Neidio i'r prif gynnwy

Atodiad 1: aelodau’r grŵp llywio

Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i bob un o aelodau’r Grŵp Llywio a fu’n arwain, cynorthwyo a gweithredu fel cyfeillion beirniadol er mwyn cwblhau’r cynllun hwn.

Mae’r aelodau canlynol wedi cytuno i gyhoeddi eu henwau. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi gwaith y rhai sydd, am amrywiol resymau, angen aros yn ddienw.

Y cyd-gadeiryddion yw’r Athro Emmanuel Ogbonna a Dr Andrew Goodall.

Aelodau

  • Amanda Hill-Dixon, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.
  • Anna Skeels, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.
  • Daniel Hurford, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
  • Emma Wools, Grŵp Llywio Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru a Grŵp Cyflawni ar gyfer Cydraddoldeb Hiliol.
  • Gaynor Legall, Gweithgor Archwilio Cerfluniau a Henebion.
  • Ginger Wiegand, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
  • Gurmit Singh Randhawa, Fforwm Cymunedau Ffydd.
  • Helal Uddin, Tîm Cymorth LIeiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru.
  • Judge Ray Singh, Grŵp Cynghorol Iechyd Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Cymru ar COVID-19.
  • Lloyd Williams, Tîm Cymorth LIeiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru.
  • Maria Constanza Mesa, Women Connect First.
  • Yr Athro Keshav Singhal, Is-grŵp Asesu Risg COVID-19.
  • Yr Athro Meena Upadhyaya, Cyfarwyddwr Anweithredol, Llywodraeth Cymru.
  • Yr Athro Robert Moore, Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol y Gogledd.
  • Yr Athro Tracy Myhill, GIG Cymru.
  • Yr Athro Uzo Iwobi OBE, Race Council Cymru a chyn Gynghorydd Polisi Arbennig i Lywodraeth Cymru.
  • Yr Athro Pushpinder S Mangat, GIG Cymru.
  • Rajvi Glasbrook, Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd.
  • Rocio Cifuentes, Tîm Cymorth LIeiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru.
  • Shavanah Taj, TUC Cymru.
  • Tamsin Ramasut, Mela Cymru.
  • Trudy Aspinwall, Prosiect Travelling Ahead, TGP Cymru.
  • Fforwm Hil Cymru.
  • Rhwydwaith Cymorth Pobl Ethnig Leiafrifol Llywodraeth Cymru.

Atodiad 2: mentoriaid cymunedol

Manteisiwyd ar sgiliau, profiadau bywyd a chymorth 17 o Fentoriaid Cymunedol a fu’n cefnogi gwahanol swyddogion polisi o Lywodraeth Cymru. Rydym yn ddiolchgar iawn i bob un ohonynt am eu hymrwymiad a’u harbenigedd.

Mae’r mentoriaid canlynol wedi cytuno i gyhoeddi eu henwau. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi gwaith y rhai sydd, am amrywiol resymau, angen aros yn ddienw:

  • Aisha Ali
  • Cindy Ikie
  • Daljit Nijjer
  • Helal Uddin
  • Indu Deglurkar
  • Jacquline Alcinder
  • Jan Birch
  • Juhela Rahman-Daultrey
  • Michelle Alexis
  • Mohid Khan
  • Saadia Abubakar
  • Star Moyo
  • Tom Tom Hendry
  • Yaina Samuels

Atodiad 3: Grwpiau cymunedol cyn ac yn ystod yr ymgynghoriad

Rydym hefyd yn ddiolchgar i lawer o grwpiau a sefydliadau a gyflwynodd adroddiadau deallus ar brofiadau eu cymunedau, naill ai drwy waith y Grant Cymunedol, neu drwy anfon eu hadroddiadau atom, cynnal digwyddiadau a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Maent yn cynnwys y canlynol:

  • Action for Art
  • Addysg Oedolion Cymru
  • Antur Teifi
  • Avant Cymru
  • Black, Asian and Minority Ethnic mental Health Support
  • Black Lives Matter Wales and Race Council Cymru
  • Butetown Community Centre Association
  • Cardiff University Centre for Islamic Studies and Muslim Council of Wales
  • Children in Wales
  • Diverse Cymru
  • Ethnic Minority Women in Welsh Healthcare
  • Henna Foundation
  • Hindu Cultural Association, Wales
  • Horn Development Association
  • Hyatt Womens Trust
  • KIRAN
  • Mudiad Meithrin
  • National Black, Asian and Minority Ethnic Youth Forum
  • Neath Port Talbot BME Association
  • North Wales Africa Society
  • North Wales Regional Equality Network (NWREN)
  • Opinion 8
  • Race Council Cymru:
    • Cardiff Region
    • North Wales Region
    • Newport Region
    • Swansea Region
    • West Wales Region
  • South Riverside Centre and Bevan Foundation
  • Sub-Sahara Advisory Panel
  • Tros Gynnal Plant Cymru
  • The Polish School
  • The Privilege Café
  • The Romani Cultural and Arts Company
  • Welsh Refugee Council
  • Women Connect First

Atodiad 4: gweledigaeth, diben a gwerthoedd

Gweledigaeth

Cymru sy’n wrth‑hiliol.

