Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae’r cynllun gwaith polisi trethi hwn yn nodi’r blaenoriaethau o ran polisi trethi y bydd Llywodraeth Cymru yn eu datblygu dros y pum mlynedd nesaf.

Mae trethi Cymru, boed yn drethi datganoledig neu’n drethi lleol, yn chwarae rôl bwysig wrth helpu i gyflawni blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ac, ar yr un pryd, yn darparu refeniw hollbwysig i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol i bob un o’n dinasyddion.

Drwy gydol pandemig y coronafeirws, rydym wedi darparu cymorth hanfodol, gan gynnwys drwy ein rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau. Wrth inni geisio dod allan o’r pandemig yn gryfach, rydym yn ymrwymedig i beidio â chymryd mwy drwy gyfraddau treth incwm Cymru oddi ar deuluoedd Cymru cyhyd ag y bydd effaith economaidd coronafeirws yn parhau, o leiaf.

Byddwn hefyd yn parhau i flaenoriaethu’r rhaglen waith i ddiwygio cyllid llywodraeth leol yn benodol, er mwyn sicrhau bod y dreth gyngor yn darparu ar gyfer system decach i bawb. Dyma rai o’r blaenoriaethau a nodir yn ein cynllun gwaith sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio ein hysgogwyr treth er mwyn sefydlu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.

Dechreuodd ein taith datganoli trethi gyda gweithgarwch ymgysylltu eang ac mae’r gweithgarwch hwnnw yn dal i fod yn rhan hanfodol o’r gwaith a wnawn i sicrhau bod trethi a pholisïau trethi Cymru yn cyfrannu at Gymru well.

Rwyf wedi nodi ein cynllun gwaith polisi trethi strategol yma er mwyn sicrhau mwy o dryloywder a sicrhau bod pobl o bob cefndir yn cael y cyfleoedd gorau posibl i weithio gyda ni i ddatblygu a chyflawni ein blaenoriaethau o ran polisi trethi.

Mae croeso i chi gyfrannu ac edrychaf ymlaen at eich mewnbwn.

Rebecca Evans AS
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyflwyniad

Mae’r diweddariad i’r Fframwaith Polisi Trethi yn amlinellu’r ffordd y byddwn yn mynd ati i ddatblygu polisi trethi yng Nghymru a’i roi ar waith. Mae ein ‘dull o ymdrin â threthi’ yn gyson â’r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; ac mae’n nodi ein hymrwymiad i brif ffrydio ystyriaethau o ran polisi trethi yn y gwaith o gyflawni amcanion ehangach Llywodraeth Cymru.

Yn y ffordd hon, byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid ym mhob rhan o’r llywodraeth ac yn cydweithio i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur; brwydro yn erbyn effeithiau pandemig y coronafeirws; a gweithio i feithrin hunaniaeth Gymreig unigryw ar y llwyfan rhyngwladol.

Image
Ffigur 1: Sut mae polisi trethi yn cefnogi ein hamcanion strategol

Mae hyn yn ymwneud â mwy na chynllunio trethi unigol i sicrhau canlyniadau penodol: mae’n ymwneud ag annog pawb i feddwl am rôl a chyfraniad trethi a’r effaith y gallant ei chael ar gyflawni eu hamcanion a sefydlu Cymru decach, sy’n fwy gwyrdd ac yn fwy cyfartal.

Mae’r diweddariad i’r Fframwaith Polisi Trethi yn nodi sut mae trethi a pholisi trethi Cymru yn rhan o’n polisïau ehangach a’n seilwaith strategol cenedlaethol. Mae’n cydnabod ein cyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol newydd yng Nghymru; yr ymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu; a’r gwaith o ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur.

Mae ein cynllun gwaith strategol pum mlynedd ar gyfer polisi trethi yn adlewyrchu’r dull integredig, cydgysylltiedig hwn o ddatblygu ein blaenoriaethau o ran polisi trethi er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni uchelgeisiau ehangach Llywodraeth Cymru.

Mae gennym ddull Cymreig o ymdrin â threthi. Mae’r dull hwn a’n hegwyddorion treth yn sicrhau y pennir cyfeiriad strategol, hirdymor ar gyfer polisi trethi – un sy’n cynnig cydlyniaeth a chysondeb o ran y ffordd y mae trethi Cymru yn gweithredu o fewn y system drethu ehangach.

Mae ein hegwyddorion treth yn nodi y dylai trethi Cymru:

  • Godi refeniw i gyllido gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd sydd mor deg â phosibl.
  • Cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru.
  • Bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml.
  • Cael eu datblygu drwy gydweithredu ac ymwneud.
  • Cyfrannu’n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal.

