Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i'r cynllun Nyth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn nodi sut mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i gynllun Nyth.

Mae cynllun Nyth wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn amddiffyn eich preifatrwydd. Os byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth y byddai modd eich adnabod ohoni wrth i chi ddefnyddio'r ein gwasanaethau cynghori, yna gallwch fod yn sicr na fydd ond yn cael ei defnyddio yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn.

Gall cynllun Nyth newid y polisi hwn o dro i dro drwy ddiweddaru'r dudalen hon. Dylech wirio'r dudalen hon o dro i dro i wneud yn siŵr eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Mae'r polisi yn weithredol o 1 Ebrill 2024 ymlaen.

Y data rydyn ni’n eu casglu oddi wrthych

Pan fyddwch yn llenwi ein ffurflen i wneud cais am alwad yn ôl, rydyn ni’n casglu:

  • eich enw llawn
  • eich gwybodaeth gyswllt (hynny yw, rhif cyswllt, cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost)
  • gwybodaeth ynghylch a ydych yn cael budd-daliadau neu a oes gennych gyflwr iechyd y dylen ni wybod amdano er mwyn asesu cymhwysedd
  • gwybodaeth am eich eiddo (er enghraifft, deiliadaeth, math o wres, costau gwresogi)

Os bydd y ffurflen yn cael ei chwblhau gan rywun arall ar ran cwsmer, byddwn hefyd yn casglu o’r canlynol (a dim ond y canlynol):

  • eu henw llawn
  • eu rhif ffôn cyswllt 
  • eu cyfeiriad e-bost
  • enw’r sefydliad maen nhw’n gweithio iddo
  • eu perthynas â’r cwsmer

Os byddwch yn mynd ymlaen i siarad ag un o’n cynghorwyr, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth ychwanegol i roi cyngor a chymorth priodol i chi, gan gynnwys:

  • gwybodaeth ddemograffig fel cod post, dewisiadau a diddordebau
  • gwybodaeth arall sy’n berthnasol i’ch cais
  • gwybodaeth a gasglwyd i fonitro'r cynllun, i gael eich adborth ar y cynllun ac mewn ymateb i unrhyw arolygon

Pam ein bod yn casglu’ch data

Caiff cynllun Nyth ei ddarparu gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar ran Llywodraeth Cymru wrth iddi gyflawni ei gwaith cyhoeddus.

Gofynnwn am y wybodaeth a gasglwn amdanoch er mwyn deall eich anghenion ac er mwyn darparu cyngor am gartrefi clyd a gwasanaeth gwell i chi, ac yn benodol:

Gofynnwn am eich manylion cyswllt er mwyn:

  • ymateb i geisiadau, ymholiadau a chwynion gennych chi
  • cysylltu â chi ynglŷn â gwasanaethau y gwnaethoch gais amdanynt
  • cael eich adborth am y gwasanaethau a gawsoch, a monitro llwyddiant y cynllun a’i effaith ar yr amgylchedd
  • i gadw ein cofnodion mewnol yn gyfredol
  • i wella ein cynnyrch a’n gwasanaethau
  • archwilio ein cynllun

Gofynnwn am eich gwybodaeth bersonol a gwybodaeth am eich eiddo er mwyn:

  • darparu gwasanaethau y gwnaethoch gais amdanynt
  • asesu a ydych yn gymwys ar gyfer y cyllid yr ydych wedi gwneud cais amdano
  • asesu cymhwysedd tebygol ar gyfer cymorth arall y gallech ei gael
  • dadansoddi tueddiadau deiliaid tai
  • monitro effeithlonrwydd ynni stoc tai Cymru, a chynorthwyo gyda thargedu gwasanaethau a chynlluniau newydd

Os byddwch yn helpu cwsmer i lenwi'r ffurflen, byddwn ni'n casglu gwybodaeth amdanoch chi fel ein bod ni'n gwybod pwy ydych chi ac yn gwybod sut i gysylltu â chi os oes angen.

Mae’n bosib y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd drwy eich defnydd chi o’n gwefan i addasu ein gwefan ar sail eich diddordebau.

Diogelu eich data

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal datguddiad neu fynediad heb awdurdod, rydyn ni wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheoleiddiol addas ar waith er mwyn diogelu ac amddiffyn y wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu ar-lein.

Rhannu’ch data

Mae cynllun Nyth yn cael ei ddarparu gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar ran Llywodraeth Cymru sy’n defnyddio gosodwyr Nwy Prydain, a Pennington Choices sy’n darparu sicrwydd ansawdd. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran Eich hawliau.

Pan fyddwn ni wedi nodi eich bod yn gymwys i gael cymorth arall (er enghraifft, cymorth awdurdod lleol), efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol gyfyngedig (hynny yw, eich enw, manylion cyswllt, llwybr cymhwysedd) gyda’ch awdurdod lleol.

Weithiau rydyn ni’n defnyddio cwmnïau a sefydliadau eraill (trydydd partïon) i brosesu gwybodaeth bersonol ar ein rhan. Er enghraifft, rydyn ni’n defnyddio trydydd partïon er mwyn:

  • cynnal ein systemau technoleg gwybodaeth
  • cynnal ymchwil

Pan fyddwn yn rhannu data personol gyda thrydydd parti, byddwn yn gweithredu cytundebau rhannu data priodol. Pan fyddwn yn defnyddio trydydd parti i brosesu gwybodaeth bersonol, byddwn yn sicrhau bod ganddynt fesurau diogelwch digonol ar waith a’u bod yn cydymffurfio â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Rydyn ni’n rhannu gwybodaeth, at ddibenion dadansoddi ac adrodd, ag adrannau a chyrff y llywodraeth. Fyddwn ni ddim yn gwerthu, yn dosbarthu nac yn prydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti oni bai bod eich caniatâd gennym neu ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny. 

