Ar ôl cryn ymdrechion i gyd-lunio cynllun gweithredu, ymgynghorwyd yn ffurfiol ar Gynllun Gweithredu drafft rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2021. Cawsom dros 300 o ymatebion. Hoffem ddiolch i’r holl unigolion, grwpiau a sefydliadau hyn a gyfrannodd a’u hanrhydeddu, yn benodol y bobl niferus a gymerodd y cam anodd o rannu eu profiadau poenus eu hunain o hiliaeth ddofn, a’r effaith y mae hyn wedi’i chael.
Hoffem hefyd ddiolch i’r unigolion a’r sefydliadau hynny a arweiniodd y ddeialog a’r drafodaeth ar ein rhan. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Race Equality First, a aeth yr ail filltir ac a ddadansoddodd bob ymateb ar ein rhan. Rydym yn cyflwyno cymaint o’r adroddiad llawn ag y gallwn er mwyn gwneud pob cyfiawnder ag ef ac fel cofnod o gryfder y pryderon a fynegwyd a’r cyfraniadau a wnaed.
Isod, rydym yn crynhoi’r negeseuon allweddol o’r ymgynghoriad a sut mae’r rhain wedi cael eu hystyried yn y fersiwn derfynol hon o’r cynllun.
Terminoleg
Gwnaed llawer o sylwadau gwahanol am y term 'Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol' a ddefnyddiwyd yn yr ymgynghoriad drafft a’r fersiwn fer ‘pobl neu gymunedau ethnig leiafrifol’. Roedd yr adborth gan Sipsiwn a Theithwyr yn gryfach fyth – roeddent yn teimlo nad oedd y term yn berthnasol iddynt nac yn eu cynnwys. Mae hunaniaeth yn rhywbeth hynod bersonol ac nid grŵp homogenaidd yw’r bobl sy’n wynebu hiliaeth. Yn hytrach, maent yn cynnwys amrywiaeth eang o grwpiau diwylliannol ac ethnig gwahanol sydd â safleoedd gwahanol iawn mewn cymdeithas ym Mhrydain. Roedd yn amlwg o’r ymateb mai’r hyn a ffafriwyd oedd y dylid bod mor benodol â phosibl a chyfeirio at bobl yn y ffordd y byddent yn dymuno i eraill gyfeirio atynt.
Weithiau bydd angen cyfeirio at y profiad cyfun o hiliaeth. Yn ôl y disgwyl, nid arweiniodd yr ymgynghoriad at nodi unrhyw derm penodol a oedd yn amlwg yn cael ei ffafrio yn lle termau eraill. Ar ôl trafodaeth bellach â Grŵp Llywio’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, cytunwyd i gadw’r term ‘Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol’ ynghyd â ‘lleiafrifoedd ethnig’ fel fersiwn fer. Un pwynt allweddol a godwyd oedd y dylid sicrhau ein bod yn defnyddio ‘pobl’ yn hytrach na ‘cymunedau’ lle bynnag y bo modd, a hynny er mwyn pwysleisio dynoliaeth y rhai sydd wedi cael profiad o hiliaeth ac sydd wedi cael eu lleiafrifoli. Yn aml, maent yn fwyafrif yn fyd-eang.
Mae’n bwysig nodi hefyd, wrth drafod hiliaeth yn erbyn grŵp o bobl fel grŵp cyfun, y gall y termau hyn fod yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, yn y gweithle neu mewn gwasanaeth, mae’n bwysig rhoi cyfle i bobl fynegi eu hunaniaeth yn y ffordd a ddymunant.
Cawsom ein herio hefyd, a hynny’n gwbl gyfiawn, am ddiffyg eglurder a chynrychiolaeth o ran profiadau pobl Iddewig a phobl â ffydd Islamaidd mewn grwpiau sy’n profi hiliaeth. Rydym am bwysleisio, wrth fynd i’r afael â hiliaeth, ein bod yn cynnwys y grwpiau hyn a’r hiliaeth a brofir ganddynt.
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu diffiniad gweithio Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost o wrthsemitiaeth:
“Math o ganfyddiad o Iddewon, a all gael ei gyfleu fel casineb tuag at Iddewon, yw gwrthsemitiaeth. Amlygir gwrthsemitiaeth drwy iaith a gweithredoedd corfforol sydd wedi’u hanelu at Iddewon neu unigolion nad ydynt yn Iddewon a/neu eu heiddo; ac at sefydliadau cymunedol a chyfleusterau crefyddol Iddewig.”
Ychwanegwn ei bod yn well gennym ddweud “pobl Iddewig”.
Mae’r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Fwslimiaid Prydeinig ac Ymddiriedolaeth Runneymede ill dau yn diffinio Islamoffobia yn nhermau hiliaeth tuag at Fwslimiaid, gan dynnu sylw at y ffordd y mae Mwslimiaid ar y cyd wedi cael eu hileiddio drwy eu hunaniaethau crefyddol. Mae’n bwysig ac felly’n hanfodol bod yr achosion o ragfarn, gwahaniaethu, culni, ac anghydraddoldeb y mae Mwslimiaid yn eu hwynebu yn cael eu hystyried wrth inni fynd i’r afael â chydraddoldeb hil yma yng Nghymru. Nid yw hyn yn golygu tanseilio pwysigrwydd hunaniaeth grefyddol Mwslimiaid ond, yn hytrach, mae’n cydnabod y ffordd y mae hiliaeth yn effeithio ar gymunedau gwahanol mewn ffyrdd gwahanol.
Cafwyd sylwadau hefyd ynglŷn â’r term ‘profiad bywyd’. Nododd rhai fod eu profiadau bywyd yn cynnwys mwy na’r hyn y byddai unigolion yn ei gynnig – roeddent hefyd yn cynnig arbenigedd proffesiynol; er enghraifft, fel gweithwyr iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol, athrawon neu academyddion. Y term a ffafriwyd oedd ‘arbenigwyr drwy brofiad bywyd.’
Gweledigaeth, diben a gwerthoedd
Rydym wedi gweithio’n unol â’r arferion da a’r momentwm a gynigir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r pum ffordd o weithio fel rhan greiddiol o’r gwaith hwn. Nod y Ddeddf yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru nawr ac yn y dyfodol.
Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am yr hirdymor, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a gyda’i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig.
Dim ond os awn ati i weithio tuag at gydraddoldeb o ran llesiant i bawb yng Nghymru nawr, ac yn y dyfodol, y gellir gwireddu bwriadau’r Ddeddf. Mae mynd i’r afael â hiliaeth a’r gwahaniaethau y mae wedi’u hachosi ac sy’n parhau i fodoli yn hanfodol i ddiben y Ddeddf. Mae’n rhaid bod gwrth-hiliaeth yn ganolog i’r ffordd y rhoddir y Ddeddf ar waith – fel arall, mae perygl y bydd yr anghyfiawnder a welir ar hyn o bryd yn parhau.
Adlewyrchir y diben hwn yn y Nod Llesiant penodol canlynol: “Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)”. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r nodau gael eu hystyried gyda’i gilydd ac ni ellir cyflawni’r un ohonynt heb drawsnewid llesiant pobl ethnig leiafrifol sy’n byw heddiw a chenedlaethau sydd i ddod.
Wrth ddatblygu gweledigaeth, gwerthoedd a diben y gwaith hwn mewn ffordd a oedd yn cael ei harwain a’i chymeradwyo gan gymunedau ethnig lleiafrifol, gwnaethom ymgorffori’r egwyddorion datblygu cynaliadwy yn ymwneud â’r hirdymor, atal, integreiddio a chydweithio fel rhan ganolog o’r gwaith hwn.
Gweledigaeth, diben, gwerthoedd a nodau’r cynllun hwn, fel y’u nodwyd yn yr ymgynghoriad drafft oedd:
Gweledigaeth
Cymru fel gwlad wrth-hiliol.
Diben
Ar y cyd, gwneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Gwerthoedd
Bod yn agored ac yn dryloyw, gan roi profiadau bywyd pobl wrth wraidd y gwaith a wnawn, a mabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau.
Croesawyd y weledigaeth, y diben a’r gwerthoedd yn gyffredinol yn yr ymatebion. O ran amserlenni, roedd rhai’n teimlo ei bod yn rhy uchelgeisiol cyflawni diben y cynllun o fewn deng mlynedd, oherwydd maint y newidiadau diwylliannol ac ymddygiadol sydd eu hangen. Roedd llawer hefyd yn cwestiynu ble y byddai’r camau gweithredu yn y papur ymgynghori yn gwireddu’r weledigaeth hon.
Roeddem yn cytuno. Mae hiliaeth wedi bod yn rhywbeth systemig a sefydliadol ers cenedlaethau, felly bydd yn cymryd cryn amser i newid. Efallai y bydd yn cymryd mwy na deng mlynedd i wireddu’r weledigaeth, ond mae angen inni gael darlun o’r hyn y gellir ei gyflawni er mwyn symud ymlaen, ac rydym am wneud cynnydd mor gyflym â phosibl. Ein diben yw gwneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar y cyd. Mae’n rhaid i hyn ddigwydd drwy ymdrechion ar y cyd gan y llywodraeth, y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat. Felly rydym wedi diwygio’r diben i gynnwys yr ymadrodd “ar y cyd”.
At ddibenion monitro newid, rydym wedi ymateb i’r sylwadau ynglŷn â’r nifer mawr o ddatganiadau yn y cynllun drafft ar y dyfodol a ragwelir erbyn 2030 os byddwn yn symud tuag at fod yn genedl wrth-hiliol, ac wedi eu diwygio a’u crynhoi. Rydym yn eu rhestru yn yr adran “Sut y byddwn yn cyflawni’r cynllun hwn”, ac yn esbonio sut y byddwn yn defnyddio’r deunydd hwn i fesur newid dros amser.
Nodau
Yn ein hymgynghoriad drafft amlinellwyd Gweledigaeth, Diben, Gwerthoedd a Nodau fel uchod ac erys y rhain yn ddigyfnewid.
Yn y cynllun terfynol hwn, rydym wedi diwygio’r Nodau, fel isod.
Tynnwyd yr elfen drawsbynciol a’r camau gweithredu ar yr Amgylchedd. Mae’r elfennau trawsbynciol bellach wedi’u hadlewyrchu yn ein hadran ar Arweinyddiaeth yn Llywodraeth Cymru ac mewn perthynas â’r adran ar wasanaethau cyhoeddus, a bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar yr adran ar yr Amgylchedd. Rydym yn ymrwymedig i gynnwys camau gweithredu ar Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd yn y misoedd nesaf.
Rhown esboniadau ar bob un o feysydd y Nodau yn Adran B.
Nodau a Chamau Gweithredu
Roedd rhai ymatebwyr yn pryderu ein bod yn ceisio cyflawni gormod a/neu nad oeddem yn blaenoriaethu’r pethau cywir er mwyn mynd i’r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol. Roedd eraill yn teimlo bod maint a graddfa’r cynllun drafft (64 o Nodau a 340 o Gamau Gweithredu) yn golygu bod perygl y byddai effaith, a dealltwriaeth gyffredinol, yn cael eu colli. Rydym wedi myfyrio ar hyn ac wedi canolbwyntio ar y camau gweithredu terfynol i fynd i’r afael â hiliaeth sefydliadol.
Teimlai eraill nad oedd y Nodau na’r Camau Gweithredu drafft yn ddigon ‘CAMPUS’ h.y. cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol. Yn y papur ymgynghori, rhestrwyd y nodau a’r camau gweithredu fel rhai ‘tymor byr’, ‘tymor canolig’ a ‘hirdymor’. Gwnaed hyn yn rhannol er mwyn gweld yr awydd am gamau gweithredu penodol ond teimlai ymatebwyr fod y termau hyn yn rhy amhenodol. Ers y cyfnod ymgynghori rydym wedi gweithio gydag arweinwyr polisi i fireinio’r camau gweithredu a nodi canlyniadau ac amserlenni cliriach. Rydym hefyd wedi cysylltu’r cyfrifoldeb am bob cam gweithredu â rhan a enwyd o’r sefydliad.
Dim ond camau gweithredu sydd i’w cymryd rhwng mis Mehefin 2022 a mis Mehefin 2024 y mae’r cynllun diwygiedig hwn yn ymdrin â nhw. Byddwn yn dysgu o’r gwaith a wnawn yn ystod y cyfnod hwn ac yn datblygu nodau a chamau gweithredu diwygiedig ar gyfer y cyfnod dilynol.
Teimlai eraill fod y ddogfen yn cynnwys gormod o jargon a thermau polisi. Roeddent yn teimlo nad oeddem yn esbonio’r newidiadau yr oeddem am eu gwneud mewn ffordd ddigon syml. Felly, rydym wedi ceisio symleiddio pethau, drwy ganolbwyntio ar y newidiadau rydym am eu gwneud ar y cyd i brofiadau pobl o hiliaeth mewn chwe agwedd wahanol ar eu bywydau:
Eu profiad o hiliaeth yn eu bywyd pob dydd:
- Eu profiad o hiliaeth wrth ddefnyddio gwasanaethau.
- Eu profiad o fod yn rhan o’r gweithle.
- Eu profiad o gael swyddi a chyfleoedd.
- Eu profiad pan nad oes ganddynt fodelau rôl gweladwy mewn swyddi dylanwadol.
- Eu profiad o hiliaeth fel ffoaduriaid neu geiswyr lloches.
Mae swyddogion polisi wedi defnyddio’r penawdau hyn i lywio eu cynlluniau gweithredu. Yn ein Cyflwyniad i’r Cynllun Cymru Wrth-hiliol rydym yn rhannu rhai enghreifftiau o’r ffordd rydym yn mynd i’r afael a phrofiadau gwahanol pobl mewn meysydd polisi gwahanol.
Gwahaniaethu lluosog/‘croestoriadedd’
Mynegwyd rhai pryderon ein bod yn canolbwyntio ar un grŵp gwarchodedig yn unig, a bod hyn yn gorsymleiddio’r ffyrdd gwahanol y mae hiliaeth yn gweithio i effeithio ar fenywod ethnig lleiafrifol, plant, pobl hŷn, pobl anabl, a grwpiau gwarchodedig eraill. Nododd llawer nad oedd ymwybyddiaeth o’r ffordd y mae’r gwahanol nodweddion hyn yn cydadweithio â’i gilydd, i greu mwy o wahaniaethau, yn ddigon amlwg yn y cynllun drafft.
Bathodd Kimberlé Crenshaw, ffeminyddes ddu, y term ‘intersectionality’ i ddisgrifio effaith gyfun sawl math o orthrwm, a’r ffordd y maent yn cydadweithio ac yn cydgysylltu â’i gilydd (Crenshaw K, 1989).
Rydym yn cydnabod bod menywod ethnig lleiafrifol, er enghraifft, yn ysgwyddo baich trymach yn eu profiad o hiliaeth, er enghraifft drwy eu profiad uniongyrchol o wasanaethau mamolaeth, neu wrth arwain y broses o ymgysylltu ag ysgolion neu wasanaethau cymdeithasol ar ran eu perthnasau hŷn a’u teuluoedd. Rydym hefyd yn cydnabod bod dynion ethnig lleiafrifol ifanc, er enghraifft, yn fwy tebygol o gael eu stopio a’u chwilio gan yr heddlu na grwpiau eraill. Yn yr un modd, mae’r systemau a’r prosesau sy’n effeithio ar ffoaduriaid a gweithwyr mudol yn wahanol iawn i’r rhai sy’n effeithio ar bobl ethnig leiafrifol sydd â hawl barhaol i fyw ym Mhrydain.
Mae amgylchiadau economaidd-gymdeithasol neu ‘ddosbarth’ yn chwarae rôl ychwanegol o ran cadw pobl ethnig leiafrifol dan orthrwm. Mae pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru dros ddwywaith yn fwy tebygol na phobl Wyn o fyw yn y 10 y cant o rannau mwyaf difreintiedig yng Nghymru (20.6 y cant o bobl ethnig leiafrifol o gymharu ag 8.3 y cant o bobl Wyn). Pobl ddu sydd fwyaf tebygol o fyw yn y 10 y cant o rannau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gyda 35 y cant o holl bobl Ddu Cymru yn byw yn yr ardaloedd hyn. Mae mwy nag 1 o bob 10 o bobl sy’n byw yn y 10 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn dod o grwpiau ethnig lleiafrifol, er eu bod ond yn cyfrif am 5 y cant o gyfanswm poblogaeth Cymru (Llywodraeth Cymru, 2020).
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi ceisio gwella profiad pobl â nodweddion gwarchodedig penodol drwy gyfres o gynlluniau gweithredol. Mae’r rhain yn cynnwys y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb rhwng y rhywiau, Cenedl Noddfa: cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, y Cynllun Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr a’r Cynllun Hawl i Fyw’n Annibynnol. Mae cynlluniau eraill wrthi’n cael eu datblygu hefyd, gan gynnwys y Cynllun LHDTC+, a gwaith gan y Tasglu Hawliau Pobl Anabl mewn ymateb i’r adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19. Gweler Atodiad 7 am ddolenni i’r cynlluniau hyn.
Mae’r cynlluniau hyn yn ystyried profiadau cymhleth a heriol ac yn nodi cyfres o gamau gweithredu i liniaru’r effeithiau negyddol posibl sy’n gysylltiedig â nhw. Mae’n bwysig nad yw’r nodweddion hyn yn cael eu hystyried ar wahân i’w gilydd. Mae’n rhaid ystyried sut mae nodwedd warchodedig yn rhyngweithio â ffactorau eraill, megis rhyw, rhywioldeb, anabledd, oedran, ffydd, statws economaidd-gymdeithasol neu ddosbarth. Ni all un math o wahaniaethu gael ei ddeall ar wahân i un arall, ac ni ddylai ychwaith.
Mae llawer o’r themâu yn y cynllun hwn hefyd yn codi mewn cynlluniau eraill am eu bod yn berthnasol i’r profiad o nodweddion gwarchodedig cyfun. Rydym yn cydnabod nad yw’r camau gweithredu na’r nodau yn y cynllun hwn sydd wedi’u hanelu at fynd i’r afael â phrofiad pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru bob amser yn ymdrin â hil neu ethnigrwydd ar ei ben ei hun. Yn aml, maent yn ymdrin â’r profiad o nodweddion croestoriadol.
Bydd pŵer y cynllun hwn (a chynlluniau eraill) yn dibynnu ar y ffordd rydym yn ei roi/eu rhoi ar waith. Bydd dull gweithredu croestoriadol yn hollbwysig. Felly, bydd y Grŵp Atebolrwydd yn ystyried ac yn defnyddio arbenigedd o amrywiaeth o nodweddion gwarchodedig, er mwyn sicrhau y caiff effeithiau cyfun eu hystyried, wrth i’r cynllun gael ei roi ar waith. Bydd fframweithiau llywodraethu ar gyfer yr holl gynlluniau cydraddoldeb eraill hefyd yn cael eu haddasu at yr un diben, a bydd systemau adrodd yn cael eu nodi a’u rhoi ar waith.
Mesur a monitro newid
Mesurau a dangosyddion: Nid oedd y papur ymgynghori’n cynnwys dangosyddion perfformiad penodol am ein bod yn ceisio mesur y gefnogaeth i’r camau gweithredu penodol cyn cadarnhau manylion. Felly, roedd ymatebwyr yn pryderu nad oeddem yn dryloyw ynglŷn â sut y byddem yn monitro newid, naill ai’n feintiol (gyda niferoedd ac ystadegau) neu’n ansoddol (e.e. drwy gyfweliadau, neu hanesion pobl am eu profiadau bywyd).
Cydymffurfiaeth â’r ddeddf cydraddoldeb
Awgrymodd yr ymatebion i’r ymgynghoriad fod y methiant i leihau hiliaeth yn deillio, yn rhannol, o fethiant y llywodraeth a sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i gydymffurfio’n llawn â’u dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Awgrymwyd bod angen cyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn llawn, ac y dylai’r pwerau o dan y Ddeddf ddod yn ganolog i’r broses o roi’r cynllun hwn ar waith. Rydym yn cytuno. Byddwn yn sicrhau ein bod yn dwyn ein hunain, a’r rhai a ariennir gennym, i gyfrif am gyflawni’r Ddyletswydd hon.
Er mwyn helpu yn hyn o beth, rydym wedi nodi cyfres o bum cam gweithredu craidd i bob corff cyhoeddus eu cymryd, sy’n uniongyrchol gysylltiedig â darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010. Bydd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil newydd ei sefydlu yn olrhain cynnydd o ran hyn. Esbonnir y pum cam gweithredu craidd hyn yn llawnach yn yr adran ar Arweinyddiaeth yn Llywodraeth Cymru a’r adran ar y sector cyhoeddus.
Adnoddau
Un pryder penodol i lawer o’r ymgyngoreion oedd a fyddai’r cynllun hwn yn cael ei ategu gan adnoddau priodol. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu’r adnoddau y mae’n eu rhoi i (a) y timau a fydd yn cydlynu ac yn monitro’r cynllun, (b) yr arweinwyr polisi perthnasol, ac (c) ar gyfer y gwaith gyda rhanddeiliaid allanol a chymunedau.
Mae Gweinidogion gwahanol, ar draws yr holl bortffolios, wedi ymrwymo i ddarparu lefel briodol o adnoddau yn Llywodraeth Cymru i gyflawni’r nodau a chymryd y camau gweithredu yn y cynllun hwn. Mae cyllid wedi cael ei neilltuo o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru i gefnogi hyn.
Wrth ddatblygu camau gweithredu manwl mewn meysydd polisi gwahanol, nodwyd a chytunwyd ar yr adnoddau sydd eu hangen i’w cyflawni. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo cyllid i gefnogi tîm gweithredu canolog i oruchwylio’r cynllun gweithredu, sefydlu’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil, a chefnogi gwaith y Grŵp Atebolrwydd Allanol. Hefyd, rydym yn nodi’n glir iawn sut y byddwn yn defnyddio ein cyllidebau ehangach a’n cyllidebau gwariant a chyllidebau rhaglenni i sbarduno camau gwrth-hiliol.
Bydd y ‘Tîm Gweithredu Cymru Wrth-hiliol’ yn arwain y gwaith o ddatblygu, gweithredu a monitro’r nodau a’r camau gweithredu. Byddwn hefyd yn adolygu’r meini prawf a’r blaenoriaethau ar gyfer ein grantiau Cydraddoldeb a Chynhwysiant, gyda’r nod o gynnal gwell deialog â chymunedau ethnig lleiafrifol ledled Cymru.
Yr her o ran arweinyddiaeth
Codwyd pryder y byddai rhoi’r cyfrifoldeb am hyrwyddo gwrth-hiliaeth i ‘hyrwyddwr’ mewn sefydliad o bosibl yn mynd yn groes i’r nod, drwy annog arweinwyr eraill i osgoi gweithredu neu fod yn atebol. Awgrymodd llawer y dylai pob arweinydd hyrwyddo gwrth-hiliaeth.
Credwn mai’r her o ran arweinyddiaeth sy’n ymdreiddio i bob nod a cham gweithredu yw datgelu’r systemau a’r prosesau sy’n cael effaith negyddol ar bobl ethnig leiafrifol, a gwneud rhywbeth gweithredol, beiddgar a gwahanol i fynd i’r afael â’r rhain. Mae angen i arweinwyr fyfyrio, a mynd i’r afael â’r “achos y tu ôl i’r achos.” Dyma’r her y byddwn yn gofyn i arweinwyr ar bob lefel yn ein sefydliad ei deall, ac y byddwn yn eu cefnogi i weithredu arni.
Mae hyn yn gofyn i arweinwyr flaenoriaethu gwrth-hiliaeth, a rhoi neges glir ynglŷn â phwysigrwydd bod yn ddewr ac yn radical, a byw yn unol â’r ymddygiadau hynny eu hunain. Fel ‘cynghreiriaid’, bydd angen iddynt gymryd rhan mewn sgyrsiau anodd sy’n ystyried profiadau bywyd pobl – ac ysgogi newid a’i gynnal. Mae hefyd yn gofyn i arweinwyr nodi’r systemau a’r prosesau hynny sy’n arwain at ganlyniadau negyddol, gwahanol i bobl ethnig leiafrifol, ac i sicrhau bod newidiadau yn digwydd. Mae’n hollbwysig hefyd eu bod yn tynnu sylw at achosion o hiliaeth lle bynnag y byddant yn eu gweld, a’u bod yn ymrwymo i wneud penderfyniadau heb ragfarn.
Byddwn yn galluogi arweinwyr i ddeall bod gwrth-hiliaeth yn golygu bod yn rhaid iddynt wrando, ni waeth pa mor anghysurus yw hynny, a bod yn greadigol ynglŷn ag atebion posibl. Dylent lunio atebion ar y cyd â phobl ethnig leiafrifol, gan mai nhw sy’n meddu ar yr wybodaeth wirioneddol am y newidiadau sydd eu hangen. O ran swyddogion polisi a gweision cyhoeddus eraill, mae ganddynt hwythau wybodaeth am yr adnoddau sy’n bodoli i wneud newidiadau. Mae angen i bawb feddu ar yr wybodaeth hon am fod arweinyddiaeth yn rhan o rôl pawb yn ein barn ni, nid dim ond y rhai mewn uwch-swyddi, er mwyn iddynt fod yn bartneriaid cydradd yn y gwaith o roi atebion newydd ac effeithiol ar waith.
Byddwn hefyd yn gweithio gydag arweinwyr yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r rhai a ariennir gennym yn y sector preifat er mwyn iddynt berchenogi’r cynllun hwn yn ddi-oed. Byddwn yn cynnal sesiynau deialog ond byddwn hefyd, drwy ein gwaith polisi, yn dod i gytundeb â’r rhai sy’n galluogi neu’n rheoleiddio ar ein rhan i ddefnyddio’r dylanwad sydd ganddynt i’w lawn effaith.
Yn olaf ac yn bwysicaf oll, rydym am sicrhau bod y cynllun hwn yn cydnabod cryfderau’r arweinyddiaeth yn y cymunedau ethnig lleiafrifol. Mae arweinwyr ar bob lefel mewn cymdeithas wedi ymladd yn erbyn hiliaeth am genedlaethau lawer ac am flynyddoedd lawer, a hynny heb unrhyw gydnabyddiaeth ac yn aml heb gyfle i fod yn rhan o’r prosesau gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar gymunedau ethnig lleiafrifol a thu hwnt. Mae angen cydnabod eu gwydnwch a’u dycnwch wrth barhau i ymladd yn erbyn hiliaeth, ac mae eu cryfderau a’u dirnadaethau lu o ran sut mae systemau’n gweithio i osgoi cyfrifoldeb a gwahaniaethu yn hollbwysig i’r gwaith hwn ac yn wir i arferion da i bawb.
Mae’r rhain yn cynnwys y cryfderau a welwyd yn yr ymgynghoriad ac ar bob lefel o gymdeithas – cryfder unigolion sydd wedi dioddef trawma hiliaeth ac wedi rhannu eu profiadau bywyd mewn fforymau agored, cryfder grwpiau sy’n lobïo a/neu’n gweithredu ar ran eraill, yn aml yn ddi-dâl, a chryfder sefydliadau sy’n gwrthsefyll hiliaeth ac yn tynnu sylw at hiliaeth. Mae’r arweinyddiaeth hon yn ysgwyddo baich penodol – baich creithiau profiadau hiliol. Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi’r gwaith y maent yn ei wneud, yn cefnogi eu hymdrechion ac yn cydnabod na fyddai’r cynllun hwn wedi bod yn bosibl hebddynt.
Ein hymrwymiad o ran arweinyddiaeth yw y byddwn yn cefnogi ac yn datblygu galluoedd arweinwyr o’r cymunedau ethnig lleiafrifol. Rydym wedi nodi camau gweithredu o dan Arweinyddiaeth yn Llywodraeth Cymru ac yn yr adran ar wasanaethau cyhoeddus.
Rôl y sector preifat
Mynegwyd pryder nad oedd y cynllun yn canolbwyntio ddigon ar y sector preifat, nac ar gamau gweithredu a all ddylanwadu ar y sector preifat. Mae hyn yn codi heriau am nad oes gennym gymaint o ffyrdd uniongyrchol o ysgogi’r sector preifat ag sydd gennym o ran y gwasanaeth cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Byddwn yn anelu at ddefnyddio ein cyllid yn fwy effeithiol gyda’r sector preifat drwy ein grantiau a’n prosesau caffael er mwyn sicrhau bod sefydliadau sy’n cael cyllid gennym yn dangos ymrwymiad i wrth-hiliaeth.
Er mwyn cyflawni uchelgeisiau’r cynllun, bydd angen inni ddefnyddio ein dylanwad a’n gallu i ddarbwyllo fel cyflogwr sy’n esiampl i eraill. Drwy annog y sector cyhoeddus a’r sector preifat i weithio gydag undebau llafur cydnabyddedig mewn partneriaeth gymdeithasol, byddwn yn hyrwyddo prosesau gwneud penderfyniadau cadarnach, a chreu diwylliant gwrth-hiliol.
Mae TUC Cymru yn cynrychioli Undebwyr Llafur ym mhob sector yng Nghymru ac mae’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fynd i’r afael â hiliaeth yn y gweithle. Byddwn yn gweithio gyda TUC Cymru, cyflogwyr a phartneriaid eraill i wella profiadau yn y gwaith a mabwysiadu dulliau gweithredu gwrth-hiliol.
Gwrthwynebiad i’r cynllun gweithredu
Er bod llawer o ymatebion adeiladol gan wasanaethau cyhoeddus, gwelwyd hefyd rywfaint o dystiolaeth o wrthwynebiad i’r cynllun a’i uchelgais. Adlewyrchwyd hyn mewn ymatebion a oedd yn amau bod angen cynllun, o ystyried deddfwriaeth bresennol a chynlluniau gweithredu a strategaethau perthnasol eraill. Codwyd cwestiynau hefyd ynglŷn â’r perthnasedd i wahanol rannau o Gymru, cyllid ac adnoddau ac anesmwythder am y cynigion ynglŷn ag atebolrwydd am newid.
Rydym yn cydnabod, drwy fabwysiadu dull gwrth-hiliol, ein bod yn newid y ffordd rydym yn mynd i’r afael â gwahaniaethau ar sail hil a hiliaeth yng Nghymru yn sylweddol. Cyfyngedig yw’r arbenigedd sydd gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, o ran ymgorffori arferion gwrth-hiliol am gyfnod estynedig. Mae angen inni weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus i roi arweinyddiaeth ar y mater hwn a meithrin gallu.
Fodd bynnag, nid ymddiheurwn am roi ffocws uniongyrchol a chlir iawn ar hil ac ethnigrwydd a’r rheidrwydd i fynd i’r afael â hiliaeth strwythurol a systemig. Mae’r ddadl o blaid newid yn ddiwrthdro. Pe bai newid yn mynd i ddod o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth, y cynlluniau a’r strategaethau sy’n bodoli eisoes, a dulliau gweithredu gwahanol, e.e. amlddiwylliannaeth, cydraddoldeb hil, cynhwysiant ac amrywiaeth ac ati, byddem wedi’i weld eisoes. Nod y cynllun hwn – a’i drefniadau ar gyfer atebolrwydd – yw rhoi ffocws parhaus ar y materion hyn a sicrhau, o leiaf, y cydymffurfir â’r ddeddfwriaeth bresennol.