Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gweinidogol

Mae'r mislif yn normal. Nid yw’n ddewis. Rydym i gyd yn ei gael, wedi’i gael, neu'n adnabod pobl sydd neu wedi’i gael. Dydy'r mislif ddim yn 'fater i fenywod' yn unig, nac yn beth budr, ac yn bendant nid yw’n rhywbeth i gywilyddio yn ei gylch. Ni ddylai neb fod o dan anfantais oherwydd mislif. Dylai pawb gael mynediad at nwyddau mislif, yn ôl yr angen, i'w defnyddio mewn man preifat sy'n ddiogel ac yn urddasol. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio ers nifer o flynyddoedd ar fentrau ariannol i fynd i'r afael â thlodi mislif. Mae dileu tlodi mislif yn golygu sicrhau nad yw cael mislif yn arwain at golli addysg, absenoldeb o’r gwaith neu dynnu'n ôl o chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol. Ers 2018 rydym wedi buddsoddi bron i naw miliwn o bunnoedd i sicrhau bod plant a phobl ifanc a'r rhai sydd ar incwm isel yn gallu manteisio ar nwyddau am ddim. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o'r effaith y mae'r cyllid hwn wedi'i chael a'r gwaith rydym wedi'i wneud mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ddosbarthu nwyddau drwy ein hysgolion, colegau a chymunedau.

Mae mynd i'r afael â thlodi mislif yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ond mae'n bryd mynd ymhellach. Mae'r Cynllun hwn yn amlinellu gweledigaeth ehangach i sicrhau urddas mislif yng Nghymru. Mae'r weledigaeth hon yn cynnwys rhoi terfyn ar unrhyw deimlad o stigma a chywilydd sy'n gysylltiedig â’r mislif; normaleiddio profiad pobl tra hefyd yn cydnabod y gofid a'r boen a ddioddefir gan y rhai nad yw eu mislif yn "normal".

Mae urddas mislif yn ystyried y cysylltiad rhwng y mislif a materion iechyd ehangach, effaith amgylcheddol llawer o nwyddau tafladwy, yr effaith ar y gweithle ac ar gymryd rhan mewn chwaraeon a diwylliant. Nod y cynllun yw bod yn groestoriadol, gan ei fod yn ystyried urddas mislif i'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig ychwanegol ac yn ceisio darparu ar gyfer heriau ychwanegol neu ofynion diwylliannol.  Mae urddas mislif a thlodi mislif yn faterion sy’n ymwneud â hawliau plant ac mae'r cynllun yn ystyried gwaith parhaus ysgolion a gwasanaethau pobl ifanc mewn perthynas â hynny.

Hoffwn ddiolch i'n rhanddeiliaid, gan gynnwys y Ford Gron Urddas Mislif, sydd wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu'r Cynllun hwn ac a fydd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o'i weithredu. 

Mae'n bwysig ein bod nawr yn clywed gan amrywiaeth mor eang â phosibl o bobl yng Nghymru er mwyn adeiladu ar y gwaith a wnaed hyd yma a datblygu'r camau gweithredu ymhellach. Drwy gydol y cyfnod ymgynghori, byddwn yn estyn allan yn arbennig at fenywod, pobl ifanc, pobl hŷn, pobl nad ydynt yn ddeuol, pobl ryngrywiol a thraws, pobl anabl, pobl o wahanol grefyddau a phobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i sicrhau bod y cynllun yn ddigon eang ac yn ystyried yr amrywiaeth o faterion sy'n gysylltiedig â chael mislif, neu adnabod rhywun sy'n ei gael. 

Jane Hutt AS

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

Yr achos dros newid

Fel y mae Plan International yn datgan yn ei adroddiad "Break the Barriers", “the taboos and lack of education surrounding menstruation have had a number of tangible, negative impacts on girls’ day-to-day lives”. Mae'r effeithiau hyn yn eang ac o bosibl yn hirdymor.

Yn 2014 cydnabu Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig fod diffyg rheoli iechyd mislif a’r stigma sy'n gysylltiedig â'r mislif yn cael effaith negyddol ar gydraddoldeb rhywiol.  Mae Plan International a'r rhai sy'n arwain ymchwil academaidd yn y maes hwn yn nodi cyfres o brofiadau negyddol posibl, a all gyfrannu at yr anfantais hon:

  • Gall diffyg addysg o amgylch y mislif, a gynigir ar adegau priodol gan weithwyr proffesiynol medrus, gael effaith negyddol ar iechyd rhywiol ac atgenhedlol yn y dyfodol. 
  • Gall agweddau negyddol tuag at fislif gan gyfoedion, ac aflonyddu rhywiol cysylltiedig, effeithio ar gymhelliant merched i astudio, eu hunan-barch a'u hunan-werth, a all arwain at uchelgeisiau is a disgwyliadau is o ran gyrfa.
  • Gall y distawrwydd sy'n gysylltiedig â'r mislif arwain at ddiffyg gwybodaeth a dewis ymhlith pobl ifanc am nwyddau mislif y gellir eu hailddefnyddio, ac felly'r dewisiadau sy’n bosibl ar gyfer eu cyrff eu hunain.
  • Mae diffyg gwybodaeth am nwyddau y gellir eu hailddefnyddio yn ogystal â sut i gael gwared yn ddiogel ar nwyddau mislif nad ydynt yn cael eu hailddefnyddio yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.
  • Gall diffyg cefnogaeth ac addysg am y mislif mewn ysgolion i ferched ac eraill sy'n cael mislif, gyfrannu at absenoldeb mewn ysgolion, ac arwain at fethu gweithgareddau fel chwaraeon, oherwydd pryder am ollwng, yn ogystal ag effeithio ar eu barn am ymarfer corff yn y dyfodol o bosibl. Mae ymchwil ar fenywod ym maes chwaraeon wedi canfod, wrth i ferched geisio rheoli mislif, y gall hyn arwain at absenoldebau hirdymor ac arferion sy'n anodd eu newid yn ôl.
  • Gall y diffyg gwybodaeth am yr hyn sy'n cyfrif fel 'normal' o ran iechyd mislif arwain at ddiagnosis hwyr o gyflyrau difrifol fel endometriosis, syndrom ofarïau polysystig, anhwylder dysfforig cyn mislif, neu ganserau gynaecolegol.
  • Mae'n hysbys bod cylch y mislif hefyd yn effeithio ar lawer o gyflyrau iechyd cronig, megis gorbryder, asthma, iselder, syndrom coluddyn llidus, meigryn ac epilepsi, ac eto ychydig iawn o bobl sy'n ymwybodol o'r cysylltiadau hyn.
  • Mae ymchwil (Lancastle, D. Work-related disruption associated with heavy menstruation and gynaecological diagnoses. Prifysgol De Cymru, Chwefror 2020) yn awgrymu y gallai effaith mislif trwm a chyflyrau gynaecolegol ar gyflogaeth fod yn gronig, a chan eu bod yn debygol o gael eu dioddef yn fisol, gallant gael effaith barhaus ar fenywod a'u gyrfaoedd. Mae menywod sy'n byw gyda mislif trwm a chyflyrau gynaecolegol yn debygol o’u gweld yn amharu ar eu cyflogaeth ar fwy o ddiwrnodau'r mis na menywod heb gyflyrau cyffelyb. Mae'n bwysig nodi hefyd bod menywod yn sylwi ar rywfaint o darfu ar eu gwaith oherwydd eu bod yn gwaedu, p'un a ydynt yn gwaedu'n drwm ai peidio, a ph’un a oes ganddynt ddiagnosis gynaecolegol ai peidio.
  • At hynny, mae mynediad at nwyddau mislif yn fater allweddol i'r rhai sy'n byw mewn tlodi. Ochr yn ochr ag effaith gorfforol peidio â chael mynediad at eitemau priodol ar gyfer y mislif, gellir cysylltu dioddef tlodi hefyd â theimladau o gywilydd, sy'n gysylltiedig â pheidio â 'ffitio i mewn', a pheidio â gallu gwneud yr hyn y mae cyfoedion yn ei wneud. Mae tabŵau ynghylch y mislif yn aml yn arwain at deimlo cywilydd o’u cyrff a'u mislif. Pan gyfunir y cywilydd hwn â'r cywilydd sy'n gysylltiedig â thlodi, gall y profiad gael effeithiau anghymesur o negyddol ar fywydau merched.

