Neidio i'r prif gynnwy

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl y cynllun cymorthdaliadau

Digwyddiadau chwaraeon mawr 2022 i 2030

3. Sail gyfreithiol yn y DU

Daw’r pwerau sydd gan Weinidogion Cymru i ganiatáu i Lywodraeth Cymru gefnogi mentrau o dan y Cynllun o’r ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (adran 1) (fel y’i diwygiwyd)
  • Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (adrannau 58A, 60 a 61(j) (sport and recreational activities relating to Wales))

Rhaid i'r holl gymorthdaliadau a ddarperir o dan y Cynllun hwn gydymffurfio â threfn rheoli cymorthdaliadau'r DU ac mae'r terfynau a nodir yn yr atodlenni rydym wedi’u hatodi isod yn cyd-fynd â throthwyon presennol yr UE i sicrhau cydymffurfiaeth â'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA). Rhaid cael cymeradwyaeth bellach ar gyfer unrhyw gymhorthdal sy'n uwch na'r terfynau a nodir.

4. Diffiniadau

Ystyr “mewn trafferthion neu’n ansolfent” yw cymerwr adneuon, cwmni yswiriant neu fenter arall:

  1. a fyddai bron yn sicr yn mynd allan o fusnes yn y tymor byr i’r tymor canolig heb gymorthdaliadau,
  2. nad yw’n gallu talu ei ddyledion wrth iddynt ddod yn ddyledus, neu
  3. y mae gwerth ei asedau yn llai na swm ei atebolrwyddau, gan ystyried ei atebolrwyddau amodol ac arfaethedig.

Ystyr "dyddiad rhoi'r cymhorthdal" yw'r dyddiad y rhoddir yr hawl gyfreithiol i’r buddiolwr gael y cymorth o dan y drefn gyfreithiol genedlaethol berthnasol;

Ystyr "digwyddiadau chwaraeon mawr" yw digwyddiadau a ddiffinnir gan eu maint a’u hapêl i ddenu sylw helaeth yn y cyfryngau a chynulleidfaoedd rhyngwladol ar raddfa fawr, a dylanwadu arnynt, ac i sicrhau effaith economaidd a nifer sylweddol o ymwelwyr ar gyfer y gyrchfan letyol. Gallant fynnu sylw cynulleidfaoedd teledu ar raddfa fyd-eang ac maent yn cynnwys noddwyr rhyngwladol mawr. Gallant gael effaith gadarnhaol wrth ddylanwadu ar segmentau penodol o’r farchnad ac wrth newid agweddau ac ymddygiadau. Nid yw'r digwyddiadau rhyngwladol hyn "yn eiddo" i Gymru a byddai'n rhaid iddynt ddewis Cymru yn wyneb cystadleuaeth ryngwladol. Mae enghreifftiau yn cynnwys Triathlon Ironman, Gêm Brawf Cyfres y Lludw, Hanner Marathon y Byd a Phencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn;

Mae "mega-ddigwyddiadau chwaraeon" yn debygol o fod yn ddigwyddiadau teithiol sy’n cyrraedd cynulleidfaoedd yn fyd-eang, sy’n cael eu nodweddu gan y ffaith bod prosiectau cyfalaf ar raddfa fawr fel arfer yn eu rhagflaenu, ac sy’n aml yn galw am adeiladu lleoliadau newydd ynghyd â’r seilwaith ategol. Mae ymdrech geisiadau fawr yn gysylltiedig â’r digwyddiadau hyn ac maent yn galw am lefel uchel o adnodd a chymorth gan y llywodraeth ar bob cam – o wneud y cais i gyflwyno’r digwyddiad. Fel arfer, mae hyn yn golygu creu sefydliad annibynnol (cyfrwng at ddibenion arbennig) gyda chyllideb bwrpasol i reoli'r broses gyfan o'r dechrau i'r diwedd. Mae enghreifftiau yn cynnwys Pencampwriaeth Ewropeaidd UEFA, Cwpan Rygbi'r Byd a’r Cwpan Ryder.

