Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor: adroddiad blynyddol 2020 i 2021
Crynodeb o faint o aelwydydd a gafodd gymorth gan y cynllun.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb gweithredol
Ar 1 Ebrill 2013, cafodd Budd-dal y Dreth Gyngor yng Nghymru ei ddisodli gan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (y Cynllun Gostyngiadau), a chafodd aelwydydd cymwys eu trosglwyddo'n awtomatig i'r cynllun newydd. Roedd Rheoliadau’r Cynllun Gostyngiadau yn seiliedig i raddau helaeth ar yr hen reolau ar gyfer Budd-dal y Dreth Gyngor. Roedd hyn yn sicrhau bod aelwydydd yn cadw’u hawl i gael cymorth i gyflawni eu rhwymedigaeth i dalu’r dreth gyngor. Rydym wedi diwygio'r Rheoliadau gwreiddiol bob blwyddyn ers hynny er mwyn cynnal yr hawliau hyn.
Rhoesom £244m i awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2013 i fis Mawrth 2014 i’w galluogi i roi’r cymorth llawn y mae gan bob aelwyd gymwys yr hawl i’w gael. Rydym wedi cynnal y trefniadau ariannu hyn bob blwyddyn ers hynny.
Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am roi’r Cynllun Gostyngiadau ar waith yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021. Mae hyn yn helpu i sicrhau tryloywder mewn maes y mae cyllid sylweddol yn parhau i gael ei ddyrannu iddo.
Y prif ffigurau
- Roedd 283,116 o aelwydydd yng Nghymru yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2021, o'i gymharu â 275,604 ym mis Mawrth 2020, cynnydd o 7,512 o achosion (2.7%).
- Tua £295.1m oedd cyfanswm gwerth y gostyngiadau a roddwyd drwy’r Cynllun Gostyngiadau yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021, o’i gymharu â £271.9m yn y flwyddyn ariannol flaenorol, cynnydd o oddeutu £24.2m (7.9%).
Yn ôl y data am lwyth achosion misol o fodel rhagamcanu:
- Roedd 106,988 o aelwydydd pensiynwyr yng Nghymru yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2021, o’i gymharu â 110,744 ym mis Mawrth 2020. Mae hyn yn golygu bod llwyth achosion pensiynwyr yn cynnwys 3,756 yn llai o achosion (3.4%).
- Roedd 177,911 o aelwydydd oedran gweithio yng Nghymru yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2021, o’i gymharu â 165,643 ym mis Mawrth 2020, sy’n gynnydd o 12,268 o achosion (7.4%).
- O blith y 283,116 o aelwydydd yng Nghymru a oedd yn cael gostyngiad, nid oedd 226,482 (80.0%) yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.
- Ym mis Mawrth 2021, roedd 48.9% o’r aelwydydd a oedd yn cael gostyngiad yn achosion wedi’u pasbortio, ac 19.9% yn achosion safonol heb eu pasbortio. Roedd 31.2% o aelwydydd a gafodd ostyngiad yn y dreth gyngor yn derbyn Credyd Cynhwysol.
- Y Credyd Pensiwn oedd y math mwyaf cyffredin o achos wedi’i basbortio, ac roedd yn cyfrif am oddeutu 22.4% o holl achosion y Cynllun Gostyngiadau.
- Roedd 84.3% o’r aelwydydd a oedd yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor yn byw mewn eiddo Bandiau A-C ym mis Mawrth 2021, gostyngiad o 0.7% pwynt canran ers mis Mawrth 2020.
- Cafodd Tribiwnlys Prisio Cymru 28 apêl newydd yn ymwneud â’r Cynllun Gostyngiadau rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021, o’i gymharu â 29 yn y flwyddyn ariannol flaenorol.
Cefndir
Yn yr Adolygiad o Wariant yn 2010, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei bwriad i ddiddymu Budd-dal y Dreth Gyngor. Rhoddodd gyfrifoldeb i awdurdodau lleol yn Lloegr dros ddatblygu trefniadau newydd. Ar yr un pryd, cyhoeddodd gynlluniau i drosglwyddo cyllid i'r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru a’r Alban, gan ddisgwyl y bydden nhw’n sefydlu trefniadau newydd. Cafodd y cyllid i roi cymorth ar gyfer y dreth gyngor ei drosglwyddo o gyllidebau seiliedig ar alw i gyllidebau sefydlog, gan ei chwtogi 10%.
Ar 1 Ebrill 2013, cafodd Budd-dal y Dreth Gyngor yng Nghymru ei ddisodli gan y Cynllun Gostyngiadau. Cafodd aelwydydd cymwys eu trosglwyddo'n awtomatig i'r cynllun newydd. Roedd y rheoliadau a gyflwynwyd gennym yn 2013 yn seiliedig i raddau helaeth ar yr hen reolau ar gyfer Budd-dal y Dreth Gyngor i gynnal yr hawl i gymorth. Rhoddwyd rhywfaint o ddisgresiwn lleol i’r awdurdodau lleol hefyd, sy’n galluogi pob un ohonynt i ystyried anghenion a blaenoriaethau eu hardal leol.
