Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys prosiectau refeniw sy’n cyflawni manteision, gwelliannau neu well dealltwriaeth o arferion rheoli rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ein moroedd yn gartref i rai o'r cynefinoedd a’r bywyd gwyllt mwyaf amrywiol yn Ewrop. 

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein moroedd:

  • lân
  • iach
  • diogel
  • cynhyrchiol, a
  • bioamrywiol

Mae Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPA) yn ffordd bwysig o warchod rhywogaethau a chynefinoedd. Maen nhw hefyd yn ein helpu i sicrhau Statws Amgylcheddol Da i'n dyfroedd, trwy Strategaeth Forol y DU.  

Rydym yn cydweithio â sefydliadau a mudiadau i helpu Cymru i sicrhau bod ganddi rwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy'n cael eu rheoli'n dda. Mae ein Cynllun Grant Rheoli’r Rhwydwaith yn ein helpu yn hyn o beth. 

Mae pob Awdurdod Rheoli, corff â diddordeb a mudiad trydydd sector yng Nghymru yn cael gwneud cais i Gynllun Grant Rheoli’r Rhwydwaith. 

Mae'r cynllun yn cwmpasu prosiectau refeniw sy'n sicrhau manteision neu welliannau i rwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru neu'n ein helpu i ddeall yn well sut mae eu rheoli. 

Cynllun Grant Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig: canllawiau ar gael yma.

Mae’r cynllun yn agor ar 5 Mai 2025 ac yn cau ar 30 Mehefin 2025. Mae’r ffurflen i wneud cais i Gynllun Grant Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Gwarchodedig Cymru ar gael yma.