Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Telerau ac Amodau Grant ar gyfer y Cynllun Cydweithredu a Datblygu'r Gadwyn Gyflenwi i'w gweld isod. Darllenwch y Telerau ac Amodau cyn i chi dderbyn y Contract.

Caiff y cynnig am grant ei wneud gan swyddog o fewn Llywodraeth Cymru o dan awdurdod Gweinidogion Cymru.  Caiff y cynnig ei wneud yn unol â Rheoliadau Rhaglen Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 [OS Rhif 3222 (Cy.327)].  Mae'r grant ar gael o dan y Cynllun uchod sy'n Gynllun sy'n cael ei gyflawni o dan Raglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru.

Mae'r cynnig Contract yn amodol arnoch chi’n derbyn yr holl delerau ac amodau. Yn benodol, cynigir y grant ar yr amod bod y Prosiect yn cyflawni’r manylion a ddisgrifir yn eich Ffurflen Gais a gyflwynwyd ar RPW Ar-lein, eich Proffil Cyflawni, eich Cofrestr Wariant ac unrhyw Amodau Arbennig (fel y bo’n gymwys).

Mae'r Gofrestr Wariant a Chofnod yn cynnwys manylion y tendr cystadleuol yr ydych wedi'i wneud. Bydd angen i chi gael cymeradwyaeth ar gyfer pob eitem dros £500 yn eich Cofrestr Wariant, cyn cyflwyno eich ceisiadau am yr eitemau hyn.

Rhaid derbyn y contract grant a ddyfernir drwy fotwm glas RPW Ar-lein o fewn 30 diwrnod i ddyddiad llythyr cynnig y Contract.

Yn y contract, rydym wedi rhestru'r Endidau Cydweithredol sy'n cydweithredu â chi i gyflawni'r gweithgaredd ar gyfer y Prosiect hwn, ynghyd â'r gweithgareddau y mae'r endidau hyn yn eu cyflawni.

Os bydd yr Endidau Cydweithredol cymeradwy yn newid, rhaid i chi hysbysu Llywodraeth Cymru.

1. Telerau ac amodau cyffredinol

a)    Gwneir y dyfarniad ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu gan eich cynrychiolwyr ar y ffurflen gais ac mewn gohebiaeth wedi hynny.

b)    Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.

c)    Rhaid ichi beidio â dechrau unrhyw waith ar y prosiect heb ichi yn gyntaf gael awdurdod ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i wneud hynny.

d)    Rhaid i chi gadw at y gofynion a nodir yng nghynllun y Contract.

e)    Rhaid cyflwyno hawliadau drwy ffurflen gais RPW Ar-lein a'u hategu gan yr holl dystiolaeth ddogfennol fel sy'n ofynnol gan y cynllun.

f)    Rhaid cyflwyno hawliadau yn unol â'r amserlen a nodir yn y proffil cyflawni. Ni chewch newid yr amseriad y cytunir arno na gwerth eich hawliadau heb gael cytundeb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru.

g)    Rhaid cyflwyno anfonebau ategol a thystiolaeth o daliadau i gefnogi eich cais a thrwy eich cyfrif RPW Ar-lein.

h)    Os ydych yn bwriadu hawlio grant ar gyfer gwariant cymwys a wneir gan eraill a fydd yn gweithredu ar eich rhan, rhaid ichi sicrhau bod gennych gytundeb â hwy sy'n eich rhwymo mewn cyfraith ac sy’n pennu yn union pa wybodaeth sydd i’w darparu a phryd. Rhaid ichi sicrhau bod gan y rheini sy’n gweithredu ar eich rhan y dystiolaeth ddogfennol wreiddiol i gefnogi’r holl daliadau a wnânt ar eich rhan ac yr ydych yn dymuno hawlio grant ar eu cyfer.

i)    Rhaid cyflwyno'r hawliad cyntaf heb fod yn hwyrach na chwe mis o'r dyddiad y dyfernir y Contract. Oni wneir yr hawliad cyntaf o fewn yr amser hwn, bydd y cynnig grant yn cael ei derfynu'n awtomatig.

j)    Bydd yn ofynnol i'r holl ddyfynbrisiau perthnasol gael eu cyflwyno a'u cymeradwyo cyn y telir hawliad.

k)    Rhaid i chi gydymffurfio â'r rheolau ar wariant cymwys fel y nodir yn Nodyn Cyfarwyddyd y Cynllun.

l)    Rhaid ichi roi cadarnhad na wnaed cais am unrhyw arian cyhoeddus arall (o ffynonellau yn yr UE nac yn y DU).

m)    Rhaid ichi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a osodir o dan gyfraith yr UE a’r DU, gan gynnwys deddfwriaeth yn ymwneud â hylendid.

n)    Os ceir arian cyhoeddus arall o'r UE neu'r DU i gefnogi costau prosiect, byddant yn cael eu disgowntio.

o)    Ni chaniateir gwneud unrhyw newidiadau i’r prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgarwch, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru.

p)    Yn ystod cyfnod cyflawni’r prosiect ac am bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau'r prosiect, rhaid peidio â gwaredu, trosglwyddo na gwerthu unrhyw offer a/neu adeiladau a brynir gyda chymorth grant heb gael cydsyniad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ymlaen llaw.

q)    Dylid cwblhau prosiectau o fewn yr amserlen y cytunir arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni chewch ei newid heb gael cytundeb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru.