Darparwyd £244m yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer y Cynllun Gostyngiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2013 i fis Mawrth 2014. Cafodd cyllideb sefydlog o £222m ei throsglwyddo gan Lywodraeth y DU. Rhoesom £22m ychwanegol i helpu awdurdodau lleol i barhau i roi’r cymorth llawn y mae gan bob aelwyd gymwys yr hawl i’w gael. Rydym wedi parhau i gynnal y trefniadau hyn bob blwyddyn ers hynny. Rydym hefyd wedi parhau i gynnal yr holl hawliau i gymorth o dan y cynllun. Mae newidiadau yn niferoedd llwythi achosion yn adlewyrchu newidiadau yn nifer yr aelwydydd sy'n ymgeisio ac yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cymorth.
Yn ystod y flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021, rhoesom £10.9m ychwanegol i awdurdodau lleol i gefnogi’r Cynllun Gostyngiadau. Gwnaed hyn yn sgil y cynnydd yn nifer y ceisiadau a ddaeth i law ar gyfer y cynllun o ganlyniad i bandemig COVID-19.
Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn yn darparu data diwedd blwyddyn ar gyfer Cymru. Mae’n cynnwys llwythi gwaith a gwerth gostyngiadau rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021 yn seiliedig ar ddata rheoli achosion. Mae hefyd yn darparu dadansoddiad o'r tueddiadau a'r patrymau ers i’r Cynllun Gostyngiadau gael ei gyflwyno. Mae'r holl ffigurau sy'n ymwneud â gwerth gostyngiadau wedi'u talgrynnu i'r £1,000 agosaf.
Mae Atodiad A yn rhoi esboniadau ategol ac ystadegau ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021.
Y cynllun gostyngiadau yng Nghymru
Casglwyd data gan awdurdodau lleol ar gyfanswm y llwyth achosion ym mis Mawrth 2021 a gwerth y dyfarniadau a ddarparwyd yn y flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021. Mae llwyth achos yn cyfeirio at aelwydydd yn hytrach nag unigolion. Mewn geiriau eraill, mae rhai achosion yn cyfeirio at unigolyn, ac achosion eraill yn cyfeirio at gwpl neu deulu.
Mae Tabl 1 yn dangos mai 283,116 oedd cyfanswm y llwyth achosion ym mis Mawrth 2021. Mae hyn yn cymharu â 275,604 ym mis Mawrth 2020. Felly, mae’r llwyth achosion wedi cynyddu 7,512 o achosion (2.7%).
Mae llwyth achosion y mwyafrif o awdurdodau lleol wedi cynyddu. Ym Mhowys oedd y cynnydd canrannol mwyaf mewn llwyth achosion (8.6%). Bu gostyngiad mewn llwyth achosion ar gyfer pedwar awdurdod lleol, ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd y gostyngiad canrannol mwyaf (0.8%).
Tabl 1: Llwyth Achosion y Cynllun Gostyngiadau
| Nifer Mawrth 2020 | Nifer Mawrth 2021 | Newid (%) | |
|---|---|---|---|
| Ynys Môn | 5,739 | 5,922 | 3.2 |
| Gwynedd | 9,071 | 9,442 | 4.1 |
| Conwy | 10,103 | 10,871 | 7.6 |
| Sir Ddinbych | 9,378 | 9,698 | 3.4 |
| Sir y Fflint | 10,476 | 10,881 | 3.9 |
| Wrecsam | 11,104 | 11,648 | 4.9 |
| Powys | 9,404 | 10,217 | 8.6 |
| Ceredigion | 5,376 | 5,502 | 2.3 |
| Sir Benfro | 10,297 | 10,255 | -0.4 |
| Sir Gaerfyrddin | 16,256 | 16,201 | -0.3 |
| Abertawe | 22,416 | 22,852 | 1.9 |
| Castell-nedd Port Talbot | 17,011 | 17,322 | 1.8 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 13,155 | 13,049 | -0.8 |
| Bro Morgannwg | 9,549 | 9,754 | 2.1 |
| Rhondda Cynon Taf | 24,747 | 25,704 | 3.9 |
| Merthyr Tudful | 6,297 | 6,358 | 1.0 |
| Caerffili | 16,720 | 16,714 | 0.0 |
| Blaenau Gwent | 8,892 | 9,260 | 4.1 |
| Torfaen | 10,074 | 10,389 | 3.1 |
| Sir Fynwy | 5,780 | 6,168 | 6.7 |
| Casnewydd | 13,260 | 13,248 | -0.1 |
| Caerdydd | 30,499 | 31,661 | 3.8 |
| Cymru | 275,604 | 283,116 | 2.7 |
Gwerth y gostyngiad yw faint y mae’r rhwymedigaeth i dalu’r dreth gyngor wedi’i ostwng ar gyfer aelwydydd sy'n cael gostyngiad. Mae awdurdodau lleol yn cael arian i wneud iawn am yr incwm treth gyngor y byddent yn ei gael fel arall gan aelwydydd sy’n gymwys i gael cymorth ac sy’n gwneud cais amdano. Mae hynny’n golygu bod yr aelwydydd cymwys yn cael bil treth gyngor llai neu nad oes ganddyn nhw unrhyw fil i’w dalu.
Cyfanswm gwerth y gostyngiadau a ddarparwyd i holl aelwydydd Cymru rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021 oedd £295.1m, o'i gymharu â £271.9m yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Mae hyn yn gynnydd o oddeutu £24.2m (7.9%).
