Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Bydd y cynllun newydd, Cynefin Cymru, yn cynnig cymorth amgen i bob ffermwr cymwys, gan gynnwys ffermwyr Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig pan ddaw eu contractau i ben ar 31 Rhagfyr 2023.

Mae'r ddogfen hon yn rhoi braslun o gynllun Cynefin Cymru, cyn y bydd y ddogfen ganllaw lawn ar gael.

Amcanion cynllun Cynefin Cymru

  • diogelu tir cynefin sydd wedi bod o dan fesurau rheoli yn 2023, tan y daw’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) i rym yn llawn yn 2025
  • dod â thir cynefin ychwanegol, nad oes taliadau rheoli’n cael eu talu arno ar hyn o bryd, o dan fesurau rheoli cynaliadwy cyn i’r SFS ddechrau
  • cadw’r cymorth amgylcheddol ar gyfer tir comin

Bydd y cynllun ar agor i bob ffermwr cymwys a Chymdeithasau Pori cymwys.

Dosbarthiadau tir

Bydd tri dosbarthiad tir cymwys:

  • tir sydd ar hyn o bryd o dan opsiwn cynefin o fewn contract Glastir Uwch (gan gynnwys Glastir - Tir Comin)
  • tir cynefin (heblaw safleoedd dynodedig), nad yw o dan fesurau rheoli ar hyn o bryd yn 2023, fel y nodwyd gan fapiau a gyhoeddwyd ar MapDataCymru
  • tir a reolir fel cynefin. (Mae gan y tir hwn botensial i ddod yn dir cynefin yn dilyn mesurau rheoli)

Bydd taliadau rheoli ar gyfer safleoedd dynodedig o fewn contractau Glastir presennol yn cael eu cynnal. Fodd bynnag, ni fydd safleoedd dynodedig, nad ydynt ar hyn o bryd o dan gontract Glastir yn gymwys ar gyfer taliadau o dan gynllun Cynefin Cymru.

Y broses ymgeisio

Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer cynllun Cynefin Cymru yn agor 29 Medi 2023 gyda chontractau 12 mis yn cael eu cynnig, gan ddechrau ar 1 Ionawr 2024.

Bydd ceisiadau'n cael eu cyflwyno drwy eich cyfrif RPW ar-lein a byddant yn cael eu harwain gan ffermwyr, h.y. ni fydd rheolwyr contractau yn ymweld â ffermydd.

Bydd ardaloedd cynefin yn cael eu llenwi ymlaen llaw ar y ffurflen gais ar-lein.

Bydd y contract yn gytundeb “pob cynefin”; ni fydd ymgeiswyr yn gallu dewis pa ardaloedd cynefin i'w cynnwys yn y contract.

Gall ymgeiswyr gynnwys tir ychwanegol i'w reoli fel cynefin yn y cais.

Bydd proses gystadleuol ar gyfer sgorio a dethol ceisiadau. Bydd y cynllun yn targedu ardaloedd lle gallwn sicrhau’r buddion amgylcheddol mwyaf.

Gofynion rheoli

Bydd tir a gyflwynir o fewn Datganiad o Ddiddordeb yn cael ei osod o fewn 10 dosbarthiad cynefin eang gyda gofynion rheoli sylfaenol wedi'u gosod ar gyfer pob dosbarthiad cynefin.

Y dosbarthiadau cynefin eang yw:

  1. Planhigion tir âr
  2. Rhos arfordirol a rhos llawr gwlad
  3. Graean bras arfordirol a thwyni tywod â llystyfiant
  4. Cynefinoedd gwlyb wedi’u hamgáu
  5. Coed, prysgwydd a choetir sydd eisoes yn bodoli
  6. Morfeydd heli
  7. Rheoli’r pori ar dir agored 
  8. Glaswelltir sych parhaol heb unrhyw fewnbynnau
  9. Creigiau a sgri mewndirol 
  10. Tir a Reolir fel Cynefin

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o ofynion rheoli: 

Rydych yn cytuno i beidio â gwneud y canlynol:

  • aredig/amaethu, ail-hau neu wella cynefin
  • gwasgaru unrhyw wrtaith organig neu anorganig fel tail buarth, slyri, slwtsh carthion a thail ieir
  • gwasgaru unrhyw blaladdwyr (heblaw sbot-chwynnu rhywogaethau goresgynnol neu chwyn hysbysadwy) 
  • caniatáu i'r ardal gael ei sathru (mae bylchau caeau, ardaloedd bwydo a dŵr sy’n bodoli eisoes yn dderbyniol, ar yr amod bod ardaloedd sy’n cael eu sathru ac ardaloedd moel yn llai na 5% o orchudd)
  • gwasgaru calch 
  • rhoi porthiant atodol i dda byw, heblaw’r ardaloedd bwydo a dŵr sy’n bodoli eisoes
  • torri neu docio mwy na 30% o rywogaethau brwyn neu chwyn mewn unrhyw flwyddyn

Hawliadau a thaliad

Y cyfraddau talu ar gyfer rheoli cynefinoedd yw:

Ar gyfer busnes fferm unigol

 

Tir cynefin

£69 / ha

Cynefin coetir

£62 / ha

Ar gyfer tir comin

 

Taliad rheoli tir comin

£25 / ha

Taliad ychwanegol ar gyfer rheoli stoc

£15 / ha

Taliad ychwanegol ar gyfer pori cymysg

£12 / ha

Taliad ychwanegol am leihau stocio

£259 / UDB

 

Bydd uchafswm y taliad i ymgeiswyr unigol yn cael ei gapio.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cyflwyno hawliad drwy eu ffurflen SAF yn 2024.

Ni fydd unrhyw waith cyfalaf ategol yn cael ei gynnig fel rhan o'r cynllun. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gymwys i wneud cais am y cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd ar gyfer cymorth cyfalaf.

Bydd canllawiau llawn yn cael eu cyhoeddi yn https://www.llyw.cymru/grantiau-a-thaliadau-gwledig cyn i'r ffenestr ymgeisio chwe wythnos agor.

Sylwer: Mae'r cynllun hwn yn cael ei ddatblygu a gallai newid cyn i’r canllawiau terfynol gael eu cyhoeddi.