Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae angen y cynllun hwn

Ar ddechrau 2020, dechreuodd Llywodraeth Cymru weithio ar gynllun gweithredu ar gyfer cydraddoldeb hil, ar ôl galwadau gan Fforwm Hil Cymru, a sefydliadau eraill ar lawr gwlad. Fodd bynnag, bron ar unwaith, bu’n rhaid i’r gwaith ddod i ben oherwydd pandemig COVID-19. Wedyn, ym mis Mai 2020, syfrdanwyd pobl ledled y byd gan lofruddiaeth George Floyd. Taflodd y ddau ddigwyddiad oleuni ar yr hiliaeth systemig a wynebir gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill. Gwnaethant danlinellu’r angen i weithredu ar fyrder.

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae llu o adroddiadau, ymchwiliadau ac ymchwil wedi dangos hyn. Caiff hyn ei danlinellu gan wahaniaethau cymdeithasol a strwythurol, sy’n arwain at wahaniaethau o ran iechyd a nifer o anghydraddoldebau eraill. Cafodd yr heriau eu crynhoi’n ddi-flewyn ar dafod gan y Prif Swyddog Meddygol yn 2020 (gweler Atodiad 7: Cyfeiriadau: Adroddiad y Prif Swyddog Meddygol). Tynnwyd sylw at y broblem hon hefyd gan Ymddiriedolaeth Runnymede, a nododd “racial inequalities persist in almost every arena of British society, from birth to death” (Gweler Atodiad 7: Cyfeiriadau: Ymddiriedolaeth Runnymede, 2017).

Rydym ni ac eraill yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector eisoes wedi defnyddio dulliau gweithredu megis ‘cyfle cyfartal’, ‘rheoli amrywiaeth’, ‘integreiddio a chymathu’, ‘amlddiwylliannaeth’ a chydraddoldeb hil i fynd i’r afael â hiliaeth sefydliadol. Cyflwynwyd y dulliau gweithredu hyn â bwriadau da, ond roeddent yn aml yn niwtral o ran eu gweithrediad. Nid oeddent yn rhoi digon o ystyriaeth i strwythurau pŵer anghyfartal, yn enwedig mewn perthynas â phŵer sy’n ymwneud â hil yn ein cymdeithas.

Roeddent yn rhoi gormod o bwyslais ar newid er mwyn ‘unioni’ pobl neu gymunedau ethnig lleiafrifol, yn hytrach nag unioni systemau a oedd wedi torri. Mewn lleoliadau gwaith, awgrymir yn aml nad oes gan bobl ethnig leiafrifol ddigon o gymwysterau, neu nad ydynt yn rhwydweithio ddigon, neu fod angen mwy o hyfforddiant arnynt.

Gwyddom fod pobl ethnig leiafrifol gymwysedig iawn yn gweithio yn ein gwasanaethau iechyd, ac mewn sefydliadau cyhoeddus a phreifat eraill. Ond mae natur prosesau recriwtio a dyrchafu yn gweithio yn eu herbyn; y systemau ar gyfer dethol y rhai sy’n cael eu dyrchafu, y rhai sy’n cael eu mentora, eu hyfforddi’n unigol a’u noddi, sy’n gwneud cam â nhw. Wrth ddarparu gwasanaethau, y dull ‘lliwddall’ o weithredu, sydd yn aml yn anwybyddu’r diffyg cydbwysedd sy’n bodoli eisoes o ran hil sy’n effeithio ar ganlyniadau, sy’n gwneud cam â nhw. Mae systemau o’r fath ‘wedi’u rigio’, i bob diben, yn erbyn grwpiau penodol. O ganlyniad, maent yn ei chael hi’n anodd ymuno â’r gweithlu a chamu ymlaen yn eu gyrfa, neu gael gwasanaethau sy’n briodol i’w hanghenion.

Drwy gydol y broses o ddatblygu’r cynllun, clywsom neges glir ynglŷn â’r diffyg ymddiriedaeth a deimlir gan lawer o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, o ran a fydd cyrff cyhoeddus yn gorfodi eu hawliau – hawliau cyfreithiol – ond hawliau nad ydynt yn cael fawr ddim effaith wirioneddol ar eu bywydau yn aml. Yn y cynllun newydd hwn, rydym yn amlinellu sut rydym wedi datblygu camau gweithredu ac iddynt fwy o ffocws, er mwyn ein helpu i wneud y newidiadau angenrheidiol, ac unioni systemau sydd wedi torri.

Rydym yn cydnabod mai’r camau gweithredu a nodir yn y cynllun yw’r camau allweddol sydd i’w cymryd yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu a chyhoeddi rhagor o gamau gweithredu, wrth i’r broses o’u rhoi ar waith fynd rhagddi.

Camau allweddol wrth baratoi’r cynllun

Comisiynu

Yn ystod haf 2020, gofynnodd Jane Hut AS, y Dirprwy Weinidog sy’n gyfrifol am gydraddoldeb, i swyddogion ailddechrau ar y gwaith o baratoi Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil newydd. Gwahoddodd yr Athro Emmanuel Ogbonna o Brifysgol Caerdydd a’r Fonesig Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ar y pryd, i gyd-gadeirio Grŵp Llywio i oruchwylio’r gwaith. Roedd y Grŵp yn cynnwys pobl o sefydliadau, y byd academaidd ac eraill a oedd yn meddu ar wybodaeth ddofn a phrofiad o hil a hiliaeth.

Drwy gydol y broses, chwaraeodd y Grŵp rôl ganolog yn y gwaith o lunio’r cynllun.

Cyn ymgynghori: sut y gwnaed y gwaith

Yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn, cynhaliwyd llu o ddigwyddiadau, cyfarfodydd a thrafodaethau cyn ymgynghori, er mwyn nodi blaenoriaethau a chyd-lunio’r cynllun drafft. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys:

  • adolygiad o Dystiolaeth: comisiynwyd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd i gynnal adolygiad tystiolaeth cyflym o adroddiadau ac ymchwil mewn perthynas â chydraddoldeb hil. (Gweler Atodiad 7: Cyfeiriadau: Adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru)
  • comisiynwyd adolygiad mewnol o ‘Beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym’, fel yr amlinellwyd yn y cynllun drafft.
  • cyfarfodydd wyneb yn wyneb: cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd â sefydliadau ar lawr gwlad ac unigolion
  • gwaith gan Grŵp Cynghori’r Prif Weinidog ar COVID-19 a Phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol: a’i is-grŵp a’u cynnwys yn y gwaith hwn. (Gweler Atodiad 7: Cyfeiriadau: Adroddiad y Grŵp Cynghori ar Bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol).
  • trafodaethau â Fforwm Hil Cymru
  • gwaith gan Weithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd a’r Fasnach mewn Caethweision a’r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o goffáu yng Nghymru; (Gweler Atodiad 7: Cyfeiriadau: adroddiad Cynefin)
  • sefydlu Grŵp Llywio Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a chydweithio ag ef. (Gweler yn Atodiad 1)
  • mentoriaid Cymunedol ac arbenigwyr ar bolisi gwrth-hiliaeth: Gofynnwyd i 17 o ‘Fentoriaid Cymunedol’ gefnogi a chynghori swyddogion polisi ar brofiadau bywyd pobl ethnig leiafrifol (rhestr yn Atodiad 2). Gwnaethom hefyd wahodd nifer o arbenigwyr â dealltwriaeth arbennig o hiliaeth mewn gwaith polisi i’n helpu; drwy hyn, gwnaethom lwyddo i wneud llawer o’r camau gweithredu’n fwy eglur a’u cryfhau
  • cyfres o ddeialogau a arweiniwyd gan y gymuned: Gwnaethom gynnal cyfres o sesiynau ymgysylltu â lleiafrifoedd ethnig, gan gynnwys menywod, pobl ifanc, siaradwyr Cymraeg ac eraill. (rhestr yn Atodiad 3: sefydliadau a gefnogodd y ddeialog a’r ymgyngoriadau diweddarach)
  • comisiynwyd dadansoddiad o adroddiadau ar y ddeialog a arweiniwyd gan y gymuned. (gweler Atodiad 7: Cyfeiriadau: Dadansoddiad o ymgysylltu â’r gymuned)
  • digwyddiadau â themâu polisi: Cynhaliwyd sawl digwyddiad i ddwyn ynghyd wahanol bartneriaid a oedd yn gweithio ar y sylfaen dystiolaeth, gan gynnwys academyddion, ymgyrchwyr ac unigolion ag arbenigedd a phrofiad bywyd. Cafodd y rhain effaith ddwys ar y ffordd y lluniwyd y camau gweithredu
  • asesu Effaith: Lluniwyd y Cynllun yn benodol i fynd i’r afael â’r hiliaeth sefydliadol a systemig a wynebir gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Bwriedir i hyn gael effaith gadarnhaol ar bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru. Cydnabyddir natur groestoriadol hiliaeth sefydliadol a systemig yn y Nodau a’r Camau Gweithredu. Effaith gadarnhaol fwyaf arwyddocaol y cynllun yw bod Llywodraeth Cymru, drwy wneud yr ymrwymiadau a amlinellir, yn cymryd y cam cyntaf tuag at sicrhau’r newid diwylliannol radical sydd ei angen i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Drwy gynnwys pobl mewn ffordd wahanol, gwnaethom ddeall yn well yr effaith y byddai ein Nodau a’n Camau Gweithredu yn ei chael ar fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (gweler pennod 4 ‘Yr hyn a ddywedwyd wrthym, a sut rydym wedi ymateb’). Gwnaeth hyn ein helpu i ystyried effeithiau mewn ffordd integredig a chefnogi ein hasesiad parhaus o effaith drwy ein dull Asesu Effaith Integredig. Cafodd effaith y Nodau a’r Camau Gweithredu arfaethedig ei datblygu a’i chofnodi yn yr Asesiad Effaith Integredig, sy’n cynnwys Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant, Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac ystyriaeth o rwymedigaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Cyhoeddwyd fersiwn gyntaf yr Asesiad Effaith Integredig ochr yn ochr â’r ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft (Mawrth 2021) a byddwn yn cyhoeddi casgliad diwygiedig, ac yn parhau i ddefnyddio hwn fel adnodd byw i lywio’r broses o roi’r cynllun ar waith a’r ffordd rydym yn mesur ac yn monitro newid