Bu cynnydd yng ngwerth y gostyngiadau a ddarparwyd ym mhob awdurdod lleol. Ym Mhowys oedd y cynnydd mwyaf (11.7%), ac yn Rhondda Cynon Taf y cynnydd lleiaf (4.0%). Mae Tabl 2 yn dangos ffigurau ar gyfer cyfanswm gwerth y gostyngiadau yn ôl awdurdod lleol.
Tabl 2: Cyfanswm gwerth dyfarniadau’r Cynllun Gostyngiadau yng Nghymru
| 2019 i 2020 (£ mil) | 2020 i 2021 (£ mil) | Newid (%) | |
|---|---|---|---|
| Ynys Môn | 5,778 | 6,326 | 8.7 |
| Gwynedd | 9,517 | 10,129 | 6.0 |
| Conwy | 10,181 | 11,268 | 9.6 |
| Sir Ddinbych | 9,939 | 10,610 | 6.3 |
| Sir y Fflint | 10,707 | 11,569 | 7.5 |
| Wrecsam | 10,097 | 11,250 | 10.2 |
| Powys | 9,777 | 11,077 | 11.7 |
| Ceredigion | 5,707 | 6,320 | 9.7 |
| Sir Benfro | 9,122 | 9,671 | 5.7 |
| Sir Gaerfyrddin | 15,594 | 17,012 | 8.3 |
| Abertawe | 21,463 | 23,183 | 7.4 |
| Castell-nedd Port Talbot | 17,802 | 19,169 | 7.1 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 14,582 | 15,298 | 4.7 |
| Bro Morgannwg | 10,097 | 11,049 | 8.6 |
| Rhondda Cynon Taf | 24,441 | 25,466 | 4.0 |
| Merthyr Tudful | 6,234 | 6,900 | 9.7 |
| Caerffili | 13,785 | 15,054 | 8.4 |
| Blaenau Gwent | 8,988 | 9,815 | 8.4 |
| Torfaen | 9,282 | 10,131 | 8.4 |
| Sir Fynwy | 6,410 | 7,235 | 11.4 |
| Casnewydd | 11,234 | 12,304 | 8.7 |
| Caerdydd | 31,124 | 34,270 | 9.2 |
| Cymru | 271,863 | 295,103 | 7.9 |
Bydd y cynnydd yng ngwerth y gostyngiadau yn rhannol o ganlyniad i'r cynnydd mewn llwyth achosion ac aelwydydd yn symud o ddyfarniad rhannol i ddyfarniad llawn oherwydd effaith pandemig COVID-19. Gellir priodoli hyn hefyd, i raddau helaeth, i gynnydd yn y dreth gyngor, sydd wedi arwain at gynnydd yn y gostyngiad cyfartalog fesul aelwyd. Mae Tabl 3 yn rhoi gwybodaeth am y cynnydd yn y dreth gyngor yn ôl awdurdod lleol ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-2021.
Tabl 3: Cynnydd yn y dreth gyngor 2020-2021
| Treth Gyngor Gyfartalog Band D (£) 2020 i 2021 | Cynnydd yn Nhreth Gyngor Gyfartalog Band D (%) ers y flwyddyn flaenoro | |
|---|---|---|
| Ynys Môn | 1,642 | 4.4 |
| Gwynedd | 1,769 | 4.1 |
| Conwy | 1,682 | 4.9 |
| Sir Ddinbych | 1,729 | 4.3 |
| Sir y Fflint | 1,679 | 4.7 |
| Wrecsam | 1,575 | 6.4 |
| Powys | 1,692 | 4.9 |
| Ceredigion | 1,661 | 4.1 |
| Sir Benfro | 1,445 | 4.9 |
| Sir Gaerfyrddin | 1,667 | 5.0 |
| Abertawe | 1,696 | 4.8 |
| Castell-nedd Port Talbot | 1,935 | 4.2 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 1,862 | 4.8 |
| Bro Morgannwg | 1,629 | 5.0 |
| Rhondda Cynon Taf | 1,799 | 3.3 |
| Merthyr Tudful | 1,944 | 5.1 |
| Caerffili | 1,471 | 5.1 |
| Blaenau Gwent | 2,009 | 4.2 |
| Torfaen | 1,690 | 4.3 |
| Sir Fynwy | 1,717 | 5.4 |
| Casnewydd | 1,478 | 6.9 |
| Caerdydd | 1,541 | 4.8 |
| Cymru | 1,667 | 4.8 |
Mae Tabl 4 yn dangos bod 20.4% o aelwydydd sy'n agored i dalu’r dreth gyngor yn cael gostyngiad ym mis Mawrth 2021.
Mae'r ffigur hwn yn amrywio o un awdurdod lleol i’r llall. Gan Sir Fynwy y mae'r nifer lleiaf o achosion mewn cymhariaeth â'r holl aelwydydd sy'n agored i dalu’r dreth gyngor (14.9%), a Blaenau Gwent sydd â'r llwyth achosion mwyaf mewn cymhariaeth â'r holl aelwydydd sy'n agored i dalu’r dreth gyngor (29.1%).
