Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae cymorth gyda biliau treth gyngor drwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (y Cynllun) Llywodraeth Cymru yn rhan hanfodol o’r system les ehangach i aelwydydd ar incwm isel. Mae’r ymgynghoriad technegol hwn yn cynnig newid wedi’i dargedu i’r Cynllun gyda’r nod o symleiddio prosesau gweinyddol a gwella sicrwydd ariannol i drigolion, ond gan gadw cymorth ar yr un pryd. Nod y cynigion yw sicrhau bod y Cynllun yn gweithio’n fwy effeithiol i gynghorau a cheiswyr fel ei gilydd.

Nid oes dim yn yr ymgynghoriad hwn yn cyflwyno cyfyngiadau newydd ar gymhwystra ac nid yw’n newid unrhyw beth arall am y Cynllun.

Dim ond i Gymru y mae'r ymgynghoriad yn berthnasol. 

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 23 Medi 2026, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

CTaNDR.ymgyngoriadau@llyw.cymru

Polisi’r Dreth Gyngor
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Manylion cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth:

Polisi’r Dreth Gyngor
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

E-bost: CTaNDR.ymgyngoriadau@llyw.cymru

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd: Council Tax Reduction Scheme in Wales: technical consultation on reassessment thresholds | GOV.WALES

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni fydd eich enw a'ch manylion cyswllt yn cael eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’ch ymateb, rhowch wybod inni wrth anfon eich ymateb ac fe wnawn ni eu cynnwys.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD 
CF10 3NQ

e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/

Cyflwyniad i Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wella ei Chynllun yn barhaus. Mae’n rhoi cymorth hanfodol i tua 256,000 o aelwydydd incwm isel ledled Cymru. Ers cyflwyno’r Cynllun yn 2013, rydym wedi parhau i ddiogelu aelwydydd sy’n agored i niwed ac aelwydydd incwm isel drwy barhau â hawliadau llawn i gael cymorth. Rydym yn disgwyl y bydd angen o hyd i ddarparu cynllun ac rydym yn adolygu’r ddeddfwriaeth, dyluniad y Cynllun, a’r prosesau gweinyddol, gyda’r nod o wneud y Cynllun yn haws i’w ddefnyddio ac yn haws i’w weinyddu. Fodd bynnag, mae’n bwysig pwysleisio nad yw’r Cynllun yn cael ei ddileu ac na fydd cyfyngiadau ar gymhwystra. Mae gweithgor o ymarferwyr awdurdodau lleol yn helpu i ystyried gwelliannau, ochr yn ochr ag ymgysylltu’n rheolaidd â rhwydweithiau cynghori.

Ffocws yr ymgynghoriad hwn

Wrth inni barhau i adolygu’r Cynllun, mae’r ymgynghoriad technegol hwn yn canolbwyntio ar newidiadau ymarferol y gellid eu rhoi ar waith yn 2027-28 i fynd i’r afael â nifer yr ailasesiadau a achosir oherwydd amrywiadau mewn Credyd Cynhwysol, er mwyn gwneud prosesau gweinyddol yn llai cymhleth, a pharhau i roi cymorth i aelwydydd ar yr un pryd. 

Mater: Ailasesiadau amlach o ostyngiadau’r dreth gyngor o dan Gredyd Cynhwysol

Ers cyflwyno Credyd Cynhwysol mae’r ffordd y mae incwm aelwydydd yn cael ei asesu at ddibenion budd-daliadau wedi newid yn sylfaenol. O dan Gredyd Cynhwysol, asesir incwm yn fisol, gan ddefnyddio gwybodaeth amser real CThEF. Mae hyn yn wahanol i fudd-daliadau etifeddol, lle mae incwm fel arfer yn cael ei gyfartaleddu dros gyfnod hwy a mwy sefydlog. O ganlyniad, gall aelwydydd sy’n cael Credyd Cynhwysol brofi amrywiadau amlach yn eu hincwm a gofnodwyd.

Dechreuodd problemau ailasesu ddod i’r amlwg wrth i’r broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol gyflymu. Canfu ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gan Policy in Practice yn 2020 fod Credyd Cynhwysol yn dechrau achosi problem strwythurol o ran y Cynllun, a allai arwain at ailasesiadau llawer amlach o dan y Cynllun yn y dyfodol, costau gweinyddol uwch a dryswch i geiswyr. Wrth i fwy o hawlwyr symud i Gredyd Cynhwysol yng Nghymru o fudd-daliadau etifeddol yn y blynyddoedd ers hynny, mae mater ailasesiadau wedi dod yn fwy amlwg. Mae ymchwil bellach i’r mater hwn wedi ystyried sut mae rhai cynghorau yn Lloegr wedi ceisio mynd i’r afael â nifer yr ailasesiadau.