Negeseuon cynnar

Yn ystod y cyfnod hwn, daeth rhai themâu clir i’r amlwg, a lywiodd y gwaith o baratoi’r ddogfen ymgynghori. Crynhoir y rhain isod:

  • teimlad cryf bod pobl am weld dogfen ymarferol a oedd yn canolbwyntio ar wrth-hiliaeth. Nid oeddent am weld “strategaeth arall eto” wedi’i hanelu at gyfle cyfartal, integreiddio neu amlddiwylliannaeth. Fodd bynnag, roedd angen rhagor o gytundeb o ran sut beth fyddai cynllun gweithredu gwrth-hiliol
  • cred amlwg nad oedd sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat na’r trydydd sector yn cyflawni eu rhwymedigaethau i chwalu hiliaeth systemig a sefydliadol. Yn benodol, nad oedd llawer o gyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, na Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  • cydnabyddiaeth, heb negeseuon priodol, y gallai’r cynllun ddigio rhai yn y gymuned Wyn. Mynegwyd y gred gadarn nad yw hyrwyddo tegwch i bobl a chymunedau ethnig lleiafrifol yn gwrthdaro â chefnogi grwpiau eraill dan anfantais ac y dylem dynnu sylw at y gwaith ar wahân sy’n cael ei wneud ar y materion hynny
  • amheuon ynghylch a allai Llywodraeth Cymru roi cymhellion i weithredu neu gosbi cyrff pan nad oedd cynnydd yn cael ei wneud
  • y farn nad yw cyrff rheoleiddio, arolygiaethau nac ombwdsmyn yn deall hiliaeth yn dda, sut mae wedi’i hymgorffori yn eu polisïau a’u harferion, na beth i’w wneud pan fyddant yn dod ar ei thraws
  • teimlad bod cynlluniau Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y sector cyhoeddus yn aml yn annigonol. Teimlai llawer eu bod yn deillio o ddiffyg ffocws ar faterion sy’n ymwneud â hil galwad i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael ag anghenion gwahanol a chroestoriadol menywod ethnig lleiafrifol, plant, pobl anabl ac anghenion yr holl grwpiau gwarchodedig eraill

Beth yw ‘gweithredu gwrth-hiliol’?

Mae arbenigwyr academaidd ac arbenigwyr drwy brofiad bywyd sy’n gweithio ym maes gwrth-hiliaeth wedi llywio’r ffordd rydym yn deall gwrth-hiliaeth ac yn gweithredu yn ei gylch. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn mewn ffordd newydd, am ein bod am osgoi ‘gwneud beth rydym bob amser yn ei wneud’, ac ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol.

Arweiniodd yr hen ddull gweithredu at gred ymhlith pobl ethnig leiafrifol nad oedd modd sicrhau newid gwirioneddol, ac nid yw hynny’n syndod. Yn y cynllun hwn, rydym yn gwneud ymdrech wirioneddol i wneud pethau’n wahanol.

Mae’r Athro Ogbonna wedi nodi:

“Racism is constantly mutating. If we fail to eradicate it, it will continue through generations. It becomes a perverse inheritance that expresses itself in different mutations, and that blights the lives of future generations in different ways.

Many years ago, racism was overt, with many ethnic minority people told directly that they were not wanted. Today, racism has morphed into subtle everyday behaviours but is no less pernicious in

its impacts. We want to eradicate racism and we believe that adopting an anti-racist approach is the key to this”.

Rydym yn dilyn y diffiniad ffurfiol o hiliaeth sefydliadol a ddiffiniwyd yn adroddiad Macpherson (1999):

“The collective failure of an organisation to provide an appropriate and professional service to people because of their colour, culture or ethnic origin. The report argues that institutional racism can be seen or detected in processes, attitudes, and behaviours that amount to discrimination through prejudice, ignorance, thoughtlessness, and racist stereotyping which disadvantages minority ethnic groups.”

Rydym wedi diffinio gwrth-hiliaeth fel a ganlyn:

“Mynd ati’n weithredol i adnabod y systemau, y strwythurau a’r prosesau sy’n arwain at ganlyniadau trawiadol o wahanol i grwpiau ethnig lleiafrifol, a chael gwared arnynt. Mae’n golygu cydnabod y gallwn ni, hyd yn oed os na chredwn ein bod yn ‘hiliol’, drwy wneud dim byd, fod yn rhan o ganiatáu i hiliaeth barhau. Nid yw’n golygu “unioni” pobl na chymunedau ethnig lleiafrifol, ond yn hytrach unioni systemau nad ydynt wedi bod yn fuddiol i bobl ethnig leiafrifol ac sydd weithiau wedi bod yn niweidiol hyd yn oed iddynt. Mae’n golygu gweithio gyda chryfderau ac arweinyddiaeth sylweddol pobl ethnig leiafrifol a defnyddio eu profiadau bywyd o ran y ffordd rydym, ar y cyd, yn llunio ac yn cyflawni nodau. Mae’n golygu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a pharhaol.”

Gall y broses o ddatblygu stereoteipiau negyddol am bobl ethnig leiafrifol ddechrau mor gynnar â phedair oed; felly gall hyd yn oed y rhai sy’n credu nad ydynt yn hiliol arddel stereoteipiau cynhenid a all, os ydynt hefyd mewn swyddi dylanwadol, arwain at ymddygiad negyddol tuag at bobl ethnig leiafrifol. Gall natur hollbresennol hiliaeth effeithio ar bob unigolyn sy’n dod o gefndir ethnig lleiafrifol, ni waeth beth fo’i swydd na lefel ei awdurdod, a gall fod yn aml-luosog os caiff ei chyfuno â ffynhonnell arall o orthrwm e.e. oherwydd rhyw neu anabledd.

Mae methiant i fabwysiadu dull gweithredu gwrth- hiliol yn golygu y gall ymddygiadau y tybir eu bod yn ddiniwed gael effaith negyddol ar bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol o hyd. Dylem ddechrau craffu ar ein rhagfarnau unigol, a myfyrio ar y ffordd y gallant effeithio ar aelodau o gymunedau ethnig lleiafrifol. Dylem hefyd gydnabod y pŵer sydd gennym, yn unigol ac ar y cyd, i fynd i’r afael â systemau sydd wedi torri. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall pam y mae hiliaeth yn bodoli mewn cymdeithas, sut mae’n rhan annatod o’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau, a beth y gallwn ei wneud yn ei chylch.

Rydym hefyd am bwysleisio rôl pobl Wyn o ran bod yn gynghreiriaid gweithredol er mwyn i hyn lwyddo. Drwy fod yn gynghreiriad rydym yn ymgymryd â chyfrifoldeb i wneud y newidiadau angenrheidiol.

