Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth a dyddiadau allweddol y mae angen i chi eu gwybod ar gyfer Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ebrill 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ffurflen y Cais Sengl (SAF)

Mae'r SAF bellach ar agor tan 15 Mai. 

Os byddwch yn dewis ymuno â Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, bydd angen gwybodaeth ychwanegol i gwblhau'r SAF, felly rydyn ni'n annog pob ffermwr i adolygu a chwblhau eu SAF cyn gynted â phosibl. Os byddwch yn dewis gwneud cais am Gynllun y Taliad Sylfaenol, bydd yr SAF yn debyg i'r un y llynedd. Bydd taliadau BPS yn 2026 yn cael eu tapro ar 60%. 

Map yr SFS

Un dasg bwysig i'w gwneud cyn cwblhau eich SAF yw adolygu Map yr SFS sydd ar gael ar RPW Ar-lein er mwyn gwneud y canlynol:

  • gwirio ffiniau caeau a Nodweddion Parhaol. Diweddaru'r holl newidiadau neu gywiriadau mapio gan ddefnyddio 'Rheoli fy Nhir' cyn cwblhau eich SAF
  • adolygu arwynebedd y cynefin a'r coetir ar eich daliad cyn yr Adolygiad Sylfaenol o Gynefinoedd ar y SAF
  • nodi a oes gennych safleoedd dynodedig neu nodweddion hanesyddol
  • Os ydych yn tyfu india-corn, gwirio'r llethrau a'r haenau perygl o lifogydd i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r gofynion ynghylch sefydlu india-corn  

​Os ydych yn adolygu eich Map SFS nawr, dylai hyn helpu'n fawr wrth gwblhau eich SAF. 

Bydd hyn hefyd yn eich helpu i gynllunio ar gyfer pob Gweithred Gyffredinol, yn enwedig unrhyw gynefin dros dro y gallai fod angen ichi ei greu i fodloni'r gofyniad cynefin o 10%. 

Cynnal a chadw cynefinoedd a chreu cynefinoedd dros dro

Mae'r SAF yn cynnwys Adolygiad Sylfaenol o Gynefinoedd lle byddwch yn gallu cadarnhau manylion arwynebedd y cynefinoedd a'r coetir ar eich daliad. 

Er mwyn i'r cynefinoedd parhaol presennol ar eich daliad fel glaswelltiroedd sych lled-naturiol gael eu rheoli fel tir pori neu weirgloddiau, rydyn ni wedi disgrifio cyfres o ganlyniadau y dylech anelu at eu cyflawni. Mae disgrifiad o'r canlyniadau hyn o dan Weithred Gyffredinol 5 yn adran J5 o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (2026): haen gyffredinol: llyfryn rheolau.

Os nad oes gennych 10% o gynefin eisoes, byddwch yn gallu rhoi gwybod inni ar yr SAF pa gynefinoedd dros dro rydych wedi'u creu neu y byddwch yn eu creu. Rhaid sefydlu'r rhan fwyaf o'r cynefinoedd dros dro hyn erbyn 15 Mai, felly mae angen ichi fod yn ymwybodol o'r gofynion rheoli wrth gwblhau'r SAF. I gael rhagor o wybodaeth am greu cynefinoedd dros dro, gweler Gweithred Gyffredinol 6 yn adran J6 o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (2026): haen gyffredinol: llyfryn rheolau, neu darllenwch ein canllaw cyflym i gynefinoedd dros dro.      

Rheoli Plaladdwyr yn Integredig (IPM) 

Wrth i'r gwanwyn fynd rhagddo, bydd rhai ffermydd yn cynllunio sefydlu cnydau. O dan Weithred Gyffredinol 2 mae'n ofynnol ichi gynnal arfarniad Rheoli Plaladdwyr yn Integredig. Mae hyn wedi'i gynllunio i'ch helpu i nodi cyfleoedd i leihau neu osgoi defnyddio cemegion, er enghraifft, drwy ystyried cylchdroi cnydau gwahanol neu fathau gwahanol o hadau. Os oes angen ichi ddefnyddio unrhyw blaladdwyr neu chwynladdwyr, gall arfarniad Rheoli Plaladdwyr yn Integredig eich helpu i sicrhau eich bod yn eu defnyddio mewn modd mor dargededig ac effeithlon â phosibl. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan adran J2 o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (2026): haen gyffredinol: llyfryn rheolau lle byddwch yn gweld dolenni a thempledi defnyddiol.

Haen Opsiynol a Haen Gydweithredol yr SFS

Os ydych yn dewis mynd ymhellach na'r Haen Gyffredinol, rydyn ni wedi cyhoeddi'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Haenau Dewisol a Chydweithredol: trosolwg o’r cymorth sydd ar gael o 2026

Mae'r ddogfen hon wedi'i chynllunio i roi trosolwg ichi o'r cymorth Opsiynol a Chydweithredol a fydd ar gael yn ystod 2026 ac i'r flwyddyn nesaf, i'ch helpu gyda'ch blaengynllunio ac i roi gwybod ichi beth i edrych amdano. 