Mae pandemig COVID-19 hefyd wedi dwysáu'r profiad o dlodi mislif i lawer.  Yn ôl Plan International, cynyddodd nifer y merched a oedd yn adrodd am dlodi mislif  rhwng y cyfnodau clo ac roedd dros filiwn o ferched yn y DU yn ei chael hi'n anodd fforddio neu gael gafael ar nwyddau mislif yn ystod y pandemig.

Diben

Mae'r Cynllun Gweithredu Strategol hwn yn nodi dull Llywodraeth Cymru o sicrhau urddas mislif yng Nghymru. Mae'r Cynllun wedi'i seilio ar ymrwymiad i weithio ar draws y Llywodraeth, a chyda rhanddeiliaid, i ddatblygu a chyflwyno cyfres o gamau gweithredu eang, cyfannol a chroestoriadol.

Bydd yr amserlen ar gyfer y Cynllun yn cwmpasu’r pum mlynedd nesaf.

Gweledigaeth

Erbyn 2026 byddwn yn byw mewn Cymru lle:

  • mae’r mislif yn cael ei ddeall, ei dderbyn a'i normaleiddio'n llwyr. Cydnabyddir yn gyffredinol nad yw mislif yn ddewis a bod nwyddau mislif yn eitemau hanfodol
  • mae gan y rhai sy’n cael mislif fynediad at nwyddau diogel o ansawdd da o'u dewis, pryd a lle bo’u hangen, yn y ffordd fwyaf urddasol bosibl
  • mae mynediad teg at ddarpariaeth ledled Cymru, gan ganiatau rhyddid i wneud  trefniadau lleol
  • mae'r stigma, y tabŵau a'r mythau sy'n bodoli wedi'u herio drwy ddarparu gwybodaeth ac adnoddau addysgol. Nid oes neb yn teimlo cywilydd neu swildod am y mislif a gallant siarad yn agored ac yn hyderus amdano, p'un a ydynt yn cael mislif ai peidio
  • mae effaith bosibl mislif a sut y gall newid yn ystod y perimenopos, y menopos ac o ganlyniad i faterion iechyd ehangach yn cael ei deall yn eang
  • ymatebir i'r effaith hon yn ddiogel ac yn anfeirniadol o fewn lleoliadau addysg, cyflogaeth ac iechyd
  • mae dinasyddion yng Nghymru yn teimlo y gallant gael mynediad at wasanaethau iechyd yn ymwneud â’u mislif a materion cysylltiedig ac maent yn hyderus y bydd y gwasanaethau hyn yn sensitif ac yn cael eu llywio gan ryw a rhywedd
  • mae mwy o amrywiaeth o nwyddau mislif yn cael eu defnyddio, gan gyfyngu ar effaith amgylcheddol negyddol llawer o nwyddau tafladwy
  • mae pawb sy’n cael mislif:
    • yn deall eu mislif yn llwyr ac yn gwybod beth sy'n arferol iddynt
    • yn hyderus o ran ceisio cymorth a chyngor meddygol, os oes angen
    • yn rhydd rhag unrhyw anghydraddoldebau iechyd wrth geisio cyngor neu gymorth meddygol *
    • yn gwybod sut orau i reoli’r mislif er mwyn sicrhau nad yw'n cael effaith negyddol ar eu bywyd
    • yn deall y gwahanol fathau o nwyddau sydd ar gael, sut i’w defnyddio a sut i gael gwared arnynt yn gywir, ac yn gallu dewis y nwyddau mwyaf priodol ar eu cyfer eu hunain
    • â mynediad at gyfleusterau priodol i'w galluogi i reoli eu mislif mewn preifatrwydd, gydag urddas ac mewn ffordd iach.

Urddas mislif

Ni ddylid camddehongli'r defnydd o'r term "urddas" neu "urddasol" i atgyfnerthu unrhyw ddisgwyliad y dylai pobl sy'n chwilio am nwyddau mislif wneud hynny'n dawel neu'n ddirgel nac ei fod yn ofynnol i neb guddio eu hanghenion am nwyddau mislif.

Rydym wedi mabwysiadu diffiniad eang o urddas, sy'n blaenoriaethu dileu tlodi mislif ond sydd hefyd yn anelu at fynd y tu hwnt i hyn i gynnwys amrywiaeth o brofiadau a meysydd polisi cysylltiedig sy'n effeithio ar brofiad unigolyn o gael mislif ac effaith barhaus mislif ar ei fywyd.

Rydym yn defnyddio'r diffiniad hwn yn ofalus ac mae'n bwysig nodi y bydd ffactorau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol ehangach yn effeithio ar ein gallu i gyflawni'r weledigaeth a amlinellwn yn y cynllun hwn. Er enghraifft, bydd tlodi'n effeithio ar allu person i ddewis ac elwa ar nwyddau y gellir eu hailddefnyddio, yn enwedig os nad oes ganddynt fynediad at gyfleusterau golchi digonol neu os ydynt yn byw mewn cartref sy'n dlawd o ran ynni. At hynny, er bod y cynllun yn blaenoriaethu lliniaru effaith amgylcheddol nwyddau mislif untro fel rhan o ymrwymiadau ehangach Llywodraeth Cymru yn y maes hwnnw, mae hefyd yn bwysig nodi nad yw'n fwriad taflu bai neu roi cyfrifoldeb anghymesur ar y rhai sy'n cael mislif.