Ymhlith y prif themâu a ddaeth i’r amlwg wrth wneud y gwaith hwn, roedd gwrth-hiliaeth yn allweddol, ac felly yn greiddiol i’r gwaith. Roedd themâu eraill yn cynnwys cysyniadau o degwch, cyfiawnder cymdeithasol a dathlu amrywiaeth o bob math.

Roedd y cyfranwyr o’r farn yr hoffent weld Cymru lle ceir “dealltwriaeth a rennir, a chamau gweithredu y cytunwyd arnynt” er mwyn mynd i’r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol, er enghraifft y ffordd mae hiliaeth wedi bod yn rhan annatod o weithdrefnau sefydliadau y maent yn dod ar eu traws, ac yn parhau felly. Dylid anelu at “greu canlyniadau teg” sy’n “dathlu gwahaniaethau a thebygrwyddau ymhlith cymunedau ethnig lleiafrifol” lle y cawn “ein huno nid ein rhannu gan ein gwahaniaethau”.

Roedd y cyfranwyr yn awyddus i weithio “gyda’n gilydd, fel pobl wyn a phobl ethnig leiafrifol, er mwyn creu Cymru wahanol a gwell ar y cyd”.

Diben

Gwneud newid ystyrlon i fywydau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol drwy fynd i’r afael â hiliaeth.

Roedd y rhai oedd yn rhan o’r gwaith yn teimlo mai diben y gwaith hwn oedd creu “ymdeimlad o fyrder a newid diwylliannol sy’n golygu bod gwasanaethau cyhoeddus yn atebol i’r cyhoedd” ac “sy’n rhoi’r camau gweithredu a addawyd ar waith” er mwyn lleihau anghydraddoldebau mewn amrywiol feysydd o fewn ein dyletswyddau a’n pwerau.

Awgrymwyd bod angen i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus gael “sgyrsiau anodd heb ofni unrhyw ddial” er mwyn i ni allu cyflawni’r “newid rydym am ei weld”. Roedd pobl yn teimlo mai dim ond drwy fynd i’r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol, drwy “gyfleu’r gwir i’r rheini sydd mewn grym” a chreu “etifeddiaeth newydd ar gyfer gwrth-hiliaeth sy’n cynnwys canlyniadau teg i’n cymunedau” y gallwn wneud hyn.

Image removed.Yn ogystal, roedd gobaith cryf y gallem greu “etifeddiaeth newydd o wasanaethau cyhoeddus sy’n cynnwys arweinwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sydd wedi cael cydnabyddiaeth am eu potensial, eu talent a’u cyfraniad unigryw”.

Gwerthoedd

Yn y gwerthoedd isod, mae “ni” yn cyfeirio at y cyfranogwyr a Llywodraeth Cymru gyda’i gilydd.

Profiadau bywyd

  • Rydyn ni’n credu y dylid “cynnwys” ein profiadau bywyd wrth wraidd pob penderfyniad a wneir yng Nghymru.
  • Mae gennym yr hawl i “gael ein clywed ac i eistedd wrth y prif fwrdd” ac i glywed y penderfyniadau rydych yn eu gwneud amdanom.
  • Rydyn ni’n credu y dylai ein “heriau; o bob grŵp gwahanol, gael eu clywed fel ffordd o’ch helpu i wneud eich swyddi yn well” ac y dylid “cydnabod ein hanes a’n gorthrwm fwy” gan barchu “baich emosiynol rhannu” ar yr un pryd.

 Seiliedig ar hawliau

  • Rydyn ni’n credu ein bod yn gofyn “am ddim ond ein hawliau, yn hytrach na ffafrau” ym mhob peth a wnewch.
  • Mae cyfrifoldeb ar y rheini sydd mewn grym i “sicrhau cyfiawnder”, i “orfodi” ac i sicrhau “atebolrwydd” y rheini sy’n gyfrifol am wasanaethau ac am wneud penderfyniadau.
  • Rydyn ni’n credu erbyn 2030 y dylai pawb gael eu hystyried yn “Gymry”, ac “na ddylai hiliaeth, sy’n gadael trawma sy’n effeithio ar iechyd meddwl am flynyddoedd fod yn faich mwyach”.

Yn agored ac yn dryloyw

  • Rydyn ni’n credu “y gallwn gyflawni mewn perthynas â chydraddoldeb”.
  • Ni ddylai fod “grwpiau poblogaidd” a “grwpiau amhoblogaidd”, ond yn lle hynny, Cymru lle y caiff pobl eu gwerthfawrogi am eu talentau a’u profiadau bywyd unigryw sydd, er eu bod yn wahanol, yn gyfwerth â’i gilydd.
  • Rydyn ni’n credu “y bydd byw mewn man lle y ceir rhyddid i gynnal trafodaethau heriol heb ofni cael eich allgáu o ganlyniad i hiliaeth sefydliadol yn ein rhyddhau”.

