Cynllun Cymorth Presenoldeb Arddangoswyr Brand Cymru Wales
Rhif cyfeirnod y cymhorthdal: SC11426 - cynllun yw adeiladu a chyflwyno presenoldeb cenedlaethol ar y cyd o dan y brand Cymru Wales mewn digwyddiadau ac arddangosfeydd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru
2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal
Cynllun Cymorth Presenoldeb Arddangoswyr Brand Cymru Wales
3. Sail gyfreithiol yn y DU
Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Bydd y cynllun yn llwyfan i hyrwyddo polisïau allweddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Y Strategaeth Twristiaeth, blaenoriaethau Croeso i Gymru
- Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol ar gyfer Cymru 2022 i 2030
Mae'r fenter yn cefnogi aliniad strategol sector digwyddiadau busnes Cymru â blaenoriaethau'r llywodraeth, gan atgyfnerthu enw da'r wlad â’i hapêl i brynwyr a phartneriaid rhyngwladol.
5. Diben y cynllun
Diben y cynllun yw adeiladu a chyflwyno presenoldeb cenedlaethol ar y cyd o dan y brand Cymru Wales mewn digwyddiadau ac arddangosfeydd, gan wella gwelededd y brand, nifer yr ymwelwyr a chyfleoedd busnes yn sylweddol.
Drwy ddod â chyflenwyr o Gymru a chynrychiolwyr twristiaeth rhanbarthol ynghyd o dan frand cryf, unedig, bydd y pafiliwn yn arddangos cryfderau sectorol Cymru a'r galluoedd sy'n barod i'w hallforio mewn marchnadoedd byd-eang cystadleuol.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
Mae'r cynllun yn agored i fusnesau yn y sectorau Twristiaeth, Digwyddiadau Busnes, Creadigol, Masnach Ryngwladol a Bwyd a Diod yng Nghymru, neu i fusnesau a all gael effaith gadarnhaol ar y rhain.
Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill:
- Trefnwyr Lleol yng Nghymru
- Sefydliadau Rheoli Cyrchfannau
- Cwmnïau Rheoli cyrchfannau
- Trefnwyr Cynadleddau Proffesiynol
- Awdurdodau Lleol
- Sefydliadau proffesiynol eraill sy'n cynrychioli ac yn dylanwadu ar fusnes i Gymru yn un o'r meysydd uchod o Lywodraeth Cymru.
8. Sectorau i’w cefnogi
- Gweithgareddau llety a gwasanaethau bwyd
- Y celfyddydau, adloniant a hamdden
- Gweithgarwch gan wasanaethau eraill
9. Hyd y cynllun
1 Ionawr 2026 tan 31 Rhagfyr 2030.
10. Y gyllideb cymorth o dan y ynllun
£50,000,000
11. Ffurf y cymorth
Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy Grant Uniongyrchol.
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Rhaid i'r busnes:
- Fod yn gweithredu yng Nghymru lle mae'r cymhorthdal yn cael ei gynnig a bod yn addas ar gyfer pob Arddangosfa / Digwyddiad lle mae'r cymhorthdal yn cael ei gynnig.
- Bodloni gwerthoedd brand Cymru, sicrhau cynnyrch marchnad a chynnwys gwefan addas a pherthnasol a chronfa ddata bresennol o gleientiaid.
- Adnoddau a chynrychiolaeth ddigonol a gwybodus i fodloni gofynion y digwyddiad, gan gynnwys unrhyw ofynion cyn ac ôl y digwyddiad gan y trefnydd a/neu Lywodraeth Cymru.
- Darparu enillion ar fuddsoddiad disgwyliedig i Lywodraeth Cymru yn y cam ymgeisio a'i diweddaru ar ôl y digwyddiad am unrhyw fusnes sydd wedi'i sicrhau o ganlyniad i fynychu'r digwyddiad.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Mae'r cymhorthdal yn cwmpasu hyd at 50% o’r gofod pod unigol, gwaith dylunio ac adeiladu. Mae'r gost yn ddibynnol ar y gofod stondinau sydd ar gael a'r niferoedd sy'n arddangos. Pan fo Arddangosfa / Digwyddiad newydd yn cael ei nodi neu pan ystyrir ei bod yn hanfodol i'r sefydliad fod yn bresennol, gellir dyfarnu cymhorthdal (yn amodol ar adolygiad a chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru) ar gyfradd uwch.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£500,000
15. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth am wneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â'r tîm Cwrdd yng Nghymru yn: CwrddyngNghymru@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch â:
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn:
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