* Gwyddom y gall diffyg gwybodaeth am yr hyn sy'n cyfrif fel 'normal' o ran iechyd mislif arwain at ddiagnosis hwyr o gyflyrau difrifol fel endometriosis, syndrom ofarïau polysystig, anhwylder dysfforig cyn mislif, neu ganserau gynaecolegol. I aelodau o'n cymdeithas sydd â mynediad anghyfartal at wasanaethau iechyd i ddechrau, mae posibilrwydd y gallai'r cyflyrau hyn gymryd hyd yn oed mwy o amser i gael diagnosis. Gwyddom y gall Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid, Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl anabl, pobl LHDTC+, cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, a chymunedau gwledig oll wynebu rhwystrau o ran cael mynediad at wasanaethau iechyd. Mae sicrhau urddas mislif yn golygu sicrhau nad yw pobl yn wynebu anghydraddoldebau iechyd wrth geisio cymorth meddygol. 

O'r herwydd, dylid ystyried y cynllun hwn ochr yn ochr â pholisïau, cynlluniau a deddfwriaeth eraill Llywodraeth Cymru sy'n ceisio mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn, gan gynnwys Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru, yr Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, yr Adolygiad Cydraddoldeb Rhywiol, Teithio i Iechyd Gwell, Gweithredu ar anabledd: yr hawl i fyw’n annibynnol, Cymru Iachach - ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, Cynllun Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Cynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru 2020 i 2024.

Cefndir

2018 Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £920,000 i fynd i'r afael â thlodi mislif.
2019

Gan ganolbwyntio'n ehangach ar urddas mislif, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi bod £2.5 miliwn o bunnoedd ar gael i awdurdodau lleol ac Addysg Bellach ar gyfer darparu nwyddau mislif am ddim ym mhob ysgol yng Nghymru, i'w dosbarthu yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol bosibl.

Darperir cyllid ychwanegol i sicrhau bod nwyddau mislif am ddim yn cael eu darparu o fewn Sefydliadau Addysg Bellach ledled Cymru.

Sefydlir fod nwyddau mislif ar gael, yn rhad ac am ddim, ar gyfer holl gleifion mewnol ysbytai.

Mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn gofyn am adborth gan awdurdodau lleol ynghylch y trefniadau ariannu presennol ac unrhyw feysydd yr hoffent fynd i'r afael â hwy mewn unrhyw drefniant cyllid yn y dyfodol.

2020

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £2 filiwn o bunnoedd i barhau i sicrhau y gall dysgwyr mewn ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach, y rhai mewn angen mewn cymunedau a chleifion mewnol mewn ysbytai gael gafael ar nwyddau mislif yn rhad ac am ddim. Eleni, gofynnwyd i 50% o'r nwyddau, a brynwyd drwy grant, fod yn ddi-blastig.

Gan weithio gydag Eco-ysgolion, rydym yn darparu adnoddau i ysgolion chwalu'r stigma cymdeithasol a'r tabŵau ynghylch y mislif a nwyddau mislif.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnal gweithdy gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys aelodau o’r Ford Gron Urddas Mislif, i lywio polisi ar gyfer y dyfodol a'r strategaeth hon. 

Mae pandemig Covid yn atal datblygu’n derfynol a chyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Strategol drafft ar gyfer Urddas Mislif, ond rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, CLlLC a Sefydliadau Addysg Bellach i sicrhau bod y dulliau dosbarthu ar gyfer nwyddau mislif yn cael eu haddasu i sicrhau bod nwyddau mislif ar gael i'r rhai mewn angen ledled Cymru a bod negeseuon cyson yn cael eu rhannu bod nwyddau yn parhau i fod ar gael.

2021

Ym mis Mehefin, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r Rhaglen ar gyfer y 6ed Senedd; mae wedi’i seilio ar werthoedd unigryw Cymru o ran cymuned, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.  Mae'n cyfeirio'n benodol at urddas mislif gan gynnwys yr ymrwymiadau canlynol:

  • Gwreiddio urddas mislif mewn ysgolion.
  • Ehangu ein darpariaeth o nwyddau mislif am ddim mewn cymunedau a'r sector preifat.

Ym mis Hydref rydym yn cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif ar gyfer proses ymgynghori. Mae dros £3 miliwn o bunnoedd ar gael i sicrhau y gall dysgwyr mewn ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach, a'r rhai mewn angen yn ein cymunedau gael gafael ar nwyddau mislif am ddim.

Yr iaith a ddefnyddir yn y cynllun

Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall rhywfaint o'r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio mislif a nwyddau mislif atgyfnerthu stigma, mythau ac embaras.

Rydym am ddefnyddio iaith glir, gyson a syml. Defnyddir y termau "mislif", "nwyddau mislif", "urddas mislif" a "thlodi mislif" drwy'r ddogfen hon.

Rydym yn cydnabod efallai na fydd rhai pobl yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r iaith hon ar y cychwyn ac, mewn rhai diwylliannau, fod y term "mislif" yn air nad yw'n cael ei ddefnyddio'n aml a’i fod, ynddo'i hun, yn rhwystr i drafodaeth. Fodd bynnag, drwy normaleiddio iaith o amgylch y mislif a rhoi terfyn ar y cywilydd a'r stigma sy'n gysylltiedig ag ef, ein nod yw magu hyder i drafod mislif mewn termau agored a syml.  Wrth gwrs, wrth weithio'n uniongyrchol gydag unigolion, cymunedau a grwpiau, mae'n bwysig defnyddio iaith hygyrch a'r iaith a ffefrir gan unigolion, a hefyd sicrhau bod yr holl drafodaeth yn cael ei llywio gan ddealltwriaeth a sensitifrwydd diwylliannol.

Defnyddio iaith gynhwysol

Nod yr iaith o fewn y cynllun hwn yw bod yn gynhwysol. Rhan o'n gweledigaeth ar gyfer y cynllun hwn yw gwella canlyniadau iechyd i bawb sy'n profi mislif. Mae’r mislif yn brofiad sy’n benodol i'r rhyw fenywaidd, ond nid yw pawb sy'n cael eu pennu’n fenywod ar eu geni, neu sy'n hunaniaethu fel menywod, yn cael mislif. I'r gwrthwyneb, mae pobl sy'n hunaniaethu fel rhyw ar wahân i fenyw, megis dynion traws, pobl ryngrywiol a phobl nad ydynt yn ddeuaidd sydd hefyd yn cael mislif.  Mae'r iaith a ddefnyddir o fewn y Cynllun Gweithredu hwn yn fwriadol eang gan fod y cynllun yn anelu at gynnwys pawb sy'n cael mislif.

