Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r cynllun gweithredu hwn yn nodi agenda strategol gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu a gweithredu polisi anabledd dysgu ar gyfer gweddill tymor presennol y llywodraeth, 2022 i 2026. 

Mae cynllun cyflawni cysylltiedig yn cael ei ddatblygu sy’n cynnwys camau gweithredu penodol gydag amserlenni ar gyfer pob ymrwymiad. Yn ystod ymarfer i ymgysylltu’n benodol â rhanddeiliaid ddechrau 2022, lluniwyd y cynllun hwn ar y cyd ag arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru, Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anableddau Dysgu a phartneriaid rhanddeiliaid allweddol, ac mae’n nodi ac yn blaenoriaethu'r meysydd, y camau gweithredu a'r canlyniadau allweddol y bwriedir mynd i’r afael â hwy dros y cyfnod hwn. Gan adeiladu ar lwyddiant a momentwm y rhaglen Gwella Bywydau, mae'r cynllun gweithredu yn cyd-fynd yn llawn ag ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r egwyddorion a’r amcanion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Cafodd materion allweddol clir eu nodi gan Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anableddau Dysgu yn ei adroddiad Blaenoriaethau Polisi a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2021, ynghyd â chamau blaenoriaeth sy'n canolbwyntio ar helpu gwasanaethau a phobl ag anableddau dysgu wrth i gyfyngiadau’r pandemig barhau i gael eu codi.

Mae'r cynllun gweithredu (a'r cynllun cyflawni cysylltiedig) yn ddogfen fyw a bydd yn cael ei diweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau i flaenoriaethau ac amgylchiadau wrth iddynt godi. Fe'i cynlluniwyd i fod yn hyblyg ac mae'n cynnwys camau y gellir disgwyl yn rhesymol iddynt gael eu cyflawni, o ystyried y ffocws parhaus ar adfer wedi’r pandemig a’r cyfyngiadau ar yr adnoddau sydd ar gael.

Ni fwriedir i'r cynlluniau hyn fod yn gofnod cyflawn o'r holl bolisïau sy'n effeithio ar bobl ag anabledd dysgu. Ac nid yw cynnwys maes penodol yn y cynllun cychwynnol yn dynodi ei fod yn bwysicach nag unrhyw faes arall, ee mae adran 1.3 yn amlinellu ffocws cychwynnol ar fynd i’r afael â mater penodol mewn perthynas â pholisi sy’n effeithio ar y Gymuned Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Nid yw hyn yn golygu nad yw polisïau sy’n effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig eraill (megis y gymuned LHDTC+) yn bwysig, dim ond nad yw’r rheini yn cael sylw yn ystod y cymal hwn o’r cynllun.  Bydd Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu yn goruchwylio’r cynnydd a wneir o ran gweithredu’r cynllun drwy adroddiadau cynnydd blynyddol, a chynhelir adolygiad ffurfiol o'r cynllun ar ddiwedd yr ail flwyddyn lawn, yn ystod gwanwyn 2024. 

Meysydd Blaenoriaeth

  • Trosfwaol/trawsbynciol, gan gynnwys gweithgarwch trawslywodraethol nad yw efallai'n perthyn i un maes penodol
  • Adfer wedi Covid
  • Iechyd, gan gynnwys lleihau anghydraddoldebau iechyd a marwolaethau y gellir eu hosgoi
  • Gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol
  • Hwyluso Byw'n Annibynnol a mynediad at wasanaethau drwy gynyddu mynediad at eiriolaeth a sgiliau hunaneiriolaeth, ymgysylltu a chydweithredu
  • Addysg gan gynnwys Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
  • Cyflogaeth a sgiliau
  • Tai – tai priodol, yn agos i gartref yr unigolyn, mynediad at wasanaethau cydgysylltiedig
  • Trafnidiaeth

Themâu Allweddol

Sicrhau bod barn pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr a rhanddeiliaid y trydydd sector yn cael ei gynnwys wrth ddatblygu holl bolisïau Llywodraeth Cymru fel egwyddor sylfaenol, a bydd ymgysylltu llawn â'r grwpiau a'r unigolion hyn yn digwydd pryd bynnag y bo modd.

