Neidio i'r prif gynnwy

Sut i wneud cwyn am gynllun cymorth ynni cartref Nyth a'r broses ymateb.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Er ein bod yn ymdrechu i ddarparu'r gofal a'r boddhad mwyaf i'n cwsmeriaid bob amser, rydyn ni’n deall y gall cwsmeriaid fod yn anfodlon â'n gwasanaeth ar adegau ac yn dymuno rhoi adborth neu wneud cwyn. Mae ein tîm yn gefnogol ac yn awyddus i wneud pethau’n well. Os ydyn ni’n ymwybodol o unrhyw broblemau, mae'n rhoi cyfle i ni wneud gwelliannau, ar eich cyfer chi a chwsmeriaid eraill. Rydyn ni’n credu bod gan ein cwsmeriaid hawl i gael eu clywed, eu deall a'u parchu. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio datrys cwyn.

Dylech wneud cwyn o fewn 6 mis i’r digwyddiad rydych chi’n cwyno amdano, neu o fewn chwe mis i ddarganfod bod gennych reswm i gwyno, ond heb fod yn hirach na deuddeg mis ar ôl y digwyddiad ei hun. 

Gallwch gofnodi eich cwyn drwy gysylltu â’n tîm cynghori ar 0808 808 2244 neu e-bostio advicewales@est.org.uk. Byddwn yn ymchwilio i'ch cwyn gyda'r bwriad o ddarparu datrysiad.

Mae ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Nyth ar X (Twitter) yn cael eu monitro o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm (ac eithrio Gwyliau Banc). Bydd unrhyw gwynion a wneir drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu trosglwyddo i'n tîm cynghori i’w datrys. Cynghorwn chi i rannu unrhyw fanylion personol drwy neges breifat / yn uniongyrchol ac nid yn gyhoeddus. Dywedwch wrthon ni beth yw'r rheswm dros y gŵyn a chynnwys unrhyw wybodaeth neu fanylion perthnasol y dylen ni fod yn ymwybodol ohonyn nhw. Mae hyn yn cynnwys:

  • Eich manylion cyswllt, fel y gallwn adolygu eich cofnod fel cwsmer a chysylltu â chi. 
  • Gwybodaeth gefndir ar gyfer y gŵyn, fel y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn deall y broblem. 
  • Effaith y broblem arnoch chi a'r datrysiad sydd orau gennych.

Bydd ein tîm yn cydnabod unrhyw gwynion o fewn 2 ddiwrnod gwaith o'u derbyn. Os na fydd eich cwyn wedi’i datrys o fewn 5 diwrnod gwaith, byddan nhw’n cysylltu â chi eto i roi gwybod i chi am y camau maen nhw’n eu cymryd a byddan nhw’n parhau i gadw mewn cysylltiad â chi nes bod y gŵyn wedi’i datrys.  

Bydd ein tîm yn cynnal ymchwiliad cychwynnol yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir gennych, ac mae’n bosib y byddan nhw’n cysylltu â chi am ragor o wybodaeth os oes angen. 

Os nad ydych chi’n fodlon â chanlyniad eich cwyn ar ôl siarad â’n tîm, gallwch ysgrifennu at ein Rheolwr Gwasanaeth Cwsmeriaid yn: Tîm Nyth, Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, 33 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HA, neu anfonwch e-bost aton ni yn advicewales@est.org.uk neu ffoniwch 0808 808 2244.

Pan fyddwn yn fodlon bod yr holl bryderon a ddaeth i'n sylw wedi cael eu hymchwilio'n llawn a'u datrys, bydd eich cwyn yn cael ei chau.  

Bydd ein tîm yn uwchraddio'ch cwyn os oes angen ac, os yw'n berthnasol, yn rhoi gwybod i chi am y weithdrefn apelio berthnasol.