Sut y byddwn yn lleihau’r effaith o wiwerod llwyd ar boblogaethau wiwerod coch a choetiroedd.
Dogfennau

Cynllun gweithredu Cymru i reolir wiwer lwyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.
Manylion
Cyhoeddwyd ein cynllun gweithredu rheoli ym mis Tachwedd 2018. Mae'n nodi camau gweithredu ar gyfer rheoli poblogaethau gwiwerod llwyd i:
- lleihau'r effaith ar boblogaethau gwiwerod coch
- lleihau'r effaith ar goed ac ecosystemau coetiroedd, a
- lleihau'r effaith ar y gwasanaethau y maent yn eu darparu, fel cynhyrchu pren
Nid yw'r cynllun yn anelu at ddileu gwiwerod llwyd o Gymru. Mae’n ceisio:
- annog rheoli poblogaethau gwiwerod llwyd. Dyma le mae'n ymarferol gwneud hynny, a lle mae'r manteision mwyaf.
- cydnabod yr angen am ddull partneriaeth cydweithredol o reoli'r wiwer lwyd
- cefnogi Cynllun Cadwraeth Gwiwerod Coch Cymru. Mae hyn yn sicrhau'r budd mwyaf posibl i boblogaethau gwiwerod coch. Mae hefyd yn hyrwyddo arfer gorau presennol a ddatblygwyd ar gyfer rheoli gwiwerod llwyd.