Rhaid i ffermwyr ddilyn y rheolau hyn os ydyn nhw'n gwneud cais am daliadau Cynllun Ffermio Cynaliadwy 2026.
Rydym wedi diweddaru'r taflenni ffeithiau canlynol ac adrannau cysylltiedig y safonau dilysadwy.
SMR 1: diogelu dŵr
Mae'r daflen ffeithiau a'r safonau dilysadwy wedi'u diweddaru i adlewyrchu newid i'r cyfnodau gwaharddedig ar gyfer gwasgaru tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd (ac eithrio tail dofednod).
Caniateir gwasgaru rhwng 15 Hydref a 15 Tachwedd yn ddarostyngedig i amodau penodol. Mae'n berthnasol i 2026 yn unig.
