Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn bwriadu cyflwyno cynllun dychwelyd ernes (DRS) yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw'r cynllun?

Pan fydd y DRS ar waith, pan fyddwch chi'n prynu diod sy’n rhan o’r cynllun byddwch yn talu ernes, a chewch chi’r ernes yn ôl pan fyddwch yn dychwelyd eich potel neu'ch can gwag.

Mae'n fath o gyfrifoldeb cynhyrchydd estynedig, sy'n golygu y bydd gan gynhyrchwyr a mewnforwyr diodydd a gwmpesir gan y cynllun gyfrifoldebau cyfreithiol newydd dros reoli a chasglu eu cynwysyddion diod gwag ar gyfer ailgylchu.

Mae cynlluniau peilot DRS hefyd wedi cael eu cynnal yng Nghonwy ac Aberhonddu i ddysgu rhagor a chynnig dealltwriaeth ychwanegol o DRS ar waith.

Cynhaliwyd ymgynghoriad (GOV.UK) ynghylch cyflwyno’r cynllun.

Pam mae hyn yn bwysig?

Bydd cynllun dychwelyd ernes yn annog y broses o symud oddi wrth ddiwylliant gwastraffus ac yn gwella ansawdd a nifer y deunyddiau wedi'u hailgylchu a gesglir yng Nghymru. 

Bob blwyddyn mae defnyddwyr y DU yn defnyddio rhyw 14 biliwn o boteli diodydd plastig a 9 biliwn o ganiau diodydd, y mae llawer ohonynt yn cael eu taflu'n sbwriel neu'n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.  Mae'r cyfraddau ailgylchu presennol yn y DU ar gyfer cynwysyddion sydd o fewn cwmpas y DRS oddeutu 70% sy'n gadael tua 4 biliwn o boteli plastig, 2.7 biliwn o ganiau a 1.5 biliwn o boteli gwydr nad ydynt yn cael eu hailgylchu bob blwyddyn.

Mae enghreifftiau rhyngwladol yn dangos y gall cynlluniau dychwelyd ernes lwyddo i wella ailgylchu, gyda chyfraddau dros 90% yn yr Almaen, y Ffindir a Norwy.

Mae dychwelyd ac ailgylchu cynwysyddion diodydd untro gwag, a allai fel arall fod yn sbwriel yn y pen draw neu gael eu gwaredu i safleoedd tirlenwi, yn golygu bod deunyddiau'n cael eu cadw yn y gadwyn werth yn hirach. Mae hyn yn lleihau ein galw ar ddeunyddiau crai, gwastraff i safleoedd tirlenwi, ac allyriadau sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Mae'n gam sylweddol tuag at ddatblygu economi fwy cylchol.