Ystyr "dechrau gwaith" yw'r cynharaf o naill ai ddechrau'r gwaith adeiladu sy'n ymwneud â'r buddsoddiad, neu'r ymrwymiad cyfreithiol rhwymol cyntaf i archebu offer neu unrhyw ymrwymiad arall sy'n gwneud y buddsoddiad yn ddi-droi'n-ôl.  Nid ystyrir bod prynu tir a gwaith paratoi megis cael trwyddedau a chynnal astudiaethau dichonoldeb yn ddechrau gwaith. O ran cymryd awenau sefydliad, ystyr 'dechrau gwaith' yw'r foment pan fydd yr asedau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r sefydliad sy’n cael ei gaffael hwythau yn cael eu caffael.

"Cymhorthdal"; mae gan fesur cymorth bedair (4) nodwedd allweddol sy'n debygol o ddangos y byddai'n cael ei ystyried yn gymhorthdal:

  • Yn gyntaf, rhaid i gymhorthdal fod yn gyfraniad ariannol (neu mewn nwyddau) fel grant, benthyciad neu warant.
  • Hefyd, rhaid i'r cyfraniad ariannol gael ei ddarparu gan 'awdurdod cyhoeddus', gan gynnwys llywodraeth ganolog, ddatganoledig, ranbarthol neu leol, ymhlith eraill.
  • Yn drydydd, rhaid i’r cymhorthdal hefyd roi budd dethol i'r derbynnydd, sef mantais economaidd na all y derbynnydd ei chael ar delerau'r farchnad.
  • Yn olaf, rhaid i'r cymhorthdal ystumio neu niweidio cystadleuaeth, masnach neu fuddsoddiad.

5. Amcanion y cynllun

Rhoi cymorth ar gyfer paratoi, marchnata a chyflwyno digwyddiadau chwaraeon mawr a mega-ddigwyddiadau chwaraeon yn llwyddiannus er mwyn sicrhau’r buddion gorau posibl yn economaidd, yn ddiwylliannol-gymdeithasol, yn amgylcheddol ac o safbwynt y cyfryngau (proffil byd-eang) i Gymru ac i helpu i ddiogelu sefydliadau a swyddi cynaliadwy yn y sector digwyddiadau.

Mae Digwyddiadau Cymru yn bodoli'n bennaf i gefnogi portffolio digwyddiadau diwylliannol, chwaraeon a busnes cryf ar draws Cymru gyfan. Ers dros ddegawd bellach, mae'r 'strategaeth digwyddiadau mawr', a gyhoeddwyd yn 2010, wedi bod yn sail ar gyfer y gwaith hwn. Mae’r strategaeth honno yn cael ei hadnewyddu yn awr gyda strategaeth newydd yn cael ei datblygu ar gyfer 2022-2030, i’w lansio ym mis Gorffennaf 2022. Mae hyd y cynllun cymorthdaliadau hwn yn cyd-fynd â’r strategaeth Digwyddiadau Cymru newydd, a bydd yn dirwyn i ben yn 2030.

6. Y corff llywodraethu sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

7. Cwmpas y cynllun

Bydd deiliaid hawliau domestig a rhyngwladol ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr a mega-ddigwyddiadau chwaraeon, a’u partneriaid, yn cael elwa ar y cynllun.

Ni roddir cymorth os yw'r derbynnydd arfaethedig:

  • yn ddarostyngedig i orchymyn dyledus i ad-dalu cymhorthdal a roddwyd yn y DU sydd wedi’i ddatgan yn gymhorthdal anghyfreithlon, neu
  • yn fenter sydd mewn trafferthion neu’n ansolfent neu’n ymgymeriad mewn anhawster (gweler y diffiniad).

8. Hyd y cynllun

Bydd modd rhoi cymorth o dan y cynllun hwn rhwng 1 Medi 2022 a 31 Mawrth 2031.

