Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae nodweddion y dirwedd a Henebion Cofrestredig yn rhannau pwysig o amgylchedd y wlad. Yn ogystal â rhoi cysgod i stoc, lleoedd nythu i adar ac amrywiaeth o gynefinoedd i fyd natur, maent o werth hanesyddol a diwylliannol.

Mae Henebion Cofrestredig yn cael eu diogelu o dan GAEC 7 ac o dan Ddeddf Henebion a Safleoedd Archeolegol 1979 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016) sy’n ei gwneud yn drosedd difrodi neu amharu ar Heneb Gofrestredig, gan gynnwys aflonyddu’r tir.

Prif ofynion

Henebion cofrestredig

Peidiwch â difrodi Heneb Gofrestredig trwy gynnal gweithgareddau sy’n achosi neu’n caniatáu erydiad pridd neu sy’n aflonyddu’r tir ar heneb gofrestredig e.e:

  1. gorbori
  2. gadael i lwyni a thyfiant goresgynnol dyfu drosti
  3. sathru a stablad y pridd
  4. rhigoli’r pridd gan gerbyd, yn enwedig ar lethrau serth neu ar dir gwlyb
  5. porthi atodol
  6. trin y tir yn rhy agos at ffin yr Heneb Gofrestredig
  7. storio offer, deunydd a sbwriel
  • peidiwch â gwneud gwaith ar Heneb Gofrestredig (e.e. aredig, ffensio, draenio, gwella traciau, ac ati) heb ganiatâd ffurfiol Cadw
  • cadwch at holl amodau unrhyw ganiatâd a roddir

Ffosydd

  • rhaid cadw pob ffos (gan gynnwys ffosydd sych) ar y daliad, oni bai eich bod wedi cael caniatâd (yr awdurdod lleol perthnasol) i’w chwalu

Coed

  • os bydd angen cwympo mwy na 5 metr ciwbig o goed bob chwarter calendr arnoch (cyn belled nad ydych yn gwerthu mwy na 2 fetr ciwbig), bydd yn rhaid ichi ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded torri coed. Ni chewch gwympo coed o gwbl rhwng 1 Mawrth a 31 Awst, hyd yn oed â thrwydded
  • ni chewch dorri, tocio na chwympo coeden sy’n cael ei diogelu gan Orchymyn Amddiffyn Coed (gan awdurdod lleol) heb ganiatâd eich awdurdod lleol

Gwiriadau maes

  • i ofalu bod henebion cofrestredig a ffosydd yn cael eu cadw yn unol â’r mapiau a’r lluniau o’r awyr
  • i sicrhau nad yw Henebion Cofrestredig wedi cael eu niweidio
  • i wirio y cydymffurfir â rheolau trwyddedau cwympo coed
  • i wirio y cydymffurfir â gofynion Gorchmynion Cadw Coed

Arfer da

  • cadarnhewch leoliad a maint yr Henebion Cofrestredig ar eich tir. Gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio Cof Cymru i chwilio cofnodion Cadw. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â Cadw
  • monitrwch gyflwr yr Henebion Cofrestredig i weld a oes arwyddion o aflonyddu arnyn nhw oherwydd erydu, gorbori, bwydo atodol ac ati a chymryd camau i’w hunioni a rhoi amser i’r tir ymadfer
  • cymerwch gyngor angenrheidiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru os nad ydych yn sicr a oes angen trwydded cwympo coed arnoch
  • cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol ynghylch rheoli unrhyw goed sy’n amodol ar Orchymyn Cadw Coed.

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cadw

neu gweler Cynllun Ffermio Cynaliadwy: llinell sylfaen reoleiddiol: cysylltiadau defnyddiol (2026).