Lle mae ymchwil neu gyhoeddiadau a ddyfynnir yn y cynllun hwn yn defnyddio iaith benodol, atgynhyrchir yr iaith honno yma.  At hynny, lle mae camau gweithredu yn y cynllun hwn wedi'u hanelu'n benodol at grŵp penodol, defnyddir iaith benodol ynghylch y grŵp hwnnw.  O ganlyniad, mae'r cynllun hwn yn defnyddio'r termau "menyw", "merch", "y rhai sy'n cael mislif", "dysgwr" a "chlaf" drwyddo draw.  Er mwyn bod yn gynhwysol, defnyddir y term "person sy'n cael mislif" yn fwyaf aml i gwmpasu pawb y mae’r cynllun hwn yn effeithio arnynt.

Normaleiddio

Defnyddir y term "normaleiddio" yn y ddogfen hon i gefnogi'r nod o roi terfyn ar stigma, tabŵ a theimlo’n anghysurus wrth sôn am y mislif a’i ddeall.  Rydym yn cydnabod bod llawer o bobl nad ydynt yn cael mislif y byddent yn ei ddisgrifio’n "normal" a bod rhai’n byw gyda chyflyrau iechyd mislif sy'n cael effaith sylweddol a negyddol ar iechyd, ffrwythlondeb, cyrhaeddiad addysgol a rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Nid yw'r term "normaleiddio" yn cael ei ddefnyddio i danchwarae difrifoldeb hyn.

Yr angen i ymgynghori

Rydym yn ddiolchgar am waith y Ford Gron Urddas Mislif a'r adborth gan bartneriaid a rhanddeiliaid y gellir ymddiried ynddynt i ddatblygu'r cynllun drafft hwn.  Er mwyn datblygu'r cynllun ymhellach, ac yn arbennig, er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cynrychioli anghenion grwpiau amrywiol, mae angen cynnal proses ymgynghori ffurfiol. Gydol yr ymgynghoriad, byddwn yn estyn allan yn arbennig at fenywod, pobl ifanc, pobl hŷn, pobl draws a rhai nad ydynt yn ddeuaidd, pobl anabl, pobl o wahanol grefyddau a grwpiau Pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Drwy gydol y gwaith o ddatblygu'r cynllun hwn, rydym wedi ystyried y croestoriad rhwng y profiad o gael mislif a’r posiblrwydd o newid yn y mislif gyda materion iechyd eraill.  Mae'r ystyriaeth hon wedi cynnwys y perimenopos, y mislif, endometriosis, syndrom ofarïau polysystig, anhwylder dysfforig cyn mislif a chanserau gynaecolegol. Er bod y materion hyn yn cael effaith y tu hwnt i'r effeithiau uniongyrchol ar iechyd, nid ydym o'r farn bod cyfuno camau gweithredu sy'n ymwneud â'r materion iechyd hyn yn y cynllun hwn yn rhoi’r ystyriaeth benodol, ddigonol sydd ei hangen i wella’r profiad ohonynt.  O'r herwydd, rydym wedi cynnwys camau gweithredu sy'n gyfannol ac sy'n mynd i'r afael ag effeithiau ehangach rhai o'r materion hyn; o ran cyflogaeth, mewn perthynas ag ymchwil a hwylustod cael gafael ar nwyddau er enghraifft.  Byddwn hefyd yn defnyddio'r ymgynghoriad i ddeall anghenion ehangach ynghylch y materion hyn, yn enwedig y croestoriad rhwng mislif trymach a mwy aml a'r perimenopos, i lywio'r camau gweithredu ychwanegol sy'n ofynnol yn y cynllun hwn a gwaith pellach sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru ar faterion iechyd menywod.

Cynllun Gweithredu Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Urddas Mislif

Llywodraethu ac ymgysylltu strategol

  Cam gweithredu Pwy sy’n gyfrifol? Pryd y caiff ei wneud? Beth fydd canlyniad y cam gweithredu hwn?  
1.

Cynnal cyfarfodydd y Ford Gron Weinidogol ar Urddas Mislif i oruchwylio'r gwaith o roi’r cynllun gweithredu strategol ar gyfer urddas mislif ar waith ac i gynghori ar broblemau a chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg.

Tîm Cydraddoldebau Llywodraeth Cymru

Y Ford Gron Weinidogol ar Urddas Mislif

O leiaf ddwywaith y flwyddyn – o bosibl yn amlach wrth i’r cynllun gael ei gyflwyno a’i roi ar waith. Drwy aelodaeth y grŵp bord gron, bydd gan blant, pobl ifanc ac oedolion lais a llwyfan i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a Gweinidogion ac i godi materion sy'n dod i'r amlwg a phethau sy'n bwysig iddynt ac ystyried atebion posibl.
2. Cysylltu ac ymgorffori ystyriaethau ynghylch urddas mislif yng ngwaith a strategaethau ehangach Llywodraeth Cymru ee yr Adolygiad Cydraddoldeb Rhywiol, polisi plastigau untro a deddfwriaeth bosibl, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ac ati.

Llywodraeth Cymru

Parhaus Bydd anghenion urddas mislif plant, pobl ifanc ac oedolion yn amlwg ac yn gorfod cael eu hystyried mewn gwaith polisi ehangach ar draws Llywodraeth Cymru.
3. Gweithio gyda CLlLC i ddod ag arweinwyr Llywodraeth Leol ar Urddas Mislif at ei gilydd i nodi a mynd i’r afael â heriau gweithredol parhaus sy’n ymwneud â dosbarthu’r grant urddas mislif a diddymu tlodi mislif yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymu

Awdurdodau Lleol CLlLC

Mis Hydref 2022 Bydd cydweithio a phartneriaeth rhwng awdurdodau lleol a'r Llywodraeth i rannu arfer gorau, mynd i'r afael â materion gweithredol a meithrin arloesedd mewn perthynas ag urddas mislif.
4. Sicrhau bod urddas mislif a thlodi mislif yn cael eu cynnwys ar agendâu’r fforymau hil a ffydd a'r Tasglu Hawliau Anabledd yn y dyfodol. Llywodraeth Cymru Mis Hydref 2022 Bydd gwaith polisi sy'n ymwneud â thlodi mislif ac urddas mislif yn cael ei lywio gan safbwyntiau croestoriadol ar draws amrywiaeth o nodweddion gwarchodedig.

Cyfathrebu

  Cam gweithredu Pwy sy’n gyfrifol? Pryd y caiff ei wneud? Beth fydd canlyniad y cam gweithredu hwn?  
5.

Datblygu strategaeth gyfathrebu ar gyfer Urddas Mislif: gyda'r nod o gael gwared ar stigma a thabŵau sy'n gysylltiedig â’r mislif, cychwyn sgyrsiau ehangach i bawb ynghylch y mislif, waeth beth fo'u hoedran neu rywedd ac i helpu i gynyddu'r defnydd o nwyddau y gellir eu hailddefnyddio a lleihau effaith amgylcheddol nwyddau mislif.

Defnyddir astudiaethau achos a gasglwyd drwy ddatblygu Cam Gweithredu 4 i lywio'r strategaeth, fel ei bod yn adlewyrchu profiadau amrywiol o’r mislif.  

