Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Hydref 2022.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn awyddus i glywed eich barn chi ar ein cynllun gweithredu drafft o ran a yw’n mynd i'r afael â'r prif ffactorau risg sy'n wynebu pobl sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Yn ein hymgynghoriad, rydym yn holi a fydd y cynllun gweithredu drafft yn:
- helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol a chydag urddas
- rhoi cymorth digonol gan wasanaethau diogelu i bobl hŷn sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso
- helpu pobl hŷn sy'n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol i gael gafael ar gymorth perthnasol
- amddiffyn pobl hŷn sy’n derbyn gofal a chymorth rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso
Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 383 KB
PDF
383 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.