r)    Rwyf yn cadarnhau nad oes unrhyw un o'r eitemau yn y cais yn eitemau newydd a brynwyd yn lle rhai blaenorol o dan unrhyw hawliad yswiriant.

s)    Rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd a roddir i’r prosiect gyfeirio at y rhan a chwaraewyd gan yr Undeb Ewropeaidd a hefyd gan Lywodraeth Cymru wrth ei gyllido.

t)    Rhaid cadw cofnodion sy'n ymwneud â gweithgarwch y busnes a chyflawni'r prosiect, gan gynnwys yr holl anfonebau gwreiddiol a dogfennau cysylltiedig eraill megis tendrau neu ddyfynbrisiau cystadleuol, tan 2030.

u)    Rhaid ichi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, y Comisiwn Archwilio a Llys Archwilwyr Ewrop arolygu’r prosiect.  Os cewch gais i'r perwyl hwnnw, rhaid ichi roi iddynt wybodaeth a/neu fynediad at ddogfennau gwreiddiol yn ymwneud â’r prosiect.

v)    Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac mewn unrhyw ddogfennau ategol yn ddarostyngedig i ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

w)    Os byddwch yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich busnes neu’ch cwmni, swm y grant a ddyfarnwyd ichi a chrynodeb o’ch prosiect.

2. Diwygiadau i'r contract hwn

a)    Ni fydd unrhyw ddiwygiad neu amrywiad i delerau ac amodau’r cynnig grant fel y’u nodir yn y llythyr hwn neu yn yr atodiadau iddo, yn cael effaith oni fydd wedi cael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan roddwr y grant.

b)    Mae rhoddwr y grant yn cadw’r hawl i ddiwygio telerau ac amodau’r cynnig grant fel y’u nodir yn y llythyr hwn ac yn yr atodiadau iddo drwy roi rhybudd ysgrifenedig ichi.

3. Newidiadau i'r prosiect

a)    Os gwneir unrhyw newid i’r Prosiect, rhaid i roddwr y grant gytuno'n ysgrifenedig i’r newid hwnnw. Os byddwch yn ein hysbysu bod eich Prosiect wedi newid mewn unrhyw fodd, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych sut y byddwn yn ymdrin â'r newidiadau hynny.

b)    Mae newidiadau'n cynnwys newid natur y Prosiect mewn unrhyw ffordd, er enghraifft, newidiadau sylweddol dros oes y Prosiect i'r categorïau gwariant unigol neu i’r targedau mesuradwy a nodir yn y Ffurflen Gais, y Cynllun Busnes, y Proffil Cyflawni, y Gofrestr Wariant; unrhyw newid i’r defnydd a wneir o’r Prosiect, y modd y caiff ei ariannu neu ei berchnogaeth a/neu unrhyw newid i’r amserlen ar gyfer cwblhau’r Prosiect.

c)    Os methir â hysbysu rhoddwr y grant, gall hynny arwain at derfynu’r grant ac efallai y bydd yn ofynnol ichi ad-dalu rhan neu’r cyfan o unrhyw grant a fydd wedi ei dalu. Ni thelir unrhyw grant mewn perthynas ag unrhyw newidiadau i’r prosiect hyd nes bydd y newidiadau hynny wedi cael eu cymeradwyo gan roddwr y grant.

d)    Er y gallwch ofyn am amrywiadau Prosiect ar ôl eu cymeradwyo, ni ddylech gymryd yn ganiataol y byddant yn cael eu cymeradwyo, yn enwedig pan fydd y cais yn symud cyllid grant a ddyrannwyd i flynyddoedd ariannol yn y dyfodol. Mae unrhyw grant heb ei hawlio o flwyddyn ariannol benodol yn eich Proffil Cyflenwi y cytunwyd arno yn annhebygol o gael ei gario drosodd i flynyddoedd ariannol diweddarach. Mae hyn oherwydd lefel yr ymrwymiad presennol a dyraniadau cyllideb bresennol y Cynllun Datblygu Gwledig.

e)    Oni bai fod gennych Amgylchiadau Eithriadol, bydd y cyllid grant a ddyrannwyd i’ch Prosiect ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol yn cael ei golli oni bai fod gweithgareddau’r Prosiect yn cael eu cyflawni a bod y gwariant yn digwydd (yn cael ei dalu o gyfrif banc eich busnes) erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hy 31 Mawrth.

f)    Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd hysbysu rhoddwr y grant cyn gynted ag y bo modd os bydd y Prosiect yn cael ei addasu’n sylweddol cyn pen 5 mlynedd i Ddyddiad Cwblhau'r Prosiect a bod yr addasiad hwnnw:

(i)    yn effeithio ar ei natur neu ar yr amodau ar gyfer ei gyflawni, neu'n rhoi mantais ormodol i gwmni neu gorff cyhoeddus;  
(ii)    yn ganlyniad i newid yn natur perchnogaeth rhyw eitem o’r seilwaith neu'n ganlyniad i roi'r gorau i weithgaredd cynhyrchiol neu’n ganlyniad i'w adleoli.

