Neidio i'r prif gynnwy

Symud ymlaen â'ch Gweithredoedd Cyffredinol trwy gydol y flwyddyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnydd tuag at gwblhau eich Gweithredoedd Cyffredinol

Rydym bellach hanner ffordd trwy 2026, ac os ydych chi wedi gwneud cais i fynd i mewn i Haen Gyffredinol yr SFS, mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n bwrw ymlaen â'r holl Weithredoedd Cyffredinol (UAs) sy'n berthnasol i chi erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae digon o amser o hyd i gwblhau eich Gweithredoedd Cyffredinol, ac rydym yn eich annog i'w hintegreiddio i'ch arferion rheoli blynyddol lle gallant ddarparu'r budd mwyaf i chi. Fodd bynnag, mae yna rai camau tymhorol y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt lle bo'n berthnasol. 

O dan UA5 Cynnal Cynefinoedd dylech fod yn ymwybodol o'r amodau gofynnol ar gyfer y borfa yn yr haf, ac yn enwedig dyddiadau lladd gwair. Os oes angen i chi greu cynefin newydd dros dro o dan UA6 Creu cynefin dros dro ar dir wedi'i wella i fodloni gofyniad y cynllun ar gyfer 10% o gynefin ar eich fferm, dylai'r rhan fwyaf o'r mathau perthnasol o gynefinoedd fod wedi eu sefydlu erbyn hyn. Gweler UA6 cynefin dros dro UA6 ar dir wedi'i wella: canllaw cyflym ar gyfer y mathau o gynefinoedd y gallech eu sefydlu y tymor hwn o bosibl. 

Dangosfwrdd Cyffredinol yr SFS 

Mae Dangosfwrdd Cyffredinol yr SFS bellach ar gael trwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Mae'r Dangosfwrdd wedi'i gynllunio i'ch helpu i nodi pa Weithredoedd Cyffredinol sy'n berthnasol i'ch busnes fferm, ac i'ch helpu i ddiweddaru ac olrhain eich cynnydd wrth gwrdd â phob un ohonynt yn ystod y flwyddyn. 

Bydd y Dangosfwrdd yn cael ei ddiweddaru yn ddiweddarach yn y flwyddyn i dderbyn cadarnhad awtomatig o unrhyw Feincnodi (sy'n berthnasol i UA3 Meincnodi) neu ddysgu (sy'n berthnasol i UA4 Datblygiad Proffesiynol Parhaus) a gwblhawyd trwy Cyswllt Ffermio. 

Mae canllaw [Sut i Gwblhau] ar gael, a byddwn hefyd yn cyhoeddi negeseuon trwy RPW Ar-lein wrth i'r Dangosfwrdd gael ei ddatblygu ymhellach. 

Rydym yn eich annog i wirio'ch Dangosfwrdd yn rheolaidd i sicrhau eich bod ar y trywydd iawn i gwblhau'r holl Weithredoedd Cyffredinol ar amser. 

Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd newydd ar gael nawr

Bydd y cynllun newydd ar gael cyn bo hir ar RPW Ar-lein. Mae wedi'i gynllunio i'ch helpu i fodloni UA10 Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd ac mae'n berthnasol i bob busnes fferm sydd wedi ymrwymo i Haen Gyffredinol yr SFS. 

Mae llawer o ffyrdd y gall coed weithio i'ch fferm; cryfhau eich perthi/gwrychoedd, plannu mewn corneli caeau, neu greu coetiroedd – gall coed ddarparu cysgod, gwella tirweddau, a chreu ffynhonnell incwm hirdymor.

Mae'r cynllun newydd wedi'i gynllunio i'ch helpu i ystyried y fferm gyfan a nodi lle gallai coed a pherthi/gwrychoedd weithio orau i chi. Dangosol yw'r cynllun rydych chi'n ei greu – ni fydd disgwyl i chi blannu ym mhob lleoliad rydych chi'n ei gynnwys ar y map os penderfynwch yn ddiweddarach fod y lleoliad yn anaddas neu os yw unrhyw sensitifrwydd yn atal y plannu rhag mynd rhagddo. 

Bydd angen i chi gwblhau eich cynllun erbyn diwedd y flwyddyn. 

Bydd canllaw [Sut i Gwblhau] ar gael, a bydd cymorth ar gael trwy Weithredoedd Opsiynol yr SFS i blannu eich coed a'ch perthi/gwrychoedd newydd. 

Cau Porth y Llywodraeth – mynediad i RPW Ar-lein a Cyswllt Ffermio 

Mae gennych ychydig ddyddiau ar ôl tan 30 Mehefin cyn i wasanaeth Porth y Llywodraeth gael ei ddiffodd. O fis Gorffennaf ymlaen, dim ond drwy One Login GOV.UK y bydd modd cael mynediad i RPW Ar-lein.

Mae gwaith darparu a gweinyddu'r SFS yn dibynnu ar One Login GOV.UK. Os nad ydych wedi mudo eich cyfrif RPW Ar-lein cyn 1 Gorffennaf, dylech gysylltu â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW am gymorth. 

Rhaid i chi gofrestru gyda Cyswllt Ffermio i gael mynediad at FARMDATA+ i helpu gyda UA3 Meincnodi, neu'r Hwb Sgiliau i helpu gyda UA4 Datblygiad Proffesiynol Parhaus. I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Cyswllt Ffermio helpu gyda Gweithredoedd Cyffredinol eraill yr SFS neu i gael mynediad at gymorth, cysylltwch â'r Ganolfan Wasanaeth ar 03456 000813 neu ewch i'r wefan.