni fyddech yn cael cyngor am ddim gan Gynghorydd Ariannol Annibynnol. Fodd bynnag, bydd eich swyddog achos yn trafod hyn gyda chi ac efallai y bydd yn gallu cynnig cymorth arall drwy'r cynllun.

Y broses brisio

Os ydych yn gymwys a’ch bod yn penderfynu mai'r ateb cywir i chi yw gwerthu'ch cartref, daw prisiwr annibynnol achrededig o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig i'w brisio. 

Bydd yn cael ei brisio gan ddefnyddio'r un broses a chanllawiau sy'n cael eu defnyddio gyda phob cartref ac eiddo arall ar y farchnad. Bydd hyn yn rhoi gwerth yr eiddo ar y farchnad, cyn belled nad oes unrhyw bryderon diogelwch tân am yr adeilad. 

Bydd y prisiad yn cael ei drefnu heb unrhyw gost i chi. 

Bydd unrhyw gynnig ar gyfer prynu'r eiddo yn werth 100% o'r prisiad.

Gan fod y cynllun yn un gwirfoddol, os nad ydych yn fodlon â'r prisiad nid oes unrhyw reidrwydd arnoch i dderbyn y cynnig.

Mae'n bwysig rheoli disgwyliadau o ran gwerth eiddo ac er y bydd yr eiddo yn cael ei brisio heb unrhyw ystyriaeth o bryderon am ddiogelwch tân, rydym yn gwerthfawrogi efallai na fydd yn cyfateb i'ch disgwyliadau o'i werth.

Os nad ydych yn fodlon â'r prisiad annibynnol cyntaf, gallwch ofyn am ail brisiad a gynhelir o dan yr un safonau a osodwyd gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.

Y broses brynu

Os ydych chi a'ch adeilad yn gymwys i gael cymorth o dan y cynllun a bod eich Cynghorydd Ariannol Annibynnol yn argymell yr opsiwn prynu fel yr ateb mwyaf ariannol hyfyw o dan eich amgylchiadau chi, yna cynigir yr opsiwn i chi werthu eich eiddo.

Wedi i'r eiddo gael ei brisio ac y cytunir ar bris prynu, caiff ei gyfeirio at Landlord Cymdeithasol Cofrestredig fydd efallai am brynu'ch eiddo drwy'r cynllun. Bydd swyddog eich achos yn gweithio'n agos gyda'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig i sicrhau'ch bod yn cael gwybod beth sy'n digwydd a byddwch hefyd yn cael enw cyswllt â'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig. Byddwch yn cael cysylltu'n uniongyrchol â'r person hwn os oes gennych gwestiynau.

Unwaith y cytunir ar eich Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, bydd cynrychiolydd yn trefnu i ddod allan i weld ac asesu'ch eiddo a thrafod ei werthu gyda chi. Yna, bydd yn dechrau ar ei brosesau mewnol ar gyfer prynu eiddo. Mae'r broses hon yn cynnwys gofyn i Asiant Rheoli / Person Cyfrifol eich adeilad am wybodaeth, holi'r gofrestrfa tir, trafod â chyfreithwyr ac ati.  Er bod y broses hon yn debyg i'r broses ar gyfer prynu a gwerthu eiddo ar y farchnad agored, mae'n broses gymhlethach. Mae'n bwysig cofio felly y gall y broses hon gymryd mwy o amser na phrynu tŷ cyffredin. 

Pan fydd y broses wedi dechrau, bydd y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn gallu rhoi syniad i chi faint o amser y mae'n ei ragweld y bydd ei angen i gwblhau'r gwerthiant. 

Er na allwn gynnig amserlen bendant gan y bydd pob sefyllfa'n wahanol, gallwn eich sicrhau y bydd y broses werthu'n cael ei chynnal mor gyflym â phosib, gan gofio ei bod hi'n broses gymhleth.

