Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd Trydydd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Agored y DU ym mis Mai 2016. Nododd y cynllun hwn ymrwymiadau i lywodraeth agored yn y DU ac uchelgeisiau Llywodraeth y DU ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.

Mae’r fersiwn hon o Drydydd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Agored sydd wedi’i diweddaru yn cynnwys ymrwymiadau newydd gan bob un o’r gweinyddiaethau datganoledig: Llywodraeth Cymru, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth yr Alban. Mae hyn yn dangos ein bod ymrwymedig i fod yn agored ac yn dryloyw.

Rydym oll yn credu bod llywodraeth agored yn well llywodraeth:

  • mwy atebol ac ymatebol i bobl
  • yn barod i dderbyn syniadau newydd ac mewn sefyllfa well i’w rhoi ar waith
  • yn y sefyllfa orau i fanteisio ar dalentau, arbenigedd ac egni dinasyddion, cymdeithas sifil a busnesau i greu cymdeithas well a mwy cadarn i bawb

Mae’r cynllun hwn wedi cael ei gyd-greu ag aelodau o gymdeithas sifil a dinasyddion gweithredol, wedi’u cydlynu drwy ein rhwydweithiau llywodraeth agored. Rydym yn ymrwymedig i barhau i weithio gyda chymdeithas sifil i weithredu a datblygu ymrwymiadau yn y dyfodol.

Ymrwymiad 1: Cynllun data agored

Datblygu cynllun data agored i Lywodraeth Cymru a’i roi ar waith a gweithio tuag at gyflawni’r ymrwymiadau a amlinellir yn y cynllun.

Amcan

Datblygu cynllun sy’n amlinellu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddata agored a gwella ymwybyddiaeth o ddata agored ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru.

Y sefyllfa fel y mae

O fewn Llywodraeth Cymru rydym eisoes yn ymdrechu i wneud ein data yn fwy hygyrch drwy wefannau megis Lle a StatsCymru. Fodd bynnag, mae rhagor y gellir ei wneud i sicrhau bod ein data yn fwy agored a thryloyw.

Mae angen hefyd am fod yn fwy ymwybodol o’r cyfleoedd a’r manteision posibl y gall data agored eu cynnig i bobl Cymru, busnesau, y sector gwasanaeth cyhoeddus a Llywodraeth Cymru. Drwy roi ein Cynllun Data Agored a’i ymrwymiadau ar waith dylid helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Uchelgais

Er bod gwaith eisoes yn mynd rhagddo ym maes data agored o fewn Llywodraeth Cymru gobeithiwn, drwy roi’r Cynllun Data Agored hwn ar waith, y byddwn yn codi ymwybyddiaeth, yn atgyfnerthu gwaith sy’n mynd rhagddo a dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddata agored. Ein gobaith yw y bydd y cynllun yn rhoi cyfle ymarferol i weithio gyda sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus a’u hannog i gynyddu faint o ddata agored y maent yn eu cyhoeddi ac yn eu defnyddio.

Sefydliad gweithredu arweiniol

Llywodraeth Cymru

Amserlen

Mawrth 2016 – Mawrth 2018

Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored

Mynediad at wybodaeth

Ymrwymiad newydd neu barhaus

Newydd a pharhaus

Eraill sydd ynghlwm: Y Llywodraeth

-

Eraill sydd ynghlwm: Sefydliadau cymdeithas sifil, y sector preifat, gweithgorau, cyrff amlochrog ac ati

-

Cerrig milltir y gellir eu cadarnhau a’u mesur i gyflawni’r ymrwymiad Ymrwymiad newydd neu barhaus Dyddiad dechrau Dyddiad gorffen
Gweithredu ymrwymiadau a amlinellir yng Nghynllun Data Agored Llywodraeth Cymru Newydd a pharhaus Mawrth 2016 Mawrth 2018

Ymrwymiad 2: Gwasanaeth data agored

Datblygu Gwasanaeth Data Agored i Gymru gyda ffocws ar helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus.