4. Talu'r grant

a)    Telir y grant yn unol â'r telerau ac amodau. Os byddwch yn methu â chyflwyno ffurflen hawlio mewn pryd, ac yn methu hefyd â dangos bod cynnydd wedi’i wneud yn unol â'r targedau, gallai taliadau’r grant gael eu hatal hyd nes y cyflwynir y rheini.

b)    Caiff rhoddwr y grant leihau swm taliad olaf y grant os bydd y cyfanswm a fydd wedi ei wario gennych ar y Prosiect yn llai na’r cyfanswm a amcangyfrifwyd a/neu os bydd proffil cyllido’r Prosiect yn newid.

c)    Heb leihau effaith unrhyw ddarpariaeth arall yn y Telerau ac Amodau hyn neu’r Contract, caiff rhoddwr y grant gadw unrhyw un neu rai o daliadau’r grant yn ôl neu bob un ohonynt a/neu ei gwneud yn ofynnol i'r cyfan o’r grant, neu ran ohono, gael ei ad-dalu os bydd o’r farn:

(i)    nad ydych wedi cydymffurfio ag unrhyw un o'r telerau ac amodau 
(ii)    nad ydych wedi cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gan y Gymuned Ewropeaidd sy'n berthnasol i chi neu'r Prosiect;
(iii)    eich bod wedi methu â chymryd camau digonol i ymchwilio i unrhyw afreoleidd-dra y byddwch yn cael gwybod amdano, ac i’w ddatrys.

d)    Os bydd gormod o grant yn cael ei dalu, rhaid i’r swm hwnnw gael ei ad-dalu i roddwr y grant pan fyddwn yn gwneud cais i’r perwyl hwnnw, neu pan fyddwch yn sylweddoli bod gormod o grant wedi ei dalu, pa un bynnag a fydd yn digwydd gyntaf.

e)    Bydd rhoddwr y grant yn gwneud pob ymdrech i dalu hawliadau yn brydlon ond nid yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd am golledion a fydd i’w priodoli i oedi wrth dalu hawliadau nac am golledion a fydd yn ganlyniad i'r ffaith i'r grant gael ei atal, ei leihau neu ei ddileu.

5. Cyfrifyddu a chadw cofnodion

a)    Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd gydymffurfio ag Erthygl 7 o Reoliad 1306/2013 EC sy'n darparu bod trefniadau gweinyddu a systemau rheoli mewnol yn cael eu cynnal, a chydymffurfio hefyd ag Erthygl 125 (4) (b) o heoliad 1303/2013 EC sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd gynnal naill ai system gyfrifyddu ar wahân neu god cyfrifyddu digonol ar gyfer yr holl drafodion sy'n gysylltiedig â'r gweithrediad.

b)    Rhaid i’r cais gydymffurfio ag Erthygl 140 o Reoliad 1303/2013 EC sy'n datgan bod yr holl ddogfennau ategol sy'n ymwneud â gweithgareddau a gwariant a gefnogir gan y grant, ar gael i ni, i’r Comisiwn Ewropeaidd ac i Lys Archwilwyr Ewrop. Rhaid i’r ymgeisydd sicrhau bod yr holl ddogfennau ategol, gan gynnwys dogfennau electronig o fewn ystyr rheolau’r gymuned, yn cael eu cadw mewn fformat derbyniol. Mae dogfennau'n cynnwys cofnodion am allbynnau a chanlyniadau. 

c)    Rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio hefyd â rheoliad 9 o Raglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) sy'n nodi’r gofynion domestig mewn perthynas â chadw dogfennau. Dylid cadw dogfennau gwreiddiol sy’n ymwneud â rhoi’r Prosiect ar waith a’i ariannu, at ddibenion archwilio, am o leiaf saith mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau'r prosiect fel y'i nodir yn y llythyr cymeradwyo grant hwn.

6. Archwilio

a)    Os bydd rhoddwr y grant yn gofyn iddynt wneud hynny, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno copïau o gyfrifon blynyddol wedi’u harchwilio ymhen 6 mis i ddiwedd eu blwyddyn ariannol. Rhaid i’r nodiadau i’r cyfrifon restru’r derbyniadau grant yn benodol.

b)    Bydd methu â chyflwyno ffurflen hawlio, ar amser, yn arwain at beidio â thalu grant. Rhaid cyflwyno hawliadau terfynol erbyn dyddiad diwedd y contract.

7. Monitro'r prosiect


a)    Bydd cynnydd y prosiect yn cael ei fonitro yn erbyn y targedau yn y Contract. Bydd yn ofynnol ichi gyflwyno adroddiadau ar y cynnydd a wneir yn unol â'r targedau hyn. Fodd bynnag, rhaid ichi gydymffurfio â’r dyddiadau cau y byddwn yn eu gosod pan ofynnir am unrhyw wybodaeth, ar ba ffurf bynnag, am gynnydd ar y Prosiect.

b)    Bydd gwybodaeth a gesglir drwy gyfrwng ymweliadau swyddogol, gan gynnwys, mewn rhai achosion, gyfrifon wedi’u harchwilio, yn cael ei defnyddio hefyd i wirio cynnydd ar y prosiect.  Os bydd tuedd negyddol neu anghysondeb yn datblygu ar gyfer prosiect penodol, bydd rhoddwr y grant yn ymchwilio i’r rheswm dros hynny ac yn gweithredu os bydd hynny'n briodol. Os bydd y sefyllfa'n ddigon difrifol, gall hynny gynnwys atal taliadau grant a/neu adennill y grant.