Penodi cyfreithiwr

Unwaith y bydd landlord cymdeithasol cofrestredig wedi cadarnhau ei fod am brynu'ch eiddo, bydd angen i chi benodi cyfreithiwr i'ch cynrychioli wrth ei werthu. Chi fydd yn gorfod talu'r costau hyn. Ceisiwch gael dyfynbris am holl gostau'u gwasanaethau gan dri chwmnïau gwahanol er mwyn gallu cymharu prisiau.

I gael gwybodaeth am benodi cyfreithiwr, ewch i moneyhelper.org.uk.

Ffurflen wybodaeth am y lesddaliad (TA7) a phecyn y lesddaliad

Gan fod yr eiddo ar les, bydd gofyn i chi gyflwyno ffurflen wybodaeth am y lesddaliad (TA7), hynny fel rhan o'r broses werthu.

Bydd y ddogfen hon yn rhoi manylion popeth am y les, y rhydd-deiliad, y cwmni rheoli ac unrhyw bartïon eraill cysylltiedig.

Bydd y cyfreithiwr y byddwch wedi'i ddewis yn eich helpu i lenwi'r ffurflen.  Cyfrifoldeb perchennog y rhydd-ddaliad yw cwblhau pecyn y lesddaliad, ond chi fel arfer fydd yn gorfod talu amdano. Dylai gynnwys LPE1, asesiad o'r risg tân, yswiriant, cyfrifon ariannol a mwy.

Os oes gennych bryderon neu'ch bod am wneud wwyn

Rydym bob amser yn ceisio rhoi'r gwasanaeth gorau i chi, ond weithiau byddwn yn cael pethau'n anghywir. Pan fyddwn wedi gwneud camgymeriad digon mawr a'ch bod am wneud cwyn ffurfiol, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â ni.

Y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid

Banc Datblygu Cymru,
1 Capital Quarter,
Tyndall Street,
Caerdydd,
CF10 4BZ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Rydym yn ceisio datrys cwynion yn gyflym ac er eich boddhad. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl am eich pryder, ynghyd ag enw cyswllt a rhif ffôn neu e-bost.  

Os nad ydych am wneud cwyn ond yr hoffech roi adborth i ni, gallwch ddweud wrthym am eich profiad gan ddefnyddio y ffurflen adborth Banc Datblygu Cymru.   

Sut y byddwn yn delio â'ch cwyn 

Rydym bob amser yn ceisio datrys unrhyw broblem cyn gynted â phosibl a'r nod yw rhoi ateb o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich cwyn. Ond os oes angen ymchwilio'n fanylach i'r mater, byddwn yn esbonio beth sydd wedi cael ei wneud, y camau nesaf ac enw'r person sy'n delio â'ch cwyn. Os oes angen ymchwiliad manylach, efallai y bydd angen mwy o amser arnom i ystyried ein penderfyniad. Byddwch yn cael cadarnhad ysgrifenedig o'n penderfyniad o fewn wyth wythnos.

Os na fyddwch wedi cael ymateb terfynol gennym i'ch cwyn ar ôl wyth wythnos, byddwn yn ysgrifennu atoch yn esbonio'r oedi ac os bydd gofyn, manylion y broses ar gyfer atgyfeirio'r mater at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.   

Rydym yn gweithio gyda thrydydd partïon drwy gydol y broses ymgeisio. Os yw'ch cwyn yn ymwneud ag un o'r partïon hyn, byddwn yn anfon eich cwyn atynt. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn anfon eich cwyn ymlaen ac yn egluro pam.  

Beth ddylwn ei wneud os ydw i'n dal yn anhapus? 

Mae'n ddrwg gennym os nad ydych yn hapus â'n penderfyniad. Rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl os nad ydych yn credu'n bod wedi datrys eich cwyn yn iawn. Bydd ein hymateb terfynol yn esbonio a fydd modd i chi fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.  

Gellir cysylltu â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol drwy: 

Ei wefan: https://www.financial-ombudsman.org.uk/

E-bost: complaint.info@financial-ombudsman.org.uk 

Ffôn: 0800 023 4567

Cyfeiriad: Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (Financial Ombudsman Service), Exchange Tower, Llundain, E14 9SR