Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Cynllun Cymorthdaliadau Cymorth Coetiroedd

3. Y sail gyfreithiol

Mae grantiau creu coetiroedd yng Nghymru yn cael eu cyfiawnhau'n gyfreithiol drwy gyfuniad o gymhwysedd datganoledig, dyletswyddau statudol sy'n benodol i goedwigaeth, a deddfwriaeth amgylcheddol a hinsawdd sydd, gyda'i gilydd, yn grymuso Gweinidogion Cymru ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gefnogi coedwigo drwy gymorth ariannol.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu'r sail gyfansoddiadol. Mae'n sefydlu Gweinidogion Cymru fel y weithrediaeth ddatganoledig sydd â'r awdurdod i arfer swyddogaethau ac ysgwyddo gwariant mewn meysydd polisi datganoledig. Nid yw coedwigaeth, diogelu'r amgylchedd a rheoli tir yn faterion a gedwir yn ôl, sy'n golygu y caiff Gweinidogion Cymru lunio ac ariannu cynlluniau creu coetiroedd yn gyfreithlon fel rhan o'u cyfrifoldebau datganoledig.

Mae Deddf Coedwigaeth 1967, fel y mae'n gymwys yng Nghymru, yn darparu'r pwerau coedwigaeth craidd. Mae'n gosod dyletswydd gyffredinol ar yr awdurdod coedwigaeth priodol i hyrwyddo coedwigaeth a choedwigo ac i annog sefydlu a chynnal coed sy'n tyfu, gan gydbwyso'r gwaith o gynhyrchu pren â chadwraeth harddwch naturiol, fflora a ffawna. Mae cyllid grant yn fecanwaith hirsefydlog a chymesur ar gyfer cyflawni'r ddyletswydd statudol hon.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cryfhau'n sylweddol y sail gyfreithiol ar gyfer grantiau creu coetiroedd. Mae Rhan 1 yn sefydlu'r fframwaith statudol ar gyfer rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol, gan gynnwys egwyddorion meddwl yn yr hirdymor, atal ac integreiddio. Mae adran 6 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar Weinidogion Cymru i geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch ecosystemau. Mae'r Ddeddf hefyd yn darparu pwerau i ymrwymo i gytundebau rheoli tir. Mae Rhan 2 yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru sy'n eu rhwymo i osod a chyflawni targedau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chyllidebau carbon, sy'n gofyn am weithredu polisïau—megis creu coetiroedd—sy'n cyfrannu at liniaru'r newid yn yr hinsawdd.

Yn olaf, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar Weinidogion Cymru i gynnal gwaith datblygu cynaliadwy wrth fynd ati i gyflawni'r nodau llesiant statudol, gan gynnwys Cymru Gydnerth a Chymru sy'n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang. Er nad yw'n bŵer gwario ynddo'i hun, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion ddefnyddio pwerau sydd ar gael—megis cyllid grant—mewn ffyrdd sy'n darparu buddion amgylcheddol a chymdeithasol hirdymor.

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

  • Creu mwy o goetiroedd yng Nghymru i fynd i'r afael â than-ddarpariaeth hirdymor a chyfrannu at ymrwymiad statudol Cymru i Sero Net 2050 drwy fwy o atafaelu carbon.
  • Adfer coetiroedd sydd wedi eu difrodi neu lle mae yna glefydau, gan sicrhau adferiad cynefinoedd a storfeydd carbon yn dilyn achosion sy'n ymwneud â chlefydau ac iechyd coed.
  • Gwella gwydnwch a chyflwr hirdymor coetiroedd Cymru, gan gynnwys gwydnwch i wrthsefyll plâu, clefydau a newid hinsawdd, drwy reolaeth weithredol a chynaliadwy.
  • Cefnogi adferiad natur a gwella bioamrywiaeth trwy greu, adfer a rheoli cynefinoedd coetir sy'n darparu nwyddau amgylcheddol cyhoeddus.
  • Cryfhau'r cyflenwad pren domestig yn unol â strategaeth Datblygu'r Diwydiant Pren yng Nghymru, gan leihau dibyniaeth ar fewnforion, cefnogi datgarboneiddio ym maes adeiladu, a gwella gwydnwch y gadwyn gyflenwi.
  • Cefnogi gwaith datblygu economaidd gwledig, gan gynnwys swyddi medrus, uwchsgilio a chynhyrchiant ar draws y gadwyn gyflenwi coedwigaeth a phren.
  • Hyrwyddo mynediad teg at gyfleoedd amgylcheddol, gan alluogi ffermydd llai, ffermwyr tenant a grwpiau cymunedol i gymryd rhan mewn gwaith creu a rheoli coetiroedd pan fyddai rhwystrau ariannol fel arall yn eu heithrio.