Atodiad 5: cylch gorchwyl y Grŵp Atebolrwydd Allanol

Cefndir

Mae’r Cynllun Cymru Wrth-hiliol yn nodi gweledigaeth, diben a gwerthoedd a gafodd eu cyd-gynllunio ac y cytunwyd arnynt, a fydd yn sail i waith y Grŵp Atebolrwydd.

Gweledigaeth:

“Cymru sy’n wrth-hiliol.”

Diben:

“Cydweithio i wneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru.”

Gwerthoedd:

“Bod yn agored ac yn dryloyw, rhoi profiad bywyd wrth wraidd popeth a wneir a bod yn seiliedig ar hawliau.”

Tynnodd y cynllun datblygu sylw at broblem a welir ym mhob sector, sef diffyg ymddiriedaeth yn y gwaith o gefnogi neu alluogi camau gweithredu ynghylch cydraddoldeb hil. Mae ‘bwlch gweithredu’ hefyd, lle mae gwaith a chynlluniau a wnaed gyda bwriadau da yn methu â chyflawni yn erbyn yr amcanion a nodwyd.

Er mwyn i’r cynllun Cymru Wrth-hiliol wireddu’r weledigaeth a’r diben a nodwyd ganddo, bydd angen gwneud gwaith cyson i ennyn a chynnal ymddiriedaeth unigolion, grwpiau a chymunedau ethnig lleiafrifol a sicrhau bod gwaith yn canolbwyntio’n barhaus ar weithredu.

Bydd Grŵp Atebolrwydd y Cynllun Cymru Wrth-hiliol (y Grŵp) yn gweithio’n rhagweithiol, ac ar y cyd â Grŵp Cefnogi a Herio Mewnol Llywodraeth Cymru a’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil, yn ogystal â fforymau rhanbarthol ar gyfer hil a grwpiau gwarchodedig eraill. Bydd yn sicrhau bod y gwaith a wneir ganddo yn gyson â meysydd a pholisïau eraill Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â chydraddoldeb, ac yn cyd-fynd â nhw. Mae Atodiad 7 yn dangos rôl a chylch gwaith Grŵp Cefnogi a Herio Mewnol Llywodraeth Cymru.

Diben

Diben cyffredinol y Grŵp Atebolrwydd hwn fydd sicrhau cynnydd tuag at ddiben y cynllun drwy ddwyn y bobl hynny sy’n gyfrifol am y gwaith i gyfrif am yr hyn y maent yn ei gyflawni, neu’n methu â’i gyflawni. Mae’r cyfrifoldeb dros sicrhau bod camau gweithredu’n cael eu rhoi ar waith yn aros gyda’r arweinwyr polisi a’r sectorau ehangach sy’n gyfrifol am y camau gweithredu hynny.

Bydd y Grŵp hefyd yn gweithredu fel man canolog ar gyfer llywodraethu unrhyw waith sy’n ymwneud â hil yn Llywodraeth Cymru, ac yn sicrhau bod gwaith yn gydlynol pan gaiff ei ddatblygu a phan gaiff ei gyflawni. Bydd hefyd yn craffu ar gydymffurfiaeth â deddfwriaeth Cydraddoldebau. Bydd y Grŵp hefyd yn asesu i ba raddau y mae cynnydd yn cael ei wneud tuag ag at wireddu’r weledigaeth, yn ogystal â herio, cefnogi (gan gynnwys cyd-gynllunio) a chynghori ar unrhyw agweddau ar faes gwrth-hiliaeth y dylid ymchwilio iddynt ym marn y Grŵp, ar sail heriau a llwyddiannau newydd wrth iddynt ddod i’r amlwg.

Bydd cylch gwaith y Grŵp yn cynnwys y canlynol:

  • gosod blaenoriaethau ar gyfer y Nodau a’r Camau Gweithredu sy’n bwysig ac y mae angen eu rhoi ar waith ar frys yn eu barn nhw
  • cael adroddiadau gan Grŵp Cefnogi a Herio Mewnol Llywodraeth Cymru a chraffu arnynt
  • gofyn i Weinidogion fod yn bresennol ar gyfer eitemau penodol ar yr agenda
  • asesu, herio ac adrodd ar gynnydd o ran gwireddu’r weledigaeth drwy roi’r nodau a’r camau gweithredu yn y cynllun ar waith, gan sicrhau bod y cynnydd hwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i brofiad bywyd pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru
  • nodi’r polisïau allweddol newydd sydd eu hangen a helpu i gyd-gynllunio unrhyw bolisïau o’r fath
  • nodi a gwneud argymhellion mewn perthynas â themâu a chamau gweithredu newydd sy’n dod i’r amlwg er mwyn gwneud cynnydd tuag at y weledigaeth a hyrwyddo arferion da
  • chwarae rôl allweddol yn y gwaith o ddatblygu rhaglen waith yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil a dylanwadu arno, fel y bydd modd i’r grŵp ymateb i bryderon ynghylch patrymau hiliaeth, neu pan na fydd y newid a ddymunir yn digwydd
  • ar ôl rhoi camau gweithredu ar waith. Mae hyn yn cynnwys awgrymu gwaith casglu data meintiol neu ansoddol neu waith dadansoddi er mwyn llenwi unrhyw fylchau yn y sail dystiolaeth. Gallai’r Uned ymgymryd â’r prosiectau seiliedig ar dystiolaeth hyn neu eu comisiynu (e.e. gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru) er mwyn bodloni’r rhan hono’r cylch gwaith
  • gwahodd sefydliadau, gan gynnwys Comisiynwyr, rheoleiddwyr a chyrff arolygu ac archwilio i drafod materion sy’n rhan o’u meysydd dylanwad
  • gwneud argymhellion ar gyfer defnyddio dulliau ysgogi presennol o fewn y Llywodraeth mewn modd sy’n sicrhau’r effaith fwyaf bosibl, a cheisio atgyfnerthu unrhyw ddulliau ysgogi o fewn y Llywodraeth yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud cynnydd mewn perthynas â gwrth-hiliaeth
  • cynnal Grwpiau Gorchwyl a Gorffen fel sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru neu fel y nodwyd gan y Grŵp ei hun ac mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru
  • gwahodd, ar sail ad hoc, unrhyw arbenigwr a fydd yn ychwanegu gwerth ym marn y Grŵp er mwyn rhoi cymorth, tystiolaeth neu gyfeiriad ar fater penodol
  • sicrhau dull croestoriadol o ymgymryd â’r holl waith polisi
  • cyhoeddi datganiadau cynnydd cyhoeddus bob blwyddyn