Amcan

Sicrhau bod Llywodraeth Cymru a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yn fwy agored a chynyddu faint o ddata am Gymru a gyhoeddir ganddynt.

Y sefyllfa fel y mae

Dim ond is-set o ddata am Gymru a ddelir gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus a gyhoeddir ar hyn o bryd.

Uchelgais

Bydd datblygu Gwasanaeth Data Agored i Gymru yn sicrhau bod y data a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn fwy hygyrch a’u bod yn cyhoeddi mwy o ddata. At hynny, drwy sicrhau bod data ar gael yn fwy agored y gobaith yw y bydd hynny’n help i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Sefydliad gweithredu arweiniol

Llywodraeth Cymru

Amserlen

Mawrth 2016 – Mawrth 2017

Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored

Mynediad at wybodaeth, Technoleg ac arloesed

Ymrwymiad newydd neu barhaus

Parhaus

Eraill sydd ynghlwm: Y Llywodraeth

Menter Llywodraeth Cymru sy’n cyhoeddi data i Gymru, y gall rhai darnau ddod o adrannau eraill o’r llywodraeth.

Eraill sydd ynghlwm: Sefydliadau cymdeithas sifil, y sector preifat, gweithgorau, cyrff amlochrog ac ati

Mae defnyddwyr wedi bod yn cymryd rhan yn y broses o ddatblygu gwefan StatsCymru, e.e. rhoi adborth, a chael y wybodaeth ddiweddaraf mewn fforymau amrywiol i ddefnyddwyr. Mae hyn wedi cynnwys ein grŵp defnyddwyr sy’n cwmpasu’r trydydd sector.

Rydym yn gweithio er mwyn caniatáu i bartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus gyhoeddi drwy StatsCymru o dan eu logo eu hunain. Hyd yma, dim ond Comisiynydd y Gymraeg sydd wedi gwneud hynny.

Cerrig milltir y gellir eu cadarnhau a’u mesur i gyflawni’r ymrwymiad Ymrwymiad newydd neu barhaus Dyddiad dechrau Dyddiad gorffen
Mae data StatsCymru yn cael eu cyhoeddi ar ffurf y gall peiriant ei darllen Parhaus Mehefin 2016 Parhaus
Mae deunydd hyfforddiant StatsCymru ar welliannau’n cael ei baratoi a’i gyflwyno Newydd Tachwedd 2016 Rhagfyr 2017
Lle wedi ei ddatblygu i alluogi defnyddwyr i greu eu mapiau eu hunain Parhaus Ionawr 2016 Ionawr 2017
Mae catalog o ddata agored yn cael ei baratoi Parhaus Hydref 2016 Rhagfyr 2016

Ymrwymiad 3: StatsCymru

Datblygu StatsCymru, sef ystorfa ar-lein Llywodraeth Cymru ar gyfer data ystadegol manwl, er mwyn codi ei statws bod yn agored i 4*.

Amcan

Sicrhau bod y data strwythuredig a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yn fwy agored a chynyddu faint o ddata strwythuredig a gyhoeddir ganddynt.

Y sefyllfa fel y mae

Dim ond is-set o ddata am Gymru a ddelir gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus a gyhoeddir ar hyn o bryd. Er bod StatsCymru yn cyhoeddi data strwythuredig yn agored mae angen cynyddu ei statws bod yn agored.

Uchelgais

Drwy’r ymrwymiad hwn byddwn yn gwneud y data a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn fwy agored, gan ei gwneud yn bosibl i’n data gael eu rhannu’n hawdd a’u defnyddio gan eraill.

Sefydliad gweithredu arweiniol

Llywodraeth Cymru

Amserlen

Mawrth 2016 – Rhagfyr 2017

Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored

Mynediad at wybodaeth, Technoleg ac Arloesedd

Ymrwymiad newydd neu barhaus

Newydd

Eraill sydd ynghlwm: Y Llywodraeth

Menter Llywodraeth Cymru sy’n cyhoeddi data i Gymru, y gall rhai darnau ddod o adrannau eraill o’r llywodraeth.

