Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Rwy’n falch ein bod wedi llunio Cynllun Gweithredu yng Nghymru i fynd i’r afael â cham-drin pobl hŷn. Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yn DU, a chafodd ei lywio a’i ddatblygu ar gyfer ymdrin â’r profiadau a’r heriau a ddaw i ran menywod hŷn a dynion hŷn. Er ein bod yn cydnabod y camau enfawr a gymerwyd dros y blynyddoedd i ymdrin â rhagfarn ar sail oedran, a hefyd i bennu ac atal camdriniaeth ac ymdrin â threfniadau diogelu a llywodraethu, mae gennym lawer o waith i’w wneud o hyd.

Rwy’n ddiolchgar am gyfraniad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a rhanddeiliaid allweddol at y Cynllun hwn. Rydym wedi gwrando ar eich barn chi, a'r hyn sy'n bwysig i chi. Mae’r Cynllun yn nodi:

  • ein bod angen gwell data a thystiolaeth, a bod angen inni ddatblygu rhaglen ymchwil er mwyn esgor ar ddata a thystiolaeth o’r fath
  • bod angen inni hyfforddi a datblygu ein gweithlu yn well fel y gellir cynorthwyo a diogelu pobl hŷn
  • bod angen inni sicrhau y gall pobl hŷn gael gafael ar wasanaethau, ac y gallant gael mynediad at yr wybodaeth a dod o hyd iddi
  • bod angen inni sicrhau bod y gwasanaethau’n gydgysylltiedig, ynghyd â darparu’r cymorth a’r help angenrheidiol ar yr adeg iawn, yn ddi-oed
  • bod angen inni ddatblygu cynllun cyfathrebu a bwrw ymlaen ag ef – sef cynllun a fydd yn codi ymwybyddiaeth o’r materion, o’r Cynllun ac o’r hyn sydd ar waith i atal ac adnabod camdriniaeth a rhoi cymorth i’r rhai sydd ei angen

Mae gan bob un ohonom hawl i fyw heb ddioddef camdriniaeth. Nid yw oedran nac amgylchiadau unigol yn lleihau’r hawl sylfaenol hon. Mae hi’n hanfodol inni wneud popeth o fewn ein gallu i greu Cymru lle caiff pobl, gan gynnwys pobl hŷn, eu diogelu rhag cael eu cam-drin. Er nad ydym yn stereoteipio pobl, nod y Cynllun hwn yw rhoi mesurau ar waith ar gyfer pennu’r mathau o gamdriniaeth y gall pobl hŷn wynebu risg uwch o’u dioddef, yn ogystal ag ymdrin â nhw a’u hatal.

Gwyddom fod llwybr hir o’n blaenau a bod gennym lawer i’w wneud. Un rhan yn unig yw’r Cynllun hwn o strategaeth ar gyfer creu Cymru sydd o blaid pobl hŷn lle cynorthwyir pobl hŷn o bob oed i fyw a heneiddio’n dda, lle gall pawb edrych ymlaen at heneiddio a lle na fydd rhagfarn ar sail oedran yn cyfyngu ar botensial pobl hŷn nac yn effeithio ar ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer. Yn y pen draw, rydym eisiau bod yn genedl sy’n dathlu oedran ac yn genedl sy’n cefnogi annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, hunangyflawniad ac urddas pobl hŷn bob amser.

Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cefndir a chyd-destun

Mae rhagfarn ar sail oedran a cham-drin pobl hŷn yn broblem gymdeithasol gymhleth a all arwain at ganlyniadau corfforol, emosiynol a chymdeithasol enbyd i bobl hŷn. Mae’r cynllun hwn yn pennu mesurau a roddir ar waith gan Lywodraeth Cymru ledled y Llywodraeth i sicrhau y caiff pobl hŷn eu hamddiffyn rhag camdriniaeth o bob math, ac i’w hatal rhag bod mewn perygl o gael eu cam-drin. Mae’n adeiladu ar lawer o waith da a wnaed o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Mae’r cynllun yn cydnabod bod y themâu cyffredinol y ceisiwn fynd i’r afael â nhw yn gofyn am gamau gweithredu ledled y Llywodraeth a bod angen ymateb amlasiantaethol effeithiol a rhagweithiol er mwyn mabwysiadu dull diogelu ataliol. Ei nod yw ceisio troi strategaeth yn weithredu.

Mae’n bwysig cofio nad yw pobl hŷn yn grŵp unffurf ac y bydd profiad pob unigolyn yn wahanol. Mae Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio yn cydnabod yr effaith niweidiol a gaiff rhagfarn ar sail oedran ac mae’n ceisio herio stereoteipiau negyddol o bobl hŷn sy’n cyfleu’r argraff eu bod yn “faich ar gymdeithas” – stereoteipiau y gellid eu defnyddio i ddilysu camdriniaeth. Mae Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn wedi llywio’r gwaith o ddatblygu’r strategaeth a bydd yr egwyddorion hyn yn arwain y dasg o roi’r strategaeth ar waith. Trwy ymwrthod â rhagfarn ar sail oedran a gwahaniaethu ar sail oedran, ein nod yw creu cymdeithas fwy cyfartal a fydd yn galluogi pobl o bob oed i gyflawni eu potensial, ni waeth beth fo’u cefndir na’u hamgylchiadau.

Er y dylid osgoi stereoteipio pobl hŷn, mae profiad yn dangos bod rhai pobl hŷn yn:

  • teimlo’n llai abl i gael gafael ar wasanaethau
  • llai ymwybodol na phobl iau o’r gwasanaethau a’r opsiynau sydd ar gael iddynt
  • credu mai gwasanaethau i bobl iau neu i bobl â phlant yn unig ydynt

Mae hi’n hanfodol inni gael gwared â rhagfarn ar sail oedran a gwahaniaethu ar sail oedran os ydym am gael Cymru sydd o blaid pobl hŷn. Fel yn achos mathau eraill o wahaniaethu, mae rhagfarn ar sail oedran wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn arferion a normau diwylliannol ein cymdeithas, gan gynnwys yn yr iaith a ddefnyddiwn. Rydym yn croesawu gwaith y Comisiynydd Pobl Hŷn sy’n anelu at ganolbwyntio’n benodol ar ragfarn ar sail oedran, a byddwn yn mynd ati i geisio deall yn well beth sydd wrth wraidd y rhagfarn hon a pha effaith a gaiff, er mwyn gwireddu ein nod o gael Cymru fwy cyfartal.

Trwy gyfrwng ein proses asesu polisïau, mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i bennu’r posibilrwydd y ceir effeithiau rhagfarn ar sail oedran a gwahaniaethu ar sail oedran. Caiff Asesiad Effaith Integredig ei gynnal ar holl bolisïau Llywodraeth Cymru, lle rhoddir ystyriaeth lawn i’r effaith ar bob aelod o’r gymdeithas.

Gall pobl hŷn wynebu risg uwch o ddioddef rhai mathau o gamdriniaeth oherwydd eu hamgylchiadau cymdeithasol, ariannol neu addysgol – mae iechyd yn fwy tebygol o fod yn ffactor i bobl hŷn nag ydyw i bobl iau. Er enghraifft, efallai bod dynion hŷn a menywod hŷn wedi cael eu cam-drin gan aelod o’u teulu ers blynyddoedd lawer ac efallai eu bod yn teimlo cywilydd neu embaras gan eu bod wedi dioddef camdriniaeth yn ddi-gŵyn am flynyddoedd.

Gall fod yn anos i bobl hŷn dderbyn help – efallai y byddant angen mwy o amser, mwy o sicrwydd a mwy o hyder yn yr hyn a allai ddigwydd ac yn y gwasanaethau sydd ar gael cyn y byddant yn datgelu eu bod yn cael eu cam-drin a chyn y byddant yn derbyn help i symud yn eu blaen.

Caiff y Cynllun ei lywio gan y profiadau a gafodd pobl hŷn yng Nghymru drwy gydol y pandemig. Defnyddir dau adroddiad pwysig a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd Pobl Hŷn: 

Mae gwaith ymchwil y Comisiynydd yn tynnu sylw at y rhwystrau sy’n wynebu dynion hŷn o ran cael gafael ar wasanaethau a chymorth.

Byddwn yn darparu adroddiad wedi’i ddiweddaru o fewn 6 mis i ddyddiad cyhoeddi’r cynllun hwn i bartneriaid allweddol, gan gynnwys Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio a Grŵp Gweithredu’r Comisiynydd Pobl Hŷn ar Gamdriniaeth.

Dengys data a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru fod pobl hŷn yn rhoi gwybod am gamdriniaeth o bob math, a’u bod yn fwy agored i gael eu hesgeuluso nag oedolion yn gyffredinol.

Amcanion

Mae 3 thema gyffredinol yn perthyn i’r cynllun hwn:

  1. mae pobl hŷn yn cael eu cefnogi i fyw’n annibynnol a chydag urddas ac maent yn gallu cael gafael ar gymorth perthnasol gan wasanaethau diogelu os ydynt mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso
  2. mae pobl hŷn sy’n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol yn gallu cael gafael ar gymorth perthnasol gan wasanaethau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol pan fo angen
  3. mae pobl hŷn yn cael eu hamddiffyn rhag wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso

Meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu

Hunanesgeulustod

Mae hunanesgeulustod i’w weld mewn oddeutu 40% (blwyddyn galendr 2019) o adolygiadau ymarfer oedolion yng Nghymru a gwblhawyd yn dilyn marwolaeth oedolyn ag anghenion gofal a chymorth.

Cam gweithredu

Erbyn canol 2024, byddwn yn datblygu canllawiau ymarfer newydd yn ymwneud â hunanesgeulustod ar draws lleoliadau perthnasol. Bydd hyn yn galluogi ymarferwyr i bennu arwyddion hunanesgeulustod yn well a gweithredu ar sail yr arwyddion hynny, gan atal niwed i’r bobl eu hunain neu i bobl eraill, sef niwed a allai ddigwydd os nad ymdrinnir â’r mater mewn modd sensitif.

Bydd y ddogfen hon yn diffinio hunanesgeulustod at ddibenion ymarferwyr diogelu, gan osod hunanesgeulustod o fewn fframwaith statudol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Hefyd, bydd yn disgrifio’r cysylltiad rhwng hunanesgeulustod a’r diffiniadau o esgeulustod yn y Ddeddf honno. Y nod yw rhoi rhagor o wybodaeth i ymarferwyr ynglŷn â’r berthynas rhwng eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf 2014 a materion yn ymwneud â chydsyniad a galluedd yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005, fel y’i diwygiwyd, a Deddf Iechyd Meddwl 1983, wrth ymdrin â hunanesgeulustod.