Gan fod newidiadau yn incwm rhywun yn sbardun i ailasesu Credyd Cynhwysol, ac felly ailasesu ei hawl i gael gostyngiad o dan y Cynllun, mae’r newid i Gredyd Cynhwysol wedi arwain at ailasesiadau amlach i aelwydydd o oedran gweithio. Mae dadansoddiad o ddata misol yn dangos, dros gyfnod o 12 mis, fod 26% o aelwydydd a oedd yn cael Credyd Cynhwysol wedi profi o leiaf un newid yn eu hincwm, o’i gymharu ag 8% o aelwydydd sy’n cael budd-daliadau etifeddol. O ganlyniad, roedd hawliadau o dan y Cynllun ar gyfer aelwydydd sy’n cael Credyd Cynhwysol yn gofyn am oddeutu pedair gwaith gymaint o ailasesiadau o gymharu â’r rhai o dan drefniadau lles etifeddol.

Yr achos dros newid

Effaith weinyddol ar gynghorau

Mae’r angen am ailasesiadau amlach yn creu pwysau gweinyddol ychwanegol ar gynghorau. Mae costau yn codi o ddechrau’r broses i’r diwedd, gan gynnwys prosesu ailasesiadau, anfon biliau treth gyngor diwygiedig, ac ymateb i fwy o ymholiadau gan drigolion. Gall newidiadau amlach i ddyfarniadau o dan y Cynllun hefyd arwain at sefyllfa lle mae aelwydydd yn cael nifer o filiau o fewn cyfnod byr, sy’n gwneud y gwaith o gasglu ac adennill y dreth gyngor yn fwy cymhleth. 

Effaith ar geiswyr

O ran ceiswyr, gall ailasesiadau aml achosi dryswch ac ansicrwydd ynglŷn â’r rhwymedigaeth barhaus i dalu’r dreth gyngor. Mae newidiadau mynych i filiau yn ei gwneud yn fwy anodd i aelwydydd ddeall beth y disgwylir iddynt ei dalu a gallant gynyddu’r risg o ôl-ddyledion, yn enwedig i’r rhai sydd ag incwm isel ac amrywiol. Mae tystiolaeth o arolygon o geiswyr hefyd yn awgrymu dryswch ehangach ymhlith y rhai sy’n cael Credyd Cynhwysol ynglŷn â sut mae’r Cynllun yn gweithredu, gan gynnwys camddealltwriaeth ynghylch a yw’r Cynllun yn rhan o Gredyd Cynhwysol.

Trothwyon goddefiant fel mesur lliniaru posibl

Mae rhai cynghorau yn Lloegr wedi cyflwyno trothwyon goddefiant, lle mae newidiadau bach mewn incwm yn cael eu hanwybyddu at ddibenion ailasesu o dan y Cynllun. Mae’r rhain fel arfer wedi’u pennu ar oddeutu £65 y mis. 

Mae dadansoddiad o ddata Cymru yn dangos y byddai trothwy o’r fath yn atal 61% o ailasesiadau ar gyfer achosion Credyd Cynhwysol. Yn bwysig ddigon, mae’r gwaith modelu yn dangos y byddai cymhwyso trothwy goddefiant o £65 yn gost niwtral yn fras ar gyfer cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor, gan fod newidiadau bach mewn dyfarniadau yn tueddu i wrthbwyso ei gilydd. O ran ceiswyr sy’n cael dyfarniadau rhannol o dan y Cynllun, mae gwaith modelu yn dangos y byddai cynnydd neu ostyngiad o £65 y mis yn cyfateb i’r gostyngiad neu’r cynnydd mwyaf mewn dyfarniad o dan y Cynllun o tua £3 yr wythnos. 

Cynnig Polisi

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod yr heriau a amlinellir uchod yn codi’n bennaf o’r ffordd y dyluniwyd Credyd Cynhwysol, yn hytrach na rheolau lleol y Cynllun. Heb liniaru, mae’n debygol y bydd Credyd Cynhwysol yn parhau i arwain at fwy o ailasesiadau, costau gweinyddol uwch i gynghorau, a dryswch o hyd i drigolion.