Mae'r ddogfen hon yn esbonio bod y cymorth Opsiynol yn gyfres o 'gategorïau'. Cyn agor y cyfnod ymgeisio ar gyfer pob categori, byddwn yn cyhoeddi manylion technegol llawn a chyfraddau talu ar wefan Llywodraeth Cymru.   

Efallai y byddwch yn adnabod rhai o'r categorïau hyn fel parhad o gynlluniau blaenorol fel Tyfu er mwyn yr Amgylchedd neu ein cynllun Grantiau Bach, ond mae categorïau eraill yn newydd.

Mae'r ddogfen hon hefyd yn dangos lle mae rhai mathau o gymorth ar gael i ffermwyr sydd wedi ymuno â Haen Gyffredinol yr SFS yn unig, gan fod y cymorth hwn yn dibynnu ar Weithredoedd Cyffredinol penodol. Bydd y rhan fwyaf o gymorth Opsiynol ar gael yn ehangach i bob ffermwr am y tro, ond rhoddir blaenoriaeth i fusnesau fferm sydd wedi ymuno â'r Haen Gyffredinol. Mae'n bwysig ein bod yn cadw cyfleoedd ar gael wrth inni fonitro'r niferoedd sy'n ymuno â'r SFS, a'r galw yn erbyn y gyllideb. Gall y sefyllfa hon newid yn y blynyddoedd nesaf. 

Mae'r Haen Gydweithredol yn cefnogi gweithgareddau drwy'r gadwyn gyflenwi ehangach, neu ar lefel tirwedd. Nid oes angen ichi ymuno â'r Haen Gyffredinol i gymryd rhan yn ein gweithgareddau Cydweithredol.   

Cyswllt Ffermio

Gall Cyswllt Ffermio ddarparu cyngor, sgiliau a rhannu gwybodaeth am ddim neu â chymhorthdal i'ch helpu i baratoi a chyflawni gweithredoedd yr SFS. 

Er mwyn cael y cymorth, rhaid ichi gofrestru neu ailgofrestru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ganllaw cofrestru Cyswllt Ffermio.

Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, bydd angen ichi greu cyfrif One Login. 

  • I greu eich cyfrif One Login GOV.UK, ewch i Defnyddio eich GOV.UK One Login: Mewngofnodi i'ch GOV.UK One Login - GOV.UK
  • Ar ôl i chi greu eich cyfrif One Login, byddwch yn gallu ailgofrestru / cofrestru gyda Cyswllt Ffermio
  • Bydd angen eich rhif CON presennol ar gyfer hyn; byddwch wedi derbyn llythyr gan Cyswllt Ffermio yn rhestru'r holl rifau CON sy'n gysylltiedig â'ch busnes

Bydd gweithredu nawr yn sicrhau nad ydych yn colli mynediad at wasanaethau Cyswllt Ffermio a'ch cofnod Storfa Sgiliau. Mae mynediad i'ch cofnod hanesyddol yn y Storfa Sgiliau yn hanfodol os ydych yn ymuno â'r Haen Gyffredinol a'ch bod yn bwriadu cwblhau Gweithred Gyffredinol 4 –  Datblygiad Proffesiynol Parhaus drwy Cyswllt Ffermio.

Drwy gofrestru gyda Cyswllt Ffermio byddwch hefyd yn gallu cael mynediad at FARMDATA+.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth fesul cam arnoch, gall tîm Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio eich helpu – cysylltwch â nhw ar 03456 000 813.

FARMDATA+ a Meincnodi Gweithred Gyffredinol 3

O dan Feincnodi Gweithred Gyffredinol 3 mae'n ofynnol ichi gwblhau asesiad mesur a monitro blynyddol gan ddefnyddio Dangosyddion Perfformiad Allweddol syml. Am ragor o wybodaeth gweler adran J3 o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (2026): haen gyffredinol: llyfryn rheolau.   

Gallwch ddewis cwblhau eich meincnodi drwy ddarparwyr diwydiant eraill, neu gallwch wneud hynny drwy FARMDATA+. 

Mae FARMDATA+ yn offeryn meincnodi ar-lein newydd a ddatblygwyd gan Cyswllt Ffermio. Mae'n syml i'w ddefnyddio ac yn caniatáu ichi ddewis Dangosyddion Perfformiad Allweddol sy'n briodol i'ch busnes.

Mae Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer y saith sector craidd – âr, cig eidion, llaeth, garddwriaeth, moch, dofednod a defaid.

Mae FARMDATA+ wedi cael ei ddatblygu i'w ddefnyddio ar ffôn symudol, a bydd ar gael o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Gellir ei ddefnyddio ar-lein drwy wefan Cyswllt Ffermio neu yn uniongyrchol ar FARMDATA+

Bydd enwau'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol wedi'u cwblhau'n cael eu rhannu'n awtomatig ag RPW fel tystiolaeth eich bod wedi cwblhau Gweithred Gyffredinol 3. Ni fydd unrhyw ddata fferm na chanlyniadau meincnodi'n cael eu rhannu. Os ydych yn defnyddio offeryn meincnodi diwydiant neu gyflenwr cymeradwy, bydd angen ichi ddiweddaru eich dangosfwrdd SFS erbyn 15 Ionawr gydag enw'r Offeryn Meincnodi a ddefnyddiwyd a'r dyddiad y cafodd eu cwblhau.