8. Hawliau archwilio a dogfennau

a)    Wrth i brosiect gael ei asesu’n barhaus, mae’n bosibl y bernir y bydd angen ymweld â safle’r prosiect i’w arolygu ac i weld beth yw statws y prosiect o’i gymharu â’r wybodaeth a fydd wedi'i rhoi, neu i archwilio cofnodion i’r un perwyl, neu i weld  a oes cymorth ariannol yn daladwy neu'n adenilladwy ai peidio, ac os oes, swm y cymorth hwnnw.

b)    Heb leihau effaith unrhyw ddarpariaeth arall yn y Contract hwn, mae gan roddwr y grant, Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, y Comisiwn Archwilio, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, y Comisiwn Ewropeaidd a Llys Archwilwyr Ewrop neu eu cynrychiolwyr, yr hawliau a ganlyn:

•    yr hawl i arolygu’r prosiect a'i gwneud yn ofynnol i'r cyfryw wybodaeth bellach am y prosiect ag y gwelant yn dda gael ei chyflwyno iddynt;

•    yr hawl i gael y dogfennau gwreiddiol sy’n gysylltiedig â'r prosiect, gan gynnwys y cyfrifon gwreiddiol os gwneir cais i’r perwyl hwnnw.

c)    Rhaid ichi gadw cofnodion llawn ar ffurf y cytunir arni gyda rhoddwr y grant er mwyn darparu trywydd archwilio digonol.  Rhaid ichi gadw'r dogfennau hyn am o leiaf saith mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y Contract, fel y'i nodir yn y Contract.

d)    Os ydych yn bwriadu hawlio grant ar gyfer gwariant cymwys a wneir gan eraill a fydd yn gweithredu ar eich rhan, rhaid ichi sicrhau bod gennych gytundeb â hwy sy'n eich rhwymo mewn cyfraith ac sy’n pennu yn union pa wybodaeth sydd i’w darparu a phryd.  Rhaid ichi sicrhau bod gan y rheini sy’n gweithredu ar eich rhan y dystiolaeth ddogfennol wreiddiol i gefnogi’r holl daliadau a wnânt ar eich rhan ac yr ydych yn dymuno hawlio grant ar eu cyfer.

9. Dyddiad diwedd y contract

a)    Rhaid i'r ymgeisydd fod wedi cwblhau'r holl waith ffisegol, cwblhau'r holl wariant ariannol perthnasol, cyflwyno pob hawliad i Lywodraeth Cymru cyn dyddiad diwedd y contract neu erbyn 30 Mehefin 2023 pa un bynnag yw'r cynharaf.

10. Cadw grant yn ol a/neu ad-dalu grant

a)    Rhaid i roddwr y grant gadw grant yn ôl a/neu, os bydd taliad wedi cael ei wneud, bydd yn rhaid i’r ymgeisydd ad-dalu’r grant yn llawn neu'n rhannol os gwneir cais i'r perwyl hwnnw:-

(i)    os bydd gwiriad mewnol/domestig gan roddwr y grant, Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, archwilwyr a benodwyd gan y Comisiwn Archwilio, y Comisiwn Ewropeaidd neu’r Llys Archwilwyr yn canfod amgylchiadau lle y bydd yn briodol dad-ymrwymo'r grant yn llawn neu'n rhannol neu os bydd y Comisiwn mewn rhyw fodd arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r grant gael ei gadw yn ôl, ei leihau, ei ganslo neu ei adennill;

(ii)    os bydd rhoddwr y grant a/neu Lywodraeth Cymru yn ystyried bod y cymorth yn torri rheolau Cymorth Gwladwriaethol y Gymuned Ewropeaidd neu os bydd Awdurdodau’r Gymuned Ewropeaidd o’r farn na ddylid fod wedi talu unrhyw grant a fydd wedi’i dalu; neu os bydd penderfyniad yn Llys Cyfiawnder Ewrop yn golygu bod yn rhaid cadw taliad yn ôl, ei leihau, ei ganslo neu ei adennill;

(iii)    os gordalwyd grant;

(iv)    os na ddefnyddir y grant at ddibenion y Prosiect;

(v)    os bydd ffactor y cyfrifwyd y grant gwreiddiol ar ei sail wedi newid;

(vi)    os oes gan roddwr y grant sail resymol i gredu bod dyfodol y Prosiect mewn perygl;

(vii)    os ceir bod gwybodaeth a ddarparwyd yn y cais am grant neu mewn gohebiaeth ar ôl hynny neu mewn gohebiaeth i gefnogi’r cais, yn anghywir, yn gamarweiniol neu’n anghyflawn;

(viii)    bod cynnydd anfoddhaol tuag at gwblhau’r Prosiect;

(ix)    os yw’r cynnydd tuag at gyrraedd y targedau disgwyliedig, y manylir arnynt yn y Proffil Targedau, yn anfoddhaol.

11. Hawliadau a chosbau anghywir

a)    Mae'r ymgeisydd yn gyfrifol am gyflwyno hawliadau cywir; a hynny dim ond ar gyfer gwariant wedi'i dalu (mae'r arian wedi mynd o'ch cyfrif banc); bod yr holl eitemau a chostau yn gymwys a bod yr hawliad ar amser.

b)    Os yw'r hawliad yn anghywir, bydd eich hawliad yn cael ei leihau i'r swm sy'n gymwys a bydd y grant sydd i'w dalu yn cael ei gyfrifo yn unol â hynny. Fodd bynnag, os yw'r gwall yn fwy na 10% o'r cyfanswm a hawliwyd, yna bydd cosb ariannol yn cael ei rhoi ar waith.

c)    O dan rai amgylchiadau, gellir cynyddu'r gosb a gellid adennill yr holl grant a dalwyd hyd yma. Os bydd hynny'n digwydd, ni fyddwch yn gallu cyflwyno cais o dan y cynllun yng ngweddill y flwyddyn EAFRD bresennol neu ar gyfer y flwyddyn EAFRD ganlynol.