Bydd yr holl wybodaeth a chanllawiau perthnasol,  lle y bo modd, yn cael eu darparu mewn fformat hygyrch, a bydd y defnydd o ddogfennau Hawdd eu Darllen yn cael ei hyrwyddo a'i annog ar gyfer deunydd cyfathrebu a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru a'n partneriaid, ar yr un pryd â’r dogfennau / canllawiau safonol.

1. Trosfwaol a thrawsbynciol
RhifMaes Blaenoriaeth StrategolTasgau/Camau GweithreduCanlyniad
1.1Cyhoeddi Cynllun Gweithredu Strategol newydd ar gyfer Anabledd Dysgu.  Datblygu a chyhoeddi cynllun gweithredu strategol cyffredinol, trawslywodraethol a chynllun cyflawni cysylltiedig ar gyfer y polisi anabledd dysgu.  Bydd yn cynnwys camau gweithredu priodol, mesuradwy sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, trefniadau monitro, cytundebau adrodd ac adolygiadau cyfnodol. I’w gyhoeddi erbyn Gwanwyn 2022 a’i adolygu’n ffurfiol ar ôl dwy flynedd.Mae anghenion pobl ag anabledd dysgu yn cael eu diwallu drwy ddatblygu a gweithredu polisi Llywodraeth Cymru dros gyfnod llawn y llywodraeth.
1.2Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu a fydd yn gynhwysol, yn weladwy ac yn gwbl hygyrch, gan ddiwallu anghenion pobl ag anabledd dysgu yn llawnSicrhau effeithiolrwydd a dylanwad mwyaf posibl Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu drwy godi ei broffil a’i wneud yn hygyrch i aelodau, y cyhoedd a phartneriaid allanolAmgylchedd cyfarfod cwbl gynhwysol a hygyrch sy'n diwallu anghenion yr holl aelodau a’r cyhoedd.
1.3

Cydraddoldeb a Chynhwysiant.

Ystyried effaith ac effeithiolrwydd polisïau anabledd dysgu ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr o’r gymuned Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Ym mlwyddyn 1 bydd Llywodraeth Cymru a Grŵp Cynghori’r Gweinidog yn adolygu effaith ac effeithiolrwydd y polisïau cyfredol i sicrhau bod anghenion unigolion ag anabledd dysgu o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu diwallu.

Pan nodir bylchau, caiff camau gweithredu eu cymryd i sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru yn diwallu’r anghenion a nodwyd yn llawn

Mae polisïau anabledd dysgu Llywodraeth Cymru yn diwallu anghenion pobl ag anabledd dysgu yn llawn.
1.4Ymchwilio i gostau a manteision sefydlu Arsyllfa Anabledd Dysgu Genedlaethol i Gymru.Gweithio gyda Gwelliant Cymru a phartneriaid i ymchwilio i gostau, manteision a dichonoldeb sefydlu Arsyllfa Anabledd Dysgu i Gymru.Cefnogi'r gwaith o ddatblygu corff cynhwysfawr o dystiolaeth i lywio'r broses o wneud penderfyniadau polisi a chynllunio gwasanaethau.
1.5Hyrwyddo Cefnogi Ymddygiad yn  Gadarnhaol a gofal seiliedig ar Drawma mewn iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.

Gweithredu'r Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2021.

Sicrhau bod egwyddorion Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol yn cael eu hyrwyddo, eu deall a'u hymgorffori mewn hyfforddiant a gwasanaethau ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a gofal plant. Bydd hyn yn cynnwys monitro, cofnodi ac adrodd priodol.

Gweithio gyda sectorau i sicrhau eu bod yn ystyried ac yn cytuno ar gamau gweithredu i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol yn effeithiol ym meysydd gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol

Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag anabledd dysgu.

Mwy o ymwybyddiaeth, ymhlith comisiynwyr, darparwyr ac ymarferwyr, o gynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn lleihau arferion cyfyngol, hyrwyddo cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac atal niwed.

Sicrhau bod arferion cyfyngol a ddefnyddir yn gymesur, yn cael eu cofnodi a’u monitro, ac yn cydymffurfio â Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol.

