Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, yn cyhoeddi'r cynllun cymorth morgeisi, Cymorth i Aros Cymru, pecyn ariannu newydd ar gyfer perchnogion tai yng Nghymru sy'n cael anhawster talu eu morgais.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gan fod cyfraddau llog, costau ynni, a chostau byw yn codi, mae methu â thalu ad-daliadau morgais yn realiti sy'n wynebu llawer o berchnogion cartrefi.

Yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, gwnaed ymrwymiad i edrych ar Forgeisi Awdurdodau Lleol.

Cafodd Cynllun Cymorth i Aros Cymru ei ystyried yn ystod trafodaethau am y farchnad forgeisi ac am sut y gallwn ddarparu cymorth wedi'i dargedu.

Yn ystod 2022-23 a 2023-24, darparodd Llywodraeth Cymru fwy na £3.3 biliwn o gymorth i helpu pobl sy'n cael trafferth gyda chostau byw drwy raglenni wedi'u targedu a oedd yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl.

Yn rhan o'r cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru ar gyfer 2023-24, rydym wedi trefnu bod £40 miliwn o gyllid cyfalaf ad-daladwy ar gael yn ystod y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf i gyflwyno cynlluniau a fydd yn darparu cymorth ariannol hyblyg.

Bydd Cymorth i Aros Cymru yn gweithio ochr yn ochr â chymorth a gynigir gan ddarparwyr morgeisi drwy Siarter Morgeisi'r DU i gwsmeriaid sy'n ei chael yn anodd fforddio eu taliadau morgais.

Bydd y Cynllun yn cynnig opsiwn i berchnogion cartrefi sy'n ei chael yn anodd fforddio eu taliadau morgais ac sydd mewn perygl difrifol o golli eu cartref. Bydd yn gwneud hynny drwy gynnig ad-dalu rhan o falans morgais sydd ganddynt eisoes drwy roi benthyciad ecwiti cost isel sy'n cael ei ddiogelu drwy ail arwystl (i'w dalu ar ôl talu benthyciwr yr arwystl cyntaf), gan leihau'r ad-daliadau morgais diwygiedig i lefel y gall yr ymgeisydd ei fforddio.
Bydd y Cynllun yn cael ei weithredu gan Fanc Datblygu Cymru a bydd yn ddi-log am y pum mlynedd gyntaf.

Pwrpas y Cynllun yw lleihau nifer y perchnogion tai  sydd mewn perygl o weld eu cartrefi'n cael eu hadfeddu ac o fod yn ddigartref, drwy roi amser iddynt ddatrys y problemau ariannol sylfaenol sy'n eu hwynebu.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

Mae llawer o heriau i berchenogion tai yn yr hinsawdd economaidd bresennol sydd ohoni wrth iddyn nhw wynebu  costau tanwydd uwch o lawer, chwyddiant uchel, a phrisiau uwch ym maes rhentu a thai. Yn aml, 'dyw eu hincwm ddim yn codi i'r un graddau.

Nod Cynllun Cymorth i Aros Cymru yw helpu perchenogion tai i barhau i fyw yn y cartrefi y mae ganddyn nhw gymaint o feddwl ohonyn nhw.

Drwy ehangu'r cymorth achub morgeisi rydyn ni'n ei gynnig ar hyn o bryd, mae cyfle gyda ni i helpu rhagor o bobl yn gynt cyn iddyn nhw wynebu'r sefyllfa ofnadwy lle mae bygythiad i'w cartrefi gael eu hadfeddu.

Hoffwn i ddiolch i UK Finance a benthycwyr morgeisi sy'n cefnogi'r Cynllun eisoes, a dw i'n gobeithio y bydd rhagor o fenthycwyr yn gallu cynnig eu cefnogaeth yn ystod yr wythnosau nesaf.

Byddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu gyda'r pwerau sydd gennym i helpu i amddiffyn aelwydydd agored i niwed yn ystod yr argyfwng costau byw hwn.

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Siân Gwenllian:

Mae'r gwaith manwl ar y farchnad forgeisi a wnaed drwy'r Cytundeb Cydweithio wedi arwain at greu Cynllun Cymorth i Aros Cymru er mwyn helpu pobl y mae'r cyfraddau llog cynyddol uwch yn effeithio arnyn nhw.

Drwy ddefnyddio'r sefydliadau ariannol a'r pwerau sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd, rydyn ni wedi gallu creu ateb a Wnaed yng Nghymru ac a fydd yn rhoi cymorth uniongyrchol i'r bobl hynny sy'n wynebu'r anawsterau mwyaf.

Bydd y cymorth newydd hwn, sydd wedi'i dargedu, yn helpu rhagor o bobl yn gynt, nid dim ond y rheini sydd dan fygythiad o weld eu cartrefi'n cael eu hadfeddu, sy'n golygu y byddan nhw'n gallu aros yn eu cartrefi ac osgoi'r straen o fethu â thalu eu morgais.

Er mai cyfyngedig yw'r pwerau a'r adnoddau sydd gennym yn y maes hwn, ein gobaith yw y bydd y cymorth uniongyrchol sy'n cael ei ddarparu yng Nghymru yn rhwyd ddiogelwch ychwanegol i liniaru rhai o'r effeithiau gwaeth sy'n gysylltiedig ag annhegwch yr amodau a grëwyd yn San Steffan.

Dywedodd Prif Weithredwr Shelter Cymru, Ruth Power:

Rydym wedi bod yn ymgyrchu am ragor o gymorth i berchnogion cartrefi sy’n ei chael hi’n anodd ad-dalu eu morgais, sy’n un o nifer o grwpiau sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ac sy’n ceisio cymorth gan Shelter Cymru.

Rydym yn croesawu unrhyw fentrau rhagofalus sy’n ceisio atal digartrefedd ac sy’n ehangu’r rhwyd ddiogelwch i gartrefi sy’n wynebu argyfyngau costau tai a chostau byw. Bydd y cynllun hwn yn cynnig cymorth i gartrefi cymwys yn fuan pan fydd ôl-ddyledion yn dechrau cronni, yn hytrach na gorfod aros hyd nes y maent yn wynebu straen difrifol adfeddu. Rhaid inni nawr sicrhau fod cymaint o gartrefi â phosibl yn cael yr opsiwn i’w ddefnyddio er mwyn aros yn eu cartrefi, gan ddysgu gan bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref beth yw’r ffordd orau y gall cynllun o’r fath eu cynorthwyo.

Dylai unrhyw un sydd mewn perygl o golli eu cartref ar unwaith gysylltu â llinell gymorth Shelter Cymru ar 08000 495 495 i gael cyngor annibynnol.

Mae Achub Morgeisi, sydd wedi gweithredu yng Nghymru ers 2008, ar gael o hyd ac mae'n parhau i fod yn ddewis olaf gwerthfawr, ond mae'n rhaid bod pobl yn wynebu achos cymryd meddiant eisoes er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth. Bydd Cymorth i Aros Cymru yn ehangu hynny i gynnwys pobl sy'n wynebu achos cymryd meddiant a/neu galedi ariannol.

Drwy weithredu yn awr a buddsoddi mwy, gallwn atal llawer o unigolion a theuluoedd rhag wynebu achosion adennill meddiant a bod yn ddigartref. Byddai hynny'n ychwanegu at y rhestrau aros sydd eisoes dan straen a hefyd at gostau uchel y llety dros dro a ddarperir gan yr awdurdodau lleol.