Mae’r cynllun gwaith polisi trethi strategol hwn ar gyfer 2021-2026 yn nodi’r meysydd polisi trethi allweddol y byddwn yn rhoi blaenoriaeth iddynt yn ystod cyfnod y Senedd hon. Gellir rhannu’r meysydd hynny’n fras yn dair thema fel a ganlyn:

  1. Cyflawni amcanion strategol y llywodraeth gan gynnwys ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu.
  2. Y gwaith parhaus o adolygu polisïau a’u rhoi ar waith mewn perthynas â’n trethi presennol a meysydd polisi cysylltiedig eraill.
  3. Ffocws parhaus ar weithio gyda phartneriaid a dinasyddion er mwyn i’n dull Cymreig o ymdrin â threthi ymwreiddio, a chodi ymwybyddiaeth o drethi Cymru.

Ni chaiff y gwaith a wnawn ei gyfyngu i’r ffrydiau gwaith penodol a nodir isod. Rhagwelwn y bydd gweithgarwch pellach yn deillio o waith cwmpasu a gwaith ymchwiliol arall a wneir fel rhan o’r broses o ddatblygu rhai o’n meysydd polisi, megis gwaith ar ddatblygu’r sylfaen drethu a diwygio cyllid llywodraeth leol. Gallai fod angen ailflaenoriaethu hefyd yn sgil pwysau eraill nas rhagwelwyd ar adnoddau, gan gynnwys, os bydd angen, ymateb i gyhoeddiadau a phenderfyniadau Llywodraeth y DU y mae iddynt oblygiadau i Gymru.

Byddwn yn parhau i adolygu’r cynllun gwaith a’i ddiweddaru, lle y bo’n briodol.

Byddwn yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar gynnydd yn erbyn y cynllun gwaith hwn, gan gynnwys unrhyw newidiadau, ochr yn ochr â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

A. Cyflawni amcanion strategol y llywodraeth gan gynnwys ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu

1. Datblygu cyfraddau treth incwm Cymru

Diben

Parhau i ystyried sut y gallai newidiadau posibl i gyfraddau treth incwm Cymru effeithio ar drethdalwyr Cymreig, wrth inni gadw at ein hymrwymiad i beidio â chymryd mwy drwy gyfraddau treth incwm Cymru oddi ar drethdalwyr Cymreig cyhyd ag y bydd effaith economaidd y coronafeirws yn parhau, o leiaf.

Cefndir

Cyflwynwyd cyfraddau treth incwm Cymru (CTIC) ar 6 Ebrill 2019. Gostyngwyd cyfraddau’r DU ar incwm nad yw’n dod o gynilion na difidendau 10c ym mhob band ar gyfer trethdalwyr Cymreig a phennwyd cyfraddau Cymru ar 10c. Cyhyd ag y bydd cyfraddau Cymru yn parhau ar y lefel hon ym mhob band, bydd trethdalwyr Cymreig yn talu’r un cyfraddau treth incwm cyffredinol â’r rhai yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

CThEM sy’n gyfrifol am gasglu CTIC ar ran Gweinidogion Cymru.

Mae Bwrdd Cyfraddau Treth Incwm Cymru (Bwrdd CTIC), a gadeirir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a CThEM, yn goruchwylio’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) rhwng Llywodraeth Cymru a CThEM. Mae’r CLG yn nodi gofynion a mesurau perfformiad ar gyfer rhoi CTIC ar waith.

Gweithgarwch ac allbynnau arfaethedig

Bydd y broses barhaus o reoli CTIC yn mynd rhagddi drwy Fwrdd CTIC, gan gyfeirio at y cytundeb lefel gwasanaeth rhwng Llywodraeth Cymru a CThEM.

Helpu Gweinidogion Cymru i baratoi’r cyfraddau blynyddol arfaethedig ar gyfer CTIC, a gaiff eu cyflwyno i’r Senedd fel rhan o’r broses flynyddol o bennu’r gyllideb. Caiff y broses hon ei llywio gan yr ymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu, yn ogystal â rhagolygon trethi a’r rhagolygon economaidd a chyllidol ehangach.

Byddwn yn adrodd ar waith dadansoddi CTIC ehangach bob blwyddyn yn ein hadroddiad blynyddol ar bolisi trethi fel rhan o becyn y gyllideb ddrafft.

2. Diwygio cyllid llywodraeth leol

Diben

Gwella systemau trethiant lleol a chyllid llywodraeth leol er mwyn sicrhau eu bod yn decach ac yn fwy graddoledig, cynaliadwy a chywir ac, ar yr un pryd, yn parhau i gefnogi gwasanaethau lleol hanfodol fel addysg, gofal cymdeithasol, trafnidiaeth leol, plismona a diogelwch tân. Byddwn hefyd yn gwneud newidiadau a fydd yn cyfrannu at gyflawni ein huchelgeisiau ehangach ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach.