Wrth ddatblygu ein nodau a’n camau gweithredu, penderfynwyd cymryd camau radical yn hytrach na rhai graddol. Rydym am weithredu mewn ffordd wahanol i’r hyn a wnaed o’r blaen. Bydd yr atebion yn amrywio rhwng meysydd polisi, ac adlewyrchir hyn yn y cynllun.

Yr hyn a ddywedwyd wrthym, a sut rydym wedi ymateb

Ar ôl cryn ymdrechion i gyd-lunio cynllun gweithredu, ymgynghorwyd yn ffurfiol ar Gynllun Gweithredu drafft rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2021. Cawsom dros 300 o ymatebion. Hoffem ddiolch i’r holl unigolion, grwpiau a sefydliadau hyn a gyfrannodd a’u hanrhydeddu, yn benodol y bobl niferus a gymerodd y cam anodd o rannu eu profiadau poenus eu hunain o hiliaeth ddofn, a’r effaith y mae hyn wedi’i chael.

Hoffem hefyd ddiolch i’r unigolion a’r sefydliadau hynny a arweiniodd y ddeialog a’r drafodaeth ar ein rhan. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Race Equality First, a aeth yr ail filltir ac a ddadansoddodd bob ymateb ar ein rhan. Rydym yn cyflwyno cymaint o’r adroddiad llawn ag y gallwn er mwyn gwneud pob cyfiawnder ag ef ac fel cofnod o gryfder y pryderon a fynegwyd a’r cyfraniadau a wnaed.

Isod, rydym yn crynhoi’r negeseuon allweddol o’r ymgynghoriad a sut mae’r rhain wedi cael eu hystyried yn y fersiwn derfynol hon o’r cynllun.

Terminoleg

Gwnaed llawer o sylwadau gwahanol am y term 'Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol' a ddefnyddiwyd yn yr ymgynghoriad drafft a’r fersiwn fer ‘pobl neu gymunedau ethnig leiafrifol’. Roedd yr adborth gan Sipsiwn a Theithwyr yn gryfach fyth – roeddent yn teimlo nad oedd y term yn berthnasol iddynt nac yn eu cynnwys. Mae hunaniaeth yn rhywbeth hynod bersonol ac nid grŵp homogenaidd yw’r bobl sy’n wynebu hiliaeth. Yn hytrach, maent yn cynnwys amrywiaeth eang o grwpiau diwylliannol ac ethnig gwahanol sydd â safleoedd gwahanol iawn mewn cymdeithas ym Mhrydain. Roedd yn amlwg o’r ymateb mai’r hyn a ffafriwyd oedd y dylid bod mor benodol â phosibl a chyfeirio at bobl yn y ffordd y byddent yn dymuno i eraill gyfeirio atynt.

Weithiau bydd angen cyfeirio at y profiad cyfun o hiliaeth. Yn ôl y disgwyl, nid arweiniodd yr ymgynghoriad at nodi unrhyw derm penodol a oedd yn amlwg yn cael ei ffafrio yn lle termau eraill. Ar ôl trafodaeth bellach â Grŵp Llywio’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, cytunwyd i gadw’r term ‘Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol’ ynghyd â ‘lleiafrifoedd ethnig’ fel fersiwn fer. Un pwynt allweddol a godwyd oedd y dylid sicrhau ein bod yn defnyddio ‘pobl’ yn hytrach na ‘cymunedau’ lle bynnag y bo modd, a hynny er mwyn pwysleisio dynoliaeth y rhai sydd wedi cael profiad o hiliaeth ac sydd wedi cael eu lleiafrifoli. Yn aml, maent yn fwyafrif yn fyd-eang.

Mae’n bwysig nodi hefyd, wrth drafod hiliaeth yn erbyn grŵp o bobl fel grŵp cyfun, y gall y termau hyn fod yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, yn y gweithle neu mewn gwasanaeth, mae’n bwysig rhoi cyfle i bobl fynegi eu hunaniaeth yn y ffordd a ddymunant.

Cawsom ein herio hefyd, a hynny’n gwbl gyfiawn, am ddiffyg eglurder a chynrychiolaeth o ran profiadau pobl Iddewig a phobl â ffydd Islamaidd mewn grwpiau sy’n profi hiliaeth. Rydym am bwysleisio, wrth fynd i’r afael â hiliaeth, ein bod yn cynnwys y grwpiau hyn a’r hiliaeth a brofir ganddynt.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu diffiniad gweithio Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost o wrthsemitiaeth:

“Math o ganfyddiad o Iddewon, a all gael ei gyfleu fel casineb tuag at Iddewon, yw gwrthsemitiaeth. Amlygir gwrthsemitiaeth drwy iaith a gweithredoedd corfforol sydd wedi’u hanelu at Iddewon neu unigolion nad ydynt yn Iddewon a/neu eu heiddo; ac at sefydliadau cymunedol a chyfleusterau crefyddol Iddewig.”

Ychwanegwn ei bod yn well gennym ddweud “pobl Iddewig”.

Mae’r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Fwslimiaid Prydeinig ac Ymddiriedolaeth Runneymede ill dau yn diffinio Islamoffobia yn nhermau hiliaeth tuag at Fwslimiaid, gan dynnu sylw at y ffordd y mae Mwslimiaid ar y cyd wedi cael eu hileiddio drwy eu hunaniaethau crefyddol. Mae’n bwysig ac felly’n hanfodol bod yr achosion o ragfarn, gwahaniaethu, culni, ac anghydraddoldeb y mae Mwslimiaid yn eu hwynebu yn cael eu hystyried wrth inni fynd i’r afael â chydraddoldeb hil yma yng Nghymru. Nid yw hyn yn golygu tanseilio pwysigrwydd hunaniaeth grefyddol Mwslimiaid ond, yn hytrach, mae’n cydnabod y ffordd y mae hiliaeth yn effeithio ar gymunedau gwahanol mewn ffyrdd gwahanol.

Cafwyd sylwadau hefyd ynglŷn â’r term ‘profiad bywyd’. Nododd rhai fod eu profiadau bywyd yn cynnwys mwy na’r hyn y byddai unigolion yn ei gynnig – roeddent hefyd yn cynnig arbenigedd proffesiynol; er enghraifft, fel gweithwyr iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol, athrawon neu academyddion. Y term a ffafriwyd oedd ‘arbenigwyr drwy brofiad bywyd.’

Gweledigaeth, diben a gwerthoedd

Rydym wedi gweithio’n unol â’r arferion da a’r momentwm a gynigir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r pum ffordd o weithio fel rhan greiddiol o’r gwaith hwn. Nod y Ddeddf yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru nawr ac yn y dyfodol.

Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am yr hirdymor, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a gyda’i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig.

Dim ond os awn ati i weithio tuag at gydraddoldeb o ran llesiant i bawb yng Nghymru nawr, ac yn y dyfodol, y gellir gwireddu bwriadau’r Ddeddf. Mae mynd i’r afael â hiliaeth a’r gwahaniaethau y mae wedi’u hachosi ac sy’n parhau i fodoli yn hanfodol i ddiben y Ddeddf. Mae’n rhaid bod gwrth-hiliaeth yn ganolog i’r ffordd y rhoddir y Ddeddf ar waith – fel arall, mae perygl y bydd yr anghyfiawnder a welir ar hyn o bryd yn parhau.

Adlewyrchir y diben hwn yn y Nod Llesiant penodol canlynol: “Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)”. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r nodau gael eu hystyried gyda’i gilydd ac ni ellir cyflawni’r un ohonynt heb drawsnewid llesiant pobl ethnig leiafrifol sy’n byw heddiw a chenedlaethau sydd i ddod.

Wrth ddatblygu gweledigaeth, gwerthoedd a diben y gwaith hwn mewn ffordd a oedd yn cael ei harwain a’i chymeradwyo gan gymunedau ethnig lleiafrifol, gwnaethom ymgorffori’r egwyddorion datblygu cynaliadwy yn ymwneud â’r hirdymor, atal, integreiddio a chydweithio fel rhan ganolog o’r gwaith hwn.

Gweledigaeth, diben, gwerthoedd a nodau’r cynllun hwn, fel y’u nodwyd yn yr ymgynghoriad drafft oedd:

Gweledigaeth

Cymru fel gwlad wrth-hiliol.

Diben

Ar y cyd, gwneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Gwerthoedd

Bod yn agored ac yn dryloyw, gan roi profiadau bywyd pobl wrth wraidd y gwaith a wnawn, a mabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau.

