Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Ar ffurf naratif, disgrifiwch y mater a’r camau sy’n cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru. Sut ydych chi wedi defnyddio / Sut byddwch chi’n defnyddio pum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gyda’r camau sy’n cael eu cynnig, drwy gydol y cylch polisi a chyflawni?

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Ddigidol i Gymru ym mis Mawrth 2021. Mae’r strategaeth yn nodi’r weledigaeth gyffredinol ar gyfer defnyddio dull digidol ar draws sectorau yng Nghymru i sicrhau bod pobl yn cael profiad o wasanaethau cyhoeddus modern, effeithlon a syml. Yn ei hanfod, nod y strategaeth yw ysgogi arloesi a helpu busnesau i lwyddo mewn byd modern, sicrhau bod gan bobl yr hyder sydd ei angen arnynt i ymgysylltu â’u cymunedau a datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl o bob oed i ymuno â’r gweithle a’r economi ddigidol. Mae’r strategaeth wedi ei strwythuro o gwmpas y chwe chenhadaeth a ganlyn: Gwasanaethau Digidol, Cynhwysiant Digidol, Sgiliau Digidol, yr Economi Ddigidol, Cysylltedd Digidol, a Data a Chydweithio. Gyda’i gilydd, nod y cenadaethau yw creu gwelliannau ym mhob agwedd ar y ddarpariaeth.

Mae cenadaethau Gwasanaethau Digidol a’r Economi Ddigidol yn cydnabod, er mwyn i’r strategaeth lwyddo, bod angen cael datganiad clir sy’n nodi’r uchelgeisiau, y weledigaeth a’r gweithgarwch ar gyfer seiber yng Nghymru. Yn benodol, mae’r Cynllun Cyflawni, a lansiwyd ochr yn ochr â’r strategaeth, yn ymrwymo i gyhoeddi Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru i ddwyn ynghyd ddatganiad cydlynol o uchelgais a gweithgarwch ar faterion seiber yng Nghymru. 

Mae heriau’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos pwysigrwydd pethau digidol yn ein bywydau. Mae offer a thechnolegau digidol yn awr yn aml yn ganolog i’r ffordd rydym yn dysgu, yn gweithio, yn cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ac yn cynnal busnes. Fodd bynnag, mae ein dibyniaeth ar dechnoleg ddigidol hefyd wedi arwain at gynnydd amlwg yn y risg o ymosodiadau seiber sy’n dod yn fwyfwy cyffredin a soffistigedig. Mae seiberddiogelwch a seibergadernid effeithiol, sector busnes seiber cryf a phobl, busnesau a gweision cyhoeddus sy’n ymwybodol o faterion seiber yn hanfodol er mwyn cyflawni hyn. 

Mae’r Cynllun Gweithredu Seiber yn tynnu’r llinynnau hyn at ei gilydd ac at ddibenion y cynllun, mae nifer o agweddau ar ‘seiber’. Mae’n golygu bod pobl Cymru yn teimlo’n hyderus i fod yn ddiogel a chadw o fewn y gyfraith ar-lein. Mae’n golygu bod ein busnesau a’n sefydliadau yn y sector cyhoeddus mor gynhyrchiol, effeithlon a chadarn â phosibl. Mae’n golygu bod pobl yn ymddiried yn y gwasanaethau cyhoeddus digidol sydd ar gael a’r sefydliadau sy’n eu gweithredu. Mae hefyd yn golygu bod ein heconomi’n ffynnu o feithrin diwydiannau’r dyfodol a’n bod yn datblygu’r sgiliau a’r doniau iawn yma yng Nghymru i ategu ein hecosystem seiber. Mae seiberddiogelwch yn sail i’r nodau hyn ac ar y sylfeini hynny y gellir gwireddu’r nodau.

Yr hirdymor

Bydd y Cynllun Gweithredu Seiber yn mynd i’r afael â phedwar maes blaenoriaeth cysylltiedig i sicrhau bod Cymru’n gallu cofleidio ac elwa ar arloesi ym maes digidol a seiber, a sicrhau ein bod ni mor gadarn â phosibl fel cenedl o ran bygythiadau seiber:

1. Tyfu ein hecosystem seiber

Mae tyfu ein hecosystem seiber yn ategu ein nodau economaidd a bydd yn ein gwneud yn genedl fwy diogel. Po gryfaf yw ein sector seiber yng Nghymru, y cryfaf yw ein cydnerthedd cenedlaethol a’n hymateb i fygythiadau.

2. Creu llif o dalent seiber

Er mwyn tyfu ein hecosystem seiber ac ategu diogelwch ein dinasyddion, ein busnesau a’n gwasanaethau cyhoeddus, mae angen gweithlu medrus arnom yng Nghymru sy’n hyderus o ran defnyddio data ac elfennau digidol, technoleg a seiberddiogelwch.

3. Cryfhau ein seibergadernid

Mae bod yn seibergadarn yn golygu bod angen i bobl a sefydliadau allu paratoi ar gyfer ymosodiadau seiber, eu canfod, ymateb iddynt ac ymadfer ar eu hôl. Mae’n hanfodol o ran cyflawni ein gweledigaeth, i’n nodau economaidd ac, yn y pen draw, i’n diogelwch cenedlaethol.

4. Diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus

Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru yn cynnwys ymrwymiad i drawsnewid a gwella gwasanaethau digidol y sector cyhoeddus, wedi ei dylunio o gwmpas anghenion defnyddwyr. Mae angen cynnwys seiberddiogelwch a chadernid gwasanaethau yn y ffordd mae gwasanaethau’n cael eu dylunio a’u darparu i sicrhau eu bod yn ddibynadwy ac mor ddiogel ag y gallant fod.

Mae pobl, llywodraeth a busnesau yn mabwysiadu dull digidol fwyfwy yn y ffordd maent yn gweithredu ac yn ymgysylltu â’i gilydd. Mae natur arloesol a chyflym y byd digidol yn golygu ei bod yn anodd rhagweld yn gywir sut bydd yn datblygu yn y dyfodol a’r heriau a allai godi.

Bydd pa mor gyflym mae arloesi yn digwydd yn gofyn am adolygiadau rheolaidd o’r Cynllun Gweithredu Seiber i sicrhau ei fod yn adlewyrchu materion sy’n dod i’r amlwg.

Atal

Mae gallu sefydliadau a gwasanaethau i adnabod, diogelu, canfod, ymateb ac adfer o fygythiadau a digwyddiadau seiber yn gosod y sylfeini i allu manteisio’n llawn ar fanteision digidol. Mae’r Cynllun Gweithredu Seiber yn atgyfnerthu pwysigrwydd seiberddiogelwch yn y ffordd mae pobl a busnesau’n gweithredu i helpu i atal neu liniaru’r difrod a’r tarfu sy’n gysylltiedig ag ymosodiadau seiber, fel colled ariannol, niwed i enw da, colli data/ymddiriedaeth a phryderon ynghylch diogelwch cenedlaethol.

Bydd cydweithio nawr ar seibergadernid, ar draws y ffiniau rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a chyrff cyhoeddus eraill a gwasanaethau, yn sicrhau diogelwch ein gwasanaethau cyhoeddus digidol ac yn sicrhau eu bod yn fwy tebygol o gael eu diogelu rhag ymosodiadau seiber ac yn gallu adfer yn gyflymach.

Integreiddio

Dim ond drwy gydweithio ac integreiddio y gellir cyflawni nodau’r Cynllun Gweithredu Seiber. Yn unol â’r Strategaeth Ddigidol i Gymru, mae’r cynllun wedi ei ddylunio i ddwyn ynghyd yr ymdrechion ar y cyd a’r gwaith integredig ar draws y sector cyhoeddus, cyrff hyd braich, y byd academaidd, busnesau, darparwyr addysg a phartneriaid ac arbenigwyr yn y diwydiant seiber. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar faterion heb eu datganoli, fel diogelwch gwladol, i sicrhau bod buddiannau Cymru’n cael eu clywed a’u hystyried.

Mae’r cynllun gweithredu yn nodi sut gallwn ni, gyda’n gilydd, dyfu ecosystem seiber Cymru, creu llif o dalent seiber, cryfhau ein seibergadernid, a diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus. Bydd y camau hyn yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion a’r nodau Llesiant gyda’n gilydd.

Wrth ddatblygu’r cynllun, rydym wedi nodi rhyngddibyniaethau rhwng yr amcanion a’r camau gweithredu a gynigir ar draws y gwahanol sectorau. Nod y cynllun yw cynyddu’r rhyngddibyniaethau rhwng ein prosiectau presennol a buddsoddiadau mewn seiber er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i Gymru. Byddwn yn gwneud hyn drwy gydweithio a gweithredu ar y cyd.

Cydweithio

Rydym wedi cymryd ymagwedd ailadroddol a chydweithredol tuag at ddatblygu’r Cynllun Gweithredu Seiber. Mae gweithgarwch sy’n ymwneud â seiber yn croesi portffolios sawl llywodraeth ac mae’r Cynllun Gweithredu Seiber wedi cael ei ddatblygu a’i fireinio ar y cyd â swyddogion ar draws Llywodraeth Cymru, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) drwy Fwrdd Rhaglen Seiber.

Mae’r Cynllun Gweithredu Seiber hefyd yn ategu’r cenadaethau o dan y Strategaeth Ddigidol i Gymru sy’n torri ar draws pob portffolio Gweinidogol. Yn yr un modd, cafodd y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Cymru ei datblygu a’i mireinio ar y cyd â swyddogion ar draws Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru.

Cynnwys

Mae’r cynllun gweithredu wedi cael ei fireinio drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid sydd â diddordeb ledled Cymru. Bydd ymgysylltu parhaus yn cefnogi adolygiadau rheolaidd o’r cynllun i sicrhau ei fod yn dal yn berthnasol ac y gellir ei gyflawni yng Nghymru. Mae cyflawni’r cynllun yn dibynnu ar ymdrechion ar y cyd rhwng y llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus, y byd academaidd a diwydiant.

Mae swyddogion hefyd wedi ymgysylltu ag arbenigwyr allanol allweddol a grwpiau rhanddeiliaid perthnasol drwy wahanol fecanweithiau wrth ddatblygu’r cynllun. Cynhaliwyd dadansoddiad cychwynnol o’r gwaith presennol ac mae nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu allanol wedi cael eu cynnal i brofi’r weledigaeth, y meysydd blaenoriaeth a’r camau gweithredu gyda rhanddeiliaid sydd â diddordeb. Roedd hyn yn cynnwys cyfarfod o gwmpas y bwrdd gyda'r diwydiant a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r diwydiant, y byd academaidd, sgiliau, addysg, gorfodi’r gyfraith, llywodraeth leol, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), Prif Swyddogion Digidol ac eraill.

Mae ymgysylltu â grwpiau eraill wedi cynnwys SOCITM Cymru, Pwynt Rhybuddio, Cynghori ac Adrodd Cymru (WARP), cynrychiolwyr TG Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, rhanddeiliaid Cynhwysiant Digidol, Dysgu Digidol Cymru a Chanolfan Seibergadernid Cymru.

Mae datblygiad a nodau’r Cynllun Gweithredu Seiber hefyd wedi bod yn destun blog a gyhoeddwyd ar flog Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru. Y bwriad yw y bydd blogiau pellach i rannu rhywfaint o’r gwaith da sy’n digwydd yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi yn y cyfnod cyn lansio’r Cynllun Gweithredu Seiber. 

Nododd rhanddeiliaid fod rhai meysydd allweddol yn bwysig i lwyddiant y blaenoriaethau a nodwyd. Codwyd yr angen i gynnwys doniau yn y weledigaeth i danlinellu pwysigrwydd cael y sgiliau iawn i alluogi’r manteision eraill ochr yn ochr â sicrhau bod y ffocws yn ehangach nag addysg, plant a phobl ifanc a darparu cyfleoedd i bobl o bob oed. Yn ogystal, awgrymwyd y dylai’r cynllun fynegi’r cysylltiadau rhwng y meysydd blaenoriaeth a’r rhyngddibyniaethau rhyngddynt.

Mewn ymateb i’r adborth, rydym wedi sicrhau bod pwysigrwydd talent wedi cael ei gydnabod drwy ei gynnwys yn y datganiad gweledigaeth a bod y rhyngddibyniaethau sy’n bodoli rhwng y meysydd blaenoriaeth wedi cael eu nodi’n glir ac esboniad ar sut maent yn rhyngweithio â’i gilydd. Rydym hefyd wedi sicrhau bod amrywiaeth y cyfleoedd i bobl o bob oed gael gyrfa ym maes seiber yn cael ei hystyried a’i mynegi.

Effaith

Er mwyn ategu a gwireddu manteision newid digidol, mae angen i Gymru sicrhau ei bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sy’n cael eu cynnig ym mhob maes digidol, gan gynnwys seiber. Mae gan seiberddiogelwch y potensial nid yn unig i dyfu ein heconomi drwy sector seiber ffyniannus, ond ein gwneud ni’n fwy diogel fel cenedl hefyd. Rhaid i arloesi ym maes digidol fod yn seiliedig ar gydnerthedd i ddiogelu pobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau rhag ymosodiadau seiber a gweithredwyr gelyniaethus. Mae’r agweddau hyn yn cael eu hategu gan y doniau a’r sgiliau seiber sy’n creu cyfleoedd i bobl o bob oed. 

Gall difrod oherwydd ymosodiadau seiber arwain at ganlyniadau parhaol y tu hwnt i golli cyllid/data/enw da sefydliad yn uniongyrchol.  Bydd llai o hyder ymysg y cyhoedd ac mewn busnesau yn achosi niwed parhaol i’r economi a byddai’n cael effaith anghymesur ar bobl agored i niwed cymdeithas sy’n dibynnu’n fwy ar wasanaethau cyhoeddus.

Bydd dull gweithredu cydgysylltiedig a chydweithredol rhwng y diwydiant seiber, y llywodraeth a’r byd academaidd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod unigolion, sefydliadau a busnesau’n gwybod sut mae bod mor ddiogel â phosibl yn y gofod digidol. Bydd hyn yn cynnwys:

  • cryfhau’r gwaith a’r buddsoddiadau presennol;
  • manteisio i’r eithaf ar ein partneriaethau a dod â’r gwahanol randdeiliaid sy’n gweithredu yn yr ecosystem seiber at ei gilydd;
  • dylanwadu a hyrwyddo cyngor seiber – annog cydweithio ymysg rhanddeiliaid a darparu llais cydnabyddedig ar gyfer anghenion diogelwch Cymru; a,
  • cefnogi sefydliadau a gwasanaethau cyhoeddus i ddeall goblygiadau seiberddiogelwch technolegau newydd a thechnolegau ehangach.

Costau ac arbedion

Nid yw’r Cynllun Gweithredu Seiber yn ymrwymo unrhyw gyllid ychwanegol ynddo’i hun ond, yn lle hynny, mae’n rhoi cyfeiriad ar gyfer cael y gwerth gorau o’n gwaith a’n buddsoddiadau presennol a’n buddsoddiadau yn y dyfodol.

Gall y newid i wasanaethau digidol arwain at arbedion effeithlonrwydd sylweddol o ran sut mae sefydliadau’n gweithredu, ond mae methu â sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll ymosodiadau seiber yr un mor niweidiol. Er enghraifft, costiodd ymosodiad WonnaCry ar y GIG yn 2017 £92 miliwn i’r sefydliad mewn apwyntiadau a ganslwyd. Gall sicrhau seibergadernid a pharodrwydd liniaru’r tebygolrwydd o ymosodiad llwyddiannus a’r gost o adfer ar ôl un.

Mecanwaith

Ni chynigir unrhyw ddeddfwriaeth. Mae’r Cynllun Gweithredu Seiber yn nodi’r camau gweithredu a fydd yn ategu’r gwaith o gyflawni’r uchelgeisiau a nodir yn ei weledigaeth. Bydd y cynllun yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu blaenoriaethau ac anghenion sy’n newid drwy gydol oes y cynllun.

Adran 8. Casgliad

Sut mae’r bobl sydd fwyaf tebygol o deimlo effeithiau’r cynnig wedi bod yn rhan o’r gwaith o’i ddatblygu?

Mae’r Cynllun Gweithredu Seiber wedi cael ei ddatblygu drwy ymgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid ac arbenigwyr pwnc seiber. Bydd y Cynllun Gweithredu Seiber yn ategu’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth Ddigidol i Gymru a ddatblygwyd ar ôl ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat, y trydydd sector, busnesau a’r cyhoedd a grwpiau buddiant gan gynnwys y rhai sy’n cynrychioli plant, pobl anabl a grwpiau o amrywiaeth o gefndiroedd. 

Nid yw’r cyhoedd wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cynnig hwn gan fod y cynllun yn ceisio gwella dull gweithredu seiber ar draws amrywiaeth o sectorau. Yn hytrach, mae’r Cynllun Gweithredu Seiber wedi canolbwyntio ar ymgysylltu â’r rhanddeiliaid a fydd yn cyfrannu at gyflawni a llwyddiant y cynllun neu sy’n cynrychioli’r grwpiau y gallai effeithio arnynt. Mae’r rhain yn cynnwys sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat, busnesau, y byd academaidd ac arbenigwyr yn y diwydiant. Ar ben hynny, mae blogiau hefyd wedi cael eu defnyddio i ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid sydd â diddordeb.

Beth yw’r effeithiau mwyaf arwyddocaol, cadarnhaol a negyddol?

Er nad yw’r Cynllun Gweithredu Seiber yn debygol o gael effaith uniongyrchol sylweddol ar ei ben ei hun, bydd gwell cydlynu, cydweithio a chyfeiriad o ran tyfu ein hecosystem seiber, adeiladu llif o dalent seiber, cryfhau ein seibergadernid a diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael effaith ystyrlon ar wella canlyniadau ym mhob un o’r meysydd hyn.

Mae’r pedwar maes blaenoriaeth y cynllun yn gydgysylltiedig ac yn gyd-ddibynnol, gyda gwelliannau ym mhob maes yn rhoi budd i’w gilydd. Gall partneriaethau rhwng diwydiant a’r byd academaidd roi cipolwg ar sut gall technolegau newydd ein cynorthwyo a gwella cadernid busnesau a gwasanaethau cyhoeddus. Yn ei dro, mae hynny’n meithrin creu cwmnïau seiber newydd yng Nghymru ac yn ategu twf ein heconomi. Bydd cydlynu a meithrin llif o dalent seiber yn bwydo’r twf hwn, gan gryfhau ein cydnerthedd a’n diogelwch, darparu cyflogaeth fedrus ystyrlon i bobl Cymru, gwella eu gallu i aros yn ddiogel ac o fewn y gyfraith ar-lein a gwella diogelwch ein gwlad. Mae’r rhain i gyd yn dod at ei gilydd i greu amgylchedd deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi, gan roi hwb pellach i’n system seiber.

Dod â’r meysydd blaenoriaeth hyn at ei gilydd sy’n sicrhau effaith fwyaf y Cynllun Gweithredu Seiber, gan sicrhau eu bod yn cael eu cysoni ac nad ydynt yn cael eu datblygu ar eu pen eu hunain – gan eu galluogi i gynyddu effaith ei gilydd ar yr un pryd â bod mor ddiogel ag y gallwn ni fel cenedl.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig: yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu, yn osgoi, yn lleihau neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae’r Cynllun Gweithredu Seiber yn cyfrannu ac yn cyffwrdd â’r holl nodau llesiant cenedlaethol, yn anuniongyrchol. Gall arloesi a doniau seiber arwain at fwy o gyfleoedd economaidd a chymdeithas fwy ffyniannus a chadarn. Bydd gwella hyder a sgiliau pobl i ymgysylltu’n ddigidol ac yn ddiogel ar-lein yn gwella cydlyniant cymdeithasol, yn creu cymdeithas fwy iach a chyfartal drwy gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus digidol ac yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg.

Gall cynnydd posibl mewn gweithio o bell, defnyddio data’n well a gweithredu technoleg helpu i gefnogi gostyngiadau yn y defnydd o garbon, a fydd yn cyfrannu at yr ymdrechion i leihau newid yn yr hinsawdd.

Bydd sicrhau bod ein gwasanaethau digidol cyhoeddus a’r trydydd sector mor ddiogel a chadarn ag y gallant fod yn ategu’r ffyrdd o weithio a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Mae gwasanaethau cyhoeddus digidol yn rhoi cyfle i ddarparu profiadau cyson, effeithlon a thymor hir i ddinasyddion.

Fodd bynnag, ni fydd y Cynllun yn cyflawni’r manteision hyn ar eu pen eu hunain ond drwy’r prosiectau a’r buddsoddiadau unigol parhaus. Bydd effeithiau’r camau hynny’n cael eu hasesu’n llawn yn ôl yr angen.

Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth i’r cynnig ddatblygu, ac ar ôl iddo ddod i ben? 

Er bod gan Lywodraeth Cymru rôl arweiniol glir wrth gyflawni’r cynllun gweithredu hwn, ni allwn gyflawni hyn ar ein pen ein hunain. Mae gofyn cael dull gweithredu cymdeithas gyfan ac ymdrechion cyfun gwasanaethau cyhoeddus, diwydiant, y byd academaidd, gorfodi’r gyfraith a llywodraeth ar lefel leol, genedlaethol a’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys cyrff hyd braich a chyrff a noddir.

Nid yw rhai materion yn y cynllun wedi eu datganoli; fodd bynnag, er mwyn cyflawni’r cynllun, rhaid i ni groesawu gweithio mewn partneriaeth, cydweithio a chydlynu ar draws sectorau a chyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan chwalu’r seilos presennol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn adolygu ac yn monitro’r cynllun gweithredu hwn. Byddwn hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i fesur gweithrediad y cynllun a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei gynnydd.

Asesiad o’r effaith ar hawliau plant

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a’i Brotocolau Dewisol wrth arfer unrhyw rai o’u swyddogaethau.

Amcanion y polisi 

Mae’r Cynllun Gweithredu Seiber wedi cael ei ddatblygu i fynd i’r afael â’r angen am ddatganiad clir sy’n nodi’r uchelgeisiau, y gweithgarwch, y diogelwch a’r diogeledd sydd eu hangen i ategu newid digidol fel y nodir yn y Strategaeth Ddigidol i Gymru.

Ni fydd y Cynllun Gweithredu Seiber yn cael effaith uniongyrchol ar blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mae’n gosod cyfeiriad ac uchelgais ar gyfer gweithgarwch yn awr ac yn y dyfodol ar draws meysydd portffolio ac ecosystem seiber Cymru, gan ategu nodau’r Strategaeth Ddigidol i Gymru. Bydd y prif effeithiau’n deillio o ganlyniadau gwell i’r gwaith a’r buddsoddiadau presennol a fydd yn cael effaith anuniongyrchol ar blant a phobl ifanc.

Casglu tystiolaeth a gweithio gyda phlant a phobl ifanc

Wrth baratoi’r Cynllun Gweithredu Seiber, mae ymgysylltu wedi digwydd ag arbenigwyr allanol allweddol yn y diwydiant a grwpiau rhanddeiliaid perthnasol drwy amrywiol fecanweithiau, gan gynnwys trafodaethau o gwmpas y bwrdd gydag arbenigwyr yn y diwydiant, cyfarfodydd is-grŵp Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, sesiynau briffio gydag aelodau o’r Gymdeithas ar gyfer arloesi, technoleg a moderneiddio (SOCITM), Pwynt Rhybuddio, Cynghori ac Adrodd Cymru (WARP) a Bwrdd Rhaglen Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys rhanddeiliaid allanol sy’n ymwneud â chynhwysiant digidol. Mae hyn ochr yn ochr â chydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Cyngor Seiberddiogelwch Cenedlaethol a chyhoeddi blogiau ar ddatblygu’r cynllun.

Nid yw’r Cynllun Gweithredu Seiber wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc, ond mae wedi ymgysylltu â sefydliadau sy’n gweithio ym maes addysg - er enghraifft, Dysgu Digidol Cymru. Bydd dull cydweithredol arfaethedig y cynllun o ymdrin â seiber gyda’n partneriaid yn helpu i ganfod cyfleoedd i gyfathrebu â phlant a phobl ifanc, a gwella’r cyfathrebu hwnnw, ar effeithiau posibl yn y dyfodol.

Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith

UNCRC Articles or Optional Protocol

Enhances (X)

Challenges (X)

Explanation

Article 16 – Right to privacy

 

X

 

The improvement of digital skills and confidence in using digital services supports children’s rights to privacy. Ensuring children and young people understand how the information about themselves they put online or create through using digital services is key to helping them make informed, ethical choices about how much they put online, and how to deal problems if they occur.

Article 17 – Right to access information via the media

X

 

The media is increasingly moving away from traditional channels into the digital space; ensuring that all children have the skills and confidence to safely go online, and an understanding of the benefits and limitations of online media are key to them being able to access information from the media.

 

Article 23 – Children with disabilities accessing services and engage with their wider communities

X

 

Ensuring resilience and trust in new digital services, that will meet stringent accessibility services, will ensure that children who are disabled will be able to access digital services independently wherever possible. Ensuring all children have appropriate skills and confidence to go online will also support disabled children to engage with their communities, including online or digital communities.

 

Article 24 – Right to the best possible health, and health care

X

 

Although this is an indirect impact – ensuring resilience and embedding disaster planning within digital services will ensure access to health care is uninterrupted by cyber threats and increases trust and confidence in using digital service methods.

Article 28 – Right to an education:

x

 

The pandemic has shown how important digital skills in general are for children’s education. Ensuring children have the right skills to access digital educational resources and the confidence to do so support their right to an education.

 

Article 31 – Right to leisure, play and culture

x

 

Digital provides many opportunities for leisure, play and culture; from online gaming to virtual tours of cultural sites and collections. Ensuring children have the ability, skills and confidence to go online safely is essential to protect their rights to access leisure, play and culture in the digital age.

 

Articles 34 and 36 – protection from sexual and other forms of exploitation

X

 

Developing good digital skills, confidence and online safety awareness will help protect children from all forms of exploitation. Co-operation on a national level enhances this further with legislation such as the Online Safety Bill which is specifically aimed to enhance safety online.

Cyngor i weinidogion a’u penderfyniad

Fel yr eglurwyd uchod, nid yw’r Cynllun Gweithredu Seiber yn cael effaith uniongyrchol, ond yn hytrach bydd yn darparu effeithiau anuniongyrchol drwy well canlyniadau gwaith a buddsoddiadau presennol. Bydd hyn yn cael ei egluro yn y cyngor a ddarperir.   

Cyfathrebu â Phlant a Phobl Ifanc

Os ydych chi wedi gofyn am farn plant a phobl ifanc ar eich cynnig, sut byddwch chi’n rhoi gwybod iddynt am y canlyniad?

Ddim yn berthnasol

Os yw eich polisi’n effeithio ar blant a phobl ifanc, cofiwch lunio fersiynau addas i blant o unrhyw ddogfen gyhoeddus sy’n ymwneud â’ch cynnig. Cysylltwch â’r Gangen Plant i gael cyngor pellach.

Monitro ac Adolygu

Mae’n hollbwysig ailedrych ar eich Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant er mwyn gweld a oedd yr effeithiau roeddech wedi’u nodi’n wreiddiol wedi dod yn wir, ac a gafwyd unrhyw ganlyniadau anfwriadol.

Pan fyddwch yn bwrw ymlaen ag is-ddeddfwriaeth, ni fydd dibynnu ar yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant yn ddigon ar gyfer y ddeddfwriaeth sylfaenol; bydd angen i chi ddiweddaru’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant i ystyried sut gallai manylion y cynigion yn y rheoliadau neu’r canllawiau effeithio ar blant.

Gall arweinydd y polisi ailedrych ar fersiwn gyhoeddedig yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant, ei ailenwi’n adolygiad o’r Asesiad gwreiddiol o’r Effaith ar Hawliau Plant, a diweddaru’r dystiolaeth o'r effaith. Dylai’r asesiad effaith a adolygwyd gael ei gyflwyno i Weinidogion gydag unrhyw gynigion i ddiwygio’r polisi, yr arferion neu’r canllawiau. Dylai’r adolygiad hwn o’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant gael ei gyhoeddi hefyd.

Cofiwch amlinellu pa fecanwaith monitro ac adolygu y byddwch chi’n ei sefydlu i adolygu’r Asesiad hwn o’r Effaith ar Hawliau Plant.  

Yn dilyn yr adolygiad hwn, a oes angen gwneud unrhyw i’r polisi neu’r ffordd o’i weithredu?

Er bod gan Lywodraeth Cymru rôl arweinyddiaeth glir, ochr yn ochr â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth gyflawni’r cynllun gweithredu hwn, ni ellir ei gyflawni ar ei phen ei hun. Mae gofyn cael dull gweithredu cymdeithas gyfan ac ymdrechion cyfun gwasanaethau cyhoeddus, diwydiant, y byd academaidd, gorfodi’r gyfraith a llywodraeth ar lefel leol, genedlaethol a’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys cyrff hyd braich a chyrff a noddir.

Fel llywodraeth ddatganoledig, gallwn ystyried y dulliau sydd ar gael inni, ond mae llwyddiant y cynllun hwn yn dibynnu ar fwy na’r liferi hynny ar eu pen eu hunain. Er mwyn cyflawni’r cynllun gweithredu hwn, rhaid i ni groesawu gweithio mewn partneriaeth, cydweithio a chydlynu ar draws sectorau; gan chwalu’r seilos presennol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn adolygu ac yn monitro’r cynllun gweithredu hwn. Byddwn hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i fesur gweithrediad y cynllun a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei gynnydd.