5. Diben y cynllun

Mae'r cynlluniau cymorthdaliadau coetiroedd yn dilyn amcan polisi cyhoeddus clir drwy fynd i'r afael â methiannau'r farchnad ar sail tystiolaeth gadarn, sy'n arwain at danddarpariaeth o ran creu, adfer a rheoli coetiroedd yn yr hirdymor yng Nghymru. Mae costau cyfalaf uchel a delir ymlaen llaw, cyfnodau ad-dalu hir ac ansicr, risgiau'n ymwneud â phlâu, clefydau a'r hinsawdd, ac enillion preifat cyfyngedig yn golygu na fyddai'r gweithgareddau hyn yn cael eu cyflawni ar y raddfa ofynnol heb ymyrraeth gyhoeddus. Mae'r cynlluniau'n cefnogi ffermwyr, rheolwyr tir, grwpiau cymunedol a pherchnogion coetiroedd i gyflawni canlyniadau sy'n cynhyrchu buddion cyhoeddus sylweddol, gan gynnwys mwy o atafaelu carbon, adferiad bioamrywiaeth, gwella gwydnwch ecosystemau, a chyflenwad cryfach o bren domestig . Mae'r canlyniadau hyn yn cefnogi'n uniongyrchol ymrwymiad statudol Cymru i Sero Net 2050, amcanion adfer natur a'r Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren, ac yn darparu manteision sy'n estyn y tu hwnt i fuddiolwyr unigol i'r economi, yr amgylchedd a'r gymdeithas ehangach.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categorïau o fentrau cymwys

Mae ffermwyr, tirfeddianwyr, rheolwyr tir, grwpiau cymunedol a pherchnogion coetiroedd yn gymwys i gael cymorthdaliadau o dan y cynllun.

Gall tirfeddianwyr neu reolwyr sydd â chaniatâd gael mynediad at y grantiau creu coetiroedd ar gyfer plannu coed newydd. Bydd perchnogion coetiroedd presennol yn gallu cael mynediad at grantiau rheoli.

8. Sectorau i’w cefnogi

Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota

9. Hyd cyfnod y cynllun

Rhwng 20 Mawrth 2026 a 21 Mawrth 2031

10. Y gyllideb cymorth o dan y cynllun

£50,000,000

11. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymorthdaliadau a ddyfernir o dan y cynllun yn cael eu dyfarnu drwy grantiau uniongyrchol.

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

  • Rhaid i’r holl dir fod yng Nghymru.
  • Rhaid bod gan ymgeiswyr reolaeth am gyfnod llawn yr ymrwymiad. (Nid yw'r cynlluniau ar gael os ydych chi'n un o adrannau'r llywodraeth neu'n asiant iddynt).
  • Rhaid i'r tir fod wedi ei gofrestru yn System Adnabod Parseli Tir Llywodraeth Cymru.
  • Er mwyn creu coetir, rhaid i faint y bloc fod o leiaf 0.1Ha.

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Mae cymorthdaliadau ar gyfer y cynllun yn seiliedig ar gostau cyfalaf ar gyfer plannu coed gan gynnwys gweithgareddau ategol (ee paratoi tir a ffensio) a chamau rheoli yn ogystal â thaliadau refeniw ar gyfer cynnal a chadw ac incwm a gollwyd (taliadau premiwm). Mae cymorthdaliadau yn cael eu talu hyd at gymhareb cost o hyd at 100%.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£1,500,000

15. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â: PolisiCoedwigaeth.ForestryPolicy@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch ag:

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
DU

Rhif ffôn:

+ 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image