1.6Cydweithio a chydgynhyrchu.Datblygu opsiynau a chyfleoedd ar gyfer cydweithio a chydgynhyrchu, gan gynnwys sicrhau bod pobl sydd â phrofiadau byw yn cael eu holi gymaint â phosibl wrth ddatblygu a gweithredu (a newid) polisïau a gwasanaethau.Sicrhau bod anghenion a barn pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn cael eu hystyried yn llawn wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt
2. Adfer ar ôl Covid a llesiant
Rhif Maes Blaenoriaeth StrategolTasgau/Camau GweithreduCanlyniad
2.1Hyrwyddo a gwella llesiant pobl ag anableddau dysguGrŵp Cynghori’r Gweinidog i gyfrannu at grŵp gorchwyl a gorffen cenedlaethol i ddeall sut y gallai presgripsiynu cymdeithasol helpu Cymru yn ei hadferiad ar ôl  COVID-19. Cyflwyno fframwaith Cymru gyfan i roi presgripsiynu cymdeithasol ar waith i fynd i'r afael â theimlo’n ynysig.Fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsynu cymdeithasol sy'n gwireddu gweledigaeth ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol o safon gyson uchel ledled y wlad
2.2 Llywodraeth Cymru i weithio gyda Grŵp Cynghori’r Gweinidog a phartneriaid eraill i bennu'r blaenoriaethau gweithredu ar gyfer dull strategol newydd o ymdrin â llesiant.Gweithgareddau integredig a phwrpasol a ddarperir gan awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc i gefnogi eu llesiant corfforol, emosiynol a chymdeithasol drwy weithgareddau addas gan gynnwys hamdden a chwaraeon.
2.3Sicrhau bod anghenion adfer pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn cael eu cydnabod a'u cefnogi yn Rhaglen Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar Adfer ar ôl CovidLlywodraeth Cymru i weithio gyda Grŵp Cynghori’r Gweinidog  a rhanddeiliaid eraill i gyfrannu at adolygu, gwerthuso ac ystyried y gwersi a ddysgwyd am effaith y cyfyngiadau ar bobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn ystod y pandemig COVID-19.Datblygu polisïau priodol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer pobl ag anableddau dysgu er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i adfer ar ôl Covid.
3. Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Gan gynnwys yr ymrwymiad i gyflawni'r camau gweithredu ar iechyd sy’n deillio o Gwella Bywydau
RhifMaes Blaenoriaeth StrategolTasgau/Camau GweithreduCanlyniad
3.1Gweithredu argymhellion yr adolygiad o Wasanaethau Arbenigol i Oedolion yn 2020, “Gwella Gofal, Gwella Bywydau” yr Uned Gomisiynu Gydweithredol GenedlaetholSefydlu grŵp amlasiantaeth/rhanddeiliaid cenedlaethol i gynghori ar y cynllun gweithredu cenedlaethol a goruchwylio’r broses o’i roi ar waith.

1. Llai o dderbyniadau drwy fwy o raglenni cymorth cymunedol i atal argyfyngau / ymyrryd yn gynnar.

2. Mynediad at ofal arbenigol diogel ac effeithiol o ansawdd uchel mor agos â phosibl i'r cartref.

3. Cefnogi unigolion i ddychwelyd adref/yn agos i'w cartrefi cyn gynted â phosibl.

3.2

Adolygu Marwolaethau a Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol

Mae'r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol newydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru.

Sicrhau bod anabledd dysgu yn ystyriaeth annatod o Broses Adolygu Marwolaethau GIG Cymru

Sicrhau bod marwolaethau unigolion ag anabledd dysgu yn cael eu hadolygu fel rhan o'r system adolygu marwolaethau newydd a bod gwersi'n cael eu nodi a'u rhannu'n briodol.

Cyfrannu at ddatblygu "Fframwaith Dysgu o Farwolaethau", gan sicrhau bod materion anabledd dysgu yn cael eu hadlewyrchu'n briodol.

Cyfrannu at ddatblygu "Fframwaith Dysgu yn sgil Marwolaethau", gan sicrhau bod materion anabledd dysgu yn cael eu hadlewyrchu'n briodol.