9. Y gyllideb cymorth o dan y cynllun hwn

Amcangyfrifir y bydd cyfanswm y gwariant ar ddigwyddiadau chwaraeon mawr o 1 Medi 2022 i 31 Mawrth 2031 oddeutu £36m.

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a roddir o dan y Cynllun yn dryloyw. Bydd modd rhoi cymhorthdal ar ffurf grantiau.

11. Gweithgareddau cymwys y gall y cynllun eu cefnogi

Mae'r cynllun yn cefnogi cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru lle bernir bod y cyllid yn gymhorthdal.

Disgrifir y gweithgareddau cymwys yn fanwl yn Atodlen 1.

Os nad oes modd rhoi cymorth i dderbynwyr cymwys yn unol â hynny, gellir dyfarnu symiau bach o gymorth ariannol iddynt yn unol ag Erthygl 364, paragraff 4 o Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE.

12. Effaith y cymhelliad

Bwriad y cymhorthdal yw newid ymddygiad economaidd y buddiolwr. Bernir bod yr egwyddor hon wedi’i bodloni lle bydd y cymhorthdal yn bodloni'r holl amodau a nodir yn nhrefn rheoli cymorthdaliadau’r DU.

Rhaid i dderbynwyr gyflwyno holiadur ymgeisio ysgrifenedig i asesu a ydy’r digwyddiad yn bodloni blaenoriaethau strategol Digwyddiadau Cymru am gymorth drwy’r cynllun hwn a chyn i waith ar weithgaredd y prosiect ddechrau. Asesir y cynigion yn erbyn cyfres o feini prawf, sy’n addas ar gyfer natur, a maint y digwyddiad. Bydd y cais yn cynnwys yr wybodaeth a ganlyn o leiaf:

  1. Trosolwg o’r digwyddiad a’r lleoliad
  2. Manylion y sefydliad
  3. Partneriaid Cyflenwi
  4. Meini Prawf Economaidd
  5. Meini Prawf Enw Da a Phroffil Rhyngwladol
  6. Meini Prawf Diwylliannol-Gymdeithasol (yn benodol, pa mor gyson ydyw â’r Nodau Llesiant)
  7. Polisïau Statudol

Os yw swyddogion yn fodlon bod cynigion ar gyfer digwyddiadau yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau strategol Digwyddiadau Cymru, fel y nodir yn y Strategaeth Ddigwyddiadau, gofynnir am gynllun busnes manwl sy'n nodi eu profiad o reoli digwyddiadau mawr a hyfywedd cyffredinol y cynigion, yn ariannol ac o ran cael effaith gadarnhaol hirdymor i Gymru. Fel arfer, bydd angen i ddigwyddiadau a gynhelir yn rheolaidd ddangos sut y bydd buddsoddiad strategol y Llywodraeth yn arwain at gynaliadwyedd ariannol o fewn cyfnod diffiniedig, fel arfer ar ddiwedd 3 blynedd.

13. Cronni

Wrth benderfynu a lwyddwyd i gadw o fewn y trothwyon dwysedd unigol a therfyn dwysedd y cymhorthdal, rhaid ystyried yr holl gymorth cyhoeddus sydd wedi’i roi i'r gweithgaredd neu’r prosiect a gynorthwyir, ni waeth pwy sydd wedi ariannu’r cymorth hwnnw, boed ffynhonnell leol, ranbarthol, genedlaethol neu ryngwladol.

Ni fydd modd cyfuno’r cymhorthdal a ddarperir o dan y Cynllun hwn â mathau eraill o gymhorthdal na gyda chymorthdaliadau sy’n cael ei ystyried/eu hystyried yn 'symiau bach o gymorth ariannol' ar gyfer yr un costau cymwys os bydd y swm hwnnw’n uwch nag unrhyw ddwyseddau cymhorthdal perthnasol.