Llywodraeth Cymru – timau Cydraddoldebau a Chyfathrebu

Erbyn mis Mawrth 2023

Bydd y sianeli cyfathrebu sydd fwyaf addas ar gyfer cyflawni’r nod o ran Urddas Mislif wedi cael eu nodi. Bydd hyn yn cynnwys copïau caled o wybodaeth a gwybodaeth ar fformatau hygyrch.

Bydd cynllun cyfathrebu ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol wedi’i sefydlu. Bydd deunydd a gaiff ei greu â’r nod o gynyddu’r graddau y caiff y mislif ei ddeall, ei dderbyn a’i normaleiddio wedi cyrraedd cynulleidfa eang ledled Cymru.  

Bydd y cynllun yn cynnwys ysgolion, awdurdodau lleol, colegau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a gwasanaethau ieuenctid.

Bydd y cynllun cyfathrebu wedi’i ddrafftio gyda mewnbwn uniongyrchol gan y rhai sy’n cael mislif, o ran y ffordd orau o’u cyrraedd.

6. Creu a rhannu astudiaethau achos i ddangos effaith ymarferol (ymhlith eraill) tlodi mislif, diffyg urddas mislif, mislif trwm a phoenus, y perimenopos, y menopos a materion iechyd gynaecolegol eraill, i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o urddas mislif a lledaenu'r rhain yn eang. Llywodraeth Cymru Erbyn mis Mawrth 2023

Bydd profiadau bywyd sy'n gysylltiedig ag urddas mislif yn llywio adnoddau dysgu a chyfathrebu ac yn cyfrannu at sicrhau newid diwylliant ledled Cymru. Byddwn wedi gofyn am brofiadau bywyd pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd, gan gynnwys menywod, merched, dynion traws ac unigolion nad ydynt yn ddeuaidd, pobl anabl, ffoaduriaid neu geiswyr lloches, pobl o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig, pobl â chredoau crefyddol amrywiol, y gymuned Sipsiwn, Roma neu Deithwyr a phobl sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Bydd astudiaethau achos yn cael eu defnyddio ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat ac ar draws pob lefel o addysg.

7. Archwilio a datblygu canllawiau arfer da ar gyfer gweithredu arferion sy’n sicrhau urddas mislif ar draws y sector cyhoeddus a phreifat yng Nghymru.  Bydd y canllawiau'n amlinellu sut y dylid addasu cymorth ymarferol ar gyfer urddas mislif ar draws amrywiaeth o nodweddion gwarchodedig ac yn tynnu sylw at arfer gorau ac arloesedd. 

Llywodraeth Cymru

Erbyn mis Mawrth 2024

Bydd canllawiau ar gael sy'n cydnabod bod anghydraddoldebau iechyd yn effeithio ar rai grwpiau’n fwy nag eraill a bod hyn yn cael effaith ar brofiad cael mislif ac urddas mislif.

Bydd y canllawiau'n ystyried anghenion (ymhlith eraill):

  • Menywod a merched
  • Dynion a bechgyn
  • Pobl hŷn
  • Plant a phobl ifanc
  • Sipsiwn, Roma, a Theithwyr
  • Ceiswyr lloches a ffoaduriaid
  • Pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig
  • Pobl anabl
  • Cymunedau ffydd
  • Pobl LHDTC+

Cyllid

  Cam gweithredu Pwy sy’n gyfrifol? Pryd y caiff ei wneud? Beth fydd canlyniad y cam gweithredu hwn?  
8. Gan ddefnyddio adborth gan awdurdodau lleol, colegau Addysg Bellach a gwaith ymchwil presennol fel tystiolaeth, defnyddio’r grant urddas mislif presennol yn hyblyg er mwyn ei gwneud yn bosibl darparu addysg, hyfforddiant a chymorth mwy hyblyg i grwpiau sy'n agored i niwed. Llywodraeth Cymru Erbyn mis Mawrth 2022

Bydd y grant urddas mislif yn diwallu anghenion lleol ac yn darparu adnoddau ar gyfer hyrwyddo nwyddau y gellir eu hailddefnyddio.

Bydd y nifer sy'n defnyddio nwyddau y gellir eu hailddefnyddio yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

9.

Cynnal gwerthusiad o effaith y grant urddas mislif ar gyfer y cyfnod 2018-2022 a defnyddio canfyddiadau'r gwerthusiad i fabwysiadu dull strategol, hirdymor o ddarparu nwyddau mislif ledled Cymru.

Timau Cydraddoldebau a Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru

Gwerthusiad erbyn mis Ebrill 2022

Cynllun cyllido  erbyn mis Mawrth 2023

Bydd sail dystiolaeth ar gael ar gyfer cyllido yn y dyfodol i lywio penderfyniadau.

Bydd cynllun ariannu cynaliadwy ar gyfer cyfnod y 6ed Senedd ar waith sydd wedi’i deilwra ar gyfer anghenion plant, pobl ifanc ac oedolion ledled Cymru ac sy'n gallu ymateb iddynt.

10. Nodi grwpiau â blaenoriaeth sydd wedi'u heithrio ar hyn o bryd o'r ddarpariaeth bresennol ac archwilio opsiynau ar gyfer cyrraedd grwpiau o'r fath, gan gynnwys drwy ddarparu cyllid e.e. Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, carcharorion a'r digartref. Llywodraeth Cymru gyda’r Ford Gron Urddas Mislif Parhaus Rhoddir ystyriaeth barhaus i gymunedau, grwpiau ac unigolion nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n benodol gan y polisi urddas mislif a bydd gwaith yn cael ei wneud i gyrraedd y grwpiau hyn a darparu nwyddau mislif mewn ffyrdd priodol a hygyrch.
11. Gweithio gydag eraill a dysgu oddi wrthynt i nodi arferion da o ran defnyddio’r grant urddas mislif a rhannu'r enghreifftiau hyn gydag Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol a darparwyr addysg, gan gynnwys Addysg Bellach ac Addysg Uwch.

Tîm Cydraddoldebau Llywodraeth Cymru

Yn flynyddol

Bydd gwasanaethau cyhoeddus yn cael gwybodaeth ac yn cael eu cefnogi i arloesi a meddwl yn greadigol er mwyn sicrhau urddas mislif i blant, pobl ifanc ac oedolion yn eu hardal.

Y gweithle

  Cam gweithredu Pwy sy’n gyfrifol? Pryd y caiff ei wneud? Beth fydd canlyniad y cam gweithredu hwn?  
12. Sicrhau bod adnoddau urddas mislif addysgol ac ymarferol ar gael i fusnesau ledled Cymru drwy adnoddau ar-lein Busnes Cymru. Tîm Cydraddoldebau Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru Mis Mawrth 2023

Bydd gan arweinwyr busnes fwy o ymwybyddiaeth o'r angen am gymorth ymarferol ynghylch urddas mislif. 

Bydd arfer da yn cael ei rannu rhwng y Llywodraeth a’r sector preifat.

