Neidio i'r prif gynnwy

Mae chweched categori sef ‘Arall - Ddim yn gymwys ar gyfer ariannu gan y Grant Creu Coetir’ wedi ei gynnwys yn y Cynllun Cynllunio Creu Coetir. Mae’r categori ar gyfer ymgeiswyr sydd ddim am blannu un o’r pum categori coetir a gynigir gan y cynllun i fod yn gymwys ar gyfer y Grant Creu Coetir, ond dal eisiau derbyn ariannu ar gyfer creu cynllun ac i Gyfoeth Naturiol Cymru ei wirio yn unol â Safon Coedwigaeth y DU. Tra bydd ymgeiswyr sydd yn dewis ‘Arall’ yn methu ceisio ar gyfer y Grant Creu Coetir, efallai y medrant geisio ar gyfer cynlluniau eraill Llywodraeth Cymru fel y Grant Buddsoddi mewn Coetir neu gyllid preifat neu gyhoeddus arall.