Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Cynllun Cymorth Sector Creadigol Cymru (WCSSS)

3. Y sail gyfreithiol

Daw’r pwerau sydd gan Weinidogion Cymru i ganiatáu i Lywodraeth Cymru gefnogi mentrau o dan y Cynllun o’r ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (adran 1) (fel y’i diwygiwyd)
  • Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (adran 126)
  • Deddf Datblygu Diwydiannol 1982 (adran 7), a
  • Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (adrannau 58A, 60 70 a 71(1))

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Mae'r cynllun yn bwriadu cefnogi newid trawsnewidiol o fewn y sector gyda dwy amserlen ar gyfer cymorth:

1. Cyllid Datblygu

Mae datblygu a thyfu'r economïau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru yn dal yn flaenoriaeth. Bydd y cynllun hwn yn darparu cymorth i'r sectorau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru, yn enwedig yr is-sectorau canlynol:

  • sgrin, HETV, ffilm
  • clyweledol
  • datblygu gemau
  • trawsgyfrwng
  • cerddoriaeth
  • cyhoeddi
  • sgiliau creadigol a datblygu talent

2. Cyllid Cynhyrchu

Darparu cefnogaeth ar gyfer ysgrifennu sgriptiau, datblygu, cynhyrchu, dosbarthu a hyrwyddo gweithiau clyweledol a thrawsgyfrwng. Bydd y Cynllun yn datblygu a chynnal seilwaith clyweledol o ansawdd uchel ymhellach yng Nghymru drwy gefnogi a hyrwyddo cynyrchiadau Cymreig a denu cynyrchiadau tramor mawr i Gymru. Bydd hyn yn darparu cyfrwng i hyrwyddo cyfleusterau, doniau a diwylliant Cymru a chyfrannu at dwf economaidd cyffredinol y Sector.

5. Diben y cynllun

Bydd yn:

  • helpu i ddiogelu sefydliadau cynaliadwy a diogelu swyddi yn y sectorau diwylliant a chreadigol gan ei alluogi i barhau i fod yn fywiog, hyfyw a chynaliadwy yn y dyfodol
  • cefnogi datblygiad gweithgareddau diwylliannol a chreadigol drwy newid trawsnewidiol.
  • darparu cymorth ar gyfer datblygu creadigol megis ysgrifennu sgriptiau, cynhyrchu, dosbarthu a hyrwyddo gweithiau clyweledol yn ogystal â chymorth datblygu sector i'r sectorau cyhoeddi, cerddoriaeth, gemau a thrawsgyfrwng. Bydd y Cynllun yn datblygu a chynnal seilwaith clyweledol o ansawdd uchel yng Nghymru drwy gefnogi a hyrwyddo cynyrchiadau Cymreig a denu cynyrchiadau tramor mawr i Gymru. Bydd hyn yn darparu cyfrwng i hyrwyddo cyfleusterau, doniau a diwylliant Cymru a chyfrannu at dwf economaidd cyffredinol y sector.

Categorïau o fenter sy'n gymwys:

Bydd y rhaglen ar agor i geisiadau oddi wrth y canlynol:

  • Cwmnïau cynhyrchu sgrin/teledu, ffilm, gemau a thrawsgyfrwng
  • mannau cynnal cerddoriaeth
  • sefydliadau cyhoeddi, y cyfryngau a newyddiaduraeth
  • sinemâu annibynnol, a
  • digwyddiadau o natur greadigol ddiwylliannol neu dreftadaeth
  • Unrhyw sefydliadau eraill i gyflwyno gweithgareddau cymwys yn y sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru

Telerau ac amodau cymhwystra:

Bydd y symiau dan sylw yn isafswm angenrheidiol i wneud i'r prosiect ddigwydd ac yn gymesur â maint a lleoliad y busnes/prosiect. Mae'n glir y bydd rhaid i bob cais am gyllid dangos tystiolaeth o becyn cyllid diogel a bod angen y grant y gofynnir amdano.

Bydd rhaid i geisiadau ddangos tystiolaeth hefyd fod y prosiect yn dangos un neu ragor o'r meini prawf canlynol ar gyfer cyllid, gan gynnwys:

  1. cydweddiad strategol
  2. symudedd
  3. cyfyngiad ariannol, neu
  4. cyflymiad/ychwaneged

Mae'r terfynau sy'n gysylltiedig â'r cymhorthdal hwn yn cyd-fynd â therfynau blaenorol y math hwn o gymorth er mwyn sicrhau parhad ac felly sicrwydd yn y sector. Bydd ystyriaeth yn cael ei roi ar gyfer pob dyfarniad unigol a wneir o dan y cynllun hwn er mwyn lleihau'r potensial ar gyfer ystumio negyddol.