Tabl 4: Achosion y Cynllun Gostyngiadau mewn cymhariaeth ag aelwydydd sy'n agored i dalu’r dreth gyngor
| Nifer yr aelwydydd sy'n agored i dalu'r dreth gyngor | Llwyth achosion y Cynllun Gostyngiadau Mawrth 2021 | Achosion mewn cymhariaeth ag aelwydydd sy'n agored i dalu'r dreth gyngor (%) | |
|---|---|---|---|
| Ynys Môn | 34,032 | 5,922 | 17.4 |
| Gwynedd | 57,067 | 9,442 | 16.5 |
| Conwy | 55,053 | 10,871 | 19.7 |
| Sir Ddinbych | 44,027 | 9,698 | 22.0 |
| Sir y Fflint | 67,574 | 10,881 | 16.1 |
| Wrecsam | 58,633 | 11,648 | 19.9 |
| Powys | 62,840 | 10,217 | 16.3 |
| Ceredigion | 33,047 | 5,502 | 16.6 |
| Sir Benfro | 59,904 | 10,255 | 17.1 |
| Sir Gaerfyrddin | 85,544 | 16,201 | 18.9 |
| Abertawe | 106,472 | 22,852 | 21.5 |
| Castell-nedd Port Talbot | 64,185 | 17,322 | 27.0 |
| Pen-y-bont ar Ogw | 63,609 | 13,049 | 20.5 |
| Bro Morgannwg | 58,103 | 9,754 | 16.8 |
| Rhondda Cynon Taf | 105,356 | 25,704 | 24.4 |
| Merthyr Tudful | 26,593 | 6,358 | 23.9 |
| Caerffili | 77,599 | 16,714 | 21.5 |
| Blaenau Gwent | 31,842 | 9,260 | 29.1 |
| Torfaen | 41,405 | 10,389 | 25.1 |
| Sir Fynwy | 41,321 | 6,168 | 14.9 |
| Casnewydd | 67,402 | 13,248 | 19.7 |
| Caerdydd | 146,974 | 31,661 | 21.5 |
| Cymru | 1,388,582 | 283,116 | 20.4 |
Tueddiadau a phatrymau
Daw'r ffigurau yn y bennod hon o adnodd modelu a rhagamcanu. Mae'r model yn tynnu gwybodaeth fanwl am achosion y Cynllun Gostyngiadau o systemau refeniw a budd-daliadau craidd awdurdodau lleol Cymru. Cymerir cipluniau o lwyth achosion y Cynllun Gostyngiadau yn fisol a defnyddir yr wybodaeth i amcangyfrif cyfanswm gwerth y gostyngiadau ar gyfer y flwyddyn. Yn ogystal â ffigurau cyffredinol am lwyth achosion a gostyngiadau, mae'r model hefyd yn rhoi gwybodaeth gryno am nodweddion amrywiol yr aelwydydd sy'n cael gostyngiad yn y dreth gyngor.
Mae’n bwysig nodi bod y set ddata hon yn darparu data sy’n wahanol i’r data diwedd blwyddyn a nodwyd yn y bennod flaenorol. Ym mis Mawrth 2021, y llwyth achosion a ddarparwyd gan awdurdodau lleol oedd 283,116 o'i gymharu â 284,907 a dynnwyd o'r model, gwahaniaeth o 1,791.
Ar sail y model, cynnydd o 8,485 o achosion oedd y gwahaniaeth rhwng y ffigur diwedd blwyddyn ym mis Mawrth 2021 (284,907) a’r llwyth achosion agored ar gyfer mis Mawrth 2020 (276,422).
Llwyth achosion cyffredinol
Mae Ffigur 1 yn dangos tuedd y llwyth achosion ers cyflwyno’r Cynllun Gostyngiadau ym mis Ebrill 2013. Mae hyn yn dangos bod y llwyth achosion wedi gostwng dros 50,000 i 272,795 rhwng mis Ebrill 2013 a dechrau mis Ebrill 2020.
Oherwydd effaith y pandemig, aeth y duedd hon i’r cyfeiriad arall yn ystod y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud ac erbyn mis Awst 2020 cynyddodd lefelau i 287,506, yr uchaf ers mis Tachwedd 2017. Mae'r llwyth achosion wedi gostwng wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio ac ym mis Mawrth 2021, 284,907 oedd cyfanswm y llwyth achosion. Mae hyn wedi cynyddu 3.1% o’i gymharu â mis Mawrth 2020.
Mae Tabl A1 yn Atodiad A yn rhoi’r ffigurau misol ar gyfer y llwyth achosion byw rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021 yn ôl awdurdod lleol. Mae’n rhoi dadansoddiad pellach yn ôl llwythi achosion oedran gweithio a phensiwn.
Effaith COVID-19 ar y Cynllun Gostyngiadau
Gofynnwyd i Policy in Practice gynnal ymchwil i ddeall sut mae llwyth achosion y Cynllun Gostyngiadau a gwerth dyfarniadau gostyngiadau yn y dreth gyngor wedi newid ers dechrau'r pandemig a'r effaith ar ôl-ddyledion y dreth gyngor yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad interim ym mis Ionawr 2021 a’r adroddiad terfynol ym mis Gorffennaf 2021.