Felly, rydym yn cynnig y dylid cyflwyno, drwy reoliadau, reol goddefiant ar gyfer newidiadau bach mewn dyfarniadau o Gredyd Cynhwysol. O dan y cynnig hwn: 

  • ni fyddai newidiadau bach i daliadau Credyd Cynhwysol (o fewn y lefel goddefiant) yn sbardun i ailasesiad o dan y Cynllun. 
  • byddai dyfarniadau o dan y Cynllun yn aros yn ddigyfnewid oni bai bod Credyd Cynhwysol yn newid yn fwy na’r goddefiant. 
  • ni fyddai unrhyw filiau treth gyngor diwygiedig yn cael eu hanfon at aelwydydd; 
  • ni fyddai unrhyw newid i swm y dreth gyngor sy’n daladwy.

Mae dadansoddiad o ddyfarniadau Credyd Cynhwysol dros y 12 mis diwethaf, ochr yn ochr â thystiolaeth gan gynghorau eraill sydd eisoes wedi cyflwyno mesurau tebyg, yn awgrymu bod lefel goddefiant o £65 y mis yn cynnig y cydbwysedd gorau rhwng risg ac effaith.

Yr arwyddion yw y byddai hyn yn:

  • leihau nifer yr ailasesiadau o gymorth o dan y Cynllun i drigolion 
  • lleihau nifer yr hysbysiadau addasu treth gyngor a anfonir at drigolion 
  • lleihau nifer y newidiadau i daliadau treth gyngor a orfodir ar drigolion
  • rhoi sefydlogrwydd o ran ad-daliadau treth gyngor ac adennill treth gyngor 
  • lleihau cyswllt cwsmeriaid. 

Ar bwy y byddai’n effeithio?

Mae’r rhan fwyaf o’r rhai sy’n cael Credyd Cynhwysol yn profi newidiadau bach rheolaidd yn eu dyfarniadau o Gredyd Cynhwysol. Dros amser, disgwylir i’r effaith ar ddyfarniadau unigol o dan y Cynllun arwain at enillion neu golledion net bach iawn. Byddai newidiadau i Gredyd Cynhwysol uwchlaw’r goddefiant misol o £65 yn parhau i gael eu prosesu fel arfer. Ni fyddai’r newid hwn yn effeithio ar drigolion o oedran pensiwn, na’r rhai sy’n dal i gael budd-daliadau etifeddol. 

Ceir enghraifft ddarluniadol sy’n dangos sut y byddai’r goddefiant arfaethedig yn gweithredu yn Atodiad A. Canlyniad yr enghraifft hon yw bod nifer yr ailasesiadau o dan y Cynllun yn lleihau i 3 ailasesiad o 7 mewn cyfnod o 12 mis, o dan y cynnig i gyflwyno goddefiant.

Credwn y byddai’r newidiadau hyn yn achosi llai o ddryswch i aelwydydd ac yn rhoi mwy o sicrwydd i helpu pobl i reoli eu harian, tra byddai modd olrhain yn fras unrhyw newidiadau mewn incwm nad ydynt yn rhai bach o hyd. I gynghorau, disgwylir i’r newidiadau arwain at arbedion gweinyddol sylweddol.

Os cânt eu rhoi ar waith, rydym yn cynnig y byddai’r newidiadau hyn yn dechrau ar 1 Ebrill 2027.

Fforddiadwyedd

Mae fforddiadwyedd yn ystyriaeth allweddol i drigolion sy’n cael gostyngiad yn y dreth gyngor a’r cynghorau sy’n gyfrifol am weinyddu’r Cynllun.

I drigolion, bwriad y rheol a gynigir ynglŷn â goddefiant yw gwella sefydlogrwydd a rhagweladwyedd ariannol, yn hytrach na newid lefelau cyffredinol y cymorth yn amlach. Drwy atal newidiadau bach a mynych i Gredyd Cynhwysol rhag bod yn sbardun i ailasesiadau mynych o dan y Cynllun, byddai trigolion yn llai tebygol o gael biliau treth gyngor diwygiedig lluosog o fewn cyfnodau byr. Dylai’r sefydlogrwydd cynyddol hwn ei gwneud hi’n haws i aelwydydd, yn enwedig y rhai sydd ag incwm isel neu incwm sy’n amrywio, ddeall eu rhwymedigaeth i dalu’r dreth gyngor, cyllidebu’n effeithiol, a lleihau’r risg o ôl-ddyledion. 