Cefndir

Ym mis Chwefror 2021, gwnaethom gyhoeddi Crynodeb o’r Canfyddiadau mewn perthynas â diwygiadau posibl i system gyllid llywodraeth leol. Amlinellodd yr adroddiad gyd-destun hanesyddol a gwleidyddol y system, gan ddwyn ynghyd ymchwil academaidd annibynnol. Cyflwynodd sbectrwm o opsiynau o fân ddiwygiadau i newid systemig eang. Yn eu plith mae newidiadau posibl i gyfraddau’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig, yn ogystal â dulliau amgen o godi refeniw lleol fel treth gwerth tir lleol a threthi lleol yn seiliedig ar incwm.

Mae ein Rhaglen Lywodraethu ar gyfer y chweched Senedd yn ymrwymo i’r canlynol:

  • ceisio diwygio’r dreth gyngor er mwyn sicrhau system decach i bawb
  • cyflwyno achos dros ddatganoli trethi mewn ffordd glir a sefydlog i Gymru
  • atgyfnerthu ymreolaeth ac effeithiolrwydd llywodraeth leol er mwyn sicrhau y gellir darparu gwasanaethau yn fwy effeithiol.

Mae ymrwymiadau eraill sy’n ymwneud â’r economi, cyfiawnder cymdeithasol a datgarboneiddio y gallai polisi trethi lleol gyfrannu atynt. Bydd angen parhau i ddatblygu polisi trethi hefyd wrth inni adfer yn sgil pandemig y coronafeirws ac ymadawiad y DU â’r UE.

Gall fod goblygiadau i bolisi ardrethi annomestig yng Nghymru hefyd yn sgil adolygiad sylfaenol Llywodraeth y DU o ardrethi busnes yn Lloegr.

Gweithgarwch ac allbynnau arfaethedig

Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid yn ystod camau cychwynnol y broses o gynllunio pecyn o ddiwygiadau i systemau yn y dyfodol, gan gynnwys llywodraeth leol, gwledydd eraill, a gweithwyr proffesiynol ym meysydd trethi, prisio, data a digidol. Byddwn yn amlinellu ein cerrig milltir allweddol cyn gynted ag y bydd y gwaith cwmpasu hwn wedi’i gwblhau.

Bydd unrhyw newidiadau yn galw am gyfuniad o wahanol fathau o ddeddfwriaeth, y bydd y Senedd, y cyhoedd a busnesau yn ymwneud â nhw maes o law. Bydd newidiadau hefyd yn galw am ddatblygu galluoedd newydd, dylunio modelau cyflawni a’u rhoi ar waith, ac ymgymryd â gweithgarwch ymgysylltu cynhwysfawr â phartneriaid cyflawni a’r cyhoedd. Ein bwriad, felly, yw cyflwyno diwygiadau cychwynnol yn ystod chweched tymor y Senedd; mae’n bosibl y bydd rhai diwygiadau tymor hwy yn rhychwantu tymhorau dilynol.

3. Ymgynghori ar ardoll twristiaeth

Diben

Ymgynghori ar gynigion i ganiatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth.

Cefndir

Mae Rhaglen Lywodraethu 2021-26 yn nodi ein hymrwymiad i ‘ymgynghori ar ardoll sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth’.

Bydd y ddeddfwriaeth ddrafft yn galluogi awdurdodau lleol i benderfynu a ydynt o blaid codi tâl ar ymwelwyr â’u hardaloedd. Gallai’r cyfryw ardoll helpu awdurdodau lleol i gefnogi adferiad y sector twristiaeth yn sgil pandemig y coronafeirws.

Gweithgarwch ac allbynnau arfaethedig

Megis dechrau y mae’r rhaglen waith sydd ei hangen i gynnal yr ymgynghoriad. Y nod yw cynnal ymgynghoriad ar y polisi yn ystod hydref 2022. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn:

  • Parhau i gasglu tystiolaeth ar y ffordd y rhoddir trethi twristiaeth ar waith mewn gwledydd eraill ac effaith y trethi hynny.
  • Meithrin dealltwriaeth o effaith economaidd gyffredinol ardoll twristiaeth, gan gydnabod y gall safbwynt cyfunol fod yn her o ystyried natur ddisgresiynol arfaethedig y pŵer.
  • Cynnal asesiad cychwynnol o’r ffynonellau costau a manteision posibl i grwpiau gwahanol o ganlyniad i gyflwyno ardoll twristiaeth.
  • Cydweithio’n agos â swyddogion ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r sector twristiaeth i feithrin dealltwriaeth gyffredin o:
    • effeithiau tebygol ardoll twristiaeth ar y sector twristiaeth, yr economi ymwelwyr a llywodraeth leol
    • yr heriau a’r problemau y bydd angen mynd i’r afael â nhw wrth i’r ddeddfwriaeth gael ei datblygu.