Croesawyd y weledigaeth, y diben a’r gwerthoedd yn gyffredinol yn yr ymatebion. O ran amserlenni, roedd rhai’n teimlo ei bod yn rhy uchelgeisiol cyflawni diben y cynllun o fewn deng mlynedd, oherwydd maint y newidiadau diwylliannol ac ymddygiadol sydd eu hangen. Roedd llawer hefyd yn cwestiynu ble y byddai’r camau gweithredu yn y papur ymgynghori yn gwireddu’r weledigaeth hon.

Roeddem yn cytuno. Mae hiliaeth wedi bod yn rhywbeth systemig a sefydliadol ers cenedlaethau, felly bydd yn cymryd cryn amser i newid. Efallai y bydd yn cymryd mwy na deng mlynedd i wireddu’r weledigaeth, ond mae angen inni gael darlun o’r hyn y gellir ei gyflawni er mwyn symud ymlaen, ac rydym am wneud cynnydd mor gyflym â phosibl. Ein diben yw gwneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar y cyd. Mae’n rhaid i hyn ddigwydd drwy ymdrechion ar y cyd gan y llywodraeth, y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat. Felly rydym wedi diwygio’r diben i gynnwys yr ymadrodd “ar y cyd”.

At ddibenion monitro newid, rydym wedi ymateb i’r sylwadau ynglŷn â’r nifer mawr o ddatganiadau yn y cynllun drafft ar y dyfodol a ragwelir erbyn 2030 os byddwn yn symud tuag at fod yn genedl wrth-hiliol, ac wedi eu diwygio a’u crynhoi. Rydym yn eu rhestru yn yr adran “Sut y byddwn yn cyflawni’r cynllun hwn”, ac yn esbonio sut y byddwn yn defnyddio’r deunydd hwn i fesur newid dros amser.

Nodau

Yn ein hymgynghoriad drafft amlinellwyd Gweledigaeth, Diben, Gwerthoedd a Nodau fel uchod ac erys y rhain yn ddigyfnewid.

Yn y cynllun terfynol hwn, rydym wedi diwygio’r Nodau, fel isod.

Tynnwyd yr elfen drawsbynciol a’r camau gweithredu ar yr Amgylchedd. Mae’r elfennau trawsbynciol bellach wedi’u hadlewyrchu yn ein hadran ar Arweinyddiaeth yn Llywodraeth Cymru ac mewn perthynas â’r adran ar wasanaethau cyhoeddus, a bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar yr adran ar yr Amgylchedd. Rydym yn ymrwymedig i gynnwys camau gweithredu ar Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd yn y misoedd nesaf.

Rhown esboniadau ar bob un o feysydd y Nodau yn Adran B.

Nodau a Chamau Gweithredu

Roedd rhai ymatebwyr yn pryderu ein bod yn ceisio cyflawni gormod a/neu nad oeddem yn blaenoriaethu’r pethau cywir er mwyn mynd i’r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol. Roedd eraill yn teimlo bod maint a graddfa’r cynllun drafft (64 o Nodau a 340 o Gamau Gweithredu) yn golygu bod perygl y byddai effaith, a dealltwriaeth gyffredinol, yn cael eu colli. Rydym wedi myfyrio ar hyn ac wedi canolbwyntio ar y camau gweithredu terfynol i fynd i’r afael â hiliaeth sefydliadol.

Teimlai eraill nad oedd y Nodau na’r Camau Gweithredu drafft yn ddigon ‘CAMPUS’ h.y. cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol. Yn y papur ymgynghori, rhestrwyd y nodau a’r camau gweithredu fel rhai ‘tymor byr’, ‘tymor canolig’ a ‘hirdymor’. Gwnaed hyn yn rhannol er mwyn gweld yr awydd am gamau gweithredu penodol ond teimlai ymatebwyr fod y termau hyn yn rhy amhenodol. Ers y cyfnod ymgynghori rydym wedi gweithio gydag arweinwyr polisi i fireinio’r camau gweithredu a nodi canlyniadau ac amserlenni cliriach. Rydym hefyd wedi cysylltu’r cyfrifoldeb am bob cam gweithredu â rhan a enwyd o’r sefydliad.

Dim ond camau gweithredu sydd i’w cymryd rhwng mis Mehefin 2022 a mis Mehefin 2024 y mae’r cynllun diwygiedig hwn yn ymdrin â nhw. Byddwn yn dysgu o’r gwaith a wnawn yn ystod y cyfnod hwn ac yn datblygu nodau a chamau gweithredu diwygiedig ar gyfer y cyfnod dilynol.

Teimlai eraill fod y ddogfen yn cynnwys gormod o jargon a thermau polisi. Roeddent yn teimlo nad oeddem yn esbonio’r newidiadau yr oeddem am eu gwneud mewn ffordd ddigon syml. Felly, rydym wedi ceisio symleiddio pethau, drwy ganolbwyntio ar y newidiadau rydym am eu gwneud ar y cyd i brofiadau pobl o hiliaeth mewn chwe agwedd wahanol ar eu bywydau:

Eu profiad o hiliaeth yn eu bywyd pob dydd:

  • Eu profiad o hiliaeth wrth ddefnyddio gwasanaethau.
  • Eu profiad o fod yn rhan o’r gweithle.
  • Eu profiad o gael swyddi a chyfleoedd.
  • Eu profiad pan nad oes ganddynt fodelau rôl gweladwy mewn swyddi dylanwadol.
  • Eu profiad o hiliaeth fel ffoaduriaid neu geiswyr lloches.

Mae swyddogion polisi wedi defnyddio’r penawdau hyn i lywio eu cynlluniau gweithredu. Yn ein Cyflwyniad i’r Cynllun Cymru Wrth-hiliol rydym yn rhannu rhai enghreifftiau o’r ffordd rydym yn mynd i’r afael a phrofiadau gwahanol pobl mewn meysydd polisi gwahanol.

Gwahaniaethu lluosog/‘croestoriadedd’

Mynegwyd rhai pryderon ein bod yn canolbwyntio ar un grŵp gwarchodedig yn unig, a bod hyn yn gorsymleiddio’r ffyrdd gwahanol y mae hiliaeth yn gweithio i effeithio ar fenywod ethnig lleiafrifol, plant, pobl hŷn, pobl anabl, a grwpiau gwarchodedig eraill. Nododd llawer nad oedd ymwybyddiaeth o’r ffordd y mae’r gwahanol nodweddion hyn yn cydadweithio â’i gilydd, i greu mwy o wahaniaethau, yn ddigon amlwg yn y cynllun drafft.

Bathodd Kimberlé Crenshaw, ffeminyddes ddu, y term ‘intersectionality’ i ddisgrifio effaith gyfun sawl math o orthrwm, a’r ffordd y maent yn cydadweithio ac yn cydgysylltu â’i gilydd (Crenshaw K, 1989).

Rydym yn cydnabod bod menywod ethnig lleiafrifol, er enghraifft, yn ysgwyddo baich trymach yn eu profiad o hiliaeth, er enghraifft drwy eu profiad uniongyrchol o wasanaethau mamolaeth, neu wrth arwain y broses o ymgysylltu ag ysgolion neu wasanaethau cymdeithasol ar ran eu perthnasau hŷn a’u teuluoedd. Rydym hefyd yn cydnabod bod dynion ethnig lleiafrifol ifanc, er enghraifft, yn fwy tebygol o gael eu stopio a’u chwilio gan yr heddlu na grwpiau eraill. Yn yr un modd, mae’r systemau a’r prosesau sy’n effeithio ar ffoaduriaid a gweithwyr mudol yn wahanol iawn i’r rhai sy’n effeithio ar bobl ethnig leiafrifol sydd â hawl barhaol i fyw ym Mhrydain.

Mae amgylchiadau economaidd-gymdeithasol neu ‘ddosbarth’ yn chwarae rôl ychwanegol o ran cadw pobl ethnig leiafrifol dan orthrwm. Mae pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru dros ddwywaith yn fwy tebygol na phobl Wyn o fyw yn y 10 y cant o rannau mwyaf difreintiedig yng Nghymru (20.6 y cant o bobl ethnig leiafrifol o gymharu ag 8.3 y cant o bobl Wyn). Pobl ddu sydd fwyaf tebygol o fyw yn y 10 y cant o rannau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gyda 35 y cant o holl bobl Ddu Cymru yn byw yn yr ardaloedd hyn. Mae mwy nag 1 o bob 10 o bobl sy’n byw yn y 10 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn dod o grwpiau ethnig lleiafrifol, er eu bod ond yn cyfrif am 5 y cant o gyfanswm poblogaeth Cymru (Llywodraeth Cymru, 2020).