13. Creu cysylltiadau â chymunedau busnes ac entrepreneuraidd Cymru i godi ymwybyddiaeth o urddas mislif yn y gweithle.  Tîm Cydraddoldebau Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru Mis Mawrth 2023 Bydd cymunedau busnes ac entrepreneuraidd Cymru yn wybodus am anghenion staff o ran urddas mislif ac yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys materion sy'n ymwneud â'r menopos, y perimenopos a phroblemau iechyd eraill sy'n cynnwys gwaedu o’r wain.
14. Annog cyflogwyr a busnesau ledled Cymru i sicrhau bod nwyddau mislif sylfaenol ar gael am ddim mewn cyfleusterau toiled i staff ac ymwelwyr. Llywodraeth Cymru Mis Mawrth 2025 Bydd ymwelwyr a staff a gyflogir mewn busnesau sy'n gweithio yn y sector preifat yn gallu cael gafael ar nwyddau mislif am ddim yn y mannau y maent fwyaf tebygol o fynd iddynt.
15. Gweithio gyda'n hundebau llafur, gwasanaethau cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i hyrwyddo’r ffaith bod polisïau ar waith ar gyfer y gweithle ar urddas mislif a'r menopos.

Llywodraeth Cymru

Mis Mawrth 2024

Bydd cyflogwyr wedi ystyried anghenion eu gweithlu mewn perthynas ag urddas mislif a materion cysylltiedig fel y menopos, er mwyn cynnig addasiadau a chymorth rhesymol i staff y mae’r mislif yn effeithio’n negyddol ar eu profiad yn y gwaith.

16.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at ddod yn enghraifft dda i gyflogwr drwy'r canlynol:

  • Adolygu ac ail-gyhoeddi ein polisi menopos a gweithio i gynnwys deunydd ehangach ar urddas mislif.
  • Darparu nwyddau mislif i ymwelwyr a staff o fewn ystâd Llywodraeth Cymru sy'n addas ac yn hygyrch i bawb.
  • Cynnig dewis addas o nwyddau ar draws yr ystâd i'r rhai sy'n profi symptomau’r perimenopos, gan gynnwys mislif trwm iawn neu lifeiriant (menorrhagia).
  • Sicrhau cydweithio rhwng y gweithgor cydraddoldebau a’r gweithgor staff ar y menopos i ddylanwadu ar y sefydliad i newid lle bo angen.
Llywodraeth Cymru Mis Mawrth 2025

Bydd staff Llywodraeth Cymru yn gallu troi at gymorth ychwanegol wrth fynd drwy’r perimenopos a’r menopos, drwy bolisi cynhwysfawr.

Bydd ymwelwyr a staff Llywodraeth Cymru yn gallu cael gafael ar nwyddau mislif am ddim yn y mannau y maent fwyaf tebygol o fynd iddynt.   

Wrth symud ymlaen, bydd gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau’r staff.

17. Cydweithio (fel y bo'n briodol) â TUC Cymru ar unrhyw waith yn y dyfodol ar y menopos, urddas mislif a chefnogi lledaenu arfer gorau. Llywodraeth Cymru a TUC Cymru Mis Mawrth 2025 Bydd y cydweithio'n sicrhau bod arfer gorau'n cael ei rannu a bod polisi yn y dyfodol yn cael ei lywio gan dystiolaeth sy’n seiliedig ar brofiad gweithwyr yng Nghymru.

Addysg

  Cam gweithredu Pwy sy’n gyfrifol? Pryd y caiff ei wneud? Beth fydd canlyniad y cam gweithredu hwn?  
18.

Gweithio gyda rhanddeiliaid a gweinyddiaethau Llywodraethol eraill i nodi gwybodaeth ac adnoddau addysgol sy'n briodol ar gyfer gwahanol oedrannau sydd ar gael ar hyn o bryd, a rhannu'r adnoddau hyn ar draws platfformau priodol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd (ee. Hwb), sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch.

Llywodraeth Cymru

 

Erbyn mis Mawrth 2022 Bydd gwybodaeth ac adnoddau presennol sy’n briodol ar gyfer gwahanol oedrannau ar gael ar blatfformau priodol o fewn ysgolion, sefydliadau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch, gan ddarparu cymorth addysgol i ddisgyblion, athrawon a staff addysgu.
19.

Nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth bresennol o ran adnoddau addysgol ar gyfer dysgwyr ac addysgwyr a gweithio gyda rhanddeiliaid i ariannu'r gwaith o ddatblygu adnoddau priodol ac archwilio'r modd y dylid dosbarthu'r adnoddau hyn, i gefnogi cynnwys lles mislif yn y cwricwlwm.

Tîm y Cwricwlwm,  Llywodraeth Cymru

Mis Mawrth 2022 Bydd cyfres gynhwysfawr o adnoddau addysgol sy'n gysylltiedig â lles mislif ar gael i ddysgwyr, addysgwyr a rhieni ledled Cymru. Bydd adnoddau'n gynhwysol ac yn ystyried anghenion a phrofiadau grŵp amrywiol o ddysgwyr.
20.

Darparu mynediad i bobl anabl at wybodaeth berthnasol ar ffurf addas. Yn dibynnu ar namau penodol, gall hyn gynnwys deunyddiau clyweledol gydag iaith arwyddion, neu gynllunio sesiynau byrrach.

Sicrhau bod rhieni, gofalwyr ac athrawon sy’n cefnogi pobl anabl hefyd yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth hon.

Llywodraeth Cymru

Mis Mawrth 2024

Bydd pobl anabl, gan gynnwys y rhai sydd â nam dysgu, yn cael eu cefnogi i chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gydnabod a diffinio'r problemau y maent yn eu profi ac wrth fynd ati i greu adnoddau sy'n effeithiol ac yn hygyrch.

21. Sicrhau bod urddas mislif yn cael ei ystyried mewn canllawiau cydraddoldeb ac addysg cenedlaethol yn y dyfodol ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a cholegau Addysg Bellach.   Timau Cydraddoldebau a Tegwch mewn Addysg Llywodraeth Cymru Mis Mawrth 2025 Bydd canllawiau cenedlaethol ar gydraddoldeb ac addysg yn ystyried urddas mislif.
22. Goruchwylio a chefnogi cynnwys lles mislif fel rhan o'r cod Addysg, Cydberthynas a Rhywioldeb a monitro ac ymateb i faterion sy'n dod i'r amlwg.   Y Ford Gron Urddas Mislif, tîm y Cwricwlwm Llywodraeth Cymru   Mis Mawrth 2025 Bydd lles mislif yn cael ei addysgu mewn ysgolion fel rhan o’r cod Addysg, Cydberthynas a Rhywioldeb.
23.

Darparu nwyddau mislif, drwy'r grant urddas mislif i ysgolion, i sefydliadau Addysg Bellach ac i gymunedau ledled Cymru.

Cyllid grant Llywodraeth Cymru

Dosbarthu nwyddau drwy awdurdodau lleol.