Mae adolygiadau ymarfer oedolion yn dangos pa mor gymhleth yw ymarfer gydag oedolion sy’n hunanesgeuluso. Mae’r ffaith bod byrddau diogelu oedolion wedi teimlo’r angen i ymchwilio’n rheolaidd i ganlyniadau achosion lle mae oedolion yn hunanesgeuluso, ynghyd â datblygu gweithdrefnau mewn ymateb i hynny, yn awgrymu’n gryf bod staff y sector cyhoeddus angen gweithdrefnau cadarn i’w cynorthwyo pan fyddant yn gweithio gyda phobl sy’n hunanesgeuluso.

Cam-drin domestig a thrais rhywiol

Aeth Llywodraeth Cymru ati i gomisiynu Uned Atal Trais Cymru i gynnal gwaith ymchwil i weld pa ddulliau sydd wedi llwyddo o bosibl i atal VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol). Cyhoeddwyd y gwaith ymchwil hwn ym mis Medi 2021. Un o gasgliadau’r adroddiad yw:

Mae angen rhagor o ymchwil hefyd ar frys i atal mathau penodol o VAWDASV gan gynnwys rheolaeth drwy orfodaeth, cam-drin ar sail anrhydedd, cam-fanteisio a masnachu mewn pobl, a sut mae rhaglenni atal yn gorgyffwrdd ag anghenion unigolion a chymunedau sy’n LHDT+, BAME, ac mewn grwpiau oedran hŷn.

Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn presennol wedi cyfarfod â’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a hefyd â’r cyn Ddirprwy Weinidog a’r Prif Chwip (y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol erbyn hyn), i grybwyll rhai materion a ddaw i ran pobl hŷn sy’n ceisio dianc rhag cam-drin domestig, ac mae’r pandemig wedi gwneud hyn yn fwy taer fyth. Mae’r canllawiau Comisiynu Statudol presennol ar gyfer comisiynu gwasanaethau VAWDASV yng Nghymru yn datgan:

Bydd y canllawiau’n sicrhau bod y broses gomisiynu’n ystyried yr anghenion, y problemau a’r rhwystrau penodol a allai ddod i ran pobl sydd â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac sydd efallai wedi’u gwthio i’r cyrion neu eu heithrio, gan gynnwys menywod, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, plant a phobl ifanc, pobl hŷn, mudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, pobl anabl a phobl LHDT+.

Cam gweithredu

Byddwn yn parhau i fonitro Grantiau VAWDASV a weinyddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhanbarthau a sefydliadau’r trydydd sector bob blwyddyn er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r canllawiau statudol ar gyfer comisiynu gwasanaethau VAWDASV yng Nghymru. Gofynnir iddynt ddarparu tystiolaeth o ran sut maent wedi ystyried a diwallu anghenion pobl hŷn.

Cam gweithredu

Byddwn yn sicrhau bod Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022 i 2026 yn rhoi dull Glasbrint ar waith lle ceir ffrwd waith benodol ar gyfer ymdrin ag anghenion pobl hŷn. Bydd modd cyflawni camau penodol yn unol â rhaglen a sefydlir o dan Fwrdd rhaglen y Strategaeth, er mwyn tynnu sylw at rinweddau a nodweddion y gwasanaethau hynny sy’n llwyddo i wella bywydau pobl hŷn a dangos sut gellir annog a rhannu arferion da.

Cam gweithredu

Byddwn yn gweithio gyda’r Comisiynydd Pobl Hŷn i adolygu’r wybodaeth a’r canllawiau ar gam-drin domestig: diogelu pobl hŷn yng Nghymru erbyn canol 2024.

Cam gweithredu

Byddwn yn adeiladu ar yr ymgyrch ddylai neb deimlo’n ofnus gartre fel y gellir canolbwyntio ar drais yn erbyn pobl hŷn a thrais yn erbyn menywod ar y stryd, yn y gweithle a gartref. Byddwn yn parhau i weithio gydag asiantaethau sy’n arbenigo mewn cynorthwyo pobl hŷn i sicrhau eu bod yn ymdrin â materion mae pobl hŷn yn fwy tebygol o’u hwynebu.

Gellir rhoi cymorth i bobl i aros yn eu cartrefi eu hunain, naill ai pan fydd, neu pan na fydd, y cyflawnwr yn parhau i fyw yno. Ceir gwasanaethau a all wella diogelwch cartrefi er mwyn amddiffyn eiddo pobl yn well, a gellir darparu cymorth fel bo’r angen yn ymwneud â thai oddi mewn i gartrefi. Cyflwynodd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ddull newydd ar gyfer delio â chontractau ar y cyd lle gellir ychwanegu deiliaid cytundebau at gontractau meddiannaeth neu eu tynnu oddi ar gontractau o’r fath, heb orfod diweddu’r contract i bawb. Pan gaiff y dull newydd hwn ei roi ar waith, bydd yn helpu i osgoi risg digartrefedd a hefyd bydd yn helpu pobl sy’n dioddef trais domestig trwy ei gwneud yn bosibl i dargedu’r cyflawnwr a’i droi allan.

Cam-drin ariannol

Gall cam-drin ariannol gael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr a’u teuluoedd. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cynnwys cam-drin ariannol yn ei diffiniad o gamdriniaeth, gan nodi’n glir bod y canlynol yn gyfystyr â chamdriniaeth:

  • arian neu eiddo’n cael eu dwyn
  • dioddef twyll
  • pobl yn cael eu rhoi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo
  • arian neu eiddo’n cael eu camddefnyddio

Mae’n amlwg bod y pandemig wedi cynnig cyfleoedd newydd i sgamwyr, a cheir tystiolaeth sy’n dangos bod pobl hŷn ag anghenion gofal a chymorth ymhlith y grwpiau mwyaf agored i niwed, yn ogystal â phobl sy’n byw ar eu pen eu hunain. Ymhellach, cafodd y cyfnodau clo effaith negyddol ar fathau eraill o gamdriniaeth, megis cam-drin ariannol o fewn teuluoedd.

Gall sgamiau gael effaith ofnadwy ar ddioddefwyr, a gall pobl hŷn fod mewn perygl penodol o gael eu cam-drin yn y fath fodd. Mae tystiolaeth gan y Safonau Masnach Cenedlaethol yn dangos bod 85% o ddioddefwyr sgamiau ‘ar stepen y drws’ dros 65 oed. Yn aml, mae’r effaith ar iechyd a llesiant yn waeth o lawer na’r golled ariannol. Mae pobl yn colli hyder ac yn teimlo'n fwy ynysig ac ofnus. Yn ei dro, mae hyn yn arwain at ddirywiad yn eu hiechyd meddwl a’u hiechyd corfforol. Fel aelod o Grŵp Gweithredu’r Comisiynydd Pobl Hŷn ar Atal Cam-drin, mae’r Safonau Masnach Cenedlaethol wedi llunio deunyddiau amrywiol lle eir ati i wella ymwybyddiaeth o sgamiau a rhoi cyngor i bobl ynglŷn â sut i’w hamddiffyn eu hunain. Hefyd, trwy gyfrwng y llinell gymorth ‘Byw Heb Ofn’, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor a chymorth i bobl sydd mewn perygl o ddioddef cam-drin domestig o bob math.

Ym mis Mai 2022, aethom ati i gyflwyno ymgyrch gyfathrebu yn canolbwyntio ar gam-drin ariannol, yn cynnwys sgamiau, yn benodol ar gyfer pobl hŷn. Ein bwriad hefyd yw darparu gwybodaeth am gam-drin ariannol o fewn teuluoedd, arwyddion i gadw golwg amdanynt a ble i droi am gymorth.

Cam gweithredu

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i bennu ffyrdd o adnabod ac osgoi cam-drin ariannol, yn cynnwys sgamiau, ymhlith pobl hŷn yn benodol, gan ddarparu ffynonellau cyngor a chymorth.

Unigrwydd, ynysigrwydd cymdeithasol a phobl hŷn

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi clywed mwy a mwy am yr effaith andwyol a gaiff unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ar ein hiechyd a’n llesiant corfforol a meddyliol.

Mae ein strategaeth cysylltu cymunedau, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2020, yn cydnabod y gall unrhyw un, o unrhyw oedran, wynebu unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, ond bod pobl hŷn yn arbennig o agored i hyn. Gall hyn beri i bobl wynebu risg uwch o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Yn ystod y pandemig, profodd llawer o bobl y teimladau hyn am y tro cyntaf, tra bod y rhai a oedd yn unig cyn y pandemig wedi mynd i deimlo’n fwy ynysig fyth. Rydym wedi cymryd nifer o gamau i geisio cynorthwyo pobl i gadw mewn cysylltiad a manteisio ar y cymorth y gallant fod ei angen, megis:

  • ariannu ffrind mewn angen, sef gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn Age Cymru
  • newid ein rheoliadau er mwyn i bobl a oedd yn byw ar eu pen eu hunain allu ffurfio “aelwyd estynedig”
  • threialu menter wirfoddoli mewn cartrefi gofal i hwyluso ymweliadau gan deuluoedd

Mae cynnydd da wedi’i wneud o ran rhoi’r strategaeth ar waith. Rydym wedi gweithio ledled y Llywodraeth i adolygu 80 o ymrwymiadau a mwy er mwyn sicrhau eu bod yn gwir adlewyrchu’r newidiadau sydd wedi digwydd mewn cymdeithas ac er mwyn deall y math o gymorth a ddarperir i’r rhai mwyaf agored i niwed, a sut gellir ei wella.

Mae sefydlu grŵp cynghori sy’n cynnwys rhanddeiliaid allanol pwysig, megis Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ac Age Cymru, wedi bod yn hanfodol o ran ein helpu i ddeall yn well pa effaith a gafodd y pandemig ar unigrwydd ac ynysigrwydd ymhlith pobl hŷn.

Wrth inni barhau i roi’r strategaeth ar waith, byddwn yn ystyried materion allweddol a bennwyd gan y grŵp, megis:

  • allgau digidol
  • goresgyn rhwystrau o ran ail-ymgysylltu
  • y mathau o gymorth parhaus y mae eu hangen
  • cynnal cymorth yn y gymuned

Bydd presgripsiynu cymdeithasol yn cyfrannu’n fawr at sicrhau bod cymorth ataliol ar gael yn lleol a’i fod yn ymateb i anghenion unigol.