Caiff archwiliadau diwydrwydd dyladwy eu cynnal yn ystod y broses ddyfarnu.

14. Gofynion monitro ac adrodd

Bydd pawb sy'n derbyn cymhorthdal o dan y Cynllun yn cael gwybod bod y cymorth wedi'i ddarparu o dan y Cynllun, a gofrestrwyd o dan SX.XXXXX, ‘DIGWYDDIADAU CHWARAEON MAWR 2022-2030’.

Cedwir cofnodion am 10 mlynedd o ddyddiad dyfarnu'r cymhorthdal diwethaf o dan y Cynllun. Bydd y cofnodion yn ddigon manwl i allu cadarnhau a yw amodau'r Cynllun yn cael eu bodloni.

Bydd manylion unrhyw ddyfarniad sy'n fwy na £500,000 a roddir o dan y cynllun hwn ar gael i'r cyhoedd eu gweld ar wefan Cronfa Ddata Tryloywder Cymhorthdal y DU o fewn 6 mis ar ôl ei roi.

Cyhoeddir adroddiadau blynyddol neu bob dwy flynedd ar wariant o dan y Cynllun hwn er mwyn cydymffurfio ag ymrwymiadau rhyngwladol y DU o ran cymhorthdal.

Yn unol ag ymrwymiadau'r DU o dan Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r holl wybodaeth a dogfennau yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i bartïon â buddiant i ddangos eu bod yn cydymffurfio â threfn rheoli cymhorthdal y DU o fewn mis ar ôl iddi dderbyn cais o’r fath.

Gwybodaeth gysylltu:

Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Cymru

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 253568

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Atodlen 1: Egwyddorion canllaw ar gyfer cymorth i Ddigwyddiadau Chwaraeon Mawr a gweithgareddau cymwys i’w hystyried ar gyfer cymorthdaliadau Digwyddiadau Chwaraeon Mawr

Yn yr adran hon, bydd angen ichi amlinellu paramedrau'r pecyn cymorth yr ydych yn bwriadu ei ddarparu, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau daearyddol neu thematig, dwyseddau’r cymorthdaliadau ac uchafswm y cymorthdaliadau a ganiateir.

Mae Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru yn seiliedig ar set o egwyddorion sylfaenol gan gynnwys annog gwasgaru cyfleoedd i gynnal digwyddiadau yn deg ac yn gyfartal ar draws Cymru, a gwasgaru digwyddiadau yn gyfartal ar draws y calendr hefyd.

Nid oes uchafswm o ran y cymorthdaliadau a ganiateir (terfynau cyllid wedi'u diffinio). Bydd lefel briodol o gyllid oddi wrth Ddigwyddiadau Cymru yn cael ei negodi ar ôl i gynllun busnes llawn, a'r amrywiaeth o fuddion ac allbynnau strategol y byddai Digwyddiadau Cymru yn disgwyl iddynt gael eu cyflawni ar gyfer y buddsoddiad, gael eu hystyried. Yn gyffredinol, bydd cymorth i ddigwyddiadau chwaraeon mawr tua £500,000 neu lai, ond mae Digwyddiadau Cymru yn parhau’n agored i ddarparu lefelau uwch o gymorth pan ystyrir bod y budd a ddaw i Gymru o ganlyniad yn cyfiawnhau hynny. Mae angen lefelau uwch o gyllid er mwyn denu'r digwyddiadau chwaraeon o’r proffil uchaf oll i Gymru. Bydd Llywodraeth Cymru weithiau yn ymgeisio hefyd am ddigwyddiadau (ee y Tour de France a Phencampwriaethau Ewropeaidd UEFA) mewn partneriaeth â gweinyddiaethau datganoledig eraill y DU. Mewn achosion o’r fath, bydd y gweinyddiaethau datganoledig yn gyfrifol yn annibynnol oddi ar ei gilydd am gydymffurfio â threfn rheoli cymorthdaliadau’r DU.

