Daeth yr ymgynghoriad i ben 4 Rhagfyr 2015.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn y partïon sydd â diddordeb am y Cynllun Effeithlonrwydd Adnoddau a Gwastraff y Sector Cyhoeddus.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r cynllun drafft yn ymdrin â gwastraff a gynhyrchir gan gyrff sy’n cael cyllid cyhoeddus.
Mae gan y sector cyhoeddus ran bwysig i’w chwarae i atal gwastraff ei ailddefnyddio a’i ailgylchu yn unol ag amcanion ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ - y strategaeth wastraff ar gyfer Cymru.
Mae’r Cynllun Sector Cyhoeddus hwn yn nodi’r targedau sy’n berthnasol i’r sector ac yn rhestru’r polisïau y ddeddfwriaeth a’r rhwymedigaethau eraill sy’n berthnasol i’r sector cyhoeddus.