Sylfaen pwysig i’r gwaith hwn yw’r angen i sefydlu cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob math o lety gwyliau. Rydym yn bwriadu mynd i’r afael â’r mater hwn ar fyrder a byddwn mewn sefyllfa i ddechrau’r cam cychwynnol yn fuan.

4. Datblygu’r achos dros ddatganoli trethi mewn ffordd glir a sefydlog

Diben

Cyflwyno achos dros ddatganoli trethi mewn ffordd glir a sefydlog yng Nghymru a cheisio cytundeb â Llywodraeth y DU ar yr un pryd ynghylch system addas ar gyfer datganoli pwerau trethu newydd i Gymru.

Cefndir

Gall trethiant datganoledig fod yn ysgogiad pwerus o ran dylanwadu ar newid ymddygiad, yn ogystal â chynhyrchu refeniw i gefnogi gwariant cyhoeddus er mwyn diwallu anghenion Cymru a’n galluogi i ddatblygu trethi mwy graddoledig. Mae hefyd yn ein galluogi i ddatblygu dull mwy strategol o ymdrin â threthiant canolog a lleol yng Nghymru, gan sicrhau y gall fynd i’r afael ag anghenion a blaenoriaethau dinasyddion a busnesau yn well.

Ym mis Mawrth 2020, gwnaethpwyd cais ffurfiol i ddatganoli pwerau trethu pellach i Senedd Cymru ar gyfer ‘treth tir gwag’. Roedd y cais ffurfiol hwn yn unol â’r broses y cytunwyd arni rhwng Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU ar gyfer datganoli pwerau trethu newydd i Gymru. Dyma’r tro cyntaf inni brofi’r system ar gyfer trethi sy’n benodol i Gymru, ac mae’r cais yn dilyn dwy flynedd o waith i sicrhau bod gan Drysorlys EM ddigon o wybodaeth i asesu cynigion Llywodraeth Cymru. Mae symud drwy’r broses wedi bod yn brofiad heriol a hirfaith. Mae wedi dod yn amlwg nad yw’r broses y cytunwyd arni ar gyfer datganoli cymhwysedd o ran trethi i Gymru yn addas at y diben.

Yn yr un modd, mae ein profiad o geisio datganoli Toll Teithwyr Awyr – er gwaethaf tystiolaeth gref a chefnogaeth gan Bwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU ac eraill – wedi bod yn siomedig. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddatblygu achos dros ddatganoli trethi mewn ffordd glir a sefydlog yng Nghymru, wrth inni ymdrechu i gynnal trafodaethau adeiladol â Thrysorlys EM ynghylch sefydlu system addas ar gyfer datganoli pwerau trethu newydd i Gymru. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gallu’r llywodraeth hon a llywodraethau’r dyfodol i ddefnyddio treth fel ysgogiad i ddylanwadu ar ymddygiad neu gefnogi gwariant cyhoeddus i ddiwallu anghenion pobl Cymru yn cael ei wireddu’n llawn, yn unol ag ysbryd y Papur Gorchymyn a Deddf Cymru 2014.

Gweithgarwch ac allbynnau arfaethedig

Caiff y gwaith ei nodweddu gan ddeialog barhaus â Thrysorlys EM a Llywodraeth ehangach y DU. Byddwn yn achub ar bob cyfle i barhau i gyflwyno ein hachos i Lywodraeth y DU ac adrodd yn ôl ar gynnydd drwy ein hadroddiad blynyddol a gyhoeddir ochr yn ochr â’r Gyllideb Ddrafft a thrwy ddatganiadau i’r Senedd a’i Phwyllgor Cyllid, fel y bo’n briodol.

5. Ystyried yr achos dros ddatblygu trethi amgylcheddol newydd i Gymru, gan weithio gyda Llywodraeth y DU lle y bo’n briodol

Diben

Parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu treth pecynnau plastig a’i rhoi ar waith ledled y DU; a datblygu sylfaen dystiolaeth er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o effaith trethi eraill sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd a’r cyfleoedd y maent yn eu cynnig mewn meysydd sydd eisoes wedi’u datganoli, meysydd a gedwir yn ôl, a meysydd trethiant newydd.

Cefndir

Yn ystod tymor diwethaf y Senedd, cytunodd Gweinidogion eu bod yn ffafrio cyflwyno taliadau ar eitemau plastig untro megis cwpanau a chynwysyddion bwyd tafladwy. Dewiswyd Bil Amgylchedd y DU fel y dewis ddull deddfwriaethol a’r Strategaeth Economi Gylchol “Mwy nag Ailgylchu” fel y cyfrwng dewisol i ddatblygu’r ymrwymiad yng Nghymru.

Rydym yn parhau i gefnogi Llywodraeth y DU sydd ar gamau terfynol y broses o gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer treth pecynnau plastig ledled y DU. Bydd hyn yn cynnwys ymdrechion parhaus i gyfathrebu ac ymgysylltu â’r diwydiant pecynnau plastig yng Nghymru er mwyn codi ymwybyddiaeth a sicrhau mewnbwn cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno ym mis Ebrill 2022.