Yn unol ag ymgyrch Llywodraeth Cymru i gryfhau'r amodau a fydd yn galluogi busnesau i greu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy a bodloni ein Nodau Llesiant bydd y meini prawf asesu a Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI) ar gyfer pob categori o ddigwyddiadau â chymorth yn cael eu mireinio, a'u cryfhau, fel rhan o’r cynllun gweithredu, i roi mwy o bwyslais ar gymorth ar gyfer y digwyddiadau hynny sy'n dangos eu bod yn cyd-fynd yn agos â'r nodau hyn.

Mae Dangosyddion Perfformiad Allweddol enghreifftiol i’w cael ar dudalennau 21-22 o Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru.

Gellir defnyddio cyllid grant i gefnogi amrediad eang o weithgareddau a chostau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau mawr, sy’n ysgogi effaith economaidd ac sy’n codi proffil Cymru yn rhyngwladol, megis:

  • Marchnata a hyrwyddo masnachol
  • Ffioedd proffesiynol
  • Cynhyrchu ar gyfer y teledu/ffrydio ar-lein
  • Costau cynhyrchu a llwyfannu (ee llogi lleoliadau ac offer)
  • Cyflwyniadau Chwaraeon
  • Rheoli cystadleuaeth
  • Iechyd a Diogelwch
  • Llety, Teithio a Lles
  • Trwyddedu 
  • Cymorth TG
  • Logisteg digwyddiadau
  • Staffio
  • Gwasanaethau Amgylcheddol
  • Ffioedd hawliau
  • Hyfforddiant sy’n gysylltiedig â digwyddiadau mawr a datblygu/creu swyddi newydd 
  • Gwaddol
  • Cyflawni nodau cynaliadwyedd a’r Nodau Llesiant

Effeithiau Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2010-2020

Mae Digwyddiadau Cymru wedi adrodd am effaith gronnol buddsoddi mewn digwyddiadau mawr ers 2012. Ymhlith y buddion economaidd y mae nifer y swyddi newydd cyfwerth ag amser llawn sy'n cael eu creu/cefnogi, nifer yr ymwelwyr/gwylwyr o'r tu allan i Gymru, cyfraniad ychwanegol net i economi Cymru, buddsoddiadau eraill y sectorau cyhoeddus a phreifat a gaiff eu trosoli a defnyddio cynnyrch a gwasanaethau lleol (Cymreig). Mesurwyd yr effeithiau canlynol rhwng 2012 a 2019 (ni chafodd effeithiau eu cofnodi’n gyson cyn 2012 a chafodd y rhan fwyaf o ddigwyddiadau eu canslo yn 2020 oherwydd y pandemig COVID-19):

  • Denwyd bron i 3m o ymwelwyr i Gymru, gan gynhyrchu cyfanswm o dros £512m o wariant ychwanegol net i mewn i economi Cymru.
  • Cefnogwyd cyfanswm o 11,499 o swyddi yn yr economi dwristiaeth yn ehangach.
  • Cynigiwyd dros 1,000 o gyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr Addysg Bellach neu Addysg Uwch.
  • Cynigiwyd dros 33,000 o gyfleoedd i wirfoddoli.

Mae buddion diwylliannol-gymdeithasol yn cynnwys nifer ac amrywiaeth y bobl sy'n bresennol (timau sy'n cymryd rhan a gwylwyr), y gwirfoddolwyr sydd wedi’u recriwtio/hyfforddi/defnyddio, gweithgareddau craidd yn cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg a rhaglenni allgymorth.

Mae buddion amgylcheddol yn cynnwys y camau a gymerwyd i weithio tuag at Safon BS ISO 20121 ar Reoli Digwyddiadau Cynaliadwy.

Mae buddion o ran y cyfryngau yn cynnwys y sylw a roddir ar y teledu/drwy wasanaethau ffrydio yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ar y cyfryngau cymdeithasol a bod pobl yn ymuno â digwyddiadau ar-lein.