Adnoddau ar gyfer y Grŵp

Dyrennir swm penodol o adnoddau ariannol i’r Grŵp Atebolrwydd bob blwyddyn er mwyn comisiynu adroddiadau, ymchwil ac eitemau eraill yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol.

Ffyrdd o weithio

Bydd gwerthoedd y cynllun yn gweithredu fel egwyddor arweiniol ar gyfer y ffyrdd o weithio a fabwysiadir gan y Grŵp. Bydd hyn yn golygu cyflwyno heriau gyda lefel uchel o gymorth, gan sicrhau bod profiadau bywyd pobl ethnig leiafrifol yn llywio cynnydd bob amser, bod y Grŵp yn gweithio mewn modd tryloyw ac agored bob amser, a bod y dull a ddefnyddir yn seiliedig ar hawliau yn lle ffafr ac felly ei fod yn wrth-hiliol.

Un o’r negeseuon cryf a ddaeth i’r amlwg wrth ddatblygu’r cynllun oedd y dylai’r trefniadau llywodraethu a ddefnyddir i oruchwylio’r gwaith o’i weithredu gymell pobl i gymryd camau. Felly bydd y Grŵp yn gwneud argymhellion ynghylch y dulliau ysgogi a’r offerynnau y dylid eu defnyddio er mwyn ysgogi newid a chyfeirio sylw ac adnoddau. Mae modd i’r Grŵp Atebolrwydd reoli rhai dulliau ysgogi, megis tystiolaeth, ond mae dulliau ysgogi eraill lle mai dim ond y rheini sy’n gyfrifol sy’n gallu eu rhoi ar waith, e.e. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am lythyrau cylch gwaith, amodau grantiau ac ati. Wrth i’r gwaith o weithredu’r cynllun fynd rhagddo, cynhelir trafodaeth â Gweinidogion Cymru am yr angen am ddulliau ysgogi pellach, at ddefnydd y llywodraeth neu’r Grŵp Atebolrwydd.

Er mwyn gallu parhau i gynnal trafodaethau lefel uchel â grwpiau ehangach o randdeiliaid ethnig lleiafrifol a rhanddeiliaid eraill ledled Cymru, bydd y Grŵp yn mynd ati i gynnal trafodaethau â’r fforymau rhanbarthol ar gyfer Hil a grwpiau gwarchodedig eraill.

Caiff y Grŵp ei gefnogi gan yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil a, lle mae croestoriadedd yn bwysig, yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd ehangach i ddarparu data meintiol ac ansoddol. Bydd y data ansoddol hyn yn sicrhau ac yn cynnwys profiadau bywyd.

Bydd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil hefyd yn cefnogi’r gwaith o gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gynnydd.

Aelodaeth

Cyd-gadeiryddion: Yr Athro Ogbonna, Prifysgol Caerdydd ac Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol.

8 Cynrychiolydd Amrywiaeth

Bydd cynrychiolwyr amrywiaeth yn cael eu penodi mewn modd agored a thryloyw. Gwahoddir cynrychiolwyr i fynegi diddordeb i lenwi rolau:

  • 8 Cynrychiolydd Amrywiaeth ar gyfer grwpiau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a fydd yn cynrychioli gwahanol rannau o Gymru ac yn cynnwys:
    • menywod
    • cenedlaethau’r Dyfodol
    • pobl LHDTC+
    • pobl anabl
    • pobl ifanc
    • pobl hŷn
    • ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches
    • cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Rydym yn cynnig y dylai’r Cynrychiolwyr Amrywiaeth fod:

  • yn byw ac yn gweithio (ac eithrio pobl ifanc a phobl hŷn) yng Nghymru
  • â phrofiad personol/uniongyrchol o hiliaeth
  • yn gallu darparu cynrychiolaeth croestoriadol
  • â phrofiad o – neu fod yn barod i – gymryd rhan mewn proses o helpu i wella polisïau a gwasanaethau a darparu her adeiladol

Nid oes angen iddynt fod yn aelodau o sefydliadau sy’n gweithio ar faterion sy’n ymwneud â hil (er y gallant fod, ac os felly, byddai angen inni sicrhau cydbwysedd rhwng y sefydliadau a gynrychiolir), ond dylent fod â rhywfaint o allu/cwmpas/ffordd o leoli eu cynrychiolaeth o fewn cymunedau ehangach yng Nghymru (e.e. ni ddylent fod yn unigolion heb gysylltiadau).