Hefyd, byddwn yn ystyried sut i ymwreiddio arferion sy’n pontio’r cenedlaethau, gan ddysgu ar sail adborth cyfranogwyr yn ein huwchgynhadledd genedlaethol (rithwir) a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2021, gan helpu i sicrhau parch a dealltwriaeth rhwng y cenedlaethau a chan gyfrannu at Gymru sydd o blaid pobl hŷn.

Galluedd meddyliol

Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid

Ar 5 Ebrill 2023, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ddatganiad ysgrifenedig mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynglŷn â’r bwriad i beidio â chyflwyno’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid a gweithredu Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019 (y Ddeddf).

Cadarnhaodd y Datganiad benderfyniad Llywodraeth y DU, sef na fydd y ddeddfwriaeth sy’n angenrheidiol i weithredu’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn cael ei chyflwyno yn ystod y Senedd hon, a chadarnhawyd siomedigaeth fawr Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r penderfyniad hwn i beidio â bwrw ati i weithredu ar hyn o bryd.

Yng ngoleuni penderfyniad Llywodraeth y DU, rydym yn awyddus i ystyried pa gyfleoedd a geir i gryfhau trefniadau ar gyfer amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol y bobl hynny nad ydynt yn meddu ar alluedd meddyliol. Mae’n bosibl y gall camau gweithredu ategu’r modd y rhoddir Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid ar waith ar hyn o bryd, ynghyd â chryfhau sefyllfa Cymru o ran pontio tuag at y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu hyfforddiant ar gyfer y gweithlu ac mae wedi neilltuo adnoddau ar gyfer hyn. Nod yr hyfforddiant hwn yw cynorthwyo ymarferwyr i amddiffyn ac ategu hawliau pobl trwy eu galluogi i fynd ati’n fwy effeithiol i roi egwyddorion hyfforddiant y Ddeddf Galluoedd Meddyliol ar waith a chynllunio gofal sy’n amddiffyn ac yn hyrwyddo hawliau dynol yr unigolyn mewn modd priodol.

Dementia

Ym mis Medi 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru cynllun gweithredu dementia: cryfhau’r ddarpariaeth mewn ymateb i COVID-19. Bwriad y ddogfen hon yw ategu’r cynllun gweithredu ar gyfer Dementia a helpu i’w roi ar waith yn dilyn y profiadau a ddaeth i ran pobl yn ystod y pandemig. Mae’n bwysig cydnabod y gall pobl â dementia wynebu risg uwch o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae’n bwysig sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu seilio ar anghenion a dewisiadau’r unigolyn.

Cam gweithredu

Un elfen sy’n berthnasol iawn i’r cynllun gweithredu hwn yw’r ffaith bod y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia yn nodi bod ‘amddiffyn hawliau / cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn’, cymorth ar gyfer cartrefi gofal a chymorth ar gyfer gofalwyr di-dâl yn un o’r themâu trawsbynciol cyffredinol. Mae’r ddogfen yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol:

  • Darparu crynodeb o’r canlyniadau a adroddwyd drwy brosiectau a ariennir gan y Gronfa Gofal Integredig (ICF), sy’n cael eu paru â meysydd o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia. Bydd hyn yn cynnwys datblygiadau sy’n cefnogi’r dull ‘timau o amgylch yr unigolyn’, gan alluogi teuluoedd a gofalwyr i gael gofal seibiant a all ddiwallu anghenion y gofalwr yn ogystal ag anghenion y sawl sy’n byw gyda dementia.
  • Parhau i weithio gyda’r sector cartrefi gofal i helpu i gefnogi’r dull seiliedig ar hawliau o ofalu am bobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd, a galluogi mynediad at y cymorth adsefydlu sydd ei angen arnynt mewn ymateb i COVID-19. Bydd hyn yn cynnwys gwaith parhaus i gefnogi llesiant preswylwyr cartrefi gofal, a nodwyd drwy waith y Cynllun Gweithredu ar gyfer Cartrefi Gofal.

Lleoliadau allweddol

Cartrefi gofal

Mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Cartrefi Gofal, a gyhoeddwyd gyntaf gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2020, yn nodi cymorth Llywodraeth Cymru i’r sector dros gyfnod y gaeaf ar sail y gwersi a bennwyd yn ystod ton gyntaf COVID-19. Cyhoeddwyd diweddariad terfynol ym mis Mawrth 2021. Rydym wedi rhoi cyllid grant i Age Cymru fel y gellir parhau i ymgysylltu â phreswylwyr cartrefi gofal a deall yn well sut brofiad a gawsant yn ystod y pandemig er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu polisïau ac arferion da.

Mae cwestau i farwolaethau wyth o bobl yr ystyriwyd eu hachosion fel rhan o Ymgyrch Jasmine wedi amlygu’r effaith a gaiff arweinyddiaeth a rheolaeth wael ar ddiwylliant sefydliadau a sut mae hyn, yn ei dro, yn effeithio ar ddiogelwch a llesiant pobl sy’n derbyn gwasanaethau. Mae diwylliant negyddol mewn gwasanaethau cartrefi gofal yn creu amgylchedd a all arwain at esgeuluso, cam-drin a thorri hawliau dynol pobl.

Yn dilyn canlyniad y cwestau, gweithiodd Arolygiaeth Gofal Cymru gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Gofal Cymdeithasol Cymru i gynnal digwyddiad myfyrio a dysgu gyda rhanddeiliaid a phartneriaid ym mis Rhagfyr 2021, er mwyn sicrhau na chaiff y gwersi a bennwyd gan Ymgyrch Jasmine mo’u hanghofio. Lluniwyd gweminar ar gyfer ei rhannu â holl awdurdodau lleol a byrddau iechyd Cymru er mwyn rhannu’r hyn a ddysgwyd yn ehangach. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn datblygu rhaglen waith lle canolbwyntir ar arweinyddiaeth a rheolaeth a diwylliannau mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi newid ei dull o gofnodi pryderon ynglŷn â diogelu. Ar ôl sefydlu’r rhaglen, bydd modd rhannu gwybodaeth. Mae Cynllun Strategol Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer 2020 i 25 yn ymrwymo y bydd yn "cyhoeddi graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref’ ac y bydd yn ‘datblygu ein dull o gydweithio a chynnal arolygiadau ymhellach er mwyn cefnogi gwelliannau".

Yn unol â’r adolygiad o wasanaethau i bobl hŷn a gynhaliwyd gan dîm arolygu’r awdurdodau lleol, cynhaliodd tîm arolygu gwasanaethau oedolion a phlant Arolygiaeth Gofal Cymru adolygiad cenedlaethol o gartrefi gofal ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia. Cafodd yr adolygiad ei ysgogi a’i lywio gan y canlynol:

  • Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia 2018-2022 gan Lywodraeth Cymru, lle nodir unwaith eto bod gan bobl hawl i fyw’n dda mewn cartref gofal
  • argymhelliad gofal dementia siaradwyr Cymraeg: Cymdeithas Alzheimer Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg 2018 y dylai Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gydnabod bod diffyg gofal yn y Gymraeg ar gyfer pobl sydd ei angen yn arwain at ofal gwael a allai gael effaith niweidiol ar bobl
  • adroddiad yn dwyn y teitl y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal: Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2018 lle nodir pryderon sylweddol ynglŷn â defnydd amhriodol o gyffuriau gwrthseicotig mewn cartrefi gofal
  • adolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o’r cymorth gofal iechyd a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i bobl hŷn a oedd yn byw mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru yn 2018

Dyma’r canfyddiadau:

  • yn gyffredinol, mae pobl a’u teuluoedd yn gadarnhaol ynglŷn â’r gofal a ddarperir yn y rhan fwyaf o wasanaethau
  • mae angen gwella mynediad at gymorth ar gyfer pobl sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf
  • mae angen gwella’r hyfforddiant a gaiff staff mewn perthynas â dementia, yn ogystal â’r ystyriaeth o’r amgylchedd y mae pobl yn byw ynddo oherwydd natur gymhleth eu hanghenion
  • mae’r maes rheoli meddyginiaethau yn faes y gellir ei wella, yn enwedig mewn perthynas â meddyginiaethau gwrthseicotig. Bydd secondio fferyllydd i weithio yn Arolygiaeth Gofal Cymru yn ystod 2020 i 2021 yn cynnig cyfle i feithrin perthynas â chydweithwyr fferyllol er mwyn helpu i wella gwasanaethau
  • mae darparwyr yn defnyddio technoleg newydd i wella gwasanaethau
  • mae angen mynd i’r afael â gwaith i wella’r trefniadau ar gyfer rhyddhau pobl sy’n byw gyda dementia o ysbytai. Dangosodd y pandemig COVID-19 pa mor bwysig yw’r pwyntiau olaf hyn:
    • cafodd pobl eu cynorthwyo i gadw mewn cysylltiad â’u hanwyliaid trwy ddefnyddio technoleg
    • dangosodd ein galwadau gyda darparwyr yn ystod y cyfnod hwn fod angen gwella prosesau ar gyfer rhyddhau cleifion o’r ysbyty

Cam gweithredu

Mae Cynllun Strategol Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer 2020 i 2025 yn ymrwymo y bydd yn 'defnyddio canfyddiadau ein harolygiadau a’n hadolygiadau er mwyn gwella gwasanaethau yn lleol ac yn genedlaethol' ac, wrth wneud hynny, y bydd yn 'parhau i ddatblygu ein dull o sicrhau gwelliant a gorfodi er mwyn sicrhau bod pobl yn ddiogel ac yn cael gwasanaethau o ansawdd uchel'. Hefyd, bydd yn 'cyhoeddi graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref'.

Gofal cartref

Mae yna heriau sylweddol yn y sector gofal cymdeithasol, ac yn benodol felly mewn gwasanaethau ail-alluogi a gofal cartref. Mae a wnelo hyn â lefel a chymhlethdod yr anghenion a pha mor ddigonol yw’r staff i ddarparu gofal.

