Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau bod y sector amaeth yng Nghymru yn elwa i'r eithaf ar dechnoleg ddigidol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar drothwy’r Ffair Aeaf ar Faes y Sioe Frenhinol, mae'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Technoleg Amaethyddol sy’n cael ei gyhoeddi yn nodi gweledigaeth i gefnogi'r sector i fod yn broffidiol, yn effeithlon ac yn gynaliadwy, ac yn manteisio ar botensial technoleg amaethyddol ar sail pedair blaenoriaeth. 

Nod y blaenoriaethau hyn yw cyflymu gallu technoleg amaethyddol, ysgogi mabwysiadu mentrau technoleg amaethyddol sy'n gwella cynhyrchiant ar y fferm, darparu manteision amgylcheddol a chefnogi datblygiad addysgol a sgiliau i fanteisio ar dechnoleg amaethyddol i'r eithaf.

Bydd y cynllun yn helpu'r rhai yn y sector amaeth drwy, er enghraifft, wneud gweithgarwch ar y fferm yn fwy effeithlon a manwl gywir. Gyda chymorth technoleg, gellir cysylltu mewnbynnau amaethyddol, gan gynnwys dŵr a gwrtaith, ag amodau planhigion, anifeiliaid a phridd gan helpu i leihau gwastraff a chostau i'r ffermwr.

Bydd cydweithio yn allweddol i sicrhau bod y diwydiant yn gwireddu manteision technoleg amaethyddol, ac mae'r cynllun wedi'i ddatblygu drwy gydweithio'n agos â rhanddeiliaid, sy'n cynnwys cyrff diwydiannol, ymarferwyr amaethyddol, a chymunedau academaidd.

Bydd gwaith Cyswllt Ffermio yn bwysig yn cefnogi'r cynllun ac mae'r cyllid presennol eisoes yn helpu ffermydd ledled Cymru i fabwysiadu technoleg amaethyddol.

Mae'r gweithgareddau yn cynnwys rhwydwaith arddangos ffermydd Cyswllt Ffermio, "Ein Ffermydd", i amlygu data ac astudiaethau achos i hyrwyddo technoleg amaethyddol wrth gyflwyno digwyddiadau sy'n targedu defnydd y dechnoleg honno, codi ymwybyddiaeth a darparu cefnogaeth i'r sector ar y daith o ddefnyddio technoleg.

Mae Cyswllt Ffermio hefyd yn cynnig hyfforddiant a deunydd e-ddysgu achrededig i wella lefel sgiliau a hyder pobl mewn technoleg. Bydd hyn yn galluogi mwy o bobl i fabwysiadu ac elwa ar dechnoleg amaethyddol ar ffermydd tra bo’r Gwasanaeth Cynghori yn cynnig cyngor i unigolion a grwpiau am bris gostyngol.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Rydym yn byw mewn oes ddigidol a bydd elwa i’r eithaf ar holl bosibiliadau technoleg ddigidol yn allweddol i’r diwydiant amaeth fel y gall sbarduno arloesedd a hybu busnesau.”

"Bydd y Cynllun Gweithredu ar gyfer Technoleg Amaethyddol yn ganolbwynt i'r sector, a bydd yn ei gefnogi i fanteisio ar alluoedd technoleg ddigidol. Bydd gwasanaeth Cyswllt Ffermio yn cydweithio’n agos â’r diwydiant ac yn ei gefnogi i fanteisio ar effeithiau positif technoleg.”

Dywedodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr yn Menter a Busnes sy'n gofalu am Cyswllt Ffermio ar y cyd â Lantra Cymru: "Rydym wedi teilwra gwahanol elfennau o'r rhaglen Cyswllt Ffermio i gynnig cefnogaeth i ffermwyr a'u helpu i symud busnes yn ei flaen. Mae croesawu technoleg yn bwysig wrth wneud hyn."

Gallwch weld Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Technoleg Amaethyddol yma: https://www.llyw.cymru/cynllun-gweithredu-tech-amaeth.