Fel grŵp, bydd y Cynrychiolwyr Amrywiaeth:

  • o gefndiroedd amrywiol ac â phrofiadau amrywiol
  • o sefydliadau amrywiol, os ydynt yn gweithio i sefydliad, er mwyn sicrhau bod ystod eang yn cael eu cynrychioli

Gall Llywodraeth Cymru ystyried talu am eu gwasanaethau cyn belled ag y cânt eu penodi drwy broses dryloyw.

Recriwtio 7 arbenigwr ar sail profiad ac arbenigedd ar wrth-hiliaeth

Caiff saith arbenigwr eu recriwtio mewn modd agored a thryloyw ar sail profiad bywyd, gydag arbenigedd ym maes gweithredu polisïau gwrth-hiliol, sy’n gysylltiedig â meysydd ffocws y cynllun ar gyfer gweithredu.

Bydd yr arbenigwyr hyn yn gwasanaethu am gyfnod o ddwy flynedd.

Byddant yn wahanol i’r Cynrychiolwyr Amrywiaeth o ran:

  • efallai y byddant yn byw neu’n gweithio y tu allan i Gymru (er nad ydym am i bob un ohonynt fod felly)
  • y bydd ganddynt brofiad o ymarfer gwrth-hiliaeth mewn gwahanol gyd-destunau sy’n berthnasol i’r gwaith o roi’r cynllun ar waith
  • fel grŵp, dylid cynnig amrywiaeth o ran profiad a chefndir, a rhywfaint o groestoriadedd

Eto, byddai Llywodraeth Cymru yn chwilio am y ffordd orau o sicrhau y byddai’r unigolion hyn yn cael eu talu ac eto, byddai’n eu recriwtio mewn modd agored a thryloyw.

Cynrychiolwyr (dros dro nes y bydd eu gwaith wedi’i gwblhau) o’r gwaith presennol ar wrth-hiliaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru:

  • Yr Athro Charlotte Williams
  • Gaynor Legall

Gwahoddir cynrychiolwyr ar ran y canlynol:

  • Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • TUC Cymru
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Rhwydwaith Staff Ethnig Lleiafrifol (MESN) Llywodraeth Cymru
Cyd‑gynllunydd/cynghorwyr polisi
  • Pennaeth Tîm Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
  • Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi.
  • Uwch-arweinydd Polisi ar gyfer Cydraddoldebau yn Llywodraeth Cymru (aelod o’r Bwrdd).
  • Prif Swyddog Nyrsio Cymru.

Arweinwyr polisi sy’n gyfrifol am roi’r cynllun ar waith

Dylai arweinwyr polisi fod yn bresennol i arsylwi ond gallant gymryd rhan pan fo’r drafodaeth yn ymwneud â’u meysydd polisi.

Caiff Gweinidogion Cymru eu gwahodd i’r Grŵp Atebolrwydd ar sail ad hoc er mwyn darparu cyfle i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a chynlluniau o fewn eu cylchoedd gwaith i sicrhau Cymru wrth-hiliol.

Caiff y Prif Weinidog (neu’r Gweinidog sy’n dirprwyo yn y mater hwn) ei wahodd ddwywaith y flwyddyn i glywed y diweddaraf ar gynnydd, llwyddiant a meysydd y mae angen canolbwyntio arnynt ymhellach ym marn y Grŵp Atebolrwydd.

Caiff Comisiynwyr, Rheoleiddwyr a Chyrff Archwilio ac Arolygu Perthnasol eu gwahodd i fod yn bresennol o leiaf unwaith.

Yr Ysgrifenyddiaeth

Bydd uwch-aelod o Dîm Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn ymgysylltu â’r Cyd-gadeiryddion yn rheolaidd. Llywodraeth Cymru fydd yn darparu’r ysgrifenyddiaeth, ond yr aelodau a’r Cyd-gadeiryddion fydd yn pennu eitemau agendâu ac yn arwain arnynt.

Amserlen cyfarfodydd

Bydd y Grŵp yn cyfarfod bob dau fis.

Adrodd ac uwchgyfeirio

Bydd y Grŵp yn cytuno ar Adroddiad Cynnydd Blynyddol, ac yn cytuno ar amserlen yr adroddiad yn ystod y cyfarfod cyntaf.

Bydd y Cadeirydd Allanol hefyd yn cyfarfod â’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddwywaith y flwyddyn er mwyn codi unrhyw drafodaethau y bydd y Prif Weinidog neu’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ystyried eu bod yn briodol.