I gynghorau, disgwylir i’r cynnig fod yn hawdd ei reoli’n ariannol ac yn gost niwtral yn fras. Er nad oes disgwyl i werth cyffredinol dyfarniadau o dan y Cynllun newid yn sylweddol, byddai lleihau nifer yr ailasesiadau yn lleihau costau gweinyddol sy’n gysylltiedig â phrosesu newidiadau, anfon biliau diwygiedig, ymdrin ag ymholiadau, a rheoli gweithgarwch adennill. Byddai hyn yn ei gwneud yn bosibl i gynghorau ddefnyddio adnoddau’n fwy effeithlon a pharhau i roi cymorth effeithiol i drigolion. Mae hefyd yn fuddiol i gynghorau pe bai llai o aelwydydd mewn perygl o gronni ôl-ddyledion treth gyngor am symiau bach.

At ei gilydd, credwn fod y cynnig yn taro cydbwysedd priodol drwy wella fforddiadwyedd yn ymarferol i drigolion, a pharhau i fod yn fforddiadwy ac yn hyfyw i gynghorau ei roi ar waith o dan y trefniadau ariannu presennol. Bydd y broses o gyflwyno’r lefel goddefiant yn cael ei monitro drwy rwydweithiau cydweithredol Llywodraeth Cymru gyda llywodraeth leol a gwasanaethau cynghori.

Atodiad A: enghreifftiau o reolau goddefiant Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Ceir isod enghraifft o sut mae’r rheol arfaethedig ynglŷn â goddefiant treth gyngor yn cael ei chymhwyso yn seiliedig ar ‘lefel goddefiant dybiedig’ o fwy/llai na £65 y mis.

Mis: Ebrill 2025
Swm gwirioneddol Credyd Cynhwysol: £1,000
Dyfarniad gostyngiad yn y Dreth Gyngor: £40
Sail y dyfarniad: Dyfarniad cychwynnol o £40 o dan y Cynllun yn seiliedig ar swm Credyd Cynhwysol o £1,000 

Mis: Mehefin 2025
Swm gwirioneddol Credyd Cynhwysol: yn cynyddu i £1,050. Mae’r swm hwn o fewn y lefel goddefiant. 
Dyfarniad o dan y Cynllun: heb ei ailasesu, yn aros yn £40.
Mae swm y Credyd Cynhwysol wedi cynyddu o £1,000 i £1,050. Gan fod y cynnydd hwn (£50) o fewn y lefel goddefiant o £65, ni chaiff y dyfarniad o dan y Cynllun ei ailasesu ac mae’n aros yn £40. 
Mae swm llinell sylfaen y Credyd Cynhwysol a ddefnyddir ar gyfer y dyfarniad o dan y Cynllun yn aros yn £1,000.

Mis: Gorffennaf 2025
Swm gwirioneddol Credyd Cynhwysol: yn cynyddu i £1,100. Nid yw hyn o fewn y lefel goddefiant bellach.
Dyfarniad o dan y Cynllun: ailaseswyd yn £35.
Mae swm y Credyd Cynhwysol wedi cynyddu o £1,000 i £1,100. Gan fod y cynnydd hwn (£100) yn fwy na’r lefel goddefiant o £65, caiff y dyfarniad o dan y Cynllun ei ailasesu a’i leihau i £35. 
Mae swm llinell sylfaen y Credyd Cynhwysol a ddefnyddir ar gyfer y dyfarniad o dan y Cynllun yn cael ei ailbennu’n £1,100.

Mis: Awst 2025
Swm gwirioneddol Credyd Cynhwysol: yn cynyddu i £1,150. Mae’r swm hwn o fewn y lefel goddefiant.
Dyfarniad o dan y Cynllun: heb ei ailasesu, yn aros yn £35.
Mae swm y Credyd Cynhwysol wedi cynyddu o £1,100 i £1,150. Gan fod y cynnydd hwn (£50) o fewn y lefel goddefiant o £65, ni chaiff y dyfarniad o dan y Cynllun ei ailasesu ac mae’n aros yn £35. 
Mae swm llinell sylfaen y Credyd Cynhwysol a ddefnyddir ar gyfer y dyfarniad o dan y Cynllun yn aros yn £1,100.

Mis: Hydref 2025
Swm gwirioneddol Credyd Cynhwysol: yn gostwng i £900. Nid yw hyn o fewn y lefel goddefiant bellach.
Dyfarniad o dan y Cynllun: ailaseswyd yn £45.
Mae swm y Credyd Cynhwysol wedi gostwng o £1,100 i £900. Gan fod y gostyngiad hwn (£200) yn fwy na’r lefel goddefiant o £65, caiff y dyfarniad o dan y Cynllun ei ailasesu a’i gynyddu i £45. 
Mae swm llinell sylfaen y Credyd Cynhwysol a ddefnyddir ar gyfer y dyfarniad o dan y Cynllun yn cael ei ailbennu’n £900.

Mis: Tachwedd 2025
Swm gwirioneddol Credyd Cynhwysol: yn cynyddu i £950. Mae’r swm hwn o fewn y lefel goddefiant.
Dyfarniad o dan y Cynllun: heb ei ailasesu, yn aros yn £45.
Mae swm y Credyd Cynhwysol yn cynyddu o £900 i £950. Gan fod y cynnydd hwn (£50) o fewn y lefel goddefiant o £65, ni chaiff y dyfarniad o dan y Cynllun ei ailasesu ac mae’n aros yn £45. 
Mae swm llinell sylfaen y Credyd Cynhwysol a ddefnyddir ar gyfer y dyfarniad o dan y Cynllun yn aros yn £900.

Mis: Rhagfyr 2025
Swm gwirioneddol Credyd Cynhwysol: yn gostwng i £900. Mae’r swm hwn o fewn y lefel goddefiant.
Dyfarniad o dan y Cynllun: heb ei ailasesu, yn aros yn £45.
Gan nad oes unrhyw newid i swm y Credyd Cynhwysol ar gyfer y dyfarniad o dan y Cynllun, mae’n aros yn £45. 
Mae swm llinell sylfaen y Credyd Cynhwysol a ddefnyddir ar gyfer y dyfarniad o dan y Cynllun yn aros yn £900.

Mis: Mawrth 2026
Swm gwirioneddol Credyd Cynhwysol: yn gostwng i £830. Nid yw hyn o fewn y lefel goddefiant bellach.
Dyfarniad o dan y Cynllun: ailaseswyd yn £48.
Mae swm y Credyd Cynhwysol yn gostwng o £900 i £800. Gan fod y gostyngiad hwn (£70) yn fwy na’r lefel goddefiant o £65, caiff y dyfarniad o dan y Cynllun ei ailasesu a’i gynyddu i £48. 
Mae swm llinell sylfaen y Credyd Cynhwysol a ddefnyddir ar gyfer y dyfarniad o dan y Cynllun yn cael ei ailbennu’n £830.

O ganlyniad i gyflwyno lefel goddefiant lleihaodd nifer yr ailasesiadau o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor i 3 ailasesiad yn lle 7 yn ystod y cyfnod o fis Ebrill i fis Mawrth.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Hoffem glywed eich barn ar y cynigion a amlinellir uchod. 

1.A ydych chi, neu rywun yn eich aelwyd, yn cael cymorth o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar hyn o bryd? 

Ydw/oes
Na
Ddim yn siŵr
Ymateb gan randdeiliaid yw hwn

2. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid lleihau amlder ailasesiadau o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor i’r rhai sy’n cael Credyd Cynhwysol lle mae eu hincwm yn amrywio. A ydych chi’n cytuno y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno goddefiant o ran newidiadau bach mynych i ddyfarniadau Credyd Cynhwysol, i drigolion sy’n cael cymorth o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor?

Cytuno’n gryf
Cytuno
Ddim yn Cytuno nac yn Anghytuno
Anghytuno’n gryf

3. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid cyflwyno lefel goddefiant o £65 y mis, a fyddai’n rhewi dyfarniad trigolyn o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor pe bai Credyd Cynhwysol a ddyfarnwyd iddo yn cynyddu neu’n gostwng lai na £65 y mis. A ydych chi’n cytuno bod hon yn lefel goddefiant briodol? 

Cytuno’n gryf
Cytuno
Ddim yn Cytuno nac yn Anghytuno 
Anghytuno’n gryf

4. Os nad ydych chi’n cytuno â lefel goddefiant o £65 y mis, beth fyddai’r swm priodol yn eich barn chi a pham?

Sylwadau

Effeithiau ar y Gymraeg

5. Beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion ynglŷn â gostyngiadau’r dreth gyngor ar y Gymraeg yn eich barn chi? Hoffem glywed yn arbennig am unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

  • A oes unrhyw gyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol, yn eich barn chi?
  • A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi? 

Sylwadau

6. Yn eich barn chi, sut y gellid llunio neu newid y cynigion ynglŷn â gostyngiadau’r dreth gyngor er mwyn: 

  • cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu 
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Sylwadau

Materion eraill nas cwmpesir

7. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy’n benodol, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny.