Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad: Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiadau i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gan cymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y 3 blynedd nesaf drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau – gan gynnwys y Cynllun Datblygu Garddwriaeth - yn cyflawni tuag at y themâu canlynol:

  • Rheoli tir ar raddfa fferm
  • Gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd
  • Effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • Rheoli tir ar raddfa tirwedd
  • Coetiroedd a choedwigaeth
  • Cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi camau gweithredu mewn ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd sydd ar gael dros y 3 blynedd nesaf, a llywio datblygiad parhaus y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn: Rhwydwaith Gwledig Cymru

Adran A – Cyflwyniad

Mae'r Nodiadau Cyfarwyddyd hyn yn esbonio'r Cynllun Datblygu Garddwriaeth a'r math o brosiectau a allai fod yn gymwys am gymorth grant. Darllenwch nhw'n ofalus. Os byddwch yn credu wedyn y gallai eich cynlluniau buddsoddi fod yn gymwys am gymorth o dan y cynllun hwn, gweler 'Sut i Wneud Cais' yn adran C a'r llyfryn Sut i Gwblhau.

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 5 Rhagfyr 2022 ac yn cau ar 10 Mawrth 2023.

Y dyraniad cyllideb dangosol ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn yw £1.0m.

Mae'r cynllun Datblygu Garddwriaeth yn gynllun grant Cyfalaf sydd ar gael i gynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol ledled Cymru. Nod y cynllun yw:

  • Cynorthwyo cynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol i ddatblygu eu busnesau drwy fuddsoddi mewn cyfarpar a thechnoleg newydd sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r busnes garddwriaethol.
  • Galluogi busnesau garddwriaethol i ehangu cynhyrchiant yn gynaliadwy, arallgyfeirio i dyfu cnydau newydd, gwella effeithlonrwydd cynhyrchu a gwella ansawdd y cynnyrch.
  • Galluogi cynhyrchwyr garddwriaethol i fynd i farchnadoedd newydd. Cynyddu cyflogaeth leol a chefnogi'r economi wledig fel rhan o'r adferiad gwyrdd o Covid-19.

Mae'r cynllun yn ddewisol. Byddai swm y grant a gynigir yn ymwneud ag amgylchiadau unigol, a bydd pob swm yn isafswm angenrheidiol i ganiatáu i'r buddsoddiadau fynd rhagddynt.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Adran B – Pwy sy’n gymwys am y grant Datblygu Garddwriaeth

Rydych yn gymwys i wneud cais os:

  • Ydych wedi wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). Darllenwch y canllawiau ar sut i gofrestru ar wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.
  • Os ydych chi'n gynhyrchydd cnydau garddwriaethol masnachol ar hyn o bryd.

Fel rhan o'r cais, bydd gofyn i chi ddangos eich bod yn cynhyrchu cnydau garddwriaethol masnachol. (Ystyrir ffrwythau a llysiau bwytadwy, planhigion addurnol, blodau a meithrinfeydd coed).

Dylai tystiolaeth gynnwys:

  1. Tystiolaeth yn eich cyfrifon masnachu a gyflwynwyd sy'n dangos gwerthiant cynnyrch garddwriaethol yn glir,
  2.  a/neu gopïau o anfonebau / derbynebau priodol ar gyfer y cynnyrch,
  3. a/neu dystiolaeth eich bod wedi tyfu a chynaeafu cnwd garddwriaethol masnachol sydd wedi’i storio neu ei brosesu cyn ei werthu (e.e. rydych wedi tyfu a chynaeafu grawnwin a;u troi’n win a’ch bod yn ei storio cyn ei werthu),
  4. a/neu dystiolaeth eich bod yn tyfu cnwd garddwriaethol masnachol sy’n gnwd sy’n tyfu’n araf ac nad yw eto wedi aeddfedu/ar gael i’w gynaeafu e.e. perllannau, gwinllannoedd a ffrwythau meddal.

Mae'r cynllun yn agored i ystod eang o fusnesau sy'n ymwneud â chynhyrchu cynnyrch garddwriaethol, megis:

  • Busnes fferm gan gynnwys unig fasnachwyr
  • Cwmnïau cydweithredol
  • Sefydliadau'r sector gwirfoddol
  • Cwmnïau cyfyngedig preifat a chyhoeddus

Pa Grwpiau sy’n gymwys

Gall grŵp o Gynhyrchwyr Garddwriaeth Fasnachol gyflwyno cais ar gyfer y cynllun Datblygu Garddwriaeth. I wneud hynny, mae'n rhaid i bawb sy'n rhan o'r grŵp fodloni'r holl amodau cymhwystra uchod. Yn ogystal, rhaid i'r grŵp fod wedi'i gofrestru gyda Llywodraeth Cymru a bod â Chyfeirnod Cwsmer ar gyfer y grŵp. Rhaid cyflwyno'r cais o dan y Cyfeirnod Cwsmer fel y'i cyhoeddwyd ar gyfer y grŵp.

Os yw dau neu fwy o ddaliadau amaethyddol yn cael eu rheoli fel un uned, neu yn eiddo i un perchennog neu i ryw raddau yn cael eu rheoli ar y cyd, yn rhannu cyfrifon ariannol neu â’r un da byw, peiriannau a/neu storfeydd bwyd, bernir eu bod yn un busnes.

Costau Cymwys

Mae enghreifftiau o gostau cyfalaf cymwys wedi'u nodi isod, ond dylid cofio nad yw hon yn rhestr ddiffiniol, a bydd pob un o'r eitemau gwariant yn cael eu hystyried fesul achos:

  • Cyfarpar tyfu
  • Peiriant creu gwelyau
  • Driliau hadau trachywir, planwyr
  • Cyfarpar taenu maethynnau trachywir
  • Cyfarpar lluosogi
  • Cyfarpar potio awtomatig / lled-awtomatig
  • Cyfarpar chwynnu mecanyddol
  • Cynaeafwyr
  • Systemau storio a chludo
  • Cyfarpar cynaeafu a storio dŵr
  • Cyfarpar a/neu reolyddion dyfrhau
  • Twnelau polythen a thai gwydr (yn amodol ar gynllunio)
  • Cynfasau rheoli plâu
  • Systemau a rheolyddion ffermio fertigol
  • Acwaponeg/hydroponeg
  • Systemau storio amgylchedd rheoledig
  • Cyfarpar i gynhyrchu compost
  • Cyfarpar GPS
  • Technoleg ar gyfer awtomeiddio a defnyddio roboteg
  • Porth a synwyryddion LoRaWAN IoTar gyfer monitro cnydau
  • Gorsaf dywydd ddigidol
  • Buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy (cyn belled â bod yr ynni’n cael ei ddefnyddio’n bennaf at ddiben y fenter arddwriaethol)

Os oes gennych gwestiynau neu am gadarnhau a yw prosiect yn gymwys cyn paratoi cais, holwch Horticulture@gov.wales

Mae cyfarpar ail-law yn gymwys os yw'r ymgeisydd yn gallu dangos y canlynol:

  • mae'n cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol
  • mae'n addas i'r diben
  • y bydd yn debygol o bara pum mlynedd arall o leiaf

Costau Anghymwys

Mae'r eitemau canlynol yn enghreifftiau o wariant nad ydynt yn gymwys am gymorth grant. Nid yw hon yn rhestr ddiffiniol, a bydd pob un o'r eitemau gwariant yn cael eu hystyried fesul achos:

  • buddsoddi i brynu eitemau i gymryd lle rhai a brynwyd gydag arian cyhoeddus, fel cymorth grant yr UE neu Lywodraeth Cymru (ar gyfer yr un busnes fferm)
  • gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu cynnyrch amaethyddol cynradd nad ydynt yn cael eu cynnal gan y cynhyrchydd cynradd e.e. contractio neu lesio amaethyddol.
  • prynu eitemau newydd o dan hawliad yswiriant
  • cyfarpar pecynnu a phrosesu
  • prynu tir
  • prynu adeiladau parhaol
  • adnewyddu adeiladau
  • adeiladau dros dro at ddefnydd manwerthu
  • prynu cerbydau, gan gynnwys tractorau;
  • costau refeniw megis cyflogau staff
  • costau ceisiadau cynllunio
  • nwyddau traul (eitemau sydd fel arfer yn cael eu dileu o fewn blwyddyn)
  • cyfarpar a dodrefn swyddfa cyffredinol
  • costau cynnal a chadw
  • buddsoddi mewn eitemau cyfalaf sydd â chapasiti sy'n fwy na gofynion y fenter arddwriaethol e.e. ni fyddai peiriant trin y tir fyddai’n cael ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer cnydau âr confensiynol yn gymwys.

Dim ond pan fydd yr hawliwr wedi talu'r gost yn gywir y mae costau sy'n gysylltiedig â phrynu cyfarpar yn gymwys. Felly, nid yw costau llawn unrhyw gyfarpar a sicrhawyd o dan gytundeb hurbwrcas neu les neu unrhyw fath arall o drefniant ariannol yn gymwys am gymorth grant.

Cyfradd Uchaf a Throthwy Uchaf y Grant

Y grant mwyaf y gellir ei roi i chi yw £50,000 a’r grant lleiaf yw £3,000.

Mae’r grant yn cyfrannu hyd at 40% o werth y buddsoddiad cyfalaf mewn cyfarpar a pheiriannau (heb gynnwys TAW). Gellir profi y daw’r buddsoddiad â mantais amlwg a mesuradwy i’r fenter arddwriaethol.

Gallwch wneud cais am swm sy'n fwy na'r grant uchaf, ond os yw'n cael ei ddewis, ni chaiff y grant fod yn fwy na’r uchafswm o £50,000.

Dewis Prosiectau Llwyddiannus

Asesir pob achos ar sail ei werth posibl i'r economi wledig, i ba raddau y bydd y buddsoddiad yn datblygu'r sector dan sylw a'r potensial ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor y farchnad a/neu’r busnes.

Gofynion Allweddol

Bydd y Contract ar gyfer y prosiect yn para am hyd at 12 mis.

Ni fyddai'r Prosiect yn gallu mynd yn ei flaen heb y grant.

Rhaid prynu’r holl eitemau yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru. Gweler Adran E am ragor o fanylion.

Sicrhewch fod yr holl fuddsoddiadau wedi’u cwblhau pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad.

Sicrhewch fod yr holl fuddsoddiadau ar y safle pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad.

Rhaid i’ch cais ddangos hefyd eich bod wedi mynd i’r afael â’r canlynol.

Caniatâd Cynllunio 

Os oes angen caniatâd cynllunio ar eich buddsoddiad e.e. tŷ gwydr neu dwnelau polythene, ni chaiff grant ei dalu nes bod dogfennau caniatâd cynllunio wedi'u cyflwyno a bod Llywodraeth Cymru wedi’u dilysu.

Os yw'r awdurdod cynllunio wedi penderfynu nad oes angen caniatâd cynllunio ar y prosiect, bydd angen tystiolaeth gan yr awdurdod cynllunio i gadarnhau hyn.

Cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB)

Os oes angen cymeradwyaeth SAB ar eich buddsoddiad, ni chaiff grant ei dalu nes bod dogfennau cymeradwyo SAB wedi'u cyflwyno a bod Llywodraeth Cymru wedi’u dilysu.

I weld beth sydd angen cymeradwyaeth SAB arno ac i gael gwybodaeth fanylachy, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yn: Systemau draenio cynaliadwy (SuDS): canllawiau | LLYW.CYMRU

Os yw'r SAB lleol yn penderfynu nad oes angen iddo gymeradwyo’r prosiect, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth gan y SAB i gadarnhau hyn.  Er bod cymeradwyaeth SAB yn annibynnol ar ganiatâd cynllunio, bydd y dystiolaeth a gyflwynir gennych yn cael ei hasesu gan y tîm gwerthuso mewn modd sy'n gyson â'i brosesau ar gyfer delio â chaniatâd cynllunio.

Er efallai nad oes angen caniatâd cynllunio awdurdod cynllunio lleol ar gais adeiladu (er enghraifft, datblygiadau a ganiateir sy'n llai na 100 metr sgwâr), mae’n bosibl y bydd angen cymeradwyaeth SAB arno os yw’n effeithio ar y system ddraenio. Felly, ni ddylid cymryd yn ganiataol am nad oes angen caniatâd cynllunio, nad oes angen cymeradwyaeth SAB.

  • ym mhob cyd-destun arall, rydych wedi cael pob caniatâd, trwydded neu gydsyniad sydd ei angen.
  • rhaid i fusnesau sy'n bodoli'n barod gadarnhau hyfywedd economaidd y prosiect a’r busnes, drwy ddarparu cyfrifon ar gyfer y tair blynedd cyn dyddiad y cais, a rhagolygon ariannol ar gyfer cyfnod y prosiect
  • Rydych wedi bodloni’r safonau gofynnol a’r gofynion cyfreithiol o ran yr amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a’r holl safonau iechyd a diogelwch perthnasol. 