Eraill sydd ynghlwm: Sefydliadau cymdeithas sifil, y sector preifat, gweithgorau, cyrff amlochrog ac ati

Mae defnyddwyr wedi cymryd rhan yn y broses o ddatblygu’r wefan e.e. rhoi adborth, a chael y wybodaeth ddiweddaraf mewn fforymau amrywiol i ddefnyddwyr. Mae hyn wedi cynnwys ein grŵp defnyddwyr sy’n cwmpasu’r trydydd sector.

Rydym yn gweithio er mwyn caniatáu i bartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus gyhoeddi drwy StatsCymru o dan eu logo eu hunain. Hyd yma, dim ond Comisiynydd y Gymraeg sydd wedi gwneud hynny.

Cerrig milltir y gellir eu cadarnhau a’u mesur i gyflawni’r ymrwymiad Ymrwymiad newydd neu barhaus Dyddiad dechrau Dyddiad gorffen
Mae data StatsCymru yn cael eu cyhoeddi ar ffurf y gall peiriant ei darllen Parhaus Mehefin 2016 Parhaus
Mae canllawiau a fideos hyfforddiant StatsCymru yn cael eu paratoi a’u cyhoeddus Newydd Tachwedd 2016 Rhagfyr 2016
Caiff StatsCymru ei achredu’n llwyddiannus Newydd Medi 2016 Mawrth 2017
Mae deunydd hyfforddiant StatsCymru yn cael ei baratoi a’i gyflwyno Newydd Tachwedd 2016 Rhagfyr 2017

Ymrwymiad 4: Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru

Mewn partneriaeth â Chanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, bydd Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau bod mynediad at setiau data’r llywodraeth ar gael mewn modd diogel at ddibenion ymchwil academaidd a sector cyhoeddus. At hynny, caiff mynediad o’r fath ei hyrwyddo er mwyn sicrhau’r defnydd mwyaf posibl o ddata o’r fath at ddibenion ymchwil a gyhoeddir ac sydd ar gael i helpu i wneud penderfyniadau gwell.

Amcan

Sicrhau mynediad moesegol at ddata a ddelir gan y llywodraeth i ymchwilwyr achrededig o’r byd academaidd neu’r sector cyhoeddus mewn amgylcheddau diogel cymeradwy gyda rheolaethau priodol ar waith, gan arwain at ymchwil gyhoeddedig er budd y cyhoedd.

Y sefyllfa fel y mae

Goresgyn rhwystrau i fynediad at ddata at ddibenion ymchwil academaidd neu sector cyhoeddus.

Uchelgais

Drwy’r ymrwymiad hwn byddwn yn gwella gwerth cyhoeddus data’r llywodraeth drwy sicrhau eu bod ar gael i’w defnyddio i baratoi ymchwil gyhoeddedig o safon uchel a fydd yn llywio polisïau cyhoeddus a gwella bywydau dinasyddion.

Sefydliad gweithredu arweiniol

Llywodraeth Cymru

Amserlen

Parhaus

Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored

Mynediad at wybodaeth

Ymrwymiad newydd neu barhaus

Newydd

Eraill sydd ynghlwm: Y Llywodraeth

Awdurdod Ystadegau’r DU

Eraill sydd ynghlwm: Sefydliadau cymdeithas sifil, y sector preifat, gweithgorau, cyrff amlochrog ac ati

Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol – Cymru (partneriaeth academaidd); Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol; Bwrdd y Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol

Cerrig milltir y gellir eu cadarnhau a’u mesur i gyflawni’r ymrwymiad Ymrwymiad newydd neu barhaus Dyddiad dechrau Dyddiad gorffen
Cyhoeddi rhagor o ymchwil mewn partneriaeth â Chanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru erbyn diwedd y flwyddyn ariannol Parhaus Mawrth 2015 31/03/17
Cynyddu nifer setiau data’r sector cyhoeddus sydd ar gael i ymchwilwyr yng Nghymru drwy Ganolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru erbyn diwedd y flwyddyn ariannol Parhaus Mawrth 2015 31/03/17
Treialu technegau i awdurdodau lleol ddarparu data at ddibenion ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru erbyn diwedd y flwyddyn ariannol Newydd Medi 2016 31/03/17