Mae'r adroddiad yn nodi bod cau'r economi'n rhannol oherwydd COVID-19 wedi achosi sioc economaidd ledled y DU a bod llawer o aelwydydd wedi gorfod dibynnu ar fudd-daliadau seiliedig ar brawf modd am y tro cyntaf. Fodd bynnag, nid yw effaith COVID-19 ar y Cynllun Gostyngiadau wedi bod yn unffurf ar draws awdurdodau lleol Cymru. Daw'r adroddiad i'r casgliad bod gan awdurdodau lleol rôl allweddol i'w chwarae o ran cefnogi eu cymunedau ac y bydd angen hyn fwyfwy, yn enwedig o fis Ebrill 2021, er mwyn atal sioc incwm rhag troi'n argyfwng. Bydd helpu aelwydydd i gynyddu incwm i'r eithaf, a rheoli dyled, yn ogystal â chreu amodau lle mae aelwydydd wedi'u harfogi i ddychwelyd i gyflogaeth pan fydd amodau economaidd yn caniatáu hynny, yn bwysig i'r adferiad.
Llwyth achosion y Cynllun Gostyngiadau yn ôl oedran
Mae Ffigur 2 yn Atodiad A yn nodi canran yr aelwydydd sy'n derbyn gostyngiad yn y dreth gyngor yn ôl grŵp oedran ac awdurdod lleol.
- Llwyth achosion Caerdydd sydd â'r gyfran uchaf o aelwydydd oedran gweithio (70.3%) ac felly y gyfran isaf o aelwydydd pensiynwyr (29.7%).
- Llwyth achosion Gwynedd ac Ynys Môn sydd â'r cyfrannau uchaf o aelwydydd pensiynwyr (44.7%) a'r cyfrannau isaf o aelwydydd oedran gweithio (55.3%).
Mae Tabl A2 yn Atodiad A yn rhoi’r ffigurau ar gyfer y llwyth achosion gwirioneddol yn ôl grŵp oedran gan ddangos y newid canrannol rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r llwyth achosion oedran gweithio wedi cynyddu'n sylweddol oherwydd effaith y pandemig wedi i lawer o bobl golli eu swyddi neu ran o'u hincwm. Ym mis Mawrth 2021, roedd 177,911 o achosion oedran gweithio. Mae hyn yn gynnydd o 12,268 o achosion o’i gymharu â mis Mawrth 2020 (7.4%). Bu cynnydd yn llwyth achosion oedran gweithio pob awdurdod lleol. Ym Mhowys oedd y cynnydd mwyaf (26.9%), ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr y cynnydd lleiaf (0.3%).
Cyn y pandemig, roedd y llwyth achosion oedran gweithio wedi bod yn lleihau’n gyson ers 2013. Gallai hyn fod o ganlyniad i nifer y bobl sy'n gadael y system fudd-daliadau'n gyfan gwbl oherwydd gwelliannau yn y sefyllfa economaidd gyffredinol a/neu effeithiau cronnol diwygiadau i’r system les. Fodd bynnag, y rhagolygon o hyd yw y bydd diweithdra’n cynyddu pan ddaw’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws i ben yn ddiweddarach eleni, a allai wrthdroi’r duedd hon.
Ar y llaw arall, roedd 106,988 o aelwydydd pensiynwyr yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2021 o'i gymharu â 110,744 ym mis Mawrth 2020. Mae’r ffigur hwn wedi lleihau 3.4%. Ym Merthyr Tudful oedd y gostyngiad mwyaf (5.4%) a bu gostyngiad yn llwyth achosion pensiynwyr pob awdurdod lleol.
Ers 2013 mae llwyth achosion cyffredinol aelwydydd pensiynwyr ledled Cymru wedi gostwng 20%. Gallai hyn fod yn rhannol oherwydd newidiadau yn oedran pensiwn y wladwriaeth ar gyfer dynion a menywod. Cynyddwyd yr oedran pensiwn i 66 ar gyfer dynion a menywod ym mis Hydref 2020. Mae’n bosibl hefyd y bu gostyngiad yng nghyfran y pensiynwyr sy'n cael gostyngiad yn y dreth gyngor. Y rheswm am hyn yw bod carfannau newydd o bensiynwyr wedi tueddu i fod ar incwm uwch ac yn fwy tebygol o fod yn berchen-feddianwyr ac felly'n llai tebygol o wneud cais am ostyngiad yn eu treth gyngor. Mae'n bosibl hefyd fod COVID-19 wedi cael effaith ar geisiadau i’r Cynllun Gostyngiadau a llwyth achosion ymhlith pobl dros 65 oed.
Llwyth achosion y Cynllun Gostyngiadau yn ôl gwerth y dyfarniad
Yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, gall aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn y dreth gyngor yng Nghymru fod â hawl i gael naill ai ddyfarniad llawn pan fo eu rhwymedigaeth i dalu’r dreth gyngor yn gostwng i sero, neu ddyfarniad rhannol pan fo rhwymedigaeth arnynt o hyd i dalu rhan o'u bil treth gyngor.
Yng Nghymru ym mis Mawrth 2021, cafodd 79.5% (226,482) o aelwydydd a oedd yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor ddyfarniad llawn ac nid oedd rhwymedigaeth arnynt i dalu unrhyw dreth gyngor. Ar draws awdurdodau lleol mae hyn yn amrywio o 68.7% o aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn y dreth gyngor ym Mhowys i 84.4% o aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn y dreth gyngor yng Nghasnewydd.