Cyfnod cadw

Bydd y wybodaeth a roddwch drwy ffurflen gais ar wefan i gael galwad yn ôl yn cael ei defnyddio i ddarparu’r gwasanaeth galw yn ôl. Bydd eich data’n cael ei gadw’n ddiogel ac, os byddwch yn newid eich meddwl ynghylch cael galwad yn ôl, bydd yn cael ei ddileu o fewn saith diwrnod i’r alwad oni bai ein bod yn ei ddal er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol neu mewn cysylltiad â hawliadau cyfreithiol. Os byddwn yn rhoi galwad i chi ac yn darparu ein cyngor a gwasanaethau pellach, bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw am holl gyfnod cynllun Nyth, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.

Sut rydyn ni’n defnyddio cwcis

Ffeil fach sy’n gofyn am ganiatâd i gael ei rhoi ar yriant caled eich cyfrifiadur yw cwci. Ar ôl i chi gytuno, caiff y ffeil ei hychwanegu, ac mae’r cwci’n helpu i ddadansoddi traffig gwefan neu’n rhoi gwybod i chi pan fyddwch chi’n mynd ar wefan benodol. Mae cwcis yn caniatáu i raglenni gwe ymateb i chi fel unigolyn. Gall y rhaglen we deilwra ei gweithrediadau i’ch anghenion, a’r hyn rydych chi’n ei hoffi neu nad ydych chi’n ei hoffi, drwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau.

Rydyn ni’n defnyddio cwcis logio traffig i nodi pa dudalennau sy’n cael eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data am draffig y wefan a gwella ein gwefan fel bod modd i ni ei theilwra i anghenion cwsmeriaid. Dim ond at ddibenion dadansoddi ystadegol rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth hon, ac yna caiff y data ei dynnu o’r system. Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein helpu i ddarparu gwefan well i chi, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau gwe sy’n ddefnyddiol i chi a pha rai nad ydynt. Nid yw cwci yn rhoi mynediad i ni at eich cyfrifiadur nac at wybodaeth amdanoch chi, heblaw am y data rydych chi’n dewis ei rannu gyda ni. Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis. Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer gallwch addasu gosodiadau eich porwr i wrthod cwcis os yw’n well gennych. Mae’n bosib y bydd hyn yn eich rhwystro rhag manteisio’n llawn ar y wefan.

Dolenni i wefannau eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i'ch galluogi i ymweld yn hawdd â gwefannau eraill sydd o ddiddordeb i chi. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi defnyddio'r dolenni hyn i adael ein gwefan, dylech nodi nad oes gennym ddim rheolaeth dros y wefan arall honno. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych wrth ymweld â gwefannau o’r fath ac nid yw gwefannau o’r fath yn cael eu llywodraethu gan y polisi preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus a darllen y polisi preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.

Eich hawliau

Mae’r wybodaeth a rannwch drwy’r ffurflen gais am alwad yn ôl ar y wefan, ac unrhyw alwad dilynol am gyngor, yn cael ei chasglu gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar ran cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru.

Nid yw'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn gwneud galwadau diwahoddiad (nid yw'n gwerthu inswleiddio na phaneli solar ac ati). Os ydych yn cael galwadau diwahoddiad gan sefydliad, mae gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth gyngor defnyddiol ac, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, efallai y byddai’n werth ystyried cofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewisiadau Ffôn.

Manylion pellach am yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni am sut maen nhw'n trin data personol.

Mae gennych hawl o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y Deyrnas Unedig (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018, o fewn paramedrau cyfreithiol penodol, i ofyn i ni am y canlynol:

  • manylion am sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol
  • i gael gweld pa wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei dal amdanoch chi
  • i ni gywiro eich gwybodaeth bersonol
  • i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau
  • i ni beidio â defnyddio eich gwybodaeth bersonol mewn ffordd arbennig
  • i ni drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol mewn fformat electronig cyffredin
  • i ni gyfyngu ar y ffordd rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol
  • i beidio â bod yn destun penderfyniadau awtomataidd amdanoch chi ac i ofyn am ymyrraeth ddynol.

Os ydyn ni wedi gofyn i chi a'ch bod wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol mewn ffordd benodol, mae gennych hawl i dynnu'r caniatâd hwnnw yn ôl ar unrhyw adeg.

Os hoffech ofyn am fanylion y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch neu am gopi o'r wybodaeth a gedwir amdanoch, ysgrifennwch yn y lle cyntaf at gynllun Nyth, Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, 33 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HB. Os credwch fod unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu'n anghyflawn, ysgrifennwch aton ni cyn gynted â phosib, yn y cyfeiriad uchod. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth y canfyddir ei bod yn anghywir ar unwaith.

Os ydych wedi gwneud cwyn i ni ynglŷn â sut rydyn ni’n trin eich gwybodaeth bersonol nad ydym wedi gallu ei datrys, mae gennych hawl i gwyno wrth Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y Deyrnas Unedig ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.