Ymrwymiad 5: Protocol Cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyhoeddi ymchwil y llywodraeth yn unol â phrotocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, gan gyhoeddi teitlau adroddiadau ymlaen llaw a’u cyhoeddi ar dudalennau ‘Ystadegau ac Ymchwil’ gwefan Llywodraeth Cymru. Mae cyhoeddi adroddiadau ymchwil gymdeithasol yn unol â phrotocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth yn rhan allweddol o Egwyddorion Ymchwil a Gwerthuso Llywodraeth Cymru.

Amcan

Cyhoeddi ymchwil yn unol â phrotocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.

Y sefyllfa fel y mae

Mae protocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth wedi cael ei fabwysiadu i sicrhau bod y dystiolaeth a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru yn fwy tryloyw.

Uchelgais

Drwy gyhoeddi ymchwil bydd y dystiolaeth a ddefnyddir gan y Llywodraeth yn ei phenderfyniadau yn cael ei chyhoeddi a hefyd ganfyddiadau ymchwil a fydd yn ddefnyddiol i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector er mwyn llywio eu prosesau gwneud penderfyniadau eu hunain.

Sefydliad gweithredu arweiniol

Llywodraeth Cymru

Amserlen

Er bod protocol cyhoeddi ymchwil gymdeithasol y llywodraeth wedi cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ers iddo gael ei gyflwyno yn 2010, bu ymrwymiad gan Weinidogion i ddefnyddio’r protocol ers mis Mawrth 2014.

Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored

Mynediad at wybodaeth, Atebolrwydd cyhoeddus

Ymrwymiad newydd neu barhaus

Parhaus

Eraill sydd ynghlwm: Y Llywodraeth

Llywodraeth Cymru

Eraill sydd ynghlwm: Sefydliadau cymdeithas sifil, y sector preifat, gweithgorau, cyrff amlochrog ac ati

-

Cerrig milltir y gellir eu cadarnhau a’u mesur i gyflawni’r ymrwymiad Ymrwymiad newydd neu barhaus Dyddiad dechrau Dyddiad gorffen
Defnyddio protocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth ar gyfer pob cyhoeddiad ymchwil. Parhaus Mawrth 2010 Parhaus
Ymrwymiad Gweinidogion i ddefnyddio protocol cyhoeddi Ymchwil Cymdeithasol y Llywodraeth. Parhaus Mawrth 2014 Parhaus

Ymrwymiad 6: GOV.CYMRU

Byddwn yn sicrhau ei bod yn haws dod o hyd i’n gwybodaeth a’n gwasanaethau drwy gyfuno ein cynnwys digidol ar wefan newydd i Lywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion defnyddwyr. Bydd y wefan yn cynnwys gwell gwasanaeth ymgynghori.

Amcan

Creu GOV.CYMRU newydd er mwyn gwella mynediad at wybodaeth a gwasanaethau Llywodraeth Cymru.

Y sefyllfa fel y mae

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth ar fwy na 150 o wefannau. Caiff gwybodaeth ei chyflwyno’n anghyson ac weithiau caiff ei dyblygu. Nid yw defnyddwyr yn gwybod a ydynt wedi dod o hyd i holl wybodaeth Llywodraeth Cymru am fater penodol.

Uchelgais

Bydd GOV.WALES yn cynnwys bron holl wybodaeth a gwasanaethau Llywodraeth Cymru, gan ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr ddeall yr hyn a wnawn a pha mor dda rydym yn perfformio. Bydd yn rhoi darlun cliriach o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan sicrhau mwy o atebolrwydd drwy ganiatáu i’r cyhoedd weld a chyrchu’r cyrff hynny sy’n gweithio ar eu rhan. Bydd y gwasanaeth ymgynghori newydd yn cynnig ffordd well i’r cyhoedd gymryd rhan yn ein proses gwneud penderfyniadau.

