Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Cynllun Cynyddu Darpariaeth Cyngor Cyfreithiol Mewnfudo yng Nghymru

3. Y sail gyfreithiol

Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Mae ymchwil yn dangos bod gostyngiad hirdymor o ran darpariaeth cynghorwyr yng Nghymru. Mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i'r cwymp mewn cymorth cyfreithiol mewnfudo. Mae Cymru'n arbennig o dan anfantais o'i gymharu â gweddill y DU ac mae angen heb ei wasanaethu ym mhob rhan o Gymru. Mae cael gafael ar gyngor mewnfudo o ansawdd uchel yn amserol yn cynyddu mynediad at hawliau sylfaenol fel tai ac yn lleihau nifer y bobl sy'n syrthio i argyfwng. Mae hynny o fudd cyffredinol i bobl Cymru.

Gall ymyrraeth Llywodraeth Cymru helpu i fynd i'r afael â'r prinder o ran cyngor mewnfudo. O ystyried bod y problemau sy'n wynebu'r sector yn amlochrog, mae'r cynllun yn defnyddio dull gweithredu trawsbynciol i fynd i'r afael â gostyngiad hirdymor darpariaeth cynghorwyr. Canlyniadau dymunol y cymhorthdal yw cynyddu darpariaeth cynghorwyr, gan sicrhau bod ceiswyr lloches a mudwyr agored i niwed yn gallu cael gafael ar gyngor yn y tymor byr i ganolig. Bydd hyn yn helpu i sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau yn y tymor hir.

5. Diben y cynllun

Mae'r cynllun yn croesawu cynigion gan ddarparwyr cyngor a'r rhai sy'n gweithio yn y sector mewnfudo. Mae hyn yn cynnwys ariannu hyfforddiant a goruchwyliaeth achredu'r Awdurdod Cyngor Mewnfudo (AAI), Academi Mewnfudo Newfields, prosiect DIAS Sefydliad Bevan a gweithgareddau cymwys eraill. Mae ymyrraeth flaenorol Llywodraeth Cymru wedi profi y gall cyllid wedi'i dargedu helpu i fynd i'r afael â'r diffyg hwn. Er enghraifft, mae Asylum Justice wedi cael cyllid o'r blaen i recriwtio gweithiwr achosion IAA Lefel 2 (yn gweithio tuag at Lefel 3) amser llawn am o leiaf ddwy flynedd, gan gefnogi 60-80 o achosion ychwanegol.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys

Cynghorwyr Cyfreithiol Mewnfudo a'r rhai sy'n cefnogi'r sector mewnfudo ee trwy wneud gwaith ymchwil.

8. Sectorau i’w cefnogi

Gweithgarwch gweinyddol a gwasanaethau cymorth

9. Hyd cyfnod y cynllun

1 Ebrill 2026 tan 31 Mawrth 2029

10. Y gyllideb cymorth o dan y ynllun

£1,050,000

11. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Rhaid i sefydliadau gefnogi'r sector cyngor cyfreithiol mewnfudo yng Nghymru. Os bydd sefydliad yn gwneud cais am gymorth gyda hyfforddiant a goruchwyliaeth IAA, mae'n rhaid iddo ddarparu cyngor am ddim. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau'r trydydd sector, cymorth cyfreithiol a gwaith pro bono.

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Mae pob sefydliad wedi darparu ei nodau ar gyfer y cyfnod cyllido a dadansoddiad llawn o'r costau sydd eu hangen i gyflawni ei amcanion. Bydd y rhain yn cael eu monitro'n chwarterol gan swyddogion polisi.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£150,000

15. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â'r tîm Mudo a Gynlluniwyd yn: polisimudo@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch ag:

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
DU

Rhif ffôn:

+ 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image