Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn nodi ymrwymiadau Llywodraeth Agored Llywodraeth Cymru y byddwn yn eu cyflawni dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn i’r llywodraeth fod yn fwy agored ac ymatebol i ddinasyddion, yn atebol ac yn gydweithredol.

Mae’r ymrwymiadau hyn yn rhan o Gynllun Gweithredu Cenedlaethol cyffredinol Llywodraeth Agored y DU 2022-2024, ynghyd ag ymrwymiadau gan Lywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.

Wrth ddatblygu’r ymrwymiadau hyn, rydym wedi ymgysylltu â chynrychiolwyr cymdeithas sifil a dinasyddion drwy Rwydwaith Llywodraeth Agored Cymru. Fodd bynnag, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ar i ba raddau rydym wedi ymgysylltu o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Byddwn yn parhau i gydweithio drwy Rwydwaith Llywodraeth Agored Cymru ar ein hymrwymiadau, a’n fersiynau ar gyfer y dyfodol.

Ein hymrwymiadau ar gyfer 2022-2024 yw:

  1. Byddwn yn gweithio gyda sbectrwm eang o randdeiliaid i greu atebion digidol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, i ddatblygu’r economi ac i leihau anghydraddoldebau yng Nghymru.
  2. Byddwn yn cydweithio â’r gymuned gyfieithu i ddatblygu technolegau sy’n golygu bod modd defnyddio’r Gymraeg mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau
  3. Byddwn yn gweithio tuag at weithlu mwy amrywiol, cydradd a chynhwysol yn Llywodraeth Cymru.
  4. Byddwn yn sefydlu tasglu i gydweithio i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19.
  5. Byddwn yn cydweithio i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac er mwyn cyrraedd ein targed carbon sero net ar gyfer 2050.
  6. Byddwn yn gweithio gyda dinasyddion a chymunedau i ddefnyddio, mwynhau a gwerthfawrogi’r amgylchedd hanesyddol o’u cwmpas.
  7. Byddwn yn gweithio’n agored ac ar y cyd i gynyddu ymwybyddiaeth a chefnogi’r gwaith o integreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ymhellach.

Ymrwymiad 1: Cydweithio ar agweddau Digidol a Data

Byddwn yn gweithio gyda sbectrwm eang o randdeiliaid i greu atebion digidol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, i ddatblygu’r economi ac i leihau anghydraddoldebau yng Nghymru.

Amcan

Cynyddu, annog a chefnogi ymgysylltu a chydweithio wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru.

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Y sefyllfa ar hyn o bryd Cyhoeddwyd y Strategaeth Ddigidol i Gymru ym mis Mawrth 2021 ac mae’n canolbwyntio ar gydweithio ac adeiladu partneriaethau.

Mae nifer o enghreifftiau rhagorol lle mae gweithio mewn partneriaeth yn darparu gwasanaethau digidol ar hyn o bryd, fel Banc Data SAIL. Nod yr ymrwymiad hwn yw adeiladu ar yr ethos hwn o gydweithio.

Uchelgais

Creu partneriaeth weithredol barhaus sy’n gweithio ar y cyd i ddatblygu a darparu gwasanaethau cyhoeddus digidol gwell yng Nghymru.

Sefydliad gweithredu arweiniol

Llywodraeth Cymru

Amserlen

Ionawr 2022 – Ionawr 2024

Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored

Mynediad at wybodaeth, cydgynhyrchu

Ymrwymiad newydd neu barhaus

Newydd

Cyfranwyr eraill

Awdurdodau cyhoeddus, academia, cynghorau cymuned, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, darparwyr addysg, cyrff tân ac achub, cyrff hyd braich, partneriaethau’r trydydd sector a chymdeithasol, cymdeithas sifil, Bwrdd Adolygu Rhannu Data Cymru.