Bydd yr holl gyllid yn seiliedig ar broffil talu ac yn ôl-ddyledus, yn ddiofyn. Gellir cynnwys proffiliau talu fesul cam lle mae'r angen yn cael ei ddangos cyn belled â bod yr allbwn cysylltiedig wedi'i gyflawni yn unol â thelerau'r gronfa a'r llythyr cynnig.

Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau o dan y cynllun:

Bernir bod cymorthdaliadau uniongyrchol yn fesur priodol i fodloni diffyg yn y farchnad mewn perthynas â buddsoddiad y sectorau uchod na fyddai'n digwydd heb y cymhorthdal a'r manteision ehangach i economïau Creadigol a Diwylliannol Cymru. Bydd cymorthdaliadau yn cael eu dyfarnu ar gyfer cwmnïau yn unig sy'n gallu tystio bod cymorth yn angenrheidiol ar gyfer cyfyngiad ariannol, symudedd a chyflymiad/ychwaneged sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â methiannau'r farchnad yn y sector. Fel rhan o'r broses, mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddangos bod bwlch ariannu, neu fod y gwahaniaeth prisiau rhwng datblygu yng Nghymru o'i gymharu â'i ddatblygu mewn mannau eraill.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categorïau o fentrau cymwys

Bydd y rhaglen ar agor i geisiadau oddi wrth y canlynol

  • Cwmnïau cynhyrchu sgrin / teledu, ffilm, gemau a thrawsgyfrwng
  • mannau cynnal cerddoriaeth
  • sefydliadau cyhoeddi, cyfryngau a newyddiaduraeth
  • sinemâu annibynnol, a
  • digwyddiadau o natur greadigol, ddiwylliannol neu dreftadaeth
  • Unrhyw sefydliadau eraill i gyflwyno gweithgareddau cymwys yn y sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru.

8. Sectorau i’w cefnogi

Y celfyddydau, adloniant a hamdden

9. Hyd cyfnod y cynllun

1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2034

10. Y gyllideb cymorth o dan y cynllun

£80,000,000

11. Ffurf y cymorth

Grant uniongyrchol

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Bydd y symiau dan sylw yn isafswm angenrheidiol i wneud i'r prosiect ddigwydd ac yn gymesur â maint a lleoliad y busnes/prosiect. Mae'n glir y bydd rhaid i bob cais am gyllid dangos tystiolaeth o becyn cyllid diogel a bod angen y grant y gofynnir amdano.

Bydd rhaid i geisiadau hefyd ddangos tystiolaeth bod y prosiect yn dangos un neu ragor o'r meini prawf canlynol ar gyfer cyllid, gan gynnwys:

  1. cydweddiad strategol
  2. symudedd
  3. cyfyngiad ariannol, neu
  4. cyflymiad/ ychwanegedd

Mae'r terfynau sy'n gysylltiedig â'r cymhorthdal hwn yn cyd-fynd â therfynau blaenorol y math hwn o gymorth er mwyn sicrhau parhad ac felly sicrwydd yn y sector. Bydd ystyriaeth yn cael ei roi ar gyfer pob dyfarniad unigol a wneir o dan y cynllun hwn er mwyn lleihau'r potensial ar gyfer ystumio negyddol.

Bydd yr holl gyllid yn seiliedig ar broffil talu ac yn ôl-ddyledus, yn ddiofyn. Gellir cynnwys proffiliau talu fesul cam lle mae'r angen yn cael ei ddangos cyn belled â bod yr allbwn cysylltiedig wedi'i gyflawni yn unol â thelerau'r gronfa a'r llythyr cynnig.

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Bernir bod cymorthdaliadau uniongyrchol yn fesur priodol i fodloni diffyg yn y farchnad mewn perthynas â buddsoddiad y sectorau uchod na fyddai'n digwydd heb y cymhorthdal a'r manteision ehangach i economïau Creadigol a Diwylliannol Cymru.

Bydd cymorthdaliadau yn cael eu dyfarnu ar gyfer cwmnïau yn unig sy'n gallu tystio bod cymorth yn angenrheidiol ar gyfer cyfyngiad ariannol, symudedd a chyflymiad/ychwanegedd sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â methiannau'r farchnad yn y sector. Fel rhan o'r broses, mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddangos bod bwlch ariannu, neu fod y gwahaniaeth prisiau rhwng datblygu yng Nghymru o'i gymharu â'i ddatblygu mewn mannau eraill.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£999,000

15. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â: CreativeWalesFundingSupport@gov.wales

I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae’r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch â’r:

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
DU

Rhif ffôn:

+ 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image