Mae’r heriau o ran recriwtio a chadw staff yn amlweddog; er mwyn gallu mynd i’r afael â nhw, rhaid gweithio mewn partneriaeth a rhoi ystod o gamau gweithredu ar waith. Rydym wedi ymrwymo o hyd i gymryd camau ochr yn ochr â’n partneriaid er mwyn gwella ein gweithlu a chreu gweithlu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae hi’n hanfodol inni fynd ati mewn ffordd systemig i ystyried pob un o’n hymrwymiadau, ynghyd â’r cyllid sylweddol a fuddsoddwn mewn gofal cymdeithasol, yn hytrach na’u hystyried fel camau gweithredu unigol. Mae ymgyrch Gofal Cymdeithasol Cymru, sef gofalwn.cymru, yn hyrwyddo’r amryfal rolau sydd ar gael yn y sector gofal cymdeithasol trwy ddefnyddio deunyddiau ar y we a hysbysebion ar y teledu. Mae’r ymgyrch recriwtio genedlaethol hon yn esgor ar effaith wirioneddol o ran galluogi pobl i gael gafael ar ddeunyddiau’n ymwneud â gwaith gofal cymdeithasol, ac mae pobl yn teimlo’n fwy cadarnhaol ynglŷn â gweithio yn y sector. Mae’r heriau personol sylweddol sy’n wynebu’r staff yn cael effaith ac mae agor y meysydd lletygarwch a manwerthu yn cynnig opsiynau gwaith deniadol amgen iddynt.

Datblygwyd Fframwaith Tâl a Dilyniant mewn partneriaeth trwy gyfrwng y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae ymgynghoriad ar waith yn ymwneud â’r fframwaith fel rhan o Ymgynghoriad y Rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth.

Nod y fframwaith gwirfoddol yw gwella trefniadau gweithio ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol trwy bennu cyfres o fandiau ar gyfer gwahanol rolau lle nodir y sgiliau, y gwerthoedd, yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r tasgau arferol ar gyfer pob un. Hefyd, yn y dyfodol, bydd yn cynnwys map gyrfaoedd lle nodir cyfleoedd i gamu ymlaen yn y sector.

Ymhellach, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi creu porth swyddi ar gyfer gofal cymdeithasol, er mwyn helpu i ddwyn ynghyd ddarpar weithwyr a chyflogwyr sy’n awyddus i lenwi swyddi gwag.

Yn 2022 i 2023, dyrannwyd oddeutu £70 miliwn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd Cymru ar gyfer cynyddu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i £10.90 yr awr – bydd y gweithwyr yn elwa ar hyn erbyn mis Mehefin 2023. Mae’r cynnydd sylweddol yn y setliad ar gyfer llywodraeth leol (£43m oedd y swm a ddyrannwyd yn y flwyddyn flaenorol) yn dangos ein hymrwymiad i fynd i’r afael â’r pwysau ar ofal cymdeithasol.

Mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn golygu cynnydd mawr yng nghyflogau llawer o weithwyr, gan beri bod swyddi gofal cymdeithasol yn fwy deniadol. Dylai’r cynnydd hwn helpu i recriwtio a chadw staff yn y sector gofal iechyd.

Hefyd, rydym wrthi’n comisiynu gwerthusiad annibynnol i archwilio pa mor llwyddiannus y rhoddwyd y cynnydd hwn ar waith, a pha effaith a gafodd. Bydd y gwaith ymchwil hwn yn ein helpu i ddysgu a chyflwyno gwelliannau yn y modd y’i rhoddir ar waith, gan ein cynorthwyo i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu a gwella prosesau.

Gwyddom y gall y Cyflog Byw Gwirioneddol wneud gwahaniaeth mawr i weithwyr ar gyflogau isel, ond gwyddom hefyd na fydd y Cyflog Byw Gwirioneddol yn datrys holl broblemau’r sector mewn perthynas â’r gweithlu. Fodd bynnag, mae’n gam cyntaf hanfodol, ac mae’n cynnig sylfaen bwysig ar gyfer gwella amodau gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.

Rydym yn parhau i weithio’n agos iawn gyda’r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol er mwyn clywed lleisiau ein gweithlu fel y gallwn fynd ati i wella mwy fyth ar amodau a thelerau gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys archwilio cyfleoedd i wella budd-daliadau salwch a datblygu Fframwaith Tâl a Dilyniant.

Cam gweithredu

Rydym yn ariannu gwaith recriwtio cenedlaethol a phenodol ac mae awdurdodau lleol yn ymhél ag amryw byd o fentrau i gynyddu capasiti. Cyflwynodd Gweinidogion Cymru Gyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol o fis Ebrill 2022. Trwy gyfrwng y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, mae gwaith yn dal i fod ar y gweill i wella cyflogau, amodau a thelerau yn fwy cyffredinol.

Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol gynllun i geisio cryfhau gwasanaethau gofal yn y gymuned er mwyn lleihau’r pwysau ar y system iechyd a gofal dros y gaeaf a thu hwnt. Gan adeiladu ar y 670 o welyau cymunedol ychwanegol a ddarparwyd yn ystod Gaeaf 2022 i 2023, y bwriad yw sicrhau y bydd pobl sy’n byw gydag eiddilwch yn cael eu cynorthwyo i fyw yn eu cartrefi, gan leihau derbyniadau i ysbytai a gwella mynediad at wasanaethau ail-alluogi.

Cam gweithredu

Byddwn yn parhau i weithio gyda gweithgor y Weinyddiaeth Meddyginiaethau mewn Gofal Cartref (MADC), sy’n cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid. Y nod yw pennu hyfforddiant ac ymarfer cenedlaethol yn ymwneud â gofal cartref a gweinyddu meddyginiaethau’n ddiogel, ynghyd â lleihau achosion lle cofnodir bod meddyginiaethau wedi cael eu defnyddio neu eu storio’n anniogel.

Gofal di-dâl

Mae miloedd o ofalwyr di-dâl o bob oed, o bob rhan o Gymru, yn cynorthwyo pobl ag anghenion cymhleth i fyw’n annibynnol ac yn dda yn eu cartrefi eu hunain gan leihau’r pwysau ar system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. Mae llawer o ofalwyr hŷn yn byw gyda’u cyflyrau iechyd eu hunain, ac er bod gofalu am gyfaill neu aelod o’r teulu yn brofiad gwerth chweil i lawer, gall gofalwyr di-dâl anwybyddu eu hanghenion eu hunain.

Mae’r strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, yn datgan bod yn rhaid i ofalwyr di-dâl gael cyfle i gymryd seibiant o’u rôl ofalu er mwyn eu galluogi i gynnal eu hiechyd a’u llesiant eu hunain. Gall cymorth ymarferol ar gyfer gofalwyr di-dâl atal teuluoedd rhag cyrraedd sefyllfa argyfwng. Hefyd, gall cymorth ariannol leihau straen a helpu gofalwyr di-dâl sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â’r argyfwng costau byw. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu cydnabod a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac rydym yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o gynorthwyo gofalwyr i fyw eu bywydau ochr yn ochr â gofalu.

Ym mis Mai 2022, fe wnaethom fuddsoddi £29 miliwn er mwyn rhoi taliad untro o £500 i 57,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru a oedd yn cael Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022. Hefyd, rydym wedi dyrannu £4.5 miliwn dros dair blynedd i barhau â’n Cronfa Gymorth i Ofalwyr. Cafodd y gronfa, a weinyddir gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, ei sefydlu yn 2020 ac mae wedi helpu dros 16,000 o ofalwyr ar incwm isel i brynu eitemau hanfodol sylfaenol neu gael gafael ar wybodaeth a chyngor ar gyfer rheoli eu rôl ofalu. Mae’r gronfa wedi helpu i ganfod nifer sylweddol o ofalwyr nad oeddent yn hysbys i’r gwasanaethau o’r blaen. Nid yw cymhwystra ar gyfer y grantiau yn gysylltiedig â’r hawl i fudd-daliadau. Hefyd, bydd gofalwyr di-dâl o bob oed yng Nghymru yn elwa ar gronfa £9m ar gyfer sefydlu cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer gwyliau byr. Bydd y buddsoddiad tair blynedd (2022 i 2025) yn cynyddu cyfleoedd i ofalwyr di-dâl gymryd seibiant o’u rôl ofalu, a’r nod yw trawsnewid y ffordd y gall gofalwyr di-dâl gael gafael ar seibiant a gwyliau byr yng Nghymru.

Mae’r dystiolaeth a adolygwyd gennym wrth lunio’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i ategu’r strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl yn dangos yr effaith andwyol a gaiff dyletswyddau gofalu ar iechyd a llesiant rhai gofalwyr, a gwelir bod gofalwyr hŷn yn wynebu risg uwch yn hyn o beth na gofalwyr iau. Mae opsiynau hyblyg ar gyfer seibiant a gwyliau byr yn gallu bod yn elfen hanfodol o’r gofal a’r cymorth y mae gofalwyr di-dâl eu hangen i reoli eu rôl ofalu, a dros dro gallant leihau eu cyfrifoldebau gofalu.

Dulliau galluogi allweddol

Llais

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, cyhoeddwyd cod ymarfer ar wasanaethau eirioli.

Mae’r Cod yn nodi ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod mynediad at wasanaethau a chymorth eirioli ar gael er mwyn galluogi unigolion i ymgysylltu a chyfranogi pan fydd awdurdodau lleol yn arfer dyletswyddau statudol mewn perthynas â nhw. Mae’r Cod yn cydnabod pa mor bwysig yw gwahanol fathau o eiriolaeth, statudol ac anstatudol, ffurfiol ac anffurfiol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiect o’r enw Helpu Eraill i Gymryd Rhan ac Ymgysylltu (neu HOPE) sy’n ceisio hyrwyddo mynediad at gymorth ymyrraeth gynnar ar lefel gymunedol trwy gyfrwng modelau eirioli amrywiol ar gyfer pobl hŷn a gofalwyr ledled Cymru. Bydd y prosiect HOPE yn gwneud y canlynol:

  • sefydlu, hwyluso a chefnogi fforymau cyd-gynhyrchu eiriolaeth ar gyfer pobl hŷn ym mhob rhanbarth
  • pennu llysgenhadon eiriolaeth trwy’r fforymau
  • recriwtio, hyfforddi, defnyddio a chefnogi gwirfoddolwyr sy’n gymheiriaid a gwirfoddolwyr hŷn
  • sefydlu rhaglen hyfforddi Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), gan alluogi eiriolwyr ledled Cymru i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth yn barhaus

Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid llywodraeth leol i fwrw ymlaen â’r gwaith a gyflawnwyd yn y cynadleddau Diogelu ac Eirioli ar gyfer Oedolion a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2019. Y nod fydd:

  • darparu gwasanaethau eirioli cynaliadwy gan gymheiriaid, grwpiau neu ddinasyddion yn y gymuned
  • sicrhau bod ychwaneg o bobl hŷn yn cymryd rhan yn eu cymunedau a bod llai o bobl hŷn yn cael eu hynysu’n gymdeithasol
  • gwella mynediad cynnar at wasanaethau statudol a all osgoi’r angen am ymyriadau argyfwng ar gyfer pobl hŷn a gofalwyr
  • creu dull strategol o hyrwyddo eiriolaeth yng Nghymru