Sefydliad gweithredu arweiniol

Llywodraeth Cymru

Amserlen

1 Ebrill 2015 – 30 Mehefin 2019

Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored

Mynediad at wybodaeth, Cyfranogiad dinesig, Atebolrwydd cyhoeddus

Ymrwymiad newydd neu barhaus

Newydd

Eraill sydd ynghlwm: Y Llywodraeth

-

Eraill sydd ynghlwm: Sefydliadau cymdeithas sifil, y sector preifat, gweithgorau, cyrff amlochrog ac ati

Mae dinasyddion Cymru yn cymryd rhan yn y broses o brofi’r wefan.

Cerrig milltir y gellir eu cadarnhau a’u mesur i gyflawni’r ymrwymiad Ymrwymiad newydd neu barhaus Dyddiad dechrau Dyddiad gorffen
Lansio gwasanaeth ymgynghori beta, gan gynnwys ffurflenni ymateb y gall defnyddwyr eu cadw Newydd 01/07/16 30/09/16
Lansio llwyfan beta i ymgyrchoedd Newydd 01/10/16 30/11/16
Lansio llwyfan beta i gyrff cyhoeddus Newydd 01/01/17 31/03/17
Cyhoeddi’r tranche cyntaf o gynnwys corfforaethol beta Newydd 01/10/16 30/04/17
Cyhoeddi gweddill y cynnwys corfforaethol Newydd 01/05/17 30/06/19

Ymrwymiad 7: Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cod ar gyfer ymddygiad moesegol mewn cadwyni cyflenwi, a fydd yn sicrhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gamau gweithredu i liniaru problemau moesegol mewn cadwyn cyflenwi.

Amcan

Sicrhau bod niferoedd mawr yn ymrwymo i’r 12 ymrwymiad sydd wedi’u hanelu at hyrwyddo trin gweithwyr yn gyfreithiol ac yn foesegol.

Y sefyllfa fel y mae

Trin gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus yn anfoesegol ac yn anghyfreithlon.

Uchelgais

Un o uchelgeisiau’r darn hwn o waith yw codi ymwybyddiaeth o achosion o gaethwasiaeth fodern yn ein cadwyni cyflenwi a chymryd camau i fynd i’r afael â meysydd risg uchel.

Uchelgais arall yw sicrhau mwy o degwch i bawb yng Nghymru fel na chaiff cyflenwyr sydd am gyflogi gweithwyr yn foesegol eu rhoi o dan anfantais wrth ymgynnig am gontractau cyhoeddus.

Uchelgais arall yw annog mwy o gyflogwyr i fabwysiadu Cyflog Byw y Sefydliad Cyflog Byw (sy’n seiliedig ar gostau byw).

Sefydliad gweithredu arweiniol

Llywodraeth Cymru

Amserlen

Mawrth 2016 – dechrau 2017

Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored

Atebolrwydd cyhoeddus

Ymrwymiad newydd neu barhaus

Newydd

Eraill sydd ynghlwm: Y Llywodraeth

Sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru

Eraill sydd ynghlwm: Sefydliadau cymdeithas sifil, y sector preifat, gweithgorau, cyrff amlochrog ac ati

Busnesau a sefydliadau yn y trydydd sector yng Nghymru.

Cerrig milltir y gellir eu cadarnhau a’u mesur i gyflawni’r ymrwymiad Ymrwymiad newydd neu barhaus Dyddiad dechrau Dyddiad gorffen
Y drafft cyntaf wedi’i gwblhau a’i gyflwyno yn Procurex Newydd Mawrth 2016 Medi 2016
Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi’i sefydlu a’r cyfarfod cyntaf wedi’i drefnu Newydd Hydref 2016 Tachwedd 2016
Ymgysylltu â’r sector busnes a’r trydydd sector Newydd Hydref 2016 Dechrau 2017
Lansio cod ar gyfer ymddygiad moesegol mewn cadwyni cyflenwi Newydd Dechrau 2017 Dechrau 2017
Cymeradwyo Newydd Parhaus Parhaus

Ymrwymiad 8: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – Dangosyddion Cenedlaethol Cymru

Mesur cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant i Gymru a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a chyflwyno adroddiad blynyddol arnynt.