12. Terfynu

a)    Bydd y cytundeb hwn yn dod i ben yn awtomatig os na fydd yr hawliad cyntaf am gymorth grant yn cael ei gyflwyno o fewn chwe mis i'r cynnig contract.

b)    Ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 12 a) mae rhoddwr y grant yn cadw’r hawl i derfynu’r cytundeb hwn ar unrhyw adeg drwy roi pedwar ar ddeg (14) o ddiwrnodau gwaith o rybudd ysgrifenedig i’r ymgeisydd. Pan roddir rhybudd, bydd y cytundeb yn cael ei derfynu ar ôl i gyfnod y rhybudd ddod i ben.

c)    Pan fo unrhyw gymorth ariannol wedi cael ei dalu, gellir, drwy wneud cais i'r perwyl hwnnw, adennill swm sy’n cyfateb i’r cyfan o’r taliad hwnnw neu unrhyw ran ohono:

(i)    os gwrthodir rhoi mynediad i safle’r prosiect neu i unrhyw gofnodion i swyddogion a awdurdodwyd gan roddwr y grant neu i'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff 8 b).

(ii)    os canfyddir bod unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gan yr ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd yn anwir neu’n gamarweiniol mewn rhyw ffordd berthnasol;

(iii)    os bydd yr ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd yn fwriadol neu drwy esgeulustod yn gyfrifol am afreoleidd-dra sylweddol wrth gyflawni’r cytundeb a thrwy dwyll, llygredd neu unrhyw weithred neu anweithred anghyfreithlon arall o eiddo’r ymgeisydd, wedi peri i Lywodraeth Cymru a/neu yr Undeb Ewropeaidd ddioddef colled ariannol;

(iv)    os bydd yr ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd wedi methu, o fewn y cyfnod a bennwyd gan roddwr y grant, â darparu unrhyw wybodaeth y bydd rhoddwr y grant wedi gofyn amdani;

(v)    os bydd newid sylweddol i natur, graddfa, costau neu amseriad y prosiect;
(vi)    os bydd gan roddwr y grant sail resymol i gredu nad oedd neu nad yw y prosiect yn cael ei gyflawni’n briodol gyda’r bwriad o fodloni amcanion y prosiect yn unol â’r hyn a nodwyd yn y ffurflen gais;

(vii)    lle bo oedi afresymol wedi digwydd neu yn digwydd gyda’r prosiect neu lle bo’n annhebygol y bydd yn cael ei gwblhau erbyn y dyddiad cwblhau a nodwyd yn y Contract a’r Proffil Cyflawni y cytunwyd arno;

(viii)    os na fydd patrwm y gwariant ond wedi’i gwblhau’n rhannol o fewn y terfynau amser a bennwyd yn y Contract ac yn y Proffil Cyflawni y cytunwyd arno;

(ix)    os bydd gwiriad domestig gan roddwr y grant, Archwilydd Cyffredinol Cymru, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, archwilwyr a benodwyd gan y Comisiwn Archwilio, y Comisiwn Ewropeaidd neu’r Llys Archwilwyr yn canfod amgylchiadau lle y bo'n briodol dad-ymrwymo'r grant llawn neu ran ohono neu os bydd y Comisiwn mewn rhyw fodd arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r cymorth EAFRD gael ei gadw'n ôl, ei leihau, ei ganslo neu ei adennill.

(x)    os bydd rhoddwr y grant yn ystyried bod y cymorth yn torri rheolau Cymorth Gwladwriaethol y Gymuned Ewropeaidd neu os bydd Awdurdodau’r Gymuned Ewropeaidd o’r farn na ddylid fod wedi talu unrhyw grant a dalwyd; neu os bydd penderfyniad yn Llys Cyfiawnder Ewrop yn golygu bod yn rhaid cadw taliad yn ôl, ei leihau, ei ganslo neu ei adennill.

(xi)    os bydd y Prosiect, yn ystod ei oes economaidd, yn cael ei newid yn sylweddol, a ddiffinnir fel cael ei ddefnyddio at ddibenion heblaw y rheini a bennir yn y cais neu bod y perchennog yn newid. Yr oes economaidd yw’r cyfnod hyd at daliad olaf y grant neu gyflawni’r targedau olaf o blith y rhai a enwir yn y Proffil Cyflawni neu 5 mlynedd oddi ar ddyddiad gorffen y prosiect pa un bynnag sydd hwyraf;

(xii)    os bydd unrhyw un neu rai o’r pethau isod yn digwydd o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar ddyddiad y Contract hwn ac yn ystod oes economaidd y Prosiect, a rhaid rhoi gwybod i roddwr y grant amdanynt cyn gynted ag y bo modd:

(xiii)    bod yr ymgeisydd yn peidio â bod yn is-gwmni i unrhyw gwmni y mae’n is-gwmni iddo ar ddyddiad y Contract hwn neu fod yr ymgeisydd yn mynd yn is-gwmni i unrhyw gwmni nad yw’n is-gwmni iddo ar ddyddiad y Contract hwn. Dehonglir y gair “is-gwmni” yn unol â’r diffiniad yn Adran 736 o Ddeddf Cwmnïau 1985 fel y’i hamnewidiwyd gan Adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006;

