Neidio i'r prif gynnwy

A) Codi refeniw i gyfrannu at gyllideb Llywodraeth Cymru

  1. Datblygu prosiect gweithredu cyfraddau treth incwm Cymru 2018 dan arweiniad CThEM, gan gynnwys ymgysylltu â'r trethdalwyr.
  2. Gosod cyfraddau treth incwm cyntaf Cymru ar gyfer gwanwyn 2019.
  3. Parhau i ddatblygu offer dadansoddi i gefnogi'r gwaith o lunio polisi trethi datganoledig a rhagweld refeniw, gan gynnwys adolygiad gan gymheiriaid a sicrwydd annibynnol o fodel treth incwm ac asesiad o fodelau treth wedi'u datganoli'n llawn yng ngoleuni'r wybodaeth alldro.
  4. Camau nesaf y ddarpariaeth rhagweld annibynnol i gyd-fynd â phroses y gyllideb.

B) Datblygu polisi a strategaeth treth Cymru

  1. Datblygu gwaith ar y syniadau am drethi newydd i Gymru, gan gynnwys profi system Deddf Cymru 2014.
  2. Parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU ynghylch yr achos i ddatganoli toll teithwyr awyr i Gymru.
  3. Ystyried polisi treth ehangach y DU a'i effaith ar sefyllfa gyllidol Cymru, gan gynnwys ardoll y diwydiant diodydd meddal; yr ardoll brentisiaethau a strwythur newidiol polisi treth y DU wrth iddi baratoi i ymadael â'r UE.
  4. Ystyried effaith a goblygiadau newidiadau wrth weinyddu trethi ar draws tirlun dreth y DU, gan gynnwys digideiddio trethi.
  5. Ystyried y rôl y gall trethi Cymru ei chwarae wrth gefnogi amcanion iechyd a llesiant y cyhoedd Llywodraeth Cymru.

C) Datblygu polisi trethi lleol, gan gynnwys wrth ddiwygio cyllid llywodraeth leol yn ehangach

  1. Gweithio i adolygu'r dreth gyngor i'w gwneud yn fwy teg, gan gynnwys sicrhau bod awdurdodau lleol yn mynd ati'n fwy rhagweithiol gan ganolbwyntio ar y dinesydd wrth reoli ôl-ddyledion.
  2. Gweithredu rhyddhad ardrethi busnesau bach sydd wedi'i dargedu'n well ym mis Ebrill 2018. Parhau i ddatblygu'r cynllun y tu hwnt i 2018 er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion Cymru.
  3. Ystyried a fyddai ffyrdd gwahanol o fynd i'r afael â threthi lleol yng Nghymru yn arwain at fanteision, fel treth gwerth tir, treth incwm lleol a threthi eraill.

D) Gweinyddu trethi lleol a chenedlaethol a reolir yng Nghymru yn effeithiol

  1. Sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru yn llwyddiannus ar 1 Ebrill 2018 i gasglu a rheoli'r ddwy dreth newydd eu datganoli – treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi.
  2. Ystyried ffyrdd newydd o atal efadu trethi, osgoi artiffisial a gwella cydymffurfiaeth holl drethi Cymru, gan gynnwys:
    1. Mesurau i fynd i'r afael ag efadu ac osgoi ardrethi annomestig
    2. Monitro'r gwaith o weithredu deddfwriaeth newydd i sicrhau ei bod yn gweithredu yn ôl y bwriad, ac nad yw'n creu cyfleoedd ar gyfer osgoi
    3. Rhoi pwerau priodol i ymchwilio a goruchwylio i Awdurdod Cyllid Cymru
    4. Awdurdod Cyllid Cymru i gasglu a dadansoddi data i gadarnhau graddau'r osgoi, yr efadu a'r diffyg cydymffurfiaeth o ran y trethi datganoledig
    5. Edrych tuag at gysondeb mewn ffordd effeithiol a theg i reoli dyledion ar gyfer trethi Cymru.
  3. Ystyried cyfleoedd i rannu data ac i gydweithio ar draws ystod o drethi Cymru a chyda sefydliadau yn y maes rheoli treth i gefnogi cydymffurfiaeth, gorfodi a phrofiad y cwsmer.

E) Ymchwil a thystiolaeth

  1. Datblygu ffordd strategol hirdymor o fynd i'r afael â blaenoriaethau, tystiolaeth a dadansoddi trethi Cymru er mwyn darparu fframwaith ar gyfer ystyriaethau polisi a gweithredu wrth symud ymlaen, yn ystod cam cyntaf gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru o gynllun gwaith 2017.
  2. Datblygu fframweithiau gwerthuso er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i ddiwallu ei hymrwymiad i adolygu'r trethi datganoledig o fewn tair i bum mlynedd o fis Ebrill 2018.