Amcan

Er mwyn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cyfres o Ddangosyddion Cenedlaethol i fesur cynnydd yn erbyn y saith nod llesiant a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Wrth wneud hynny mae’r Dangosyddion Cenedlaethol a’r data sy’n sail iddynt yn cael eu datblygu a’u cyfleu mewn modd agored a thryloyw.

Y sefyllfa fel y mae

Mesur cynnydd cenedlaethol yn erbyn y saith nod llesiant i Gymru, a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Uchelgais

Er mwyn inni gyflawni’r saith nod llesiant a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gyda’n gilydd, mae angen inni gael ffordd o fesur pa gynnydd sy’n cael ei wneud ar lefel genedlaethol. Bwriedir i’r 46 o Ddangosyddion Cenedlaethol Cymru fesur cynnydd yn erbyn y saith nod llesiant ac maent wedi’u paratoi ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus. Caiff adroddiad arnynt ei gyhoeddi bob blwyddyn drwy ‘Adroddiad Llesiant Cymru’.

Sefydliad gweithredu arweiniol

Llywodraeth Cymru

Amserlen

Mawrth 2016 – dechrau 2017

Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored

Mynediad at wybodaeth

Ymrwymiad newydd neu barhaus

Newydd

Eraill sydd ynghlwm: Y Llywodraeth

Cyrff cyhoeddus penodedig o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Eraill sydd ynghlwm: Sefydliadau cymdeithas sifil, y sector preifat, gweithgorau, cyrff amlochrog ac ati

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Cerrig milltir y gellir eu cadarnhau a’u mesur i gyflawni’r ymrwymiad Ymrwymiad newydd neu barhaus Dyddiad dechrau Dyddiad gorffen
Gosod ‘Dangosyddion Cenedlaethol Cymru’ gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru Parhaus Ebrill 2015 Mawrth 2016
Paratoi’r Adroddiad Llesiant Blynyddol cyntaf i Gymru Parhaus Ebrill 2016 Haf 2017

Ymrwymiad 9: Dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus penodedig yng Nghymru

Mae dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, a restrir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, i bennu a chyhoeddi amcanion llesiant sy’n amlinellu sut y bydd yn cyfrannu at gyflawni pob un o’r nodau llesiant a chymryd camau rhesymol i gyflawni’r amcanion hyn.

Amcan

Ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus wneud pethau i hyrwyddo llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru mewn ffordd sy’n unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy; ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyflwyno adroddiadau ar gamau gweithredu o’r fath.

Y sefyllfa fel y mae

Ffordd fwy cyson drwy’r sector cyhoeddus cyfan o wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar lesiant Cymru.

Uchelgais

Bydd yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus penodedig i ystyried pwysigrwydd cynnwys pobl sy’n adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth yn eu prosesau gwneud penderfyniadau.

Sefydliad gweithredu arweiniol

Llywodraeth Cymru

Amserlen

Ebrill 2016 ymlaen

Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored

Cyfranogiad dinesig

Ymrwymiad newydd neu barhaus

Ymrwymiad cyfreithiol newydd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Eraill sydd ynghlwm: Y Llywodraeth

Y 43 o gyrff cyhoeddus a bennwyd o dan y Ddeddf, a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

Eraill sydd ynghlwm: Sefydliadau cymdeithas sifil, y sector preifat, gweithgorau, cyrff amlochrog ac ati

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Cerrig milltir y gellir eu cadarnhau a’u mesur i gyflawni’r ymrwymiad Ymrwymiad newydd neu barhaus Dyddiad dechrau Dyddiad gorffen
Y ddyletswydd gyfreithiol yn dod i rym Ymrwymiad cyfreithiol newydd Ebrill 2016 Ebrill 2016
Cyrff cyhoeddus yn cyhoeddi eu hamcanion llesiant cyntaf. Newydd Ebrill 2016 Ebrill 2017
Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus – Asesiad o lesiant lleol Newydd Ebrill 2016 Mai 2017