(xiv)    bod yr ymgeisydd yn destun cynnig ar gyfer trefniant gwirfoddol neu y dygwyd deiseb ar gyfer Gorchymyn Gweinyddu neu ddeiseb ar gyfer Gorchymyn Dirwyn i Ben yn ei erbyn neu ei fod yn gwneud penderfyniad i ddirwyn i ben neu yn gwneud unrhyw gyfansoddiad, trefniant, trawsgludiad neu aseiniad er budd ei gredydwyr neu yn honni gwneud hynny, neu os penodir derbynnydd neu unrhyw berson arall mewn perthynas â’i ymgymeriad neu unrhyw eiddo y mae’n berchen arno.

d)    Pan derfynir y cytundeb, rhaid i’r ymgeisydd:

(i)    ad-dalu cyn pen 28 diwrnod gwaith y cyfan neu ran o unrhyw grant a dalwyd nad yw ar ddyddiad terfynu’r cytundeb wedi cael ei wario at ddibenion cymeradwy
(ii)    cydymffurfio â darpariaethau unrhyw alwad gan roddwr y grant i’w ad-dalu.

13. Llog

Os penderfynir adennill grant, mae llog yn daladwy ar y swm hwnnw ar gyfradd o un y cant uwchlaw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr mewn perthynas â phob diwrnod o'r cyfnod a fydd yn dechrau ar y diwrnod pan fydd y cymorth ariannol wedi ei roi tan y diwrnod yr adenillir y swm. Dylech gyfeirio at reoliad 12 o Reoliadau 2016 er mwyn cael diffiniad o 'cyfradd sylfaenol Banc Lloegr'.

14. Ymchwil a gwerthuso

a)    Er mwyn mesur a yw’n effeithiol ai peidio, rhaid i bob cymorth a roddir drwy gronfeydd Ewropeaidd fod yn destun ymchwil a gwerthuso. Efallai y bydd Llywodraeth Cymru, neu gontractwyr annibynnol yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru, yn gofyn ichi gydweithredu â hwy er mwyn cynnal ymchwil o’r fath. Disgwylir ichi gydymffurfio â phob cais rhesymol o’r fath. Yn benodol, os gwneir cais i’r perwyl hwnnw, rhaid ichi roi manylion sylfaenol am y prosiect i roddwr y grant, Llywodraeth Cymru (neu’r contractwr a fydd yn cynnal yr astudiaeth).

b)    Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir yn cael ei thrin yn hollol gyfrinachol; ni fydd modd adnabod prosiectau na buddiolwyr unigol yng nghanfyddiadau astudiaethau ymchwil a gwerthuso ac ni fydd prosiectau unigol yn cael eu cymharu.

15. Rhestr asedu

Rhaid i’r ymgeisydd sefydlu a chynnal rhestr o’r holl asedau sefydlog a fydd yn cael eu prynu, eu hadeiladu neu eu gwella yn llwyr neu'n rhannol gan ddefnyddio’r grant. Diffinnir ased fel eitem na fydd y cwbl ohoni wedi cael ei ddefnyddio ymhen 12 mis ac na fwriedir ei gwerthu cyn diwedd ei hoes fuddiol. Gellir hepgor asedau sy’n werth llai na £10,000.

Dylai’r rhestr ddangos:

  • dyddiad cyhoeddi;
  • disgrifiad o’r ased;
  • y pris a dalwyd heb gynnwys TAW adenilladwy;
  • swm y grant a dalwyd;
  • lleoliad gweithredoedd yr eiddo;
  • rhifau cyfres neu adnabod;
  • lleoliad yr ased;
  • y dyddiad gwaredu; ac
  • enillion y gwerthiant heb gynnwys TAW.

Ni chaniateir gwaredu, trosglwyddo na gwastraffu unrhyw offer a/neu ased a brynir gyda chymorth y grant cyn pen 5 mlynedd i Ddyddiad Cwblhau'r Contract heb i roddwr y grant roi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.

16. Gwariant anghymwys

Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ar wariant anghymwys yn unol â’r manylion yn y nodyn perthnasol yn Nodiadau Cyfarwyddyd y Cynllun.

17. Amodau arbennig

Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd gydymffurfio ag unrhyw amodau arbennig a restrir isod; heblaw hynny, nid oes unrhyw amodau arbennig yn gymwys.

Rhaid i noddwr y prosiect benodi gwerthuswr allanol annibynnol o fewn chwe mis i Ddyddiad Dechrau'r Prosiect.  Rhaid i'r gwerthusiad fod yn asesiad annibynnol o effaith a chanlyniad y prosiect yn enwedig effeithiolrwydd y ddarpariaeth a'r effeithiau ehangach a gyflawnwyd. Rhaid cyflwyno adroddiadau gwerthuso ar adegau allweddol wrth gyflawni prosiectau, gall hyn fod yn flynyddol ar gyfer prosiectau o dair blynedd yn fwy. Bydd adroddiadau gwerthuso yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a rhaid i noddwr y prosiect fod â pherchnogaeth hawlfraint o'r adroddiad neu'r adroddiadau a rhaid iddynt gytuno iddynt gael eu cyhoeddi.

18. Gofynion y CE

Rhoddir isod grynodeb o reoliadau, rheolau a chyfarwyddebau’r Comisiwn Ewropeaidd sy'n gymwys i’r grant hwn. Mae'n bosibl y cânt eu diwygio o bryd i’w gilydd. Dylai’r ymgeisydd geisio ei gymorth cyfreithiol ei hun mewn perthynas â hwy.