Adran C – Gwneud cais am y Cynllun Datblygu Garddwriaeth

Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein

Rhaid cwblhau Cais am y Cynllun Datblygu Garddwriaeth ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein.  Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, fe ddylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno ichi allu agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun – Iau 8:30am – 5.00pm, Gwener 8:30am – 4.30pm) a rhoi’ch CRN i’r cysylltydd. Caiff Cod Defnyddio newydd ei anfon atoch. 

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r canllaw sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd gwneud y rhan fwyaf o unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i fanylion eich busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen rhagor o fanylion ar Lywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth.

Ar ôl cofrestru, gallwch ddefnyddio eich cyfrif RPW Ar-lein. Mae’r cais am y Cynllun Datblygu Garddwriaeth ar gael yn adran “Ceisiadau a Hawliadau” eich cyfrif.

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd gofyn iddo gofrestru fel asiant ar RPW.  Os nad yw wedi gwneud hyn eto, dylai gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Defnyddio RPW Ar-lein ato. Hefyd, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Awdurdodi Cysylltiad ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Gweler ein canllaw sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar gyfer RPW Ar-lein, neu am lenwi’ch cais, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw’n gallu’ch cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd am help digidol.

Cewch fwy o fanylion am RPW Ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru.

Adran D: Y broses asesu dau gam

Bydd dau gam i’r broses asesu. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn cystadlu yn uniongyrchol â’i gilydd. Yng Ngham 1, caiff rhannau canlynol y cais eu hasesu a’u sgorio yn ôl y meini prawf dewis:

  • ffit strategol
  • addasrwydd y buddsoddiad
  • cynaliadwyedd hirdymor
  • gwerth am arian

Bydd y ceisiadau â’r sgoriau uchaf yn cael eu dewis yn nhrefn eu teilyngdod hyd nes bod y cyllid sydd ar gael yn y cylch hwnnw i gyd wedi’i ddyrannu.

Byddwch yn cael gwybod a yw’ch cais wedi’i ddewis ai peidio trwy’ch cyfrif RPW ar-lein. 

Os caiff eich cais ei ddewis, bydd yn symud ymlaen i Gam 2 a bydd yr adrannau canlynol yn cael eu hasesu i gynnal gwerthusiad llawn o’r cais:

  • cyflawni’r prosiect
  • Risg a Rheoli Risg
  • themâu trawsbynciol
  • dangosyddion a chanlyniadau
  • ariannol a chydymffurfio

Cyflwyno cais

Mae canllaw ar sut i gyflwyno’ch cais trwy RPW Ar-lein ar gael yn y ddolen hon.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cais wedi’i lenwi’n gywir a bod yr wybodaeth a roddir i gefnogi’ch prosiect yn gywir.

Mae’n rhaid i chi gwblhau’r cais yn llawn a darparu dogfennau cynhwysfawr i gefnogi’r cais fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu asesu’r prosiect. Cofiwch ddilyn y canllawiau er mwyn osgoi oedi posibl i’r gwerthusiad.

Fel rhan o’r cais, bydd gofyn i chi ddatgan, ar gyfer pob eitem cyfalaf, pa rai o’r meini prawf canlynol y mae’r eitem yn eu bodloni:

  • Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd Reoledig (CEA) 
  • Awtomeiddio a roboteg
  • Twnelau polythen a thai gwydr
  • Synwyryddion a monitro
  • Trin y tir a phlannu
  • Rheoli maethynnau
  • Cyfarpar effeithlonrwydd dŵr
  • Rheoli chwyn, plâu a chlefydau
  • Cynaeafu
  • Cyfarpar garddwriaethol arall

Rhaid ichi lenwi a chyflwyno’r cynlluniau a’r dogfennau canlynol:

  • Cais Ar-lein y Cynllun Datblygu Garddwriaeth
  • Cynllun busnes
  • 3 blynedd o Gyfrifon Ardystiedig os oes rhai.  (Os ydych wedi bod yn masnachu am lai na 3 blynedd, cyflwynwch gyfrifon ar gyfer y cyfnod masnachu hwnnw)
  • Rhagolygon ariannol 3 blynedd (gan gynnwys cyfnod y prosiect)
  • Tystiolaeth o gyllid sydd ar gael (benthyciad banc, gorddrafft ac ati)
  • Tri dyfynbris ar gyfer pob eitem buddsoddi (dim ond un dyfynbris ar gyfer eitemau o dan £5,000)
  • Tystiolaeth bod y busnes eisoes yn cynhyrchu cnydau garddwriaethol masnachol

Caniatâd Cynllunio a chymeradwyaeth Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS): Os oes angen caniatâd cynllunio a chymeradwyaeth SuDS ar gyfer eich buddsoddiadau, dylech gynnwys unrhyw ganiatâd cynllunio presennol, os yw ar gael. Bydd angen tystiolaeth o ganiatâd cynllunio a chymeradwyaeth SuDS cyn y gellir prosesu unrhyw gais am grant.  Byddwn yn anfon hyd at ddau nodyn atgoffa ar gyfer ceisiadau drafft trwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Gofynion y Cynllun Busnes

Dylai’r cynllun busnes ddarparu amlinelliad cyfannol o’ch busnes. Dylai’r cynllun gwmpasu’r 3 blynedd nesaf o leiaf a chynnwys y canlynol:

  • Manylion y Busnes
  • Gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael, gweithgarwch y busnes a’r system amaethu
  • Perfformiad ariannol diweddar (gan gyfeirio at gyfrifon ardystiedig/rheoli)
  • Perfformiad ffisegol ac ariannol diweddar y fenter arddwriaeth
  • Amcanion a chynigion buddsoddi ar gyfer y dyfodol
  • Gwerthuso ystyriaethau ac opsiynau’r cynigion ar gyfer y busnes a buddsoddi yn y dyfodol.

Ar gyfer menter arddwriaeth sy’n rhan o fusnes ffermio ehangach, dylai’r cynllun ymdrin â’r busnes cyfan ac egluro sut mae’r fenter arddwriaeth a’r fenter amaethyddol ehangach yn ategu ei gilydd.

Ni fydd yr asesiad yn dechrau nes bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cais a’r HOLL ddogfennau ategol. Gallwch ddarparu tystiolaeth a dogfennau eraill yn ogystal â’r uchod er mwyn cefnogi’ch cais.

Cam 1 – Eich Asesu ar gyfer eich Dewis

Ar gyfer gwerthusiad cam 1 o’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth, caiff pob cais ei asesu yn ôl set o feini prawf a’i sgorio gan ddefnyddio graddfa 0 i 4, a lluosir y sgôr hon wedyn â’r ffactor pwysoli i roi sgôr derfynol.