Gweithio gyda phartneriaid i sefydlu proses gymesur a phriodol ar gyfer adolygu marwolaethau unigolion ag anabledd dysgu yn systematig.

Darparu data marwolaethau cywir a chadarn a fydd yn sail i ddatblygu polisïau ac arferion i leihau marwolaethau y gellir eu hosgoi.
3.3Fframwaith Addysg Anabledd Dysgu ar gyfer staff gofal iechyd.

Cyflwyno, monitro a gwerthuso Modiwl Sylfaen Paul Ridd y Fframwaith Addysg Anabledd Dysgu ar gyfer staff gofal iechyd. Archwilio opsiynau ar gyfer addasu ac ehangu'r hyfforddiant hwn i’r maes gofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill.

Datblygu modiwlau i weithredu haenau dau a thri y Fframwaith.

Gwella sut mae gwasanaethau prif ffrwd y GIG yn nodi ac yn ymateb i anghenion pobl ag anabledd dysgu, a sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud sy'n lleihau’r perygl o dadogi cyflwr iechyd i’w hanghenion dysgu, gan leihau yn y pen draw ddatblygiadau niweidiol y gellid bod wedi’u hatal a marwolaethau y gellid bod wedi’u hosgoi.
3.4Sefydlu safonau a systemau ansawdd a diogelwch sy'n benodol i anabledd dysgu ar gyfer meysydd iechyd sy’n flaenoriaeth.Datblygu safonau ansawdd a diogelwch sy'n seiliedig ar dystiolaeth i’w gweithredu ledled Cymru.

Cryfhau dulliau cyson o ddarparu gwasanaethau ledled Cymru.

Gwella ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth wrth ddarparu gwasanaethau

3.5Cynyddu mynediad at Archwiliadau Iechyd i bobl ag anabledd dysgu, gan sicrhau bod Cynlluniau Gweithredu Iechyd yn cael eu datblygu wedyn.

Adolygu dulliau byrddau iechyd o ddarparu archwiliadau iechyd, nodi dulliau effeithiol a rhannu’r hyn a ddysgir ledled Cymru. 

Datblygu safonau cenedlaethol ar gyfer darparu archwiliadau iechyd. 

Sicrhau bod gan bawb Gynllun Gweithredu Iechyd personol sy’n diwallu eu hanghenion yn llawn.

Gwella canlyniadau iechyd a lleihau cyfraddau marwolaethau y gellid bod wedi’u hosgoi drwy broses gynharach o ganfod, diagnosis a thriniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd.

Gwella cysondeb y dull o ddarparu archwiliadau iechyd ledled Cymru.

3.6Datblygu a gweithredu Fframwaith Cydraddoldeb Iechyd digidol.  

Cynnal arfarniad o’r opsiynau i sefydlu platfform digidol i gefnogi gweithredu’r Fframwaith Cydraddoldeb Iechyd mewn ffordd gynhwysfawr ledled Cymru.

Cynnal cam 1 yn 2022-23 – ymchwil ymhlith defnyddwyr – i lywio'r gwaith o ddatblygu manyleb ar gyfer y llwyfan.

Sefydlu system ddigidol ar gyfer mewnbynnu, coladu a dadansoddi data ar effaith gwasanaethau ar iechyd a llesiant yr unigolyn.

Sefydlu system adrodd leol a chenedlaethol ledled Cymru.

3.7Iechyd Corfforol – Cynnal prosiectau gwella i leihau anghydraddoldebau iechyd, marwolaethau cynamserol a marwolaethau y gellir eu hosgoi.

Datblygu polisïau a/neu ganllawiau i fynd i'r afael â materion iechyd sy'n hysbys / dod i'r amlwg, a gwella sut mae gwasanaethau prif ffrwd y GIG yn nodi ac yn ymateb i anghenion unigolyn ag anabledd dysgu:

Mae’r ystyriaethau’n cynnwys:

  • canfod, diagnosis a thriniaeth ar gyfer rhwymedd
  • blaenoriaeth o ran cael brechiadau, gwella mynediad at wasanaethau sgrinio
  • sicrhau defnydd eang o'r proffil iechyd
  • sicrhau defnydd o adnoddau Anghenion Dysgu Ychwanegol

adolygu'r defnydd o'r system fflagio, a’r defnydd a’r diweddariad posibl i’r bwndel gofal

Lleihau anghydraddoldebau iechyd a marwolaethau y gellir eu hosgoi drwy wella'r gwasanaethau a ddarperir
3.8Unigrwydd ac Ynysigrwydd 

Sicrhau bod y cysylltiad yn parhau rhwng y gwaith sydd ar y gweill i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a’n blaenoriaethau gwella ar gyfer anabledd dysgu.

