Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau adolygiad o Gynllun Grantiau Llywodraeth Cymru sy’n anelu i gefnogi defnydd y Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru.

Nod yr adolygiad oedd cynnig arweiniad i Lywodraeth Cymru wrth iddi gynllunio model cyllido a strwythurau ar gyfer y dyfodol i gefnogi defnydd y Gymraeg.

Cyflawnwyd hyn drwy:

  • osod y Cynllun Grantiau yng nghyd-destun strategol Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr ac amcanion polisi Llywodraeth Cymru mewn meysydd perthnasol allweddol;
  • archwilio’r llenyddiaeth am fodelau arloesi, grymuso cymunedol a gweithio mewn partneriaeth, a’u perthnasedd i ddefnydd iaith;
  • archwilio modelau sy’n meithrin gallu cymunedau a buddiolwyr i fesur canlyniadau ac effaith eu gweithgarwch;
  • cynnal gwerthusiad proses o sut mae’r Cynllun Grantiau presennol yn cael ei weithredu;
  • datblygu theori newid i archwilio’r trywydd rhesymeg rhwng mewnbynnau, gweithgareddau, allbynnau a deilliannau disgwyliedig y Cynllun Grantiau.

Mae’r adolygiad yn cynnig cyfres o argymhellion ar gyfer datblygu’r Cynllun Grantiau i’r dyfodol.

Adroddiadau

Adolygiad o gynllun grantiau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adolygiad o gynllun grantiau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 414 KB

PDF
414 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Catrin Redknap

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.