Caiff y ceisiadau eu rhoi yn nhrefn eu teilyngdod. Caiff y prosiectau eu dewis yn eu trefn tan na fydd arian ar ôl neu tan y byddwn wedi cyrraedd uchafswm nifer y ceisiadau. Ni allwn warantu y caiff yr holl arian ei neilltuo, na chwaith y caiff uchafswm nifer y prosiectau eu dewis ar gyfer cam 2 y broses.

Dyma’r meini prawf ar gyfer dewis.

Yr Adran Cynllun Prosiect/Busnes i’w asesu Sgôr Ffactor pwysoli
Ffit Strategol

0 - 4

x 4

Addasrwydd y buddsoddiad

0 – 4

x 5

Cynaliadwyedd hirdymor

0 – 4

x 2

Gwerth am arian

0 – 4

x 3

Ni chaiff yr un cais fynd yn ei flaen heb gael sgôr o 30 o leiaf.

Byddai sgôr o 1 neu 0 mewn unrhyw faen prawf yn golygu na chaiff y cais fynd yn ei flaen i gael ei ystyried yng ngham 2 y broses.

Ar gyfer pob maen prawf, bydd yr asesiad yn seiliedig ar yr wybodaeth a’r esboniadau y byddwn wedi’u cael.

Bydd sgôr uwch yn cael ei rhoi am esboniadau llawn, gydag enghreifftiau o weithgareddau a gynigir a sut y rheolir y gweithgareddau hynny.

Rhoddir sgôr is am esboniadau sydd fawr gwell na datganiad syml o fwriad, er enghraifft “byddwn yn cynnal cyfarfodydd â rhanddeiliaid yn rheolaidd gydol y prosiect”.

Cwestiynau a meini prawf asesu Cam 1:

Ffit Strategol

Er mwyn i brosiect fodloni Ffit Strategol y cynllun, bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut y bydd y buddsoddiad arfaethedig yn cyfrannu at nodau ac amcanion strategol y cynllun a dangos pam mae angen y buddsoddiad. Bydd angen i chi nodi sut y bydd y buddsoddiad yn cynyddu perfformiad technegol ac ariannol y busnes a sut y bydd y buddsoddiad yn galluogi’r busnes i gynhyrchu fwy mewn ffordd gynaliadwy.

Bydd angen i brosiectau ddangos eu lefel o arloesedd a sut y maent yn defnyddio dulliau arloesol. Gallent fod yn ddulliau newydd sy’n arwain at newid sylweddol yn y busnes unigol, neu gallai’r busnes fabwysiadu technoleg sy’n arwain y diwydiant.

Bydd ymgeiswyr yn cael sgôr uwch os gallant ddangos cysylltiadau clir rhwng y buddsoddiad a chynhyrchiant uwch, ac os ydynt yn esbonio sut y penderfynwyd ar y flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi.

Sgôr

 

 

4

  Rhoddir esboniad clir a thystiolaeth o sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun gan arwain at welliannau sylweddol ym mherfformiad technegol ac ariannol y busnes. Mae technoleg a dulliau arloesol yn cael eu defnyddio.

3

 

Rhoddir tystiolaeth gadarn sy’n dangos bod y buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun, gan arwain at welliannau ym mherfformiad technegol ac ariannol y busnes. Mae’r defnydd o dechnoleg a dulliau arloesol yn cynyddu yn y busnes. 

2

  Mae rhywfaint o dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun. Ceir gwelliannau ym mherfformiad technegol ac ariannol y busnes. Prin yw’r defnydd o dechnoleg a dulliau arloesol.

1

  Mae tystiolaeth sy’n cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun ac yn arwain at welliannau sylweddol ym mherfformiad technegol ac ariannol y busnes yn wan neu’n annigonol. Ni ddefnyddir unrhyw dechnoleg a dulliau arloesol.

0

  Nid oes unrhyw dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad yn bodloni amcanion y cynllun.

Addasrwydd y buddsoddiad

Mae defnyddio adnoddau yn effeithlon yn hollbwysig er mwyn helpu i sicrhau economi Lesiant, yn ogystal â lleihau allyriadau. Er mwyn sicrhau bod prosiect yn bodloni’r meini prawf hyn, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos effaith eu cynlluniau ar yr amgylchedd ac ar y newid yn yr hinsawdd. Bydd ceisiadau sy’n dangos bod y buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer yn cael sgôr uwch na’r rhai nad ydynt yn gwneud hynny.

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos ymrwymiad i’r defnydd effeithlon o faethynnau, lleihau allyriadau a gwella ecosystem y fferm.  

Sgôr

 

4

Rhoddir esboniad clir, gan gynnwys tystiolaeth o sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r cais yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer. Mae tystiolaeth yn dangos bod y buddsoddiad yn gwella’r defnydd o faethynnau, yn lleihau allyriadau ac yn gwella ecosystem y fferm.

3

Mae tystiolaeth gadarn yn cael ei darparu sy’n dangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r cais yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer. Mae’r buddsoddiad yn cyfrannu at wella’r defnydd o faethynnau, lleihau allyriadau a gwella ecosystem y fferm.

2

Mae rhywfaint o dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r cais yn darparu manylion cyfyngedig o sut mae’r buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer. Mae’r buddsoddiad yn darparu cyfraniad bach at wella’r defnydd o faethynnau, lleihau allyriadau a gwella ecosystem y fferm.

1

Mae’r dystiolaeth sydd wedi’i darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd yn wan neu’n annigonol. Nid yw’r cais yn nodi sut mae’r buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer. Nid yw’r buddsoddiad yn cyfrannu at wella’r defnydd o faethynnau, lleihau allyriadau neu wella ecosystem y fferm.

0

Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi’i darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad yn ystyried yr effaith ar yr amgylchedd.

Cynaliadwyedd hirdymor

Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n ceisio darparu cyfleoedd swyddi cyflog ychwanegol, gan fod hyn yn dangos effaith economaidd ychwanegol. Bydd buddsoddiad sy’n cadw neu’n diogelu cyflogaeth bresennol yn cael ei ystyried yn ganlyniad cadarnhaol hefyd. Hefyd, gallai buddsoddiadau diogelu’r busnes at y dyfodol, gan sicrhau bod gweithgarwch yn gallu parhau mewn ymateb i bwysau’r farchnad neu bwysau amgylcheddol ar hyn o bryd neu yn y dyfodol. Dylai ymgeiswyr nodi ac esbonio sut y gellid creu a diogelu unrhyw swyddi a ragwelir.

 

Bydd prosiectau sy’n sbarduno rhagor o fuddsoddiadau, e.e. sefydlu seilwaith tyfu i hwyluso rhagor o fuddsoddi mewn gweithgarwch marchnata, pecynnu neu werth ychwanegol yn cael sgôr uwch. Os oes buddsoddiad yn rhan o gynllun buddsoddi fesul cam, mae angen nodi hynny.

Sgôr

 

4

Rhoddir esboniad clir, gan gynnwys tystiolaeth, o sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes, gan gynnwys creu swyddi newydd. Mae’r buddsoddiad yn diogelu cyflogaeth bresennol. Hefyd, bydd yr ymgeisydd yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno rhagor o ddatblygiad a buddsoddiad yn y busnes yn y tymor byr.

3

Mae tystiolaeth gadarn yn cael ei darparu sy’n dangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes, gan gynnwys creu swyddi newydd a/neu ddiogelu cyflogaeth bresennol. Hefyd, bydd yr ymgeisydd yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno rhagor o ddatblygiad a buddsoddiad yn y busnes yn y tymor canolig.

2

Mae rhywfaint o dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes. Nid yw’r prosiect yn creu swyddi newydd, ond mae’n diogelu cyflogaeth bresennol. Ceir rhywfaint o dystiolaeth i ddangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno datblygiad a buddsoddiad posibl yn y busnes yn yr hirdymor.

1

Mae’r dystiolaeth sydd wedi’i darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes yn wan neu’n annigonol. Nid yw’r prosiect yn creu unrhyw swyddi newydd ac nid yw’n diogelu cyflogaeth bresennol. Nid yw’r ymgeisydd wedi dangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno rhagor o ddatblygiad a buddsoddiad yn y busnes.

0

Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi’i darparu i ddangos bod y buddsoddiad yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes.

Gwerth am arian

Mae angen i brosiectau ddangos eu bod yn rhoi gwerth am arian. Bydd prosiectau yn cael sgôr ar sail yr effaith a ragwelir ar yr elw a ddisgwylir o fewn tair blynedd ar ôl cwblhau’r prosiect.

Gallai hynny fod o ganlyniad i gynnydd yn yr allbwn neu’r trosiant gan arwain at fwy o elw neu fod o ganlyniad i gynhyrchu mwy effeithlon gan arwain at fwy o elw er bod y trosiant a’r allbwn yn aros yn ddigyfnewid.

Bydd yr asesiad o’r gwerth am arian yn seiliedig ar y cynnydd a ragwelir mewn proffidioldeb o fewn tair blynedd ar ôl cwblhau’r prosiect (a), wedi’i rannu â gwerth y grant y gofynnwyd amdano (b).

Er enghraifft, 5.0 fyddai gwerth (a/b) prosiect sy’n rhagweld cynnydd blynyddol yn ei elw o £100,000 o fewn tair blynedd ar ôl cwblhau’r prosiect ac sy’n gofyn am grant o £20,000. Gwerth (a/b) o 1.25 fyddai gan brosiect sy’n rhagweld cynnydd yn ei elw o £50,000 o fewn tair blynedd ar ôl cwblhau’r prosiect ac sy’n gofyn am grant o £40,000.

Bydd gwerthoedd (a/b) holl brosiectau’r cyfnod ymgeisio yn arwain at ddyrannu sgôr fel y dangosir isod:

 

Sgôr
Cynnydd a ragwelir mewn elw/grant (a/b) rhwng 1.6 a 1.0

4

Cynnydd a ragwelir mewn elw/grant (a/b) rhwng 1.1 a 1.5

3

Cynnydd a ragwelir mewn elw/grant (a/b) rhwng 0.5 a 1.0

2

Cynnydd a ragwelir mewn elw/grant (a/b) rhwng 0.1 a 0.4

1

Cynnydd a ragwelir mewn elw/grant (a/b) llai na 0

0

Mae tri chanlyniad posibl i gam 1 yr asesiad:

  1. Nid yw eich cais yn gymwys am grant.
  2. Nid yw eich cais wedi’i ddewis ar gyfer ail gam y broses ymgeisio.
  3. Mae’ch cais wedi llwyddo yn y cam cyntaf a chaiff fynd yn ei flaen i’r ail gam.

Os na chewch eich dewis, ond bod eich cais yn bodloni’r trothwy sylfaenol, byddwn yn eich hysbysu trwy eich cyfrif RPW ar-lein nad ydych wedi cael eich dewis ond y bydd eich cais yn cael ei gadw wrth gefn.

Cais sy’n llwyddiannus yng Ngham 1

Os caiff eich cais ei ddewis, byddwch yn cael gwybod trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. Rhaid i chi dderbyn neu wrthod y cynnig trwy lenwi a dychwelyd yr Atodiad i’r Cais i Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad fydd wedi’i nodi yn eich llythyr trwy’ch cyfrif ar-lein.

Byddwn yn anfon nodyn atgoffa trwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr.

Os byddwch yn cadarnhau’ch bod yn hapus eich bod wedi’ch dewis, bydd eich cais yn mynd yn ei flaen i ail gam y broses arfarnu.

Nid yw’r ffaith eich bod wedi cael llythyr yn eich hysbysu’ch bod wedi’ch dewis yn golygu y cewch ddechrau gweithio ar y Prosiect. Ni chewch ddechrau unrhyw waith nes y byddwch wedi cael Contract trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. Ni fydd unrhyw brosiect sy’n torri’r rheol hon yn cael ei ystyried am gymorth.

Os byddwch wedi cadarnhau nad ydych am dderbyn y cynnig neu os na fyddwch yn ateb Llywodraeth Cymru erbyn y dyddiad yn y llythyr, ni chaiff eich cais fynd ymhellach a chaiff y cynnig i’ch dewis ei dynnu’n ôl.

Os nad yw eich cais yn bodloni meini prawf y cynllun neu os na chaiff ei ddewis, rhoddir gwybod i chi ar eich cyfrif ar-lein.

Cam 2 – Arfarniad llawn o’r cais ar ôl ei ddewis

Os yw’r cais yn cael ei ddewis, bydd yn symud ymlaen i Gam 2, a bydd yr adrannau canlynol yn cael eu hasesu i gwblhau’r broses o werthuso’r cais ac ystyried cynnig grant:

  • cyflawni’r prosiect
  • risg a rheoli risg
  • ariannol a chydymffurfio
  • dangosyddion a chanlyniadau
  • Themâu trawsbynciol

Dyma’r dangosyddion a’r canlyniadau a fydd yn cael eu monitro yn sgil y buddsoddiad:

  • nifer y busnesau a gefnogir
  • nifer y swyddi fydd yn cael eu creu
  • nifer y swyddi fydd yn cael eu diogelu
  • effaith ar drosiant y busnes
  • arferion neu dechnoleg arloesol a gyflwynir

Hefyd, bydd y cais yn gofyn i chi egluro sut y bydd y prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol Llywodraeth Cymru:

  • Cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd
  • Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  • Y Gymraeg

Caiff y cais ei arfarnu yn unol â Chanllawiau’r Cynllun a’r rheolau ynghylch pwy sy’n gymwys. Caiff archwiliadau ac arfarniad llawn o ran diwydrwydd dyledus eu cynnal (os oes angen), a dim ond bryd hynny y caiff penderfyniad terfynol ei wneud i gynnig grant neu i wrthod y cais. Nid oes gwarant y caiff cynnig y prosiect ei gymeradwyo ar gyfer grant. Ein nod yw arfarnu’r cais o fewn 90 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod ymgeisio. Efallai y bydd angen mwy o amser os yw’r cais yn un cymhleth. Os byddwch yn araf yn ateb ceisiadau gennym am wybodaeth, bydd angen mwy o amser arnom i arfarnu’ch cais.

Sgorio Asesiadau Cam 2

Ar gyfer yr arfarniad Cam 2, bydd yr wybodaeth sy’n cael ei darparu yn y 5 adran arall yn cael ei hasesu yn erbyn y meini prawf sgorio canlynol a fydd yn llywio’r penderfyniad i roi cymorth grant i’r prosiect:

  • Uchel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion trylwyr a manwl o ran yr holl dystiolaeth y gofynnir amdani
  • Canolig: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion boddhaol a manwl o ran y rhan fwyaf o’r dystiolaeth y gofynnir amdani
  • Isel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion anghyflawn neu annigonol o ran un neu fwy o’r darnau o dystiolaeth y gofynnir amdani

Y trothwy ansawdd yw sgôr Canolig ym mhob un o’r naw categori. Os nad yw’r cais yn bodloni’r gofyn hwn, mae’n bosibl y gofynnir i chi ddarparu rhagor o wybodaeth. Os nad oes modd sicrhau sgôr foddhaol, bydd y prosiect yn cael ei wrthod.

Pwysig: os bydd angen gofyn ichi am ragor o wybodaeth, gallai hynny arafu prosesau asesu’r cais felly rydym yn eich cynghori’n gryf i ddilyn y canllawiau’n fanwl a rhoi’r wybodaeth y gofynnir amdani. 

Mae dau ganlyniad posibl i arfarniad Cam 2:

  1. Nid yw eich prosiect yn gymwys ac nid yw wedi’i gymeradwyo am grant. Byddwn yn esbonio’r rhesymau pam nad oedd eich cais yn llwyddiannus trwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Gallwch wneud cais am yr un prosiect eto os oes cyfnodau ymgeisio eraill ar gael yn y dyfodol (gan addasu’r cais os ydych yn dymuno) ond dim ond os nad ydych wedi dechrau ar waith y prosiect.
  2. Mae eich prosiect yn gymwys ac mae’n cael ei gymeradwyo am grant. Bydd contract yn cael ei gyflwyno i chi trwy eich cyfrif RPW Ar-lein gan nodi telerau ac amodau’r grant. Gofynnir i chi ei dderbyn o fewn 30 niwrnod i ddangos eich bod yn cytuno â’r amodau a’r telerau hynny. Bydd y contract yn rhoi’r awdurdod i chi ddechrau ar y gwaith. Bydd angen i chi dderbyn neu wrthod cynnig y contract o fewn 30 diwrnod. Os na fyddwch wedi derbyn y contract o fewn y 30 niwrnod, caiff y contract ei dynnu’n ôl.

Byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y cynnig.

Os ydych chi’n penderfynu tynnu yn ôl o’r contract cyn cwblhau’r prosiect, neu os nad ydych yn prynu’r holl eitemau a gymeradwywyd yn eich contract, ni fyddwch yn gallu gwneud cais i’r Cynllun Datblygu Garddwriaethol yn y rownd nesaf, ac mae’n bosibl y bydd gofyn i chi ad-dalu unrhyw arian sydd wedi’i dalu i chi.

Cewch dynnu’ch cais yn ôl unrhyw bryd cyn rhoi’r contract i chi ac ni fydd hynny yn effeithio ar unrhyw geisiadau yn y dyfodol i’r Cynllun Datblygu Garddwriaethol.

Yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004: bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw’ch cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

ADRAN E – Amodau’r Grant

Mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth yn berthnasol i’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth (gweler Atodiad A). Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd / derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth hon.

Mae’r cynnig o grant Datblygu Garddwriaeth yn cael ei wneud yn amodol ar delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi yn llawn yn eich contract, gan gynnwys y telerau ac amodau a nodir isod. Bydd y contract yn para 12 mis ar ôl dyddiad cyhoeddi’r contract. Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad arwain at ganslo’ch dyfarniad a/neu at adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu i chi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau:

Mae’r dyfarniad hwn yn cael ei wneud ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu eich cynrychiolwyr yn y ffurflen gais, y ffurflen hawlio ac mewn unrhyw ohebiaeth ddilynol. Mae’n drosedd gwneud datganiadau ffug neu gamarweiniol. Ni ddylech ddechrau gweithio ar y prosiect hyd nes y byddwch wedi cael awdurdod ysgrifenedig i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru. Dylech fod wedi prynu’r cyfarpar a chysylltu ag RPW trwy RPW Ar-lein neu drwy’r post erbyn y dyddiad ar gyfer ceisiadau a nodir yn y cynnig.

Os nad ydych wedi cysylltu ag RPW erbyn y dyddiad hwn, bydd y cynnig grant yn cael ei wrthod yn awtomatig.

Rhaid i chi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a wneir o dan gyfraith y DU.

Ni chewch wneud unrhyw newidiadau i’r prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgarwch, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Ni chewch waredu, trosglwyddo neu werthu cyfarpar a brynwyd gyda chymorth grant yn ystod y prosiect nac am bum mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect heb ganiatâd ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ymlaen llaw. Rhaid ad-dalu’r grant a ddyfarnwyd yn llawn.

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yn Nodiadau Cyfarwyddyd y Cynllun.

Rhaid cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech newid yr amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno trwy ddefnyddio ffurflen gais hawliadau Grantiau RPW Ar-lein a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau sy’n angenrheidiol o dan y cynllun.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno yn unol â’r amserlen a nodir yn y contract. Ni chaniateir i chi newid yr amserlen y cytunwyd arni na gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Dim ond ar gyfer gwariant sydd wedi'i dalu y gellir rhoi'r grant, hynny yw, taliadau sydd wedi’u clirio o gyfrif banc.

Rhaid prynu pob eitem yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru.

Rhaid i chi gadarnhau nad oes unrhyw un o’r eitemau sy’n rhan o’r cais yn eitemau a brynwyd yn lle eitemau eraill o dan hawliad yswiriant.

Mae’n rhaid i chi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall (boed hynny o ffynonellau’r Undeb Ewropeaidd neu’r Deyrnas Unedig). Os yw’n dod i’r amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.

Mae’n rhaid cadw cofnodion yn ymwneud â’r cais a’r hawliad am y grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf saith mlynedd ar ôl dyddiad dod i ben y prosiect.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect. Ar gais, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth a/neu fynediad at ddogfennau gwreiddiol mewn perthynas â’r prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennaeth ategol yn destun gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn ddarostyngedig i’r Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Adran F – Caffael a Thendro Cystadleuol

Rhaid i chi ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a gofynion y Nodiadau Cyfarwyddyd Technegol ar gyfer Caffael a Thendro Cystadleuol trwy’r canlynol:

Tendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus - Nodiadau Canllaw Technegol

Tendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus - Cofrestr a Chofnod

Adran G – Taliadau

Hawliadau

I hawlio’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth, rhaid defnyddio’r dudalen Hawlio Grantiau yn eich cyfrif RPW Ar-lein. Chewch chi ddim mo'ch talu nes y caiff eich hawliad ei ddilysu'n llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi’i wario a bod y gwaith wedi’i gwblhau yn unol â’r cynllun y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Gallwch gyflwyno mwy nag un hawliad, ond rhaid i bob hawliad fod ar gyfer eitem gyfan. Er enghraifft, os ydych wedi derbyn contract i brynu dwy eitem, cyfarpar cynaeafu dŵr a pheiriant cynaeafu, gallwch hawlio’r ddwy eitem ar wahân, ond ni chewch gyflwyno hawliad ar gyfer rhan o gost un eitem.

Er mwyn cael taliad y cynllun Datblygu Garddwriaeth, rhaid i chi:

  • Fod wedi derbyn contract Cynllun Datblygu Garddwriaeth o fewn 30 diwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig i chi a chydymffurfio â’r holl ofynion
  • Peidio â phrynu’r eitemau sydd wedi'u rhestru yn eich contract tan y bydd contract wedi’i gynnig ichi ac ichi ei dderbyn
  • Gofalu’ch bod erbyn dyddiad ola’r contract wedi prynu'r holl eitemau sydd wedi'u rhestru ar eich contract
  • Gofalu bod yr holl eitemau yn cael eu prynu yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru
  • Sicrhau bod yr holl eitemau rydych wedi’u prynu ar y safle adeg cyflwyno’ch hawliad
  • Cyflwyno hawliadau gan ddefnyddio'r ffurflen Hawlio Grant ar eich cyfrif RPW Ar-lein a’ch hawliad terfynol erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio
  • Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa bod hawliadau heb eu gwneud trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.
  • Cyflwyno anfonebau ar gyfer pob eitem rydych yn eu hawlio.
  • Cyflwyno tystiolaeth bod yr arian ar bob eitem sy’n destun hawliad wedi’i wario
  • Cyflwyno tystiolaeth o ganiatâd cynllunio a chymeradwyaeth SuDS os oes angen

Ni fydd hawliad yn hawliad dilys oni bai ei fod yn cael ei gyflwyno trwy’r dudalen Hawlio Grantiau a than fod yr holl ddogfennau ategol hefyd wedi’u cyflwyno.

Gallwch gyflwyno hawliad unrhyw adeg ar ôl cwblhau’r buddsoddiad.

Dogfennau Ategol

Mae’n rhaid i chi gyflwyno anfoneb ar gyfer pob eitem o gyfarpar yn eich contract.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno cyfriflenni banc fel tystiolaeth bod gwariant wedi’i wneud ar gyfer pob eitem o gyfarpar yn eich contract.  

Gallwch gyflwyno’r anfonebau a’r cyfriflenni banc trwy eu sganio a’u hanfon trwy “Fy negeseuon” yn eich cyfrif RPW Ar-lein.  

Er mwyn dangos bod manyleb yr eitem a gyflenwyd yn gywir a’i bod wedi’i dosbarthu i’ch safle, dylech ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • Ffotograffau â geotag o eitemau ar eich safle
  • Enw’r cynhyrchydd, rhif y model, rhif cyfresol, etc

Ni fydd taliad yn cael ei wneud os oes tystiolaeth annigonol yn cael ei darparu.

Cam-hawlio a chosbau

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich hawliad yn gymwys ac yn gywir, ei fod ar gyfer gwariant sydd wedi’i ysgwyddo yn unig (bod yr arian wedi gadael eich cyfrif banc), bod yr holl eitemau a chostau’n gymwys a bod yr hawliad yn cael ei gyflwyno yn brydlon.

Mae’n rhaid i’r holl fuddsoddiadau a gymeradwyir fod wedi eu gwneud ar ôl derbyn y contract.

 Byddwch wedi cam-hawlio os:

  • Byddwch wedi prynu’r eitem cyn i chi dderbyn y contract.
  • Erbyn dyddiad ola’r contract, na fyddwch wedi prynu’r holl eitemau sydd wedi’u rhestru yn y contract.
  • Na fyddwch wedi cyflwyno hawliad a dogfennau ategol erbyn dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hawliad.
  • Na fydd pob un o’r eitemau rydych wedi’u hawlio yn bresennol ar eich daliad yn ystod ymweliad â’ch safle.
  • Nid yw eitemau wedi’u prynu yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru

Mae’n rhaid i chi hawlio am yr holl fuddsoddiadau a restrir yn eich contract.

Os yw’r hawliad yn anghywir, bydd eich hawliad yn cael ei leihau i’r cyfanswm cymwys a bydd y grant i’w dalu yn cael ei gyfrifo yn unol â hynny. Fodd bynnag, os yw’r camgymeriad yn fwy na 10% o’r cyfanswm sy’n cael ei hawlio, yna bydd cosb ariannol fel y disgrifir isod. Bydd swm y gwariant cymwys yn cael ei ostwng yn ôl swm y camgymeriad ac felly bydd cyfanswm y grant i’w dalu yn is na’r disgwyl.

Os oes gennych unrhyw amheuon am unrhyw beth y bydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect, mae'n hanfodol eich bod yn cael cadarnhad ysgrifenedig o'i gymhwystra cyn i chi ysgwyddo’r costau.

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth. Mae enghreifftiau o droseddau yn cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu’n fyrbwyll, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig, rhwystro arolygydd neu swyddog, a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran H – Newidiadau i Reolau’r Cynllun

Newidiadau i’r Ddeddfwriaeth (gan gynnwys Dehongliadau Newydd)

Caiff deddfwriaeth ei newid o dro i dro a bydd gofyn i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt.

Newidiadau i Gontract neu Reolau’r Cynllun

Mae’n bosibl y bydd angen i ni newid rheolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu newid rheolau’r cynllun er mwyn ystyried newidiadau yn y ddeddf. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran I – Rheoliadau, Monitro a Chadw Cofnodion

Mesurau Rheoli

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth.

Gellir dewis ymweld â chi i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud cyn talu’r grant ichi neu ar ôl talu’r grant i chi.

Byddwn yn archwilio’r holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad a’r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’r cais a’r hawliad.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich rhybuddio ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu ddim yn rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod eich talu, y gallwn ofyn ichi dalu arian sydd wedi’i dalu i chi yn ôl ac fe allech gael eich erlyn.

Monitro

Mae’n rhaid monitro pob dyfarniad grant a gwerthuso effaith y grant ar y busnes ar ôl cwblhau’r prosiect.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect ar unrhyw adeg resymol o fewn y cyfnod o bum mlynedd.

Byddwn yn ymweld â chanran o’r prosiectau a gymeradwywyd o fewn pum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect (Dyddiad Diwedd y Prosiect) i sicrhau bod yr ymgeisydd yn dal i ddefnyddio’r cyfarpar a brynwyd gyda’r grant a bod y busnes yn perfformio yn ôl y disgwyl.

Un o ofynion y dyfarniad grant yw bod angen cadw’r cyfarpar a brynwyd gyda chymorth grant ar y safle, gan sicrhau ei fod yn weithredol ac mewn cyflwr da. Hefyd, rhaid iddo gael ei ddefnyddio at yr un diben â’r hyn a nodwyd yn y cais gwreiddiol, am o leiaf bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect fel y nodir yn y contract. Gwneir hyn er mwyn sicrhau oes hir i’r prosiect a sicrhau bod cynhyrchwyr cynradd yn cael elwa ar fanteision y prosiect am gyfnod hir.

Cadw cofnodion

 Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

Bydd gofyn ichi hefyd:

  • Ddarparu unrhyw wybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich contract Datblygu Garddwriaeth yn unol â’r amserlen a bennir gan Lywodraeth Cymru.
  • Darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur yn ymwneud â’ch contract Datblygu Garddwriaeth i Lywodraeth Cymru, ei phersonau awdurdodedig neu ei hasiantwyr.  Bydd gofyn ichi ganiatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono.

Adran J – Y Drefn Apelio a Chwyno

Y drefn apelio

Mae’r ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn caniatáu i chi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun.  Ni fydd y broses yn adolygu penderfyniadau yn ymwneud â  Cam 1 – Asesiad ar gyfer Dewis

Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • Cam 1: adolygiad gan RPW
  • Cam 2: adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng Ngham 1).

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar.  Byddwn yn ad-dalu’r costau hyn yn llawn os bydd Cam 2 yr apêl yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw trwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi apelio yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr Cymraeg yn y Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen apelio ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig

Y drefn gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost: cwynion@llyw.cymru

Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed,
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon

Adran K – Hysbysiad Preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn i ni roi cyllid grant i chi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac i ddilysu eich manylion adnabod. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae'n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid grant rydych chi eisoes yn ei gael.

Bydd cofnod o unrhyw risg sy’n gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

Er mwyn asesu cymhwyster, efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais gyda’r canlynol. 

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Swyddfeydd Amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, efallai y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data am bob buddiolwr ar wefan y gellir ei chwilio, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau a’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cawsant eu cyhoeddi. Bydd yr wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA yn: www.cap-payments.defra.gov.uk

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phob taliad wedi'i wneud. Os na fyddwch yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl: 

  • i weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch.
  • i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hynny.
  • i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu (o dan amgylchiadau penodol) ar brosesu eich data personol.
  • i ofyn (o dan rai amgylchiadau) inni 'ddileu' eich data.
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

 

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru

Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

https://llyw.cymru/hysbysiad-preifatrwydd-grantiau-llywodraeth-cymru

Adran L – Deddfwriaeth

Mae’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth yn cyflawni amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth. Rydym wedi’u rhestru isod ynghyd â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r cynllun Datblygu Garddwriaeth yn cael ei reoli gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) Rhifau 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd).

Rhoddir cyfraith yr UE a ddargedwir ar waith yng Nghymru trwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y’i diwygir o dro i dro), gan gynnwys drwy Reoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328)

Bydd cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y 3 blynedd nesaf yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol.
  • cyfrannu tuag at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
  • gwrthsefyll effeithiau’r hinsawdd.
  • sicrhau datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth

Yn ogystal, mae’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth yn cynnwys tri amcan trawsbynciol:

  • lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu i newid hinsawdd
  • arloesi
  • yr amgylchedd

Fel rhan o’r cais, byddwn yn gofyn ichi esbonio sut bydd eich prosiect yn cyfrannu at yr amcanion trawsbynciol hyn.  

  • Cyfle cyfartal a Phrif ffrydio rhywedd
  • Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  • Y Gymraeg

Yn ogystal, bydd ceisiadau i’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth yn ystyried amcanion strategol a thematig Llywodraeth Cymru.

Bydd gweithgareddau yn ymwneud ag o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru: 

  1. meithrin y broses o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth ac ardaloedd gwledig.
  2. gwella hyfywedd ffermydd a chystadleurwydd amaethyddiaeth o bob math, a hyrwyddo technolegau ffermio arloesol a rheolaeth gynaliadwy ar goedwigoedd.
  3. hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd gan gynnwys prosesu a marchnata cynnyrch amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg ym maes amaethyddiaeth.
  4. adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth.
  5. hyrwyddo defnydd effeithiol o adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth.
  6. hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig.

 Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal 

  1. Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan Baragraff 11: cymorth addasu strwythurol sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb y WHO ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd’.
  2. O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn wedi’u heithrio o Gytundeb Masnach a Chydweithredu y DU-UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.

Adran L - Cysylltiadau

Ymholiadau – Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad i swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Yna, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud eu gorau i wneud trefniadau a fydd yn darparu ar gyfer eich gofynion.  

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

E-gylchlythyr Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru. Mae’n cynnwys straeon newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen. Er mwyn clywed am yr holl newyddion a datblygiadau diweddaraf ym maes amaethyddiaeth, rydym yn eich annog i gofrestru i dderbyn e-gylchlythyr Gwlad. I gofrestru, ewch i Newyddion neu Tanysgrifio i Gwlad.