Rheoliadau datblygu gwledig Ewrop

  • Rheoliad y Comisiwn 1303/2013 – darpariaethau cyffredin ar gyfer y Cronfeydd strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd
  • Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1306/2013 dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar ariannu’r polisi amaethyddol cyffredin
  • Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1305/2013 dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD)
  • Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 809/2014 dyddiedig 17 Gorffennaf 2014 yn pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor 1306/2013
  • Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2014 dyddiedig 17 Gorffennaf 2014 yn pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor 1305-2013
  • Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1998/2006 dyddiedig 15 Rhagfyr 2006 ar ddefnyddio  Erthyglau 87 ac 88 o'r Cytuniad ar gyfer cymorth de minimis

Rheolau cymorth gwladwriaethol y gymuned Ewropeaidd  

Egwyddorion

  • Mae gan y Comisiwn Ewropeaidd bwerau sylweddol i fonitro, i reoli ac i gyfyngu ar y mathau o gymorth ac ar lefelau’r cymorth y bydd yr holl Aelod-wladwriaethau’n ei roi i’w diwydiannau. Mae egwyddorion Cymorth Gwladwriaethol i’w gweld yn Erthyglau 107,108 a 109 o'r Cytuniad “Treaty of the Functioning of the European Union”(TFEU). Mae canllawiau manwl ar reolau Cymorth Gwladwriaethol i’w gweld yn “European Community State Aids: Guidance for all Departments and Agencies” a gyhoeddwyd gan yr Adran Masnach a Diwydiant ym mis Mawrth 2001 ac yn y gwahanol fframweithiau a chanllawiau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ar gymhwyso’r rheolau. Rhaid i’r Comisiwn gael ei hysbysu am bob Cymorth Gwladwriaethol (heblaw cymorth a ddaw o dan ddarpariaethau de minimis neu eithriad bloc – gweler isod) a rhaid i’r Comisiwn ei gymeradwyo cyn iddo gael ei weithredu, neu fel arall mae’n anghyfreithlon.
     
  • Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gadw at unrhyw gyfyngiadau sy’n berthnasol i Gymorth Gwladwriaethol. Ni thelir unrhyw grant mewn perthynas â’r prosiect hyd nes i roddwr y grant gael gwybod bod y Comisiwn wedi cymeradwyo’r prosiect o dan y weithdrefn ar gyfer hysbysu am gymorth gwladwriaethol yn unol ag Erthygl 108(3) o'r TFEU, neu hyd nes bydd rhoddwr y grant wedi dod i’r farn nad oes angen hysbysiad o’r fath. Bydd y rheini sy’n derbyn cymorth anghyfreithlon mewn perygl o orfod ad-dalu’r cymorth ynghyd â llog os canfyddir bod y prosiect wedi torri rheolau Cymorth Gwladwriaethol ac mae perygl hefyd y bydd trydydd partïon yn mynd i gyfraith i gael iawndal. Os oes gennych unrhyw amheuon, cysylltwch â Llywodraeth Cymru.

Hysbysiad

  • Os bydd Prosiect yn defnyddio gwariant cyhoeddus (gan gynnwys cyllid datblygu gwledig) yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol er mwyn darparu buddion a gymorthdelir i’r sector preifat, e.e. grantiau i gwmnïau ar gyfer buddsoddi, hyfforddi a gwasanaethau ymgynghori i fusnesau am gost is, bydd yn rhaid i’r cymorth a ddarperir i’r prosiect gydymffurfio â rheolau Cymorth Gwladwriaethol fel arfer.
     
  • Dyfernir y grant hwn yn unol â’r mesurau Cymorth Gwladwriaethol a ddisgrifir yn y nodyn perthnasol yn Nodiadau Cyfarwyddyd y Cynllun.

19. Gofynion cyhoeddusrwydd

Datgyniadau i'r wasg a chyhoeddusrwydd i weithgarwch prosiectau

(i)    Yn unol ag Erthygl 115 ac Atodiad XII i Reoliad y Cyngor 1303/2013, rhaid i’r  Ymgeisydd, pan fydd yn ymgymryd â chyhoeddusrwydd ar gyfer y prosiect hwn, gydnabod y cymorth y mae’r Undeb Ewropeaidd yn ei roi drwy Weinidogion Cymru. Dylai cyhoeddusrwydd o’r fath gyfeirio at Lywodraeth Cymru.

(ii)    At y dibenion hyn, bydd cyhoeddusrwydd yn cynnwys; cyhoeddiadau ffurfiol ac anffurfiol; llyfrynnau, pamffledi, taflenni a phob deunydd printiedig arall; hysbysebion recriwtio ar gyfer swyddi; erthyglau yn y wasg ac mewn cyfnodolion a datganiadau i’r wasg, cyfweliadau ar y cyfryngau (teledu a radio) a digwyddiadau lansio ac agoriadau swyddogol.

(iii)    Os penderfynwch dderbyn y cynnig hwn, fel y mae wedi'i gynnwys yn y llythyr hwn, mae’n bosibl y bydd Tîm Cyfathrebu Llywodraeth Cymru yn cysylltu â chi i drafod y gofyniad hwn o ran cyhoeddusrwydd. Os byddwch yn penderfynu ymrwymo i gyhoeddusrwydd cyn i aelod o'r tîm cyfathrebu gael cyfle i gysylltu â chi, cysylltwch â Ruralnetwork@llyw.cymru yn y lle cyntaf, i drafod eich cynigion.