Yn dilyn ei hadolygiad o Ardoll Agregau’r DU (UKAL), cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bod yn ymrwymedig i barhau i adolygu’r posibilrwydd o ddatganoli UKAL i Gymru, gan nodi bod effeithiau trawsffiniol yn bryder penodol. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth yr Alban i lywio ein gwaith ar y posibilrwydd o ddatganoli UKAL er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o unrhyw oblygiadau posibl.

Gweithgarwch ac allbynnau arfaethedig

Yn ystod hydref/gaeaf 2021-22, byddwn yn mynd ati i baratoi ar gyfer rhoi’r dreth pecynnau plastig ar waith ym mis Ebrill 2022. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi’r gwaith o gyhoeddi’r prif ganllawiau ac ymgymryd â gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu ar y cyd ledled Cymru a Lloegr.

Byddwn yn parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU mewn perthynas ag unrhyw werthusiad o effaith post hoc y dreth pecynnau plastig yng Nghymru. Byddwn yn parhau i adolygu ein hopsiynau mewn perthynas â datganoli’r ardoll agregau a pholisïau treth ehangach sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd, gan adrodd ar gynnydd yn ein hadroddiad blynyddol a gyhoeddir ochr yn ochr â’r Gyllideb Ddrafft.

B. Y gwaith parhaus o adolygu polisïau a’u rhoi ar waith mewn perthynas â’n trethi presennol a meysydd polisi cysylltiedig eraill

6. Datblygu polisi treth trafodiadau tir

Diben

Sicrhau bod y dreth trafodiadau tir yn parhau i gyflawni nodau polisi Llywodraeth Cymru ac, ar yr un pryd, yn cyflawni ei phrif ddiben o godi refeniw er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cefndir

Mae’r dreth trafodiadau tir (LTT), a godir ar y rhai sy’n prynu tir ac adeiladau, yn dreth a gynlluniwyd yn bennaf i godi refeniw er mwyn helpu i dalu am wariant Llywodraeth Cymru. Gall hefyd gefnogi nodau polisi eraill Llywodraeth Cymru drwy, er enghraifft, ryddhadau, neu addasu’r cyfraddau a godir.

Mae pwysigrwydd tai i unigolion, ac eiddo masnachol i fusnesau ac i’r economi ehangach, yn golygu bod LTT yn bwysig i nifer o feysydd polisi gwahanol Llywodraeth Cymru. Weithiau, bydd angen cyflwyno newidiadau i LTT er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i helpu i gyflawni nodau polisi Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, y penderfyniad i gyflwyno cynnydd o 1% mewn LTT ar gyfer eiddo preswyl ychwanegol.

Gweithgarwch ac allbynnau arfaethedig

Mae nifer o elfennau ynghlwm wrth y gwaith parhaus o reoli polisi LTT. Yn eu plith mae gweithio’n agos gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) i sicrhau bod y dreth yn cael ei gweithredu’n effeithiol, gan gynnwys monitro unrhyw fygythiadau i’r sylfaen drethu drwy weithgarwch efadu ac osgoi trethi.

Er mwyn rheoli polisi LTT, mae angen monitro datblygiadau i Dreth Dir Treth Stamp y DU (SDLT) hefyd er mwyn asesu goblygiadau unrhyw newidiadau i’r dreth honno i LTT a’r broses gysylltiedig o gynhyrchu refeniw.

Caiff cyfraddau a throthwyon LTT eu hadolygu’n barhaus, gan gynnwys yn ystod y cyfnod cyn paratoi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru. Fel rhan o gam gweithredu trawslywodraethol eang i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi, byddwn yn ystyried a oes gan LTT rôl i’w chwarae o ran cynnig mantais i bobl sy’n prynu cartrefi i fyw ynddynt yn barhaol.

Byddwn yn adrodd ar y cynnydd o ran datblygu polisi LTT yn ein hadroddiad blynyddol a gyhoeddir ochr yn ochr â’r Gyllideb Ddrafft.

7. Datblygu’r polisi treth gwarediadau tirlenwi

Diben

Sicrhau bod y polisi treth gwarediadau tirlenwi yn gweithredu fel y’i bwriadwyd, ac ystyried cyfleoedd i’r dreth gefnogi amcanion polisi ehangach y llywodraeth.

Cefndir

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi bod yn casglu a rheoli treth gwarediadau tirlenwi (LDT) yn llwyddiannus ers iddi gael ei chyflwyno ym mis Ebrill 2018.