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi ceisio gwella profiad pobl â nodweddion gwarchodedig penodol drwy gyfres o gynlluniau gweithredol. Mae’r rhain yn cynnwys y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb rhwng y rhywiau, Cenedl Noddfa: cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, y Cynllun Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr a’r Cynllun Hawl i Fyw’n Annibynnol. Mae cynlluniau eraill wrthi’n cael eu datblygu hefyd, gan gynnwys y Cynllun LHDTC+, a gwaith gan y Tasglu Hawliau Pobl Anabl mewn ymateb i’r adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19. Gweler Atodiad 7 am ddolenni i’r cynlluniau hyn.

Mae’r cynlluniau hyn yn ystyried profiadau cymhleth a heriol ac yn nodi cyfres o gamau gweithredu i liniaru’r effeithiau negyddol posibl sy’n gysylltiedig â nhw. Mae’n bwysig nad yw’r nodweddion hyn yn cael eu hystyried ar wahân i’w gilydd. Mae’n rhaid ystyried sut mae nodwedd warchodedig yn rhyngweithio â ffactorau eraill, megis rhyw, rhywioldeb, anabledd, oedran, ffydd, statws economaidd-gymdeithasol neu ddosbarth. Ni all un math o wahaniaethu gael ei ddeall ar wahân i un arall, ac ni ddylai ychwaith.

Mae llawer o’r themâu yn y cynllun hwn hefyd yn codi mewn cynlluniau eraill am eu bod yn berthnasol i’r profiad o nodweddion gwarchodedig cyfun. Rydym yn cydnabod nad yw’r camau gweithredu na’r nodau yn y cynllun hwn sydd wedi’u hanelu at fynd i’r afael â phrofiad pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru bob amser yn ymdrin â hil neu ethnigrwydd ar ei ben ei hun. Yn aml, maent yn ymdrin â’r profiad o nodweddion croestoriadol.

Bydd pŵer y cynllun hwn (a chynlluniau eraill) yn dibynnu ar y ffordd rydym yn ei roi/eu rhoi ar waith. Bydd dull gweithredu croestoriadol yn hollbwysig. Felly, bydd y Grŵp Atebolrwydd yn ystyried ac yn defnyddio arbenigedd o amrywiaeth o nodweddion gwarchodedig, er mwyn sicrhau y caiff effeithiau cyfun eu hystyried, wrth i’r cynllun gael ei roi ar waith. Bydd fframweithiau llywodraethu ar gyfer yr holl gynlluniau cydraddoldeb eraill hefyd yn cael eu haddasu at yr un diben, a bydd systemau adrodd yn cael eu nodi a’u rhoi ar waith.

Mesur a monitro newid

Mesurau a dangosyddion: Nid oedd y papur ymgynghori’n cynnwys dangosyddion perfformiad penodol am ein bod yn ceisio mesur y gefnogaeth i’r camau gweithredu penodol cyn cadarnhau manylion. Felly, roedd ymatebwyr yn pryderu nad oeddem yn dryloyw ynglŷn â sut y byddem yn monitro newid, naill ai’n feintiol (gyda niferoedd ac ystadegau) neu’n ansoddol (e.e. drwy gyfweliadau, neu hanesion pobl am eu profiadau bywyd).

Cydymffurfiaeth â’r ddeddf cydraddoldeb

Awgrymodd yr ymatebion i’r ymgynghoriad fod y methiant i leihau hiliaeth yn deillio, yn rhannol, o fethiant y llywodraeth a sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i gydymffurfio’n llawn â’u dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Awgrymwyd bod angen cyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn llawn, ac y dylai’r pwerau o dan y Ddeddf ddod yn ganolog i’r broses o roi’r cynllun hwn ar waith. Rydym yn cytuno. Byddwn yn sicrhau ein bod yn dwyn ein hunain, a’r rhai a ariennir gennym, i gyfrif am gyflawni’r Ddyletswydd hon.

Er mwyn helpu yn hyn o beth, rydym wedi nodi cyfres o bum cam gweithredu craidd i bob corff cyhoeddus eu cymryd, sy’n uniongyrchol gysylltiedig â darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010. Bydd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil newydd ei sefydlu yn olrhain cynnydd o ran hyn. Esbonnir y pum cam gweithredu craidd hyn yn llawnach yn yr adran ar Arweinyddiaeth yn Llywodraeth Cymru a’r adran ar y sector cyhoeddus.

Adnoddau

Un pryder penodol i lawer o’r ymgyngoreion oedd a fyddai’r cynllun hwn yn cael ei ategu gan adnoddau priodol. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu’r adnoddau y mae’n eu rhoi i (a) y timau a fydd yn cydlynu ac yn monitro’r cynllun, (b) yr arweinwyr polisi perthnasol, ac (c) ar gyfer y gwaith gyda rhanddeiliaid allanol a chymunedau.

Mae Gweinidogion gwahanol, ar draws yr holl bortffolios, wedi ymrwymo i ddarparu lefel briodol o adnoddau yn Llywodraeth Cymru i gyflawni’r nodau a chymryd y camau gweithredu yn y cynllun hwn. Mae cyllid wedi cael ei neilltuo o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru i gefnogi hyn.

Wrth ddatblygu camau gweithredu manwl mewn meysydd polisi gwahanol, nodwyd a chytunwyd ar yr adnoddau sydd eu hangen i’w cyflawni. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo cyllid i gefnogi tîm gweithredu canolog i oruchwylio’r cynllun gweithredu, sefydlu’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil, a chefnogi gwaith y Grŵp Atebolrwydd Allanol. Hefyd, rydym yn nodi’n glir iawn sut y byddwn yn defnyddio ein cyllidebau ehangach a’n cyllidebau gwariant a chyllidebau rhaglenni i sbarduno camau gwrth-hiliol.

Bydd y ‘Tîm Gweithredu Cymru Wrth-hiliol’ yn arwain y gwaith o ddatblygu, gweithredu a monitro’r nodau a’r camau gweithredu. Byddwn hefyd yn adolygu’r meini prawf a’r blaenoriaethau ar gyfer ein grantiau Cydraddoldeb a Chynhwysiant, gyda’r nod o gynnal gwell deialog â chymunedau ethnig lleiafrifol ledled Cymru.

Yr her o ran arweinyddiaeth

Codwyd pryder y byddai rhoi’r cyfrifoldeb am hyrwyddo gwrth-hiliaeth i ‘hyrwyddwr’ mewn sefydliad o bosibl yn mynd yn groes i’r nod, drwy annog arweinwyr eraill i osgoi gweithredu neu fod yn atebol. Awgrymodd llawer y dylai pob arweinydd hyrwyddo gwrth-hiliaeth.

Credwn mai’r her o ran arweinyddiaeth sy’n ymdreiddio i bob nod a cham gweithredu yw datgelu’r systemau a’r prosesau sy’n cael effaith negyddol ar bobl ethnig leiafrifol, a gwneud rhywbeth gweithredol, beiddgar a gwahanol i fynd i’r afael â’r rhain. Mae angen i arweinwyr fyfyrio, a mynd i’r afael â’r “achos y tu ôl i’r achos.” Dyma’r her y byddwn yn gofyn i arweinwyr ar bob lefel yn ein sefydliad ei deall, ac y byddwn yn eu cefnogi i weithredu arni.

Mae hyn yn gofyn i arweinwyr flaenoriaethu gwrth-hiliaeth, a rhoi neges glir ynglŷn â phwysigrwydd bod yn ddewr ac yn radical, a byw yn unol â’r ymddygiadau hynny eu hunain. Fel ‘cynghreiriaid’, bydd angen iddynt gymryd rhan mewn sgyrsiau anodd sy’n ystyried profiadau bywyd pobl – ac ysgogi newid a’i gynnal. Mae hefyd yn gofyn i arweinwyr nodi’r systemau a’r prosesau hynny sy’n arwain at ganlyniadau negyddol, gwahanol i bobl ethnig leiafrifol, ac i sicrhau bod newidiadau yn digwydd. Mae’n hollbwysig hefyd eu bod yn tynnu sylw at achosion o hiliaeth lle bynnag y byddant yn eu gweld, a’u bod yn ymrwymo i wneud penderfyniadau heb ragfarn.