Tabl 5: Canran yr aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn y dreth gyngor a gafodd ddyfarniad llawn ym mis Mawrth 2021
| Cyfanswm y dyfarniadau | Dyfarniad llawn | % | |
|---|---|---|---|
| Ynys Môn | 5,967 | 4,942 | 82.8 |
| Gwynedd | 9,421 | 7,388 | 78.4 |
| Conwy | 10,786 | 8,468 | 78.5 |
| Sir Ddinbych | 9,638 | 7,579 | 78.6 |
| Sir y Fflint | 11,127 | 8,237 | 74.0 |
| Wrecsam | 11,699 | 8,948 | 76.5 |
| Powys | 11,029 | 7,573 | 68.7 |
| Ceredigion | 5,726 | 4,467 | 78.0 |
| Sir Benfro | 10,458 | 8,256 | 78.9 |
| Sir Gaerfyrddin | 16,572 | 12,987 | 78.4 |
| Abertawe | 22,791 | 18,957 | 83.2 |
| Castell-nedd Port Talbot | 17,281 | 13,781 | 79.7 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 13,105 | 10,447 | 79.7 |
| Bro Morgannwg | 9,732 | 7,649 | 78.6 |
| Rhondda Cynon Taf | 25,622 | 21,290 | 83.1 |
| Merthyr Tudful | 6,324 | 5,199 | 82.2 |
| Caerffili | 16,702 | 14,059 | 84.2 |
| Blaenau Gwent | 9.350 | 7,193 | 76.9 |
| Torfaen | 10,553 | 7,942 | 75.3 |
| Sir Fynwy | 6,268 | 4,419 | 70.5 |
| Casnewydd | 13,184 | 11,131 | 84.4 |
| Caerdydd | 31,572 | 25,570 | 81.0 |
| Cymru | 284,907 | 226,482 | 79.5 |
Llwyth achosion y Cynllun Gostyngiadau yn ôl statws pasbortio
Os yw aelwyd yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA) neu Gredyd Pensiwn (Credyd Gwarant), cyfeirir ati fel 'achos wedi’i basbortio'. Y rheswm dros hyn yw bod yr aelwyd yn cael ei hasesu'n awtomatig ar gyfer gostyngiad yn y dreth gyngor.
Os nad yw aelwyd yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau hyn, neu os yw'n cael Credyd Cynhwysol, cyfeirir ati fel 'achos heb ei basbortio'. Y rheswm dros hyn yw y bydd angen i'r aelwyd wneud cais ar wahân am ostyngiad yn y dreth gyngor.
Yn Ffigur 3 gwelir cyfran yr aelwydydd yn y Cynllun Gostyngiadau yn ôl statws pasbortio ym mis Mawrth 2019, mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021. Mae'n dangos mai:
- Achosion wedi’u pasbortio oedd 48.9% o lwyth achosion cyffredinol gostyngiadau yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2021. Mae hyn yn cymharu â 61% ym mis Mawrth 2019.
- Achosion safonol heb eu pasbortio oedd 19.9% o achosion gostyngiadau yn y dreth gyngor yn 2021, gostyngiad o 7.3 pwynt canran ers mis Aelwydydd a oedd yn derbyn Credyd Cynhwysol oedd 31.2% o lwyth achosion cyffredinol gostyngiadau yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2021 o'i gymharu ag 11.7% yn 2019.
Wrth i'r broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol barhau, bydd cyfran yr achosion wedi’u pasbortio ac achosion safonol heb eu pasbortio yn parhau i ostwng, tra bydd cyfran yr achosion Credyd Cynhwysol yn parhau i gynyddu.
Yn Ffigur 4 yn Atodiad A gwelir cyfran yr aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn y dreth gyngor yn ôl statws ar gyfer pob awdurdod lleol ym mis Mawrth 2021. Mae'n dangos y canlynol:
- Yn Nhorfaen, mae bron i 40% o aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn y dreth gyngor yn derbyn Credyd Cynhwysol, gyda chyfran debyg o achosion yn derbyn budd-daliadau wedi’u pasbortio.
- Mewn cyferbyniad, yng Nghaerffili, mae 57.4% o aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn y dreth gyngor yn dal i dderbyn budd-daliadau wedi’u pasbortio gyda dim ond 24.3% yn derbyn Credyd Cynhwysol.
Newidiadau i’r llwyth achosion yn ôl statws incwm
Yn Ffigur 5 yn Atodiad A gwelir y newid mewn llwyth achosion yn ôl statws incwm rhwng Mawrth 2020 a Mawrth 2021. Mae’n dangos y canlynol:
- Mae achosion wedi’u pasbortio (JSA, ESA, Cymhorthdal Incwm a Chredyd Pensiwn) wedi gostwng 11,916 ers 2020 (7.9%).
- Bu gostyngiad o 8,809 (13.5%) yn nifer yr achosion safonol heb eu pasbortio.
- Mewn cyferbyniad, 88,861 oedd nifer yr achosion Credyd Cynhwysol ym mis Mawrth 2021, o'i gymharu â 59,651 ym mis Mawrth 2020, cynnydd o 49.0%.
Y budd-daliadau pasbortio mwyaf cyffredin oedd ESA a Chredyd Pensiwn a oedd yn cyfrif am ychydig o dan hanner yr holl achosion o ostyngiadau yn y dreth gyngor ledled Cymru.