Atodiad 6: cylch gorchwyl y Grŵp Cefnogi a Herio Mewnol

Cefndir

Mae’r Cynllun Cymru Wrth-hiliol yn nodi gweledigaeth, diben a gwerthoedd a gafodd eu cyd-gynllunio ac y cytunwyd arnynt, a fydd yn sail i’r Grŵp Cefnogi a Herio Mewnol

Gweledigaeth

“Cymru sy’n wrth-hiliol.”

Diben

“Cydweithio i wneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru.”

Gwerthoedd

“Bod yn agored ac yn dryloyw, rhoi profiad bywyd wrth wraidd popeth a wneir a bod yn seiliedig ar hawliau.”

Tynnodd y cynllun datblygu sylw at broblem a welir ym mhob sector, sef diffyg ymddiriedaeth yn y gwaith o gefnogi neu alluogi camau gweithredu ynghylch cydraddoldeb hil. Mae ‘bwlch gweithredu’ hefyd, lle mae gwaith a chynlluniau a wnaed gyda bwriadau da yn methu â chyflawni yn erbyn yr amcanion a nodwyd. Er mwyn i’r Cynllun Cymru Wrth-hiliol wireddu’r weledigaeth a’r diben a nodwyd ganddo, bydd angen gwneud gwaith cyson i ennyn a chynnal ymddiriedaeth unigolion, grwpiau a chymunedau ethnig lleiafrifol a sicrhau bod gwaith yn canolbwyntio’n barhaus ar weithredu.

Bydd Grŵp Cefnogi a Herio Mewnol Cynllun Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru (“y Grŵp”) yn gweithio’n rhagweithiol, ac ar y cyd â’r Grŵp Atebolrwydd, yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil a rhanddeiliaid mewnol eraill, a gyda fforymau rhanbarthol ar gyfer hil a grwpiau gwarchodedig eraill.

Bydd yn sicrhau bod y gwaith a wneir ganddo yn gyson â meysydd a pholisïau eraill Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â chydraddoldeb, ac yn cyd-fynd â nhw. Gweler atodiad 5 ar gyfer rôl a chylch gwaith Grŵp Atebolrwydd Llywodraeth Cymru.

Diben

Diben cyffredinol y Grŵp fydd sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni a chynnydd yn cael ei wneud tuag at ddiben y cynllun mewn modd amserol, ar gyfer y camau gweithredu hynny sydd o dan reolaeth neu ddylanwad Llywodraeth Cymru, gan gynnwys drwy gyllido.

Bydd y Grŵp hefyd yn gweithredu fel man canolog ar gyfer llywodraethu unrhyw waith sy’n ymwneud â hil yn Llywodraeth Cymru, ac yn sicrhau bod gwaith yn gydlynol pan gaiff ei ddatblygu a phan gaiff ei gyflawni. Bydd hefyd yn sicrhau bod y gwaith a wneir yn cydymffurfio â deddfwriaeth Cydraddoldebau. Bydd y Grŵp yn adrodd i’r Grŵp Atebolrwydd ar i ba raddau y mae cynnydd yn cael ei wneud ar y camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddynt, ac yn cynnig unrhyw flaenoriaethau newydd iddo. Bydd cylch gwaith y Grŵp yn cynnwys y canlynol:

  • llunio adroddiadau’n amlinellu cynnydd ar gyfer meysydd polisi/effaith i’r Grŵp Atebolrwydd
  • cefnogi Gweinidogion yn eu hadroddiadau i’r Grŵp Atebolrwydd a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am gynnydd
  • adeiladu capasiti a gallu o ran ymarfer gwrth-hiliol yn y Grŵp a rhannu’r capasiti a’r gallu hwnnw â Llywodraeth Cymru
  • herio a chefnogi cyd-weithwyr i gynyddu effaith y cynllun a chefnogi gwaith cydlynol
  • rhannu arferion da a heriau yn y Grŵp
  • ymgymryd â materion trawsbynciol a nodwyd yn y cynllun ac yn ehangach
  • nodi’r polisïau allweddol newydd sydd eu hangen a helpu i gyd-gynllunio unrhyw bolisïau o’r fath
  • gwahodd sefydliadau, gan gynnwys Comisiynwyr, rheoleiddwyr a chyrff arolygu ac archwilio i drafod materion sy’n rhan o’u meysydd dylanwad
  • cefnogi Grwpiau Gorchwyl a Gorffen a sefydlir gan y Grŵp Atebolrwydd pan fydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt
  • sicrhau dull croestoriadol o ymgymryd â’r holl waith polisi

Ffyrdd o weithio

Dylai’r Grŵp Cefnogi a Herio Mewnol a’r Grŵp Atebolrwydd gyd-fynd â’i gilydd a chefnogi ei gilydd, dan arweiniad gwerthoedd y cynllun. Bydd hyn yn golygu herio gyda lefel uchel o gymorth, gan sicrhau bod profiadau bywyd pobl ethnig leiafrifol yn llywio cynnydd bob amser, bod y Grŵp yn gweithio mewn modd tryloyw ac agored bob amser, a bod y dull a ddefnyddir yn seiliedig ar hawliau ac yn wrth-hiliol.