Byddwn yn galluogi arweinwyr i ddeall bod gwrth-hiliaeth yn golygu bod yn rhaid iddynt wrando, ni waeth pa mor anghysurus yw hynny, a bod yn greadigol ynglŷn ag atebion posibl. Dylent lunio atebion ar y cyd â phobl ethnig leiafrifol, gan mai nhw sy’n meddu ar yr wybodaeth wirioneddol am y newidiadau sydd eu hangen. O ran swyddogion polisi a gweision cyhoeddus eraill, mae ganddynt hwythau wybodaeth am yr adnoddau sy’n bodoli i wneud newidiadau. Mae angen i bawb feddu ar yr wybodaeth hon am fod arweinyddiaeth yn rhan o rôl pawb yn ein barn ni, nid dim ond y rhai mewn uwch-swyddi, er mwyn iddynt fod yn bartneriaid cydradd yn y gwaith o roi atebion newydd ac effeithiol ar waith.

Byddwn hefyd yn gweithio gydag arweinwyr yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r rhai a ariennir gennym yn y sector preifat er mwyn iddynt berchenogi’r cynllun hwn yn ddi-oed. Byddwn yn cynnal sesiynau deialog ond byddwn hefyd, drwy ein gwaith polisi, yn dod i gytundeb â’r rhai sy’n galluogi neu’n rheoleiddio ar ein rhan i ddefnyddio’r dylanwad sydd ganddynt i’w lawn effaith.

Yn olaf ac yn bwysicaf oll, rydym am sicrhau bod y cynllun hwn yn cydnabod cryfderau’r arweinyddiaeth yn y cymunedau ethnig lleiafrifol. Mae arweinwyr ar bob lefel mewn cymdeithas wedi ymladd yn erbyn hiliaeth am genedlaethau lawer ac am flynyddoedd lawer, a hynny heb unrhyw gydnabyddiaeth ac yn aml heb gyfle i fod yn rhan o’r prosesau gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar gymunedau ethnig lleiafrifol a thu hwnt. Mae angen cydnabod eu gwydnwch a’u dycnwch wrth barhau i ymladd yn erbyn hiliaeth, ac mae eu cryfderau a’u dirnadaethau lu o ran sut mae systemau’n gweithio i osgoi cyfrifoldeb a gwahaniaethu yn hollbwysig i’r gwaith hwn ac yn wir i arferion da i bawb.

Mae’r rhain yn cynnwys y cryfderau a welwyd yn yr ymgynghoriad ac ar bob lefel o gymdeithas – cryfder unigolion sydd wedi dioddef trawma hiliaeth ac wedi rhannu eu profiadau bywyd mewn fforymau agored, cryfder grwpiau sy’n lobïo a/neu’n gweithredu ar ran eraill, yn aml yn ddi-dâl, a chryfder sefydliadau sy’n gwrthsefyll hiliaeth ac yn tynnu sylw at hiliaeth. Mae’r arweinyddiaeth hon yn ysgwyddo baich penodol – baich creithiau profiadau hiliol. Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi’r gwaith y maent yn ei wneud, yn cefnogi eu hymdrechion ac yn cydnabod na fyddai’r cynllun hwn wedi bod yn bosibl hebddynt.

Ein hymrwymiad o ran arweinyddiaeth yw y byddwn yn cefnogi ac yn datblygu galluoedd arweinwyr o’r cymunedau ethnig lleiafrifol. Rydym wedi nodi camau gweithredu o dan Arweinyddiaeth yn Llywodraeth Cymru ac yn yr adran ar wasanaethau cyhoeddus.

Rôl y sector preifat

Mynegwyd pryder nad oedd y cynllun yn canolbwyntio ddigon ar y sector preifat, nac ar gamau gweithredu a all ddylanwadu ar y sector preifat. Mae hyn yn codi heriau am nad oes gennym gymaint o ffyrdd uniongyrchol o ysgogi’r sector preifat ag sydd gennym o ran y gwasanaeth cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Byddwn yn anelu at ddefnyddio ein cyllid yn fwy effeithiol gyda’r sector preifat drwy ein grantiau a’n prosesau caffael er mwyn sicrhau bod sefydliadau sy’n cael cyllid gennym yn dangos ymrwymiad i wrth-hiliaeth.

Er mwyn cyflawni uchelgeisiau’r cynllun, bydd angen inni ddefnyddio ein dylanwad a’n gallu i ddarbwyllo fel cyflogwr sy’n esiampl i eraill. Drwy annog y sector cyhoeddus a’r sector preifat i weithio gydag undebau llafur cydnabyddedig mewn partneriaeth gymdeithasol, byddwn yn hyrwyddo prosesau gwneud penderfyniadau cadarnach, a chreu diwylliant gwrth-hiliol.

Mae TUC Cymru yn cynrychioli Undebwyr Llafur ym mhob sector yng Nghymru ac mae’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fynd i’r afael â hiliaeth yn y gweithle. Byddwn yn gweithio gyda TUC Cymru, cyflogwyr a phartneriaid eraill i wella profiadau yn y gwaith a mabwysiadu dulliau gweithredu gwrth-hiliol.

Gwrthwynebiad i’r cynllun gweithredu

Er bod llawer o ymatebion adeiladol gan wasanaethau cyhoeddus, gwelwyd hefyd rywfaint o dystiolaeth o wrthwynebiad i’r cynllun a’i uchelgais. Adlewyrchwyd hyn mewn ymatebion a oedd yn amau bod angen cynllun, o ystyried deddfwriaeth bresennol a chynlluniau gweithredu a strategaethau perthnasol eraill. Codwyd cwestiynau hefyd ynglŷn â’r perthnasedd i wahanol rannau o Gymru, cyllid ac adnoddau ac anesmwythder am y cynigion ynglŷn ag atebolrwydd am newid.

Rydym yn cydnabod, drwy fabwysiadu dull gwrth-hiliol, ein bod yn newid y ffordd rydym yn mynd i’r afael â gwahaniaethau ar sail hil a hiliaeth yng Nghymru yn sylweddol. Cyfyngedig yw’r arbenigedd sydd gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, o ran ymgorffori arferion gwrth-hiliol am gyfnod estynedig. Mae angen inni weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus i roi arweinyddiaeth ar y mater hwn a meithrin gallu.

Fodd bynnag, nid ymddiheurwn am roi ffocws uniongyrchol a chlir iawn ar hil ac ethnigrwydd a’r rheidrwydd i fynd i’r afael â hiliaeth strwythurol a systemig. Mae’r ddadl o blaid newid yn ddiwrthdro. Pe bai newid yn mynd i ddod o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth, y cynlluniau a’r strategaethau sy’n bodoli eisoes, a dulliau gweithredu gwahanol, e.e. amlddiwylliannaeth, cydraddoldeb hil, cynhwysiant ac amrywiaeth ac ati, byddem wedi’i weld eisoes. Nod y cynllun hwn – a’i drefniadau ar gyfer atebolrwydd – yw rhoi ffocws parhaus ar y materion hyn a sicrhau, o leiaf, y cydymffurfir â’r ddeddfwriaeth bresennol.

Sut y byddwn yn cyflawni’r cynllun hwn

Wrth ddechrau ar y gwaith hwn i ddatblygu’r cynllun hwn, dywedodd yr arweinwyr ethnig lleiafrifol a oedd yn gweithio gyda ni yn glir nad oeddent am weld strategaeth arall, na Chynllun arall, nad oedd yn cyflawni’r hyn a addawyd. Yn ganolog i’r drafodaeth â’r Grŵp Llywio a phobl yn y grwpiau ethnig lleiafrifol roedd sut y byddwn yn sicrhau bod y cynllun yn cael ei roi ar waith yn effeithiol ac na fydd unrhyw simsanu ar hyd y ffordd.

Rydym wedi cyflwyno tair elfen allweddol i dawelu meddwl pobl o ran y pryderon hyn – mesurau clir o lwyddiant, gan gynnwys dangosyddion, trefniadau llywodraethu annibynnol ac ymrwymiad i ddarparu adnoddau.

Mesurau clir o lwyddiant, gan gynnwys dangosyddion llwyddiant

Pan ddatblygwyd ein datganiadau am Weledigaeth, gwerthoedd a diben gyda’r cymunedau ethnig lleiafrifol, nodwyd hefyd gyfres o ddatganiadau ynglŷn â sut beth fyddai “da” pe baem yn symud dipyn o ffordd tuag at fod yn wlad wrth-hiliol erbyn 2030. (Gweler tudalennau 27 a 28 o’r cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Drafft). Ar sail adborth, rydym wedi diwygio ac wedi drafftio’r rhain i gynnwys yr isod. Maent yn cwmpasu chwe maes sy’n achos pryder.

Mewn perthynas â gwydnwch a llwyddiant pobl ethnig leiafrifol er gwaethaf yr hiliaeth y maent wedi’i hwynebu.