Mae Tabl A3 yn Atodiad A yn rhoi'r ffigurau ar gyfer y llwyth achosion gwirioneddol yn ôl statws incwm ac awdurdod lleol ar gyfer Mawrth 2021.
Effaith Credyd Cynhwysol ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Mae Credyd Cynhwysol yn disodli chwech o’r prif fudd-daliadau oedran gweithio sy’n seiliedig ar brawf modd: Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA), Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai, Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith.
Rhaid i aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol wneud cais ar wahân am ostyngiad yn y dreth gyngor. Mae hyn yn wahanol i’r sefyllfa flaenorol lle byddent efallai wedi cael eu hasesu ar gyfer gostyngiad yn y dreth gyngor fel rhan o’r broses o dderbyn eu budd-daliadau pasbortio. Yn yr achosion hyn, doedd dim angen i aelwydydd cymwys fod yn rhagweithiol o ran gwneud cais am ostyngiad yn y dreth gyngor.
Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod y newid hwn yn y dull gweithredu yn effeithio ar y llwyth achosion cyffredinol ar gyfer gostyngiadau yn y dreth gyngor yng Nghymru, wrth i aelwydydd a aeth drosodd i’r system Credyd Cynhwysol adael system ostyngiadau’r dreth gyngor oherwydd diffyg ymwybyddiaeth am y dull newydd. Mae Credyd Cynhwysol hefyd yn effeithio ar gymhwysedd aelwydydd i gael gostyngiad yn y dreth gyngor, er enghraifft, os oes gan aelwyd incwm uwch yn sgil Credyd Cynhwysol o’i gymharu â’i hincwm o’r blaen, efallai y bydd yn cael llai o ostyngiad yn y dreth gyngor neu efallai na fydd yn bodloni’r meini prawf o gwbl ar gyfer cael gostyngiad.
Gwnaethom gomisiynu asesiad manwl o effaith Credyd Cynhwysol ar y Cynllun Gostyngiadau yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol gan Policy in Practice ym mis Gorffennaf 2020.
Daw’r adroddiad i’r casgliad bod Credyd Cynhwysol yn newid sylweddol i’r system cymorth lles ar gyfer aelwydydd incwm isel. Mae'r adroddiad yn darparu tystiolaeth bod symud i Gredyd Cynhwysol yn cael effaith ar wytnwch aelwydydd a lefelau dyled preswylwyr incwm isel yng Nghymru.
Llwyth achosion y Cynllun Gostyngiadau yn ôl math o deulu
Yn Ffigur 6 yn Atodiad A gwelir newidiadau yn llwyth achosion gostyngiadau yn y dreth gyngor yn ôl math o deulu. Mae’n dangos y canlynol:
- Y categori mwyaf yw aelwydydd un oedolyn heb ddibynyddion. Mae'r aelwydydd hyn wedi cynyddu 4.1% ers mis Mawrth 2020, i 169,105 sy’n cyfrif am 59% o gyfanswm yr achosion ym mis Mawrth 2021.
- Mae nifer yr aelwydydd rhiant sengl wedi cynyddu 1.5% ers mis Mawrth 2020, i 52,255 sy’n cyfrif am 18% o gyfanswm yr achosion ym mis Mawrth 2021.
- Mae nifer yr aelwydydd sy'n cynnwys cwpl heb ddibynyddion wedi cynyddu 0.3% ers mis Mawrth 2020, i 41,075 sy’n cyfrif am 14% o gyfanswm yr achosion ym mis Mawrth 2021.
- Mae nifer yr aelwydydd sy'n cynnwys cwpl a phlant dibynnol wedi gostwng 4.0% ers mis Mawrth 2020, i 22,472 sy’n cyfrif am 8% o gyfanswm yr achosion ym mis Mawrth 2021.
Mae Tabl A4 yn Atodiad A yn rhoi’r ffigurau ar gyfer y llwyth achosion gwirioneddol yn ôl math o deulu ac awdurdod lleol ar gyfer mis Mawrth 2021.
Llwyth achosion y Cynllun Gostyngiadau yn ôl band y dreth gyngor
Mae Ffigur 7 yn Atodiad A yn dangos cyfran aelwydydd y Cynllun Gostyngiadau yn ôl band y dreth gyngor ym mis Mawrth 2021 yng Nghymru. Rhoddir pob annedd drethadwy mewn band treth gyngor yn dibynnu ar werth yr eiddo ar y farchnad ar 1 Ebrill 2003. Eiddo band A sydd â’r cyfraddau isaf o'r dreth gyngor ac eiddo band I sydd â’r cyfraddau uchaf (mae Band A- yn adlewyrchu cyfradd ostyngol ar gyfer eiddo a addaswyd ar gyfer pobl anabl).
Yng Nghymru, roedd 84% o'r aelwydydd a oedd yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor yn byw mewn eiddo ym mandiau A- i C ym mis Mawrth 2021. Gellir priodoli hyn yn rhannol i ddosbarthiad cyffredinol anheddau ar draws bandiau'r dreth gyngor yng Nghymru, gyda bron i dri chwarter yr holl anheddau trethadwy yng Nghymru ym mandiau A i D.
Yn Ffigur 8 yn Atodiad A gwelir canran llwyth achosion cyffredinol pob awdurdod lleol yn ôl bandiau'r dreth gyngor A i C, D ac E i I. Mae'n dangos y canlynol:
- Ym Mlaenau Gwent, roedd 98.2% o aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn y dreth gyngor mewn eiddo bandiau A i C, gyda dim ond 53 o aelwydydd (0.6%) ym mandiau E i I.
- Yn Sir Fynwy, roedd 60.1% o aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn y dreth gyngor mewn eiddo bandiau A i C, a 15.4% ym mandiau E i I.
Mae Ffigur 9 yn dangos cyfran yr anheddau trethadwy sy'n cael gostyngiad yn y dreth gyngor yn ôl band y dreth gyngor. Band A sydd â'r gyfran uchaf o anheddau sy'n cael gostyngiad, sef 43.7%. Bandiau E i I sydd â’r gyfran isaf o anheddau sy'n cael gostyngiad, sef 5.0%.
Mae Tabl A5 yn Atodiad A yn rhoi’r ffigurau ar gyfer llwyth achosion gwirioneddol y Cynllun Gostyngiadau yn ôl awdurdod lleol a band y dreth gyngor ym mis Mawrth 2021.
Meysydd disgresiwn lleol
O dan Reoliadau’r Cynllun Gostyngiadau, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru fabwysiadu ei gynllun ei hun ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol erbyn 31 Ionawr. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys meysydd disgresiwn lleol, er mwyn i awdurdodau allu ystyried anghenion a blaenoriaethau eu hardal leol. Aeth pob awdurdod ati i fabwysiadu cynllun, ond petai un ohonyn nhw heb wneud hynny, byddai’r cynllun diofyn wedi cael ei gyflwyno er mwyn sicrhau bod aelwydydd cymwys yn dal i gael cymorth ariannol i gyflawni eu rhwymedigaeth i dalu’r dreth gyngor.
Dyma’r meysydd disgresiwn lleol lle gall awdurdod lleol ddewis cyflwyno darpariaethau mwy hael na’r gofynion sylfaenol yn y rheoliadau:
- Cyfnod gostyngiad estynedig: gall awdurdodau lleol gynyddu’r cyfnod lle bydd gan ymgeiswyr hawl i barhau i gael gostyngiad mewn rhai amgylchiadau, y tu hwnt i’r cyfnod safonol o bedair wythnos.
- Ôl-ddyddio ceisiadau: gall awdurdodau lleol ôl-ddyddio ceisiadau am ostyngiadau y tu hwnt i’r cyfnod safonol o dri mis.
- Pensiwn Anabledd Rhyfel a Phensiwn Rhyfel Gweddw: gall awdurdodau lleol ddiystyru mwy na’r swm statudol o £10 a gafwyd mewn perthynas â’r pensiynau hyn wrth gyfrifo incwm.
Mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi parhau i wneud y penderfyniadau canlynol ynghylch eu Cynllun Gostyngiadau:
- Ni wnaeth unrhyw awdurdod lleol estyn y cyfnod safonol o bedair wythnos pan fydd gan ymgeiswyr hawl i barhau i gael gostyngiad mewn rhai amgylchiadau.
- Dewisodd un awdurdod ôl-ddyddio hawliadau am hyd at 26 wythnos yn hytrach na thri mis.
- Penderfynodd pob awdurdod ddiystyru Pensiynau Rhyfel yn llwyr wrth gyfrifo incwm, uwchlaw’r swm statudol o £10 a gafwyd mewn perthynas â phensiynau rhyfel.
Ceir manylion am gynllun pob awdurdod lleol ar eu gwefannau unigol.
Apeliadau
Tribiwnlys Prisio Cymru
Ers cyflwyno’r Cynllun Gostyngiadau ar 1 Ebrill 2013, Tribiwnlys Prisio Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am wrando ar apeliadau sy’n deillio o’r penderfyniadau ynghylch y Cynllun Gostyngiadau. Rhaid i unigolion sy’n talu’r dreth gyngor gyflwyno cwyn yn uniongyrchol i’w hawdurdod lleol cyn gallu cofrestru apêl.
Mae Tabl 6 yn dangos canlyniad yr apeliadau ynglŷn â’r Cynllun Gostyngiadau a gyflwynwyd i Dribiwnlys Prisio Cymru yn y flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021. Daeth 28 apêl i law a chafodd 27 eu dwyn ymlaen o'r flwyddyn ariannol flaenorol.
Cafodd 15 achos eu setlo cyn gwrandawiad panel y tribiwnlys. Fel arfer, mae canlyniadau’r achosion hyn yn mynd o blaid y sawl sy’n apelio, gan fod awdurdod wedi ailystyried ei benderfyniad cychwynnol ar ôl cael tystiolaeth ychwanegol ynghylch hawliad y sawl sy’n apelio. Ddiwedd mis Mawrth 2021, roedd 28 o achosion heb eu cwblhau eto.
Tabl 6: Apeliadau i Dribiwnlys Prisio Cymru rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021
| Apeliadau addaeth i law | Wedi'u dwyn ymlaen o'r cyfnod blaenorol | Wedi’u setlo cyn gwrandawiad y tribiwnlys | Wedi’u penderfynu gan y tribiwnlys | Dileu | Wedi’u dwyn ymlaen i'r cyfnod nesaf |
|---|---|---|---|---|---|
| 28 | 27 | 15 | 12 | 0 | 28 |