Bydd y Grŵp yn sicrhau trafodaethau rhagweithiol â grwpiau ehangach o randdeiliad ethnig lleiafrifol a rhanddeiliaid eraill ledled Cymru.

Caiff y Grŵp ei gefnogi gan yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil, a lle y bo angen, yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb ehangach i ddarparu data meintiol ac ansoddol.

Aelodaeth

  • Cadeirydd: Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi.
  • Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Gymunedau.
  • Pennaeth Tîm Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
  • Pennaeth Polisi Hil, Ffydd a Sipsiwn a Theithwyr .
  • Pennaeth yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil.
  • Pennaeth Cydlyniant Cymunedol.
  • Cynrychiolydd o Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS).
  • Arweinwyr Polisi sy’n arwain ar y meysydd polisi canlynol:
    • Iechyd
    • Iechyd Meddwl
    • Gofal Cymdeithasol
    • Addysg (Ysgolion)
    • Addysg (Cyfathrebu)
    • Addysg (Addysg Uwch)
    • Addysg (Addysg Bellach)
    • Addysg (Addysg Oedolion a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill)
    • Cyflogadwyedd a Sgiliau
    • Prentisiaethau
    • Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru
    • Penodiadau Cyhoeddus
    • Llywodraeth Leol
    • Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon
    • Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
    • Entrepreneuriaeth (a Busnes)
    • Tai a Llety
    • Trosedd a Chyfiawnder
    • Yr Amgylchedd
    • Y Gymraeg
    • Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar
    • Arolygu Gofal Plant
    • Newid Hinsawdd
    • Materion Gwledig
    • Plant a Theuluoedd

Gellir ychwanegu eraill wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau gweithredu.

Recriwtio 7 arbenigwr ar sail profiad ac arbenigedd ar wrth-hiliaeth

Caiff saith arbenigwr eu recriwtio mewn modd agored a thryloyw ar sail profiad bywyd, gydag arbenigedd ym maes gweithredu polisïau gwrth-hiliol, sy’n gysylltiedig â meysydd ffocws y cynllun ar gyfer gweithredu.

Bydd yr arbenigwyr hyn yn gwasanaethu am gyfnod o ddwy flynedd.

Cânt eu talu, a byddwn yn eu recriwtio mewn modd agored a thryloyw. Bydd y saith arbenigwr hefyd yn aelodau o’r Grŵp Atebolrwydd.

Yr ysgrifenyddiaeth

Bydd aelod o’r Tîm Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cydgysylltu â’r Cadeirydd yn rheolaidd. Y Tîm Gweithredu fydd yn darparu’r ysgrifenyddiaeth.

Yr aelodau a’r Cadeirydd fydd yn pennu eitemau agendâu ac yn arwain arnynt. Rhagwelir y caiff yr agenda ei phennu drwy gyd-weithio’n agos gyda’r Grŵp Atebolrwydd.

Amserlen cyfarfodydd

Bydd y Grŵp yn cyfarfod bob mis.

Adrodd

Bydd y Grŵp yn adrodd i’r Ysgrifennydd Parhaol neu ddirprwy a enwebir.

Atodiad 7: cyfeirnodau

 

Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru: Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar Gyfer Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru (2020-2023)

Bowen, P (2017). Building Trust: how our courts can improve the criminal court experience for Black, Asian and Minority Ethnic defendants. London: Centre for Justice Innovation.

Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (2021). Gwella Cydraddoldeb Hiliol yng Nghymru.

Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (2021b). Gwella Cydraddoldeb Hiliol ym maes Trosedd a Chyfiawnder. Coleg Prifysgol Llundain (2020). BAME millennials at greater risk of being in unstable employment.

Crenshaw K (1989). Demarginalizing the Intersection of Race and Sex: A Black Feminist Critique of Antidiscrimination Doctrine, Feminist Theory and Antiracist Politics, University of Chicago Legal Forum: Cyf. 1989: Rhif. 1, Erthygl 8.

Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (2005). Hate Crime: Delivering a Quality Service. Good Practice and Tactical Guidance. Cyngor y Gweithlu Addysg (2021). Ystadegau’r gweithlu addysg.

Cynghrair Hil Cymru (2020). Ein Maniffesto dros Gymru Wrth-hiliol. Chwaraeon Cymru (2018). Arolwg ar Chwaraeon Ysgol: Cyflwr y Genedl 2018.

Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth (2020). Hiliaeth yng Nghymru? Archwilio rhagfarn yn y system addysg yng Nghymru.

Draper ES, Gallimore ID, Smith LK, Fenton AC, Kurinczuk JJ, Smith PW, Boby T, Manktelow BN, ar ran MBRRACE-UK Collaboration (2021). MBRRACE-UK Perinatal Mortality Surveillance Report, UK Perinatal Deaths for Births from January to December 2019.

Grŵp cynghori’r Prif Weinidog ar COVID-19 a Phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (2021). Adroddiad Cryno.

Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru (2021). Y Fasnach mewn Caethweision a’r Ymerodraeth Brydeinig: archwiliad o goffáu yng Nghymru. Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd (2021). Adroddiad terfynol.

Gweithredu Nid Geiriau: Adduned i Ddod Ag Anghydraddoldeb Hiliol i Ben Ym Maes Tai.

Knight M, Bunch K, Tuffnell D, Patel R, Shakespeare J, Kotnis R, Kenyon S, Kurinczuk JJ (goln) ar ran MBRRACE-UK (2021). Saving Lives, Improving Mothers’ Care - Lessons learned to inform maternity care from the UK and Ireland Confidential Enquiries into Maternal Deaths and Morbidity 2017-19.

Lammy (2017). The Lammy Review: An independent review into the treatment of, and outcomes for, Black, Asian and Minority Ethnic individuals in the Criminal Justice System. Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin (2021). Ethnic diversity in politics and public life.

Llywodraeth Cymru (2018). Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol: 2017.

Llywodraeth Cymru (2020a). Dadansoddiad o nodweddion gwarchodedig yn ôl amddifadedd ardal: 2017 i 2019.

Llywodraeth Cymru (2020b). Coronafeirws (COVID-19) a’r boblogaeth pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru (2021a). Astudiaeth ansoddol o gredoau, ymddygiadau a rhwystrau sy’n effeithio penderfyniadau rhieni o ran gofal plant ac addysg gynnar. Llywodraeth Cymru (2021b). Gwaharddiadau parhaol a chyfnod penodol o ysgolion: Medi 2019 i Awst 2020.

Llywodraeth Cymru (2021c). Tlodi incwm cymharol: Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Llywodraeth Cymru (2021d). Canlyniadau’r cyfrifiad ysgolion: Ebrill 2021.

Llywodraeth Cymru (2021e). Strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu: 2021 i 2026. Llywodraeth Cymru (2022a). Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Llywodraeth Cymru (2022b). Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19): Awst 2020 i Orffennaf 2021. Llywodraeth y DU (2020a). Ethnicity Facts and Figures: Arrests.

Llywodraeth y DU (2020b). Ethnicity Facts and Figures: Leadership of small and medium enterprises. Llywodraeth y DU (2021). Ethnicity Facts and Figures: Stop and Search.

Llywodraeth y DU (2021b). Police recorded crime and outcomes open data tables. Llywodraeth y DU (2022). Ethnicity Facts and Figures. Adult social care – long term support. Llywodraeth y DU (2022). How many people do we grant asylum or protection to?

Macpherson (1999). The Stephen Lawrence Enquiry.

O’Prey L, Parkinson A, Usher S, Grunhut S, Powell D, Burgess A, ar ran Wavehill (2021). Dadansoddiad o’r ymgysylltu â’r gymuned.

Prif Swyddog Meddygol Cymru (2021). Adroddiad Arbennig. Diogelu ein Hiechyd: Ein hymateb yng Nghymru i gyfnod cyntaf COVID-19. Runnymede (2017). Minority Report: Race and Class in post-Brexit Britain.

StatsCymru (2021). Plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol ac ethnigrwydd.

StatsCymru (2022a). Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd fesul chwarter, blwyddyn ac ethnigrwydd. StatsCymru (2022b). Ethnigrwydd yn ôl ardal a grŵp ethnig.

StatsCymru (2022c). Crynodeb o weithgarwch economaidd yng Nghymru yn ôl blwyddyn ar ethnigrwydd. Stonewall.

Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus (2019). Adroddiad Blynyddol 2018 i 2019. Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus (2020). Adroddiad Blynyddol 2019 i 2020. Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus (2021). Adroddiad Blynyddol 2020 i 2021.

The Traveller Movement (2017). The pervasive discrimination and prejudice experienced by Gypsy, Roma and Traveller communities.

Wiegand G, a Cifuentes R (2019). Experiences of Belonging & Living in Wales: Findings from the All Wales Survey for Ethnic Minority People, 2018. Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru.

Williams M, a Tregidga J (2013). All Wales Hate Crime Research Project: Research Overview & Executive Summary. Race Equality First. Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2018). Ydy Cymru’n Decach? Cyflwr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2018.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2019). Tackling racial harassment: Universities challenged.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2020). Rebuilding a more equal and fairer Wales: ELGC Committee response. Yr Adran Addysg (2021). Survey of Childcare and Early Year Providers: Main Summary, England, 2021.

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2020a). Deaths involving the coronavirus (COVID-19) among health and social care workers in England and Wales, deaths registered between 9 March and 12 October 2020.

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2020b). Ethnicity pay gaps: 2019.

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2021). Coronavirus (COVID-19) related deaths by occupation, England and Wales: deaths registered between 9 March and 28 December 2020.

Cynlluniau Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru

Drws ar Glo: datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19.

Drws ar Glo: datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19: ymateb Llywodraeth Cymru.

Cynllun Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Gweithredu ar Anabledd: hawl i fyw’n annibynnol: fframwaith a chynllun gweithredu.

Hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau: cynllun gweithredu.

Cynllun ffoaduriaid a cheiswyr lloches (cenedl noddfa).

Cynllun gweithredu LHDTC+.