Datganiad o newidiadau a ddymunir:

  1. Bydd Llywodraeth Cymru wedi ariannu ac wedi cefnogi sefydliadau a arweinir gan y gymuned mewn ffordd agored a theg.
  2. Mae’r gwaith o ddatblygu polisïau a chynllunio darpariaeth gwasanaethau yn cynnwys amrywiaeth o leisiau o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, sy’n defnyddio eu profiadau bywyd i ddod o hyd i atebion creadigol wrth ddatblygu polisïau a darparu gwasanaethau.

Mewn perthynas â phrofiad pobl ethnig leiafrifol o hiliaeth mewn bywyd pob dydd.

Datganiad o newidiadau a ddymunir:

  1. Mae pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn ymwybodol o’r gweithdrefnau cwyno wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus ac yn gallu cael gafael arnynt yn eu dewis iaith pan fydd angen heb unrhyw ofn, rhwystrau na dial.
  2. Mae’r heddlu yng Nghymru yn mynd i’r afael â hiliaeth yn rhagweithiol ac yn gweithio gyda phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a’r gymuned ehangach i wella cydlyniant cymunedol wrth ddarparu gwasanaethau’r heddlu.
  3. Caiff y broses gyfiawnder o ymdrin â hiliaeth ei hadolygu ar y cyd â chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.
  4. Caiff troseddau casineb yn bersonol ac ar-lein eu dileu.

Mewn perthynas â phrofiad pobl ethnig leiafrifol o hiliaeth o ran y ffordd y darperir gwasanaethau.

Datganiad o newidiadau a ddymunir:

  1. Mae myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a’u gofalwyr yn hyderus bod gan leoliadau addysg bolisïau effeithiol i atal bwlio hiliol/ microymosodiadau ac y byddant yn ymdrin â’r rhain yn effeithiol pan fyddant yn digwydd.
  2. Mae pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael gwell mynediad at wasanaethau cyhoeddus sy’n deg ac yn ddiwylliannol briodol i’w hanghenion.
  3. Mae darparwyr yn y sector cyhoeddus yn ymwybodol yn ddiwylliannol ac yn gymwys i ddarparu gwasanaethau i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n cydnabod y gwahaniaethau ymhlith grwpiau ethnig lleiafrifol.
  4. Ni chaiff gwahaniaethu ar sail hil nac anghydraddoldeb mewn gwasanaethau a ddarperir gan y sector cyhoeddus eu goddef o gwbl.

Mewn perthynas â phrofiad pobl ethnig leiafrifol o hiliaeth yn y gweithle/hiliaeth wrth gael swyddi a chyfleoedd.

Datganiad o newidiadau a ddymunir:

  1. Mae gweithlu’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn cynrychioli’r boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu ar bob lefel o’r sefydliad.
  2. Gwell ffyrdd o nodi a hyrwyddo arferion sy’n llwyddo i leihau anghydraddoldebau cyflogaeth, gwahaniaethu a rhwystrau i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ym mhob agwedd ar brosesau recriwtio, dethol a datblygiad gyrfa.
  3. Mae arweinwyr ac uwch-reolwyr yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn dangos sut maent yn mynd ati i ymgorffori gwrth-hiliaeth yn y sefydliad fel agwedd ofynnol ar eu prosesau rheoli perfformiad.
  4. Mae pob aelod o staff yn y sector cyhoeddus ac mewn cyrff a ariennir yn cael hyfforddiant gorfodol ar wrth-hiliaeth.

Mewn perthynas â phrofiad pobl ethnig leiafrifol pan fydd diffyg modelau rôl gweladwy mewn swyddi dylanwadol.

Datganiad o newidiadau a ddymunir:

  1. Mae’r uwch-arweinwyr mewn sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, yn ogystal â byrddau cyrff cyhoeddus, yn gynrychioliadol ac yn gynhwysol.
  2. Senedd Cymru amrywiol sy’n gynrychioliadol o’i chymunedau.
  3. Mae sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn datblygu pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i ymgymryd â ‘swyddi dylanwadol’.

Mewn perthynas â phrofiad pobl ethnig leiafrifol o hiliaeth mewn meysydd sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru (meysydd sydd heb eu datganoli); er enghraifft yn eu profiad fel ffoaduriaid neu geiswyr lloches.

Datganiad o newidiadau a ddymunir:

  1. Mae’r rhai sy’n ceisio lloches ac sy’n ffoaduriaid yng Nghymru yn ymwybodol o’u hawliau ac yn gallu eu harfer.
  2. Mae’r rhai sydd newydd gyrraedd a chymunedau presennol yn ystyried Cymru yn lle diogel i fyw ynddo.
  3. Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i sicrhau ei bod yn dylanwadu ar feysydd sydd heb eu datganoli.

Mae’r rhain ar ffurf ddrafft ac yn cael eu datblygu ymhellach a’u mireinio gan grŵp cymysg o arweinwyr cymunedol, gweision sifil a gweision cyhoeddus o’r tu allan i Lywodraeth Cymru.

Rydym wedi dechrau llunio 'Fframwaith Mesur Cynnydd Strategol drafft' a fydd yn dod yn brif adnodd adrodd y cynllun. Pan fydd y fframwaith wedi’i ddatblygu, caiff ei drafod ymhellach â’r Grŵp

Atebolrwydd newydd ei sefydlu (gweler isod). Bydd yn dangos y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a sefydliadau a ariennir yn ei wneud tuag at gyflawni’r diben a’r weledigaeth, yn erbyn cyfres o ddangosyddion strategol. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo a bydd yn cael ei ddatblygu yn ystod hydref 2020 pan fydd gennym yr adnoddau a’r arbenigedd priodol i wneud y gwaith hwn.

Mae’r drafft yn cynnig y bydd y mesurau’n cael eu mesur ar ddwy lefel:

  1. bydd y Mesurau Perfformiad Strategol yn mesur newid yn Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a’r sector a ariennir. Bwriedir i’r Mesurau Perfformiad Strategol fod yn rhai cyffredinol, ar y cyfan, ac felly byddai modd eu cymhwyso at unrhyw faes polisi, ym mhob sector.
  2. bydd y Mesurau Perfformiad Gweithredol yn mesur cynnydd yn erbyn y nodau a’r camau gweithredu a amlinellir yn y cynllun Gweithredu. Bydd yn rhaid i bob maes polisi dan sylw ystyried sut y bydd yn sicrhau ei fod yn mesur y newidiadau a’r canlyniadau sy’n deillio o’i gamau gweithredu yn effeithiol. Bydd angen i bob un ddatblygu ei Fesurau Perfformiad Gweithredol ei hun a chynnwys camau gweithredu priodol.

Bydd rhai o’r ffyrdd o fesur newid yn cymryd cryn amser i’w rhoi ar waith. Er enghraifft, cyflwyno arolygon newydd, gwneud newidiadau i gwestiynau mewn arolygon mawr, neu newid dulliau samplu i sicrhau cynrychiolaeth ddigonol o bobl ethnig leiafrifol fel y gellir cyflwyno data mewn ffordd fanylach a phriodol.​​

Grŵp Atebolrwydd Annibynnol Allanol

Er mwyn cynnig ffordd ychwanegol a pharhaus o sicrhau hyder bod y cynllun hwn yn cael ei roi ar waith, gyda chytundeb y Grŵp Llywio, rydym wedi cytuno ar gylch gorchwyl i ‘Grŵp Atebolrwydd’ annibynnol allanol oruchwylio’r gwaith hwn. (Gweler y Cylch Gorchwyl llawn yn Atodiad 5). Bydd yn cynnwys pobl ethnig leiafrifol yn bennaf, a bydd yn cael ei atgyfnerthu ymhellach drwy gynnwys arbenigwyr drwy brofiad bywyd o hiliaeth. Byddant yn meddu ar arbenigedd o ran gwahaniaethau ar sail hil, ac o ran ffyrdd o fynd i’r afael â hiliaeth sefydliadol mewn meysydd gwahanol, er enghraifft iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, cyflogaeth a ffoaduriaid. Caiff pob aelod ei recriwtio mewn ffordd agored a thryloyw. Byddwn yn chwilio am amrywiaeth o arbenigedd, profiad bywyd a safbwyntiau.

Caiff y Grŵp Atebolrwydd annibynnol hwn ei arwain gan yr Athro Emmanuel Ogbonna, o Brifysgol Caerdydd, a Dr Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol yn Llywodraeth Cymru. Bydd mewn cysylltiad rheolaidd â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill.