Hyd yma, mae cyfraddau LDT wedi cyfateb i gyfraddau treth tirlenwi’r DU, er mwyn parhau’n gyson â dull Llywodraeth y DU o ymdrin â chyfraddau treth tirlenwi ar gyfer y gyfradd dreth is a safonol. Rydym yn adolygu’r dull gweithredu hwn bob blwyddyn fel rhan o’r broses flynyddol o bennu cyfraddau, lle rhoddir ystyriaeth i’r manteision a’r anfanteision sydd ynghlwm wrth newid y cyfraddau yn y dyfodol er mwyn hyrwyddo amcanion amgylcheddol ehangach.

Gweithgarwch ac allbynnau arfaethedig

Fel rhan o’n gweithgarwch parhaus i fonitro’r ffordd y rhoddir y polisi treth gwarediadau tirlenwi ar waith, rydym yn parhau i gydweithio’n agos ag ACC er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol.

Yn ystod hydref 2021, byddwn yn dechrau’r broses o bennu cyfraddau LDT ar gyfer y cylch cyllidebol blynyddol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd y rheoliadau LDT ar gyfer cyfraddau LDT 2022-23 yn dod i rym ym mis Ebrill 2022.

8. Adolygu’r dreth trafodiadau tir

Diben

Cynnal adolygiad annibynnol i werthuso effeithiolrwydd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (y cyfeirir ati fel LTTA o hyn ymlaen).

Cefndir

Paratôdd Deddf Cymru 2014 y ffordd ar gyfer datganoli pwerau trethu newydd i Gymru, gan atgyfnerthu ymhellach ein gallu i reoli ein materion ariannol ein hunain. Y Dreth Trafodiadau Tir (LTT) oedd un o’r trethi datganoledig newydd cyntaf i Gymru. Cafodd Treth Dir Treth Stamp y DU ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir ym mis Ebrill 2018. Treth ar drafodiadau tir yw hon sy’n codi cyfraddau ar wahân ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Mae rhwymedigaeth statudol ar Weinidogion Cymru i drefnu adolygiad annibynnol o LTTA ymhen chwe blynedd o’r dyddiad y daeth y gofyniad cyfreithiol i rym. Felly, y terfyn amser ar gyfer cwblhau’r adolygiad yw mis Mai 2023. Bydd yr adolygiad yn gwerthuso effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth ac yn ystyried a yw’r newidiadau a wnaed pan ddeddfwyd Deddf LTT o gymharu â SDLT wedi cyflawni’r hyn a fwriadwyd.

Gweithgarwch ac allbynnau arfaethedig

Mae’r broses gaffael wedi cychwyn gyda’r bwriad o ddyfarnu’r contract ar gyfer cynnal yr adolygiad statudol annibynnol o LTTA ar ddechrau 2022. Bydd yn ofynnol i’r contractwyr llwyddiannus ddarparu adroddiad dwyieithog llawn a therfynol ar eu canfyddiadau i Lywodraeth Cymru.

9. Adolygu treth gwarediadau tirlenwi

Diben

Cynnal adolygiad annibynnol i werthuso effeithiolrwydd Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.

Cefndir

Prif swyddogaeth y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT) yw newid ymddygiad mewn perthynas â chyflawni nodau polisi ar wastraff ac, yn y pen draw, leihau’r gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi.

Wrth gyflwyno LDT, ymrwymodd Gweinidogion Cymru i gynnal adolygiad annibynnol o effeithiolrwydd y dreth ymhen chwe blynedd. Mae gwaith cwmpasu cychwynnol yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i nodi gofynion penodol yr adolygiad.

Mae adran 92 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, sy’n darparu ar gyfer cyllid grant i gymunedau y mae gwarediadau tirlenwi neu weithgareddau mewn gorsafoedd trosglwyddo gwastraff yn effeithio arnynt. Mae’r cynllun yn darparu cyllid i gefnogi gweithgareddau yr ystyrir eu bod yn hyrwyddo neu’n gwella llesiant cymdeithasol neu amgylcheddol cymunedau lleol. Un o ofynion y Ddeddf yw y dylid adolygu’r ffordd y caiff y cynllun ei weinyddu ymhen pedair blynedd i’r diwrnod y caiff ei gyhoeddi gyntaf. Adolygiad ar wahân yw hwn sy’n cael ei reoli o dan bortffolio’r Gweinidog Newid Hinsawdd. Fodd bynnag, bydd Trysorlys Cymru yn cyfrannu at yr adolygiad er mwyn cydnabod pwysigrwydd cysoni canlyniadau’r ddau adolygiad.

Gweithgarwch ac allbynnau arfaethedig

Caiff y broses gaffael ar gyfer adolygiad LDT ei rhoi ar waith yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a disgwylir i’r contract gael ei ddyfarnu ar ddechrau 2022. Bydd yn ofynnol i’r contractwyr llwyddiannus ddarparu adroddiad dwyieithog llawn a therfynol ar eu canfyddiadau i Lywodraeth Cymru.