Cyllid blynyddol

Bydd plant, pobl ifanc ac oedolion yn gallu cael gafael ar nwyddau mislif am ddim yn y mannau y maent fwyaf tebygol o fynd iddynt.   
24. Adeiladu ar y gwaith addawol sy’n cael ei wneud gan brifysgolion yng Nghymru, a pharhau i weithio gyda'r sector Addysg Uwch i hyrwyddo urddas mislif fel rhan o bolisïau ac arferion diogelu sefydliadau sy'n gwella lles ac iechyd.

Llywodraeth Cymru

Prifysgolion Cymru

CCAUC

Mis Mawrth 2022 Bydd myfyrwyr sy'n mynd i brifysgolion yng Nghymru yn elwa ar ddarpariaeth, gwaith hyrwyddo a chefnogaeth o ran urddas mislif
25. Asesu a yw dysgwyr yn teimlo bod ganddynt fynediad at gyfleusterau priodol i'w galluogi i reoli eu mislif mewn preifatrwydd, gydag urddas ac mewn ffordd iach, ac ymgysylltu ag awdurdodau lleol i ddatrys problemau a nodir. Byddwn yn cynnwys dysgwyr o ystod amrywiol o gefndiroedd yn y broses hon i ddeall eu hanghenion yn llawn.

Llywodraeth Cymru ac aelodau’r Ford Gron, awdurdodau lleol, colegau Addysg Bellach

Mis Mawrth 2025

Mae gan ddysgwyr fynediad at gyfleusterau priodol sy'n eu galluogi i reoli eu mislif mewn preifatrwydd, gydag urddas ac mewn ffordd iach.  Bydd darparu nwyddau mislif yn diwallu ystod eang o anghenion amrywiol.

26. Sicrhau bod y templed achos busnes ar gyfer buddsoddi mewn ysgolion o dan Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif yn cynnwys gwybodaeth ac ystyriaethau allweddol i lywio'r gwaith o ddatblygu cyfleusterau sy'n hyrwyddo ac yn darparu ar gyfer urddas mislif.

Timau Cydraddoldebau ac Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Mis Mawrth 2022 Bydd cyfleusterau mewn ysgolion newydd ac ysgolion wedi'u hadnewyddu wedi'u datblygu gan ystyried y rhai sy'n cael mislif ac urddas mislif.

Chwaraeon a diwylliant

  Cam gweithredu Pwy sy’n gyfrifol? Pryd y caiff ei wneud? Beth fydd canlyniad y cam gweithredu hwn?  
27. Mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, asesu effaith y mislif ar gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff ac ystyried opsiynau i wella a chynnal lefelau cymryd rhan ar gyfer y rhai sy'n cael mislif.

Llywodraeth Cymru

Chwaraeon Cymru

Mis Mawrth 2026

Bydd effaith mislif ar y rhai sy'n ei gael o ran cymryd rhan mewn chwaraeon yn cael ei deall a bydd camau gweithredu'n cael eu cynllunio i wella lefelau cymryd rhan.
28.

Gweithio gyda lleoliadau chwaraeon a diwylliannol (gan gynnwys yr ystâd amgueddfeydd a llyfrgelloedd a safleoedd a gynhelir gan CADW) i sicrhau bod nwyddau mislif ar gael i staff ac ymwelwyr.

Llywodraeth Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

CADW

Amgueddfeydd Cymru

Mis Mawrth 2026

Bydd nwyddau mislif ar gael ar draws lleoliadau chwaraeon a diwylliannol Cymru.

Mynd i’r afael â thlodi

  Cam gweithredu Pwy sy’n gyfrifol? Pryd y caiff ei wneud? Beth fydd canlyniad y cam gweithredu hwn?  
29.

Ymgysylltu â'r rhai sy'n dioddef tlodi mislif er mwyn deall eu profiad yn well a defnyddio canfyddiadau'r gwaith ymgysylltu hwn i helpu i fynd i'r afael ag anfantais.

Llywodraeth Cymru Mis Mawrth 2026 Bydd profiadau bywyd o dlodi mislif yn llywio datblygu polisïau a phenderfyniadau ynghylch cyllid yn y dyfodol.
30. Mae'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a chanfyddiadau'r adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19, ill dau’n  cynnwys pwyslais cryf ar drechu tlodi, sy'n effeithio'n anghymesur ar gymunedau lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl. Byddwn yn sicrhau bod y materion croestoriadol sy'n gysylltiedig â thlodi mislif ac urddas mislif yn cael eu hystyried fel rhan o'r broses barhaus o weithredu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a chanfyddiadau'r adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19. Llywodraeth Cymru Mis Mawrth 2026 Bydd effaith andwyol groestoriadaol tlodi, a’i  pherthynas â thlodi mislif, yn cael ei hystyried yn nogfennau polisi a strategaeth Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys amrywiaeth o nodweddion gwarchodedig.
31.

Asesu dichonoldeb cynllun cerdyn M ac, os yw'n briodol, treialu cynllun, gan adeiladu ar wybodaeth a gafwyd drwy'r cynllun Cerdyn-C yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru Mis Mawrth 2026

Bydd dulliau eraill o ddarparu nwyddau mislif wedi'u hystyried a defnyddir canfyddiadau i lywio polisi yn y dyfodol.

Yr amgylchedd

  Cam gweithredu Pwy sy’n gyfrifol? Pryd y caiff ei wneud? Beth fydd canlyniad y cam gweithredu hwn?  
32.

Gweithio gyda gweithgynhyrchwyr, Llywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig i leihau'r defnydd o blastig mewn nwyddau mislif untro ac i ystyried datblygu nwyddau mislif ecogyfeillgar.

Llywodraeth Cymru Mis Mawrth 2026

Bydd y nwyddau sydd ar gael i'r rhai sy'n cael mislif yn llai niweidiol i'r blaned ac yn fwy cynaliadwy, a bydd amrywiaeth ehangach o nwyddau y gellir eu hailddefnyddio.  

O fewn y gwaith hwn byddwn yn ystyried y rhai sydd â chyflyrau iechyd mislif penodol, anghenion diwylliannol arbennig a’r rhai sydd wedi profi trawma i sicrhau bod nwyddau priodol yn parhau i gael eu cynnig.

33. Yn unol ag ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ddeddfu i ddiddymu defnyddio’r nwyddau plastig untro sydd fwyaf tebygol o gael eu taflu fel sbwriel, ac ymrwymiad i raddol ddiddymu plastigau untro diangen yn ein Strategaeth Economi Gylchol, byddwn yn ariannu rhaglenni addysg a hyfforddiant (drwy'r grant urddas mislif) i hyrwyddo, cefnogi a chynyddu'r defnydd o nwyddau y gellir eu hailddefnyddio, a darparu addysg a chynyddu ymwybyddiaeth ynghylch cael gwared ar nwyddau untro. Byddwn yn sicrhau bod addysg a hyfforddiant yn cynnwys gwybodaeth i ddiwallu anghenion penodol dysgwyr ag anableddau wrth ystyried defnyddio nwyddau y gellir eu hailddefnyddio.

Llywodraeth Cymru

Peilot - erbyn mis Mawrth 2022

Parhaus

Drwy addysg a chodi ymwybyddiaeth byddwn yn newid normau diwylliannol sy'n gysylltiedig â nwyddau mislif ac yn cynyddu hygyrchedd a’r defnydd o nwyddau mislif y gellir eu hailddefnyddio.

Byddwn yn gweld cynnydd dros amser yn y defnydd a wneir o nwyddau mislif amlddefnydd.

34. Cynyddu'r ddarpariaeth o nwyddau di-blastig, nwyddau â llai o gynnwys plastig, llai o ddeunydd pacio plastig neu ddeunydd pacio’n gyffredinol, a nwyddau y gellir eu hailddefnyddio o flwyddyn i flwyddyn, gyda'r nod o sicrhau bod 90 i 100% o'r nwyddau mislif a ariennir drwy'r grant urddas mislif yn ddi-blastig, wedi'u gwneud neu eu pecynnu gyda llai o blastig neu yn rhai y gellir eu hailddefnyddio erbyn 2026. Bydd y nod hwn yn cael ei gydbwyso â sicrhau bod dewis o nwyddau ar gael i'r rhai nad yw nwyddau y gellir eu hailddefnyddio yn dderbyniol yn ddiwylliannol, neu sy’n cael eu cyfyngu rhag eu defnyddio gan dlodi, amodau byw (tai amlfeddiannaeth ac ati) neu y maent yn anaddas ar eu cyfer oherwydd nam neu niwroamrywioldeb.  

Llywodraeth Cymru  

Llywodraeth Leol

Mis Mawrth 2026

Bydd 90 i 100% o'r nwyddau mislif a ariennir gan grant urddas mislif Llywodraeth Cymru yn ddi-blastig, yn nwyddau â llai o gynnwys plastig, llai o ddeunydd pacio plastig, llai o ddeunydd pacio’n gyffredinol neu yn rhai y gellir eu hailddefnyddio, ac felly yn nwyddau sy’n cefnogi ymrwymiadau ehangach Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

  Cam gweithredu Pwy sy’n gyfrifol? Pryd y caiff ei wneud? Beth fydd canlyniad y cam gweithredu hwn?  
35. Datblygu safle Mislif Fi GIG Cymru i gynnwys gwybodaeth am sut i gael gafael ar nwyddau am ddim ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Datblygu safle Mislif Fi GIG Cymru i gynnwys gwybodaeth am sut i gael gafael ar nwyddau am ddim ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mis Mawrth 2022 Bydd y rhai sy’n cael mislif yn gallu darganfod darparwyr nwyddau mislif am ddim yn lleol, drwy ddefnyddio’r wefan.
36. Archwilio opsiynau ar gyfer cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru, Grwpiau Gweithredu Iechyd Menywod GIG Cymru ac eraill i fynd i’r afael â materion croestoriadol o ran iechyd menywod, fel endometriosis a’r menopos.

GIG Cymru (Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod)

Llywodraeth Cymru 

Mis Mawrth 2022 Bydd y rhai ag arbenigedd mewn materion croestoriadol yn ymwneud ag iechyd menywod wedi cael eu dwyn ynghyd i rannu gwybodaeth ac i archwilio partneriaethau cydweithredol yn y tymor hwy a allai arwain at waith ymchwil a thystiolaeth sy’n llywio polisi yn y maes hwn yn y dyfodol.
37. Sicrhau bod gwaith ochr yn ochr â GIG Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a darparwyr a chomisiynwyr gofal cymdeithasol, i ymgorffori hyfforddiant iechyd a gofal cymdeithasol penodol LHDTC+ cynhwysfawr a pharhaus i'r holl staff, a gynhelir drwy'r Cynllun Gweithredu LHDTC+, yn ystyried anghenion dynion traws mewn perthynas â mislif a materion iechyd cysylltiedig, fel y nifer sy'n manteisio ar brofion ceg y groth, defnyddio dulliau atal cenhedlu, beichiogrwydd, defnydd parhaus a newidiol o destosteron.

Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, a darparwyr a chomisiynwyr gofal cymdeithasol 

Mis Mawrth 2026 Bydd gan glinigwyr iechyd a gofal cymdeithasol well dealltwriaeth, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o brofiad mislif ar gyfer dynion traws a byddant yn gallu cynnig arfer gwybodus a sensitif sy'n annog arferion iechyd pwysig fel cael profion ceg y groth.
38. Asesu'r ddarpariaeth bresennol ac ystyried opsiynau ar gyfer darparu nwyddau mislif mewn lleoliadau iechyd fel ysbytai, meddygfeydd a mannau iechyd cymunedol i gleifion, ymwelwyr a staff.

Llywodraeth Cymru

Adran Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Mis Mawrth 2026 Bydd nwyddau mislif ar gael yn y lleoliadau gofal iechyd sydd fwyaf priodol i anghenion y gymuned.
39. Ymgysylltu â rhanddeiliaid am yr anghydraddoldebau iechyd sy'n dal i fod yn gysylltiedig â mislif a chymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a grybwyllir. Llywodraeth Cymru Mis Mawrth 2026 Bydd profiadau bywyd yn llywio gwaith datblygu polisi yn y dyfodol mewn perthynas ag urddas mislif ac anghydraddoldebau iechyd.
40.

Darparu adnoddau a gwybodaeth am faterion fel beichiogrwydd heb ei gynllunio a diogelu ochr yn ochr â nwyddau mislif (lle bynnag y bo'n ddiogel ac yn briodol) i ddarparu ffyrdd ychwanegol i blant a phobl ifanc chwilio am gymorth a chyngor ac adrodd am gamdriniaeth.

Timau Diogelu a Chydraddoldebau Llywodraeth Cymru

Byrddau Iechyd Lleol,Awdurdodau Lleol

Mis Mawrth 2023

Bydd gwybodaeth i wella lles, iechyd a diogelwch plant a phobl ifanc ar gael, ochr yn ochr â nwyddau mislif, mewn mannau y gall plant a phobl ifanc eu defnyddio'n breifat ac yn ddiogel.

41. Darparu nwyddau am ddim i gleifion mewnol mewn ysbytai ledled Cymru a nodi opsiynau i ehangu hyn i gyfleusterau toiled yn gyffredinol mewn ysbytai a lleoliadau iechyd eraill ar gyfer cleifion, staff ac ymwelwyr.

Llywodraeth Cymru

Byrddau Iechyd Lleol

Gwasanaethau Caffael y GIG

Mis Mawrth 2026

Bydd cleifion ac unigolion eraill ar safleoedd ysbytai yn gallu cael gafael ar nwyddau mislif am ddim yn y mannau y maent fwyaf tebygol o fynd iddynt.