Cam gweithredu

Byddwn yn comisiynu gwaith ymchwil yn ymwneud â darpariaeth a hygyrchedd gwasanaethau eirioli i bobl hŷn mewn cartrefi gofal, nid yn unig pan fyddant yn symud yno gyntaf, ond drwy gydol eu cyfnod yno. Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i gartrefi gofal gyfeirio at wasanaethau eirioli, ac mae canllawiau statudol Arolygiaeth Gofal Cymru yn nodi: ‘Bydd darparwyr gwasanaethau’n sicrhau bod trefniadau ar waith sy’n galluogi unigolion i gael gafael ar wasanaethau eirioli perthnasol neu grwpiau hunan-eiriolaeth (os ydynt yn dymuno hynny) a chymorth gyda’u hanghenion cyfathrebu er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniadau am eu bywyd eu hunain’. Byddai astudio sut gweithiodd hyn yn ymarferol a sut mae wedi effeithio ar fywydau preswylwyr yn cynnig canllaw defnyddiol ar gyfer gwaith polisi yn y dyfodol. Mae effaith anghymesur COVID-19 wedi amlygu’r anghydraddoldebau sy’n wynebu rhai rhannau o gymdeithas, yn cynnwys pobl hŷn, pobl sy’n byw gyda dementia a’r rhai sy’n byw mewn cartrefi gofal. Mae hawliau pobl hŷn mewn cartrefi gofal a mynediad hwylus at wasanaethau eirioli priodol ar gyfer pobl hŷn wedi bod yn faterion pwysig yn ystod y pandemig ac maent yn agwedd bwysig ar y cynllun adfer ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – COVID-19: edrych tua’r dyfodol.

Hawliau pobl hŷn 

Mae hawliau dynol yn hawliau cyffredinol a chydnabyddedig i bawb, fel y nodir yn Neddf Hawliau Dynol 1998. Daeth y Ddeddf i rym yn y DU yn y flwyddyn 2000. Mae hawliau dynol yn wahanol i’r agenda llesiant, ond ceir cyfatebiaeth glos rhyngddynt, ac maent yn feincnod clir mewn perthynas â natur annerbyniol unrhyw driniaeth waradwyddus a diraddiol a ddaw i ran unrhyw un ohonom. Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, i drin pobl yn deg ac yn gyfartal, gydag urddas, parch ac ymreolaeth.

Mae oedran yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Golyga hyn na ellir trin pobl yn wahanol oherwydd eu hoedran. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn rhan o’r Ddeddf Cydraddoldeb. Ei nod yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, yn ystyried sut gallant gyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas decach. Mae’r ddyletswydd yn ysgogi penderfyniadau cadarn. Mae’n annog cyrff cyhoeddus i ddeall sut bydd eu polisïau a’u gwasanaethau’n effeithio ar wahanol grwpiau o bobl â nodweddion gwarchodedig penodol.

Hefyd, gall codi ymwybyddiaeth o hawliau rymuso pobl i gymryd rheolaeth a chydnabod pan fydd eu hawliau o dan fygythiad. Gall diffinio hawliau dynol mewn modd syml rymuso pobl hŷn i herio a newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a’u darparu yng Nghymru, ond mae codi ymwybyddiaeth o hawliau ymhlith gweithwyr proffesiynol yr un mor bwysig.

Fel y nodir yn Sicrhau bod hawliau’n gweithio i bobl hŷn: canllawiau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol:

Y neges glir sy’n deillio o gyfraith achosion yw ei bod yn hanfodol cael gwybodaeth am ddogfennau hawliau dynol ac ymwybyddiaeth ohonynt (fel Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn), a’u hystyried yn rheolaidd yn eich ymarfer er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’ch dyletswydd sylw dyledus. Dylech ystyried hawliau dynol yn awtomatig yn eich prosesau, eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd.

Rydym yn mynd i’r afael â chyfres o gamau gweithredu i "sicrhau bod hawliau’n gweithio i bobl hŷn". Rydym wedi cynnal ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl hŷn a gofalwyr yn ymwybodol o’u hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Hefyd, rydym wedi gweithio gyda phobl hŷn a phartneriaid allweddol i gyd-gynhyrchu canllawiau ymarferol sy’n dangos sut gall gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol ddatblygu dull sy’n seiliedig ar hawliau. Mae’n dangos y gall newidiadau syml i’r ffordd y gweithiwn ddiogelu hawliau dynol unigolion a chael effaith fawr ar eu llesiant. Mae’r grŵp wedi llunio fersiwn o’r canllawiau hyn ar gyfer pobl hŷn hefyd. Bwriedir defnyddio’r ddwy ddogfen hyn gyda’i gilydd i arwain sgyrsiau ac ysbrydoli dealltwriaeth gyffredin o’r effaith drawsnewidiol a gaiff dull sy’n seiliedig ar hawliau.

Yn 2021 i 2022, cafodd pob awdurdod lleol gyllid gennym i hyrwyddo gwaith tuag at greu Cymru sydd o blaid pobl hŷn a chryfhau grwpiau a fforymau pobl hŷn. Gall y strwythurau lleol hyn fod yn effeithiol wrth ledaenu gwybodaeth i bobl hŷn sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, neu sydd yn cael eu cam-drin.

Cam gweithredu

Byddwn yn hyrwyddo rhagor o waith ymchwil i bennu strategaethau ymyrraeth gynnar a strategaethau ataliol er mwyn rhwystro’r arfer o gam-drin pobl hŷn. Bydd y gwaith hwn yn pennu dulliau a all fod yn llwyddiannus o ran galluogi pobl hŷn i osgoi bod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, neu ddioddef cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Rôl LLAIS

Er mwyn lleihau’r risg y bydd pobl yn cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso mewn unrhyw leoliad, mae’n hanfodol bwysig gwrando ar brofiadau defnyddwyr gwasanaethau, a’u grymuso i ddweud wrth rywun os ydynt yn credu eu bod nhw, neu bobl eraill, mewn perygl.

Mae amcanion Cymru Iachach yn adlewyrchu’r nod o sicrhau cysylltiad agosach rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a gwella ymgysylltiad â’r cyhoedd. Amlinellir y nod o ran sicrhau bod dinasyddion wrth galon a chraidd dull system gyfan o ymdrin â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a phwysleisir pa mor bwysig yw gwrando ar safbwynt pawb trwy ymgysylltu’n barhaus.

Er mwyn gwireddu’r uchelgais hwn, bydd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn disodli Cynghorau Iechyd Cymuned (sydd, ar hyn o bryd, yn cynrychioli llais y claf yn y gwasanaeth iechyd yn unig) gyda chorff cenedlaethol newydd, sef Corff Llais y Dinesydd, a elwir yn LLAIS. Bydd LLAIS yn arfer swyddogaethau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Dyma nodau’r corff newydd:

  • cryfhau llais y dinesydd yng Nghymru mewn materion yn ymwneud ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan wneud yn siŵr bod gan ddinasyddion system effeithiol ar gyfer sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed
  • sicrhau bod unigolion yn cael cyngor a chymorth wrth gyflwyno cwyn mewn perthynas â’u gofal
  • defnyddio profiadau defnyddwyr gwasanaethau i ysgogi gwelliant

Bydd y sefydliad newydd hwn yn cael ei sefydlu fel corff cenedlaethol, ond bydd yn cael ei drefnu mewn modd a fydd yn ei alluogi i gyflawni ei swyddogaethau ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Mae’r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswyddau ar y corff newydd, ar gyrff y GIG ac ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i gydweithredu, gyda’r bwriad o gefnogi ei gilydd i hybu ymwybyddiaeth o LLAIS. Mae dyletswydd arnynt hefyd i wneud trefniadau i gynorthwyo’r corff newydd i geisio barn y cyhoedd mewn perthynas â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Cam gweithredu

Cadw pobl yn ddiogel - byddwn yn cyhoeddi Cod Ymarfer ynglŷn â’r modd y gall LLAIS gael mynediad i fannau lle darperir gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol fel y gellir ceisio barn pobl, a’r modd y bydd y gwaith ymgysylltu hwnnw’n cael ei gynnal erbyn Haf 2023. Hefyd, fe fydd yna ganllawiau statudol y bydd yn rhaid i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol eu hystyried wrth ddelio â sylwadau a gyflwynir ger eu bron gan LLAIS.

Rôl Gofal Cymdeithasol Cymru

Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gwneud y canlynol:

  • parhau i gyflawni ei gyfrifoldebau ar gyfer rheoleiddio a datblygu’r gweithlu, gan gyflawni swyddogaethau craidd a statudol
  • parhau i ymestyn y gofrestr gofal cymdeithasol, yn enwedig mewn perthynas â grwpiau newydd fel gweithwyr cartrefi gofal i oedolion, gan barhau i ddiwygio a gwella’r fframwaith rheoleiddio i bawb
  • ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn parhau i gefnogi diwylliannau cadarnhaol mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol

Rhannu gwybodaeth yn well

Mae rhannu gwybodaeth mewn modd effeithiol yn ganolog i arferion diogelu da. Rhaid i ymarferwyr rannu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data’r DU. Mae’r ddeddfwriaeth diogelu data yn caniatáu’r arfer o rannu gwybodaeth ac ni ddylid defnyddio’r ddeddfwriaeth yn awtomatig fel rheswm dros beidio â gwneud hynny. Un o’r amgylchiadau penodol lle caniateir rhannu gwybodaeth yw er mwyn atal camdriniaeth neu niwed difrifol i eraill (atodlen 1 paragraff 18 o Ddeddf Diogelu Data 2018). Un thema allweddol sy’n deillio o Adolygiadau Ymarfer Oedolion yw’r angen i wella dulliau cyfathrebu a rhannu gwybodaeth amlasiantaethol. Os na chaiff gwybodaeth ei rhannu mewn modd amserol ac effeithiol, mae’n bosibl na fydd penderfyniadau o ran sut i ymateb yn cael eu seilio ar wybodaeth, gan arwain o bosibl at arferion diogelu gwael a pheri i bobl fod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Cam gweithredu

Byddwn yn llunio canllawiau anstatudol i atgoffa ymarferwyr sy’n gweithio mewn asiantaethau o’u cyfrifoldebau i rannu gwybodaeth er mwyn diogelu oedolion sydd mewn perygl a’u cynorthwyo i ddeall yr amodau pan fydd angen rhannu gwybodaeth o bosibl. Bydd y cyngor hwn yn cael ei anelu at deuluoedd, gofalwyr, ac ymarferwyr a rheolwyr rheng flaen sy’n gweithio gydag oedolion mewn perygl ac sy’n gorfod gwneud penderfyniadau ynglŷn â rhannu gwybodaeth bersonol fesul achos, pan fo pryderon diogelu i’w cael. Byddwn yn anelu at gyhoeddi’r canllawiau hyn erbyn trydydd chwarter 2024.

Gwell mynediad digidol

Rydym yn gweithio i sicrhau cymdeithas ac economi ddoethach a mwy cysylltiedig trwy sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at dechnolegau digidol, a’u bod yn gwybod sut i’w defnyddio. Dylai amcan cynwysoldeb y Strategaeth Ddigidol i Gymru roi sylw dyledus i anghenion pobl hŷn a gwella’r gallu i sicrhau mynediad at gymorth diogelu.

Mae cynhwysiant digidol yn fater allweddol sy’n gysylltiedig â chyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb ac mae’n ymwneud â sicrhau bod pobl yn elwa ar gyflymder y newid technolegol sy’n digwydd mewn cymdeithas.

Gwyddom fod cyfran fawr o bobl ledled Cymru heb hyder digidol. Efallai:

  • nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd
  • nad ydynt yn meddu ar y sgiliau digidol sylfaenol sy’n angenrheidiol i gael mynediad at wasanaethau a gwybodaeth hanfodol
  • nad oes ganddynt ddyfais a/neu gysylltedd

Dengys Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019 i 2020 fod mwy o bobl hŷn wedi’u hallgáu’n ddigidol nag unrhyw grŵp demograffig arall, sef:

  • 19% o bobl 50 oed a hŷn
  • 19% o bobl 65 i 74 oed
  • 48% o bobl 75 oed a hŷn

Rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo pawb i feithrin y cymhelliant, yr hyder a’r sgiliau a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a dewis sut maent yn cymryd rhan yn ein byd mwyfwy digidol, a gwneud y gorau ohono. Fel y nodir yn y Strategaeth Ddigidol i Gymru (Mawrth 2021), byddwn yn parhau i ddefnyddio egwyddorion dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar gyfer pobl na allant gymryd rhan yn y byd digidol, neu sy’n dewis peidio â gwneud hynny, er mwyn sicrhau bod dulliau amgen ar gael ar gyfer cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru – llwybrau mynediad amgen a fydd cystal â’r rhai a gynigir ar-lein.

Mae hi’n hanfodol i’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol gydnabod anghenion pobl a gaiff eu hallgáu’n ddigidol, gan sicrhau bod y dinasyddion hynny’n cael cymorth cyfartal a’u bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau a chymorth gan y system iechyd a gofal cymdeithasol.

Trwy sicrhau bod dinasyddion Cymru yn hyderus yn ddigidol, yn enwedig ein poblogaeth hŷn, gallwn gyfrannu at nodau triphlyg ein system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, sef gwella iechyd a llesiant y boblogaeth, mynd ati’n barhaus i wella ansawdd y gofal a ddarparwn a sicrhau ein bod yn elwa i’r eithaf ar yr adnoddau sydd gennym.

Trwy gyfrwng y rhaglen cymunedau digidol Cymru: hyder digidol, iechyd a llesiant, rydym yn gweithio gyda sefydliadau o bob sector a all helpu i gyrraedd pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Bwriad y rhaglen yw rhoi hyfforddiant a chymorth i staff rheng flaen, gwirfoddolwyr a sefydliadau er mwyn iddynt allu ymgysylltu â sgiliau digidol dinasyddion a staff rheng flaen, a datblygu’r sgiliau hynny. Rhoddwyd y rhaglen ar waith ym mis Gorffennaf 2019 a disgwylir iddi bara tan 30 Mehefin 2022, gydag opsiwn i’w hymestyn am 3 blynedd arall.

Mae yna angen cynyddol i unigolion, pa un a ydynt yn bobl ifanc neu’n oedolion, ddeall eu hawliau ar-lein yn ogystal â gallu defnyddio technoleg ddigidol yn ddiogel ac yn hyderus. Rydym yn cydnabod bod "cadw’n ddiogel, yn gyfreithlon ac yn hyderus ar-lein" bellach yn un o blith pump o sgiliau digidol sylfaenol a fabwysiedir yn eang ledled y DU. Mae hyfforddiant a gyflwynir gan Cymunedau Digidol Cymru yn cynnwys awgrymiadau ynglŷn â sut i gadw’n ddiogel ar-lein, yn cynnwys diogelu preifatrwydd, a chaiff yr awgrymiadau hyn eu trosglwyddo i ddinasyddion gan staff rheng flaen a gwirfoddolwyr.

Ymgyrch Cyfeillion Digidol: Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi bod wrthi’n datblygu ymgyrch gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o gynhwysiant digidol a gwella sgiliau digidol sylfaenol pobl hŷn trwy dynnu sylw at gamau syml y gall unigolion eu cymryd i gynorthwyo pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol i fynd ar-lein (gan ddod yn gyfaill digidol). 

Aeth Cymunedau Digidol Cymru ati i gaffael a phenodi asiantaeth i ddatblygu cynllun cyfryngau, gydag adnoddau, yn cynnwys hysbysebion wedi’u targedu ar sianeli teledu digidol ITV Hub, Made in Cardiff a North Wales TV, yn ogystal ag ar Facebook. Bydd hyn yn cynnwys astudiaethau achos yn ymwneud â phobl a chanddynt brofiad o allgau digidol a’r effaith a gafodd defnyddio technoleg ar eu bywydau ers hynny. Y brif elfen yn hyn o beth yw annog unigolion i helpu rhywun y maent yn ei adnabod i ddefnyddio technoleg yn effeithiol. Bydd adnoddau ar gyfer cynorthwyo pobl ar gael ar wefan Cymunedau Digidol Cymru i’r rhai sy’n dymuno eu defnyddio.

Dysgu a gwella: effaith ein proses Adolygu Diogelu Unedig Sengl

Yn 2018, lluniwyd adroddiad academaidd gan Dr Amanda Robinson ac adroddiad ymarferydd gan Liane James yn ymwneud ag Adolygiadau Lladdiadau Domestig (DHR), Adolygiadau Ymarfer Oedolion (APR), Adolygiadau Ymarfer Plant (CPR) ac Adolygiadau Lladdiadau Iechyd Meddwl (MHHR) yng Nghymru. Yn y ddau adroddiad, tynnir sylw at y ffaith bod y broses adolygu yn anhrefnus ac yn gymhleth, a bod rhai digwyddiadau’n esgor ar amryfal adolygiadau. Gan ddibynnu ar gategorïau’r adolygiadau, gellid eu cynnal naill ai gan asiantaethau wedi’u datganoli neu asiantaethau heb eu datganoli.

Mae’n bosibl y bydd y ffordd hon o weithio yn ei gwneud yn ofynnol i deuluoedd mewn profedigaeth gymryd rhan mewn amryfal ymchwiliadau’n ymwneud â bywyd a marwolaeth eu hanwyliaid, gan arwain o bosibl at drawma ac erledigaeth o’r newydd i’r teuluoedd. Nododd yr adroddiad academaidd a’r adroddiad ymarferydd fod angen newid y sefyllfa hon fel y gellir lleihau’r effeithiau negyddol ar y teuluoedd, gwneud defnydd gwell o adnoddau ac esgor ar ddull cyflymach o gynnal adolygiadau a gweithredu’r hyn a ddysgir trwy Gymru gyfan. Hefyd, darganfu’r adroddiadau na chynhaliwyd yr adolygiadau mewn modd cydgysylltiedig ac nad oedd cronfa ddata ganolog i’w chael ar gyfer storio pob un ohonynt, felly roedd hi’n anodd rhoi’r pethau a ddysgwyd ar waith yn ymarferol.

Ar sail y canfyddiadau, mae’r adroddiadau’n cynghori bod angen cyflwyno sawl newid, yn cynnwys creu Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR) – sef fframwaith rhyngasiantaethol sy’n cwmpasu pob elfen a fyddai, fel arfer, yn gofyn am amryfal adolygiadau. Bydd yr adolygiad hwn yn parhau i sicrhau bod y teulu o dan sylw wrth galon a chraidd y broses adolygu, ond bydd yn sicrhau bod y teulu’n cael ei ddiogelu rhag niwed pellach. Awgrymwyd hefyd y dylid storio’r adolygiadau hyn, ynghyd â phob DHR, CPR, APR ac MHHR blaenorol, mewn un ystorfa ganolog. O ganlyniad, aethpwyd ati i greu Ystorfa Ddiogelu Cymru ar gyfer storio pob adolygiad mewn un lleoliad. Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws i ymarferwyr gael gafael ar yr adolygiadau ac mae’n hwyluso’r broses o ddysgu ar eu sail. Mae Ystorfa Ddiogelu Cymru yn system unigryw sy’n cynhyrchu archwiliadau thematig o safbwynt gwyddor gymdeithasol a chyfrifiadureg. Yna, mae modd lledaenu’r wybodaeth allweddol hon ledled Cymru er mwyn helpu i amddiffyn dioddefwyr posibl ac atal achosion tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.

Byddwn yn darparu proses Adolygu Diogelu Unedig Sengl a ddefnyddir gan asiantaethau sydd wedi’u datganoli ac asiantaethau sydd heb eu datganoli, fel ei gilydd, er mwyn sicrhau y gellir rhoi argymhellion ar waith ac y gellir ymwreiddio’r pethau a ddysgir. Bydd hyn yn cael gwared â’r angen i gynnal amryfal adolygiadau, gan leihau’r pwysau ar asiantaethau ac ar deuluoedd yr ymadawedig. Bydd y broses Adolygu Diogelu Unedig Sengl yn cael ei rhoi ar waith yn gynnar yn 2024.

Rydym wedi sefydlu Ystorfa Ddiogelu Cymru a fydd yn storio’r holl adolygiadau diogelu mewn un gronfa ddata ganolog. Bydd hyn yn galluogi ymarferwyr i ddefnyddio data sy’n deillio o’r adolygiadau a chreu dadansoddiad thematig o’r adolygiadau, yn ogystal â lledaenu’r hyn a ddysgir ledled Cymru i sicrhau y gellir pennu gwersi a ddeilliodd o ddigwyddiadau yn y gorffennol er mwyn helpu i atal achosion tebyg yn y dyfodol.

Gwell data

Mae adroddiad blynyddol 2019 i 2020 Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru yn argymell y canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod Canllawiau Technegol y Fframwaith Perfformiad Gofal Cymdeithasol yn cynnwys gwybodaeth am achosion o gam-drin pobl hŷn, trwy gasglu data sydd wedi’i ddadansoddi yn ôl grŵp oedran.

Daeth y Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru i rym yn 2020. Mae gwaith i ddadgyfuno’r datganiad diogelu ymhellach ar sail oedran yn un o ofynion y casgliadau newydd. Erbyn hyn, caiff y datganiad ar ddiogelu oedolion, a drosglwyddwyd o’r fframwaith blaenorol, ei gasglu ar sail bandiau oedran llawer mwy cyfyng, felly gellir llunio dadansoddiad manylach o gamdriniaeth ac esgeulustod yn ôl oedran.

Yn anffodus, arweiniodd y pandemig COVID-19 at ohirio’r gwaith hwn. Erbyn hyn, mae’r gwaith o ran datblygu’r cyfrifiad newydd o oedolion sy’n derbyn gofal a chymorth wedi ailddechrau. Gwnaed ymrwymiad i gynhyrchu’r data hwn.

Grŵp Datblygu’r Cyfrifiad Oedolion a fydd yn bennaf gyfrifol am ddatblygu’r cyfrifiad newydd. Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y grŵp hwn, ochr yn ochr â chynrychiolwyr o’r byd academaidd, darparwyr ac asiantaethau partner. Diben y grŵp yw sicrhau bod y casgliadau’n ddilys ac yn bwrpasol, eu bod yn adlewyrchu arferion presennol a’u bod yn addas i’r diben.

Bydd hyn yn arwain at well tystiolaeth ynglŷn â natur cam-drin pobl hŷn yng Nghymru, a pha mor gyffredin ydyw.

Hyfforddi ein gweithlu

Ym mis Ebrill 2021, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, aeth Gofal Cymdeithasol Cymru ati i sefydlu Grŵp Datblygu Safonau Diogelu gyda’r nod o greu:

  • cyfres o safonau diogelu a fyddai’n sylfaen i weithgarwch hyfforddi, dysgu a datblygu yn ymwneud â phlant ac oedolion yng Nghymru
  • cyfres o safonau amlasiantaethol ar gyfer diogelu ar bob lefel, a fyddai’n gysylltiedig â’r cymwyseddau a’r wybodaeth angenrheidiol
  • ffordd o fapio pynciau arbenigol neu hyfforddiant diogelu “arall” oddi allan i’r modiwlau craidd yn unol â set o safonau
  • y gallu i ddefnyddio’r rhain ar draws asiantaethau, rhanbarthau ac anghenion gwahanol yn y sectorau sy’n delio â’r cyhoedd

Bydd hyn yn hyrwyddo’r arfer o rannu gwybodaeth yn briodol, gan bwysleisio pa mor bwysig yw llunio adroddiadau diogelu.

Cam gweithredu

Byddwn yn datblygu Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol gyda rhaglen ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ (gan adeiladu ar y Fframwaith Hyfforddi Rhanbarthol cymeradwy a Fframwaith Hyfforddi’r GIG) a byddwn yn cydgysylltu trafodaeth genedlaethol i wella a chyfoethogi Hyfforddiant Diogelu amlasiantaethol. Bydd y safonau’n cael eu cymeradwyo gan gadeiryddion Byrddau Diogelu Rhanbarthol ac maent yn destun ymgynghoriad.

Cymorth lleol: rôl fferyllfeydd cymunedol

Mae Fferylliaeth Gymunedol Cymru yn cynrychioli dros 700 o berchnogion fferyllfeydd yng Nghymru mewn perthynas â materion yn ymwneud â’r GIG. Prif amcan y corff yw sicrhau’r cyfleoedd, y gydnabyddiaeth ariannol a’r telerau gorau posibl ar gyfer gwasanaethau’r GIG. Dyma’r corff sy’n gyfrifol am gysylltu â’r Adran Iechyd ac am drafod telerau cytundebau ar gyfer darparu gwasanaethau fferylliaeth gymunedol y GIG.

Byddwn yn cynorthwyo Fferyllfeydd Cymunedol trwy ddarparu deunyddiau a hyfforddiant yn ymwneud ag adnabod arwyddion camdriniaeth a sut i roi gwybod i’r gwasanaethau cymdeithasol pan fo hynny’n briodol.

Codi ymwybyddiaeth a chyfathrebu

Mae’r ffigurau diweddaraf ar Stats Cymru yn dangos bod camdriniaeth rywiol a domestig yn erbyn pobl 65 oed a hŷn yn cyfateb i gyfran sylweddol o’r cyfanswm cyffredinol. O ran yr achosion a gofnodwyd gan awdurdodau lleol yn 2019, roedd 284 achos o blith 1,051 o achosion diogelu oedolion a gofnodwyd yn y categori camdriniaeth rywiol yn ymwneud ag oedolion dros 65 oed. Ar gyfer trais domestig, y ffigur oedd 1,321 o blith 2,829.

Gyda phartneriaid o Grŵp Gweithredu’r Comisiynydd Pobl Hŷn ar Atal Cam-drin, ac ar y cyd â’r ffrwd waith Anghenion Pobl Hŷn sy’n rhan o’r Strategaeth VAWDASV, byddwn yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r mathau o gamdriniaeth a ddaw i ran pobl hŷn yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys herio rhai rhagdybiaethau ystrydebol ynglŷn â natur y gamdriniaeth a ddaw i ran menywod a dynion hŷn.

Cam gweithredu

Defnyddio sianeli cyfathrebu a gweithio gyda rhanddeiliaid i godi ymwybyddiaeth o anghenion pobl hŷn sy’n wynebu camdriniaeth a’r ffactorau sy’n rhwystro pobl rhag ceisio cymorth yn ystod 2024. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ategu drwy ddatblygu strategaeth codi ymwybyddiaeth.

Sut byddwn yn monitro’r cynllun hwn

Byddwn yn cyhoeddi adroddiad cyflawni o fewn 12 mis i gyhoeddi’r ddogfen hon. Hefyd, byddwn yn llunio adroddiadau rheolaidd ar gyfer Grŵp Gweithredu’r Comisiynydd Pobl Hŷn ar Atal Cam-drin a thrwy gyfrwng dulliau adrodd y Strategaeth Glasbrint ar gyfer VAWDASV. Hefyd, byddwn yn rhoi diweddariad ffurfiol i Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio.

Atodiad

Mae yna gamau gweithredu i’w cymryd o dan y cynllun gweithredu cenedlaethol i atal cam-drin pobl hŷn:

  • amcan 1: mae pobl hŷn yn cael eu cefnogi i fyw’n annibynnol a chydag urddas ac maent yn gallu cael gafael ar gymorth perthnasol gan wasanaethau diogelu os ydynt mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso
  • amcan 2: mae pobl hŷn sy’n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol yn gallu cael gafael ar gymorth perthnasol gan wasanaethau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol pan fo angen
  • amcan 3: mae pobl hŷn yn cael eu hamddiffyn rhag wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso

Amcanion cyffredinol

Cam gweithredu

Datblygu rhaglen ymchwil er mwyn sicrhau bod gennym ddata a thystiolaeth briodol i gyflawni ac ategu amcanion y Cynllun hwn.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru.
  • Dyddiad targed: canol 2024.

Cam gweithredu

Datblygu a lansio ymgyrch gyfathrebu ac ymwybyddiaeth i ategu a chyflawni’r Cynllun hwn.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru.
  • Dyddiad targed: dechrau 2024.

Amcan 1: mae pobl hŷn yn cael eu cefnogi i fyw’n annibynnol a chydag urddas ac maent yn gallu cael gafael ar gymorth perthnasol gan wasanaethau diogelu os ydynt mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso

Cam gweithredu

Byddwn yn datblygu canllawiau ymarfer newydd yn ymwneud â hunanesgeulustod ar draws lleoliadau perthnasol. Bydd hyn yn galluogi ymarferwyr i bennu arwyddion hunanesgeulustod yn well a gweithredu ar sail yr arwyddion hynny, gan atal niwed i’r bobl eu hunain ac i bobl eraill – sef niwed a allai ddigwydd os nad ymdrinnir â’r mater mewn modd sensitif.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru.
  • Dyddiad targed: canol 2024.

Cam gweithredu

Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn datblygu rhaglen waith lle canolbwyntir ar arweinyddiaeth a rheolaeth a diwylliannau mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan gyfeirio’n benodol at hawliau, parch a llais pobl hŷn, ymwybyddiaeth o gam-drin pobl hŷn ac atal cam-drin pobl hŷn.

  • Perchennog: Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Dyddiad targed: parhaus.

Cam gweithredu

Mae Cynllun Strategol Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer 2020 i 2025 yn ymrwymo y bydd yn:

Cyhoeddi graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref’ ac y bydd yn ‘datblygu ein dull o gydweithio a chynnal arolygiadau ymhellach er mwyn cefnogi gwelliannau.

Bydd hyn yn arwain at ddarparu gwell gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau a byddant yn fwy abl i fyw’n annibynnol a chyda parch, gan leihau’r risg y byddant yn cael eu cam-drin a’u hesgeuluso.

  • Perchennog: Arolygiaeth Gofal Cymru.
  • Dyddiad targed: ail chwarter 2024.

Cam gweithredu

Llais, ymwybyddiaeth, gwybodaeth a chymorth. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid llywodraeth leol i fwrw ymlaen â’r gwaith a gyflawnwyd yn y cynadleddau Diogelu ac Eirioli ar gyfer Oedolion a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2019.

Y nod fydd darparu gwasanaethau eirioli cynaliadwy gan gymheiriaid, grwpiau neu ddinasyddion yn y gymuned, sicrhau bod ychwaneg o bobl hŷn yn cymryd rhan yn eu cymunedau a bod llai o bobl hŷn yn cael eu hynysu’n gymdeithasol, gwella mynediad cynnar at wasanaethau statudol a all osgoi’r angen am ymyriadau argyfwng ar gyfer pobl hŷn a gofalwyr, a chreu dull strategol o hyrwyddo eiriolaeth yng Nghymru.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru ac ADSSC.
  • Dyddiad targed: canol 2024.

