Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Cynllun Cymorthdaliadau Ffi Trwydded Gocos Llywodraeth Cymru 2026/27

3. Y sail gyfreithiol

Adrannau 58A a 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Nod y cynllun yw cefnogi deiliaid trwyddedau trwy leihau cost trwydded y bysgodfa, gan helpu i wrthbwyso'r cynnydd diweddar mewn ffioedd trwyddedau. Ei nod yw cadw mynediad i'r bysgodfa ac annog cydymffurfedd â rheoliadau rheoli gan leihau'r effaith ariannol ar bysgotwyr unigol.

5. Diben y cynllun

Diben y cynllun yw lleihau'r effaith ariannol ar ddeiliaid trwyddedau, gan sicrhau mynediad parhaus i'r bysgodfa a chefnogi cydymffurfedd â rheoliadau rheoli. Mae'n cyflawni hyn trwy roi cymhorthdal tuag at gyfran o gost y drwydded, gan wneud y drwydded yn fwy fforddiadwy i bysgotwyr.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categorïau o fentrau cymwys

Bydd trwydded â chymhorthdal yn cael ei dyroddi i unrhyw un sydd wedi bodloni'r holl feini prawf cymhwystra ac wedi talu'r ffi. Yna gellir defnyddio'r drwydded i gael mynediad i bysgodfeydd cocos cyhoeddus a reolir gan Lywodraeth Cymru o fewn ardal benodedig Gorchymyn Cocos 2024.

8. Sectorau i’w cefnogi

Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota

9. Hyd cyfnod y cynllun

Rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Mai 2027

10. Y gyllideb cymorth o dan y cynllun

£52,998

11. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymorthdaliadau a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael eu dyfarnu drwy grantiau uniongyrchol.

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Bydd trwydded â chymhorthdal yn cael ei dyroddi i unrhyw un sydd wedi llenwi'r ffurflen gais yn gywir, wedi bodloni'r holl feini prawf cymhwystra ac wedi talu'r ffi.

Caiff person wneud cais am drwydded:

  • os yw’n 16 oed neu’n hŷn
  • os yw’n meddu ar dystysgrif cwrs hyfforddiant ar ddiogelwch rhynglanwol a ddyroddwyd o fewn y cyfnod blaenorol o 3 blynedd, ac
  • os nad yw wedi ei euogfarnu o fewn y cyfnod blaenorol o 12 mis, neu’r cyfnod blaenorol o 6 mis os oedd o dan 18 oed ar ddyddiad ei euogfarnu, o drosedd berthnasol.

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Cyfrifwyd ffi'r drwydded yn £842 i adennill costau rheoli'r bysgodfa. Yna gosodwyd ffi â chymhorthdal o £600, yr ystyriwyd ei bod yn rhesymol, yn seiliedig ar y ffactorau canlynol:

  • Mae trwydded gocos yn darparu mynediad i bysgodfeydd gwerthfawr o fewn yr ardal benodedig. O'i chymharu â'r incwm tymhorol posibl y gallech ei hennill, mae'r ffi newydd yn gyfran fach o'r enillion economaidd.
  • Bydd ffi'r drwydded â chymhorthdal yn sicrhau bod swm priodol (71%) o'r costau sy'n gysylltiedig â rheoli'r bysgodfa yn cael eu hadennill.

Mae cyfanswm y gyllideb yn amcangyfrif sy'n seiliedig ar ffigurau deiliaid trwyddedau'r tymor blaenorol.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£250

15. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â: pysgodfeydd@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch ag:

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
DU

Rhif ffôn:

+ 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image