Cerrig milltir gwiriadwy a mesuradwy i gyflawni'r ymrwymiad Newydd neu barhaus Dyddiad cychwyn Dyddiad gorffen
1: Gweithio’n agored wrth weithredu’r Strategaeth Ddigidol i Gymru, gan gynnwys cyhoeddi diweddariadau cynnydd
Newydd
Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
2: Ymgysylltu â phobl a chymunedau i ddylunio gwasanaethau digidol a data hygyrch a chynhwysol sy’n seiliedig ar eu hanghenion Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
3: Cydweithio i greu uchelgais ar y cyd ar gyfer defnyddio data’n foesegol ar draws gwasanaethau cyhoeddus Newydd Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
4: Cydweithio i ddatblygu dulliau gweithredu sy’n galluogi gwasanaethau cyhoeddus i gynnal ymchwil defnyddwyr gyda gwahanol grwpiau o’r boblogaeth Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
5: Cydweithio i ddatblygu a hwyluso cymuned ddata weithredol ar draws gwasanaethau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
6: Datblygu cysondeb drwy gytuno ar ddata cyffredin a safonau digidol a’u mabwysiadu Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
7: Annog defnyddio llwyfannau, safonau a fformatau a fydd yn cefnogi ailddefnyddio data Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
8: Cyhoeddi cod sy’n addas i’w ailddefnyddio ac sydd wedi cael ei greu gan Uned Gwyddor Data Llywodraeth Cymru Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
9: Cyhoeddi gwybodaeth am waith Bwrdd Adolygu Rhannu Data Cymru gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
10: Cyhoeddi gwybodaeth yn agored am gynigion rhannu data a gymeradwywyd gan Fwrdd Adolygu Rhannu Data newydd Cymru Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024

Ymrwymiad 2: Technoleg Iaith Gymraeg

Byddwn yn cydweithio â’r gymuned gyfieithu i ddatblygu technolegau sy’n golygu bod modd defnyddio’r Gymraeg mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau.

Amcan

Cefnogi, cynghori a chydweithio â’r gymuned gyfieithu yng Nghymru. Mae meysydd ar gyfer cydweithio’n cynnwys technoleg cyfieithu drwy gymorth cyfrifiadur, mabwysiadu safonau agored a rhyddhau hen gyfieithiadau i’w hailddefnyddio.

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Mae ein cynllun gweithredu ar gyfer technoleg Cymraeg yn cefnogi ein huchelgais ar gyfer y Gymraeg a ddisgrifir yn ein Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr (2017). Un o egwyddorion allweddol y cynllun gweithredu technoleg yw meithrin partneriaethau a byddwn yn parhau i gydweithio â’r gymuned gyfieithu, i ddatblygu technolegau i sicrhau y gellir defnyddio’r Gymraeg mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau.

Mae yna gymuned gyfieithu ffyniannus yng Nghymru sy’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau, o derminoleg a fforymau trafod i ddarparu pyrth meddalwedd ffynhonnell agored. Bydd yr ymrwymiad hwn yn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd eisoes gan dechnolegwyr gwirfoddol, gan fentrau mawr a chan y sector cyhoeddus.

Uchelgais

Galluogi defnyddio mwy ar y Gymraeg a chynyddu’r Gymraeg yn y dirwedd ieithyddol yng Nghymru.

Sefydliad gweithredu arweiniol

Llywodraeth Cymru

Amserlen

Ionawr 2022 – Ionawr 2024

Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored

Mynediad at wybodaeth, data agored, cydgynhyrchu, gweithio gyda dinasyddion, cydweithio

Ymrwymiad newydd neu barhaus

Newydd

Cyfranwyr eraill

Cymdeithas sifil, y gymuned cyfieithu Cymraeg, cwmnïau technoleg, y sector cyhoeddus.

Cerrig milltir gwiriadwy a mesuradwy i gyflawni'r ymrwymiad Newydd neu barhaus Dyddiad cychwyn Dyddiad gorffen
1: Parhau i gefnogi ac annog datblygiadau ar gyfer cyfieithu drwy gymorth cyfrifiadur, gan gynnwys cyfieithu peirianyddol a rhannu data cyfieithu Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
2: Annog defnyddio safonau agored wrth gyfieithu drwy gymorth cyfrifiadur Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
3: Parhau i ymgysylltu â’r gymuned gyfieithu yng Nghymru Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
4: Annog rhyddhau hen gyfieithiadau Saesneg<>Cymraeg ochr yn ochr o dan drwydded ganiataol addas, er mwyn gallu eu rhyddhau i’w hailddefnyddio, gan gynyddu’r Gymraeg yn y dirwedd ieithyddol yng Nghymru Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
5: Parhau i weithio tuag at gyflwyno’r Pecynnau Gwaith a ddisgrifir yn ein Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024

Ymrwymiad 3: Amrywiaeth ym mhrosesau Recriwtio Llywodraeth Cymru

Byddwn yn gweithio tuag at weithlu mwy amrywiol, cydradd a chynhwysol yn Llywodraeth Cymru.

Amcan

Cynyddu amrywiaeth yng ngweithlu Llywodraeth Cymru.

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Rydym wedi cydnabod bod rhai grwpiau yn ein gweithlu yn cael eu tangynrychioli. Nod yr ymrwymiad hwn yw mynd i’r afael â’r sefyllfa hon.

Uchelgais

Sicrhau bod ein sefydliad ni yn sefydliad sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru yn llawn a’n bod yn annog gweithle cyfoethog ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn gallu bod yn nhw eu hunain, ac nad oes unrhyw un yn teimlo bod pobl yn gwahaniaethu yn ei erbyn.

Sefydliad gweithredu arweiniol

Llywodraeth Cymru

Amserlen

Ionawr 2022 – Ionawr 2024

Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored

Mynediad at wybodaeth, amrywiaeth, cynhwysiant

Ymrwymiad newydd neu barhaus

Newydd

Cyfranwyr eraill

Sefydliadau a rhwydweithiau amrywiaeth

Cerrig milltir gwiriadwy a mesuradwy i gyflawni'r ymrwymiad Newydd neu barhaus Dyddiad cychwyn Dyddiad gorffen
1: Gweithredu ein Strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu: 2021 i 2026, sy’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer dod yn sefydliad sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru yn llawn ar bob lefel, sy’n wrth-hiliol ac yn wrth-wahaniaethol o bob math Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
2: Cyhoeddi data amrywiaeth blynyddol yn Adroddiadau Cydraddoldeb y Cyflogwr Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024

Ymrwymiad 4: Hawliau anabledd a chydraddoldeb

Byddwn yn sefydlu tasglu i gydweithio i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19.

Amcan

Sefydlu tasglu a fydd yn cael ei gyd-gadeirio gan Weinidog a chynrychiolydd o fudiadau pobl anabl/cynrychiolydd pobl anabl.

Bydd y tasglu’n cydweithio i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau a amlygwyd yn adroddiad Drws ar Glo, yn goruchwylio’r gwaith o roi camau gweithredu ar waith ac yn cynnwys pobl anabl mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Mae adroddiad Drws ar Glo wedi tynnu sylw at effeithiau anghymesur a niweidiol pandemig Covid ar bobl anabl.

Uchelgais

Gwella bywydau pobl anabl yng Nghymru.

Sefydliad gweithredu arweiniol

Llywodraeth Cymru

Amserlen

Rhagfyr 2022 – Mawrth 2026

Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored

Cydgynhyrchu, cydweithio, cyfranogiad dinesig, amrywiaeth

Ymrwymiad newydd neu barhaus

Newydd

Cyfranwyr eraill

Pobl anabl yng Nghymru, mudiadau pobl anabl, gwasanaethau cyhoeddus Cymru, Comisiynwyr y Gymraeg

Cerrig milltir gwiriadwy a mesuradwy i gyflawni'r ymrwymiad Newydd neu barhaus Dyddiad cychwyn Dyddiad gorffen
1: Sefydlu Tasglu Hawliau Anabledd Newydd Tachwedd 2021 Mawrth 2023
2: Canfod a datblygu camau gweithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chryfhau a hyrwyddo hawliau pobl anabl Newydd Ionawr 2022 Mawrth 2023
3: Rhoi camau gweithredu ar waith i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chryfhau a hyrwyddo hawliau pobl anabl Newydd Tachwedd 2021 Ionawr 2024

Ymrwymiad 5: Newid yn yr hinsawdd a lleihau carbon

Byddwn yn cydweithio i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac er mwyn cyrraedd ein targed carbon sero net ar gyfer 2050.

Amcan

Cydweithio â dinasyddion, cymunedau, busnesau, y sector cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, cyflawni ein huchelgeisiau sero net a sicrhau dyfodol gwyrddach a thecach yng Nghymru.

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio i ddatblygu cynlluniau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Bydd yr ymrwymiad hwn yn adeiladu ar y gwaith hwn.

Uchelgais

Symud tuag at gymdeithas carbon isel, sy’n hanfodol i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru ac i gyflawni rhwymedigaethau rhyngwladol.

Sefydliad gweithredu arweiniol

Llywodraeth Cymru

Amserlen

Ionawr 2022 – Ionawr 2026

Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored

Cyfranogiad dinesig, cydgynhyrchu, cydweithio, mynediad at wybodaeth

Ymrwymiad newydd neu barhaus

Newydd

Cyfranwyr eraill

Sefydliadau addysgol, y sector cyhoeddus, busnesau, dinasyddion, cymunedau, sefydliadau amgylcheddol

Cerrig milltir gwiriadwy a mesuradwy i gyflawni'r ymrwymiad Newydd neu barhaus Dyddiad cychwyn Dyddiad gorffen
1: Adeiladu ar ein gweithgareddau ymgysylltu â dinasyddion, cymunedau a rhanddeiliaid a fydd yn cael eu disgrifio mewn Cynllun Ymgysylltu newydd ar sicrhau Cymru Sero Net a fydd yn cael ei gyhoeddi ddechrau 2022 Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2026
2: Datblygu offer ymgysylltu digidol arloesol newydd i’n helpu i gyrraedd ystod eang o randdeiliaid er mwyn helpu i gydgynhyrchu strategaethau, cynlluniau a chamau gweithredu ar gyfer newid yn yr hinsawdd a gwella llythrennedd carbon a chefnogi newid mewn ymddygiad. Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2026
3: Cynnal digwyddiadau ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid, gan gynnwys digwyddiad blynyddol yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru yn 2022, 2023 a 2024. Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2026
4: Parhau i weithio’n agos gyda phlant a phobl ifanc i ddatblygu ein strategaethau, cynlluniau a chamau gweithredu ar gyfer newid yn yr hinsawdd ac i greu adnoddau addysgol, sy’n galluogi dysgu am yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd. Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2026
5: Ymgysylltu ar draws pob rhan o gymdeithas yng Nghymru i sicrhau bod effeithiau cadarnhaol a negyddol ein taith tuag at allyriadau carbon sero net a Chymru wyrddach, gryfach a thecach yn cael eu dosbarthu’n deg ymhlith ein dinasyddion a’n cymunedau. Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2026
6: Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i wella dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd a newid ymddygiad ymysg busnesau, cymunedau a chymdeithas. Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2026

Ymrwymiad 6: Yr Amgylchedd hanesyddol

Byddwn yn gweithio gyda dinasyddion a chymunedau i ddefnyddio, mwynhau a gwerthfawrogi’r amgylchedd hanesyddol o’u cwmpas.

Amcan

Cydweithio â dinasyddion a chymunedau i’w cysylltu â’u henebion, eu tirweddau a’u hadeiladau hanesyddol lleol ac er mwyn iddynt eu mwynhau.

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Mae Cadw (gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru) wedi sefydlu nifer o bartneriaethau â dinasyddion a chymunedau i helpu i fwynhau a gofalu am yr amgylchedd hanesyddol. Bydd yr ymrwymiad hwn yn parhau ac yn gwella’r ffordd hon o weithio.

Uchelgais

Cymru lle mae pawb yn gofalu am ein lleoedd hanesyddol, yn eu deall ac yn eu rhannu.

Sefydliad gweithredu arweiniol

Llywodraeth Cymru

Amserlen

Ionawr 2022 – Ionawr 2024

Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored

Cyfranogiad dinesig, cydgynhyrchu, cydweithio ac amrywiaeth

Ymrwymiad newydd neu barhaus

Parhaus

Cyfranwyr eraill

Ymddiriedolaethau Archeolegol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, cyrff treftadaeth eraill, dinasyddion, grwpiau cymunedol.

Cerrig milltir gwiriadwy a mesuradwy i gyflawni'r ymrwymiad Newydd neu barhaus Dyddiad cychwyn Dyddiad gorffen
1: Gweithio tuag at ehangu mynediad dinasyddion a chymunedau at dreftadaeth a’r amgylchedd hanesyddol. Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
2: Gweithio gyda dinasyddion a chymunedau i ddeall eu barn, eu gwerthoedd a’u perthynas â’r amgylchedd hanesyddol ac ymgymryd â phrosiectau partneriaeth gyda nhw. Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
3: Darparu cyllid ar gyfer prosiectau ledled Cymru er mwyn galluogi dinasyddion i ymgysylltu â threftadaeth a’r amgylchedd hanesyddol. Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
4: Annog a galluogi safleoedd Cadw i gael eu defnyddio’n briodol, gan eu gwneud yn fwy hygyrch a pherthnasol i ddinasyddion a chymunedau fel mannau gwerthfawr. Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024

Ymrwymiad 7: Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Byddwn yn gweithio’n agored ac ar y cyd i gynyddu ymwybyddiaeth a chefnogi’r gwaith o integreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ymhellach.

Amcan

Arwain y cam nesaf o wreiddio deddfwriaeth Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru.

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn parhau i siapio sut mae Llywodraeth a’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn diwallu anghenion cenedlaethau presennol, heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Mae Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus wedi bod yn integreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eu gwaith ers ei chyflwyno yn 2015. Bydd yr ymrwymiad hwn yn adeiladu ar y gwaith hwn ac yn parhau â’r gwaith.

Uchelgais

Cydnabod manteision Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o ran yr hyn y mae’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn ei wneud, a sut maent yn gweithio.

Sefydliad gweithredu arweiniol

Llywodraeth Cymru

Amserlen

Ionawr 2022 – Ionawr 2024

Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored

Cyfranogiad dinesig, mynediad at wybodaeth, cyfranogiad sifil, cydweithio, cydgynhyrchu

Ymrwymiad newydd neu barhaus

Newydd

Cyfranwyr eraill

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, awdurdodau lleol, academia, cynghorau cymuned, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, darparwyr addysg, cyrff tân ac achub, cyrff hyd braich, partneriaethau’r trydydd sector a chymdeithasol, cymdeithas sifil

Cerrig milltir gwiriadwy a mesuradwy i gyflawni'r ymrwymiad Newydd neu barhaus Dyddiad cychwyn Dyddiad gorffen
1. Parhau i ymgysylltu â fforwm rhanddeiliaid aml-sector Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn bwrw ymlaen â’r cam nesaf o wreiddio dull Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ledled Cymru. Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
2. Dod â thystiolaeth ynghyd ar dueddiadau tebygol yn y dyfodol sy’n effeithio ar lesiant Cymru o ran cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau. Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
3. Adolygu’r rhestr o gyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024
4. Parhau â’n gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac annog sefydliadau i fabwysiadu’r ‘pum ffordd o weithio’ (Egwyddor Datblygu Cynaliadwy). Newydd Ionawr 2022 Ionawr 2024