Prif ffocws y Grŵp Atebolrwydd fydd sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni, monitro cynnydd o ran y camau gweithredu a’r ymrwymiadau, a sicrhau na chollir momentwm. Mae’r cynllun yn cynnwys camau gweithredu a blaenoriaethau i bob gwasanaeth cyhoeddus, a fydd yn gofyn am ymrwymiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, ond bydd hefyd yn gofyn i sectorau penodol, gan gynnwys iechyd a llywodraeth leol, gymryd camau gweithredu penodol. Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ymrwymiadau’n cael eu monitro a’u cyflawni drwy lawer o sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus a sefydliadau yn y trydydd sector drwy ddulliau megis llythyrau cylch gwaith neu ymrwymiadau cyllidol a thrwy ymgysylltu gwleidyddol rhwng Gweinidogion a chynghorau.

Byddwn hefyd yn sefydlu Grŵp Llywodraeth Cymru mewnol, sef y Grŵp Cymorth a Her Mewnol, a fydd yn llywio gwaith gwahanol adrannau. Ei rôl fydd sicrhau ein bod yn gweithredu mewn ffordd ‘gydgysylltiedig’ ar draws meysydd polisi gwahanol. (Gweler Cylch Gorchwyl llawn y grŵp hwn yn Atodiad 6).

Rydym yn gwerthfawrogi’r sgyrsiau rydym wedi eu dechrau â phobl ethnig leiafrifol, felly rydym hefyd yn bwriadu datblygu fforymau lleol, ledled Cymru, i’n helpu i barhau â’r sgwrs hon.

Datgelodd yr ymgynghoriad bryderon hefyd ynghylch a fyddai gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau a’r strwythurau cywir i ddwyn cyrff eraill i gyfrif mewn perthynas â’r cynllun hwn. Mae ei ffyrdd presennol o ddylanwadu yn cynnwys deddfwriaeth a chanllawiau, contractau a chytundebau grantiau, a’i phwerau i arolygu, rheoleiddio ac ymchwilio. Mae ein camau gweithredu diwygiedig yn anelu at nodi’n gliriach sut y byddwn yn defnyddio’r ffyrdd hyn o ddylanwadu er mwyn sicrhau gweithredu cyflymach.

Adnoddau

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i sefydlu a buddsoddi mewn Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil ochr yn ochr ag Uned Data Cydraddoldeb er mwyn gwella data meintiol ac ansoddol ar grwpiau nas clywir yn aml yng Nghymru. Bydd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar sail Hil yn cynnig adnoddau wedi’u targedu i gefnogi gwelliannau i dystiolaeth ar ethnigrwydd. Yn 2022, bydd y gwaith o ddatblygu’r Rhaglen Tystiolaeth Hil yn dechrau, a fydd yn cynnwys nodi’r prif flaenoriaethau yn y maes hwn.

Yn y tymor byr, caiff anghenion eu diwallu drwy’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil, a fydd yn cynnal adolygiadau o dystiolaeth a gwaith dadansoddi ad hoc gan ddefnyddio’r ffynonellau tystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd. Yn y tymor hwy, bydd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil yn chwarae rôl hollbwysig yn y gwaith o wella a dylanwadu ar amrywiaeth o atebion tymor hwy i gasglu tystiolaeth (fel y’i dangoswyd yn yr adran ar Ddangosyddion Perfformiad Strategol). Gallai gwelliannau yn y meysydd hyn fwydo i mewn i ddangosyddion perfformiad mesuradwy yn y tymor hwy ar gyfer y cynllun hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn dangos ei blaenoriaeth a’i hymrwymiad i’r gwaith hwn drwy ariannu tîm canolog o swyddogion ar gyfer y Cynllun Gwrth-hiliol a fydd yn arwain y gwaith o’i roi ar waith. Bydd y tîm yn gweithio gyda swyddogion polisi gwahanol sy’n arwain y gwaith ar y camau gweithredu a amlinellir yn Adran B a hefyd yr arweinwyr ar lefelau gwahanol yn y cymunedau ethnig lleiafrifol a chymunedau eraill. Bydd adnoddau hefyd ar gael i gefnogi’r Grŵp Atebolrwydd.

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i sefydlu Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil ochr yn ochr ag Uned Data Cydraddoldeb er mwyn gwella data meintiol ac ansoddol ar grwpiau nas clywir yn aml yng Nghymru. Bydd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil yn cynnig adnoddau wedi’u targedu i gefnogi gwelliannau i dystiolaeth ar ethnigrwydd. Yn 2022, bydd y gwaith o ddatblygu’r Rhaglen Tystiolaeth Hil yn dechrau, a fydd yn cynnwys nodi’r prif flaenoriaethau yn y maes hwn.

Yn y tymor byr, caiff anghenion eu diwallu drwy’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil, a fydd yn cynnal adolygiadau o dystiolaeth a gwaith dadansoddi ad hoc gan ddefnyddio’r ffynonellau tystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd. Yn y tymor hwy, bydd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil yn chwarae rôl hollbwysig yn y gwaith o wella a dylanwadu ar amrywiaeth o atebion tymor hwy i gasglu tystiolaeth (fel y’i dangoswyd yn yr adran ar Ddangosyddion Perfformiad Strategol). Gallai gwelliannau yn y meysydd hyn fwydo i mewn i ddangosyddion perfformiad mesuradwy tymor hwy ar gyfer y cynllun hwn.

Cydnabyddiaethau

Hoffem ddiolch i’r canlynol am ein helpu i lunio’r cynllun hwn. Mae pob unigolyn a grŵp wedi rhoi tystiolaeth a gwybodaeth sydd wedi llywio’r cynllun hwn.

  • Aelodau’r Grŵp Lywio.
  • Aelodau Fforwm Hil Cymru, yn ogystal â’r sefydliadau a’r unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol lu a helpodd i gasglu a chrynhoi cyfraniadau gan y gymuned ehangach. Roedd eu hymdrechion yn gymorth mawr i gyflwyno lleisiau newydd inni, a lywiodd ein gwaith yn fawr.
  • Y Grŵp Cynghorol Iechyd ar COVID-19 a’i Is-grwpiau Economaidd-gymdeithasol ac Asesu Risg. Cyflwynodd y rhain gyfres o argymhellion, y mae llawer ohonynt wedi cael eu cynnwys yn y cynllun.
  • Cyhoeddodd y Grŵp Cynghori ar Gynefin a Henebion, y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd, ddau adroddiad yn nodi’r angen am fwy o adnoddau dysgu o ansawdd uchel, gan gynnwys mwy o gynrychiolaeth gadarnhaol ac yn manylu ar gyfraniadau grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn ysgolion yng Nghymru. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y canfyddiadau yn llwyr.
  • Y ‘mentoriaid cymunedol’ a dynnodd ein sylw at eu profiadau bywyd unigol a phrofiadau bywyd eu cymunedau mewn meysydd polisi penodol ac at adborth gan eu cymunedau ar y cynllun.
  • Arweinwyr a chyfranogwyr ein ‘deialogau wedi’u harwain gan y gymuned’ â grwpiau a fforymau ethnig lleiafrifol.
  • Yr Undebau Llafur a TUC Cymru am weithio gyda ni mewn partneriaeth gymdeithasol, gan gydymffurfio ag egwyddorion pwysig cydweithredu, parch ac ymddiriedaeth.
  • Y rhai a gymerodd ran yn ein digwyddiadau polisi, lle gwnaethom ddod â phartneriaid o feysydd polisi penodol ynghyd i rannu tystiolaeth a datblygu camau gweithredu posibl.
  • Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a’r rhai a gyfrannodd at yr adolygiadau cyflym o’r dystiolaeth bresennol a gynhaliwyd gan y Ganolfan.
  • Yr aelodau hynny o Dîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru am eu cymorth amhrisiadwy yn ystod ein digwyddiadau ‘pennu gweledigaeth’.
  • Y rhai a roddodd o’u hamser i gymryd rhan yn yr amryw ddigwyddiadau pennu gweledigaeth a chamau chasglu tystiolaeth y gwaith hwn.
  • Yr arbenigwyr hynny, o bob rhan o’r DU, sy’n gweithio ym maes gwrth-hiliaeth a roddodd eu cyngor yn hael ac ar fyr rybudd.
  • Race Equality First am gasglu’r ymatebion i’r ymgynghoriad a’u dadansoddi.
  • Hoffem hefyd ddiolch i’r tîm eithriadol o swyddogion ac arweinwyr polisi a wnaeth reoli’r broses gyfan a arweiniodd at ddatblygu’r cynllun hwn.

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Jane Hutt AS, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Yr Athro Emmanuel Ogbonna, Prifysgol Caerdydd

Dr Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru