Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn olrhain a'r cynnydd rydym wedi'i wneud o ran ein cynllun wedi'i ddiweddaru i greu Cymru wrth-hiliol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Arweinyddiaeth

Nodau

Adeiladu data a thystiolaeth gadarn 

  • Cyhoeddwyd Matrics Aeddfedrwydd newydd er mwyn monitro cynnydd tuag at ddod yn sefydliad gwrth-hiliol. Rhannwyd yr adnodd yn eang er mwyn annog sefydliadau eraill i'w fabwysiadu neu ei addasu. Mae'n galluogi Llywodraeth Cymru i ddogfennu newid ac yn rhoi sicrwydd i staff ethnig leiafrifol fod cynllun gwella sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Sbarduno arweinyddiaeth wrth-hiliol

  • Disgwylir i bob uwch-was sifil gael nod o ran perfformiad gwrth-hiliol ac mae canllawiau wedi cael eu darparu ar gyfer pennu'r nodau hyn. Mae'r cam gweithredu hwn yn sicrhau bod staff Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella canlyniadau i bobl ethnig leiafrifol yn eu rolau. Mae timau wedi cynyddu eu cyfleoedd dysgu a datblygu er mwyn cefnogi'r nod hwn yn well.

Gwella cynrychiolaeth a datblygiad

  • Mae adolygiad recriwtio yn mynd rhagddo i ddenu ymgeiswyr amrywiol a'u helpu i ddatblygu eu gyrfa yn Llywodraeth Cymru. Mae sawl gwelliant wedi'i wneud ac mae eu buddion o ran gwella tangynrychiolaeth eisoes yn amlwg.
  • Cyfrannodd Ymgyrch Cymorth Tîm 2024 at ymdrechion Llywodraeth Cymru i wella amrywiaeth ymhlith y gweithlu.
  • Dengys ystadegau ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus duedd gadarnhaol: rhwng 2024 a 2025, roedd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cyfrif am 15% o'r ymgeiswyr a 19% o'r penodeion, o gymharu â 6.2% o boblogaeth Cymru.

Cryfhau trefniadau llywodraethu

  • Mae Adolygiad Llywodraethiant yn mynd rhagddo er mwyn gweithredu ar argymhellion o'r adolygiad o bolisïau Adnoddau Dynol, gan gynnwys sefydlu is-bwyllgor newydd o dan gadeiryddiaeth yr Ysgrifennydd Parhaol. Mae hyn yn cefnogi ymdrechion i ymgorffori cydraddoldeb ac amrywiaeth yn strwythurau llywodraethu Llywodraeth Cymru yn fwy effeithiol.
  • Caiff Rhwydwaith y Staff Ethnig Lleiafrifol ei gefnogi'n weithredol ac mae'n sicrhau bod lleisiau ethnig leiafrifol yn cyfrannu at bolisïau a chamau gweithredu sefydliadol.

Addysg a'r Gymraeg

Nodau

Ysgolion: Gwella profiadau dysgwyr ac athrawon Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn ysgolion

  • Cyflwynir opsiynau ar gyfer rhoi gwybod am bob math o ddigwyddiad hiliol mewn ysgolion i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn yr hydref. Mae'r rhain wedi'u llywio gan brofiadau plant a phobl ifanc o adroddiadau megis rhai Comisiynydd Plant Cymru, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (ESYT) a Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. 
  • Mae swyddogion addysg wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau cydraddoldeb. Eu hamcanion oedd deall arferion presennol yn lleol ac ar lefel ysgol, ystyried sut y gellid rhoi dulliau gweithredu effeithiol ar waith yn gyson a deall pa rwystrau a all fod. 
  • Cyfathrebodd Llywodraeth Cymru â phob awdurdod lleol ar ddechrau tymor yr hydref ynghylch cefnogi disgyblion mewn perthynas â digwyddiadau hiliol y rhoddwyd gwybod amdanynt dros yr haf. 
  • Rydym wedi comisiynu ymchwil i arferion gorau ar gyfer cefnogi dysgwyr amlieithog sy'n siarad Cymraeg a Saesneg fel ieithoedd ychwanegol. Disgwylir i'r adroddiad gael ei gyflwyno ym mis Mai 2026.

Ysgolion: lleihau'r profiad negyddol o hiliaeth drwy leihau'r profiad negyddol o ysgolion gan Sipsiwn, Roma a Theithwyr

  • Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n adolygu telerau ac amodau'r Grant Disgyblion o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol, Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar gyfer 2026 i 2027. Diben hyn yw sicrhau y gall gweithgarwch helpu dysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i gael profiadau cadarnhaol o addysg yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl. 
  • Rydym yn cynnal rhaglen ymgysylltu eang er mwyn adolygu Canllawiau Dathlu a Chyfranogi. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys awdurdodau lleol, ymarferwyr addysg a chynrychiolwyr cymunedol.

Ysgolion: sicrhau llesiant dysgwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

  • Dechreuodd ymgynghoriad ar y canllawiau gwrthfwlio statudol Hawliau, Parch, Cydraddoldeb ym mis Mai 2025 a daeth i ben ym mis Gorffennaf 2025. Bydd yr adolygiad yn atgyfnerthu dulliau o atal achosion o fwlio ac aflonyddu sy'n gysylltiedig â rhagfarn ac ymateb iddynt. Bydd yn ystyried data a rannwyd gan blant a phobl ifanc am eu profiadau. Mae'r ymatebion wedi'u hadolygu a disgwylir i adroddiad cryno gael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2025.

Ysgolion: cymryd camau i sicrhau bod gwaharddiadau’n cael eu defnyddio mewn ffordd nad yw’n cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol.

  • Mae fforwm newydd a lansiwyd yn ystod tymor yr Haf yn cynnwys partneriaid, arbenigwyr ac ymarferwyr, sy'n canolbwyntio'n benodol ar achosion o wahardd disgyblion o'r ysgol a'u cadw ar ôl yr ysgol. Bydd y Fforwm yn rhoi cyngor ar faterion megis canllawiau, arferion gorau a strategaethau ataliol er mwyn sicrhau cysondeb wrth gadw disgyblion ar ôl yr ysgol a'u gwahardd o'r ysgol.

Ysgol: sicrhau bod straeon, cyfraniadau a hanesion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu haddysgu drwy'r Cwricwlwm i Gymru ar ei ffurf ddiwygiedig

  • Mae bellach yn orfodol addysgu hanesion, cyfraniadau a phrofiadau cymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol fel rhan o stori Cymru. Bydd cynllun y Cwricwlwm yn galluogi dysgwyr i ddeall gwahanol gredoau a safbwyntiau, herio stereoteipiau a dathlu cefndiroedd amrywiol. 
  • Mae cyflwyno addysg wrth-hiliol yn gofyn am gyfranogiad cymuned gyfan yr ysgol sy'n cynnwys arweinwyr, staff, dysgwyr a rhieni/gofalwyr.
  • Diweddarwyd fframwaith a chanllawiau'r Cwricwlwm i Gymru yn dilyn argymhellion o adroddiad Cynefin gan yr Athro Charlotte Williams. Roedd hyn yn cynnwys diweddaru'r Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig.

Ysgol: creu gweithlu addysgu gwrth-hiliol drwy ymgorffori dysgu proffesiynol gwrth-hiliol

  • Mae'r prosiect Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol (DARPL) yn cyrraedd pob rhan o Gymru drwy weithgareddau sy'n cynnwys gweminarau, sesiynau'r Gyfres Uwch Arweinyddiaeth (ELS) ac ymgysylltiadau strategol. 
  • Nod y Gyfres Uwch Arweinyddiaeth yw sicrhau bod gan arweinwyr y sgiliau a'r ddealltwriaeth i adnabod egwyddorion gwrth-hiliol ac ymgysylltu'n feirniadol â pholisi tegwch rhwng pob hil. 
  • Mae Campws Rhithwir DARPL wedi'i ddatblygu ymhellach gydag amrywiaeth ehangach o ddeunyddiau dysgu a bu cynnydd yn y defnydd a wneir o'r platfform. Rydym yn gweithio gyda DARPL i werthuso'r rhaglen a datblygu fframwaith effaith a chynnwys.

Ysgol: cynyddu nifer yr athrawon o gymunedau ethnig leiafrifol sy'n cael eu recriwtio i'r sector addysg, gyda ffocws clir ar recriwtio i raglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA)

  • Cynhaliwyd adolygiad o'r meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni AGA yn 2022 a 2023 i'w rhoi ar waith ym mis Medi 2024. Bydd y meini prawf ar waith am bum mlynedd. 
  • Cynhelir gweithgareddau rheolaidd i hyrwyddo addysgu fel gyrfa gan Bartneriaethau AGA, Cyngor y Gweithlu Addysg ac ymgyrchoedd recriwtio Llywodraeth Cymru. 

Addysg Bellach (AB): sicrhau bod diwylliant ac arferion gwrth-hiliol wedi'u hymgorffori ym mhob sefydliad addysg bellach a darparwr dysgu oedolion yng Nghymru

  • Mae Medr wedi rhoi arweiniad a chyllid ar gyfer Cynlluniau Gweithredu Gwrth-hiliol colegau AB yn 2025 a 2026. Mae'n disgwyl i golegau gwblhau Matrics Aeddfedrwydd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, fel rhan o broses hunanasesu a gwella'n barhaus. 
  • Bydd colegau yn diweddaru eu cynlluniau gweithredu ac yn ystyried Cynllun 10 Pwynt y Black Leadership Group. Caiff Cynlluniau Gweithredu eu cyflwyno i Medr yn adroddiadau mis Tachwedd 2025.
  • Mae Medr wrthi'n datblygu fforymau lleisiau dysgwyr, a fydd yn casglu safbwyntiau dysgwyr ar amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys gwrth-hiliaeth.
  • Mae ceisiadau am gyllid o'r Gronfa Dysgu Proffesiynol wedi cael eu derbyn a'u cymeradwyo gan Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025-2026. Mae pob un o'r 13 o golegau wedi cynnwys gweithgarwch ar wrth-hiliaeth yn unol â'r canllawiau a'r gofyniad i hon fod yn thema orfodol.                                       
  • Mae Medr yn ymgynghori ar ei amodau rheoleiddio a chyllido er mwyn cynnwys amod cyfle cyfartal ac amod llesiant staff a dysgwyr. Mae'r amod llesiant staff a dysgwyr yn cynnwys yr hyn a ddisgwylir gan ddarparwyr er mwyn sicrhau na fydd staff na dysgwyr yn agored i niweidiau. Mae hyn yn cynnwys aflonyddu, camymddwyn, trais, gan gynnwys trais rhywiol a throseddau casineb.

Addysg Bellach: sicrhau bod cwricwlwm AB modern ar waith gennym, sy'n adlewyrchu Cymru wrth-hiliol 

  • Mae Medr wedi ymrwymo i gyllido pedwerydd cam prosiect y Cwricwlwm Gwrth-hiliaeth a arweinir gan Goleg Caerdydd a'r Fro. 
  • Bydd Medr yn monitro prosiect y Cwricwlwm Gwrth-hiliaeth er mwyn sicrhau ei fod yn gwneud cynnydd effeithiol. Cyflwynir adroddiadau ar y prosiect i Medr ym mis Chwefror 2026 a mis Gorffennaf 2026. Bydd Medr, mewn partneriaeth ag Estyn a Llywodraeth Cymru, yn cynnal mini-uwchgynhadledd ym mis Rhagfyr 2025 er mwyn canolbwyntio ar sut y gellir cefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
  • Mae Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru yn darparu un ffordd gyffredin o fesur yr hyn a gyflawnir wrth ddysgu ac yn helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch llwybrau cynnydd posibl. 

Addysg Bellach: sicrhau bod gwybodaeth glir ar gael am ethnigrwydd staff ar bob lefel ym maes AB a Dysgu Seiliedig ar Waith, a bod staff yn cael cymorth i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd, ni waeth beth fo’u hethnigrwydd.

  • Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn casglu gwell data ar ethnigrwydd ymarferwyr ôl-16, arweinwyr a gweithwyr cymorth dysgu. Mae Ystadegau Blynyddol ar gyfer y Gweithlu Addysg yng Nghymru 2025 yn rhoi dadansoddiad manwl.
  • Ym mis Gorffennaf 2025, cyhoeddodd Cyngor y Gweithlu Addysg leihad pellach yng nghyfran y staff cofrestredig ag ethnigrwydd anhysbys. Roedd y grwpiau mwyaf amrywiol o ran ethnigrwydd yn cynnwys gweithwyr cymorth dysgu ysgolion (8.1% o gefndiroedd Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol). Bwriedir cynnal yr ymarfer casglu data nesaf yn ystod Hydref 2025. 
  • Bydd Medr a Chyngor y Gweithlu Addysg yn parhau â'u trafodaethau ac yn ystyried gweithgareddau posibl yn y dyfodol yn ymwneud â recriwtio a chadw staff.
  • Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn parhau i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb.

Addysg Bellach: cynyddu nifer y cynrychiolwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n hyfforddi i fod yn ymarferwyr yn y sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith

  • Mae is-grŵp wedi'i sefydlu fel rhan o'r gwaith ehangach o adolygu'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) ar gyfer Addysg Bellach. Fe'i cadeirir gan Medr a'i nod yw llunio cynllun newydd i'w roi ar waith ym mlwyddyn academaidd 2026-2027. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym mis Medi 2025 ac mae'n bwriadu adrodd yn ôl ar opsiynau ar gyfer cynllun newydd ym mis Rhagfyr 2025. 
  • Mae cydraddoldebau yn eitem sefydlog ar agenda cyfarfodydd misol uwch-dîm rheoli Cyngor y Gweithlu Addysg. Mae'r cyfarfodydd hyn yn darparu fforwm ffurfiol i drafod diweddariadau neu faterion sy'n codi. Bydd Medr a Chyngor y Gweithlu Addysg yn cydweithio i ddatblygu camau gweithredu ymhellach, wedi'u llywio gan ymchwil ansoddol i brofiadau dysgwyr a staff o hiliaeth. 

Addysg Bellach: caiff cyfranogiad, deilliannau a chynnydd dysgwyr o gefndiroedd ethnig gwahanol eu monitro’n systematig a chaiff camau eu cymryd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau

  • Bydd Medr yn cyhoeddi data Monitro Cydraddoldeb Hil ar gyfer colegau fel y mae'n ymwneud â dysgwyr yn ystod hydref 2025. Hwn yw'r argraffiad cyntaf o'r data hyn a gyhoeddir ar gyfer y sector Addysg Bellach (AB). 

Addysg Bellach: sicrhau bod addysg bellach a dysgu oedolion cyson o safon uchel ar waith i ddiwallu anghenion mudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches

  • Mae Cynllun Strategol Medr wedi ymrwymo i adolygu’r modd y caiff dysgu oedolion yn y gymuned ei gynllunio a’i drefnu, yn ogystal â pha mor hyblyg ydyw, sy'n cynnwys Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Bydd hefyd yn ystyried sut y gellir gwneud gwelliannau i fynediad, cyfranogiad a llwyddiant.
  • Mae Medr yn cyfarfod yn rheolaidd â Llywodraeth Cymru er mwyn ei helpu i gynnal prosiect Reach Hub sy'n darparu asesiadau Saesneg er mwyn i ddysgwyr allu cael cymorth ESOL priodol.
  • Mae Medr yn parhau i ymgysylltu â phartneriaid perthnasol er mwyn deall anghenion dysgwyr a rhwystrau i ddysgu.

Addysg Uwch (AU): gall staff a myfyrwyr ddisgwyl i'w profiad o AU fod yn gadarnhaol, ni waeth beth fo'u cefndir hil ac ethnig

  • Mae gwobr efydd Siarter Cydraddoldeb Hil Advance HE wedi'i dyfarnu i bob un o'r wyth prifysgol yng Nghymru, a hynny er mwyn cydnabod y cynnydd y maent wedi'i wneud o ran deall y problemau a wynebir gan gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a mynd i'r afael â nhw. Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle mae pob prifysgol wedi cael un o wobrau'r Siarter Cydraddoldeb Hil.
  • Mae prifysgolion wedi dechrau rhoi cynlluniau gweithredu a ddatblygwyd fel rhan o broses y Siarter ar waith. Bydd Medr yn parhau i fonitro cynlluniau gweithredu a'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn eu herbyn.
  • Mae Adroddiad Monitro Cydraddoldebau Hil blynyddol cyntaf Medr yn darparu gwybodaeth am amrywiaeth myfyrwyr a staff yn y sector AU. Dengys fod nifer a chyfran y ceisiadau gan fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig leiafrifol yn parhau i gynyddu. Mae cyfran y staff o gefndiroedd ethnig leiafrifol hefyd wedi cynyddu.
  • Ar hyn o bryd, mae Medr yn ymgynghori ar ei amodau rheoleiddio a chyllido sy'n cynnwys amod ynglŷn ag ymgysylltu â dysgwyr.

Addysg Uwch: gwell defnydd o’r sbardunau sydd ar gael i hyrwyddo diwylliant gwrth-hiliol ym maes addysg uwch

  • Mae Medr wedi cyhoeddi canllawiau a disgwyliadau o ran gwaith monitro ar gyfer 2025-2026 ac wedi tynnu sylw at Fatrics Aeddfedrwydd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru. Gellir ei ddefnyddio fel adnodd i hunanasesu arweinyddiaeth, llywodraethu, prosesau a gweithdrefnau o safbwynt gwrth-hiliol. 
  • Mae pob prifysgol yn rhoi cynlluniau gweithredu a ddatblygwyd fel rhan o broses gydnabod y Siarter Cydraddoldeb Hil ar waith.

Addysg Uwch: Sefydliad addysg ac ymchwil trydyddol gwrth-hiliol hynod effeithiol

  • Mae Medr yn ymgynghori ar ei amodau cofrestru rheoleiddiol fel y maent yn ymwneud â Chyfle Cyfartal a Llesiant Staff a Myfyrwyr yn Hydref 2025.
  • Mae cynlluniau yn mynd rhagddynt i ddiweddaru Cynllun Cydraddoldeb Strategol Medr a datblygu ei broses effaith integredig ymhellach, gan gynnwys digideiddio.

Gwaith Ieuenctid: hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth, o ran mynediad i wasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru, ac mewn perthynas â'r rôl y gall gwasanaethau gwaith ieuenctid ei chwarae i fynd ati'n rhagweithiol i herio agweddau ac ymddygiadau gwahaniaethol mewn cymdeithas

  • Rydym wedi gwahodd sefydliadau ieuenctid i gyflwyno astudiaethau achos sy'n dangos arferion gwrthwahaniaethol.
  • Mae sioe deithiol i Gymru gyfan a sesiynau Cymuned Ymarfer ar-lein misol wedi'u datblygu. Bydd hyn yn gwella dysgu proffesiynol a gweithgarwch ymgysylltu ym mhob rhan o'r sector.
  • Mae mentrau wedi'u lansio er mwyn atgyfnerthu arweinyddiaeth wrth-hiliol. Bydd hyn yn sicrhau bod grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu cynrychioli'n well mewn gwaith ieuenctid.
  • Rydym yn ymgorffori dulliau croestoriadol ac adnoddau a ddatblygwyd ar y cyd. Mae'r rhain yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n gorgyffwrdd megis rhywedd, anabledd a statws economaidd-gymdeithasol. 

Y Gymraeg: sicrhau bod lleisiau siaradwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu clywed a bod eraill yn gwrando arnynt a bod rhagor yn cael ei wneud i hyrwyddo mynediad at y Gymraeg ymhlith cymunedau ethnig lleiafrifol ym meysydd addysg, dysgu’r iaith, y gweithle a gweithgareddau cymunedol

  • Rydym yn parhau i chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu â siaradwyr Cymraeg o gymunedau ethnig leiafrifol a gwrando ar brofiadau bywyd. Roedd digwyddiad panel yn Eisteddfod 2025 yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr Cymraeg o gefndiroedd ethnig leiafrifol. 
  • Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i roi ei chynllun gweithredu gwrth-hiliaeth ar waith a monitro cynnydd drwy fecanweithiau monitro grantiau presennol. 
  • Mae tri fideo newydd ar gael ar YouTube sy'n tynnu sylw at brofiadau cadarnhaol teuluoedd o wahanol gefndiroedd o addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae'r rhain yn darparu gwybodaeth am y ffordd y mae addysg cyfrwng Cymraeg yn meithrin ymdeimlad o berthyn, yn dyfnhau cysylltiadau â diwylliant Cymru ac yn cryfhau clymau cymunedol.

Y Gymraeg: sicrhau bod yr holl adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg a’r deunyddiau atodol yn wrth-hiliol ac yn adlewyrchu dyfnder gwirioneddol ein treftadaeth ddiwylliannol amrywiol ac yn osgoi stereoteipio a chamfeddiannu diwylliannol ar yr un pryd

  • Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn cyflwyno data ar nifer y dysgwyr o deuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae Adnodd wedi lansio strategaeth sy'n canolbwyntio ar amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth. 

Diwylliant, treftadaeth a chwaraeon

Nodau

Arweinyddiaeth: dwyn sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus i gyfrif am roi mesurau a chamau gweithredu gwrth-hiliol ar waith, fel y’u nodir yn y cynllun gweithredu hwn

  • Darparodd Amgueddfa Cymru hyfforddiant ymwybyddiaeth wrth-hiliol ar gyfer ei thîm arwain. Cymerodd ran hefyd mewn rhaglen gwrth-hiliaeth saith mis ar gyfer amgueddfeydd. Mae hefyd wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, megis yr heddlu ac addysgwyr, er mwyn atgyfnerthu ymarfer gwrth-hiliol.
  • Datblygodd Cyngor Celfyddydau Cymru gamau gweithredu yn ei Gynllun Gweithredu Ehangu Ymgysylltiad er mwyn cynnwys hyfforddiant staff wedi'i dargedu ar wrth-hiliaeth.
  • Datblygodd Chwaraeon Cymru ddeunyddiau hyfforddi dwyieithog ar wrth-hiliaeth a dull 'Hyfforddi'r Hyfforddwr' Mae wedi adolygu arferion recriwtio er mwyn gwella cynhwysiant.
  • Comisiynodd yr Is-adran Diwylliant DARPL i lansio platfform digidol. Mae'n cynnig adnoddau dysgu gwrth-hiliaeth, sy'n ymwneud yn benodol â Chymru, ar gyfer y sector Diwylliant, y sector Treftadaeth a'r sector Chwaraeon. Mae Cam Datblygu 2 yn mynd rhagddo.

Cyllid: gweithio gyda'r cyrff a noddir gennym i sicrhau eu bod yn defnyddio eu pwerau gwario i roi arferion gwrth-hiliol ar waith, hwyluso mynediad a chanlyniadau cydradd, a chynyddu lefelau cyfranogiad ymhlith pobl ethnig leiafrifol i'r eithaf

  • Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn creu cyfleoedd gwaith i bobl o gefndiroedd amrywiol o ran ethnigrwydd a diwylliant. Mae ganddo Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol newydd hefyd.
  • Cyflwynodd Chwaraeon Cymru hyfforddiant gwrth-hiliaeth a phenodwyd dau aelod o staff i atgyfnerthu gwaith ymgysylltu â'r gymuned. Mae'n ymrwymedig i ehangu mynediad at gyllid ar gyfer sefydliadau a arweinir gan gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • Mae Amgueddfa Cymru yn hyrwyddo arferion cynhwysol gydag arddangosfeydd, partneriaethau ac adnoddau newydd. Mae'r rhain yn cynnwys deunyddiau yn Iaith Arwyddion Prydain a deunyddiau addysg wrth-hiliol a ddatblygwyd gyda DARPL.
  • Mae staff Amgueddfa Cymru wedi cael hyfforddiant ar gydraddoldeb mewn prosesau caffael. Mae gwaith pellach yn mynd rhagddo gyda WRAP-Cymru i ddatblygu templed caffael cynaliadwy.
  • Mae rhaglenni grant mawr bellach yn gofyn i sefydliadau ymgysylltu â chymunedau amrywiol. Bydd cydgynhyrchu yn elfen graidd o'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen. 
  • Ail-lansiodd Llywodraeth Cymru y Cynllun Grant Diwylliant er mwyn sicrhau bod Sefydliadau Llawr Gwlad yn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Mabwysiedir dull mwy croestoriadol er mwyn cefnogi ymgeiswyr. 

Dathlu amrywiaeth: helpu pob rhan o gymdeithas yng Nghymru i groesawu a dathlu ei threftadaeth ddiwylliannol amrywiol, gan ddeall a chydnabod yr hawl i ryddid mynegiant diwylliannol

  • Rhwng blynyddoedd ariannol 2022 a 2025, cafodd mwy nag 80 o sefydliadau ledled Cymru arian. Mae naw prosiect arall wedi cael cymorth ariannol yn y flwyddyn ariannol bresennol drwy'r grantiau sector lleol. Rydym yn bwriadu rhoi arian i 40 o sefydliadau ychwanegol er mwyn meithrin creadigrwydd, hyrwyddo cynhwysiant a chyfoethogi bywiogrwydd diwylliannol ar lawr gwlad.

Y naratif hanesyddol: gweithio gyda chyrff cyhoeddus i gydnabod yn llawn eu cyfrifoldeb (yn unigol ac ar y cyd) am gyflwyno naratif hanesyddol cytbwys, gan ystyried anghyfiawnderau hanesyddol ac effaith gadarnhaol pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

  • Mae cyllid grant Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn helpu sefydliadau i ddad-drefedigaethu casgliadau er mwyn hyrwyddo naratifau amrywiol, cytbwys. Mae'r naratifau hyn yn adlewyrchu hanesion a phrofiadau bywyd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • Mae naw sefydliad wedi cael grantiau i herio naratifau trechol yn eu casgliadau ac amrywio straeon a adroddir mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd. Mae symiau ychwanegol o arian wedi'u dyrannu er mwyn ymgorffori egwyddorion gwrth-hiliaeth mewn gweithgareddau is-adrannol ehangach. 
  • Mae Cadw yn gweithio mewn partneriaeth â Heneb er mwyn ychwanegu at y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol a sicrhau bod holl safleoedd treftadaeth Cymru yn cael eu cynrychioli'n well.
  • Mae'r Comisiwn Brenhinol wedi dogfennu stori Asiaid Ugandaidd yng Nghymru er mwyn tynnu sylw at ysgogwyr newid cymunedol. Mae 66 o adeiladau a lleoedd o bwys diwylliannol, crefyddol a hanesyddol wedi'u mapio. Caiff ymchwil ac astudiaethau achos eu hychwanegu at Coflein, sef ei gronfa ddata treftadaeth.
  • Helpodd prosiect ‘Museums, Collections and Cynefin: Delivering a Lasting Legacy’ fwy nag 28 o amgueddfeydd lleol ac annibynnol yng Nghymru i gael cymorth i ddad-drefedigaethu eu casgliadau. Mae'r fenter hon wedi galluogi staff i adolygu ac ailddehongli hanesion a phrofiadau amrywiol a chyflwyno cynrychioliadau cynhwysol ohonynt.

Dysgu am ein hamrywiaeth ddiwylliannol: nodi a chyrraedd targedau i gyflwyno addysg a dysgu gwrth-hiliol; gan gynnwys deunyddiau dehongli, marchnata ac addysgol sy'n cydnabod ac yn dathlu cymysgedd diwylliannol cyfoethog ac amrywiol ein cymdeithas, yn annog ymgysylltu corfforol a deallusol eang ac yn hyrwyddo arferion ac egwyddorion gwrth-hiliol drwyddi draw

  • Mae GEM Cymru wedi cael arian er mwyn helpu ymarferwyr dysgu a gweithwyr proffesiynol traws-sector i ymgorffori Ymarfer Gwrth-hiliol. Bydd hyn yn helpu i feithrin dulliau cynhwysol o ymdrin â'r Cwricwlwm newydd i Gymru ac yn hyrwyddo integreiddio hanes Pobl Ddu mewn rhaglenni dysgu amgueddfeydd mewn ffordd ystyrlon. 
  • Datblygwyd porth dysgu digidol ar blatfform DARPL er mwyn helpu ymarferwyr Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon i atgyfnerthu ymarfer proffesiynol sy'n ymwneud â gwrth-hiliaeth.

Iechyd

Nodau

Arweinyddiaeth: bydd y GIG yng Nghymru yn wrth-hiliol ac ni fydd yn derbyn unrhyw fath o wahaniaethu nac anghydraddoldeb i gyflogeion na defnyddwyr gwasanaethau

  • Yn 2022, sefydlodd Llywodraeth Cymru Fwrdd Herio Mewnol er mwyn monitro cynnydd camau gweithredu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Cafodd ei ailenwi'n Fwrdd Gweithredu a Herio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn 2023 ac mae'n cael ei arwain gan Brif Weithredwr GIG Cymru. Mae'n parhau i oruchwylio cynnydd drwy gyfarfod bob deufis, gan sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu cyflawni'n gywir, ac asesu effaith newidiadau.
  • Rhaid i bob un o sefydliadau'r GIG yng Nghymru, gan gynnwys Byrddau, Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Iechyd Arbennig, ddangos eu bod yn gweithio i fynd i'r afael â hiliaeth. Mae'r gofyniad i ddangos gwrth-hiliaeth wedi'i gynnwys yn amcanion Cadeiryddion ers 2022. Mae cynnydd bellach yn cael ei adolygu drwy brosesau cynllunio a sicrhau ansawdd y GIG. 
  • Rhaid i sefydliadau ddangos tystiolaeth o'u camau gweithredu gwrth-hiliol lleol a'u heffaith. Adolygir y cynlluniau hyn a rhoddir adborth er mwyn nodi'r hyn sy'n gweithio'n dda, yr hyn sydd ar goll a lle y gellir gwneud gwelliannau.

Y Gweithlu: bydd staff yn gweithio mewn amgylcheddau diogel a chynhwysol, sydd wedi’u hadeiladu ar arweinyddiaeth wrth-hiliol ac yn cael eu cefnogi i wireddu eu potensial llawn, a chaiff staff ethnig leiafrifol a’u cynghreiriaid eu grymuso i nodi arferion hiliol a mynd i’r afael â nhw

  • Mae Polisi Disgyblu GIG Cymru wedi'i ddiweddaru i gynnwys dull ‘Osgoi Niwed i Gyflogeion’, a grëwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Caiff y fersiwn newydd hon ei lansio yn ystod hydref 2025. Ei nod yw lleihau niwed diangen i staff yn ystod ymchwiliadau a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n effeithio ar staff o gefndiroedd ethnig leiafrifol. Ym mis Hydref 2025, bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad wyneb yn wyneb er mwyn canolbwyntio ar niwed y gellir ei osgoi a sut mae'n effeithio ar staff y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth sy'n destun ymchwiliad.
  • Mae Bwrdd Diogelwch Gweithlu Cenedlaethol GIG Cymru yn gweithio i leihau hiliaeth, gwella'r ffordd y cofnodir achosion o wahaniaethu a sicrhau y rhoddir fframwaith Codi Llais heb Ofn ar waith mewn ffordd deg. Caiff Safonau Atal Trais ac Ymddygiad Ymosodol newydd eu cyhoeddi'n fuan gan Grŵp Cydweithredol Gwrth-drais GIG Cymru.
  • Lansiwyd Rhaglen Darpar Aelodau Bwrdd er mwyn cynyddu cynrychiolaeth pobl ethnig leiafrifol ar Fyrddau GIG Cymru. Cafodd 52 o ymgeiswyr a dewisodd 14 o gyfranogwyr amrywiol. Mae pob un o'r 14 o gyfranogwyr yn Rhaglen Darpar Aelodau Bwrdd wedi'u paru â byrddau iechyd a Llais. Mae noddwyr a chyfranogwyr yn cael hyfforddiant wedi'i dargedu ar wrth-hiliaeth ac arweinyddiaeth. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu arweinyddiaeth a threfniadau llywodraethu byrddau er mwyn hyrwyddo gweithleoedd cynhwysol a gwrth-hiliol ym mhob rhan o GIG Cymru.
  • Mae rhaglen ‘Getting to Equity’, a gefnogir gan y Prif Swyddog Nyrsio, yn defnyddio model nawdd i helpu nyrsys a bydwragedd ethnig leiafrifol i gael eu dyrchafu i rolau uwch yn GIG Cymru.

Y Gweithlu: caiff data ar hil, ethnigrwydd ac anfantais groestoriadol eu casglu’n rheolaidd, eu rhannu a’u defnyddio mewn ffordd dryloyw, er mwyn dileu anghydraddoldebau mewn iechyd a mynediad at wasanaethau iechyd, a rhoi sicrwydd bod GIG Cymru yn amgylchedd gwrth-hiliol a diogel i staff a chleifion

  • Mae adroddiad gofal cymdeithasol cyntaf Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu (SCHG) wedi'i gyhoeddi ac mae data gofal sylfaenol wedi'u rhannu er mwyn llywio adroddiad WRES Gig Cymru gyfan sydd ar fin cael ei gyhoeddi.
  • Mae ymarfer monitro blynyddol bellach ar waith er mwyn olrhain profiadau staff ethnig leiafrifol ym mhob rhan o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Dengys canfyddiadau fod arferion gwrth-hiliol da ym mhob rhan o GIG Cymru wedi dangos gwelliant amlwg mewn meysydd megis recriwtio. Mae camau gweithredu gwrth-hiliol wedi'u targedu yn gwella profiadau staff ac yn ennyn mwy o hyder ymhlith cyflogeion.
  • Lansiwyd y Safonau diwygiedig ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch a Chyfathrebu ym mis Medi 2025. Bydd yn gofyn am gasglu data'n rheolaidd ac adrodd ar gynnydd bob dwy flynedd er mwyn llywio dysgu parhaus, penderfyniadau strategol a gwella ansawdd yng ngwasanaethau'r GIG.
  • O fis Ionawr 2025, fel rhan o'u contract bydd yn ofynnol i feddygon teulu gofnodi data ethnigrwydd cleifion er mwyn cefnogi prosesau cynllunio a darparu gofal iechyd mwy cyfannol.

Y Gweithlu: byddwn yn nodi ac yn chwalu rhwystrau sy’n atal mynediad teg at wasanaethau gofal iechyd i bobl Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

  • Bydd y Safonau ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch a Chyfathrebu yn helpu i wneud gwasanaethau'r GIG yng Nghymru yn haws i'w defnyddio i bobl â lefel isel o lythrennedd neu'r rhai nad y Gymraeg na'r Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Mae'r gwelliannau hyn yn cynnwys gwasanaethau cyfieithu a dehongli gwell.
  • Rydym yn ymgorffori tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant mewn gofal amenedigol drwy greu mecanweithiau ar gyfer adborth cymunedol. At hynny, mae rhaglen ELEVATE yn cael ei chyflwyno er mwyn sicrhau cyfleoedd gyrfa teg mewn gweithluoedd mamolaeth a newyddenedigol.
  • Mae canllawiau cenedlaethol ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn cael eu datblygu er mwyn sicrhau gofal diwylliannol sensitif ar gyfer grwpiau ethnig lleiafrifol. Disgwylir i'r canllawiau hyn gael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2025.
  • Mae Rheoli Iechyd y Boblogaeth yn ddull seiliedig ar ddata sy'n cael ei ddatblygu er mwyn gwella canlyniadau i leiafrifoedd ethnig. Mae gweithgor dan arweiniad y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol yn llunio polisïau newydd, canllawiau ac achos busnes ar gyfer adnoddau Rheoli Iechyd y Boblogaeth.
  • Rydym wedi galluogi pob uned famolaeth yn GIG Cymru i gymryd rhan mewn cynllun achredu cymhwysedd diwylliannol er mwyn gwella ymwybyddiaeth ac ymarfer staff. Caiff hyfforddiant cyn cofrestru ei ddarparu gan ddefnyddio pecyn cymorth Coleg Brenhinol y Bydwragedd ar gyfer dad-drefedigaethu bydwreigiaeth. Mae'n helpu i feithrin dysgu cynhwysol a diwylliannol gymwys ac yn ystyried anghenion menywod a phobl sy'n geni o'r mwyafrif byd-eang.

Y Gweithlu: bydd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn hyderus bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a bod eu llais yn cael ei glywed pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud sy’n effeithio arnynt

  • Casglodd yr Arolwg Cenedlaethol o Brofiadau Pobl o Adrannau Brys fwy na 50,000 o ymatebion rhwng mis Awst 2023 a mis Mawrth 2025. Dengys y canlyniadau bwysigrwydd ystyried profiad cleifion yn ôl nodweddion gwarchodedig er mwyn gwella gofal yn GIG Cymru. Mae cwestiynau'r arolwg bellach yn canolbwyntio ar iaith ac ethnigrwydd a chaiff sylwadau cleifion eu dadansoddi er mwyn nodi gwahaniaethau mewn ansawdd gofal.
  • Lansiodd GIG Cymru Arolwg a Fframwaith Profiadau Pobl ym mis Ebrill 2025. Arolwg safonedig, dwyieithog o bob lleoliad gofal ydyw y bwriedir iddo hyrwyddo hygyrchedd ac ymgorffori adborth parhaus mewn gweithgarwch gwella gwasanaethau. Caiff adborth ei gyfuno â chanlyniadau cleifion a'i rannu'n  gyhoeddus.
  • Rydym yn diweddaru Canllawiau Teithio at Iechyd Gwell er mwyn cefnogi cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn well. Mae'r fersiwn newydd yn cael ei chydgynhyrchu gyda phobl sydd â phrofiad bywyd. Bydd hyn yn ychwanegu dulliau gweithredu sy'n ystyriol o drawma, templedi ymarferol ac enghreifftiau o arfer gorau ar gyfer asesiadau iechyd cynhwysol.
  • Yn 2024, gwnaethom gyhoeddi'r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio a'r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol er mwyn ymgynghori â'r cyhoedd arnynt. Mae'r ddwy strategaeth yn blaenoriaethu mynediad, profiadau a chanlyniadau teg i bawb.

Gofal cymdeithasol

Nodau

Arweinyddiaeth: sicrhau bod arweinwyr ar bob lefel yn y gweithlu gofal cymdeithasol yn modelu ac yn hyrwyddo gwrth-hiliaeth, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn cyflwyno sector gofal cymdeithasol gwrth-hiliol i bobl sy'n cael gofal a chymorth ac i'r gweithlu gofal cymdeithasol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys gwaith datblygu er mwyn creu uwch-weithlu â mwy o amrywiaeth ethnig

  • Mae'r Fframwaith Ymddygiadau i Arweinwyr yn cael ei roi ar waith ar gyfer arweinwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru ac mae'n cynnwys egwyddorion gwrth-hiliaeth ac arweinyddiaeth dosturiol.
  • Datblygodd Diverse Cymru raglen a meini prawf dethol drafft ar gyfer safleoedd peilot ar y cyd â phanel o arbenigwyr sydd â phrofiad bywyd. Mae'r safleoedd peilot sy'n cynrychioli gofal cymdeithasol oedolion ledled Cymru wedi'u nodi. Mae Diverse Cymru yn darparu hyfforddiant cymhwysedd diwylliannol i'r sefydliadau hyn sy'n hyrwyddo triniaeth deg ac yn gwella cynrychiolaeth yn y gweithlu gofal cymdeithasol.

Darparu gwasanaethau: parhau i nodi'r rhwystrau i wasanaethau gofal cymdeithasol a wynebir gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a mynd ati i'w chwalu, er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo'n hyderus i ddefnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a bod y gwasanaethau a ddarperir yn wrth-hiliol, yn hygyrch ac yn ddiwylliannol briodol

  • Sefydlwyd Gweithgor Gofal Cymdeithas Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ym mis Mawrth 2023. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys partneriaid gwasanaethau yn y sector statudol, y sector annibynnol a'r trydydd sector yn ogystal ag unigolion â phrofiad bywyd. Mae'r grŵp yn cyfarfod bob chwarter ac yn goruchwylio cynnydd o ran camau gweithredu gofal cymdeithasol sy'n mynd rhagddynt. 
  • Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn parhau i ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn gweithrediadau. Disgwylir i dimau ddangos gwerthoedd mewn ymarfer a chynnal sesiynau myfyriol er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn eu rolau. 
  • Mae canllawiau newydd yn cael eu datblygu er mwyn helpu arolygwyr i ddeall meysydd allweddol yn well. Mae AGC bellach yn edrych ar ffeiliau gofal i weld a oes pobl â nodweddion gwarchodedig neu bobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol yn ystod arolygiadau er mwyn sicrhau y caiff eu hanghenion eu diwallu.
  • Mae AGC yn gweithio gyda DARPL i wella hyder arolygwyr wrth asesu ymarfer gwrth-hiliol mewn gwasanaethau gofal plant a chwarae.
  • Mae adolygiad trylwyr o wasanaethau cymdeithasol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru yn mynd rhagddo er mwyn mesur y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran cymorth diwylliannol ac ieithyddol ers i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gael ei lansio.

Y Gweithlu: sicrhau na fydd pobl ethnig leiafrifol yn wynebu unrhyw rwystrau wrth geisio dilyn gyrfa neu ymgymryd â rôl ym maes gofal cymdeithasol 

  • Mae Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) yn datblygu adnodd e-ddysgu gwrth-hiliaeth er mwyn ategu hyfforddiant cymhwysedd diwylliannol yn y sector. Mae swyddog dysgu a chymorth penodedig wedi'i benodi er mwyn hyrwyddo'r adnodd ymhlith rheolwyr y gweithlu gan ddefnyddio dull hyfforddi'r hyfforddwr. Mae cynlluniau ar waith ar gyfer ymgyrch cyfathrebu a lansio eang er mwyn sicrhau bod pob aelod o staff gofal cymdeithasol yn cael hyfforddiant gwrth-hiliaeth.
  • Mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, rydym yn cynnal adolygiadau cydweithredol er mwyn mynd i'r afael â hiliaeth yn y gweithle, gan gynnwys microymosodiadau a bylchau mewn polisi. Mae camau gweithredu yn cynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol gorfodol, gwell prosesau adrodd ac ymgorffori egwyddorion gwrth-hiliol mewn gwasanaethau. Mae hyn yn cyfrannu at hyrwyddo ymagwedd o ddim goddefgarwch.

Atebolrwydd: ymgorffori camau gweithredu ac ymddygiadau mewn perthynas ag atebolrwydd ym mhob rhan o’r sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys strwythurau llywodraethu cadarn a metrigau clir a mesuradwy, er mwyn canfod effaith ac effeithiolrwydd y sector gofal cymdeithasol wrth gyflawni’r camau gweithredu a nodir yn y cynllun gweithredu hwn

  • Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol i adolygu a gwella eu gweithdrefnau cwyno. Caiff hyn ei lywio gan ganfyddiadau diweddar ynglŷn â phrofiadau bywyd staff ethnig leiafrifol. Ymhlith yr heriau allweddol a nodwyd mae microymosodiadau, gwahaniaethu agored a bylchau mewn polisi.   Mae'r cynllun sydd wedi deillio o hynny yn argymell mabwysiadu ymagwedd o ddim goddefgarwch tuag at hiliaeth, yn gwneud hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol yn orfodol, yn gwella prosesau adrodd ac yn anelu at ymgorffori egwyddorion gwrth-hiliaeth mewn prosesau darparu gwasanaethau. Mae'r fenter hon, a gefnogir gan Llais, yn ceisio creu gweithle cynhwysol a theg i bob gweithiwr gofal cymdeithasol.

Data ac ymchwil: gwella data ansoddol a meintiol, ymchwil, tystiolaeth, dadansoddi, gwybodaeth a dealltwriaeth; gan gynnwys cynnydd sylweddol yn y data ar brofiadau bywyd sy'n cael eu casglu oddi wrth bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i lenwi'r bylchau presennol mewn data a helpu i gyflawni pob un o'r nodau a'r camau gweithredu ym maes gofal cymdeithasol

  • Mae GCC yn ehangu ei weithgarwch casglu data ar y gweithlu drwy arolygon i wella dealltwriaeth o amrywiaeth a phrofiadau o hiliaeth ymhlith staff. Mae ymarferion casglu data bellach yn cynnwys grwpiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr fel maes allweddol er mwyn sicrhau bod eu hanghenion penodol yn cael eu cydnabod.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno arolwg blynyddol i gasglu data amrywiaeth cynhwysfawr gan y rhai sy'n cael gofal a chymorth, gan gynnwys ethnigrwydd, rhywedd, anabledd ac oedran.

Cartrefi a lleoedd

Nodau

Cynrychiolaeth: cynyddu cynrychiolaeth pobl ethnig leiafrifol mewn swyddi uwch-arweinwyr ac ar bob lefel o weithlu’r sector tai yn sylweddol, er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth a wasanaethir

  • Mae lleoliadau gwaith ‘Get into Housing’ wedi helpu mwy na 100 o bobl o gefndiroedd amrywiol. Mae 75% wedi cael swyddi ar ôl cwblhau'r rhaglen, mewn tai cymdeithasol yng Nghymru yn bennaf.
  • Mae hyfforddiant staff ar ragfarn ddiarwybod a gwrth-hiliaeth wedi cynyddu'n sylweddol, gan gyrraedd hyd at 80% a 65% erbyn 2025. Mae hyfforddiant i aelodau bwrdd ar y materion hyn hefyd wedi gwella, gyda 60% yn cael hyfforddiant.
  • Mae bron i 5,500 o bobl wedi cwblhau hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac mae bron i 2,000 wedi cwblhau hyfforddiant ar Droseddau Casineb ers iddynt gael eu lansio.
  • Mae mwy o gynrychiolaeth ethnig leiafrifol ymhlith uwch-reolwyr ac aelodau bwrdd yn y sector tai yng Nghymru. Cynyddodd nifer yr aelodau o staff ethnig leiafrifol mewn swyddi nad ydynt yn rhai rheoli o 4.1% i 7%. Ymhlith uwch-reolwyr, cynyddodd y gyfran o 2.9% to 5%.
  • Mae cyfran yr aelodau bwrdd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru wedi cynyddu i 9%, sy'n fwy na'u cynrychiolaeth ym mhoblogaeth ehangach Cymru. 
  • Mae Rhentu Doeth Cymru wedi gweithio gyda Tai Pawb a Victim Support Cymru er mwyn darparu hyfforddiant i landlordiaid ac asiantiaid rheoli ar fynd i'r afael â hiliaeth a throseddau casineb. Ers mis Mawrth 2023, mae mwy na 1,930 o sesiynau wedi'u cwblhau.
  • Mae 5,416 o landlordiaid yn y sector preifat wedi cael hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae 2,900 wedi cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi o'r fath ers mis Mawrth 2022.
  • Mae cyllid ychwanegol wedi helpu Tai Pawb i roi mwy o gymorth i landlordiaid tai cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys cyngor newydd ar wiriadau ansawdd a gwneud yn siŵr bod dyluniadau adeiladau yn parchu diwylliannau gwahanol.
  • Mae hyfforddiant staff Tai Pawb wedi datblygu gyda 2,391 o bobl yn cael hyfforddiant ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ers mis Ebrill 2022.

Safonau, darpariaethau a gwasanaethau: sicrhau bod safonau, darpariaeth a gwasanaethau mewn perthynas â darparu cartrefi yn hyrwyddo cydraddoldeb hil, yn ymgorffori arferion gwrth-hiliaeth, cydraddoldeb a hawliau dynol, ac yn diwallu anghenion amrywiol pobl ethnig leiafrifol

  • Cafodd y Canllawiau ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd eu diweddaru er mwyn rhoi fframwaith i awdurdodau lleol ar gyfer rheoli dyraniadau tai a gwasanaethau digartrefedd. Mae'r canllawiau hyn yn cefnogi darpariaeth deg ac effeithiol ac mae'n cyd-fynd â'r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) sydd ar fin cael ei gyhoeddi.
  • Mae Asesiad Effaith Integredig wedi'i gyhoeddi er mwyn diweddaru rheoliadau ynglŷn â chymhwystra, gan sicrhau bod gan bawb fynediad teg a chyfartal at gymorth tai.
  • Mae'r Canllawiau ar y Grant Cymorth Tai, sydd wedi'u hehangu, yn pwysleisio'r angen i gynnwys defnyddwyr gwasanaethau, cydweithredu ar lefel ranbarthol a mesur effeithiau. Mae'r diweddariadau hyn yn gwella prosesau gwneud penderfyniadau er mwyn i wasanaethau tai barhau i fod yn deg ac yn effeithiol ac ymateb i anghenion cymunedau amrywiol.
  • Mae rhaglenni lleihau digartrefedd yn cael eu datblygu a'u cyflwyno gan y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd. Caiff canllawiau ar bolisi a data yn cael eu llywio gan adroddiad y Grŵp Rhanddeiliaid Hil.
  • Mae Safon Ansawdd Tai Cymru yn pennu dull sy'n canolbwyntio ar y tenant o wella tai cymdeithasol. Mae'n pwysleisio canlyniadau cadarnhaol ym meysydd iechyd, addysg a llesiant ac fe'i datblygwyd gyda mewnbwn gan denantiaid Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Y sector rhentu preifat: sicrhau bod tai a llety a’r gwasanaethau a ddarperir gan y sector rhentu preifat yn hyrwyddo cydraddoldeb, yn ymgorffori arferion gwrth-hiliaeth ac yn diwallu anghenion amrywiol pobl ethnig leiafrifol

  • Mae Tai Pawb yn paratoi deunyddiau gwrth-hiliaeth i'r Sector Rhentu Preifat er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o wrth-hiliaeth ymhlith landlordiaid ac asiantiaid yn y Sector Rhentu Preifat a lleihau gwahaniaethu ar sail hil. 
  • Mae cynllun gwaith cydweithredol gyda Rhentu Doeth Cymru a Grŵp Rhanddeiliaid Tai ac Adfywio Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cael ei ddatblygu er mwyn hyrwyddo ymddygiadau gwrth-hiliol yn y Sector Rhentu Preifat. Mae potensial i'r mentrau hyn gael eu hintegreiddio yng Nghod Ymarfer y Sector Rhentu Preifat.

Y sector rhentu preifat: sicrhau bod gan bobl ethnig leiafrifol ledled Cymru lais a dylanwad i sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru ynghylch darparu cartrefi yn adlewyrchu amrywiaeth anghenion a blaenoriaethau pobl ethnig leiafrifol

  • Dangosodd yr arolwg pwls o denantiaid TPAS Cymru fod 2.4% o denantiaid yn nodi eu bod yn bobl Ddu, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol, o gymharu â 4% y llynedd. Eleni, roedd 4% o'r ymatebwyr yn y Sector Rhentu Preifat, o gymharu â 2.1% mewn tai cymdeithasol. Mae ymdrechion yn mynd rhagddynt i wella data ymgysylltu â thenantiaid a chynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig.
  • Mae cynllun "Get into Housing" wedi cefnogi mwy na 100 o gyfranogwyr ethnig leiafrifol, gyda 75% yn cael gwaith. Cafodd Angell Green, un o fuddiolwyr y cynllluniau "Get into Housing" a "Pathway to Board" wobr Tenant y Flwyddyn TPAS.
  • Mae Tai Pawb ac EYST wedi helpu i sicrhau bod profiadau bywyd cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn dylanwadu ar ddeddfwriaeth newydd ynglŷn â thai. Mae hyn yn cynnwys biliau sy'n ymdrin â digartrefedd a diogelwch adeiladau a'r Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd. 
  • Mae awdurdodau lleol bellach yn dilyn canllawiau wedi'u diweddaru wrth gwblhau Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol. Mae hyn yn sicrhau bod anghenion tai pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y dyfodol yn cael eu hystyried.
  • Mae Safonau Rheoleiddio Diwygiedig ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig bellach yn ei gwneud yn ofynnol i gamau gweithredu seiliedig ar dystiolaeth ar gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a throseddau casineb adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethir ganddynt.

Llety Sipsiwn a Theithwyr: cydnabod bod angen llety diogel diwylliannol briodol er mwyn i unigolion ffynnu mewn rhannau eraill o’u bywydau ac er mwyn ymdrin â’r prinder safleoedd a’r llety o ansawdd gwael sydd ar gael i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru

  • Mae canllawiau diwygiedig wedi'u dyroddi i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol yn ystyried anghenion tai cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y dyfodol. Ategir hyn gan ganllawiau dylunio diwylliannol sensitif gan Tai Pawb.

Llety Sipsiwn a Theithwyr: gwella ein prosesau datblygu polisi yn barhaus er mwyn creu dulliau gwrth-hiliol i bob agwedd ar greu polisïau

  • Bydd sefydliadau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ymuno â'r Panel Cynghori ar Gydraddoldeb er mwyn cefnogi'r gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu rhaglenni lleihau digartrefedd drwy'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a chyflwyno adroddiad Grŵp Rhanddeiliaid Hil y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd ar gyfer datblygu polisi.

Llywodraeth leol

Nodau

Ymgysylltu â llywodraeth leol i'w hannog i arwain y gwaith o gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

  • Llofnododd Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Gytundeb Partneriaeth Strategol ym mis Mehefin 2025. Mae'r cytundeb hwn yn canolbwyntio ar degwch, cynwysoldeb a chyfranogiad y cyhoedd. Mae'r Cytundeb yn gofyn i'r ddau barti wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau gan fabwysiadu dull gweithredu gwrth-hiliol a sicrhau bod cymunedau amrywiol yn cael eu cynrychioli.
  • Mae'r broses o roi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar waith yn cael ei hategu gan ymgysylltu rheolaidd rhwng gweinidogion y llywodraeth, swyddogion ac awdurdodau lleol. Mae'r gweithgarwch ymgysylltu hwn yn pwysleisio pwysigrwydd gwerthoedd Cymru a rôl y wlad fel noddfa. 
  • Trafodwyd hynt Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yng nghyfarfod Cyngor Partneriaeth Cymru ym mis Gorffennaf, yr oedd yr Athro Emmanuel Ogbonna yn bresennol ynddo. Disgwylir diweddariadau a thrafodaethau pellach mewn cyfarfodydd a arweinir gan Lywodraeth Cymru yn yr hydref. Disgwylir i'r cyfarfodydd hyn gynnwys Prif Weithredwyr awdurdodau lleol, yr Ysgrifennydd Parhaol a'r Athro Emmanuel Ogbonna.

Sicrhau bod deddfwriaeth a chanllawiau yn herio llywodraeth leol i gynrychioli’n well y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, ac i ymgysylltu’n llawn â nhw

  • Mae Cymru yn treialu system cofrestru pleidleiswyr awtomataidd mewn pedwar awdurdod lleol, gan ganolbwyntio ar wella hygyrchedd a chynhwysiant i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Caiff y canlyniadau eu gwerthuso gan y Comisiwn Etholiadol erbyn diwedd 2025.
  • Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 wedi cyflwyno cynlluniau cymorth ariannol ac anariannol ar gyfer ymgeiswyr anabl. Y disgwyl yw y bydd modd derbyn ceisiadau ym mis Hydref 2025. 
  • Caiff Grant Amrywiaeth Ymgeiswyr ei dreialu yn ystod Hydref 2025 er mwyn i sefydliadau gefnogi ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn etholiadau Senedd Cymru 2026 ac etholiadau lleol 2027.
  • Mae'r Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth yn cefnogi pobl fyddar ac anabl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy'n ystyried bod yn ymgeisydd mewn etholiad. Mae'r rhwydwaith yn gweithio ochr yn ochr ag Anabledd Cymru i ddatblygu Siarter Mynediad at Wleidyddiaeth Cymru ar y cyd. Bwriedir i'r siarter hon ddatblygu pecynnau cymorth arfer gorau a darparu cymorth gan gymheiriaid drwy hyfforddiant, mentora a phrofiad gwaith.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £400,000 bob blwyddyn am dair blynedd ar gyfer y Grant Ymgysylltu â Democratiaeth, gan gefnogi gweithgareddau sy'n helpu cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i gymryd rhan mewn democratiaeth.
  • Cafodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru £33,512 i ddarparu hyfforddiant sy'n galluogi ffoaduriaid yng Nghymru i ddeall prosesau democrataidd yn well a chymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau lleol. 
  • Dyfarnwyd £16,000 i Fosg a Chanolfan Gymunedol Islamaidd Abertawe ar gyfer prosiect sy'n cynnig gweithdai dwyieithog, clinigau cofrestru pleidleiswyr a sesiynau addysgol. Y nod yw cynyddu cyfranogiad democrataidd ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn Abertawe, gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig, ceiswyr lloches, ffoaduriaid a phobl ifanc 16-25 oed.
  • Sicrhaodd Canolfan Datblygu De Glan-yr-Afon £10,945 ar gyfer prosiect wedi'i leoli yng Nghaerdydd sy'n cefnogi gwladolion tramor i ddysgu Saesneg. Crëwyd deunyddiau ac ymgynghorwyd â dehonglwyr ar gyfer gweithdai ymwybyddiaeth gyhoeddus er mwyn gwella dealltwriaeth o system ddemocrataidd Cymru cyn yr etholiadau.
  • Rhoddwyd £28,800 i KIDCARE4U ar gyfer prosiect sy'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o hawliau democrataidd ymhlith cymunedau ethnig amrywiol. Roedd y prosiect hwn wedi'i anelu'n arbennig at fenywod a phlant sy'n wynebu rhwystrau ieithyddol a rhwystrau o ran TG. 

Sicrhau bod llywodraeth leol yn datblygu'n gyflogwr sy’n dangos esiampl, er mwyn creu amgylchedd diogel a chynhwysol i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

  • Cynigir hyfforddiant gwrth-hiliaeth gan CLlLC ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod profiadau bywyd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn llywio strategaethau gwella.
  • Mae CLlLC ac Un Llais Cymru yn cael arian er mwyn cefnogi'r gwaith o wella gwasanaethau a newidiadau digidol mewn llywodraeth leol, gyda ffocws cryf ar gydraddoldeb.

Cyflogadwyedd a sgiliau, gan gynnwys Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg ac Entrepreneuriaeth

Nodau

Cyflogadwyedd a sgiliau: bydd rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn cynnig amgylchedd diogel, cadarnhaol a chynhwysol i bob aelod o staff a phawb sy'n cymryd rhan, lle yr eir i'r afael â hiliaeth

  • Rydym yn ymgysylltu â chynrychiolwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a grwpiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr er mwyn casglu tystiolaeth o brofiadau bywyd. Mae hyn yn cynnwys ymwybyddiaeth o'n rhaglenni, y rhwystrau i gael cymorth a chroestoriadedd. Rhennir tystiolaeth ag arweinwyr polisi er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd.

Cyflogadwyedd a sgiliau: cynyddu nifer y bobl ethnig leiafrifol sy'n dechrau ac yn cwblhau Prentisiaethau

  • Mae argymhellion o adolygiad o'n rhaglenni cyflogadwyedd wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar amrywiaeth ethnig a chynhwysiant, yn arbennig anghenion grwpiau a menywod ethnig leiafrifol.
  • Rydym wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn asesu sut mae darparwyr yn cyflwyno rhaglenni, yn rheoli prosesau ac yn cefnogi cyfranogwyr ethnig leiafrifol. Mae'r argymhellion hyn yn cael eu defnyddio i wella rhaglenni presennol.

Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg: ymgorffori gwrth-hiliaeth i mewn i strwythurau ein partneriaeth gymdeithasol ac yn y ffyrdd rydym yn cynyddu cyffredinrwydd gwaith teg

  • Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi ysgrifennu at bob un o Weinidogion Cymru ynglŷn â phwysigrwydd ymgorffori nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn strwythurau partneriaeth gymdeithasol Cymru. Gofynnwyd i Weinidogion sicrhau bod timau yn gwybod am y cynllun ac ystyried sut maent yn cyfrannu at sicrhau bod Cymru yn wlad wrth-hiliol. Mae swyddogion yn casglu ymatebion.

Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg: codi ymwybyddiaeth o arferion, prosesau a diwylliannau yn y gweithle sy’n wrth-hiliol, eu deall yn well a’u mabwysiadu

  • Rydym wedi cyhoeddi canllawiau Gwaith Teg sy'n cynnwys astudiaethau achos ymarferol ac animeiddiad byr. Nod yr adnoddau hyn yw sicrhau bod egwyddorion Gwaith Teg yn hygyrch ac y gellir uniaethu â nhw gan ganolbwyntio ar arferion cyflogaeth gwrth-hiliol a chynhwysol. 
  • Caiff arferion gwrth-hiliol yn y gweithle eu hymgorffori ym modiwlau dysgu Gwaith Teg. Bydd y modiwlau hyn yn helpu cyflogwyr a gweithwyr i wella eu dealltwriaeth o Waith Teg a disgwylir iddynt gael eu lansio yn 2026. 
  • Cynhaliodd y Fforwm Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle drafodaeth ynghylch gwrth-hiliaeth a hyrwyddo pecyn cymorth gwrth-hiliaeth TUC Cymru. Mae'r pecyn cymorth yn darparu strategaethau ymarferol ar gyfer mynd i'r afael â hiliaeth yn y gwaith ac mae wedi'i rannu rhwng rhwydweithiau aelodau.

Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg: lleihau a dileu'r bwlch ethnigrwydd rhwng cyflogeion ethnig lleiafrifol a gwyn

  • Rydym yn parhau i hyrwyddo'r Cyflog Byw Gwirioneddol er mwyn helpu i gynyddu cyflogau i'r gweithwyr hynny sy'n ennill y cyflogau isaf ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid blynyddol i gefnogi ymdrechion achredu drwy bartneriaid megis Cynnal Cymru. 
  • Rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch y Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd) arfaethedig, y bwriedir iddo gyflwyno gofyniad gorfodol i adrodd ar y bwlch cyflog ar gyfer ethnigrwydd ac anabledd. Byddai hyn yn gymwys i gyflogwyr mawr a disgwylir iddo wella tryloywder, mynd i'r afael â gwahaniaethau mewn tâl a chefnogi arferion tecach yn y gweithle.

Entrepreneuriaeth: creu gwasanaeth Busnes Cymru sy'n wrth-hiliol ac sy'n ymgysylltu â chymunedau amrywiol mewn ffordd ddiwylliannol briodol er mwyn cynyddu nifer y cwmnïau newydd a thwf cwmnïau ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

  • Mae cynllun gweithredu gwrth-hiliol Busnes Cymru, a luniwyd gan Race Equality First, bellach yn rhan graidd o gontractau gwaasanaeth Buses Cymru ac mae'n cael ei adolygu'n rheolaidd gan Lywodraeth Cymru.
  • Yn y chwe mis diwethaf, mae chwe chais am gyllid o'r Gronfa Gyfranogi wedi helpu i ddiwallu anghenion ieithyddol cleientiaid, gan gynnwys Arabeg a Bengali.
  • Mae taflenni am wasanaethau wedi cael eu llunio yn Bangla, Hindi a Tsieineeg Syml a'u dosbarthu i ganolfannau cymunedol.
  • Mae tair o'r 22 o astudiaethau achos diweddar (13%) yn cynnwys pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • Mae Sesiynau ar Gynhwysiant Diwylliannol a hyfforddiant ar Ragfarn Ddiarwybod wedi'u cyflwyno gan EYST i dîm llawn Busnes Cymru. Caiff hyfforddiant gwrth-hiliaeth ei lansio ym mis Medi 2025 a bydd yn cynnwys cwestiynau cyn ac ar ôl hyfforddiant er mwyn mesur effaith.
  • Ers mis Mehefin 2023, mae 1,316 o gleientiaid wedi cael cymorth i ddechrau busnes drwy Busnes Cymru. Daw 81 (6.28%) o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. O blith yr 16,267 o unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth, mae 685 (4.76%) yn bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Cenedl Noddfa

Nodau

Cenedl Noddfa: dod yn Genedl Noddfa drwy wireddu Gweledigaeth Cenedl Noddfa

  • Mae'r gwaith paratoi ar gyfer Prosiect 'Welcome Connectivity' yn mynd rhagddo, gyda'r nod o'i gyflwyno erbyn mis Rhagfyr 2025.
  • Mae panel o geiswyr Noddfa bellach yn helpu i lywio gwasanaethau drwy'r prosiect Arbenigwyr trwy Brofiad. Bydd hyn yn ymgorffori profiad bywyd mewn prosesau gwneud penderfyniadau pan ddaw'r ymarfer recriwtio i ben yn yr hydref.
  • Bydd ystadegydd yn gweithio am chwe mis i wella data ar gyfer y Fframwaith Integreiddio Mudwyr. Mae myfyriwr o Brifysgol Caerdydd yn helpu i gyflwyno'r data a llunio adroddiad dichonoldeb.
  • Mae cyfweliadau â sefydliadau mudwyr partner yn mynd rhagddynt er mwyn deall cyrhaeddiad y Fframwaith Integreiddio Mudwyr yn well. Adroddir ar y canlyniadau hyn yn dilyn gwaith dadansoddi thematig.
  • Mae cyllid ychwanegol wedi'i roi i Settled er mwyn i'r elusen honno allu cynnig cyngor arbenigol ar fewnfudo. Mae hyn yn cynnwys Wcreiniaid sy'n wynebu achosion cymhleth, am fod mwy nag 8,000 o Wcreiniaid wedi cael cymorth i ymsefydlu yng Nghymru ers 2022. 
  • Mae partneriaethau Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud yn bosibl i gymorth wedi'i deilwra fod ar gael i geiswyr noddfa ag anghenion cymhleth, megis aelwydydd Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus a goroeswyr camdriniaeth.
  • Mae prosiectau integreiddio peilot yn helpu i leihau bylchau a darnio er mwyn hwyluso prosesau pontio rhwng cymorth ar gyfer ceiswyr noddfa. 
  • Sicrhawyd cynnydd yn y gyllideb ar gyfer 2025 i 2026 er mwyn atgyfnerthu llety a chymorth cyflogaeth a lansio ail gam cynllun Tocyn Croeso. Disgwylir i Gam 2 Tocyn Croeso, sydd ar fin dechrau, wella symudedd ar gyfer ceiswyr noddfa. Caiff yr effaith ei monitro drwy adborth defnyddwyr.
  • Mae'r Fframwaith Integreiddio Mudwyr yn ysgogi cydweithredu rhwng sectorau, gyda diweddariad cynnydd blynyddol yn dangos gwelliannau pendant.
  • Mae 'Refugee Family Reunion' yn cael ei gefnogi drwy'r Groes Goch Brydeinig ac mae 'Displaced Talent Mobility' yn cael ei gefnogi drwy 'Talent Beyond Boundaries'.
  • Mae cynnydd o ran Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus yn cynnwys canllawiau newydd, hyfforddiant blynyddol a gwaith partneriaeth.
  • Mae dull cydweithredol ‘Tîm Cymru’ wedi bod yn effeithiol, yn arbennig yn ystod argyfwng Wcráin ac wrth adsefydlu dinasyddion Affganistan.

Troseddu a chyfiawnder, gan gynnwys troseddau casineb

Nodau

Troseddu a chyfiawnder: gweithio gyda’r heddlu a phartneriaid eraill ym maes cyfiawnder troseddol (e.e. Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru a’i aelodau) i greu system cyfiawnder troseddol wrth-hiliol yng Nghymru, gan fabwysiadu dull heriol a radical o wella canlyniadau a mynd i’r afael â hiliaeth systemig

  • Mae fframwaith gweithredu cadarnhaol yn cael ei ddatblygu er mwyn sicrhau mwy o gysondeb ac amrywiaeth wrth recriwtio Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ar draws heddluoedd. Mae ymdrechion yn canolbwyntio ar nodi rhwystrau i recriwtio a mynd i'r afael â nhw, gyda'r nod o sicrhau bod y niferoedd mewn heddluoedd yn adlewyrchu cymunedau lleol yn well. Bydd cyflwyniad mewn cyfarfod sydd i'w gynnal yn fuan ar y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran recriwtio Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn cynnwys data ar ethnigrwydd, cyfraddau cadw a heriau.

Troseddu a chyfiawnder: defnyddio'r ysgogwyr yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru ynglŷn â Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i fynd i’r afael â gwahaniaethu a chefnogi dull gweithredu gwrth-hiliol

  • Nod adolygiadau o arferion recriwtio, sy'n dal i fynd rhagddynt, yw nodi meysydd i'w gwella a sicrhau dull gweithredu cyson a theg.
  • Rydym wrthi'n comisiynu gwerthusiad o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, a fydd yn ceisio cynnwys cais i gasglu data sy'n ymwneud yn benodol ag ethnigrwydd. 

Troseddu a chyfiawnder: cryfhau’r sylfaen dystiolaeth i nodi gwahaniaethau ar sail hil yn y system gyfiawnder drwy roi cyngor ac arweiniad i randdeiliaid, a thrwy ennyn hyder ac ymddiriedaeth pobl ethnig leiafrifol o ran y defnydd a wneir o'u data

  • Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil er mwyn asesu'r ffynonellau presennol o ddata sydd ar gael y gallem eu defnyddio i'n helpu gyda'n gwaith monitro ac adrodd. Byddwn yn mapio hyn i'n nodau presennol er mwyn olrhain cynnydd a nodi tueddiadau.

Troseddu a chyfiawnder: meithrin ein sgiliau a’n hyder i ddeall sut beth yw system gyfiawnder wrth-hiliol ac annog a dylanwadu’n gadarn ar bolisi gwrth-hiliol gan Lywodraeth y DU

  • Roedd cynrychiolwyr o Rwydwaith y Staff Ethnig Lleiafrifol yn bresennol yng nghyfarfod Cyfarwyddiaeth yr Is-adran Diogelwch Cymunedol ym mis Mehefin er mwyn codi ymwybyddiaeth o'i waith. 
  • Roedd rheolwyr llinell yn y Gangen Troseddu a Chyfiawnder yn bresennol yn y sesiwn hyfforddi  'Leading for an Anti-racist organisation: A Manager's Guide' ym mis Hydref. Cafodd yr hyfforddiant hwn ei gyflwyno gan aelodau o dîm gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
  • Er bod cyfiawnder troseddol yn fater a gedwir yn ôl, rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU pan gaiff pryderon eu codi. Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip ei hysbysu am anghymesuredd hiliol posibl o ran defnydd yr heddlu o Taser 10. Codwyd y materion hyn gyda'r cyn-Weinidog Plismona a nododd fesurau diogelwch sy'n bodoli eisoes. 
  • Rydym yn ymgysylltu â'r Swyddfa Gartref ynghylch diwygiadau i weithdrefnau noeth-chwilio plant. Disgwylir diweddariadau i Godau Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 y bwriedir iddynt atgyfnerthu mesurau diogelwch a sicrhau dull gweithredu gwrth-hiliol. 
  • Cymerodd Ysgrifennydd y Cabinet ran yn un o sesiynau'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a oedd yn canolbwyntio ar Gyfiawnder Troseddol yng Nghymru. Mae'n tynnu sylw at ymdrechion i leihau gorgynrychiolaeth plant Du a phlant â phrofiad o fod mewn gofal yn y system cyfiawnder ieuenctid. Mae tasglu anghymesuredd yn cael ei ddatblygu gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn.

Troseddau casineb: sicrhau bod Cymru yn parhau i anelu at fod yn wlad wrth-hiliol sy’n lle diogel i fyw ynddo, drwy ddileu agweddau atgas a chefnogi’r rhai sy’n dioddef troseddau casineb â chymhelliant hiliol

  • Gwnaethom ddyfarnu contract newydd ar gyfer ymgyrch troseddau casineb Mae Casineb yn Brifo Cymru a chynnal ymgyrch benodol yn y cyfryngau ym mis Hydref 2025. Roedd yr ymgyrch hon yn cyd-fynd ag Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb ac roedd yn cynnwys hysbysebion digidol ac awyr agored ledled Cymru. 
  • Mae Fforwm Eiriolaeth Profiad Bywyd (LEAF) yn parhau i ysgogi gwelliant yng Nghanolfan Cymorth Casineb Cymru. Yn ddiweddar rhoddodd adborth ar yr ymgyrch ac mae'n helpu i ddatblygu deunyddiau recriwtio er mwyn ehangu cynrychiolaeth LEAF.

Troseddau casineb: mynd i’r afael â phob math o wrth-Semitiaeth

  • Rydym yn datblygu cam diweddaraf Mae Casineb yn Brifo Cymru er mwyn cynnwys ffocws ar gasineb crefyddol. Rydym wedi dyfarnu grant 3 blynedd i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost er mwyn iddo drefnu digwyddiadau cofio'r holocost yng Nghymru.

Troseddau casineb: mynd i’r afael â phob math o droseddau casineb sy'n ymwneud ag Islamoffobia.

  • Fel rhan o'r broses o ddatblygu Mae Casineb yn Brifo Cymru, rydym yn canolbwyntio ar gasineb ar sail ffydd ac yn monitro'r gwaith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i ddiffinio casineb gwrth-Fwslimaidd.

Troseddau casineb: mynd i'r afael â hiliaeth drwy adeiladu cymunedau cydlynus ac integredig

  • Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu cyllid ar gyfer Rhaglen 'Cohesion' am dair blynedd arall er mwyn adeiladu ar ymdrechion i feithrin cydlyniant yng Nghymru. 

Cefnogi cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr: mynd i'r afael â hiliaeth drwy adeiladu cymunedau cydlynus ac integredig

  • Er bod plismona yn fater a gedwir yn ôl, mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i wella diogelwch cymunedol. Yn ddiweddar, cyfarfu swyddogion ac aelodau o Uned Gyswllt yr Heddlu er mwyn adolygu gwaith sy'n mynd rhagddo gyda chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Pwysleisiodd y drafodaeth pa mor bwysig ydyw bod swyddogion yr heddlu yn mabwysiadu dull gweithredu gwrth-hiliol ac yn cadw prosesau cyfathrebu yn agored er mwyn deall a chefnogi cymunedau yn well. Bydd yr is-grŵp yn parhau i gydweithio, gan sicrhau bod yr heddlu wedi'i baratoi'n dda a bod polisïau yn cael eu llywio gan brofiad bywyd a chyngor arbenigol

Gofal plant a chwarae

Nodau

Gwella'r profiad yn y gweithle: bydd staff yn gweithio mewn amgylcheddau cynhwysol a diogel sy'n seiliedig ar Gynghreiriaeth, ac yn cael cymorth i gyflawni eu potensial llawn a'u grymuso i nodi arferion hiliol a mynd i'r afael â nhw

  • Mae gwaith ymchwil parhaus yn cael ei lywio gan grŵp llywio a mentoriaid cymunedol er mwyn deall profiadau gweithwyr gofal plant Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae gweithdai a gwaith yn y maes wedi dechrau a bydd y canfyddiadau yn cefnogi cynlluniau gweithredu cydweithredol. Nod y cynlluniau hyn yw gwella profiadau staff a chynyddu cynrychiolaeth ethnig leiafrifol mewn rolau gofal plant.
  • Ymdrinnir yn gydweithredol â phroblemau diweddar sy'n ymwneud â'r cyfryngau cymdeithasol drwy gynnig cymorth, rhannu gwybodaeth â grwpiau llywodraethu a llunio canllawiau i ddarparwyr gofal plant. 
  • Mae pecyn cymorth arfer gorau wedi'i ddatblygu ochr yn ochr â hyfforddiant wedi'i dargedu er mwyn helpu staff gofal plant i fabwysiadu dulliau gwrth-hiliol a chefnogi staff a phlant. 
  • Mae'r ymarfer recriwtio ar gyfer carfan newydd o fentoriaid cymunedol bron â'i gwblhau. Mae'n cynnwys unigolion y bydd eu profiad bywyd yn gwella'r broses o ddatblygu polisi a rhaglenni. Cyfrannodd mentoriaid cymunedol yn y rhaglen flaenorol fwy na 400 o oriau. Cyfeiriodd llawer at effeithiau cadarnhaol ar eu datblygiad a chyfraniadau gwerthfawr at y gwaith.
  • Mae AGC wedi datblygu grŵp Hyrwyddwyr Gofal Plant Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol er mwyn cefnogi diweddariadau i'r fframwaith arolygu. Mae'r grŵp yn cynllunio dysgu proffesiynol ar gyfer arolygwyr ochr yn ochr â DARPL. Mae cynlluniau ar y gweill  i lunio cwestiynau trafod ar ymarfer gwrth-hiliol i'w defnyddio yn ystod arolygiadau.

Cynnig darpariaeth sy'n fwy priodol yn ddiwylliannol: bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhieni a gofalwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol i wella mynediad at leoliadau gofal plant a chwarae yn ogystal â mynediad at gyfleoedd chwarae

  • Rydym yn ymchwilio i safbwyntiau a phrofiadau teuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o ran eu profiad o wasanaethau gofal plant a chwarae. Mae grŵp llywio wedi'i sefydlu gyda mentoriaid cymunedol i gydlunio'r ymchwil.
  • Gwnaeth yr Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Ryngwladol (IPPO) a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ymchwil er mwyn gwella mynediad at addysg a gofal plant yn y blynyddoedd cynnar ar gyfer plant a theuluoedd Du Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru. Rhannodd yr IPPO ganfyddiadau ac argymhellion â swyddogion polisi gan ddefnyddio'r dull Damcaniaeth Newid. Arweiniodd hyn at gamau gweithredu newydd ar gyfer gwella'r modd y cesglir data a chefnogi gwaith gwrth-hiliol yn rhaglen Dechrau'n Deg.
  • Lansiwyd yr adolygiad o'r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant gydag ymgynghoriad yn ceisio mewnbwn gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Ei nod yw gwella canllawiau awdurdodau lleol ar gyfer ymgysylltu â'r grwpiau hyn a'u cynrychioli yn eu hasesiadau.
  • Mae awdurdodau lleol wedi cydweithio i wella Asesiadau statudol o Ddigonolrwydd Gofal Plant ac Asesiadau statudol o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Mae gweithdai wedi helpu i ddatblygu arolygon Chwarae a dulliau ymgysylltu gwell ar gyfer pobl ifanc Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • Mae hyfforddiant gwrth-hiliol gan bartneriaid DARPL a Cwlwm wedi gwneud newidiadau ystyrlon mewn lleoliadau gofal plant. Mae mwy o amrywiaeth ymhlith staff ac mae arferion gwrth-hiliol wedi'u hymgorffori. Mae staff yn nodi bod mwy o ymwybyddiaeth ac maent yn dathlu amrywiaeth gyda phlant er mwyn meithrin empathi a hyder.

Gwella profiad plant: caiff pob plentyn gyfle i ystyried a dathlu amrywiaeth hil mewn ffordd gadarnhaol a chefnogol

  • Mae sesiynau DARPL, sy'n dal i fynd rhagddynt, yn ategu'r pecyn cymorth ar gyfer Creu Diwylliant Gwrth-hiliol mewn Lleoliadau. Mae'n rhoi canllawiau ymarferol ar gyfer hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant ym maes gofal plant. Caiff y pecyn cymorth ei gysylltu â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod ymarfer gwrth-hiliol yn dod yn rhan safonol o ddarpariaeth gofal plant.
  • Mae rhanddeiliaid megis Chwarae Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio i greu amgylcheddau cynhwysol a chroesawgar i bob plentyn. Yn dilyn adweithiau negyddol yn y cyfryngau cymdeithasol i'w gwaith gwrth-hiliol, mae cymorth a chanllawiau arfer gorau i'r sector cyfan wedi'u dosbarthu.
  • Mae grŵp Hyrwyddwyr Gofal Plant AGC ar gyfer Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn helpu i ddiweddaru'r fframwaith arolygu. Maent yn cynllunio dysgu proffesiynol ar gyfer arolygwyr gyda DARPL a byddant yn llunio cwestiynau trafod ar ymarfer gwrth-hiliol ar gyfer arolygwyr.