(iv)    Hefyd, rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith bod yr Undeb Ewropeaidd, drwy Weinidogion Cymru, yn cyllido'ch prosiect yn rhannol.  Dylai’r cyhoeddusrwydd hwn sicrhau bod buddiolwyr yn gwbl ymwybodol bod y prosiect y byddant yn cymryd rhan ynddo wedi cael ei ariannu’n rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd, a’ch bod yn codi ymwybyddiaeth am y cyllid a gafwyd oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd ymhlith darpar fuddiolwyr a’r cyhoedd.

(v)    Rhaid i hyn gynnwys o leiaf logo Llywodraeth Cymru; logo’r Undeb Ewropeaidd a’r geiriad a ganlyn:

Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu
Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn
Ardaloedd Gwledig
Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu
Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig
 

20. Cyhoeddi gwybodaeth am grantiau a ddyfernir

Yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1303/2013, rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi manylion y buddiolwyr sy'n derbyn taliadau Datblygu Gwledig, gan gynnwys manylion y taliadau hynny, o leiaf bob chwe mis. Dyma'r manylion a gyhoeddir:

  • Enw cyntaf a chyfenw’r buddiolwr neu enw’r cwmni, y bartneriaeth neu’r sefydliad sy'n fuddiolwr;
  • Enw’r dref neu’r ddinas a 3 neu 4 nod cyntaf y Cod Post lle mae’r buddiolwr yn byw e.e. Caerdydd CF10;
  • Swm y cyllid, gan gynnwys cyfraniad Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, a gafwyd yn ystod y flwyddyn ariannol.

Cyhoeddir yr wybodaeth hon erbyn 30 Ebrill bob blwyddyn ac yn flynyddol ar y dyddiad hwn wedi hynny yn Defra, UK - Chwiliad Taliadau PAC.

Bydd pob cais a wneir i Lywodraeth Cymru ddatgelu gwybodaeth (gan gynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol i’r cais hwn am grant neu’r dyfarniad hwn) yn cael ei ystyried yn unol â Chod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth (‘y Cod’) ac â rhwymedigaethau statudol Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018. Mae’r Cod yn adlewyrchu agwedd Llywodraeth Cymru at lywodraeth agored ac yn rhoi arweiniad ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i geisiadau am wybodaeth gan aelodau o’r cyhoedd, boed y ceisiadau hynny’n dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol neu’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018.

21. Gofynion o ran tendro cystadleuol a chaffael

(i)    Rhaid i noddwyr prosiectau ddangos eu bod wedi defnyddio arferion teg ac agored drwy ddefnyddio ymarfer tendro cystadleuol ar gyfer yr holl nwyddau neu wasanaethau sydd wedi'u cynnwys yn y prosiect y maent yn bwriadu hawlio cymorth grant ar ei gyfer. Gellir adennill y grant a delir ar nwyddau neu wasanaethau yn llawn neu'n rhannol os canfyddir wedyn nad yw'r gofynion tendro cystadleuol wedi'u bodloni.

(ii)    Rhaid tendro a chaffael cystadleuol yn unol â Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Nodyn Cyfarwyddyd Technegol Tendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus. Am ragor o wybodaeth, ewch i:

Rhaglen Datblygu Gwledig / Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop 2014 i 2020: canllaw technegol i tendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus

Rhaglen Datblygu Gwledig / Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop 2014 i 2020: templed tendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus

22. Deddf diogelu data y DU: hysbysiad preifatrwydd

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y ffurflen Datgan Diddordeb a’r ceisiadau llawn yn destun Hysbysiad Preifatrwydd: Grantiau a thaliadau gwledig: hysbysiad preifatrwydd.

a)    Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd  yn esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

b)    Bydd y data personol a ddarperir yn cael eu cadw mewn cronfa ddata ac yn cael eu prosesu gan Lywodraeth Cymru er mwyn ymdrin â cheisiadau a hawliadau am gymorth o EAFRD. Mae'n bosibl y bydd yr wybodaeth a ddarperir yn cael ei rhannu ag Adrannau Llywodraeth y DU, Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth Cymru neu asiantaethau yng Nghymru at ddibenion archwilio, ymchwilio, bodloni rhwymedigaethau statudol a, lle y bo’n briodol, er mwyn atal a chanfod twyll. Ni fydd data personol yn cael eu gwneud yn gyhoeddus heb ganiatâd mewn unrhyw ffordd a fydd yn golygu y bydd modd adnabod unigolion. Bydd mathau penodol o ddata’n cael eu trosglwyddo i’r Comisiwn Ewropeaidd yn unol â Rheoliadau’r Comisiwn Ewropeaidd.

c)    Gellir trosglwyddo data hefyd i gontractwyr cymorth Llywodraeth Cymru er mwyn datrys problemau gyda systemau. Ni chaniateir i’r contractwyr hyn wneud unrhyw ddefnydd arall o’r data hynny.

d)    Os bydd unrhyw berson y cedwir data amdano yn dymuno gofyn am fanylion eu data personol sy’n cael eu cadw yng nghronfa ddata ganolog Llywodraeth Cymru, gall gysylltu â’r Uned Rheoli Cynlluniau drwy RPW Ar-lein

e)    Ni fydd unrhyw beth yn y llythyr cynnig hwn yn diystyru darpariaethau Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data DU.