Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddiwch y 'canllaw cyflym' i gyfrifo'r Taliadau Cyffredinol dangosol y gallech eu derbyn o 2027.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Cynllun Ffermio Cynaliadwy: canllaw cyflym , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 23 KB

XLSX
23 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Gallwch ddefnyddio’r canllaw cyflym hwn i gyfrifo gwerth dangosol eich Taliad Cyffredinol o dan yr SFS neu dapr y BPS ar gyfer 2027. Mae’r fethodoleg a’r cyfraddau talu a ddefnyddiwyd ar gyfer Haen Gyffredinol yr SFS yn 2026 wedi cael eu defnyddio er mwyn cyfeirio atyn nhw.

Ddylai gwneud cyfrifiadau ddim cymryd fawr o amser, ac ni ofynnir am unrhyw wybodaeth bersonol. Mae’r wybodaeth sydd ei hangen i gwblhau’r canllaw cyflym ar gael yn:

  • nogfen grynhoi eich Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2026, sy’n nodi:
    • cyfanswm eich arwynebedd tir a ddatganwyd yn 2026
    • nifer eich hawliau BPS, a
    • y dyraniad tir comin a bennwyd o 2025
    • unrhyw ardaloedd anghymwys
  • Bydd eich Map SFS ar RPW Ar-lein yn dangos yr isod ar lefel parsel:
    • cyfansymiau meintiau cynefinoedd, a
    • cyfanswm ardaloedd canopi coed sy'n fwy neu'n hafal i 0.1ha

Os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio'r canllaw cyflym, cysylltwch â Chanolfan Cyswllt i Gwsmeriaid Taliadau Gwledig Cymru.