Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Mercher 17 Mai), cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg fod cynllun gweithredu cenedlaethol newydd i gael ei greu i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cynllun yn darparu trosolwg strategol o sut bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i weithio gyda'i phartneriaid i barhau i wella'r gefnogaeth i sicrhau diogelwch ar-lein yng Nghymru.  Bydd y cynllun yn adeiladu ar y rhaglen helaeth sydd eisoes yn cael ei dilyn mewn ysgolion i helpu pobl ifanc i ddefnyddio'r we yn ddiogel.

Yn ôl ffigurau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae 95% o blant 7 i 15 oed yn defnyddio'r rhyngrwyd gartref, a'r ddyfais a ddefnyddir fwyaf ganddynt yw llechen neu ddyfais gyfatebol (71%).

Dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cryfhau diogelwch ar-lein ym myd addysg:

  • Mae 85% (1,375) o bob ysgol wedi dechrau defnyddio adnodd 360 degree Safe Cymru, sy'n caniatáu i ysgolion gymharu eu polisïau a'u darpariaeth o ran diogelwch ar-lein â'r safonau cenedlaethol, ac sy'n rhoi awgrymiadau ymarferol ar wella diogelwch ar-lein. 
  • Creu'r Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb, y platfform dysgu digidol i ysgolion yn Nghymru, sydd ar gael i athrawon a rhieni.
  • Cyhoeddi'r Adnodd Diogelwch Ar-lein i Gymru, gydag adnoddau ymarferol a chynlluniau gwersi i gefnogi ysgolion wrth sicrhau diogelwch ar-lein yn y dosbarth. 
  • Cyflwynwyd sesiynau hyfforddi ar ddiogelwch ar-lein ym mhob awdurdod lleol.  Mae 2,300 o athrawon a llywodraethwyr wedi dysgu sgiliau newydd i'w paratoi i ddelio â materion y gallai pobl ifanc ddod ar eu traws ar-lein. 
  • Ym mis Medi 2016, cyhoeddwyd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, elfen gyntaf y cwricwlwm newydd i gael ei chyflwyno ledled Cymru.  Mae hyn yn cynnwys elfen Ddinasyddiaeth sy'n canolbwyntio ar ddatblygu a chymhwyso sgiliau a strategaethau meddwl yn feirniadol.  Mae'n cynnwys elfennau penodol sy'n canolbwyntio ar ymddygiad ar-lein, seiberfwlio ynghyd â iechyd a llesiant.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Dwi'n gwbl ymroddedig i gadw ein plant a'n pobl ifanc yn ddiogel ar-lein.  Ein cyfrifoldeb ni fel cymdeithas yw rhoi'r sgiliau i'n pobl ifanc i allu meddwl yn feirniadol a gallu llywio'u ffordd drwy'r byd digidol mewn ffordd ddiogel a chyfrifol.

"Dyna pam mae gyda ni amrywiaeth o bolisïau i'n helpu ni i gyflawni hyn, o ddarparu hyfforddiant i athrawon a llywodraethwyr er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o broblemau, i addysgu ein disgyblion mewn sgiliau newydd, i ddarparu adnoddau ar gyfer ein hysgolion a'n rhieni.

"Er ein bod ni eisoes yn cyflwyno rhaglen helaeth o weithgareddau diogelwch ar-lein, mae yna le i fwy bob amser. Dyna pam dwi'n comisiynu cynllun gweithredu cenedlaethol ar ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein.  Bydd hyn yn darparu trosolwg strategol o sut rydyn ni am barhau i wella'r gefnogaeth i sicrhau diogelwch ar-lein yng Nghymru."