Dechreuodd yr adolygiad o Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ym mis Awst 2021 a disgwylir i adroddiad gael ei gyhoeddi erbyn gwanwyn 2022.

10. Datblygu’r sylfaen drethu Gymreig

Diben

Sicrhau bod yr effeithiau byrdymor, tymor canolig a hirdymor ar y sylfaen drethu Gymreig yn cael eu hystyried wrth fynd ati i ddatblygu polisïau Llywodraeth Cymru.

Cefndir

Bydd i’r gwaith o ddatblygu’r sylfaen drethu yng Nghymru oblygiadau tymor canolig i dymor hwy o ran refeniw treth a’r arian sydd ar gael i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Lle y bo’n bosibl, dylai polisïau Llywodraeth Cymru gyfrannu at ddatblygiad a thwf cyffredinol y sylfaen drethu Gymreig. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd ddefnyddio ei hysgogwyr a’i dylanwad i sicrhau bod polisïau ehangach y sector cyhoeddus yn dilyn llwybr tebyg.

Mae amrywiaeth eang o ffactorau, gan gynnwys ysgogwyr polisi treth a pholisïau eraill, yn dylanwadu ar faint a thrywydd y sylfaen drethu Gymreig. Bydd polisïau sy’n ymwneud â’r economi, sgiliau, addysg a thai (ymhlith eraill) yn cael effaith uniongyrchol ar berfformiad y sylfaen drethu Gymreig. Gan mai cyfrifoldebau trawsbortffolio yw’r rhain, bydd angen mabwysiadu ymagwedd drawslywodraethol a rennir tuag at y gwaith hwn. Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar yr ymchwil a wnaethpwyd a’r hyn a ddysgwyd yn ystod tymor diwethaf y Senedd er mwyn deall y sylfaen drethu Gymreig yn well a nodi bygythiadau a chyfleoedd yn y dyfodol.

Gweithgarwch ac allbynnau arfaethedig

Mae’r gwaith cynnar yn canolbwyntio ar ddatblygu sylfaen dystiolaeth gadarn a meithrin dealltwriaeth ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru o effaith cynigion polisi ar y sylfaen drethu Gymreig, gan gynnwys goblygiadau trawsffiniol. Bydd gwaith dilynol yn ceisio nodi newidiadau i brosesau a strwythurau a allai hwyluso ymgysylltu rhwng Trysorlys Cymru a chydweithwyr polisi ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru wrth iddynt fynd ati i ddatblygu polisïau.

11. Ei gwneud yn bosibl cyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru

Diben

Cyflwyno Bil a fydd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn ymateb i amgylchiadau allanol sy’n effeithio ar Ddeddfau Trethi Cymru, a sicrhau cymeradwyaeth y Senedd iddo.

Cefndir

Ar 6 Gorffennaf 2021, cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer blwyddyn gyntaf y Senedd. Roedd y rhaglen yn cynnwys Bil a fyddai’n ei gwneud yn bosibl cyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru. Ar hyn o bryd, nid yw’r pwerau sydd gennym i ddiwygio trethi datganoledig yn ddigonol er mwyn ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau annisgwyl, megis dyfarniadau llys, elfennau amwys neu newidiadau yn y trethi cyfatebol yn Lloegr, a allai gael effaith sylweddol ar rwymedigaethau unigolion ac ar ein refeniw. Bydd y Bil yn cynnig ffordd ystwyth a hyblyg o ymateb, ac yn rhoi’r cyfle i’r Senedd graffu ar newidiadau a’u cymeradwyo.

Gweithgarwch ac allbynnau arfaethedig

Disgwylir i’r Bil gael ei gyflwyno gerbron y Senedd ym mis Rhagfyr 2021, gyda chyfnod 1 o’r broses graffu ddeddfwriaethol yn cychwyn yn syth wedi hynny. Ar hyn o bryd, disgwylir i gyfnod 2 fynd rhagddo yn ystod gwanwyn 2022, gyda chyfnodau 3 a 4 yn ystod haf 2022, er mwyn caniatáu ar gyfer cydsyniad brenhinol erbyn hydref 2022.

C. Ffocws parhaus ar weithio gyda phartneriaid a dinasyddion er mwyn i’n dull Cymreig o ymdrin â threthi ymwreiddio, a chodi ymwybyddiaeth o drethi Cymru

12. Rheoli trethi Cymru ar y cyd â’n par tneriaid o fewn cyd-destun ehangach y DU ac yn rhyngwladol

Diben

Sefydlu dull Cymreig o reoli trethi Cymru sy’n adlewyrchu’r sbectrwm llawn o gyfrifoldebau a gweithgareddau y mae gweinyddwyr trethi yn eu cyflawni/mynd i’r afael â nhw ar lefelau cenedlaethol a lleol, a chydnabod rhyngberthnasau o fewn system drethu’r DU.

Cefndir

Mae amrywiaeth o brosesau gweinyddol gwahanol ac effeithiol yn bodoli ar gyfer trethi unigol Cymru. Fodd bynnag, dylid ystyried natur gydlynol y system drethu yng Nghymru yn ei chyfanrwydd wrth wneud penderfyniadau polisi mewn perthynas â’r ffordd yr ymdrinnir â phob treth.

Gyda mwy o ddatganoli cyllidol, y broses o sefydlu’r ACC a’r potensial i gasglu trethi pellach a newydd yng Nghymru, mae cyfle gennym nawr i ddatblygu dull Cymreig strategol o ymdrin â’r trethi a weinyddir yng Nghymru. Fodd bynnag, wrth wneud hynny, bydd yn bwysig parchu ymreolaeth ariannol a gwleidyddol awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n gyfrifol am y gwaith o roi polisïau treth lleol ar waith a’u gweinyddu. Er mwyn cefnogi’r broses o ddatblygu dull Cymreig o reoli trethi, byddwn yn ystyried ac yn gweithio tuag at sefydlu cymuned ymarfer o weinyddwyr trethi Cymru a fydd yn cydweithio â’n partneriaid cyflawni, gan gynnwys llywodraeth leol yng Nghymru, Awdurdod Cyllid Cymru, CThEM ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio, i ystyried gwahanol ddulliau a phrosesau gyda’r bwriad o nodi a datblygu arferion gorau.

Gweithgarwch ac allbynnau arfaethedig

Mae’r gwaith hwn ar y cam ymchwiliol ar hyn o bryd, lle y bydd ymchwil a dysgu yn llywio paramedrau’r ffrwd waith. Wrth bennu’r cwmpas, bydd yn bwysig meithrin cydberthnasau cryf â phob partner cyflawni er mwyn sicrhau dealltwriaeth gyffredin a mwy o gefnogaeth i’r trywydd rydym yn ei ddilyn.

13. Cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o drethi yng Nghymru dr wy weithgareddau ymgysylltu ehangach

Diben

Codi ymwybyddiaeth o drethi datganoledig, a’r gydberthynas rhyngddynt hwy ac ystyriaethau a phrosesau cyllidebol Llywodraeth Cymru a digwyddiadau polisi cyllidol Cymreig eraill.

Cefndir

Er bod ein cyfrifoldebau o ran trethi datganoledig a rhannol ddatganoledig yn gymharol newydd, mae gennym record llawer hwy o ddatblygu polisïau trethi lleol a’u rhoi ar waith. Fodd bynnag, ychydig iawn o wybodaeth a diddordeb sydd gan y cyhoedd ynglŷn â materion sy’n ymwneud â threthi o hyd. Mae’n hanfodol sicrhau mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth er mwyn i bobl a busnesau ddeall goblygiadau datganoli cyllidol yn well.

Rydym wedi gwneud gwaith arolygu ar y cyd â Beaufort Research ac Arolwg Cenedlaethol Cymru er mwyn deall yr hyn y mae pobl yn ei wybod am drethi Cymru a’u hymwybyddiaeth ohonynt. Mae tystiolaeth bod mwy o ymwybyddiaeth mewn rhai meysydd (cyfraddau treth incwm Cymru Dealltwriaeth y cyhoedd o ddatganoli trethi: Adroddiad diweddaru ar LLYW.CYMRU). Byddwn yn parhau â’n hymdrechion i wella hyn. Byddwn yn adeiladu ar y gweithgarwch ymgysylltu rydym wedi ymgymryd ag ef ers i drethi gael eu datganoli er mwyn ystyried a manteisio ar gyfleoedd creadigol i godi ymwybyddiaeth ehangach o drethi, a gwella ymwybyddiaeth a gweithgarwch ymgysylltu mewn perthynas â chyllidebau Cymru a digwyddiadau cyllidol eraill.

Gweithgarwch ac allbynnau arfaethedig

Mae gweithgarwch ymgysylltu i godi ymwybyddiaeth o rôl trethi wrth gyllido gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â rôl digwyddiadau cyllidol ehangach, yn broses barhaus, lle yr achubir ar bob cyfle i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chynulleidfaoedd sy’n anodd eu cyrraedd yn draddodiadol. Bydd gweithgarwch ymgysylltu yn flaenoriaeth graidd o hyd i Lywodraeth Cymru, sy’n cydnabod pwysigrwydd atgyfnerthu atebolrwydd democrataidd mewn perthynas â holl ddinasyddion Cymru.

Byddwn hefyd yn ceisio cyfleoedd i werthuso effeithiolrwydd ein gweithgarwch ymgysylltu a negeseua er mwyn llywio dulliau cyfathrebu yn y dyfodol. Byddwn yn adrodd ar gynnydd fel y bo’n briodol yn ein hadroddiad blynyddol a gyhoeddir ochr yn ochr â’r Gyllideb Ddrafft.