Ymchwilio i ganfod pa mor gyffredin yw unigrwydd a theimlo’n ynysig ymhlith pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a beth sy’n achosi hyn.

Cyfrannu at y ffrwd waith ehangach i nodi atebion i broblemau a sicrhau bod anghenion pobl ag anabledd dysgu yn cael eu hystyried a’u diwallu.

Hyrwyddo pwysigrwydd cynnal perthynas â ffrindiau ac â phobl eraill i leihau unigrwydd ac ymdeimlad o fod wedi’u hynysu.

Gwell dealltwriaeth o ba mor gyffredin yw unigrwydd a theimlo’n ynysig ymhlith pobl ag anabledd dysgu a beth sy’n achosi hyn, a chymryd camau i wella cynhwysiant a chyfranogiad.
3.9Hyrwyddo adferiad a dulliau newydd o ymdrin â gwasanaethau dydd, gofal seibiant a seibiannau byr.

Gweithio gyda rhanddeiliaid i adolygu’r broses o adfer darpariaeth gwasanaethau dydd awdurdodau lleol yn dilyn Covid-19, i sicrhau bod gwasanaethau yn diwallu anghenion pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Cofnodi gwaith arloesol a chyfnewid arferion da ar draws awdurdodau lleol o ran darpariaeth hoe a seibiant, a chodi ymwybyddiaeth o ddulliau newydd.

Gweithredu'r camau gweithredu yn y Cynllun Cyflawni sy'n cefnogi Blaenoriaeth 3 y Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl: cefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu, gan gynnwys gweithio tuag at well dealltwriaeth o sut y gellir cael gafael ar seibiant o ofalu, ei ariannu a'i ddarparu.

Datblygu gwasanaethau dydd effeithiol mewn awdurdodau lleol.

Gwell mynediad at opsiynau seibiant hyblyg a seibiant byr sy'n hyrwyddo cynhwysiant a llesiant.

3.10Galluogi gofal a chymorth integredig drwy daliadau uniongyrchol a gofal iechyd parhaus.Gwella'r rhyngwyneb rhwng taliadau uniongyrchol a gofal iechyd parhaus i sicrhau'r effaith a'r effeithiolrwydd mwyaf posibl i bobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr.Gwell canlyniadau drwy gwell gofal, cymorth a thriniaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
3.11Cefnogi rhieni ag anabledd dysgu.  Datblygu, cyhoeddi a lansio canllawiau cenedlaethol dwyieithog ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant ar yr arferion gorau o ran sut y gellir cefnogi rhieni neu ddarpar rieni ag anabledd dysgu fel bod teuluoedd yn gallu aros gyda'i gilydd a’r plant yn ffynnu.Gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ar draws gwasanaethau.  Rhieni ag anabledd dysgu yn cael gwell cymorth, a gostyngiad yn nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal.  
3.12Adolygu effeithiolrwydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.Llywodraeth Cymru i gwblhau gwaith ar adolygu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gweithio gyda Grŵp Cynghori’r Gweinidog  i sicrhau bod barn a phrofiadau pobl ag anableddau dysgu yn cael eu hadlewyrchu yng nghanlyniadau’r adolygiad i fynd i'r afael â bylchau a nodwyd yn y ddarpariaeth.Bod nodau ac amcanion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diwallu anghenion pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
3.13Cryfhau’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol.Llywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid i gefnogi cynllunio'r gweithlu er mwyn sicrhau bod gweithlu gwydn sydd wedi'i hyfforddi'n briodol yn cael ei recriwtio a'i ddatblygu. Darparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn llawn.
3.14Gweithlu Nyrsys Anableddau Dysgu.Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anableddau Dysgu a Llywodraeth Cymru i weithio gyda byrddau iechyd a rhanddeiliaid i sicrhau bod gweithlu effeithiol, a hyfforddwyd yn briodol, o Nyrsys Anableddau Dysgu yn cael eu recriwtio a’u datblygu.arparu gwasanaethau priodol sy’n diwallu anghenion pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
3.15Gofalwyr a Pholisi Gofalwyr.Llywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion gofalwyr (gan gynnwys gofalwyr sy’n gofalu am frawd neu chwaer) pobl ag anableddau dysgu a gofalwyr ag anableddau dysgu yn cael eu deall ac yn cael sylw cyson ledled CymruMae anghenion gofalwyr pobl ag anableddau dysgu a gofalwyr ag anableddau dysgu yn cael eu deall ac mae cymorth hygyrch ar gael.
4. Eiriolaeth, hunaneiriolaeth, ymgysylltu a chydweithio
Rhif Maes Blaenoriaeth StrategolTasgau/Camau GweithreduCanlyniad
4.1Hyrwyddo dewis, llais a rheolaeth i bobl ag anableddau dysgu a'u gofalwyr. Bydd hyn yn cynnwys eiriolaeth a hunaneiriolaeth a chynhwysiant digidol a chymorth i ofalwyr sy’n gofalu am frawd neu chwaerLlywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid i archwilio ac adolygu opsiynau o ran cymorth eiriolaeth, er mwyn datblygu gwasanaethau eiriolaeth priodol i bobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd yn unol â chanllawiau comisiynu

Darparu gwasanaethau eiriolaeth a hunaneiriolaeth sy’n diwallu anghenion pawb sydd ag anabledd dysgu.

Mae lleisiau pobl ag anableddau dysgu yn cael eu clywed, gwrandewir arnynt a chefnogir hwy i wneud dewisiadau ac i reoli eu bywydau eu hunain.

4.2Cynhwysiant digidol a defnyddio technoleg.Adolygu’r defnydd priodol o dechnoleg ac opsiynau digidol er mwyn i bobl ag anabledd dysgu allu ymgysylltu cymaint â phosibl, a meithrin a gwella cysylltiadau.Gwell cysylltiadau i bobl sy’n ei chael yn anodd cael gafael ar wybodaeth neu godi eu llais.
4.3Cyfeillgarwch a pherthynas ag eraillYmchwilio i’r potensial ar gyfer darparu canllawiau a chyngor ynghylch cyfeillgarwch a pherthynas rywiol i bobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd/gofalwyr a darparwyr gwasanaethau.Sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael cyngor priodol sy’n caniatáu iddynt gynnal perthynas iach ag eraill.
5. Addysg, Plant a Phobl Ifanc
RhifMaes Blaenoriaeth StrategolTasks/actionsCanlyniad
5.1Gwasanaethau Anabledd Dysgu Plant a Phobl Ifanc.

Adolygu’r gwasanaethau a ddarperir i blant a phobl ifanc er mwyn nodi’r rhwystrau a’r bylchau o ran cefnogaeth ac er mwyn rhannu arferion da.

Hyrwyddo cydweithio â rhanddeiliaid a darparwyr gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau pontio, ar draws iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg 

Darparu dull cyson, hygyrch a hawdd ei ddeall o ymdrin â gwasanaethau plant ledled y sector cyhoeddus.

Gwella pob agwedd ar wasanaethau pontio.

5.2Anghenion Dysgu Ychwanegol – GweithreduSicrhau bod anghenion dysgwyr ag anableddau dysgu yn cael eu cynrychioli mewn grŵp llywio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) cenedlaethol a fydd yn cyd-greu fframwaith atebolrwydd i sicrhau bod y Ddeddf ADY yn cael ei gweithredu'n llwyddiannus.

Gwerthuso i ba raddau y mae rhanddeiliaid yn cydymffurfio â'r darpariaethau yn y Ddeddf ADY ac effeithiau ac effeithiau cychwynnol y Ddeddf.

Asesiad o'r graddau y mae'r Ddeddf ADY wedi cyflawni’r hyn a fwriadwyd.

6. Cyflogaeth a sgiliau
RhifMaes Blaenoriaeth StrategolTasgau/Camau GweithreduCanlyniad
6.1Helpu i wella mynediad at gyflogaeth, hyfforddiant a chymorth i bobl ag anableddau dysgu i’w galluogi i ymuno â’r gweithle a pharhau i weithio.Datblygu polisïau cyflogaeth priodol sy'n cynnwys anghenion pobl ag anabledd dysgu yn llawn.Gwella cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anableddau dysgu.
6.2Prentisiaethau â Chymorth.Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i bobl ag anabledd dysgu gael mynediad at gynlluniau prentisiaeth a chynnig cefnogaeth drwy gydol y cynllun.Cyflawni cyfradd uwch na 10% ar gyfer pobl anabl sy’n cychwyn prentisiaethau, a chynnal y gyfradd honno.
7 Tai (gan gynnwys darparu cymorth cydgysylltiedig o fewn iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod tai priodol yn cael eu darparu, a hynny mor agos â phosibl i gartref yr unigolyn).
RhifMaes Blaenoriaeth StrategolTasgau/Camau GweithreduCanlyniad
7.1Hyrwyddo ymgysylltiad Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol â rhanddeiliaid i sicrhau bod llais a barn pobl ag anabledd dysgu yn cael eu cynnwys

Sicrhau bod trefniadau asesu anghenion a chynllunio y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cynnwys ymgysylltu ystyrlon â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys y rhai ag anabledd dysgu.

Fel rhan o raglen waith 'Ailgydbwyso Gofal a Chymorth' Llywodraeth Cymru, gweithio gyda'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i hyrwyddo a hwyluso cydgynhyrchu ac i gynnwys llais defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.

 

Caiff cynrychiolwyr dinasyddion, gofalwyr a’r trydydd sector eu cefnogi a'u galluogi i wneud cyfraniad llawn i waith y Byrddau.

Cynrychiolir barn pobl anabl ar lefel bwrdd ac ar draws y bartneriaeth ranbarthol ehangach.

Mae cydgynhyrchu wedi'i wreiddio yng ngwaith y Byrddau, a gall pobl ag anableddau dysgu gymryd rhan lawn yng ngwaith y partneriaethau rhanbarthol ar bob lefel. 

7.2Y Gronfa Gofal Integredig.Sicrhau bod anghenion a safbwyntiau pobl ag anableddau dysgu yn cael eu hystyried yn llawn wrth gydlynu rhaglenni refeniw a chyfalaf newydd y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn y dyfodol.Cysoni’r canllawiau a’r prosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau ar gyfer y cronfeydd refeniw a chyfalaf er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ddarparu cymorth integredig/di-dor i bobl ag anableddau dysgu yn eu cartrefi neu eu cymunedau eu hunain.
7.3Tai a Llety llais a rheolaeth wrth wneud penderfyniadau.Gwella’r dewis a’r rheolaeth i bobl ag anableddau dysgu gan gynnwys ble maent yn byw a phwy y maent yn byw gyda hwy, mewn tai cymunedol, lleoliadau byw â chymorth a thenantiaethau preifat.Mae pobl ag anableddau dysgu yn byw mewn tai sy'n diwallu eu hanghenion ac yn hyrwyddo eu lles.
8. Trafnidiaeth
RhifMaes Blaenoriaeth StrategolTasgau/Camau GweithreduCanlyniad
8.1Pobl ag anableddau dysgu yn cael gwell mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru sy'n diwallu eu hanghenion

Sicrhau bod gwasanaethau a weithredir gan ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn cydnabod ac yn diwallu anghenion amrywiol defnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys sicrhau hygyrchedd amserlenni ym mhob rhan o Gymru, drwy ymgysylltu ag arbenigwyr a thrwy brofiad o ddatblygu polisïau megis Teithio Llesol a Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.

Cydweithredu cymaint â phosibl â grwpiau cynrychiadol er mwyn rhannu profiadau, cydweithio a datblygu atebion digidol priodol sy’n helpu gyda’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn diwallu anghenion pobl ag anableddau dysgu fel eu bod yn gallu cymryd rhan lawn yn eu cymunedau.