Cam gweithredu

Byddwn yn comisiynu gwaith ymchwil yn ymwneud â darpariaeth a hygyrchedd gwasanaethau eirioli i bobl hŷn mewn cartrefi gofal, nid yn unig pan fyddant yn symud yno gyntaf, ond drwy gydol eu cyfnod yno, a byddwn yn archwilio argymhellion y gwaith ymchwil hwn.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru.
  • Dyddiad targed: diwedd 2023.

Cam gweithredu

Byddwn yn ymwreiddio arferion sy’n pontio’r cenedlaethau ac yn mynd i’r afael â rhagfarn ar sail oedran, gan ddysgu ar sail adborth cyfranogwyr yn ein huwchgynhadledd genedlaethol (rithwir) a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2021, gan helpu i sicrhau parch, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth rhwng y cenedlaethau a chan gyfrannu at Gymru sydd o blaid pobl hŷn. Ceir cysylltiadau â Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru.
  • Dyddiad targed: parhaus.

Cam gweithredu

Mynediad at wasanaethau, cymorth a gwybodaeth. Ymgyrch Cyfeillion Digidol: mae Cymunedau Digidol Cymru wedi bod wrthi’n datblygu ymgyrch gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o gynhwysiant digidol a gwella sgiliau digidol sylfaenol pobl hŷn trwy dynnu sylw at gamau syml y gall unigolion eu cymryd i gynorthwyo pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol i fynd ar-lein (gan ddod yn gyfaill digidol). Bydd hyn yn cynnwys astudiaethau achos yn ymwneud â phobl a chanddynt brofiad o allgau digidol a’r effaith a gafodd defnyddio technoleg ar eu bywydau ers hynny.

  • Perchennog: Cymunedau Digidol Cymru.
  • Dyddiad targed: diwedd 2023.

Cam gweithredu

Gwella ymwybyddiaeth a gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig – Datblygu Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol gyda rhaglen ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ (gan adeiladu ar y Fframwaith Hyfforddi Rhanbarthol cymeradwy a Fframwaith Hyfforddi’r GIG) a chydgysylltu trafodaeth genedlaethol i wella a chyfoethogi Hyfforddiant Diogelu amlasiantaethol yn ymwneud ag atal ac adnabod camdriniaeth.

  • Perchennog: Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Dyddiad targed: dechrau 2024.

Amcan 2: mae pobl hŷn sy’n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol yn gallu cael gafael ar gymorth perthnasol gan wasanaethau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol pan fo angen

Cam gweithredu

Byddwn yn gweithio gyda’r Comisiynydd Pobl Hŷn i adolygu a diweddaru’r wybodaeth a’r canllawiau ar gam-drin domestig: diogelu pobl hŷn yng Nghymru.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru a’r Comisiynydd Pobl Hŷn.
  • Dyddiad targed: canol 2024.

Cam gweithredu

Diwallu anghenion. Byddwn yn parhau i fonitro Grantiau VAWDASV a weinyddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhanbarthau a sefydliadau’r trydydd sector bob blwyddyn er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r Canllawiau Statudol ar gyfer Comisiynu Gwasanaethau VAWDASV yng Nghymru. Gofynnir iddynt ddarparu tystiolaeth o ran sut maent wedi ystyried a diwallu anghenion pobl hŷn.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru.
  • Dyddiad targed: parhaus.

Cam gweithredu

Byddwn yn adeiladu ar yr ymgyrch ddylai neb deimlo’n ofnus gartre fel y gellir canolbwyntio ar drais yn erbyn pobl hŷn.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru.
  • Dyddiad targed: canol 2024.

Cam gweithredu

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r ffrwd waith Anghenion Pobl Hŷn sy’n rhan o’r Strategaeth VAWDASV er mwyn sicrhau y gellir ymdrin yn briodol ag anghenion pobl hŷn a gwella gwasanaethau. Cysylltiadau â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: strategaeth 2022 i 2026.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru a phartneriaid.
  • Dyddiad targed: parhaus.

Amcan 3: mae pobl hŷn yn cael eu hamddiffyn rhag wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso

Cam gweithredu

Darparu cymorth. Defnyddio crynodeb o’r canlyniadau yr adroddir amdanynt trwy gyfrwng prosiectau a ariennir gan y Gronfa Gofal Integredig (ICF), sef rhai a gaiff eu paru â meysydd y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi’r dull ‘timau o amgylch yr unigolyn’, gan alluogi teuluoedd a gofalwyr i gael gofal seibiant a all ddiwallu anghenion y gofalwr yn ogystal ag anghenion y sawl sy’n byw gyda dementia.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru.
  • Dyddiad targed: parhaus.

Cam gweithredu

Parhau i weithio gyda’r sector cartrefi gofal er mwyn helpu i gefnogi dull sy’n seiliedig ar hawliau wrth ofalu am bobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd, a galluogi pobl i gael gafael ar y cymorth adsefydlu angenrheidiol. Bydd hyn yn cynnwys gwaith parhaus i gefnogi llesiant preswylwyr cartrefi gofal, a bennir trwy gyfrwng gwaith y Cynllun Gweithredu ar gyfer Cartrefi Gofal.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru a darparwyr cartrefi gofal.
  • Dyddiad targed: parhaus.

Cam gweithredu

Byddwn yn gweithio i gynorthwyo ein gweithlu gofal cymdeithasol gyda materion yn ymwneud â chyflogau, amodau a hyfforddiant trwy gyfrwng y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol er mwyn sicrhau bod gennym y gweithlu iawn â’r sgiliau iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru.
  • Dyddiad targed: parhaus.

Cam gweithredu

Sicrhau y gweinyddir meddyginiaethau’n ddiogel. Byddwn yn parhau i weithio gyda gweithgor y Weinyddiaeth Meddyginiaethau mewn Gofal Cartref (MADC), sy’n cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid. Y nod yw pennu hyfforddiant ac ymarfer cenedlaethol yn ymwneud â gofal cartref a gweinyddu meddyginiaethau’n ddiogel, ynghyd â lleihau achosion lle cofnodir bod meddyginiaethau wedi cael eu defnyddio neu eu storio’n anniogel.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid.
  • Dyddiad targed: parhaus.

Cam gweithredu

Rheoleiddio ac arolygu. Byddwn yn cyhoeddi cod ymarfer yn ymwneud â cheisiadau gan Gorff Llais y Dinesydd i gael mynediad i fannau lle darperir gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol fel y gellir ceisio barn pobl, y bwriad yw rhoi hyn mewn grym erbyn haf 2023. Hefyd, fe fydd yna ganllawiau statudol y bydd yn rhaid i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol eu hystyried wrth ddelio â sylwadau a gyflwynir ger eu bron gan Gorff Llais y Dinesydd.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru.
  • Dyddiad targed: canol 2023.

Cam gweithredu

Byddwn yn llunio canllawiau anstatudol i atgoffa ymarferwyr sy’n gweithio mewn asiantaethau o’u cyfrifoldebau i rannu gwybodaeth er mwyn diogelu oedolion sydd mewn perygl a’u cynorthwyo i ddeall yr amodau pan fydd angen rhannu gwybodaeth o bosibl.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru.
  • Dyddiad targed: 3ydd chwarter 2023.

Cam gweithredu

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i lunio canllawiau ar adnabod ac osgoi cam-drin ariannol, ymhlith pobl hŷn yn benodol, gan ddarparu ffynonellau cyngor a chymorth.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru a phartneriaid.
  • Dyddiad targed: canol 2024.

Cam gweithredu

Wrth inni barhau i weithredu’r strategaeth unigrwydd ac ynysigrwydd, byddwn yn ystyried materion allweddol a bennwyd gan y grŵp, megis: allgáu digidol, goresgyn rhwystrau o ran ailymgysylltu, y mathau o gymorth parhaus y mae eu hangen, a chynnal cymorth yn y gymuned. Bydd presgripsiynu cymdeithasol yn cyfrannu’n fawr at sicrhau bod cymorth ataliol ar gael yn lleol a’i fod yn ymateb i anghenion unigol.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru.
  • Dyddiad targed: parhaus.

Cam gweithredu

Byddwn yn darparu proses Adolygu Diogelu Unedig Sengl a ddefnyddir gan asiantaethau sydd wedi’u datganoli ac asiantaethau sydd heb eu datganoli, fel ei gilydd, er mwyn sicrhau y gellir rhoi argymhellion ar waith ac y gellir ymwreiddio’r pethau a ddysgir.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru a Byrddau Diogelu.
  • Dyddiad targed: dechrau 2024.

Cam gweithredu

Byddwn yn defnyddio Ystorfa Ddiogelu Cymru i storio pob adolygiad diogelu mewn un gronfa ddata ganolog, a thrwy ddefnyddio dysgu peirianyddol byddwn yn pennu tueddiadau a themâu.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru.
  • Dyddiad targed: canol 2024.

Cam gweithredu

Ymwybyddiaeth a chymorth. Byddwn yn cynorthwyo Fferyllfeydd Cymunedol trwy ddarparu deunyddiau a hyfforddiant yn ymwneud ag adnabod arwyddion camdriniaeth a sut i roi gwybod i’r gwasanaethau cymdeithasol pan fo hynny’n briodol.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru a Fferylliaeth Gymunedol Cymru.
  • Dyddiad targed: diwedd 2024.

Cam gweithredu

Datblygu’r cyfrifiad newydd o oedolion sy’n derbyn gofal a chymorth. Grŵp Datblygu’r Cyfrifiad Oedolion a fydd yn bennaf gyfrifol am ddatblygu’r cyfrifiad newydd. Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y grŵp hwn, ochr yn ochr â chynrychiolwyr o’r byd academaidd, darparwyr ac asiantaethau partner. Bydd hyn yn ein galluogi’n well i sylwi ar dueddiadau a risgiau.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru a Grŵp Datblygu’r Cyfrifiad Oedolion.
  • Dyddiad targed: canol 2024.

Cam gweithredu

Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn parhau i ymestyn y gofrestr gofal cymdeithasol, yn enwedig mewn perthynas â grwpiau newydd fel gweithwyr cartrefi gofal i oedolion, gan barhau i ddiwygio a gwella’r fframwaith rheoleiddio i bawb.

  • Perchennog: Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Dyddiad targed: parhaus.

Cam gweithredu

Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth. Byddwn yn datblygu adnodd yn ymwneud ag eiriolaeth mewn cartrefi gofal ar gyfer staff cartrefi gofal.

  • Perchennog: Llywodraeth Cymru a Darparwyr Eiriolaeth.
  • Dyddiad targed: canol 2024.