Cynllun Ffermio Cynaliadwy: cyflwyniad i achos busnes
Cyflwyniad i achos busnes, asesiad effaith integredig a thystiolaeth gysylltiedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Cwblhawyd fersiwn derfynol yr achos busnes, yr asesiad effaith integredig a'r dystiolaeth gysylltiedig ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) ym mis Gorffennaf 2025. Mae'r dystiolaeth hon wedi'i defnyddio i gefnogi a llywio penderfyniadau Gweinidogion Cymru ar gyflwyno'r cynllun. Mae'r dogfennau hyn wedi'u cyhoeddi i rannu'r dystiolaeth a gasglwyd ac i sicrhau proses dryloyw.
Mae'r achos busnes yn nodi amcanion a rhesymeg y polisi dros ymyrryd yn y sector amaethyddol yng Nghymru, gan nodi'n benodol y manteision a'r costau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â gweithgarwch amaethyddol a'r dadleuon ynghylch sut y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi ffermwyr yng nghyd-destun rheoli tir yn gynaliadwy. Er mwyn mynd i'r afael â materion o'r fath, gyda'r nod o wneud y gorau o'r manteision a lleihau'r costau, cafodd opsiynau eu nodi a'u hystyried. Cafodd yr opsiynau a gadwyd eu hasesu'n fanylach a chanolbwyntiwyd ar y ffordd ymlaen a ffefrir.
Bydd yr SFS yn neilltuo hyd at £238m o gyllid cyhoeddus drwy haenau cyffredinol y cynllun ac o leiaf £102m trwy'r haenau opsiynol a chydweithredol i gefnogi ffermwyr Cymru yn 2026. Penderfynwyd ar y gyllideb a'r strwythur er mwyn i ffermwyr allu ymuno â'r cynllun yn fuan. Cydnabyddir y bydd angen i'r cynllun esblygu yn y blynyddoedd i ddod i gynyddu enillion cymdeithasol trwy fwy o weithredoedd opsiynol a chydweithredol.
Mae'r achos busnes yn datblygu'r achos gwerth am arian dros yr SFS, gan gynnwys effeithiau rhai dewisiadau dylunio a dyrannu cyllid pwysig, gan gynnwys y cyfraddau a’r dull talu, ochr yn ochr â manteision disgwyliedig ceisio cefnogi ffermwyr, a llawer ohonyn nhw, i ymuno'n fuan â'r cynllun ac, yn benodol, y gweithredoedd opsiynol a chydweithredol. Er gwaethaf hyn, o'i ddechrau'n deg, disgwylir i'r cynllun esgor ar ganlyniadau mwy dymunol yn gymdeithasol na'r cynllun presennol.
Mae'r dadansoddiad a gyflwynwyd yn defnyddio modelau a dadansoddiadau ategol gan ddefnyddio setiau data ariannol ar lefel fferm a defnydd tir ac amgylcheddol eraill ond nid yw'n cyflwyno gwir werth na dosbarthiad terfynol taliadau ar lefel fferm unigol. Bydd gwerth taliadau i ffermydd unigol yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys nodweddion penodol y fferm a'r gweithredoedd opsiynol a chydweithredol sydd ar gael a gynhelir.
Mae cyfraddau talu'r SFS wedi'u cynllunio hefyd o fewn strwythur cyffredinol yr achos busnes i geisio lleihau rhai o effeithiau dyrannu negyddol. Yn arbennig, y taliad fferm gyfan o £70 yr hectar ar gyfer y 70 hectar cyntaf o dir cymwys ac yna £2 yr hectar ar gyfer yr holl dir cymwys sy’n weddill. Yn ogystal, y cap ar taliadau cyffredinol uwch yr SFS. Yn olaf, bwriad y taliad sefydlogrwydd o £1,000 sydd ar gael yn 2026 ar gyfer ffermydd hyd at 100ha yw cydnabod heriau penodol y cyfnod pontio a'r ansicrwydd y disgwylir i rai ffermydd ei wynebu. Y bwriad yw cefnogi ffermydd teuluol bach a chanolig, sy'n draddodiadol yn aml ac yn llai abl i ymateb yn gyflym i ofynion y cynllun newydd ac y disgwylir i gostau'r cynllun fod, ar gyfartaledd, yn gymharol fwy.
Mae'r symud o'r trefniadau cymorth amaethyddol presennol i'r SFS yn golygu newid sylweddol, ac mae ansicrwydd amlwg ynghylch yr effeithiau posibl o ystyried nodweddion gwahanol ffermydd unigol a'u dewisiadau wrth wneud penderfyniadau, a sut y gallant ddewis gweithredu addasiadau perthnasol. Mae'r achos busnes yn ceisio darparu asesiad cymesur a chytbwys o'r dystiolaeth a'r wybodaeth orau sydd ar gael. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod yna feysydd o hyd lle mae angen rhagor o dystiolaeth. O ganlyniad, rydym yn rhoi rhaglen fonitro, adrodd a gwerthuso gynhwysfawr ar waith i sicrhau ein bod yn deall yn llawn yr holl effeithiau a chanlyniadau o'r cychwyn cyntaf ac yn gallu ymateb yn gyflym i addasu'r cynllun gyda'r bwriad o'i gael i roi mwy o werth am yr arian dros amser.
Fel rhan o'r defnydd tryloyw o dystiolaeth, rydym hefyd wedi cyhoeddi asesiad gafodd ei ddiweddaru gan gonsortiwm dan arweiniad ADAS sy'n amcangyfrif effaith economaidd bosibl y cynllun a'r cyfraddau talu terfynol ar lefel fferm. Mae amcangyfrif effeithiau o'r fath yn anodd, ac mae peth ansicrwydd penodol o hyd mewn perthynas ag effeithiau ar, er enghraifft, y defnydd o lafur ac addasiadau i hynny a bydd cael rhagor o dystiolaeth, yn ychwanegol at fodelau economaidd, yn bwysig o gofio’r gwahaniaethau posibl yn ymateb ffermydd unigol. Yn ymarferol, gallai penderfyniadau o'r fath hefyd adlewyrchu amodau marchnadoedd amaethyddol a chyfleoedd eraill ar ffermydd penodol. Rydym eisoes yn bwriadu datblygu'r sylfaen dystiolaeth ymhellach i gwmpasu gwahanol ddimensiynau effaith bosibl yr SFS yr un pryd â chyflwyno'r cynllun. Mae hyn yn cynnwys tystiolaeth ar lefel fferm yn ogystal â cheisio deall yn well yr effeithiau ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi, ac i nodi'n glir yr effeithiau amgylcheddol ychwanegol y gellir eu priodoli.
